Mae'n lled anarferol i'r Sunday Times roi unrhyw sylw o gwbl i Gymru, heb son am Wynedd, ond am unwaith mae yna stori heddiw o bellafion gorllewinol yr Undeb. Louise Hughes ydi seren y stori - mae'n debyg ei bod yn cwyno bod Cyngor Gwynedd yn mynnu bod staff cyflogedig yn rhai o ganolfannau hamdden y sir yn siarad y Gymraeg efo cwsmeriaid sydd am siarad y Gymraeg - yn unol a pholisi'r cyngor.
Bydd y sawl sy'n dilyn gwleidyddiaeth Gwynedd yn gwybod bod Louise yn gyn gynghorydd Llais Gwynedd, ond ei bod bellach wedi penderfynu torri ei chwys ei hun wedi i'r grwp ddewis Seimon Glyn yn hytrach na hi i sefyll yn etholiad y Cynulliad, a gwrthod gadael iddi sefyll yn etholiad San Steffan. Ymddengys ei bod o'r farn bod hyn yn rhywbeth neu'i gilydd i'w wneud efo hiliaeth honedig ar ran rhai o aelodau Llais Gwynedd.
Ta waeth - mae'n fwy na phosibl y byddwn yn son am Louise eto yn 2015 a / neu 2016. Mae'r ddynas yn hynod uchelgeisiol, ac mae'n meddwl y byddai'n dda o beth petai'n cael mynegi ei syniadau - ahem - diddorol mewn talwrn amgenach na Siambr Dafydd Orwig - ym Mae Caerdydd, neu hyd yn oed yn well na hynny yn San Steffan. Mae o'r farn y byddai'n lais delfrydol i Feirion Dwyfor mewn deddfwrfa genedlaethol.
Ond ar ran pwy fydd yn sefyll? Mae'n bleser gan Flogmenai gyflwyno prisiau cychwynol:
UKIP 1/5
Toriaid 2/1
Jibio 4/1
Annibynnol 5/1
Monster Raving Loony Party 9/1
Christian Party UK 10/1
Dib Lems 12/1

Llais Gwynedd 15/1
Llafur 33/1
BNP 75/1
Socialist Labour Party 500/1
Sinn Fein 750/1
Respect 1000/1
Islamic Party of Britain 3500/1
Adain wleidyddol y Japanese Golf Religion.4500/1
Plaid Cymru 5000/1