Tuesday, June 30, 2015
Mwy o ryfela yn y Brifddinas
Monday, June 29, 2015
Dadansoddiad Martin Baxter o stori etholiad 2015
Sunday, June 28, 2015
Llafur yn gwbl hapus efo tan wariant cyhoeddus yng Nghymru
Saturday, June 27, 2015
Gadael yr Ewro?
Gwleidyddiaeth ffantasi
Mae'n ddifyr gweld ymateb ryfedd y Toriaid i'r newyddion bod Leanne Wood wedi ail aregu na fydd Plaid Cymru yn mynd i glymblaid efo nhw ar ol etholiadau'r flwyddyn nesaf.
This is just fantasy politics. Leanne Wood isn’t even confident of winning a constituency seat, which is why she’s opted for the parachute of a place on the regional list as well.
Mae'n anodd gweld y cysylltiad rhwng y ffaith nad ydi hi'n bosibl bod yn sicr o ennill sedd etholaethol y Rhondda efo'i mwyafrif o ? a 'gwleidyddiaeth ffantasi'. Serch hynny mae'r sefyllfa sydd ohoni yn creu un ffantasi - sef bod posibilrwydd y bydd y Toriaid yn ennill grym o unrhyw fath yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf. Mae rhifyddeg etholiadol y Cynulliad yn ei gwneud yn amhosibl i'r Toriaid ennill unrhyw fath o rym ym Mae Caerdydd heb gydweithrediad Plaid Cymru - ac mae hi mor glir a chloch na fydd y cydweithrediad hwnnw ar gael.
Neu mewn geiriau eraill does yna ddim pwrpas o gwbl i bobl bleidleisio i'r Toriaid os ydynt eisiau dylanwadu ar bwy fydd yn llywodraethu Cymru y flwyddyn nesaf - gallant fod yn hollol sicr na fydd y Toriaid yn agos at goridorau grym y Cynulliad. A benthyg (ac addasu) slogan sy'n cael ei defnyddio gan y pleidiau unoliaethol yn ystod ymgyrchoedd San Steffan - mae pleidlais i'r Toriaid yn wastraff pleidlais.
Wednesday, June 24, 2015
Uwd o gelwydd cyfryngol
2). Bydd rhaid i'r pandas adael sw Caeredin. Llefarydd ar ran llywodraeth y DU.
3). Bydd yr Alban yn agored i ymysodiadau o'r gofod. Philip Hammond.
4). Bydd rhaid i'r Alban dalu am ddad gomisiynu canolfan WMDs Prydain yn Faslane ac am godi canolfan WMDs newydd. Philip Hamond.
5). Bydd rhaid i bawb yrru ar ochr dde'r lon. Andy Burnham.
6). Bydd Prydain yn cadw gafael ar ran o'r Alban er mwyn cadw eu canolfan WMDs.
7). Bydd rhaid codi rhwystrau rhwng Lloegr a'r Alban a bydd angen pasport i groesi o un wlad i'r llall. Theresa May.
8). Bydd y Byd i gyd yn cael ei ddad sefydlogi a bydd 'grymoedd y tywyllwch' wrth eu bodd. George Robertson.
9). Bydd costau o £2.7bn yn codi o newid. LSE.
10). Bydd costau ffonau symudol yn saethu trwy'r to.
11). Fydd Albanwyr ddim yn cael gweld Dr Who. Maria Miller.
12). Bydd y diwydiant adeiladu llongau yn dod i ben. Plaid Lafur yr Alban.
13). Bydd costau cadw car neu lori yn cynyddu £1,000 y flwyddyn. David Mundell
14). Bydd mynd i siopa yn llawer drytach. Margaret Curran.
Tuesday, June 23, 2015
O diar
Cynghorydd newydd i'r Blaid yng Nghaerdydd
Enwebiaeth rhestr y Gogledd - Ann Griffith
Sunday, June 21, 2015
Y canlyniadau lleiaf cyfrannol erioed
Friday, June 19, 2015
Y Toriaid a gwariant ar drwsio senedd-dai
Thursday, June 18, 2015
Dosbarthiad boncyrs Cyrsiau Ymwybyddiaeth Cyflymder cyfrwng Cymraeg
Wednesday, June 17, 2015
Tuesday, June 16, 2015
Y cynghorau newydd a'r Gymraeg
Monday, June 15, 2015
George, Leo a'r gweddill
When George died of throat cancer four years ago, Welsh nationalists and their fellow-travellers danced on his grave even as Britain mourned his passing. The nationalist apologists choked with rage that the obituarists, reflecting public opinion, were recording tributes of so many who felt indebtedness to George.
They lost their usual articulacy and relapsed into gutter abuse. The obituary in the main Anglo-Welsh literary journal declared him to be "swinish", "cynical", a "creep", "possessed of peasant cunning", "glib", "tactless", "pathologically vicious" and "brutal". The thesaurus was dredged to find pejoratives to be heaped upon his tombstone. They mocked too his "overheated relationship with his Mam".
I take pride that I had been able to shield him a little, so that he was unbesmirched when his time came. Led by the Prince of Wales, representing the Queen, Westminster Abbey was packed with 1,400 mourners — not only the great and the good but hundreds of representatives of the charities, chapels and churches to whom he had acted as an inspiration.
Yn nodweddiadol o Abse mae'n mynd ati i ddefnyddio marwolaeth ei gyfaill i ymosod ar bobl mae'n eu hystyried yn genedlaethwyr Cymreig. Mae'r geiriau am amddiffyn Thomas rhag cael ei faeddu gan ei weithredoedd ei hun yn arbennig o arwyddocaol o gofio bod Abse ei hun yn destun ymchwiliad o droseddu rhywiol ar y cyd efo Thomas.
Saturday, June 13, 2015
Ynglyn ag etholiadau Holyrood
Friday, June 12, 2015
Marchog arall i Gymru fach
Mae chwaraewyr rygbi, neu gyn chwaraewyr rygbi wedi chwarae rhannau blaenllaw yn yr ymgyrchoedd tros ddatganoli, neu tros gryfhau datganoli ers yr ymgyrch wreiddiol yn 79, ond doedd gan Mr Edwards ddim digon o ddiddordeb yn yr un o'r rheiny i gymryd rhan. Roedd ganddo fwy o ddiddordeb, fodd bynnag mewn ceisio dwyn perswad ar Albanwyr i beidio pleidleisio tros fod yn wlad annibynnol - fel y mwyafrif llethol o wledydd eraill.
Yn wir roedd mor barod i gymryd rhan nes caniatau iddo'i hun edrych yn wirion ar fideo a gomisiynwyd gan Better Together trwy ddefnyddio dadl gwbl hurt tros beidio a phleidleisio tros annibyniaeth - bod rhyw fath o gysylltiad rhwng undod y DU ac undod tim rygbi'r Llewod. Mae'r tim hwnnw eisoes yn tynnu chwaraewyr o ddwy wladwriaeth wahanol - y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon.
Tuesday, June 09, 2015
Sunday, June 07, 2015
Etholiad y Cynulliad a'r Refferendwm
Friday, June 05, 2015
Y rhestrau rhanbarthol a'r Toriaid
Thursday, June 04, 2015
Llafur ac ymgeisyddiaeth ddeuol i'r Cynulliad
Mae ymateb Leighton Andrews ac Alun Davies i'r newyddion bod Leanne Wood wedi rhoi ei henw ymlaen ar gyfer ymgeisyddiaeth ar restr Canol De Cymru yn ogystal a bod yn ymgeisydd yn etholaeth y Rhondda yn ragweladwy. Mae Leighton yn ein sicrhau mai dim ond yn y Rhondda y bydd o yn sefyll, tra bod Alun Davies - am resymau sydd ond yn amlwg iddo fo ei hun - yn mynegi 'siom'.
Wnaeth Leighton ddim dweud iddo yntau ymddangos fel ymgeisydd rhestr yn ogystal ag ymgeisydd rhestr yn 2003 - a wnaeth yr un o'r ddau son nad oes yna fawr o bwrpas iddyn nhw eu hunain roi eu henwau ar y rhestrau oherwydd ei bod yn hynod anhebygol y byddant yn cael eu hethol yn y ffordd yna.
Beth bynnag, dyma un neu ddau o ffeithiau ychwanegol am y gyfundrefn etholiadol anarferol sydd gennym yn etholiadau'r Cynulliad.
Syniad Llafur oedd y drefn yma yn y lle cyntaf - nhw ddaeth a'r drefn i fodolaeth ar gyfer etholiadau 1999 - yng Nghymru a'r Alban.
Cefnogodd Llafur adael trefniadau etholiadol Cymreig yn nwylo Llywodraeth y DU, a hwy yn nes ymlaen a symudodd y gwaharddiad ar ymgeisyddiaeth ddeuol yng Nghymru - ond wnaethon nhw ddim byd o gwbl am ymgeisyddiaeth ddeuol yn yr Alban.
Mae'n wir ei bod yn bosibl dadlau bod ymgeisyddiaeth ddeuol yn gwobreuo methiant - ond mae yna ffordd hawdd o gwmpas hynny - sefydlu trefn etholiadol STV fel y ceir yng Ngogledd Iwerddon. Byddai hynny yn gwobreuo ymgeiswyr cryf, byddai'n sicrhau bod Aelodau Cynulliad yn uniongyrchol atebol i etholwyr a byddai'n decach a mwy chyfrannol na'r drefn sydd ohoni. Dyna ydi polisi Plaid Cymru a'r SNP, ond 'does gan Llafur ddim diddordeb mewn symud i'r cyfeiriad yma.
Mae'r rhesymau tros ymddygiad anghyson Llafur yng nghyd destun y mater hwn yn weddol gyfarwydd - buddiannau Llafur sy'n dod gyntaf i Lafur pob amser. Mae ymgeisyddiaeth ddeuol o fantais iddynt yn yr Alban, 'dydi hynny ddim yn wir yng Nghymru. Felly maent yn erbyn ymgeisyddiaeth ddeuol yng Nghymru tra eu bod o blaid trefn felly yn yr Alban.
Maent yn erbyn STV oherwydd y byddai hynny yn golygu y byddant angen tua 45% o'r bleidlais i gael mwyafrif llwyr - gallant wneud hynny efo llai na 40% o dan y drefn sydd ohoni.
Mae'n reol di feth bod lles y Blaid Lafur Gymreig yn dod cyn pob dim arall yng nghyd destun datganoli. Dyna sy'n egluro eu hagwedd at y drefn o ethol Aelodau Cynulliad, a dyna sy'n egluro yr holl anghysondebau eraill sydd ynghlwm a'r setliad datganoli yng Nghymru - roedd y setliad ei hun yn ganlyniad i broses o gyfaddawdu oedd wedi ei lunio i fynd i'r afael a thyndra oddi mewn i'r Blaid Lafur - nid oedd yn ganlyniad i ddyhead i sicrhau llywodraethiant effeithiol.