Wednesday, November 30, 2016

Y diweddaraf o grwp gwleidyddol mwyaf boncyrs Cymru

Dwi'n rhyw ymfalchio bod yr hyn sy'n ymddangos ar Flogmenai yn ffeithiol gywir - yn arbennig felly yn yr oes ol wirionedd sydd ohoni.  Ond mae gen i ofn ei bod yn fwy na phosibl y byddaf yn cael pethau'n anghywir heno - mae'n uffernol a anodd cadw i fyny efo'r anhrefn rhyfeddol sydd wedi amgylchu grwp Llafur Caerdydd am gyfnod o flynyddoedd.

Reit, beth am geisio cofio pawb sydd wedi gadael y grwp Llafur yng Nghaerdydd?   Mae Sue White wedi mynd ddoe gan wneud honiadau o hiliaeth a bwlio yn erbyn y grwp, tra bod Manzoor Ahmed wedi mynd heddiw gan wneud honiadau o hiliaeth yn erbyn ei blaid.  Mae Ralph Cook wedi ymuno efo'r Blaid Werdd, tra bod Gretta Marshall wedi ymuno a Phlaid Cymru.  Wedyn mae Siobhan Corria, Cerys Furlong, Luke Holland a Phil Hawkins wedi ymddiswyddo hefyd.  Gwaharddwyd Keith Jones am gyfnod hefyd.

Ychwaneger at hyn oll bod o leiaf ddwy ymgais wedi eu gwneud gan aelodau'r grwp i gael gwared o'r arweinydd Phil Bale, bod cynghorwyr Llafur yn tantro ar ei gilydd yn siambr y cyngor ac ar wefannau cymdeithasol.

Os dwi wedi anghofio rhywbeth, dwi'n siwr y bydd rhywun yn fy rhoi ar ben ffordd.

1 comment:

Penbedw said...

Paid anghofio Derick Morgan (Llanrumney) wedi ymddiswyddo fel Cynghorydd Llafur ac yn eistedd fel Annibynwyr!

Llanast go wir. Mae'r Cyngor yn shambyls llwyr.