

Maent yn esiampl digon twt o'r hyn 'dwi wedi bod yn son amdano.
Mae'r ail ddelwedd yn esiampl da o wleidydda budur y Lib Dems.
Mae'r ddelwedd gyntaf yn esiampl o gelwydd / diffyg crebwyll y Lib Dems. Yn gyntaf ceir honiadau gan rai o'r papurau Seisnig bod Llafur am gael cweir ddydd Iau. Wedyn maent yn mynd ati i ddod i'r casgliad chwerthinllyd, abswrd a gwrth ffeithiol mai'r unig ffordd o sicrhau hynny ydi trwy bleidleisio i'r Lib Dems - voting Plaid, Tories or anyone else will just help Labour. Y cyfiawnhad tros y canfyddiad gorffwyll yma ydi bod y Lib Dems yn digwydd bod yn gryf yn etholiadau San Steffan yn un o'r 40 etholaeth Gymreig - Canol Caerdydd.
Ymddengys nad ydi'r Lib Dems yn deall mai etholiad o dan ddull De Hoet tros Gymru gyfan sydd yn cael ei hymladd, yn hytrach nag etholiad First Past The Post yng Nghanol Caerdydd. Maent yn llafurio o dan y camargraff bod canol Caerdydd gyda phedwar aelod Ewropiaidd.
Naill ai hynny, neu eu bod yn dweud celwydd noeth wrth etholwyr Canol Caerdydd.
Rhag bod unrhyw un mor ddi niwed a chredu celwydd / nonsens y Lib Dems - dyma oedd canlyniadau'r etholiadau Ewropiaidd yn 2004:
Llafur 297,810
Toriaid 177,771
Plaid Cymru 159,888
UKIP 96,677
Lib Dems 96,116
Gwyrddion 32,761
BNP 27,135
Respect 5,427
Eraill 24,101
Cyfanswm 917,686
2 comments:
Celwyddgwn uffernol!
Mae'r Lib Dems yn Cambourne wedi rhoi tafenni allan yn disgrifio ei gwrthwynebydd Mebyon Kernow yn 'greasy haired twat'! Aeth hi'n futrach na hynny?
Post a Comment