Sunday, December 31, 2017
Ffigyrau'r flwyddyn
Thursday, December 28, 2017
Rhagweld 2018 - rhan 4
Wednesday, December 27, 2017
Rhagweld 2018 - rhan 3
Tuesday, December 26, 2017
Rhagweld 2018 - rhan 2
Sunday, December 24, 2017
Rhagweld 2018 - rhan 1
Friday, December 22, 2017
Thursday, December 21, 2017
Thursday, December 14, 2017
Ydi 90 Aelod Cynulliad yn ormodol?
Friday, December 08, 2017
Dydi Felix ddim yn hapus
Ac am unwaith yn ei fywyd mae Felix yn gwbl gywir - mae'r DU wedi ildio ar pob dim roeddynt yn dweud oedd y 'linellau coch' ychydig amser yn ol. Yn anhygoel mae'r cytundeb yn nodi y bydd y DU yn cadw at reoliadau a safonau Ewropiaidd os mai dyna'r unig ffordd o sicrhau nad oes ffin rhyngwladol yn yr Iwerddon. Efallai y byddai'n syniad egluro pam bod hyn wedi digwydd er budd Felix a'i debyg.
Thursday, December 07, 2017
Monday, December 04, 2017
Is etholiad Alyn a Glannau Dyfrdwy
Sunday, November 26, 2017
Pam bod sylwadau fel rhai Liam Fox yn cythruddo Gweriniaeth Iwerddon
Winston Churchill sydd biau'r dyfyniad enwog yma yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf:
"As the deluge subsides and the waters fall short, we see the dreary steeples of Fermanagh and Tyrone emerging once again. The integrity of their quarrel is one of the few institutions that have been unaltered in the cataclysm which has swept the world."
Ac mae yna rhywfaint o wirionedd yn hynny ( er mai 'our quarrel' nid 'their quarrel' sy'n gywir) mae'r ffrae am statws cyfansoddiadol Iwerddon yn un oesol ac yn un sy'n codi ym mhob math o gyd destynnau.
Thursday, November 23, 2017
Is etholiad Cadnant - Cyngor Tref Caernarfon
Sunday, November 19, 2017
Is etholiadau sydd ar y gweill
* Bydd Dawn Lynne Jones yn sefyll i Blaid Cymru mewn is etholiad yn ward Cadnant yng Nghyngor Tref Caernarfon ar 23//11/17.
* Bydd Jo Hale yn sefyll mewn is etholiad yn Ne Bryncoch ar gyfer Cyngor Castell Nedd ar 23/11/17
Friday, November 10, 2017
Beth mae'r helynt Carl Sargeant yn dweud wrthym am y Blaid Lafur Gymreig
Reit mae hon yn un dipyn bach mwy sensitif nag arfer – ond byddai’n well i ni ddweud gair neu ddau mae’n debyg gen i.
Mae marwolaeth annisgwyl yn naturiol yn ennyn ar deimladau cryf – a mynegiant o’r teimladau hynny – a dyna sydd wedi digwydd yn sgil hunan laddiad Carl Sarjeant yn gynharach yr wythnos yma. Ond mae digwyddiadau sydd yn ennyn ar deimladau cryf hefyd yn tueddu i daflu goleuni i gorneli sydd ddim yn gweld y golau yn aml – ac mae hyn wedi digwydd yma hefyd.
Y peth pwysicaf sydd wedi dod i’r amlwg ydi bod y Blaid Lafur yng Nghymru wedi bod yn cuddio holltau ers talwm, a bod yr holltau hynny wedi ffrwydro i’r wyneb yn sgil digwyddiadau diweddar.
Cafwyd rhai o bwysigion Llafur yn mynd ati i wneud i Carwyn Jones yr hyn mae rhai ohonynt yn ei gyhuddo yntau o wneud i Carl Sargeant – ei gael yn euog cyn bod unrhyw ymchwiliad wedi digwydd.
Mae Leighton Andrews wedi ail ymddangos ar y ffurfafen wleidyddol i ddweud wrthym am awyrgylch wenwynig a bwlio oddi mewn i Lywodraeth Cymru a bod Carl Sargeant wedi cael ei dargedu ac nad oes trefn addas i ymchwilio i mewn i gwynion gan y Llywodraeth. Roedd hefyd yn dweud bod Carwyn Jones yn ymwybodol bod Carl Sargeant yn fregus. Gan nad yw Leighton Andrews yn Weinidog nag yn wir yn wleidydd Llafur bellach mae’n rhydd i siarad, a ‘dydi Carwyn Jones ddim mewn lle i ddial arno na’i niweidio. Mae'n eithaf sicr bod Leighton Andrews yn siarad tros nifer sydd mewn sefyllfa sy'n
ei gwneud yn llawer anos iddynt ddweud eu dweud.
Rydan ni wedi clywed cryn dipyn tros y dyddiau diwethaf o ganmol rhagoriaethau Carl Sargeant fel gweinidog, gydag Alun Michael yn mynd ati i’w ddisgrifio fel un o’r gweinidogion mwyaf effeithiol iddo ddod ar ei draws yng Nghaerdydd nag yn wir Llundain. Dydan ni ddim wrth gwrs bellach yn clywed nag yn debygol o glywed fawr ddim am yr honiadau yn ei erbyn.
Tra bod marw yn ffordd wych o gael ein dyrchafu i’r cymylau a chael pobl i anghofio eich gwendidau – gwir neu dybiedig -mae’n amlwg bod o leiaf rhywfaint o’r canmol a’r clodfori yn ymysodiadau anuniongyrchol ar Carwyn Jones a’i arweinyddiaeth. Mae’r hollti yn y Blaid Lafur Gymreig yn cael ei arddangos trwy brism ymatebion i ddigwyddiadau anffodus yr wythnosau diwethaf.
Ac mae’n debyg bod dimensiwn arall i’r gwrthwynebiad i Carwyn Jones – sef yr hollt rhwng dilynwyr Corbyn a’r sefydliad Llafur yn y DU, ac mae’n debyg bod y ffaith i Corbyn ddewis peidio a chefnogi Carwyn Jones yn adlewyrchu hyn. Byddai Corbinistiaid Llafur wrth eu boddau petai ganddynt lywodraeth i’w rheoli yng Nghymru cyn yr etholiad cyffredinol Prydeinig nesaf.
Felly mae sefyllfa Carwyn Jones yn fwyaf sydyn yn hynod wan, gyda holltau sydd wedi bodoli ers talwm yn cael eu dinoethi’n gyhoeddus. Mae’n fwy na phosibl na fydd Carwyn Jones yn arwain Llywodraeth Cymru erbyn diwedd y gwanwyn – ac mae’n fwy tebygol hyd yn oed na fydd Theresa May chwaith yn arwain Llywodraeth y DU. Mae’n debyg y bydd y flwyddyn nesaf yn rhoi llechen lan i ni yn y ddau ddeddfwrfa.
Saturday, November 04, 2017
Y Byd ar Bedwar a Julian Ruck
Sunday, October 29, 2017
Catalonia a'r gyfraith
Sunday, October 22, 2017
Negydu i adael yr UE - problem y DU
Wednesday, October 18, 2017
Cwis 'fory
Plant sy'n siarad y Gymraeg adref - Gwynedd a Mon
Serch hynny mae'n rhoi syniad o ble mae iaith yn gryf - a beth sy'n debyg o ddigwydd yn y dyfodol mewn ardal. Dydi hyn ddim yn wir am ystadegau cyfrifiad moel. Felly dyma gyhoeddi ffigyrau Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwynedd a Mon. Gellir dod o hyd i'r ffigyrau Cymru gyfan yma.
Tuesday, October 17, 2017
Argymhellion y Comisiwn Ffiniau
Monday, October 16, 2017
Cynhadledd y Blaid
Sunday, October 08, 2017
Trosodd atoch chi Mr Davies
Sunday, October 01, 2017
Llafur Arfon a thlodi - rhaid wrth dderyn glan i ganu
Monday, September 25, 2017
Amaethyddiaeth, y Gymraeg a Brexit
Monday, September 18, 2017
Problemau anarferol Senedd Cymru
Last election | 30 seats | ||
---|---|---|---|
Seats won | 29 | ||
Seat change | 1 | ||
Constituency Vote | 353,866 | ||
% and swing | 34.7% 7.6% | ||
Last election | 26 seats | |
---|---|---|
Seats won | 30 | |
Seat change | 4 | |
Constituency Vote | 401,677 | |
% and swing | 42.3% 10.1% | |
Last election | 30 seats | |
---|---|---|
Seats won | 26 | |
Seat change | 4 | |
Constituency Vote | 314,925 | |
% and swing | 32.2% 7.8% | |
Last election | 28 seats | |
---|---|---|
Seats won | 30 | |
Seat change | 2 | |
Constituency Vote | 340,515 | |
% and swing | 40.0% 2.4% |
Seats won | 28 | |
---|---|---|
Constituency Vote | 384,671 | |
Percentage | 37.6% | |