Monday, October 31, 2011

Ffigyrau'r mis

Y ffigyrau isaf ers Awst 2010.  Mae'n rhaid i mi 'sgwennu'n amlach - neu'n fwy diddorol - neu'n fwy ymysodol - neu rhywbeth!


Saturday, October 29, 2011

Ymweliad a Chatalonia

Nid blog gwyliau ydi Blogmenai wrth gwrs, felly 'dydw i ddim yn cyhoeddi lluniau gwyliau yn aml iawn, ond gan mai i Gatalonia es i ar fy ngwyliau, a chan bod y dyddiau hyn yn rhai diddorol o ran gwleidyddiaeth Catalonia, mi wnawn ni eithriad bach.

Y peth cyntaf i'w ddweud ydi bod gwleidyddiaeth y wlad yn weledol iawn os ewch  oddi wrth y Costa Brava a gweddill yr arfordir.  Baneri Catalonia, a baneri annibyniaeth (y L'Estelada Vermella a'r Estelada Blava)  yn cael eu crogi o falconi fflatiau ydi un o'r nodweddion gweledol hynny.







Nodwedd arall ydi'r graffiti gwleidyddol sy'n dew ar hyd llawer o ardaloedd trefol.  Roedd graffiti felly yn gyffredin iawn yng nghefn gwlad Cymru ers talwm wrth gwrs - ond Byd arall llawer llai parchus, a mwy diddorol nag un heddiw oedd hynny.





Mae'r murlun gwleidyddol yn un o nodweddion gwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon - 'does yna ddim cymaint ohonynt yng Nghatalonia, a 'dydyn nhw ddim mor grefftus na'r rhai Gwyddelig, ond maent i'w gweld yma ac acw.



Ac mae annibyniaeth yn bwnc llosg yn y papurau newydd - polau piniwn a'r brif ddadl economaidd tros adael yr undeb - y gost i Catalonia o aros - sydd dan sylw yma.


Er nad ydi annibyniaeth yn bwnc llosg yng Nghymru fel ydyw yng Nghatalonia a'r Alban, mae'r ddadl ym Nghatalonia yn berthnasol i ni yma. Mae gwledydd tebyg yn tueddu i ddilyn yr un trywydd yn aml. Er enghraifft arweiniodd dymchweliad y Bloc Dwyreiniol yn negawdau olaf y ganrif ddiwethaf at greadigaeth bedair gwladwriaeth ar hugain newydd yn Nwyrain Ewrop.

Mae Cymru'n perthyn yn llawer nes at Gatalonia nag at wledydd Dwyrain Ewrop wrth gwrs - mae'r ddwy wlad yn endidau yng Ngorllewin Ewrop na ddaeth yn wladwriaethau yn y dyddiau hynny pan rannodd y cyfandir yn gyfres o wladwriaethau, ond a lwyddodd i gynnal hunaniaeth annibynnol serch hynny.

A dyna pam bod hynt a helynt gwleidyddol gwledydd di wladwriaeth eraill yn Ewrop o ddiddordeb i ni yma yng Nghymru. Os ydi datganoli yn arwain at annibyniaeth mewn gwledydd eraill yng Ngorllewin Ewrop, mae'n ddigon posibl y bydd yr un peth yn digwydd yma maes o law.

Friday, October 28, 2011

Wyn Roberts a threth y cyngor

Mae'n ymddangos bod Wyn Roberts druan eisiau i'r llywodraeth yn Llundain orfodi'r Cynulliad i wario'r £38m sy'n dod i Gymru yn sgil anrheg bach y Toriaid i'w cefnogwyr yn Lloegr, ar rewi treth y cyngor.



Mae yna ddau bwynt yn codi o hyn.  Yn gyntaf mae'r cynllun yn Lloegr yn ffordd o wobreuo'r sawl sydd a'r tai mwyaf a drytaf ar draul y sawl sy'n rhy dlawd i dalu treth y cyngor.  Yn yr ystyr yna mae'n gynllun nodweddiadol Doriaidd - helpu'r cyfoethocaf tra'n cynnig dim i'r tlotaf.

Yr ail bwynt ydi nad ydi Wyn Roberts yn deall datganoli.  Pwynt datganoli ydi gadael i Gymru benderfynu ar ei blaenoriaethau ei hun - ac mae gen i ofn nad ydi gwneud Wyn Roberts, ei gyfeillion a'i gydnabod yn gyfoethocach yn flaenoriaeth fawr yng Nghymru ar hyn o bryd.

Etholiad arlywyddol Iwerddon - rhan 3

Mae'n ymddangos mai'r Llafurwr, Michael D Higgins fydd yn ennill - er bod y cyfri yn mynd rhagddo o hyd.

 

Saturday, October 22, 2011

Etholiad arlywyddol Iwerddon 3

Gan nad ydw i'n debygol o gael cyfle i flogio llawer am ychydig ddyddiau waeth i ni gael cip hynod frysiog ar y pum ymgeisydd nad ydym wedi edrych arnynt hyd yn hyn.

I ddechrau dyna i ni Martin McGuinness - 'dydw i ddim angen dweud gormod amdano fo mae'n debyg, ond ni fydd yn ennill - yn rhannol oherwydd ymateb rhyfeddol o hysteraidd y wasg a'r darlledwr cenedlaethol, RTE i'w ymgeisyddiaeth, ond yn bwysicach oherwydd methiant ei blaid i ddeall nad ydi naratif sy'n gweithio yn y Gogledd ddim o anghenrhaid yn gweithio yn y De.  .


Ac wedyn dyna i ni Dana, neu Rosemary Scallon sydd fwyaf enwog am ennill yr Eurovision Song Contest i'r Iwerddon ddeugain mlynedd yn ol. Ers hynny mae wedi cymryd dinasyddiaeth Americanaidd, wedi mabwysiadu gwleidyddiaeth nid anhebyg i un y Tea Party, wedi bod yn aelod seneddol Ewropiaidd, wedi sefyll am yr arlywyddiaeth ac wedi sefyll i fod yn aelod seneddol Gwyddelig.  'Does ganddi hi ddim gobaith o gwbl.


Ymgeisydd plaid fwyaf poblogaidd y Weriniaeth, Fine Gael ydi Gay Mitchell. Yn anffodus Gay ydi un o wleidyddion lleiaf poblogaidd y Weriniaeth, ac o ganlyniad fydd o ddim yn cael ei ethol. Duw yn unig a wyr pam gafodd ei ddewis.



Ar y llaw arall un o blediau lleiaf poblogaidd Iwerddon ar hyn o bryd ydi Fianna Fail
. 'Dydyn nhw heb hyd yn oed gynnig ymgeisydd swyddogol, ond maen nhw wedi ceisio sleifio ymgeisydd tua'r arlywyddiaeth heb i neb sylwi - rhywbeth nodweddiadol o'r blaid.  Gwnaed hyn trwy gefnogi Sean Gallagher -  rhywun oedd hyn yn ddiweddar iawn ar eu pwyllgor gwaith cenedlaethol, ond sydd yn sefyll fel ymgeisydd annibynnol. Er bod yna pob math o'r straeon am y misti manars ariannol arferol o'i gwmpas mae'r cyn ddyn o Dragon's Den Iwerddon yn hynod boblogaidd - ac yn edrych yn debygol o ennill ar hyn o bryd. Byddai llwyddo i gael eu dyn eu hunain yn Phoenix Park yn yr amgylchiadau sydd ohonynt yn gryn dysteb i allu Fianna Fail i wneud y gorau o'r gwaethaf.



Yr ymgeisydd olaf ydi Mary Davis. Mae'r ymgeisydd annibynnol wedi gwneud pob math o bethau teilwng iawn, megis trefnu'r gemau Olympaidd i'r anabl yn Iwerddon yn 2003 - ond mae pob dim o bwys mae wedi ei wneud oherwydd ei bod ar ryw gwango neu'i gilydd. Bydd y canfyddiad ei bod yn frenhines y cwangos yn sicrhau na fydd yn dod yn agos at ennill yr arlywyddiaeth.

Wednesday, October 19, 2011

David Davies yn amddiffyn hawliau pobl fawr i ymosod ar rai llai

Mae'n ddiddorol nodi bod yr ymaflwr codwm enwog, David Davies yn sefyll yn y bwlch er mwyn amddiffyn hawl pobl i ymosod ar eu plant.



Er nad ydi David yn ymaflwr codwm da iawn, mae ganddo ddiddordeb afiach braidd mewn trais o bob math.  Yn wir yn ol y Daily Mail mae eisiau diddymu'r Ddeddf  Hawliau dynol er mwyn ei gwneud yn haws i bobl gael eu harteithio:

Active members of Al Qaeda and the Taliban are living in this country and not being deported because of concerns about their human rights if something horrible happens to them if they are sent home,' Mr Davies said.
'Personally I would have thought that would be a bonus rather than a reason for not sending them back.

Ond a bod yn deg efo David mae yna rhai mathau o drais nad yw yn eu hoffi - yn arbennig felly trais sydd 'wedi ei fewnforio' gan dramorwyr:

There do seem to be some people in some communities who don't respect women's rights at all, and who... without necessarily saying that this is the case on this occasion, who have imported into this country barbaric and medieval views about women.

Tuesday, October 18, 2011

Setliad cynghorau sir Cymru

Diolch i Plaid Wrecsam am dynnu ein sylw at setliad awdurdodau lleol Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf.


Y polau piniwn a Chymru

Diolch i Mabon ap Gwynfor am dynnu fy sylw at yr erthygl yma yn newsnetscotland.com.

Pwynt yr erthygl ydi bod cryn dystiolaeth polio bod yr SNP yn gwneud yn dda ar lefel San Steffan yn ogystal ag ar lefel Senedd yr Alban, er mai ychydig iawn o bolio penodol Albanaidd sydd wedi ei wneud yn ddiweddar.  Daw'r dystiolaeth honno o is setiau polio Prydeinig YouGov.  Gan amlaf 'dydi hi ddim yn syniad da i gymryd llawer o sylw o is setiau data polio oherwydd nad ydi'r niferoedd ynddynt ddigon uchel i fod yn ystadegol ddibynadwy.

'Dydi hyn ddim yn atal pobl rhag gwneud hynny fodd bynnag.  Mi fydd rhai ohonoch yn cofio bod Paul Williams yn ei flog The Druid yn gwneud defnydd mynych o is setiau i wneud rhyw bwynt gwleidyddol neu'i gilydd. 

Ta waeth, mae'r erthygl yn gywir i awgrymu bod tystiolaeth cyffelyb gan is set ar ol is set o ddata yn ddibynadwy.  Mae'n anhebygol iawn y byddai patrwm yn cael ei amlygu dro ar ol tro - oni bai bod sylwedd i'r patrwm hwnnw - hyd yn oed lle mae'r data yn gymharol fach.

Serch hynny mae'r stori yn codi pwyntiau digon diddorol ynglyn a pholio fodd bynnag.  Er enghraifft mae'r rhan fwyaf o ddigon o bolau yn cymryd sampl o tua 1,000 - hyd yn oed os ydyw'n ceisio darganfod barn pobl mewn gwlad enfawr fel yr UDA.  Mae yna reswm am hyn - mae'r margin of error (y posibilrwydd o gamgymeriad) gyda sampl o 1.000 yn + / -3%.  Byddai sampl o 500 efo margin of error o 4%, tra byddai'n rhaid cael hyd at 6,000 i ddod a'r moe i lawr i 1%.  Mae sampl o 1,000 felly yn cynnig cywirdeb rhesymol heb i'r cwmni polio orfod mynd i'r gost enfawr o bolio 6,000 o bobl i gael canlyniadau ychydig yn gywirach.

Y broblem efo hyn ydi bod defnyddio is setiau i gael canlyniadau Cymreig neu Albanaidd yn ffordd hynod wallus I ddod i gasgliadau ynglyn a barn pobl yn y gwledydd hynny..  Tua 50 o bobl a geir mewn is set Cymreig (5% o'r boblogaeth), ac 80 mewn is set Albanaidd.  Mae'r moe ar y ffigyrau hyn yn 14% a 11%, sy'n llawer, llawer rhy uchel i fod o ddefnydd ymarferol i neb.

A dyna ydi'r broblem efo polio Prydeinig yng nghyd destun Cymru a'r Alban - 'does yna ddim digon o bobl yn cael eu polio i wneud y ffigyrau yn ystyrlon - oni bai bod yr un patrwm yn cael ei ddangos dro ar ol tro ar ol tro.  Felly mae polio Prydeinig yn rhoi darlun gweddol gywir o'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr, ond mae'n rhoi darlun llai cywir o lawer o'r hyn sy'n digwydd yn systemau pedair plaid y ddwy wlad Geltaidd.

Yr ateb fyddai cael polio rheolaidd penodol i Gymru a'r Alban - ond 'does yna neb eisiau talu am bolau felly a ninnau ymhell o unrhyw etholiadau pwysig.  Felly yn achos Cymru o leiaf rydym fwy neu lai yn y tywyllwch ynglyn a barn pobl y wlad ynglyn a'r pleidiau gwleidyddol Cymreig - yr unig beth sydd gennym i roi awgrym o hynny i ni ydi'r ychydig is etholiadau cyngor sy'n cael eu cynnal pob hyn a hyn.

Monday, October 17, 2011

Hobi newydd David Davies

Diolch i flog ITV Cymru am ein darparu efo lluniau cofiadwy o aelod seneddol Mynwy, Mr David Davies yn mwynhau ei hobi diweddaraf - reslo.



Mae'n dda gweld bod yr hogyn wedi dod o hyd i ffordd weddol ddi niwed o dynnu sylw ato fo'i hun o'r diwedd. 

Pol diweddaraf Populus

Mae'r pol (Prydeinig) diweddaraf gan Populus yn awgrymu mai sefyllfa'r pleidiau \prydeinig ar hyn o bryd ydi Llafur 41%, Toriaid 33% a'r Lib Dems 8%.

Pe gwireddid y pol hwnnw mewn etholiad go iawn byddai'r Lib Dems yn colli Brycheiniog a Maesyfed a Chanol Caerdydd, gan adael Mark Williams yn ymladd i ddal Ceredigion.  Pe byddai'n cael ei ethol byddai'n eithaf unig - 14 aelod Lib Dem yn unig fyddai'n cael eu dychwelyd - o gymharu a 57 ar hyn o bryd. 

Thursday, October 13, 2011

Cheryl i ddwyn grymoedd oddi wrth y Cynulliad

Mae'r ffaith na lwyddodd Cheryl Gillan i'w chael ei hun i wadu y gallai'r llywodraeth gymryd grym oddi wrth y Cynulliad yn dilyn adroddiad y Comisiwn Silk yn dweud mwy am Cheryl Gillan ac agweddau gwaelodol y Toriaid tuag at ddatganoli na dim arall.

Mae Gillan wedi gwneud cyfres o ddatganiadau ers dod yn ysgrifennydd gwladol sy'n awgrymu nad oes ganddi fawr o glem am wleidyddiaeth Cymru.  Yn wir daeth yn amlwg nad oedd yn gwybod pwy ydi Prif Weinidog Cymru yn ystod ymgyrch etholiadol 2010.



'Dwi'n siwr y byddai llawer o Doriaid yn hoffi cymryd grym yn ol oddi wrth y Cynulliad, ac mae'n bosibl bod Gillan yn eu plith.  Ond y realiti ydi nad ydi hi'n wleidyddol bosibl i blaid sydd a chefnogaeth leiafrifol yng Nghymru godi dau fys ar ganlyniadau refferendwm 1997 a 2011.  Byddai hynny'n wir ar yr amser gorau, ond mae'r syniad yn gwbl chwerthinllyd pan maent mewn clymblaid yn San Steffan efo'r Lib Dems, a phan fyddai ymgais o'r fath yn creu hollt rhwng y Blaid Doriaidd yn San Steffan a Bae Caerdydd. 

Arlywyddiaeth Iwerddon 2 - Michael D. Higgins

Michael D Higgins fydd yn ol pob tebyg yn ennill yr etholiad.  Mae'n wleidydd sydd a phob math o ddiddordebau mewn achosion tramor - roedd yn gefnogwr brwd i'r Sandanistas yn Nicaragua, a'r Palistiniaid er enghraifft.  Yn bwysicach roedd hefyd yn gyfrifol am ddatblygiadau pwysig yn y Weriniaeth ei hun.  Yn ystod ei gyfnod fel gweinidog diwylliant  y diddymwyd yr enwog Section 31 o'r Ddeddf Cyfathrebu, a dyna pryd y sefydlwyd TG4 - y sianel cyfrwch Gwyddelig a'r Bwrdd Ffilmiau Gwyddelig.

O'r saith sy'n sefyll, Higgins ydi'r mwyaf gwleidyddol sefydliadol, a fo fydd dewis y prif lif gwleidyddol yn y wlad.   Mae'r ffaith iddo geisio sefyll yn ol yn 2004, ond i'w blaid ei atal rhag gwneud hynny yn cyfrannu at ymdeimlad bod Michael D yn credu mai fo ydi perchenog naturiol yr arlywyddiaeth.  Beth bynnag - dyma i chi fideo neu ddwy dychanol (gobeithio)  i'w mwynhau.




Wednesday, October 12, 2011

Sut y gallai'r Toriaid atal llywodraethau mwyafrifol Llafur yn y dyfodol

Mae gen i ofn na alla i gytuno efo sylwadau Roger Scully yn sgil cyhoeddi astudiaeth Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth a'r Ganolfan Llywodraethiant Cymru.

Pwynt Roger ydi bod pob dim yn milwrio o blaid Llafur ym mis Mai, ac y dylai fod yn fater o ofid iddynt na chafwyd mwyafrif llwyr o dan amgylchiadau felly.  'Rwan mi hoffwn i gredu bod Roger yn gywir - ond mae gen i ofn nad ydyw.  Mi fyddai Llafur efo mymryn o lwc wedi gallu sicrhau mwyafrif llwyr ym mis Mai.  Er enghraifft roedd Llafur o fewn 8% neu lai i'r Toriaid mewn tair etholaeth - Preseli Penfro, Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro ac Aberconwy.  Byddai ennill Aberconwy, neu y ddwy sedd Sir Benfro wedi rhoi mwyafrif llwyr i Lafur.  Yn ychwanegol at hynny mae'r blaid wedi ennill holl seddi eraill y Toriaid yn y gorffennol cymharol agos.

Yn bwysicach mae dadansoddiad Roger yn anwybyddu hanes etholiadol Cymru.  Er bod datganoli yn brofiad cymharol newydd i ni, mae yna hen hanes o Lafur yn adeiladu cefnogaeth yn gyson a thros amser yng Nghymru - ar pob lefel - pan mae'r Toriaid yn rheoli yn Llundain.  Mae'r 42% o'r bleidlais a gafodd Llafur yn etholiadau eleni ar yr ochr isel - fel rheol (mewn etholiadau San Steffan) mae Llafur yn cael rhwng 45% a 55% pan mae'r Toriaid mewn grym ar y lefel honno - hen ddigon i gael mwyafrif llwyr mewn etholiadau Cynulliad.  Rwan 'dwi'n deall nad ydi etholiadau Cynulliad a rhai San Steffan yr un peth, ond 'dwi'n meddwl bod yna batrwm clir sy'n dangos bod llywodraethau Toriaidd - yn arbennig rhai sy'n parhau am gyfnodau sylweddol - yn llesol i Lafur yng Nghymru.  'Dydi llywodraeth fwyafrifol Llafur yn y dyfodol ddim yn rhywbeth y gellir ei ddiystyru o bell ffordd os ydi'r Toriaid yn parhau mewn grym yn Llundain.

Mae'r rhesymau am hyn yn weddol eglur - mae llywodraethau Toriaidd yn tueddu i docio ar wariant cyhoeddus, mae cyfradd gweddol uchel o boblogaeth Cymru yn ddibynol mewn rhyw ffordd neu'i gilydd ar wariant cyhoeddus.  Felly mae'n naturiol iddynt droi at blaid sy'n dweud ei bod am gynyddu gwariant cyhoeddus, a sydd a gobaith realistig o gael eu hethol.

Mae lled hegenomi Llafur yng Nghymru wedi ei adeiladu ar yr amgylchiadau hyn, ac mae o fewn gallu'r llywodraeth Doriaidd i chwalu'r seiliau hynny.  Os ydi pwerau trethu yn cael eu datganoli i Gaerdydd bydd perthynas yn cael ei sefydlu rhwng gwariant cyhoeddus yng Nghymru a lefelau trethiant yng Nghymru.  Neu i edrych ar bethau mewn ffordd arall, bydd cost i wireddu addewidion Llafur.  Bydd yn ddiddorol gweld tros y blynyddoedd nesaf os bydd greddf wrth ddatganoli'r Toriaid yn eu hatal rhag cymryd y cam a fyddai'n gwneud y mwyaf posibl o niwed i'r Blaid Lafur yng Nghymru - datganoli pwerau trethu.

Tuesday, October 11, 2011

Mwy o lwyddiant rhyngwladol i Gymru!

Ond 'tydi hi'n amser dy i fod yn Gymro dywedwch? 

I ddechrau dyna'r llwyddiant (cymharol) yng Nghwpan y Byd yn Seland Newydd, ac rwan mae Golwg wedi dod ar draws y newyddion gwirioneddol gynhyrfus bod trelar o Gymru am fod yn dilyn rhywun o'r enw Rihanna o gwmpas Ewrop

Am amser gwych i fod yn fyw - 'does yna ddim pendraw i'r rhesymau sydd ar gael i fod yn falch o fod y Gymro.

Monday, October 10, 2011

Arlywyddiaeth Iwerddon - David Norris

Gan bod Blogmenai yn cael ychydig o hwyl o bryd i'w gilydd yn trafod gwleidyddiaeth Iwerddon, hwyrach y dylid cael golwg achlysurol ar yr ymgeiswyr am yr arlywyddiaeth. Bydd etholiad arlywyddol yn cael ei chynnal yn y Weriniaeth ar ddydd Iau, Hydref 28.

Mi wnawn ni ddechrau efo David Norris - ymgeisydd sydd wedi nodweddau ei hun trwy ymgyrchu tros hawliau sifil a hawliau hoyw tros gyfnod maith.

Ers mis Mehefin mae wedi rhoi ei enw ymlaen am yr etholiad, a'i dynnu yn ol a'i roi ymlaen unwaith eto. Fel y gwelwch o'r fideo mae ganddo'r holl urddas y byddai dyn yn dymuno ei weld mewn arlywydd.

Sunday, October 09, 2011

Cais bach i ddarllenwyr Blogmenai

Efallai fy mod yn pregethu i berson yma, ond mae'r adroddiad ar wefan y Bib bod y defnydd o'r gwasanaethau Cymraeg sy'n cael eu cynnig gan gwmniau mawr yn isel iawn  yn siomedig.  Roedd y Bib wedi holi nifer o gwmniau - Tesco, Nat West, Nwy Cymru, HSBC ac ati ynglyn a faint o ddefnydd a wnaed o'u gwasanaethau, ac roedd y canlyniadau yn ddi eithriad yn siomedig, er nad ydi pob cwmni yn coledu'r wybodaeth.

 
Mae'r ffaith bod y ganran sy'n defnyddio'r gwasanaethau yn llawer is na'r ganran sy'n siarad Cymraeg yn awgrymu bod Nat West a Tesco yn fwy goleuedig ynglyn a hawliau ieithyddol yng Nghymru nag ydi'r Cymry Cymraeg eu hunain - ac mae hynny yn fater o gywilydd i ni fel grwp ieithyddol.

Felly bois - os oes 'na wasanaethau dwyieithog ar gael, gwnewch ddefnydd ohonyn nhw wir Dduw. 

Saturday, October 08, 2011

Penderfyniad gwariant doeth arall o Wlad Groeg.

Gyda Gwlad Groeg yn ymylu at ddod a'r Undeb Ewropiaidd i'w liniau oherwydd eu diffyg rheolaeth ariannol, byddai dyn yn disgwyl y byddant wedi dysgu gwers fach.

Ond na - ymddengys eu bod newydd archebu 400 o danciau gan yr UDA.

Friday, October 07, 2011

Mapio hunaniaeth

Diolch i Dafydd Trystan am drydar am y wefan ddiddorol yma sy'n rhoi cyfle i bobl ddiffinio eu hunaniaeth cenedlaethol, ac yn mapio'r canlyniadau.  Mae canlyniadau ymarferiad yn awgrymu mai ffenomena Seisnig ydi hunaniaeth Brydeinig bellach i raddau helaeth.



Mae'r canfyddiad hwnnw yn cael ei gefnogi gan ddata pellach sydd wedi ymddangos ar Datablog y Guardian yn ddiweddar.












Cynlluniau Alun Puw ar gyfer Gogledd Cymru

Mae'n anodd gwybod beth i'w wneud o syniad cwbl boncyrs Alun Puw i gael un cyngor ar gyfer y cwbl o Ogledd Cymru.  Petai'r syniad yn cael ei wireddu y cyngor yma fyddai'r trydydd mwyaf poblog trwy'r DU (ar ol Birmingham a Leeds) gyda chyfanswm o 650,000 o bobl.  'Dwi'n amcangyfrif y byddai arwynebedd y sir newydd tua phymtheg gwaith arwynebedd Birmingham.

Wednesday, October 05, 2011

'Tegwch' Tori

Fydda i ddim yn gwrando ar Taro'r Post yn aml, ond gan fy mod ar streic heddiw mi es i Landudno, a chlywed diwedd y rhaglen ar y radio yn y car.  Roedd Guto Bebb wrthi'n mynnu cael gwybod faint o athrawon sydd ar gyflog cyfartalog ei etholaeth - tua £23,000 mae'n ymddangos.

Rwan mae'n anodd gweld yn iawn beth sydd gan Guto - mae'n eithaf amlwg i'r ynfytyn gwirionaf bod cyflog cyfartalog grwp graddedig proffesiynol sydd a mwyafrif llethol ei aelodau yn gweithio'n llawn amser am fod yn sylweddol uwch na chyflog cyfartalog pawb mewn etholaeth dlawd yng Ngogledd Orllewin Cymru.

Yr hyn mae Guto yn ei wneud mae'n debyg ydi ceisio apelio at ymdeimlad o 'degwch' ymysg y gwrandawyr - ond Tori ydi Guto, ac mae tegwch Tori yn beth dethol iawn.  Er enghraifft mae Guto yn credu y dylai'r sawl sydd ar gyflogau cyfartalog yn ei etholaeth dalu treth incwm ar yr un raddfa a fo ei hun sy'n ennill tair gwaith cymaint a nhw, y criw o filiwnyddion sy'n hel o gwmpas y bwrdd cabinet pob wythnos a Richard Branson a Lakshmi Mittal a'u tebyg.

Mae hefyd yn drawiadol mai mewn cyfnod o doriadau bod y llywodraeth Doriaidd yn dod o hyd i bres i rewi trethi'r cyngor yn Lloegr, ac yn blagardio y dylai'r Cynulliad wneud yr un peth yng Nghymru.  Mae toriadau o'r fath o fwy o les i bobl sy'n byw mewn tai cymharol ddrud - fel aelodau seneddol Toriaidd er enghraifft - nag ydyw i bobl sydd ar gyflogau cyfartalog mewn ardaloedd fel Aberconwy.

Gan mai'r banciau sydd wedi ein cael ni yn y twll y cawn ein hunain ynddo - a gan bod Guto mor hoff o 'degwch', byddai dyn yn disgwyl y byddai'n galw am ddeddfu er mwyn ei gwneud yn anodd i'r banciau wneud taliadau enfawr i'w huchel swyddogion.  Ond fedra i ddim dod ar draws unrhyw alwad ganddo am hynny. 

Ond dyna fo - dyna beth ydi tegwch Tori - defnyddio 'tegwch' fel dadl i leihau'r hyn sydd ar gael i filiynau o bobl yn y gweithlu, tra'n sicrhau nad oes yna unrhyw dramgwydd i'r eisoes gyfoethog fynd hyd yn oed yn gyfoethocach.

Tuesday, October 04, 2011

Theresa May, y giaman a'r dyn o Folifia

Dydi o byth yn arwydd da pan mae gwleidydd yn gorfod cyfiawnhau ei bolisiau canolog trwy - wel - ddweud celwydd.  Dyna wnaeth Theresa May wrth gyfiawnhau ei gwrthwynebiad i'r Ddeddf Hawliau Dynol yng nghynhadledd y Toriaid ddoe. 

Fersiwn May o'r stori oedd bod dyn wedi cael aros ym Mhrydain oherwydd bod ganddo gath yn anifail anwes.

Yr hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd oedd bod myfyriwr o Bolifia wedi gwneud cais i gael aros yn y DU oherwydd bod ganddo bartner sydd yn ddinesydd Prydeinig, ac roedd cyfeiriad at gath ynghanol y dystiolaeth sylweddol a gyflwynwyd ynglyn a natur eu perthynas a'u bywyd efo'i gilydd.  Nid bodolaeth y giaman oedd y rheswm iddo ennill yr hawl i aros, ond natur ei berthynas efo'i bartner.

Pan mae'n rhaid i wleidyddion gyfiawnhau eu safbwyntiau trwy gyflwyno nonsens fel dadl, mae'n rhesymol casglu bod y safbwyntiau hynny wedi ei seilio ar ragfarnau.

Sunday, October 02, 2011

Pam bod y system addysg yng Ngwynedd yn cynhyrchu cymaint o siaradwyr Cymraeg?

Sylw neu ddau sydd gen i yn dilyn dadl fyrhoedlog a gefais ar y blog Britain Votes efo Alwyn ap Huw (awdur Hen Rech Flin).  Amddiffyn honiad abswrd un o awduron y blog, Harry Hayfield (sydd, dwi'n prysuro i ddweud, yn flogiwr da iawn gan amlaf) mai dadl ynglyn a chau ysgolion cyfrwng Cymraeg ydi hanfod yr anghytundeb rhwng Llais Gwynedd a Phlaid Cymru. 'Dydi hynny ddim yn wir wrth gwrs -  beth bynnag mae rhywun yn ei feddwl o'r newidiadau sydd wedi digwydd ym Meirion tros y blynyddoedd diwethaf, maen nhw wedi digwydd yng nghyd destun ymarferiad ardrawiad iaith trylwyr. 

Ond yr hyn sy'n fwy diddorol o bosibl, ydi'r feirniadaeth sydd ymhlyg yn sylwadau Alwyn, o'r system yng Ngwynedd mewn perthynas ag addysg Gymraeg.  Mae'r drefn yng Ngwynedd yn anarferol i'r graddau nad oes ysgolion Cymraeg (ag eithrio ym Mangor).  Yn wir (ar wahan i'r eithriad yma)  'dydi'r sir ddim yn diffinio ysgolion yn ol categoriau ieithyddol o gwbl oherwydd bod disgwyl i pob ysgol weithredu polisi iaith y sir.  Mae'r polisi hwnnw yn disgwyl i ysgolion roi cyfle i pob disgybl ddod yn rhugl ddwyieithog. 

Felly sut y gellir barnu pa mor effeithiol ydi'r ddarpariaeth o safbwynt cynnal y Gymraeg?  Trwy edrych ar ddata mae'n debyg.   Mae unrhyw fesur y dewisir yn dangos bod y system addysg yng Ngwynedd yn rhyfeddol o effeithiol am gynhyrchu Cymry Cymraeg.  Er enghraifft:

  • Yn 2009 roedd y ganran o blant bl 6 oedd yng nghategori A (plant rhugl ddwyieithog) yng Ngwynedd yn 78.5%.  .  
  • Roedd 95.2% o blant bl 6 y sir yn cyrraedd lefel 3+ yn yr un flwyddyn, ac roedd 96.1% o'r sawl a gafodd asesiad felly yn parhau i ddilyn cwrs Cymraeg iaith gyntaf ym mlwyddyn 7.  
  • Asesir 99.8% o ddisgyblion yn y Gymraeg ar ddiwedd CA2.
  • Asesir 80.4% o ddisgyblion y sir fel Cymry iaith gyntaf ar ddiwedd CA3 ac mae'r patrwm yn CA4 yn ddigon tebyg.  
  • Roedd 81.5% o ddisgyblion y sir yn sefyll TGAU Cymraeg iaith gyntaf.  
  • Mae mwyafrif llethol (100% yn y rhan fwyaf ohonynt) o ddisgyblion pob ysgol uwchradd yn y sir, ag eithrio un, yn astudio pob pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog.  
Rwan 'dwi'n gwybod bod pethau'n haws yng Ngwynedd nag ydynt mewn rhannau eraill o Gymru - mae llawer o'r cymunedau yma gyda chanranau uchel iawn o siaradwyr Cymraeg naturiol.  Ond mae'r ganran o blant ysgolion uwchradd yng Ngwynedd sydd o gartrefi di Gymraeg sy'n siarad y Gymraeg i safon iaith gyntaf yn uwch nag ydyw mewn unrhyw sir ag eithrio Mon a Cheredigion - er bod 60% o blant y sir yn siarad y Gymraeg adref - canran uwch o lawer nag a geir mewn unrhyw sir arall (25% ydi'r ffigwr yn Sir Gaerfyrddin er enghraifft). .
    Ceir llwyddiant  trawiadol mewn ystod o gymunedau - o geiri ieithyddol yr iaith yn ardaloedd ol ddiwydiannol Arfon i ardaloedd mwy Seisnig y De gwledig.  Wna i ddim trafferthu cymharu'r ffigyrau uchod efo awdurdodau eraill, ag eithrio i nodi  bod pob un ffigwr yn sylweddol uwch nag unrhyw beth sydd gan yr sir arall i'w gynnig. Os oes gennych ddiddordeb gallwch ddod o hyd i'r ystadegau yma (pennod 11). Y siroedd sy'n dod agosaf at Wynedd ydi Ynys Mon a Cheredigion, siroedd sydd a chyfundrefnau gweddol debyg  i un Gwynedd.

    'Rwan 'dwi ddim yn dadlau bod y gyfundrefn yng Ngwynedd yn llwyr facsimeiddio'r hyn y gellir ei wneud i gynhyrchu cenedlaethau o bobl sy'n gallu siarad y Gymraeg - mae yna rai gwendidau - ond mae'n perfformio'n well nag unrhyw system arall sydd ar gael.  Ymhellach, ac yn bwysicach, bu cynnydd cyson yn effeithlonrwydd y system o ran cynhyrchu Cymry cymraeg, ac mae cynlluniau i wella eto ar droed.

    Nid rhywbeth i'w feirniadu ydi'r system addysg yng Ngwynedd mewn cyswllt a'r Gymraeg, ond rhywbeth i ymfalchio ynddo.  

    Saturday, October 01, 2011

    Gwreiddiau Peter Hain yn ymddangos trwy'r pridd unwaith eto

    Mae ymateb Peter Hain i fuddugoliaethau Plaid Cymru yng Ngwynedd nos Iau yn adrodd cyfrolau am y dyn, ac yn bwysicach mae'n adrodd cyfrolau am agweddau gwaelodol y Blaid Lafur yng Nghymru tuag at Gymry Cymraeg.


    Yr hyn sydd gan Hain mewn gwirionedd ydi bod y canlyniadau yn rhai y dylid eu diystyru oherwydd bod yr etholiadau wedi eu cynnal yn y Gymru Gymraeg.  Mae yna is destun poenus o amlwg i'r ffordd yma o edrych ar bethau - 'dydi pleidleisiau Cymry Cymraeg ddim yn gyfwerth a phleidleisiau pobl eraill, a gellir felly beidio a chymryd o ddifri ganlyniadau etholiadol mewn wardiau sydd a mwyafrioedd llethol o'u hetholwyr yn siarad yr iaith.

    Ac mae yna is destun i'r is destun wrth gwrs.  Pan mae gwleidyddion Llafur fel Chris Bryant yn amddiffyn hawl Roger Lewis a'i debyg i awgrymu bod siaradwyr Cymraeg yn is ddynol, mae'n gwneud hynny am reswm amlwg iawn - mae agweddau fel rhai Lewis yn atgyfnerthu ac yn rhesymoli'r  naratif Llafur bod pleidleisiau Cymry Cymraeg yn rhai nad oes gwerth iddynt.

    Wrth ymateb i sylwadau Bryant yn ddiweddar  awgrymais ei bod yn niweidiol i pob grwp lleiafrifol o fewn cymdeithas os ydi aelodau  rhai o'r grwpiau hynny yn ceisio creu hierarchiaeth o grwpiau y dylid eu parchu - a gosod y grwp maen nhw eu hunain yn digwydd perthyn iddo ar frig yr hierarchiaeth honno. Mae ymgais o'r fath hefyd yn awgrymu diffyg goddefgarwch ar ran y sawl sydd yn ei gwneud.

    Yn yr un modd byddwn yn awgrymu i Hain y byddai'n arfer mwy priodol i wleidydd blaenllaw mewn gwlad oddefgar, fodern a gwar i roi'r un parch i ddyfarniadau etholwyr ym mhob rhan o'r wlad, beth bynnag eu cefndir, beth bynnag eu hiaith.  Mae barn etholwyr Glan yr Afon, Treorci, Penrhyndeudraeth, Y Friog a Phorthcawl yn haeddu'r un parch yn union a'i gilydd - mae pleidleisiau eu trigolion yn gyfwerth - maent yn ddinasyddion cyfartal.

    'Does yna ddim lle i aparteid etholiadol yn y Gymru sydd ohoni.