Tuesday, May 29, 2018

Gadael yr UE - rhan 3





13.  Trwy gydol y cyfnod yma daw’n amlwg bod pob math o broblemau na ragwelwyd yn dod i’r amlwg.  ‘Fedar y DU ddim deall pam bod yr UE yn cymryd ochr ei haelodau ei hun mewn anghytundebau tiriogaethol (Gibralta ac Iwerddon), daw’n amlwg y bydd rhaid i’r DU gael ei system GPS (hynod ddrud) ei hun, y bydd yn fwy anodd a chostus i unigolion deithio yn yr UE, na fydd yn cael dylanwadu ar gyfreithiau amddiffyn data, daw’n amlwg bod pob math o gytundebau rhyngwladol bydd rhaid eu ail negydu a daw’n amlwg bod pob fersiwn o Brexit am fod yn niweidiol i economi’r DU gyda’r fersiynau caletach yn fwy niweidiol na’r rhai meddalach.  

14.Mae’r DU a’r UE yn cytuno i gyfnod ‘trawsnewidiol’ wedi i’r DU adael yr UE pan na fydd fawr ddim yn newid.  Bydd y cyfnod yn parhau am ddeunaw mis.

15. Dydi’r cyfnod o negydu go iawn ddim yn dechrau’n dda.  Mae May yn mynd ati i roi gwahanol linellau coch iddi hi ei hun - llinellau coch sydd yn croes ddweud ei gilydd a nad ydi hi’n bosibl cadw atynt oll.  Mae hi’n benderfynol na fydd y DU yn aros yn yr Undeb Tollau na’r Farchnad Sengl ond eisiau mynediad di lyfethair i’r UE.  Yn amlwg dydi hi ddim yn bosibl gwneud y tri pheth yma.

16. A daw hyn a ni yn ol at y ddadl a fethwyd ei hateb yn ystod yr ymgyrch Refferendwm ‘ Bydd yr UE yn siwr o ildio i’n gorchmynion i adael i ni fasnachu efo nhw am ddim tra’n tanseilio eu marchnadoedd eraill oherwydd eu bod eisiau gwerthu Prosecco i ni’.  

Mae hyn yn gamddealltwriaeth llwyr o’r hyn ydi’r UE.  Bloc masnachu oedd ar y cychwyn, a dyna yw o hyd yn annad dim arall.  Pwrpas bloc o’r fath ydi edrych ar ol buddiannau aelodau’r bloc ar draul gwledydd eraill, nid edrych ar ol buddiannau gwledydd sydd ddim yn aelodau o’r bloc ar draul aelodau’r bloc.  Mae’r DU yn gofyn i’r UE wneud yr ail - a byddai gwneud hynny’n tanseilio’r rheswm tros fodolaeth y bloc.  Byddai hefyd yn arwain at wledydd sydd eisoes wedi dod i gytundebau masnach efo’r UE yn ceisio ail negydu eu cytundebau fel eu bod hwythau hefyd yn cael eu trin yn well nag aelodau’r bloc.  Byddai hefyd yn groes i gyfraith yr UE.  

Mae yna ystyriaethau eraill hefyd. Mae ymhell tros 40% o allforion y DU yn mynd i’r UE, 8% o allforion yr UE sy’n mynd i’r DU.  Mae allforion i’r UE gyfwerth a thua 12% o economi’r DU tra bod allforion y ffordd arall yn gyfwerth a thua 3% o economi’r UE.  Ac mae yna fater bach arall hefyd - un mae’r UE yn rhy - ahem - gwrtais i son amdano.  Bydd Brexit yn cynnig cyfleoedd yn ogystal a heriau i’r UE.  Os na fydd Nissan yn gallu gwerthu ceir yn broffidiol ar dir mawr Ewrop, bydd hynny’n gadael bwlch yn y farchnad i Peugeot.  Os na fydd cwmniau allforio o Iwerddon eisiau mynd drwy’r rigmarol a’r gost anfon eu cynnyrch trwy ffin galed yng Nghaergybi a Plymouth, bydd cyfle i Rotterdam fanteisio ac os bydd ffatri Airbus yn cau ym Mrychdyn bydd yn adleoli i Limerick, neu Marsailles neu le bynnag arall oddi mewn i ffiniau’r UE.

No comments: