Sunday, April 30, 2017

Byth yn dysgu

Mae Golwg360 wedi penderfynu arwai yr arlwy heddiw efo 'pol piniwn'  sy'n awgrymu bod y Toriaid yn gwneud yn anhygoel o dda yng Nghymru a phawb arall yn sal iawn.  Fel mae digwyddiadau diweddar wedi dangos mae angen cymryd gofal gyda pholiau ar y gorau - ond mae hynny 'n arbennig o wir yn yr achos yma.



Yr unig broblem ydi nad ydi'r pol yn bol go iawn - rhan o bol Prydain gyfan ydyw a gymerwud gan ORB International ydyw.

Mae yna ddau egwyddor pwysig wrth bolio:

1). Bod y sampl yn ddigon mawr i fod yn ystyrlon.
2). Bod y sampl yn gynrychioladol o'r boblogaeth pleidleisio yn ei chyfanrwydd.

'Dydi'r is set Cymreig ddim yn ateb yr un o'r ddau egwyddor yma.  Dydi'r 100 o bobl sydd wedi eu polio yng Nghymru ddim yn adlewyrchu'r boblogaeth bleidleisio yng Nghymru - er bod y pol cyfan yn adlewyrchu'r boblogaeth pleidleisio Prydeinig.

Ac mae sampl o 100 gyda lwfans gwall (margin of error) o tua 10%.

Mae'r fethedoleg am y pol Prydain gyfan mor ddibynadwy ag unrhyw bol arall - ond 'dydi'r elfen ranbarthol i'r pol ddim - yn arbennig lle mae'r 'rhanbarthau' yn rhai a phoblogaeth bach - fel Cymru. 

1 comment:

Anonymous said...

Mae fformiwla penodol ar gyfer unrhyw wall, sy'n cael ei greu drwy ffurfio 'cyfwng hyder' . Y lefel hyder mwyaf cyffredin yw 95%.
Mae ystadegydd wedyn yn dweud ' yr wyf yn 95% sicr fod y mesuryn o dan sylw o fewn y cyfwng hyfer yma' . Mae lefelau hyder eraill cyffredin, sef 90%, 98% a 99%. Yr uchaf yw'r lefel hyder, y lletaf yw'r cyfwng.

Ar gyfer e.e. y cyfran sy'm honni pleidleisio i'r Blaid Lafur : Dyweder 32% (= 0.32).
Tybiwn fod 100 o'r 2000 a holwyd wedi bod yng Nghymru, sy'n fras yn gynrychiadol o'r cyfran o fewn Prydain.

(1) 0.32 x ( 1 - 0.32) = 0.32 x 0.68 = 0.2176

(2) 0.2176 Rhannu gyda maint y sampl , 0.2176/100 = 0.002176

(3) Ail isradd (Square root) hyn , sef 0.0466

(4) Lluosi hyn gyda 1.96 (Cysonyn sy'n benodol gysylltiedig a lefel hyder o 95%)

1.96 x 0.0466 = 0.0914

Felly'r cyfwng hyder 95% ar gyfer pleidlais y Blaid Lafur fuasai 22.9% i 41.1%.

Yr agosaf yw cyfran sampl i 50%, y lletaf yw'r cyfwng.

Mewn etholiad cyffredinol, mae'r canlyniad yn cael ei greu drwy greu 600 a mwy canlyniad llai mewn etholaethau lle mae mwyafrif o 1 yn gywerth a mwyafrif o 20 000. Nid yw ymdrech pleidiau yn unffurf yn yr etholaethau yna chwaith. Am y rheswm yna, onibai fod y sampl cenedlaethol mor enfawr fel ei fod wedi ei haenu ar gyfer pob etholaeth, mae'n anodd creu canlyniad cywir.

Ar ol dweud hynny, yr wyf yn eithaf bodlon rhoi pres ar fuddugoliaeth Prydeinig i Theresa May a siom i Jeremy Corbyn.