Am rhyw reswm neu'i gilydd dydi'r wraig a finnau erioed wedi manteisio ar y cyfleoedd mynych sy'n codi yn y DU i fynychu dathliadau gwladwriaethol, felly dyma neidio ar y llong a chroesi i Ddulyn i ddathlu canmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg. Dyma un neu ddau o argraffiadau ychydig yn ddi strwythur.
O gerdded o gwmpas y dref wedyn roedd yn amlwg bod y digwyddiad yn un sylweddol - o safbwynt sific a masnaachol. Mae pob tafarn a siop wedi eu haddurno - gyda chryn gystadleuaeth rhwng un sefydliad a'r llall i gael yr addurniadau gorau, mae pobl wedi addurno eu tai, mae crysau, baneri a phob math o baraffinalia sy'n ymwneud a'r digwyddiad ar werth mewn stondinau ar ochr y ffordd, ac mae adeiladau mwy swyddogol wedi eu haddurno hefyd.
Wedi cyrraedd Dulyn aethom am dro i Fynwent Arbour Hill - yno claddwyd arweinwyr y gwrthryfel mewn bedd torfol wedi iddynt gael eu saethu gan y fyddin Brydeinig yng Ngharchar Kilmainham. Roedd yr hyn oedd yn ein haros yn - wel rhyfedd. Roedd yna gryn weithgaredd o gwmpas y bedd gyda phobl yn penlinio neu'n sefyll wrth ei ochr, ac eraill yn edrych ar wal y tu cefn iddo oedd yn enwir'r sawl a laddwyd yn ystod yr ychydig ddyddiau o ymladd, ac yn pwyntio at wahanol enwau. Ond roedd y swn yn y lle yn fyddarol - ac nid Gwyddelod oedd yn gwneud y swn ond Americanwyr. Roedd y lle yn llawn o Americanwyr mewn cilts - bandiau chwythu o gwahanol ddinasoedd Americanaidd.
Yn y man ymddangosodd gorymdaith o rhywle a chasglodd yr ychydig gannoedd oedd yn gorymdeithio o gwmpas y bedd i wrando ar areithiau - er bod y bandiau yn ei gwneud yn anodd iawn clywed dim. Ymddengys mai mudiad o'r enw'r Sean Heuston 1916 Dublin Society oedd yn gorymdeithio, a bod y digwyddiad yn un o gyfres faith o ddigwyddiadau oedd wedi eu trefnu yn Abour Hill gan wahanol fudiadau. O'r hyn y gallwn gasglu ynghanol y swn roedd ganddynt dair thema - drwg dybiaeth o Gytundeb Dydd Gwener y Groglith, cred bod y wladwriaeth yn ceisio gwadu gwir hanes y Weriniaeth a chred bod cynlluniau i ail ddatblygu Moore Street yng nghanol Dulyn yn rhan o gynllwyn gan y wladwriaeth i lastwreiddio hanes y Weriniaeth. Mae Moore Street yn faes brwydr - yr ardal olaf i syrthio i'r Prydeinwyr yn 1916.
Wele pencadlys SIPTU - undeb llafur mwyaf Iwerddon. Peidiwch a disgwyl gweld 1 Cathedral Road wedi ei addurno fel hyn yn y dyfodol agos.
Roedd y cyfryngau torfol yn rhoi sylw sylweddol i'r digwyddiadau gyda chyfres hir o raglenni arbennig gan RTE a gelynion chwyrn i'r traddodiad gweriniaethol yn y wasg - yr Irish Independent er enghraifft - yn ymuno yn brwdfrydedd.
Gyda'r nos aethom am ddiod i'r Darkey Kelly's yn Christ Church. O fynd i mewn roedd y lle'n llawn dop gyda band gwerin yn canu yn y gornel. Er gwaetha'r nifer pobl roedd prynu diod yn weithred digon hawdd, gyda'r staff bar yn gweithio ar gyflymder rhyfeddol - roeddynt yn edrych tipyn bach fel rhywbeth o un o'r hen ffilmiau du a gwyn 'na lle mae pob dim yn digwydd ychydig yn rhy gyflym. Caneuon rebel roedd y band yn eu canu.
Mae yna gorff o gannoedd o ganeuon gwerin rebel yn Iwerddon sy'n ymdrin a'r gwrthdaro sy'n dominyddu hanes y wlad - o'r gorffennol pell i lofruddiaeth Alan Ryan yn 2012. Ceir nifer o ganeuon mae bron i bawb yn eu gwybod, a dyma'r caneuon mae Gwyddelod oddi cartref yn tueddu i'w canu pan maent yn dod at ei gilydd.
Adref, fodd bynnag mae yna elfen o embaras yn ymwneud a nhw - a dydyn nhw ddim i'w clywed mor aml a hynny mewn tafarnau ac ati. Pan mae ambell un yn cael ei chanu y tueddiad ydi i'w claddu rhywle rhwng Dublin City in the Rare Old Times a Buy Buy American Pie. Byddai selogion Cymdeithas Sean Heuston yn dweud wrthych mai deugain mlynedd o naratif cyfryngol gwrth Wereniaethol sy'n gyfrifol am hynny. Roedd y rhyfel hir yn y Gogledd yn gysylltiedig a'r naratif hwnnw wrth gwrs - ond roedd yn ffactor ynddo'i hun hefyd.
Doedd yna ddim llawer o embaras ar y noswaith arbennig yma, gydag un gan rebel yn dilyn y llall mewn cyfres ddi derfyn. Yn ol pob golwg roedd y rhan fwyaf o'r gynulleidfa wedi bod allan trwy'r dydd, ac roeddynt yn cael eu hunain mewn tipyn o hwyl. O dipyn i beth dechreuodd rhyw ddeg o'r cleiantiaid gwffio am resymau nad oeddynt yn eglur i neb ond nhw eu hunain. Roedd sgiliau taflu allan y staff bar mor effeithiol ag oedd eu sgiliau tynnu peintiau, ac roedd y cwbl allan ar y stryd o fewn ychydig eiliadau. Aeth pawb yn ol at y canu, a chyn diwedd y noson roedd pawb (oedd yn weddill) yn dyrnu'r awyr ac yn bloeddio I I IRA, I I IRA, I I IRA _ _ _ . Byddai selogion y Sean Heuston yn gartrefol iawn, a byddai golygydd yr Irish Independent yn cael gwasgfa.
Roedd y seremoni goffau ei hun ychydig yn fwy sobor a phwyllog. Doedd hi ddim yn bosibl mynd yn agos at ganolbwynt y seremoni - y GPO oherwydd bod yr holl ardal wedi ei chau i'r cyhoedd, felly roedd rhaid edrych ar sgrin fawr wrth ymyl Pont O'Connell. Roedd y dyrfa yn anferth.
Cafwyd darlleniadau o'r Proclemasiwn, barddoniaeth ac ati fel sy'n gyffredin mewn digwyddiadau fel hyn am wn i, plant yn gosod torch. Roedd rhaid i elynion gwleidyddol chwyrn sefyll wrth ochrau ei gilydd i osod torch gydag Arglwydd Faer Dulyn, Críona Ní Dhálaigh (Sinn Fein) yn cael ei hun wrth yr Arlywydd, Michael D Higgins (Llafur) ac Enda Kenny (Fine Gael). Aeth y faner uwchben y GPO i fyny ac i lawr ychydig o weithiau, a chafwyd un o'r pethau bach rhyfedd yna sy'n digwydd mewn seremoniau Gwyddelig, pan gafodd delwedd o filwr yn siarad ar ei ffon symudol fel roedd yr Arlywydd yn gosod ei dorch, ei darlledu i filiynau o bobl. Prysurodd y fyddin i ryddhau datganiad i'r wasg oedd yn honni nad oedd y milwr yn gwneud unrhyw beth o'i le.
Ac wedyn cafwyd gorymdaith o filwyr a chaledwedd milwrol. Rhaid cyfaddef nad oedd yr hyn a arddangoswyd yn ymddangos yn agos mor farwol a'r hyn sydd gan y DU i'w ddangos ar achlysuron tebyg. Ond wedyn mae hynny'n ddigon dealladwy am wn i. Mae'r naill wlad efo trefniadau pwrcasu caledwedd milwrol sy'n cael ei yrru gan bolisi tramor sydd wedi ei seilio ar y gred bod gan y wlad honno'r hawl i ymyryd yn filwrol yn lle bynnag mae rhywun yn gwneud rhywbeth nad ydyw yn ei hoffi. Mae'r llall yn gweld rol amddiffyn neu gadw'r heddwch ar ran yr UN i'w lluoedd arfog.
O gerdded o gwmpas y ddinas wedyn roedd amrywiaeth dryslyd o ddigwyddiadau wedi eu trefnu gan gwahanol gyrff cyhoeddus, preifat a gwirfoddol ar hyd y mannau cyhoeddus - sesiynnau canu, darllen barddoniaeth, arddangosfeydd, sioeau crefft, ffeiriau i'r plant ac ati. Roedd yna arddangosfa o stampiau sydd wedi eu cyhoeddi ar gyfer yr achlysur yng nghanolfan siopa drudfawr Powerscourt. Roedd yna lawer o bobl yn gwisgo dilladau o'r cyfnod, a rhai'n gwisgo dillad milwrol o'r cyfnod. Acenion Albanaidd i'w clywed yn y tafarnau, a nifer o Gymry o gwmpas hefyd.
A dyna ni - seremoni gofio genedlaethol oedd yn adlewyrchu'r wlad a'i phobl yn eithaf da - y brwdfrydedd, y dychymyg, y diffyg polish, yr anffurfioldeb ochr yn ochr a'r ymlyniad i seremoni, y cyfeillgarwch naturiol ochr yn ochr a'r gwylltineb, yr ymarferoldeb pragmataidd ochr yn ochr a'r anhyblygrwydd ideolegol.
Ac wrth gwrs roedd yr holl ddigwyddiad yn codi cwestiynau. Ydi'r Weriniaeth wedi cwrdd a'i photensial tros gyfnod o ganrif? Ydi delfrydau gweriniaethol y gwrthryfelwyr wedi eu gwireddu? Ydi sofraniaeth cenedlaethol wedi ei ddefnyddio'n llawn i wella bywydau holl drigolion y wlad? Pryd y bydd y Weriniaeth yn mynd i'r afael yn onest a'i chefndir ac amodau ei chreu a thrwy hynny yn cael gwared o'r rhagrith a safonau dwbl sy'n nodweddu ei bywyd gwleidyddol?
Ond mae'r Weriniaeth - beth bynnag ei methianau - mewn llawer gwell lle na ni i gynnal disgwrs genedlaethol ystyrlon, i ddod i dermau efo'r hyn ydyw a'r hyn oedd, ac i lunio diffiniad clir o'r hyn y gall fod. Mae ganddi ei sofraniaeth cenedlaethol sy'n caniatau iddi lunio ei dyfodol ei hun, ac mae wedi delio efo llawer o'r waddol wenwynig o fod yn gydadran bach o bwer ymerodraethol anferth.
Rydym ni ymhell, bell o fod yn y fan yna.
3 comments:
Difyr gweld y sylw Prydeinig o'r canmlwyddiant. Mae'n amlwg bod y consensws sy'n dilyn y proses heddwch yn y Gogledd yn dylanwadu ar y naratif. Ambell i drafodaeth ar BBC Radio 4 yn boenus o saff; eto rhaglen Brendan O'Carroll yn mynd i wraidd y gwrthryfel mewn modd effeithiol iawn. A yw'n deg dweud bod y BBC wedi osgoi'r bias amlwg oedd i'w weld yn ystod refferendwm annibyniaeth yr Alban?
Ydi - mae ymdriniaeth y Bib wedi bod yn gytbwys iawn y tro hwn.
Mae stwff y boi yma'n ddiddorol tu hwnt, ar wleidyddiaeth, economeg ac Iwerddon yn gyffredinol
http://www.davidmcwilliams.ie/2016/03/31/battle-for-the-positions-of-privilege-lay-at-the-heart-of-the-rising?utm_source=feedburner&utm_medium=feed&utm_campaign=Feed%3A+Davidmcwilliams+%28DavidMcWilliams.ie%29
Diolch yn fawr am gynnwys linc iddo.
Post a Comment