Friday, June 08, 2012

Carwyn a'r Gymraeg

Felly mae Carwyn Jones o'r farn mai'r ffordd gorau o roi hwb i'r Gymraeg ydi sicrhau ei bod yn cael ei defnyddio yn amlach..Dwi'n siwr ei fod yn llygad ei le - ond efallai bod yna le i'r dyn ddechrau wrth ei draed ei hun.

Yn ol fy nghyfri fi mae'r ACau Llafur canlynol yn siarad yr iaith yn eithaf rhugl - Carwyn ei hun, Alun Davies, Mark Drakeford, Keith Davies, Gwenda Thomas a Leighton Andrews. Mae Jane Hutt a Huw Lewis gyda rhywfaint o Gymraeg hefyd. Mae'n fwy na phosibl fy mod wedi methu rhywun.

Rwan - ag eithrio Keith Davies, sy'n gwneud defnydd cyson a chlodwiw o'r iaith ar lawr y Cynulliad - pa un o'r uchod sy'n dod yn agos at wneud defnydd cyfartal o'r ddwy iaith?

Dwi'n gwybod nad ydi gosod esiampl yn y Cynulliad ynddo'i hun am wneud gwahaniaeth mawr ar lawr gwlad? Ond os ydi pobl sydd ddim yn clywed y Gymraeg o'u cwmpas yn ddyddiol i ddechrau gwneud defnydd cyson ohoni, maent angen ei chlywed mewn cymaint o gyd destunau gwahanol a phosibl. Mae gan bobl fel Carwyn a'i gyd ASau eu rhan i chwarae os ydi hynny i gael ei wireddu.

1 comment:

Un o Eryri said...

Cytuno'n Llwyr a chdi, ond yn anffodus, ar wahan i Dafydd Elis Thomas mae aelodau Plaid Cymru yn rhy barod o lawer i droi i'r Saesneg hefyd