Wele isod gynnig a wnes yng nghyfarfod o Gyngor Llawn Gwynedd ddydd Iau ynghyd a fy anerchiad wrth ei gyflwyno. Un cynghorydd yn unig bleidleisiodd yn erbyn y cynnig, gyda phedwar neu bump yn atal eu pleidlais. Pleidleisiodd gweddill y cynghorwyr o blaid y cynnig
A hithau bellach yn dynesu at flwyddyn ers i’r rhyfel yn Gaza gychwyn mae Cyngor Gwynedd yn nodi bod:
Dros 40,000 o drigolion Gaza wedi eu lladd gan luoedd diogelwch Israel - y mwyafrif llethol yn sifiliaid.
Tua 10,000 o bobl - sifiliaid yn bennaf - heb eu darganfod ond sydd bron yn sicr yn farw.
Dros 90,000 wedi eu hanafu - eto gyda’r mwyafrif yn sifiliaid.
Yn agos i 200,000 wedi marw oherwydd effeithiau anuniongyrchol ymgyrch byddin Israel.
Bod mwyafrif llethol y 2.2m o bobl sy’n byw yno wedi colli eu cartrefi, neu wedi gorfod symud o’u cartrefi.
Bod pobl sydd รข’u teuluoedd yn byw yn Gaza ymysg trigolion Gwynedd.
O ystyried hyn, ac o ystyried nifer o sefyllfaoedd erchyll cyfredol eraill megis Wcrain, Yemen a Maymar, geilw’r Cyngor Llawn, fel rhan o’r broses o adolygiad blynyddol y Strategaeth Fuddsoddi, fod ystyriaeth yn cael ei rhoi i ychwanegu darpariaeth sydd yn cyfarch egwyddorion gwarchod iawnderau dynol a parchu cyfraith rhyngwladol .
Diolch Madam Cadeirydd a diolch am y cyfle i wneud y cynnig pwysig ac amserol yma.
Mae geiriad y cynnig yn cyfeirio at y marwolaethau a’r difrod sydd wedi deillio o’r cyrchoedd diweddar yn Gaza - ac mae pethau wedi symud ymlaen ers i fi lunio’r cynnig o ran nifer marwolaethau a maint y niwed ac o ran lleoliad daearyddol y distryw. Ond dwi ddim am gyfeirio at yr erchyllderau hynny’n benodol - mae’r cynnig yn siarad trosto’i hun - ac mae’r erchylldra rydym yn ei weld yn ddyddiol ar ein sgriniau teledu’n siarad trosto’i hun hefyd.
Ond dwi am gyfeirio at ymateb pobl ar hyd a lled Gwynedd i’r hyn sydd wedi bod yn digwydd yn y Dwyrain Canol tros y flwyddyn diwethaf. Mae yna wylnosau rheolaidd wedi eu cynnal yng Nghaernarfon, mae yna wrthdystiadau wedi eu cynnal mewn gwahanol leoedd yn y sir - gan gynnwys gwrthdystiad hirhoedlog, arwrol gan fyfyrwyr ym Mangor.
Felly wna i ddim ailadrodd yr hyn sydd yn y cynnig - ond dwi am gyfeirio at pam dwi’n meddwl y dylai’r Cyngor yma adolygu ei pholisiau / stratagaethau buddsoddi i flaenori buddsoddiadau moesegol - a dwi am wneud hynny yng nghyd destun Israel - ac yng nghyd destun record hir sydd gan arweinwyr y wlad honno o anwybyddu cyfraith rhyngwladol a hawliau dynol - a gwneud hynny yn fwriadus ac yn fwriadol tros gyfnod hir o amser - pan nad oes ‘na ryfel yn mynd rhagddo.
Dwi am gyfeirio at hynny rwan yn hytrach na’r erchyllderau nosweithiol rydym oll yn dyst iddyny.
Mae’r ymddygiad hir dymor yma yn cynnwys:
- Camdriniaeth cyson a hirhoedlog o Balistiniaid - gor ddefnydd o rym, llofruddiaethau di gyfiawnhad ac amddifadu pobl o’r hawl i ymgynull a symud yn rhydd.
- Yr arfer o ymestyn presenoldeb Israelaidd ar lan Gorllewinol yr Iorddonen yn groes i 4ydd Confensiwn Geneva - Confensiwn sy’n gwahardd pwerau meddiannol rhag symud ei phoblogaeth ei hun i diroedd maent wedi eu meddiannu.
- Cosbi Torfol. Hyd yn oed cyn y cyrch presenol roedd blockade Gaza yn amddifadu trigolion o fynediad hawdd i fwyd, meddyginiaeth, a chyfleoedd economaidd - oedd ynddo’i hun yn creu argyfwng dyngarol. ‘Dwi ddim angen manylu ar gosbi torfol y flwyddyn diwethaf - rydych yn ei weld ar eich sgrin teledu yn nosweithiol.
- Gwahaniaethu yn erbyn pobl o gefndir Arabaidd oddi mewn i ffiniau Israel - gwahaniaethu o ran cynrychiolaeth ddemocrataidd, cyfleoedd economaidd a mynediad i wasanaethau.
- Y defnydd o lysoedd milwrol i erlyn sifiliaid. Mae defnyddio system erlyn gyfochrog, filwrol yn lleihau tryloywder, lleihau hawliau sylfaenol ac yn arwain at gyfnodau hir o garcharu di ddyfarniad.
- Cyfyngu ar hawliau i hunan fynegiant. Mi fyddwch chi’n ymwybodol bod swyddfa Al Jazera ar y Lan Orllewinol wedi cael ei chau gan yr awdurdodau Israelaidd yn ystod y dyddiau diwethaf. Ond mae cyfyngu ar hawliau mudiadau mewnol i feirniadu polisiau Israel tuag at Balistiniaid yn fater hirhoedlog.
Mae’r hyn sy’n digwydd yn y Dwyrain Canol rwan, ac mae’r hyn sydd wedi digwydd yn y Dwyrain Canol ers sefydlu gwladwriaeth Israel yn adlewyrchu canfyddiad bod mwy o werth - llawer mwy o werth - i fywydau pobl o rhai cefndiroedd crefyddol ac ethnig na sydd yna i bobl sydd o gefndiroedd crefyddol ac ethnig eraill - mae’r canfyddiad yma’n gwbl wrthyn.
Dwi’n ymwybodol nad ydi’r hyn dwi newydd son amdano fo yn gyfyngedig i Israel ac mi fyddai pasio’r cynnig yma yn sicrhau bod y Cyngor yma yn edrych ar ei pholisiau er mwyn blaenori buddsoddiad moesegol yn gyffredinol - nid yn Israel yn unig.
Ond dwi’n cyfeirio at Israel yn benodol am ddau reswm - yn gyntaf oherwydd bod yr amgylchiadau erchyll sydd ohonynt wedi bod yn flwyddyn gron bellach - ac mae nhw yn lledaenu ymhellach o ddiwrnod i ddiwrnod.
Ond yn ail oherwydd bod perthynas y Gorllewin yn llawer agosach at Israel nag yw at wledydd eraill sydd efo record wael parthed parchu cyfraith rhyngwladol a hawliau dynol. Mae economi Israel wedi intigreoddio i system gyfalafol y Gorllewin - ac o ganlyniad mae yna risg uwch bod buddsoddiadau o’r Cyngor yma yn gwneud eu ffordd i Israel.
Felly dwi’n gofyn i chi gefnogi’r cynnig yma. O wneud hynny byddem yn mynegi ein gwrthwynebiad i’r hyn sy’n Digwydd yn y Dwyrain Canol heddiw, i’r hyn sydd wedi digwydd yn y Dwyrain Canol tros y degawdau, a byddwn hefyd yn tanlinellu’r gred sy’n greiddiol i’n gwerthoedd Cymreig - bod gwerth - a gwerth cyfartal - gwerth cyfwerth - i pob bywyd dynol - i bob enaod dynol - a bod y gwerth hwnnw yn annibynnol o gefndir crefyddol a chefndir ethnig.