Saturday, July 18, 2015

Mrs Windsor a chydymdeimlad anghyfleus ei theulu a Natsiaeth

Mae'n siwr bod yna rhywbeth neu'i gilydd i'w gymryd o'r helynt ynglyn a'r lluniau a ryddhawyd gan y Sun o'r frenhines, eu mam, ei hewythr a'i chwaer yn ymarfer saliwt Natsiaidd yn 1933 neu 1934.  Ymddengys bod Palas Buckinham yn 'siomedig' bod y papur wedi penderfynu cyhoeddi'r delweddau.


Mae'r lluniau yn edrych yn hynod o anymunol heddiw, ond byddant wedi ymddangos yn llai anymunol bryd hynny - doedd hi ddim yn arbennig o anarferol i bobl ym Mhrydain fynegi cydymdeimlad efo'r Natsiaid bryd hynny.  Roedd y Daily Mail - ynghyd a darllenwyr y Daily Mail yn bodoli bryd hynny - fel y gwnant rwan.  Roedd y papur - ac yn ol pob tebyg ei ddarllenwyr - yn gefnogol - neu o leiaf yn gydymdeimladol efo'r weinyddiaeth ym Merlin o'r diwrnod y cafodd ei ethol hyd at y diwrnod i ryfel gael ei gyhoeddi.

Esiampl enwog o'r gwahaniaeth mewn agweddau tuag at Natsiaeth heddiw a chyn yr Ail Ryfel Byd ydi'r llun hwn o dim peldroed Lloegr yn 1938 cyn gem gyfeillgar yn erbyn yr Almaen.


Doedd hi ddim yn gyfrinach bod teimladau'r teulu brenhinol yn amwys ynglyn a Natsiaeth ar y gorau.  Wnaeth Edward V111 erioed drafferthu cuddio ei gefnogaeth i lywodraeth Natsiaidd yr Almaen, ceisiodd y Fam Frenhines roi pwysau ar lywodraeth y DU rhag mynd i ryfel efo'r Almaen tan y diwedd.  Roedd yn gefnogol i'r Arglwydd Halifax - gweinidog a ddadleuodd yn chwyrn yn erbyn mynd i ryfel  hyd y diwedd.  Roedd tair o chwiorydd Dug Caeredin yn briod a swyddogion Natsiaidd.  Mae'r Dug yn ymddangos yn y llun isod yn mynychu cynhebrwng un o'i frodyr yng nghyfraith.


Pan gymerwyd y llun o'r frenhines a'i theulu yn chwarae bod yn Natsiaid roedd y broses o ddod a phob corff cyhoeddus a gwirfoddol o dan reolaeth y Blaid Natsiaidd - Gleichschaltung wedi mynd rhagddo.  Roedd y Reichstad wedi ei losgi, a'r Comiwnyddion wedi eu herlid.  Roedd 
Ermächtigungsgesetz wedi dod yn weithredol - deddf oedd yn caniatau i Hitler a'i gabinet greu a gweithredu deddfau heb ofyn i'r Reichstad a hyd yn oed os oeddynt yn groes i'r cyfansoddiad.  Roedd pob plaid ag eithrio'r Blaid Natsiaidd wedi eu diddymu. Doedd yr ymysodiadau ar gymodogion yr Almaen heb gychwyn. Ond roedd hyn oll yn gwbl dderbyniol i gydadran sylweddol o boblogaeth y DU. Mi fedrwn i fod yn weddol siwr bod llawer o'r bobl hynny yn ddarllenwyr y Daily Mail.

Cafodd y Daily Mail ei sefydlu yn 1896 gan Alfred Harmsworth.  Y syniad y tu ol i'r papur oedd cynhyrchu rhywbeth haws i'w ddarllen na'r papurau oedd ar gael ar y pryd, rhywbeth fyddai'n apelio yn arbennig at ferched ac a fyddai'n sefyll tros the power, the supremacy and the greatness of the British Empire - a dyfynnu Harmsworth ei hun.  Daeth yn hynod boblogaidd yn syth bin.

Ers cyhoeddi'r papur yn gyntaf cafwyd dau Ryfel Byd, mae'r Ymerodraeth Brydeinig wedi cwympo, mae democratiaeth wedi sefydlu a gwreiddio ar hyd a lled y Byd, mae Comiwnyddiaeth a Ffasgaeth wedi dod, ac wedi mynd, mae economi y DU a'i hagweddau cymdeithasol wedi eu trawsnewid, mae technoleg wedi trawsnewid y Byd - ac mae'r Daily Mail yn rhyfeddol o debyg o ran ei werthoedd gwaelodol yn 2015 i'r hyn oeddynt yn 1896.



O'r dechrau'n deg roedd y papur yn hynod gefnogol i ryfeloedd  - roedd yn  gefnogol i gychwyn Rhyfel y Boer.  Roedd cynyddu maint ac arfogi'r fyddin Brydeinig yn thema mawr gan y papur yn ystod blynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif - roedd Harmsworth wedi penderfynu bod gan yr Almaen gynllwyn cudd i ddifa'r ymerodraeth Brydeinig.  Roedd cynllwyn Iddewig / Almaeneg yn obsesiwn trwy gydol y cyfnod.  Pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf roedd Kitchener yn darged cyson i'r Mail - rhan o'r rheswm am hynny oedd nad oedd yn darparu'r Fyddin Brydeinig efo arfau digon distrywgar.  Un rhyfel nad oedd yn gefnogol iddi gyda llaw oedd yr Ail Ryfel Byd - roedd yn llwyr yn erbyn mynd i ryfel yn erbyn Ffasgaeth hyd y bore wedi i'r rhyfel gychwyn - pan newidiodd fel cwpan mewn dwr.

Newidiodd y papur ddwylo yn dilyn y Rhyfel Mawr - cafodd ei brynu gan yr Arglwydd Rothermere.  Llwyddodd hwnnw i godi'r cylchrediad i 2,000,000 ond ychydig o newid a fu yn y safbwyntiau gwleidyddol.  Ymwelodd Rothermere a Hitler yn 1930, ac mae'n debyg ei fod yn cyfrannu'n ariannol i' achos yn ystod y cyfnod hwnnw.

Pan ddaeth Hitler i rym yn 1933 aeth y Daily Mail ati i gefnogi'r llywodraeth newydd gyda chryn dipyn o frwdfrydedd.  Cyfansoddodd Rothermere gyfres o erthyglau ei hun yn canmol llywodraeth Hitler, yn beirniadu papurau eraill oherwydd eu 'obsesiwn ' efo trais y Natsiaid - doedd ychydig o drais yn ddim oll wrth ymyl y 'manteision mawr' a ddaeth i'r Almaen a'r amddiffyniad yn erbyn Comiwnyddiaeth ac Iddewiaeth a gynigid gan y gyfundrefn newydd.

Cynhyrchodd prif ohebydd tramor y papur George Ward Price lyfr gyda't teitl I Know the Dictators yn 1937 yn canmol unbeniaethiaid Ffasgaidd i'r cymylau.  Dyma oedd ganddo i'w ddweud am Hitler.

Behind the forceful character which he displays in public he had a human, pleasant personality... He had the artistic, visionary tendencies of the South German type... and there was a strong strain of sadness and tenderness in his disposition... Hitler had... a fondness for children and dogs... His personality and prestige were so strong that without any effort on his part, he is surrounded by much awe on the part of his entourage... Hitler is a widely read man... familiar with the works of the leading German philosophers who had mastered the history, geography and social and economic conditions of the chief European countries.

Yn wir roedd y Daily Mail yn agored gefnogol i British Union of Fascists Mosely am gyfnod.  Mewn erthygl ym mis Ionawr 1934 gan Rothemere ei hun canmolwyd y grwp Ffasgaidd i'r cymylau.  Roedd yr erthygl yn gorffen efo'r geiriau 

Timid alarmists all this week have been whimpering that the rapid growth in numbers of the British Blackshirts is preparing the way for a system of rulership by means of steel whips and concentration camps. Very few of these panic-mongers have any personal knowledge of the countries that are already under Blackshirt government. The notion that a permanent reign of terror exists there has been evolved entirely from their own morbid imaginations, fed by sensational propaganda from opponents of the party now in power. As a purely British organization, the Blackshirts will respect those principles of tolerance which are traditional in British politics. They have no prejudice either of class or race. Their recruits are drawn from all social grades and every political party. Young men may join the British Union of Fascists by writing to the Headquarters, King's Road, Chelsea, London, S.W.


Tynnwyd y gefnogaeth yn ol yn ddisymwth yn ystod haf 1934 - mae'n debyg oherwydd i nifer o fusnesau oedd a chysylltiadau Iddewig fygwth roi'r gorau i hysbysebu yn y papur oni bai bod y papur yn rhoi'r gorau i gefnogi Mosley.

Mae'r ffaith bod y teulu Brenhinol yn cwyno cymaint oherwydd i'r Sun gyhoeddi'r llun yn dweud mwy wrthym am ein hoes ein hunain nag ydyw am y blynyddoedd rhwng y Ddwy Ryfel Byd.  Bryd hynny roedd elfennau arwyddocaol o'r Dde yn y DU yn gydymdeimladol i rhyw raddau neu'i gilydd efo Ffasgiaeth a Natsiaeth ( ac roedd elfennau arwyddocaol o'r Chwith yn cydymdeimlo efo'r weinyddiaeth yn yr Undeb Sofietaidd hefyd).  Erbyn hyn mae Natsiaeth yn cael ei ystyried gan y Dde a'r Chwith fel ei gilydd fel ymgorfforiad o ddrygioni.  Mae yna fwy nag un rheswm am hynny - un rheswm oedd bod yr hyn wnaeth y Natsiaid yn wirioneddol ddrwg dan safonau'r rhan fwyaf o bobl.  

Ond mae yna reswm arall hefyd.  O edrych ar hanes o drydydd traean yr ugeinfed ganrif a'r unfed ganrif ar hugain, dydi'r rhan fwyaf o ryfeloedd Prydain ddim yn edrych yn arbennig o dda.  Dydi rhyfeloedd sy'n cael eu hymladd i bwrpas adeiladu neu amddiffyn ymerodraeth ddim yn gweddu a gwerthoedd Byd sy'n hyrwyddo democratiaeth a hawliau gwledydd unigol.  Mae'r ideoleg hiliol oedd yn cael ei defnyddio i gyfiawnhau adeiladu ymerodraeth yn edrych hyd yn oed yn waeth mewn cyd destun lle mae cyfartaledd hiliol a hawliau dynol yn cael eu clodfori.  Mae'r holl fusnes ymerodrol yn edrych yn hyll.  Ond dydi hynny ddim yn wir am yr Ail Ryfel Byd - mae hwnnw'n cael ei ddylunio fel rhyfel yn erbyn hiliaeth, yn erbyn ymysodoldeb milwrol, yn erbyn drygioni.  Mae'n ryfel sy'n hawdd i 'w gyfiawnhau - a'i glodfori o safbwyntiau y Byd yr ydym ni yn byw ynddo heddiw.

A dyma yn y bon ydi'r rheswm am yr ymateb hysteraidd i luniau'r Sun.  Mytholeg ydi'r stori bod gwrthwynebiad unffurf ym Mhrydain i dwf Ffasgaeth ar y Cyfandir yn nau ddegau a thri degau'r ganrif ddiwethaf - ond mae'n fytholeg sydd rhaid wrthi i gynnal y stori bod Prydain wedi bod yn rym er daioni yn y Byd ar  sail y ffaith iddi ymladd ar yr ochr 'gywir' hanes - am unwaith.  

Mae'r rhyfel yn erbyn Natsiaeth yn esgys am y gweddill - mae'n hanfodol i'r naratif gwrth hanesyddol o ynys yn sefyll tros ryddid a hawliau dynol trwy'r canrifoedd.  Mae unrhyw beth sy'n cymylu hynny yn ennyn y math o ymateb a gafwyd tros y dyddiau diwethaf.






"













No comments: