Tuesday, July 09, 2024

Etholiad 2024 - Rhif 1 - Plaid Cymru

 Wele ychydig o argraffiadau cychwynnol o etholiad ddydd Iau ydi’r un rhyfeddaf i ddigwydd yn ystod fy mywyd i – a byddaf yn blogio tros yr wythnosau nesaf ar y thema.  Mi wna i ddechrau efo fy mhlaid fy hun – Plaid Cymru.

 

Yr 14.8% a gafodd y Blaid oedd y ganran uchaf iddi erioed mewn etholiad cyffredinol.  Fydd na ddim llawer yn cofio’r record a dorrwyd - ond 14.3% yn 2001 o dan arweinyddiaeth Ieuan Wyn oedd hwnnw.  Serch hynny roedd y nifer o bleidleisiau gafodd y Blaid yn 2024  yn uwch nag oedd yn 2001 - 194,812 o gymharu a 174,838.  Cynyddodd canran ei phleidlais ym mhob etholaeth (aeth canran y Torïaid i lawr ym mhob etholaeth ac aeth canran Llafur i lawr ym mhob etholaeth ag eithrio tair)



 

Mae un gwahaniaeth mawr rhwng 2001 a 2024 - roedd canlyniadau 2001 yn dod yn fuan ar ôl etholiad Cynulliad syfrdanol 1999 – etholiad a welodd dwf syfrdanol yng nghefnogaeth y Blaid . Mae canlyniadau 2024 yn dod ar derfyn cyfnod sydd wedi bod yn ddigon anodd i’r Blaid.

 

Am y rhan fwyaf o fy mywyd i y Cymoedd oedd y llefydd gorau yng Nghymru i weld  mwyafrifoedd anferth - ac roedd rheiny yn ddi eithriad yn fwyafrifoedd Llafur. Mae hynny wedi  newid yn ddiweddar.  Efallai mai un ffordd o ddangos hyn ydi trwy gael cip yn ôl ar yr etholiad cyntaf i fi erioed bleidleisio ynddi hi - etholiad Chwefror 1979.  Dyma’r etholiad ddaeth a Thatcher i rym ac roedd hi’n drychineb i Lafur ar draws y DU - ond ddim yng Nghymru. Cafodd Llafur bron i hanner y bleidlais yma (48.6%) o gymharu a 36.9% dros y DU gan ennill 22 o’r 36 sedd.  Roedd y mwyafrifoedd yn y rhan fwyaf o’r etholaethau maes glo yn enfawr. Y tro hwn 37% o’r bleidlais gafodd Llafur (gostyngiad o 3.9% o gymharu a 2019), ac mae golwg digon bregus ar y mwyafrifoedd yn y rhan helaethaf o’r Cymoedd. 




 

Mae ‘na batrwm wedi bod yn datblygu ers rhai blynyddoedd bellach bod Plaid Cymru yn dod i ddominyddu gwleidyddiaeth Gorllewin yr wlad fwyfwy - ar lefel Senedd Cymru, llywodraeth leol a San Steffan. Mae’r hyn ddigwyddodd ddydd Iau yn barhad o’r tuedd hwnnw.  

 

Mewn tair sedd Gymreig yn unig cafodd un blaid bleidlais o fwy na 20,000 eleni - Gogledd Caerdydd i Lafur a Cheredigion / Gogledd Penfro a Dwyfor Meirionnydd i Blaid Cymru - ond roedd mwyafrifoedd Liz a Ben yn sylweddol uwch na mwyafrif Anna McMorrin. Y ddwy etholaeth orllewinol yma ydi’r pethau mwyaf tebyg i Gymoedd y De’r 70au erbyn hyn - ond efo plaid arall yn dominyddu. 

 

Mae yna un neu ddau o bethau bach daearyddol i adrodd arnyn nhw hefyd. Dydi hi ddim yn bosibl teithio a arfordir gogleddol i arfordir deheuol Cymru heb adael etholaethau sy’n cael eu cynrychioli gan Blaid Cymru oherwydd bod y ddwy bont tros y Fenai yn croesi i Bangor Aberconwy.  Ond mi fedrwch chi deithio o un arfordir i’r llall heb a dim ond gadael etholaethau sy’n cael eu cynrychioli gan y Blaid am tua dwy filltir.  Mae tros i draean o arwynebedd Cymru bellach yn cael ei gynrychioli gan aelodau Plaid Cymru yn San Steffan – gan gynnwys llefydd sydd erioed wedi cael eu cynrychioli o’r blaen a wardiau sy’n eitha’ agos at y ffin efo Lloegr.

 

Mae hi’n wir wrth gwrs bod y Torïaid a Reform wedi cael mwy o bleidleisiau na’r Blaid, er na lwyddodd y naill blaid asgell dde na’r llall i ennill unrhyw seddi yng Nghymru – ond mae gan y Blaid le i fod yn obeithiol wrth edrych ymlaen at yr etholiadau sydd i ddod yn ystod y blynyddoedd nesa’.  Mae’r Blaid yn ddi eithriad yn gwneud yn well mewn etholiadau Senedd Cymru na mewn etholiadau San Steffan, a dyna fydd y ddau set nesa’ o etholiadau.  Ar ben hynny mae nifer o agoriadau wedi ymddangos ar gyfer 2029 – rhai ohonyn nhw ymhell o’r Gorllewin.  Mae yna ddigon o le i fod yn obeithiol wrth edrych ymlaen i’r dyfodol canolig.

No comments: