Wednesday, August 03, 2016

Annwyl BBC _ _

_ _ dim ond pwt bach i egluro i chi pam ei bod yn amhriodol i ddarlledwr gwladwriaethol ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i chwilio am eithafwyr i ddadlau y dylai'r iaith Gymraeg farw.

Mae'n syndod i mi eich bod mor stiwpid bod angen eglurhad arnoch, ond dyna lle ydan ni.  Mi wnawn ni bethau mor syml a phosibl.  

Mae'r DU yn gymdeithasegol gymhleth, ac mae yna amrediad o hunaniaethau gwahanol yma. 

Ceir cysylltiad agos rhwng hunaniaeth a gwahanol nodweddion dynol eraill - lliw croen, crefydd, acen, man geni, dosbarth cymdeithasol - ac wrth gwrs iaith.

Dydi hi ddim yn briodol i chwilio am eithafwyr i ddweud yn gyhoeddus y dylai Protestaniaeth farw yng Ngogledd Iwerddon oherwydd bod hynny yn ymysodiad ar hunaniaeth 800,000 o bobl.  Mae hefyd yn rhywbeth hynod o an ryddfrydig a chroes i werthoedd Gorllewinol i'w ddadlau - ond mi wnawn ni adael honna ar un ochr am y tro.  

Dydi hi ddim yn briodol i chwilio am eithafwr i ddadlau y dylai pobl groenddu Lambeth,neu Fwslemiaid Tower Hamlets gael eu gwasgaru ar hyd y brif ddinas, neu eu hel adref i India'r Gorllewin neu is gyfandir India.  Byddai hynny yn ymysodiad ar hunaniaeth niferoedd sylweddol o bobl. 

Dydi hi ddim yn briodol i chwilio am eithafwr i ddadlau y dylai Teithwyr gael eu gorfodi i beidio a theithio. Byddai hynny yn ymysodiad ar eu hunaniaeth. 

Dydi hi ddim yn briodol i chwilio am eithafwr i ddadlau y dylai Iddewon crefyddol roi'r gorau i arfer eu crefydd.  Byddai hynny'n ymosodiad ar eu hunaniaeth hwythau.  

Dydi hi ddim yn briodol i chwilio am eithafwr i ddadlau y dylai trigolion Lerpwl siarad fel y Frenhines.  Byddai hynny'n ymysodiad ar eu hunaniaeth nhw - a byddai'n beth cwbl chwerthinllyd i'w wneud hefyd.

Rwan, dydych chi ddim yn gwneud dim o'r uchod, felly mae'n debyg gen i eich bod yn deall yn o lew na ddylai darlledwr gwladwriaethol fynd ati i danseilio cydlyniant cymdeithasol o fewn y wladwriaeth mae'n ei gwasanaethu.

Mae eithriadau yn aml yn ddadlennol - ac mae'r ffaith bod y Gymraeg a'i siaradwyr yn cael eu heithrio o  ymdeimlad eich corfforaeth o sut y dylid ymddwyn yn briodol yn ddadlennol.  Mae'n awgrymu rhagfarn gwaelodol yn erbyn y Gymraeg a'i siaradwyr.  

Byddwn ddiolchgar petaech yn edrych ar eich gweithdrefnau cydraddoldeb yng ngoleuni'r uchod.  

Diolch.


No comments: