Sunday, January 16, 2005

Y blog mwyaf diflas erioed. Y PDs yn 07.

‘Dwi’n sylweddoli mai hwn ydi’r eitem ryfeddaf i ymddangos ar flog Cymraeg erioed – dadansoddiad o obeithion etholiadol plaid fach Wyddelig nad oes prin neb yng Nghymru(ond Guto Bebb) wedi clywed amdano. Ceisiaf wneud un neu ddau o rai callach am wleidyddiaeth Cymru, Lloegr a’r Alban tros yr wythnosau nesaf.

Ceir peth o hanes y blaid yma

Prif nodweddion y blaid yw eu bod yn ryddfrydol (yn yr ystyr ‘liberal’) ac yn adain dde di gyfaddawd mewn materion economaidd. Er mai plaid fach ydi hi – ac un sy’n tueddu i fynd yn llai ac yn llai o etholiad i etholiad, mewn termau canran y bleidlais.– bu’n hynod o ddylanwadol. Bu mewn tair clymblaid efo FF – ac er eu bod yn llai o lawer na FF maent yn fwy ideolegol o lawer – ennill ac ymarfer grym ydi prif flaenoriaeth FF. O ganlyniad (a benthyg idiom Saesneg) mae’r gynffon ideolegol wedi ysgwyd y ci. Gall hawlio o leiaf rhan o’r clod am y ‘wyrth’ economaidd ddigwyddodd yn y Weriniaeth yn y ddegawd diwethaf.

Roedd yr etholiad diwethaf yn 2002 yn fuddugoliaeth iddynt – cawsant 8 (o gymharu a 4 yn 97) aelod – er i’w canran o’r bleidlais gwympo (i tua 4%). Mae rheswm syml am hyn. Pan ei bod yn amlwg na all FG ennill grym, mae llawer o’u cefnogwyr, mewn etholaethau lle gall y PDs lwyddo, yn pleidleisio i’r PDs yn y gobaith y byddynt yn ‘cadw trefn’ ar FF. Cafodd FG cryn lwyddiant yn yr etholaethau lleol eleni, felly ni fydd y ffactor yma yn weithredol. Gallant i gyd, ag eithro’r arweinydd Mary Harney (Dublin Mid West) –golli eu seddau.

‘Reit – golwg sydyn ar eu rhagolygon.

Mary Harney – Dublin Mid West – saff – yn enwedig gan bod Mid West yn cael aelod ychwanegol yn yr etholiad nesaf.

Fiona O’Malley – Dun Laoghaire – tebygol o golli ei sedd. Llwyddodd FG i golli dwy sedd (allan o 2) yma yn 2001. Bydd un os nad y ddwy yn dod yn ol. O’Malley fydd yn dioddef os ydi un yn mynd, a FF os aiff dwy. Mae hi hefyd yn berfformiwr cyhoeddus gwirioneddol wael.

Michael McDowell – Dublin South East – ‘Bear Pit’ gwleidyddol. Rhywle arall sy’n draddodiadol gryf i FG a lle na lwyddwyd i gael aelod o’r blaen. Bydd FG yn eu holau, a bydd hyn yn gwasgu ar bleidlais McDowell. Hefyd bydd rhywbeth sy’n ymdebygu i ryfel yn mynd rhagddo yn wardiau dosbarth gweithiol yr etholaeth rhwng Llafur, FF a SF. Bydd pleidlais uchel yma’n ddrwg iddo. Nid oes ganddo record o gael ei ail ethol mewn etholiad. Mewn perygl gwirioneddol.

Liz O’Donnell - Dublin South – perfformiad gwael yn yr etholiadau lleol, ac ond crafu sedd yng nghadarnle O’Donnell yn Terenure/Rathfarnam. Serch hynny mae O’Donnell yn wleidydd da, yn boblogaidd yn bersonol – ac yn ddel. Byddwn yn disgwyl iddi gael ei hail ethol.

Noel Grealish – Galway West – Gwneud yn eithaf yn yr etholiadau lleol, ond wedi ennill y tro o’r blaen gyda thachtegau anarferol iawn sydd ddim yn gweithio’n aml. Serch hynny, mae ganddynt hanes o gael eu hethol yn rheolaidd yma, ac er y bydd pwysau arnynt, byddwn yn disgwyl i Graelish gael ei ddychwelyd. 'Roedd pethau ar chwal o'r blaen wedi ymadawiad di symwth Bobby Molloy.

Tom Parlon – Laois – Offaly. Pleidlais Tom ydi un y PDs yma, nid un eu hunain. Mae’n ffigwr chwedlonol ymysg ffermwyr y wlad. Serch hynny mae’r etholaeth yma draddodiadol yn un clasurol FF / FG a byddwn yn disgwyl i adfywiad FG fod yn ormod i hyd yn oed Tom Parlon yma.

Tim O’Malley – Limerick East – Mae’r sedd dan bwysau yma, ac er i’r blaid gadw eu pleidlais yng nghefn gwlad yn yr etholiad lleol, maent angen cefnogaeth drefol yma, a methwyd a sicrhau hynny. Byddant yn colli’r sedd i rhywun o’r ddinas – Llafur, neu yn fwy tebygol annibynnol. Mae annibynnwyr hynod gryf yn y ddinas.

Mae Sexton – Longford Roscommon – roedd yn sioc enfawr i Sexton grafu i mewn o’r blaen. Newidiadau ffiniol mawr yn ffactor (drwg i’r PDs) Dim llwyddiant yn yr etholiadau lleol, dim gobaith.

Felly, yn fy marn i bydd ganddynt dair sedd. Gallai’n hawdd fod yn un. Sori Guto.

Sori am y truth uchod hefyd. Os oedd rhywun yn darllen fy mlog o’r blaen, mae’n amlwg, fydd yna neb o hyn allan

No comments: