Monday, July 27, 2015

Pam bod y Toriaid yn hapus i bechu pobl ieuengach?

Roeddwn i 'n fy ugeiniau yn ystod wythdegau 'r ganrif ddiwethaf, ac roedd gen i deulu ifanc am y rhan fwyaf o'r ddegawd honno.  Degawd Thatcher oedd hi wrth gwrs - cyfnod sy'n cael ei gysylltu efo diweithdra, ymosodiadau ar hawliau gweithwyr, toriadau mewn gwariant cyhoeddus ac ati.  Doedd y cyfnod ddim yn un arbennig o hawdd i ninnau - mi dreuliais gyfnod yn ddi waith ar ol gadael y coleg, ac roedd gennym bump o blant erbyn dechrau'r naw degau - dydi pump o blant byth yn hawdd na'n rhad i'w magu.  Ond ag edrych yn ol a chymharu efallai nad oedd yr amser ymhlith yr un anoddaf i fod yn ifanc ynddo.  Pan adawais y brifysgol doedd gen i ddim dimau goch o ddyled i neb.  Fel y dywedais, treuliais gyfnod yn ddi waith, ond doedd hi ddim yn arbennig o anodd i ddod o hyd i dy cyngor, ac wedi i mi gael gwaith cymerodd flwyddyn i ni gael ein hunain mewn sefyllfa lle gallwn brynu ty. Roeddwn mewn swydd broffesiynol, ac o ganlyniad roedd y wraig yn gallu aros adref i edrych ar ol y plant.

Os ydych yn eich hugeiniau heddiw ac yn magu teulu mae'r darlun uchod am fod yn un hynod o anghyfarwydd i chi - os ydych yn cael amser i ddarllen y blog yma rhwng, gwaith, rhedeg yn ol ac ymlaen i nol y plant o'r feithrinfa, poeni am sut i dalu'r rhent am y ty ac ati.  

Mae bod yn ifanc a magu teulu heddiw yn llawer, llawer anos yn y byd sydd ohoni.  Mae yna nifer o resymau am hyn, ond mae'r rhan fwyaf ohonynt ynghlwm a newidiadau demograffig - mae'r boblogaeth wedi tyfu ers hynny, mae'r nifer o dai gydag un person yn byw ynddynt wedi cynyddu, ac o ganlyniad mae'r berthynas rhwng galw a chyflenwad tai wedi newid, ac mae tai yn llai fforddadwy.  Ar ben hynny mae'n fwy anodd cael benthyciad i brynu ty erbyn hyn - oherwydd llanast y banciau.

Newid demograffig mwy fodd bynnag ydi un yn strwythur oedran  y boblogaeth - mae yna fwy o lawer o bobl 65+ - ac mae yna oblygiadau pell gyrhaeddol i batrymau gwariant cyhoeddus ynghlwm a hynny - goblygiadau sydd wedi eu cymhlethu gan yr argyfwng ariannol a achoswyd gan y banciau.  Mae'r rhan fwyaf o'r toriadau mewn gwariant cyhoeddus a ddaeth yn sgil y newidiadau yma wedi effeithio ar grwpiau oedran eraill - nid ar bobl hyn.  

Ffioedd myfyrwyr oedd un o 'r pethau a effeithiodd ar lawer o bobl ifanc yn ystod y senedd diwethaf.  Y tro yma mae'r llywodraeth yn mynd i'r afael a chostau budd daliadau trwy ganslo budd daliadau tai i'r sawl sydd yn ieuengach na 21 a chael gwared o gredydau treth i'r sawl sydd a mwy na dau o blant.  Cafwyd toriadau mewn budd daliadau plant hefyd wrth gwrs.  Yn y dyfodol bydd y newidiadau mewn amodau pensiwn yn cael effaith hyd yn oed mwy arwyddocaol ar eu bywydau.

Mae bron i hanner y bil budd daliadau yn cael ei wario ar yr henoed wrth gwrs, ond fydd yna ddim tocio yn y fan honno - dyma pam.

Yn ol Ipsos Mori roedd y patrwm oed / pleidleisio tros y DU yn etholiad eleni fel a ganlyn:

              Tori.         Llafur 

18-24 -   27%.         43%

25 - 34 - 33%          36%

35 - 44 - 35%.         35%

55 - 64 - 37%          31%

65+         47%.         23%

Hynny yw mae'r henoed yn llawer, llawer mwy tebygol o bleidleisio i'r Toriaid, na'r grwpiau ieuengach mae'r llywodraeth ar hyn o bryd yn ymosod ar eu safonau byw.  Mae'r patrwm yma'n cael ei gymhlethu gan y ffaith bod yr henoed hefyd yn llawer mwy tebygol o bleidleisio na grwpiau ieuengach. Eto yn ol Ipsos Mori mae'r cyfraddau pleidleisio fel a ganlyn:

18-24 - 43%

25-34 - 54%

35-44 - 64%

45-54 - 72%

55-64 - 77%

65+ - 78%

Wele'r tabl llawn isod:


 

Mewn geiriau eraill mae'r Toriaid yn canolbwyntio eu toriadau ar bobl ieuengach oherwydd eu bod nhw'n llai tebygol o bleidleisio i'r Toriaid, a'u bod yn llai tebygol i bleidleisio o gwbl.  O hollti'r boblogaeth yn ddau gallwn ddweud bod pobl sy'n ieuengach na 45 yn fwy tebygol o bleidleisio i Lafur nag i'r Toriaid, tra bod pobl tros 45 yn fwy tebygol o bleidleisio i'r Toriaid. Faint sydd yn y ddau grwp felly?  Yn ol cyfrifiad 2011 roedd y dosbarthiad poblogaeth fel a ganlyn bryd hynny:




Mae'n weddol amlwg felly bod mwyafrif clir iawn o'r boblogaeth yn ieuengach na 45.  Ond dydi'r sawl sydd yn ieuengach nag 18 ddim yn cael pleidleisio.  I sbario i chi orfod gwneud y cyfrifiad (mae gen i daenlen) mae yna tua 23,500,000 o bobl efo hawl i fod ar y gofrestr pleidleisio sy'n ieuengach na 45 tra bod tua 26,895,000 sydd yn hyn na hynny.  Yn etholiad mis Mai roedd y gymhareb rhwng Llafur a'r Toriaid yn 45.2/54.8, petai'r cyfraddau pleidleisio yr un peth ar hyd yr ystod oedran byddai'r Toriaid yn dal ar y blaen 47.2/52.8 - (roeddwn i'n dweud bod gen i daenlen) - byddai Llafur yn nes at y Toriaid, ond byddai gan y Toriaid fwy o bleidleisiau (a seddi yn ol pob tebyg) na Llafur.  Ond mae'n debyg na fyddai gan y Toriaid ddigon i lywodraethu ar eu pennau eu hunain.  Llywodraeth leiafrifol Lafur fyddai'n ddibynnol ar yr SNP / Plaid Cymru / yr SDLP a'r Gwyrddion fyddai'n rheoli yn ol pob tebyg.

Dyna pam bod penderfyniad bwriadol Llafur i beidio a cheisio apelio at bleidleiswyr ieuengach trwy fethu gwrthwynebu mesur budd daliadau'r Toriaid mor anealladwy.  Dyna pam bod Jeremy Corbin mor boblogaidd ymysg aelodau'r Blaid Lafur.  Mae ei negeseuon creiddiol yn apelio at y rhan yna o'r boblogaeth sy'n dioddef yn sgil penderfyniadau'r llywodraeth - pobl ieuengach.  A dyna pam bod yr SNP mor boblogaidd yn yr Alban - mae'n debyg bod 75% o bobl 18-24 yn eu cefnogi, tra bod y ffigwr yn 25% ymysg pobl 65+.  Roedd naratif yr ymgyrch Ia yn un oedd yn pwysleisio pwysigrwydd adeiladu gwladwriaeth oedd a thegwch cymdeithasol ymysg ei gwerthoedd creiddiol.

Mae'n debyg bod yr hollt dosbarth traddodiadol mewn cymdeithas yn bwysicach pan oeddwn i'n fy ugeiniau nag ydyw heddiw - ond mae yna hollt arall yn brysur agor - un rhwng pobl ieuengach a phobl sydd wedi cael y gorau o wladwriaeth les Aneirin Bevan - pobl sydd wedi cael gwell ohono na chaiff neb byth eto.  

Mae hyn oll yng nghefndir y ddadl am arweinyddiaeth y Blaid Lafur.  Mae tri o'r pedwar ymgeisydd i gwahanol raddau yn dadlau tros dderbyn y neo ryddfrydiaeth economaidd sydd wedi dod yn gonsensws yn y DU ers i Blair gael ei wneud yn arweinydd y Blaid Lafur.  Mae'r neo gonsensws hwnnw  yn rhwym o greu gwladwriaeth lai o lawer - a grwpiau sydd ddim yn defnyddio eu grym etholiadol fydd yn dioddef fwyaf yn sgil hynny.  Ond os nad ydi pleidiau gwleidyddol yn rhoi unrhyw reswm i bobl ieuengach ymarfer eu grym etholiadol dydyn nhw ddim am drafferthu pleidleisio. 


No comments: