Wednesday, January 25, 2017

Y cyfryngau print a Brexit

Siarad oeddwn i'r diwrnod o'r blaen efo un o gefnogwyr Brexit ac ar ol pwt o sgwrs am adael Ewrop dechreuodd gwyno am 'elit' cyfryngol oedd yn ceisio dwyn perswad ar bobl i bleidleisio i aros yr yr UE. Mae'r canfuddiad yma'n un gweddol gyffredin ymysg y sawl oedd am adael yr UE.  Mae'n ganfyddiad cwbl gyfeiliornus.

Wele isod agwedd y papurau newydd at Brexit a'u cylchrediad:

O blaid Brexit:

Sun (1.7m cylchrediad)
Daily Mail (1.5m)
Telegraph (490k)
Mail on Sunday (1.3m)
Sunday Times (797k)
Sunday Telegraph (797k)
Daily Star - heb ddatgan, ond y cyfeiriad golygyddol o blaid Brexit (425k)
Daily Express (427k)
Sunday Express (396k)
Sun on Sunday (1.45m).

O blaid Aros:

Times (438k)
Daily Mirror (776k)
I -  heb ddatgan, ond y cyfeiriad golygyddol o blaid Aros (284k)
Guardian (165k)
FT (118k)
Observer (194k)
Sunday Mirror (1.8m)


4 comments:

Anonymous said...

Mae Blogmenai wedi cyfeirio at bwysigrwydd y BBC yn aml o ran datparariaeth gyfryngolI ran darlledu ac yn ddigydol...Beth oedd goslef sylw y Gorfforaeth gan amlaf cyn y bleidlais ar Ewrob?

Cai Larsen said...

Dibynnu ar pa ochr wyt ti.

Mae'r ochr Brexit yn honni bod y Bib (a C4) yn rhoi mwy o sylw i'r ochr Aros ac yn defnyddio goslef o blaid Aros. Mae'r ochr Aros yn honni bod y Bib yn caniatau i lefatwyr yr ochr Brexit falu cachu a phalu celwydd heb eu herio - hyd yn oed pan roedd yr hyn a ddywedwyd yn amlwg yn nonsens llwyr.

Anonymous said...

Roedd y darogan cyn Brexit am ebargofiant economaidd unionsyth yn beth ....
nonsens llwyr? ..Megis yr holl dwrw cynt i ollwng y bunt am iwro.
Daeth datganianiadau di rifedi o enau "Auntie" yn Llundain am wae Brexit..
ni chafwyd yn agos at chwarae teg cyfartal ar hyn..

Oedd ITV a C4 O blaid Brexit? Go brin ychwaith..
Mi soniasoch chi gynt fel arall am wersi Brexit a Trump yn gall gyda llaw...
Hyd yn oed heb gymaint o bres a chyfryngau, gall neges o wleidyddiaeth hunaniaeth daro deuddeg yn etholiadol..
R'oedd Brexit yn syndod i'r sefydliad gan gynnwys y dosbarth cyfryngol luvvie..o ran y papurau..ar i lawr o ran cylchrediad a dylanwad ydyn nhw gan fwya' i gofio dyddiau Blair a chynt

Cai Larsen said...

Dwi'n meddwl bod yna gamddealltwriaeth yma - ond mae'n cyffwrdd a rhywbeth pwysig.

Dydi Brexit heb ddigwydd eto wrth gwrs - nd roedd yr ochr Aros yn darogan gwae ar ol y bleidlais. Roedd y Bib yn riportio ar hynny - ond wnaeth o ddim digwydd. Roeddan nhw hefyd yn riportio ar honiadau'r ochr Gadael bod 80m o Dwrciaid ar y ffordd, y byddai £350m yr wythnos mwy yn cael ei wario ar y gwasanaeth iechyd hefyd - a doedd y naill beth na'r llall am ddigwydd. Dydi delio efo refferendwm trwy ailadrodd nonsens mwyfwy boncyrs y ddwy ochr ddim yn ffordd effeithiol o wneud hynny.

Doedd yr ymdriniaeth ddim yr un peth ag un refferendwm yr Alban lle'r oedd gohebwyr y Bib yn rhaffu celwydd o flaen miliynau o bobl er mwyn cefnogi 'r ochr Aros.