Hwyrach y dylid llongyfarch Tywysog Cymru am wneud joban mor dda o osgoi effaith y dirwasgiad sydd wedi tanseilio safon byw y gweddill ohonom. O'r holl fanylion am wariant Charles - y cynnydd o 17%( i £1,962,000) yn yr arian mae'n ei hawlio gan y pwrs cyhoeddus pan mae pawb arall efo'i gyflog wedi ei rewi, y 158.9 (cynnydd o 26 ers y llynedd) staff llawn amser yn cynnwys 26 o staff personol i roi tendans i Charles a'i wraig er enghraifft - ei gostau teithio o £1.08 miiwn ydi'r mwyaf trawiadol i mi.
Mae hyn yn gyfystyr a £31.50 am pob un o'r 34,287 milltir a deithwyd ganddo ef, ei wraig a'r fintai fechan o lyfwrs a llempiwrs proffesiynol sy'n mynd efo nhw i bob man. Rwan mae hyn yn uffernol o ddrud - digon i wneud i wallt rhywun fel Nick Ramsey sefyll i fyny.
Ystyrier y canlynol:
Byddai awyren cargo Boeing 747-400 yn defnyddio tua 3,200 galwyn yr awr petai'n hedfan ar ei chyflymder arferol o tua 600 mya. Felly byddai'n defnyddio tua 5.5 galwyn y filltir. Mae cost tanwydd awyren yn amrywio rhwng £2.20 i £3.50 y galwyn, felly mae'n rhesymol casglu bod cost teithio jet cargo anferth o gwmpas £16 y filltir.
Felly mae'n costio ddwywaith cymaint i anfon Charles o un lle i'r llall nag ydi hi i anfon jet anferth sy'n llwythog efo cargo.
1 comment:
Gobeithier mai Carlo fydd yr olaf o dywysogion Cymru sy'n perthyn i deulu brenhinol Lloegr.
Gweriniaeth dylid Prydain fod tra bydd hi yn bodoli, a Chymru hefyd pan ddaw Annibyniaeth, a hynny cyn gynted a sydd bosib.
Post a Comment