Thursday, March 02, 2006

Agor y Senedd Newydd

Adeilad hardd, ond am seremoni - y frenhines yn agor y lle, band milwrol, awerynnau milwrol, llongau rhyfel.



Mae'n anodd meddwl am ddull llai cydnaws a'r rhan helyw o'r traddodiadau gwleidyddol Cymreig. 'Dwi'n gwybod bod Prydeinwyr Cymreig, a bod gan y rheini ddiddordeb yn nhraddodiad milwrol ac imperialaidd Prydain - ond siawns y gellid bod wedi dod o hyd i ffordd o gynrychioli traddodiadau gwleidyddol Cymoedd y De a'r Gymru Gymraeg.

Wedi'r cwbl mae yna fwy ohonym ni (rhyngom) na sydd yna o Brits. Mae hi'n Senedd i ni i gyd.

Wednesday, March 01, 2006

Iwerddon, Rygbi a'r Terfysg

Mynd drosodd i’r Iwerddon gyda’r llwythau Cymreig i weld y gem rygbi ddydd Gwener. Rhyw benderfyniad funud diwethaf oedd o a dweud y gwir. ‘Dwi wedi bod trosodd ar benwythnosau rygbi o’r blaen efo rhai o hogiau’r clwb sboncen ond taith wedi ei threfnu ar y munud olaf efo’r Mrs oedd hon.

Yn rhannol oherwydd hyn cawsom ein hunain yn aros ar gyrion de ddeheuol y ddinas gerllaw stad dai enfawr Tallaght Yn nhafarn Molloy’s ymddengys mae’r prif sgwrs oedd bod Protestaniaid o Ogledd Iwerddon yn dod i orymdeithio trwy ganol y ddinas. Roedd band yn canu, ac ar ddiwedd y set dywedodd y prif leisydd bod protest yn erbyn yr orymdaith yn cael ei chynnal. Aeth y TD (aelod seneddol) Sinn Fein lleol – Sean Crowe – oedd yn y dafarn yn syth i’r llwyfan a siarsio pobl i beidio a mynd ar gyfyl yr orymdaith.

Feddyliais i ddim llawer am y peth hyd amser cinio’r diwrnod canlynol pan geisiais fynd i O’Connell Street – y brif stryd trwy ganol y ddinas. Nid oedd posibl mynd arni gan bod y Garda yn atal unrhyw un rhag mynd arni. Roedd brwydr yn mynd rhagddi ar y stryd – rhesi o heddlu’n amddiffyn un ochr i’r stryd, canoedd o lanciau yn taflu pethau atynt ymhellach i fyny’r stryd a biniau yn llosgi rhwng y ddwy garfan. Llawer o’r ymladdwyr yn ifanc iawn, roedd llawer ohonynt hefyd wedi eu gwisgo’n drawiadol – crys Celtic neu GAA, baner Iwerddon tros eu ysgwyddau a sgarff tros eu hwynebau. ‘Roedd yr ymladd yn digwydd tros ran eang o’r ddinas, ac roedd yn hynod ffyrnig. Gallai rhywun fod wedi ei ladd yn hawdd.







Yr hyn oedd yn ddiddorol am y terfysg oedd ymateb pobl nad oedd yn rhan ohono - ar gwahanol adegau roedd canoedd yn sefyll ar gyrion yr helynt yn edrych beth oedd yn edrych ar y digwyddiadau. Roedd llawer yn cymryd lluniau - ac roedd rhai yn mynd yn agos at ddannedd yr helynt er mwyn cael gwell lluniau. Roedd yn aml yn anodd bod yn siwr pwy oedd yn rhyfela a phwy oedd yn gwylio - roeddynt oll yn gymysg ar adegau. Mae'n rhyfedd, ond er mor anymunol y golygfeydd, mae'n anodd peidio ag aros i edrych arnynt - ac mae'r adrenalin hit o fynd yn agos at yr ymladd yn beth digon pwerus. Profais rhywbeth tebyg chwarter canrif yn ol yn yr yn ddinas, pan cefais fy nal mewn terfysg mwy o lawer, a lle anafwyd mwy o bobl o lawer. Roedd y ffenomenon o bobl yn aros i edrych yn wir y tro hwnnw hefyd. Gall ymateb dyn i gael ei ddychryn fod yn beth rhyfedd iawn.

Wedyn ar ol ychydig o beintiau yn rhai o dafarnau’r ddinas mynd i weld Bryn Fon yn y Temple Bar Music Centre yn Temple Bar. Ymddengys ei fod wedi colli teiars ei fan - y rhif Prydeinig fyddai wedi achosi hynny mae'n debyg. Y lle’n llawn a’r noson yn un ddigon difyr, ond roedd y swn yn hynod o fyddarol. Bechod am y gem y diwrnod wedyn.

Tuesday, February 28, 2006

Y Senedd Newydd

Bydd y Senedd newydd yn agor yfory. Cefais gyfle i fynd draw Ddydd Llun. ‘Roeddwn i, o leiaf yn meddwl bod yr adeilad yn hynod ddeniadol – yn cyfuno elfennau sydd`1 yn ymddangos yn hen gyda rhai modern – beth bynnag am wichian a chwyno negyddol a chrintachlyd Plaid Geidwadol Cymru. Ambell i lun i chi.



Sunday, February 19, 2006

Llongau Porthmadog

Pob dwy flynedd bydd y plant acw yn astudio uned hanes ar longau Porthmadog. Heb fynd i ormod o fanylder, tyfodd diwydiant llongau llewyrchys iawn ym Mhorthmadog yn ystod y bedwerydd ganrif ar bymtheg yn sgil twf y diwydiant llechi ym Mlaenau Ffestiniog. Os oes rhywun a diddordeb o ddifri mae llyfr arbennig o dda sy’n croniclo llanw a thrai llongau Porthmadog gan y diweddar Lewis Lloyd. Mae’r llyfr allan o brint, ond mae ar gael gan wasanaeth llyfrgell Gwynedd.





Wythnos neu ddwy yn ol roeddwn yn mynd trwy ddogfennau roeddwn wedi eu hel o’r Archifdy – ffynonellau cynradd yn bwysig hyd yn oed i astudio hanes mewn ysgol gynradd y dyddiau hyn ‘dach chi’n gweld.

Lluniau llongau, dogfenaeth llongau yn ymwneud a manylion am griwiau’r llongau, dogfenaeth yn cofnodi cargo gwahanol longau, dogfenaeth yn ymwneud a’r diwydiannau adeiladu a thrwsio llongau ac yswiriant a dyfodd yn sgil y diwydiant llongau, rhestrau o fusnesau a agorodd yn yr ardal ac ati.

Mae rhywbeth yn rhyfedd am edrych ar ddogfennau fel hyn. Fe’u cynhyrchwyd gan bobl sydd wedi hen farw, ac fe’u cynhychwyd fel rhan o’u gwaith dyddiol. Pwrpas biwrocrataidd oedd iddynt – ond rydym ni yn ein tro yn eu defnyddio i bwrpas cwbl wahanol – i geisio darganfod rhywbeth am y pobl a’u cynhyrchodd. Mae’r ddogfenaeth wedi creu ystyr – wedi rhoi ffenestr ar y gorffennol yn gwbl annibynnol o fwriad y sawl a’u cynhyrchodd. Mae rhywbeth braidd yn anghyfforddus a syniad – hwyrach y bydd y mynyddoedd o ddogfenaeth ‘dwi’n ei gynhyrchu yn fy ngwaith diwrnod i ddiwrnod yn cael ei ddefnyddio gan rhywun rhyw ddiwrnod, ac y bydd y person hwnnw yn dod i rhyw gasgliad neu’i gilydd ynglyn a fy mywyd i – yn groes i fy ewyllys.

Rhyfedd neu beidio, mae un peth yn taro dyn fel morthwyl wrth edrych ar y stwff – mor anhygoel o leol oedd pob dim yn ymwneud a’r diwydiant – ac fel roedd y gornel fach blwyfol yma o’r bydysawd yn gallu ymestyn i bedwar ban byd. Cymry lleol oedd y capteiniaid bron yn ddi eithriad, enwau Cymreig sydd ar y rhestrau criw fel rheol – gydag ambell i enw tramor yn eu canol, Cymry oedd y perchnogion – grwpiau o bobl leol gyda chyfranddaliadau mewn llong yn aml, Cymry oedd yr adeiladwyr, Cymry oedd perchnogion y diwydiant yswiriant a’r diwydiant benthyca cyfalaf. Ac eto yn eironig (yn gwahanol iawn i’r diwydiant llechi), cymharol ychydig o dermau Cymreig yn ymwneud a’r diwydiant sydd ar gael – ychydig iawn o enwau ar gelfi adeiladu llongau er enghraifft.

Felly roedd y cylch cymharol gyfyng yma o Gymry ardal Porthmadog yn elwa o werthu llechi yn Stettin, Hambwrg, Efrog Newydd a New England a gogledd Affrica. Roeddynt yn elwa o gario olew morloi, esgyrn morfil (er mwyn gwneud dillad isaf marched ‘dwi’n meddwl), a baw gwylanod (trin tir) ar hyd arfordir canolbarth a gogledd America. Rowndiodd un neu ddwy yr horn, ac aeth un neu ddwy i Awstralia – dyna pam mae’n debyg bod tafarn o’r enw’r Australia ym Mhorthmadog.

Heddiw mae economi llawer o Gymru (gan gynnwys Porthmadog) wedi ei nodweddu gan lefelau isel o dwf, diffyg gallu i greu swyddi o ansawdd, dibyniaeth gormodol ar y sector gyhoeddus a dibyniaeth ar gyfarwyddyd strategol o’r tu allan. Cymaint cysondeb y patrwm hwn nes bod llawer yn credu bod methiant economaidd yn rhan o annian y Cymro – bron iawn yn rhan o’i dynged. Mae’r gred nad ydi hi’n bosibl i ni ffynnu yn economaidd heb ymyraeth ein cymydog agosaf wedi ei wreiddio yn dwfn yn ein his ymwybod torfol – mae’n egluro ein dibyniaeth seicelegol ar eraill, mae’n egluro ein perthynas niwrotig ac anaeddfed efo Lloegr.

Ac eto, nid oes rhaid crafu gormod o dan yr wyneb i weld ein bod wedi llwyddo i greu lefelau sylweddol o gyfalaf yn y gorffennol agos – ac felly gweithgarwch economaidd – pan roedd amgylchiadau yn addas ar gyfer hynny. Ein problem ni ydi nad ydi amgylchiadau wedi bod yn addas yn y rhan fwyaf o Gymru am gryn ganrif – canrif sydd wedi ei nodweddu gan dan berfformiad economaidd. Mae’n bosibl mai ni – neu ein lleoliad daearyddol sy’n gyfrifol am hyn wrth gwrs. Ond mae’r hyn sy’n digwydd ochr arall y Mor Celtaidd ar y naill llaw, a’r hyn a ddigwyddodd ym Mhorthmadog – ac mewn llawer o leoedd eraill) ganrif a hanner yn ol yn awgrymu nad y ffactorau hyn sydd wrth wraidd ein methiant economaidd.

Y cwestiwn diddorol ydi os mai ein lle yn strwythurau gwleidyddol ac economaidd Prydeinig ydi’r broblem

Sunday, January 15, 2006

Pam na ellir cael plaid asgell dde genedlaetholgar Gymreig?

Bydd y syniad o blaid asgell dde Gymreig yn cael ei drafod o bryd i'w gilydd - ac mae Simon Brooks yn cynnig amrywiaeth ar y thema ar faes e ar hyn o bryd. Gweler:

http://maes-e.com/viewtopic.php?p=253188&highlight=ail+ryfel+byd#253188

Mae'n hawdd gweld pam fod y syniad yn atyniadol i rai - wedi'r cwbl clymblaid digon anghyfforddus o bobl o safbwyntiau digon gwahanol ydi'r Blaid yn aml. Ond mae syniad Simon yn amhosibl - ac mae'n amhosibl am ddau reswm gwahanol, ond cysylltiedig.

(1) 'Does yna fawr o dystiolaeth bod carfan sylweddol o bobl sy'n genedlaetholgar (Gymreig) ac yn adain dde yn wleidyddol. Mae'r Gymru 'Gymraeg' a'r Gymru 'Gymreig' yn dlawd - ymysg yr ardaloedd tlotaf yn y DU. Nid yw gwleidyddiaeth adain dde yn ffynnu yn y math yma o sefyllfa yn aml yn y rhan yma o'r byd - er bod eithriadau wrth gwrs.

Ymhellach nid yw'r bleidlais Geidwadol yn gryf yn yr ardaloedd hyn (Mon yn eithriad efallai), ac nid oedd yn gryf cyn i'r Blaid dyfu yn rym arwyddocaol yn wleidyddol. Mae'r bleidlais adain dde ar ei chryfaf lle mae Cymru ar ei mwyaf Seisnig yn ddiwylliannol. 'Does yna fawr o ymdeimlad o Gymreictod ymysg pleidleiswyr Toriaidd - mae'n debyg i tua 90% ohonynt bleidleisio Na yn 98. Fydd y bobl hyn byth eisiau bod yn rhan o blaid 'Gymreig' - asgell dde neu beidio. Byddai plaid Gymreig adain dde o reidrwydd yn blaid fechan.

(2) Nid yw'r dulliau a ddefnyddir yng Nghymru i ethol aelodau Senedd a Chynulliad yn garedig wrth bleidiau bach. Mae'n rhaid wrth garfanau sylweddol o bleidleiswyr - 40% o leiaf fel rheol - i sicrhau ethol aelod efo'r dull first past the post - a dydi'r rhestrau rhanbarthol ddim mymryn gwell i bleidiau bychain. Byddai dull rhestr yn well o lawer i bleidiau o'r fath, a byddai dull STV yn well o dan rhai amgylchiadau hefyd.

Y drefn anarferol o ethol aelodau sy'n gyfrifol am y ffaith mai clymbleidiau ydi'r rhan fwyaf o bleidiau Prydeinig - a hyn hefyd sy'n gyfrifol yn y pen draw am ddilema Mr Brooks ac un Mr Peledr X. Pe byddai'r gyfundrefn bleidleisio yn gwahanol gellid cael cyfundrefn wleidyddol mwy tebyg i fodel Gwlad Belg (plaid adain dde Ffrangeg ac un Fflemeg, plaid adain Chwith Fflemeg a Ffrangeg ac ati). Yn sicr byddai gwleidyddiaeth pan mae'r clymbleidio yn digwydd rhwng pleidiau wedi etholiad yn well na'n sefyllfa ni, lle ceir clymbleidio oddi mewn i bleidiau cyn etholiau.

Ond dyna fo, nid yw'r gyfundrefn honno ar gael yma - a does neb yn gwrthwynebu symud mwy ar y mater hwn na'r Ceidwadwyr. Hyd bod y gyfundrefn ei hun yn newid Plaid Cymru ydi'r unig blaid sy'n addas ar gyfer cenedlaetholwyr Cymreig.

Y dewis ydi cefnogi Cymru trwy gefnogi'r Blaid, neu gefnogi Prydeindod trwy gefnogi plaid arall - neu ymneilltuo o'r broses wleidyddol.

Wednesday, December 21, 2005

Dafydd Iwan yn Cofi Roc

‘Dolig Dafydd yn Dre yn Cofi Roc neithiwr. Roeddwn dan yr argraff bod Dafydd Iwan wedi ymddeol – ond dyna fo – mae wedi gwneud hynny sawl gwaith o’r blaen ac wedi dychwelyd. Mae ambell i beth nad yw byth yn newid.

Noson ddigon difyr. Er bod y gynulleidfa’n ddigon teilwng, nid oedd yn agos cymaint o bobl yno nag oedd yn mynychu’r gigs ‘Dolig mawr DI yn Paradox yng nghanol y 90au. ‘Doedd yna ddim yr un trawsdoriad o ran oedran y gynulleidfa chwaith, digon canol oed oeddem at ein gilydd (mae’n beth braf i rhywun fy oed i gael teimlo’n weddol ifanc mewn gig). Dydi’r hen lais ddim yr hyn oedd o, a dydi’r un angerdd y tu ol i bethau nag a fu yn y dyddiau hynny pan oeddem i gyd yn ieuengach, pan oedd mynyddoedd ein blynyddoedd o’n blaenau.



Mae llawer o law wedi chwipio’r tomeni chwarel ers y dyddiau hynny pan oedd Dafydd yn ifanc ac yn perfformio mewn nosweithiau llawen. Pryd hynny roedd y mudiad iaith yn ei anterth,George Thomas yn fyw ac yn iach, hawliau ieithyddol prin yn bodoli, y syniad o gynulliad yn freuddwyd – ac wrth gwrs, yr ymdeimlad a’r sylweddoliad o’r hyn oedd rhaid ei wneud yn glir ac yn amlwg.

Bellach rydym wedi ennill llawer o’r brwydrau oedd yn edrych mor bwysig ar y pryd, ond mae’r ymdeimlad ein bod am golli’r rhyfel cyn gryfed, yn gryfach efallai nag y bu erioed. Yn waeth mae’r amheuaeth bellach wedi sleifio i’n hymwybyddiaeth torfol nad ydi’n rhyfel yn un sy’n bosibl ei hennill – ta waeth faint o frwydrau unigol yr ydym wedi eu hennill yn y gorffennol, ac y byddwn yn eu hennill yn y dyfodol.

Ac mae Dafydd ei hun ysywaeth wedi heneiddio, wedi ymbarchuso, wedi ymgyfoethogi, wedi troi’n wleidydd go iawn. Mae’n derbyn llawer o feirniadaeth fel gwleidydd – ac mae rhywfaint o’r feirniadaeth honno’n deg – nid gwleidydd naturiol mohono o bell ffordd. Nid yw’n berson sy’n ei chael yn hawdd i godi pontydd, i gymodi, i grisialu ei wleidyddiaeth, a gwleidyddiaeth y Blaid i nifer gyfyng o gysyniadau a sloganau syml, i ffocysu ar yr hyn sy’n bwysig yn wleidyddol. Wedi dweud hynny, mae’n areithiwr da, gall fod yn ddigon ysbrydoledig ar ei ddydd ac yn bwysicach mae ei wleidyddiaeth yn war, goddefgar, eangfrydig, gwlatgarol a gonest.

Ond y caneuon ydi’r pethau pwysicaf am Dafydd. Maent yn llwyddo i wneud rhywbeth nad yw’n gwneud cystal fel gwleidydd. Maent yn mynegi ac yn crisialu gwleidyddiaeth Dafydd – ffordd unigryw anghydffurfiol Gymreig o edrych ar y byd, a gosod y wleidyddiaeth honno mewn cyd destun ehangach gwleidyddiaeth gwrth imperialaidd fyd eang. Yng nghyd destun gwleidyddiaeth gwan y sawl sydd dan orthrwm, y sawl sydd am oroesi yn nannedd grymoedd sy’n fwy pwerus o lawer na nhw eu hunain.

Ac am ychydig neithiwr, ar derfyn y noson, ar ol suddo gormod o beintiau, wrth ddawnsio i gyfeiliant y caneuon hynny, roedd y blynyddoedd cynharach hynny’n dychwelyd fel gwenoliaid yn y gwanwyn. Am ychydig roeddem yn ol yn mwynhau’r dyddiau hynny lle’r oedd cymaint mwy i’w gyflawni na sydd heddiw, ond pryd roeddem hefyd efo mwy o le i obeithio. Ac ar ben hynny roedd Lwi yn ei le wrth y llwyfan, peint o’i flaen.

Da dy weld ti’n well boi – efallai y bydd popeth yn dda wedi’r cwbl.



Lwi.

Wednesday, December 14, 2005

Oes Dyfodol i'r Toriaid?

Digwydd darllen yr erthygl yma yn y Guardian heddiw.

Yr hyn a'm synodd oedd y ffigyrau ynglyn a'r Cymdeithasau Ceidwadol - dim ond 450 - a hanner y rhain gyda llai na chant aelod. Mae tua 650 etholaeth cofiwch.

Mae'n ymddangos mai 250,000 ydi aelodaeth y blaid tros Prydain (cwymp o 50,000 tros bedair blynedd) - tua 380 am pob etholaeth.

Mae oed cyfartalog eu haelodau yn 67, mae dwy dreuan ohonynt ar y dol.

Yn y cyfamser mae eu gwariant ar etholiadau yn enfawr - £17.85m - neu £2.03 am pob pleidlais trwy Brydain (uwch na neb arall).

Mae'r ffigyrau yn fwy trawiadol yng Nghymru - £845,015.71 - neu £280,000 am pob un o'u tair sedd.

Beth bynnag am y gobaith newydd Cameron ac ati, oes, mewn difri ddyfodol i blaid sydd mor hen, sydd a'i haelodaeth yn cwympo o ddiwrnod i ddiwrnod, sydd yn gorfod dod o hyd i gymaint o bres i brynu pob sedd a phob pleidlais?

Monday, December 05, 2005

Tri Chynhebrwng ac Ysgariad

Cynhebrwng mawr mae’n debyg – 60,000 o alarwyr, gan gynnwys llond lle o bobl adnabyddus o fyd peldroed a chwaraeon, gwleidyddion lleol – wedi eu hamgylchu gan y swyddogion diogelwch sydd o hyd yn un o nodweddion unrhyw ddigwyddiad cyhoeddus yng Ngogledd Iwerddon. Y daith i lawr y Prince of Wales Avenue heibio delw Edward Carson i ganol ysblander Neuadd Fawr Stormont yn rhoi arlliw o rwysg cynhebrwng gwladol. Sianeli teledu yn dangos y digwyddiad yn fyw o’r dechrau i’r diwedd. Tudalennau blaen a chefn y tabloids a’r papurau sydd yn esgys bod yn fwy difrifol yn llawn o’r stori heddiw.

Ac eto, mae’n anodd meddwl pam. ‘Doedd George heb chwarae pel droed ers degawdau – mae’n debyg nad oedd llawer o’r sawl aeth i’r cynhebrwng, neu a welodd y digwyddiad ar y teledu hyd yn oed yn ei gofio fel chwaraewr. Mae’n debyg eu bod wedi gweld llawer mwy ohono ar dudalennau’r tabloids tros y blynyddoedd.



A beth maent wedi ei weld a’i ddarllen amdano yn y tudalennau hynny? Storiau am lu o wahanol antics meddw, storiau am hwrio, lluniau ohono yn clecian peintiau o flaen y wasg ychydig fisoedd ar ol cael iau newydd, storiau ohono’n rhoi tipyn o grasfa i rhyw hogan bach ddel o wraig sy’n ymddangos ar I'm A Celebrity Get Me Out of Here yn ddiweddarach, ymosod ar blismyn, rwdlan yn feddw ar sioe deledu. Mae’r papurau wedi trosglwyddo’n ffyddlon hanes dyn a wrthododd gymryd cyfrifoldeb tros ei fywyd ei hun – dyn a safodd o’r neilltu ac edrych ar ei yrfa, ei berthynas efo’r sawl oedd agosaf ato, ei fywyd yn datgymalu, yn llithro i ffwrdd ac yn hydoddi. Dyn na allai gymryd cyfrifoldeb am ei fywyd ei hun - dyn nad oedd yn fodlon gwneud yr ymdrech. A defnyddio’r idiom Saesneg Couldn’t be arsed.

O edrych ar yr holl sioe, mae’n anodd braidd peidio meddwl am ddau gynhebrwng mawr cyhoeddus arall – y ddau ohonynt yn fwy nag un George – o ran y niferoedd a fynychodd o leiaf. Cynhebryngau dau arall a welodd eu bywydau’n cael eu siapio a’u taflu i’r naill gyfeiriad a’r llall gan rymoedd mwy na nhw eu hunain o lawer.

‘Roedd y cyntaf ar ddydd Sadwrn, Medi 6 1997 yn Eglwys Gadeiriol Westminster. ‘Roedd rhai pethau’n gyffredin rhwng cynhebrwng Diana ac un George. Llond lle o wynebau adnabyddus o’r cyfryngau, diddordeb ysol gan y papurau tabloid a’r cyfryngau, yr ymadawedig wedi byw rhan dda o’i bywyd rhwng cloriau’r papurau tabloid.

‘Roedd gwahaniaethau hefyd. Rhwysg Prydeindod yn nodwedd amlwg o’r digwyddiad, tyndra gwrth sefydliadol ynghlwm a fo yn sgil amgylchiadau’r farwolaeth a blynyddoedd olaf Diana. Roedd yr ymdeimlad o hysteria tawel torfol yn gryfach o lawer yn y cynhebrwng hwnnw.

Ond y gwahaniaeth mwyaf arwyddocaol oedd yr un rhwng George a Diana eu hunain. Beth bynnag ei gwendidau hi – ac roedd ganddi ddigon – o leiaf ceisiodd reoli ei bywyd ei hun – ceisiodd gymryd gafael arno. Byddai wedi bod yn hynod o hawdd sefyll yn ol – ymneilltuo o’i bywyd – dyna oedd disgwyl iddi ei wneud – dyna oedd bron i bawb oedd wedi bod yn ei sefyllfa hi wedi ei wneud o’r blaen.




Yn gwahanol i George, roedd yr ymddygiad oedd yn ei chael ar dudalennau blaen y tabloids – y bwlimia, yr hwrio, y gyboli efo pobl anerbynniol, yr anghytuno cyhoeddus efo’i gwr, yr ysgariad – y defnydd bwriadol o’r papurau tabloid yn ei rhyfel efo’i gwr hyd yn oed – yn ymdrech i gymryd rheolaeth o’i bywyd – i beidio cael ei sgubo i lawr afon oedd y tu hwnt i’w rheolaeth.

‘Roedd y trydydd cynhebrwng fel un George yng Ngogledd Iwerddon. Fe’i cynhalwyd ar Fai’r 7 1981. Er ei fod yn gynhebrwng aelod seneddol, nid aeth yr orymdaith ar gyfyl Plas Stormont – cynhebrwng Bobby Sands oedd o.

Roedd rhwysg ynghlwm a’r cynhebrwng hwn hefyd – rhwysg milwrol y traddodiad Gweriniaethol. Ond roedd y gwahaniaethau yn fwy trawiadol.

Roedd y wasg yno hefyd – ond ‘roedd y berthynas rhyngddynt a’r ymadawedig yn gwbl wahanol – ‘roedd Sands yn ymgorfforiad o ddrygioni llwyr iddynt – nid gwrthrych storiau lu oedd wedi gwerthu miliynau o gopiau o’r papurau.

Nid oedd fawr ddim wynebau adnabyddus yno – dim ond degau o filoedd o bobl o dai teras strydoedd culion gorllewin a gogledd Belfast, o ffermydd bach a man bentrefi Fermanagh, Tyrone ac Armagh, o drefi amaethyddol megis Omagh a Monaghan, o stadau enfawr Tallaght a Ballymun yn Nulyn. ‘Doedd yna ddim gorymdaith i fyny erwau eang Prince of Wales Avenue na’r Mall ond yn hytrach ymlwybrodd yr orymdaith i fiwsig yr hofrenyddion milwrol oddi fry trwy gulni clostraffobig y Lower Falls yng nghysgod fflatiau’r Divis ac yna i fyny trwy’r Upper Falls ac i fynwent Milltown – i fyny prif rydweil y gwrthryfel yn y Gogledd.

Nid awyrgylch o dristwch oedd yno, cymaint ag awyrgylch o arwahanrwydd a chwerder – fel petai’r glaw cyson yn ymdrochi’r dyrfa enfawr mewn surni.

Mae’r tebygrwydd a’r gwahaniaethau rhwng y tri chymeriad yn ddigon dadlennol. ‘Roedd George a Bobby yn eu ffyrdd gwahanol wedi ymneulltuo o’u bywydau eu hunain ac wedi caniatau i’r bywydau hynny gael eu llywio a’u rheoli’n llwyr gan rymoedd eraill – grymoedd o’r tu allan yn achos Bobby, a rhai o’r tu mewn yn achos George.. Cai bywyd George ei reoli gan reddfau ac anghenion sylfaenol, tra bod bywyd Bobby yn cael ei reoli gan ideoleg anhyblyg, crefyddol bron y gymuned oedd yn byw ynddi ar gyrion de orllewin Belfast. Cafodd bywydau’r ddau eu gwenwyno a’u difa gan y grymoedd oedd yn eu rheoli. Treuliodd George y rhan fwyaf o’i fywyd fel oedolyn yn feddw, a threuliodd Bobby y rhan fwyaf o ddigon o’i fywyd fel oedolyn mewn carchar. Bu farw Bobby ar ol deufis heb fwyta, bu farw George o gymhlethdodau yn deillio o’i alcoholiaeth.

Ar un ystyr roedd Diana yn fwy o rebel na’r naill a’r llall. Gwrthododd ildio i’r grymoeddallanol oedd yn ceisio meddianu ei bywyd hithau – a mewn rhai ffyrdd cafodd lwyddiant. Er ei bod yn llawer llai deallusol na’r ddau ddyn, ac yn llawer llai dewr na Bobby, roedd ganddi fwy o afael a rheolaeth ar ei bywyd ei hun rhywsut.

Ond mae un gwahaniaeth rhwng y tri chynhebrwng yn taflu goleuni ar un gwirionedd sylfaenol. Y ffordd i gyrraedd at y gwirionedd yma yw trwy ofyn y cwestiwn pa fywyd a pha gynhebrwng yw’r mwyaf arwyddocaol o ran yr effaith a gawsant?

Byddai rhai’n dweud ei bod yn fuan i ddweud pa effaith a gaiff bywyd ac angladd George – ond ‘dim’, neu ‘nesaf peth i ddim’ ydi’r ateb – mae hynny’n amlwg. Mae’n anhygoel ar un olwg cyn lleied o ddylanwad ar y berthynas rhwng y frenhiniaeth a’r boblogaeth yn gyffredinol a gafodd bywyd, amgylchiadau marwolaeth a chynhebrwng Diana – unwaith eto ‘dim’, neu ‘nesaf peth i ddim’.

Ar y llaw arall cafodd bywyd, neu’n hytrach farwolaeth Bobby ddylanwad pell gyrhaeddol ar hanes ei wlad ei hun. Yn y tymor byr arweiniodd at drais sylweddol. Yn y tymor hirach arweiniodd at dwf gwleidyddol Sinn Fein – ac arweiniodd hynny yn ei dro at y broses heddwch a’r cadoediad. Yn y chwarter canrif ers yr ympryd newyn mae gwleidyddiaeth Iwerddon wedi ei ail bensaernio – yn arbennig felly yn y Gogledd – ond mwyfwy yn y De erbyn hyn. Mae’r broses yn dal i weithio ei ffordd tua’i therfyn heddiw – ond bydd tirwedd gwleidyddol Iwerddon – Gogledd a De wedi ei drawsnewid mewn degawd. Mae hadau’r newid hwn wedi eu planu yn surni’r orymdaith gynhebryngol honno a’r amgylchiadau a arweiniodd ati bron i chwarter canrif yn ol. Pan aeth pobl yn ol adref i Tallaght, Tralee, Ardboe, Newry ac Armagh roeddynt yn seiliau i wleidyddiaeth etholiadol newydd – gwleidyddiaeth sur, chwerw, gwrthnysig – ond gwleidyddiaeth gwydn a phwerus.
Pam felly bod dylanwad marwolaeth Diana yn fwy tebyg i un George nag un Bobby? Mae’r ateb yn natur apel George a Diana. Cymeriadau tabloid oeddynt i bob pwrpas. Roedd ein diddordeb ynddynt yn debyg i’r diddordeb sydd gennym mewn cymeriadau opera sebon – roeddem yn eu hoffi am eu bod yn ein darparu gydag adloniant. Cymeriadau ffantasi oedd y ddau – rhywbeth y byddem yn hoffi bod – weithiau o leiaf. Dyna ydi’r papurau tabloid, a’r diwylliant tabloid - ffynhonnell adloniant, dihangfa, ffantasi. Yn ddi amau roedd llawer o’r sawl oedd yng nghynebrynnau Diana a George yno i dalu teyrnged – ond roedd llawer yno am eu bod eisiau bod yn rhan o’r sioe, yn rhan o’r adloniant.




Nid cymeriad tabloid oedd Bobby – a ‘doedd o ddim yn rhan o ddiwylliant adloniant chwaith. ‘Roedd y sawl a fynychodd ei gynhebrwng o yno am reswm arall. Pobl y cyrion oeddynt yn bennaf – y rhai o’r De yn ogystal a’r Gogledd. ‘Roedd profiad y Gogleddwyr o berthynas efo’r wladwriaeth a’r unigolion oedd yn cynnal y wladwriaeth honno, yn brofiad negyddol. Roedd y wladwriaeth (ar wahan i wahaniaethu yn eu herbyn) yn gwadu eu bodolaeth, ac felly yn gwadu eu hymdeimlad o hunan werth. Surni a gelyniaeth oedd yn nodweddu eu hagwedd tuag at y wladwriaeth – a’u cymdogion, ac roedd y surni hwnnw’n cael ei atgyfnerthu gan y cynhebrwng, a’r amgylchiadau oedd wedi arwain ato. Pobl o haen isaf cymdeithas y De oedd ar y Falls y diwrnod hwnnw’n bennaf – pobl fyddai wedi eu siomi yn yr wladwriaeth annibynnol a esblygodd yn y De. Pobl oedd yn credu mewn Iwerddon rydd, ond roedd yr Iwerddon rydd a gawsant wedi methu gwella ansawdd eu bywydau. Pobl siomedig.

Ac mae hyn yn ein harwain at wirionedd sylfaenol am y cyflwr dynol. ‘Dydi’r hyn sydd yn ein diddanu ni neu’n gwneud i ni chwerthin, neu’r ffilm neu’r llyfr sy’n gwneud i ni grio ddim yn effeithio llawer ar y ffordd yr ydym yn edrych ar y byd. Ond mae sefyllfaoedd sydd yn ein siomi, sy’n ein suro, sydd yn tanseilio’r ymdeimlad sydd gennym o’n hunan werth, sy’n ein dadrithio, sy’n bychanu’r pobl a'r pethau sy’n bwysig i ni yn newid yn sylfaenol y ffordd yr ydym yn edrych ar y byd. Gall hefyd, o dan rhai amgylchiadau, drawsnewid tirweddau gwleidyddol.

Monday, November 14, 2005

Terfysgoedd Ffrainc - beth yw'r eglurhad?



Mae'r sawl sy'n ceisio egluro'r hyn sydd wedi digwydd yn Ffrainc yn ceisio egluro pethau mewn un o dair ffordd.

Eglurhad 1. Canlyniad anhepgor amddifadedd economaidd, diffyg gwaith, diffyg cyfle, diffyg cynhwysiad ac ati. Gellir disgrifio'r eglurhad yma fel un chwith / ryddfrydig traddodiadol. Os nad ydi grwpiau yn ymddwyn yn briodol, yna bai'r gyfundrefn sydd ohoni ydi hynny.

Eglurhad 2. Nid ydi'r sawl sy'n creu trais ac yn gwrthdystio wedi eu gorfodi i ymylon cymdeithas - nhw sydd wedi gwneud y dewis i optio allan o gymdeithas Ffrengig. Gellir disgrifio'r eglurhad yma fel un cenedlaetholgar / adain dde. Mae digwyddiadau fel La Marseillaise yn cael ei boddi mewn mor o fwio sarhaus mewn gem gartref ddiweddar rhwng Ffrainc ac Algeria yn rawn ym melin y ddadl yma.

Eglurhad 3. Bai al-Qaeda ydi pob dim. Gellir disgrifio'r eglurhad yma fel un adain dde pell McCarthyite. Rhyw adlais o reds under the bed y 50au yn America.

Mae'n debyg bod elfennau o pob un o'r tri eglurhad yn cyfrannu at y sefyllfa, ond mae pa eglurhad ydi'r pwysicaf gyda goblygiadau pell gyrhaeddol, nid yn unig yn Ffrainc, ond ymhell y tu hwnt hefyd.

Os mai eglurhad 1 ydi'r pwysicaf, mae'r ateb yn weddol syml - cynyddu cyfleoedd am waith, gwella statws economaidd ac ati.

Mae'r ateb hefyd yn weddol syml os mai eglurhad 3 ydi'r pwysicaf. Cynyddu pwerau'r gwasanaethau cudd, yr heddlu, y gyfundrefn gyfreithiol ac ati.

Os mai eglurhad 2 ydi'r bwysicaf mae mwy o broblem. 'Does yna ddim ffordd hawdd o gymhathu pobl, nad ydynt am i hynny ddigwydd. Byddai'n golygu bod yr arbrawf Ffrengig mewn intergreiddio lleiafrifoedd yn fethiant llwyr. Byddai hefyd yn awgrymu bod faultlines na ellir eu cuddio wedi eu hadeiladu i mewn i gymdeithas.

Byddai hefyd yn awgrymu bod y broblem yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ffiniau Ffrainc.

Mae'r holl bennod yn ein harwain yn ol at wrthdystiadau mawr y 60au yn Ffrainc. Mae'n anodd gor bwysleisio arwyddocad y digwyddiadau hynny yn hanes y cyfandir. Daeth y 68ers i ddominyddu meddylfryd deallusol y cyfandir gyda'u credoau oedd yn mawrygu cymdeithas aml ddiwylliannol, rhyddid moesol i'r unigolyn a chred yn naioni'r wladwriaeth a hawl y wladwriaeth honno i ymyrryd ym mywyd economaidd ei thrigolion.

Tybed os bydd un cyfres o wrthdystiadau ar strydoedd dinasoedd mawrion Ffrainc yn rhoi atalnod llawn ar ddeilliannau cyfres arall o wrthdystiadau ddeugain mlynedd ynghynt?

Saturday, October 08, 2005

Cameron, Davis, Newsnight a Chymru

Tybed os ydi hi'n bosibl bod un rhaglen deledu (yn dilyn araith wael a'r cyhoeddusrwydd gwaeth a ddilynodd hynny) efo'r gallu i newid cwrs ras am arweinyddiaeth plaid enfawr fel y Blaid Geidwadol?

Gweler.

Mae David Davis yn ddiddorol o ran Cymru. Mae'n (neu roedd) dweud yn breifat mai ei hoff drefniant cyfansoddiadol ar ran Prydain fyddai un ffederal. Byddai'r math yma o drefniant yn gadael Cymru'n lled annibynnol mewn materion cartref.

Byddai'n anffodus petai un eitem mewn rhaglen wleidyddol yn gallu gwneud y gwahaniaeth rhwng datblygiadau i'r cyfeiriad hwn yn y dyfodol agos, a dim datblygiadau o gwbl.

Thursday, September 29, 2005

Amherst a'r Caernarvon & Denbigh



Digwydd dod ar draws y ddogfen yma wrth chwilio am rhywbeth arall ar y We y diwrnod o’r blaen.

I'r rhai ohonoch sydd methu darllen y llawysgrifen, dyma mae'n ei ddweud.

You will do well to try to inoculate the Indians by means of [smallpox-infected] blankets, as well as to try every other method that can serve to extirpate this execrable race."
- Cadfridog Amherst, Arglwydd Gadfridog Prydain yng Ngogledd America. Y dyn pwysicaf ar y cyfandir.

Ers talwm ‘roeddwn yn gweithio mewn archifdy. Rhyw joban blwyddyn oedd hi – dim gormod o waith go iawn, ond digonedd o amser yn y strongrooms yn byseddu trwy’r papurau hynny sy’n dystion mud i dalp o hanes yr hen Sir Gaernarfon.

O bryd i’w gilydd byddwn yn dod ar draws rhywbeth fyddai’n mynd a’m gwynt - rhywbeth anisgwyl a datguddiol. Profiad fel cynnau matsen mewn ogof enfawr, cwbl dywyll. Er enghraifft y llythyrau a’r erthyglau golygyddol yn y Caernarfon & Denbigh yn ystod yr argyfwng colera yng Ngaernarfon yn 1866 yn beio arferion anfoesol y tlodion oedd yn dioddef o’r afiechyd. Y gwir reswm oedd nad oedd system garffosiaeth ardaloedd tlawd yng nghanol y dref – ardaloedd oedd yn berwi efo pobl, oherwydd nad oedd yr awdurdodau am wario ar yr ardaloedd hyn. Neu lyfr log ysgol yn adrodd mewn arddull ffurfiol, moel, di deimlad ar absenoldeb geneth fach oherwydd cynhebrwng ei mam.

Dogfennau sych yn rhoi cip bach ar ochr ddu byd sydd wedi hen fynd - byd gyda rhaniadau cymdeithasol dybryd – a diffyg cydymdeimlad llwyr rhwng un dosbarth a’r llall.

Ac mae llythyr yr Arglwydd Gadfridog Amherst yn taflu golau tebyg ar wir natur yr Ymerodraeth Brydeinig. ‘Roedd y cyfiawnhad tros yr Ymerodraeth Brydeinig yn ei bortreadu fel ymarferiad gwar i wella ansawdd gwledydd pell anwar – i’w paratoi ar gyfer y dydd pan y byddai’r tramorwyr yn gallu rhedeg eu sioe eu hunain – baich y dyn gwyn.

Mae’r erthygl hon yn rhoi blas o’r gwirionedd. Cyrff tramorwyr wedi eu pentyrru ar ben ei gilydd – mesul miliwn

Wednesday, September 21, 2005

New Orleans, Mayo, Mai Lay, y Dixie a Fallujah

Medi 05 - Trychineb New Orleans. Wele erthygl wych Tom McGurk yn y Sunday Business Post yma. Dyfynaf ran, ond mae'n werth darllen y cwbl:

At the core of US foreign ambitions has been the notion that the sooner the rest of the world is refashioned in America's likeness, the better. When George W Bush talks about spreading freedom and democracy across the globe, what he really means is making the rest of the world more like America.

Why? Because, according to the American myth, the US today is the realisation of centuries of achievement and ambition. You could even see it in the snarl-lines around Donald Rumsfeld's mouth when he referred to ‘old Europe'.

Well, let's look at the society the US has ambitions to inflict on the rest of the world. If the flood tides pouring through the New Orleans levees have swept anything to the surface, it is the great secret the US has hidden for generations.

The secret is that, beyond all the braggadocio and superpoweritis of its media society dominated as it is by entertainment values is the reality that almost 40 per cent of Americans live in a third world, side by side with the first world.

It is a third world where educational, social, medical and employment opportunities simply do not exist; a third world that is uniquely of America's own making.

You can see them on all the news programmes this weekend, sitting on rooftops and motorway intersections, possessing nothing more than the clothes they are wearing. Here, in the world's greatest superpower, which has the technology and resources to move mountains and drain oceans, are its own citizens starving, without water, abandoned and left waving in desperation at passing press helicopters.

What a view of the American dream they have from the streets, where they are competing with the fleeing rats and the wild animals to find food and shelter.

In a mere 72 hours, as parts of New Orleans fell into complete social disorder, the White House has apparently been more concerned about the law and order problem than about the waterless, starving, dying masses.


Dydi'r Dde yn America ddim yn cytuno wrth gwrs - mae ganddyn nhw eglurhad haws o lawer - sef.

Ychydig fisoedd ynghynt 'roedd yr UDA yn gwneud eu gorau i orfodi eu ffordd nhw o fyw ar Irac trwy ymosod ar dref Fallujah. (Not for those of a nervous disposition oedd y geiriau a ddefnyddid ar y teledu ers talwm).

Gwibiwch yn ol ddeugain mlynedd i Mai Lay

Gwibiwn yn ol ymhellach i'r bedwerydd ganrif ar bymtheg, a gwreiddiau'r feddylfryd asgell dde Americanaidd bresenol, meddylfryd sydd yn edrych yn ol America'r bedwaredd ganrif ar bymtheg fel rhyw baradwys bydol - byd di dreth a di wladwriaeth les, byd lle byddai ymdrech yn cael ei gwobreuo, byd lle'r oedd parch at gyfraith a threfn, byd lle'r oedd y tlawd a'r tywyll eu croen yn gwybod eu lle, byd lle nad oedd y wladwriaeth efo rhyw lawer o ddylanwad ar fywyd yr unigolyn. Ac wrth gwrs, nid oedd unman gwell na'r Dixie.

Ond wrth gwrs ffantasi ydi'r uchod. Ceir awgrym o wir natur y gymdeithas, a'r wleidyddiaeth sydd wedi gwreiddio ynddi yma, ac yn fwy erchyll yma. (Un arall i'w osgoi gan bobl y nervous disposition).

Y peth mwyaf arwyddocaol am y lluniau iasoer, trist yma i mi ydi bod cymaint ohonynt yn gardiau post - roedd y sawl oedd yn gyfrifol am y lynchings (dim gair Cymraeg amdano hyd y gwn i - mae'n debyg na fu rheswm i fathu gair yng Nghymru) yn poeni dim y byddai eu gweithredoedd yn cael eu cofnodi ar ffilm a'u dosbarthu. 'Roedd y gymdeithas a edrychir yn ol arni gyda'r fath hiraeth yn sespit o lofryddiaeth, hiliaeth, oedd a diffyg ymdeimlad llwyr o gyfrifoldeb sifil a chymdeithasol.

Ond wedyn mae diwylliant gwleidyddol Prydain yn dra gwahanol wrth gwrs.

Wel, tybed? Mae'n debyg gen i fod y wladwriaeth Brydeinig wedi bod i ryfel yn erbyn mwy o elynion gwahanol nag unrhyw wlad arall erioed. Maen nhw'n dweud bod deg ar hugain gair gan yr Esgimo am gwahanol fathau o eira. Mae eira yn rhan canolog o'r cyflwr o fod yn Esgimo. Yn yr un ffordd mae dwsinau o eiriau Saesneg i ddilorni pobl o gefndiroedd ethnig gwahanol. Fedra i ddim meddwl am un gair o'r fath yn y Gymraeg. Maent rif y gwlith yn y Saesneg.

A cheir blas ar y feddylfryd ar waith o edrych yn ol i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg unwaith eto.

Yn yr 1840au hwyr yn yr Iwerddon cafwyd pydredd yn lledaenu trwy gynhaeafau tatws y wlad am nifer o flynyddoedd yn olynol. Tatws oedd prif ffynhonell bwyd ac incwm y tlodion gwledig - ac roedd miliynau ohonynt. Trwy gydol y cyfnod 'roedd y tirfeddianwyr Seisnig, oedd wedi dwyn tir y Pabyddion cynhenid mewn canrifoedd blaenorol, yn allforio grawn i Loegr.

Syrthiodd angau a distryw tros eangdiroedd enfawr o Mayo trwy'r canoldiroedd ac i Cork tra ai'r allforio rhagddo. Bu farw llawer ar ochrau'r lonydd, yn y ffosydd ac yn y caeau, gan bydru, neu gael eu bwyta gan anifeiliaid lle'r oeddynt wedi syrthio - fel defaid. Caeodd llawer, llawer mwy eu hunain y tu ol i ddrysau eu tai fel y dynesai marwolaeth, er mwyn marw ymysg y sawl a'u carodd, gan geisio cadw gafael ar y mymryn urddas oedd yn weddill iddynt hyd y diwedd. Mae geiriau Fr Ward, offeiriad, yn dysteb dagreuol i dreueni'r bobl hyn, a'u penderfyniad pathetig i adael y byd yn barchus:

Our poorhouse is crammed. Still, thousands are craving admittance in vain, hoping to be coffined, rather than be exposed after death to dogs or wild birds of prey.

Yn y cyfamser 'roedd yr allforio yn mynd yn ei flaen, ac 'roedd y fframwaith deallusol a ddefnyddid i egluro hyn yn weddol gyfarwydd unrhyw un heddiw sydd wedi darllen ymateb rhai ar eithafion asgell Dde gwleidyddiaeth America i'r tsunami yn Asia a'r llifogydd yn New Orleans. Mae'r Arglwydd Trevelyan yn rhoi'r feddylfryd honno mewn geiriau'n weddol dwt:

The Famine was the judgment of God on an indolent and unself-reliant people. It was the cure ... applied by the direct stroke of an all wise Providence in a manner as unexpected ... as it is likely to be effectual! As God had sent the calamity to teach the Irish a lesson, that calamity must not be too much mitigated.

Ysgrifennodd yr Esgob John MacHale o Tuam y canlynol i'r Arglwydd John Russell, prif weinidog Prydain:

Your great destiny is the rescuing of an entire people from the jaws of famine.

Ond nid felly oedd Russell yn ei gweld hi. Y person a anfonwyd i liniaru ychydig ar y newyn oedd Sir Randolph Routh, a dyma a ddywedodd wrth ddirprwyaeth ddaeth i'w weld yn Achill:

It is essential to the success of commerce that the mercantile interest should not be interfered with; that it is a mistake to lower prices to assist starving people, for it gave bad habits to the people; and that the government was now determined not to interfere with the merchants but to act in accordance with the enlightened principles of political economy.

Efallai bod dataganiad Synod Thurles i bobl Iwerddon yn 1850 yn mynegi'n berffaith beth ddylai unrhyw un gydag owns o gydymdeimlad a'i gyd ddyn feddwl o'r feddylfryd Eingl Sacsonaidd asgell Dde sy'n rhoi aur o flaen cyd ddyn, damcaniaethau gwleidyddol ac economaidd o flaen atal poen a dioddefaint - ac sydd eisiau allforio'r feddylfryd i weddill y byd - gyda chymorth taflegrau Cruise a bomiau clwstwr os oes angen.

The desolating track of the Exterminator, is to be traced in too many parts of the country - in those levelled cottages and roofless abodes where so many virtuous and industrious families have been torn by brute force, without distinction of age or sex, sickness or health, and flung upon the highway to perish in the extremity of want....

We behold our poor not only crushed and overwhelmed by the awful visitation of Heaven, but frequently the victims of the most ruthless oppression that ever disgraced the annals of humanity. ... we see them treated with a cruelty that would cause the heart to ache if inflicted on the beasts of the field ... One of the worst fruits of the False Teaching of the age, has been to generate a spirit of contempt, hard heartedness, and hostility to the Poor. While the Gospel everywhere breathes respect and love for the poor ... the spirit of error ... denounces them as the great nuisance of the moral world.


Amen

O.N Cyfandir arall, ond yr un hen stori. Newydd ddod ar draws hwn:



Rhag ofn nad ydych yn gallu darllen y llawysgrifen - dyma'r neges:

You will do well to try to inoculate the Indians by means of [smallpox-infected] blankets, as well as to try every other method that can serve to extirpate this execrable race."
- Cadfridog Amherst, Arglwydd Gadfridog Prydain yng Ngogledd America.

Sunday, September 18, 2005

Ail gyfle?










Baneri Gwlad y Basg y tu allan i fflatiau preifat yn yn Bilbao, arwydd ar ddrws bar yn yr un ddinas, baneri Catalonia ar adeiladau cyhoeddus yn Perpignon, a’r Ddraig Goch ar y British Legion yng Nghaernarfon

Beth bynnag am gyflwr sylfaenol diwylliannau cynhenid y tair gwlad, nid oes fawr o amheuaeth bod symbolau gweledol y gwledydd yn amlycach o lawer heddiw nag oeddynt ugain mlynedd yn ol.

Mae’n gwestiwn diddorol os oes rhywbeth sylfaenol ar droed, ynteu rhyw adwaith arwynebol i’r broses globlaleiddio sydd ar waith. Pan ddechreuodd yr ad drefnu mawr y map gwleidyddol y byd (Gorllewin yn fwy penodol bryd hynny) tua chanrif a hanner yn ol (gweler hyn) – gyda’r gwladwriathau modern yr ydym ni yn eu hadnabod heddiw yn dechrau cymryd lle’r trefniadau ymerodrol / brenhinol oedd o’u blaenau, ymddangosodd gwledydd newydd. Parhaodd hyn trwy'r ganrif diwethaf yn sgil y rhyfeloedd mawr, dad drefidigaethu a chwymp y gyfundrefn gomiwnyddol. Gan amlaf byddai rhyw fath o rational ieithyddol, crefyddol neu ethnig i’r gwladwriaethau newydd. Lwc mewn ffordd oedd bod y gwledydd a ddaeth i fodolaeth, wedi gwneud hynny. Adlewyrchiad o leoliad grym gwleidyddol, ac ystyriaethau gwleidyddiaeth ryngwladol y cyfnod.

Petai’r newidiadau wedi digwydd mewn cyfnod arall, gallai Cymru, Catalonia neu Wlad y Basg fod wedi bod yn wladwriaethau go iawn. Yn sicr roedd pob un o’r gwledydd yn medu ar cohesion mewnol cryfach nag oedd gan rhai o’r gwladwriaethau a lwyddodd.

Saturday, September 10, 2005

David Davies a'r Cynulliad



Mae David Davies yn cwyno am gost adeiladu'r adeilad newydd i'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei flog.

Efallai fy mod yn gwneud cam a'r dyn, ond nid wyf yn ei gofio'n cwyno am gost bloc o swyddfeydd o'r enw Portcullis House ar gyfer aelodau seneddol yn San Steffan. Ymddengys bod y rhain wedi costio £235,000,000 - mwy na miliwn ar gyfer pob AS sydd yn defnyddio'r lle.

Pam felly bod David (ac eraill) mor flin am y £66,000,000 mae'r Cynulliad wedi ei gostio?

'Dwi'n credu bod yr ateb yn weddol syml. Mae'n werth gwario ar ddemocratiaeth Prydeinig, ond gwastraff adnoddau ydi gwario ar ddemocratiaeth Gymreig. Wedi'r cwbl mae Prydain yn wlad go iawn, ond rhyw esgys tila am wlad ydi Cymru. Oherwydd hyn, mae David yn flin gweld arian yn cael ei wario ar greu posteri yn iaith yr esgys tila yma o wlad. Gweler.

Mae David Davies yn wleidydd poblogaidd a galluog. Mae hefyd wedi cymryd y drafferth i ddysgu'r Gymraeg. 'Dwi wedi cyfarfod a fo unwaith - mewn siop lyfrau yng Nghaerdydd. Roedd yn chwilio am lyfrau dysgu Magia - iaith Hwngari. Eglurodd bod ei ddyweddi'n dod o'r wlad honno. Fe'i cefais yn fachgen cwrtais, dymunol a diymhongar. Ond - 'dydi Cymru ddim angen gwleidyddion fel David Davies. Mae'n ystyried democratiaeth ei wlad ei hun yn is raddol, iaith ei wlad ei hun yn is raddol, ei wlad ei hun yn is raddol. Yn y rhan fwyaf o wledydd bradwr ydi'r gair am y math yma o berson.

Gwyl yng Nghatalonia



Dawns Gatalaneg yn yr awyr agored mewn pentref glan mor o'r enw Collioure, ddim ymhell o'r ffin rhwng Ffrainc a Sbaen. Fel sy'n digwydd ym mhob pentref neu dref yn Ffrainc yn ol pob golwg, mae gwyl haf yn mynd rhagddi.

Mae miloedd o bobl yn y dref. Erbyn yr hwyr, nid oes modd parcio car am filltiroedd y naill ochr i'r pentref na'r llall. Mae'r traethau, y creigiau, tir y castell - neu unrhyw dir agored arall yn llawn o bobl yn cael picnic. Mae'r bariau'n llawn, ac yn anarferol i Ffrainc, mae llawer o'r llymeitwyr wedi meddwi. Mae'r strydoedd culion yn llawn pobl - thai'n ymwelwyr fel ni, ond mwy o lawer yn Gatalanwyr sydd wedi dod i lawr o fynyddoedd y Pyranis gerllaw.



Mae'r strydoedd yn for o weithgaredd - bandiau pres o gwahanol bentrefi, grwpiau pop, sioe dan gwyllt, stondinau diod dros dro ar hyd y strydoedd, a dawnswyr yn dawnsio i gyfeiliant y bandiau pres.

Dawnsio Catalaneg ydi o - ac mae rhywbeth ad hoc amdano. Band yn dechrau chwarae a dau neu dri o bobl yn ffurfio cylch bach, ac yn dechrau dawnsio. Yn raddol mae mwy a mwy o bobl yn ymuno, ac mae cylchoedd eraill yn ymddangos. Mae'r symudiadau'n aml yn ymwneud a'r traed a'r dwylo, ac maent yn weddol fan at ei gilydd - ond maent wedi eu sincrineiddio'n dwt. Mae pobl o bob oed yn cymryd rhan - o bensiynwyr i blant eithaf man. Yr oedolion yn weddol sicr eu troed, y plant yn edrych ac yn efelychu.

Diwylliant ar waith efo twristiaid o bedwar ban byd yn edrych. Diwylliant ar waith -pont bach rhwng y gorffennol a'r dyfodol yng ngwres noswaith yng Nghatalonia - pont ar ffurf cylch.

Sunday, September 04, 2005

New Orleans

Dwy erthygl ddiddorol yn Y Sunday Business Post

Hon gan David McWilliams sy'n rhoi manylion digon diddorol am hanes y ddinas a Lousiana, yn cysylltu'r drychineb efo global warming ac yn egluro gwreiddiau'r gair OK.

A'r erthygl wych yma gan Tom McGurk sy'n beio'r drychineb yn rhannol ar y psyche Americanaidd - ac yn gweld yn y sefyllfa y freuddwyd Americanaidd yn ei holl erchylldra.

Wednesday, August 31, 2005

Blog bach crefyddol am unwaith



Lluniau o stalagtites a stalagmites yn ogof Santes Madaline yn Nyffryn yr Ardeche, De Ffrainc. Mae rhai'n tua chwe metr o hyd. Ymddengys ei bod yn cymryd tua chanrif i'r ffurfiannau dyfu 1cm.

'Rwan, 'dwi'n sylweddoli ei bod braidd yn chwerthinllyd dod a chrefydd i mewn i hyn, ond mae'n rhyw ffasiwn yng Nghymru, ac mewn rhai gwledydd Protestanaidd eraill i geisio dehongli'r Beibl yn llythrennol.

Un o'r 'canfyddiadau' sy'n dilyn o hyn ydi bod y byd yn weddol ifanc - tua 6,000 oed yn ol rhai.

Mae'n weddol amlwg o edrych ar llawer o ffenomenau naturiol na all hyn fod yn wir - ac mae'r ffurfiannau hyn yn yr Ardeche yn esiampl syml ac effeithiol o hyn. 1cm mewn canrif, 10cm mewn mil o flynyddoedd, 1m mewn 10,000 o flynyddoedd, 6m mewn 60,000 o flynyddoedd. Hawdd.

Thursday, August 04, 2005

'Steddfod arall yn tynnu tua'i therfyn



Wel mae 'Steddfod Eryri wedi bod yn un hynod lwyddiannus hyd y gallaf farnu.

Eto - oes rhywbeth rhyfeddach na 'Steddfod dywedwch? Miloedd o bobl yn troedio trwy fwd, cwmniau a chorfforiaethau sydd fel rheol yn gall yn gwario crogbris i gael stondin - heb fod ag unrhyw obaith o gael eu harian yn ol, llwythi o bobl yn mynd i gystadlu gan wybod nad oes ganddynt obaith mul o weld llwyfan, pobl o Gaernarfon yn llusgo carafan ychydig filltiroedd i fyny'r lon, a thalu er mwyn cael ei gosod mewn cae am wythnos. Mae'n edrych weithiau fel esiampl o orffwylldra torfol.

Ac mewn ffordd, dyna'n union ydyw.

Byddaf yn aml yn meddwl am y Pasg mewn dyddiau Beiblaidd pan fyddaf yn mynd i'r 'Steddfod. Bryd hynny, byddai pobl yn cerdded o bellafion y byd Iddewig, er mwyn treulio amser pwysicaf y flwyddyn Iddewig gyda'i gilydd - er mwyn cael profiad torfol o Iddewiaeth.

Dyma'r ydym ni yn ei wneud. Pobl yn ymgynyll i ategu'r ffaith eu bod yn Gymry Cymraeg. Daw llawer o'r rhain o ardaloedd lle mae'r iaith dan warchae - lle mae'r Gymru Gymraeg yn cilio i'r fagddu, ac yn marw. Daw eraill o ardaloedd lle mae'r heniaith eisoes wedi cael cynhebrwng di alar. A daw eraill ohonom o ardaloedd lle mae'r iaith yn hyfyw.

A chawn oll wythnos o ddiwylliant, o gigs, o gymdeithasu, o weld pobl nas gwelwyd ers blwyddyn, o ddiota ac (mewn rhai achosion) o ffwcio'n gilydd.

Pwynt ffocws ydi'r 'Steddfod bellach i genedl sy'n marw. Ffordd o estyn llaw i'n gilydd - o brofi i ni'n hunain ein bod yn fyw - ein bod yn genedl o hyd. Ffordd o brofi ychydig o gynhesrwydd a golau mewn byd sy'n tywyllu ac yn oeri.

Er gwaethaf ei harbenigrwydd, ei hwyl, ei difyrwch a'i gwarineb arwydd o wendid ydi'r 'Steddfod. Darn o bren i afael ynddo mewn mor arw, yn dilyn llongddrylliad.

Tuesday, July 26, 2005

David Davies i'r Ceidwadwayr. So What?

Mae'r marchnadoedd betio yn dechrau symud yn erbyn David Davies.

Beth ydi'r ots meddech chi?

'Dwi'n rhyw gytuno mewn ffordd - ond mae un ffaith diddorol am DD. Mae wedi dweud yn breifat wrth sawl person - ar sawl achlysur ei fod o blaid Prydain ffederal. Os yw'n dal i gredu hyn, fo ydi'r datganolwr mwyaf brwdfrydig ymhlith personoliaethau blaenllaw y ddwy blaid fawr Brydeinig.

Byddai'n eironig petai'r naid wirioneddol arwyddocaol tuag at Gymru annibynnol yn digwydd oherwydd i un Tori adain Dde gael ei ddewis i arwain ei blaid yn hytrach nag un arall.

Tuesday, July 19, 2005

Sant Pedr, Cymru a Chymuned et al.

Mae yna o leiaf dwy Eglwys wedi eu henwi ar ol Sant Pedr yn Rhufain.

Yr un mwyaf adnabyddus ydi basilica enfawr Sant Pedr yn y Fatican - eglwys nad oes mo'i thebyg ar y Ddaear - heb ei thebyg o ran maint nag ysblander. Yma hefyd mae calon yr Eglwys Babyddol - epicentre y byd Pabyddol.



Yr ochr arall i'r afon mae yna eglwys arall - Eglwys Pedr a Paul. Mae hon yn llai o lawer, ac mae wedi ei lleoli ar ochr arall yr afon - ar Fryn y Capitol - lleoliad y Senedd a ffynhonell grym yr Ymerodraeth Rufeinig. Nid oes dim yn arbennig am yr eglwys ei hun, ond mae seler fach, dywyll, ddi nod oddi tanddi sydd a philer concrid - lle - yn ol yr arwydd roedd Pedr a Paul wedi sefyll i siarad.

Bryd hynny, yn nyddiau'r Eglwys Fore, roedd y Cristnogion cynnar yn gweithredu y tu allan i'r gyfraith, 'roeddynt ar herw. Roeddynt hefyd yn lleiafrif bach. Roedd seler gudd yn lle addas i'r Cristnogion cynnar - ffydd ar herw.

Roedd pob math o grefyddau paganaidd (oedd yn aml gyda llawer yn gyffredin gyda Christnogaeth) ar hyd y Dwyrain Canol. 'Roedd fersiynau eraill o Gristnogaeth hefyd - yn nodedig Cristnogaeth Gnostaidd (sectau oedd yn aml yn ystyried bywyd Crist yn alegori yn hytrach nag yn realiti hanesyddol). Mae'n debyg bod y rhain yn fwy niferus o lawer na'r Cristnogion (sydd bellach yn) uniongred ar y pryd.



Eto, fersiwn Pedr a Phawl o'r grefydd a ddaeth i ddominyddu gwleidyddiaeth a meddylfryd y Gorllewin am ddwy fil o flynyddoedd. Dyma'r fersiwn a ddaeth yn allweddol i wleidyddiaeth Gorllewinol. Dyma'r fersiwn a lwyddodd i hel yr adnoddau anhygoel oedd ei angen i godi Eglwys Sant Pedr. Dyma'r fersiwn a oroesodd - a fersiwn a chwalodd y lleill. Dyna'r fersiwn oedd mewn lle i ddylanwadu ar Gwstenin - y fersiwn a ddaeth yn grefydd swyddogol yr ymerodraeth.

Pam?

Mae'r ateb i'w gael yn lleoliad y seler bach dywyll yna. Roedd hi o'r cychwyn yn eglwys 'wleidyddol' - yn un oedd eisiau bod yn agos at rym gwleidyddol - oedd eisiau ennill grym gwleidyddol - hyd yn oed pan oedd hynny'n edrych yn amhosibl. Hyd yn oed pan oedd hynny'n berygl iawn - wedi'r cwbl cafodd Pedr ei ferthyru ar safle'r basilica presennol.

Mae gwers yma i genedlaetholdeb Cymreig - heb rym gwleidyddol - hyd yn oed os ydi hynny'n golygu cyfaddawd weithiau - y perygl ydi y byddwn yn gwywo oherwydd diffyg dylanwad - fel y sectau Gnostaidd gynt.

Saturday, July 09, 2005

Llywodraeth Doriaidd yn Llundain = Pwerau Deddfu yng Nghaerdydd?

Wel mae papur gwyn y llywodraeth wedi ei gyhoeddi. Siom enbyd meddai'r Blaid - ac ar un olwg dyna yw.

Serch hynny mae'r syniadau o wahanu'r Cynulliad yn ffurfiol oddi wrth lywodraeth y Cynulliad, a'r cynllun i ganiatau i'r Cynulliad gael mwy o ddylanwad ar ddeddfwriaeth yn ymwneud a Chymru yn gamau gweddol gadarnhaol.

Serch hynny, efallai mai'r rhan mwyaf arwyddocaol o'r papur ydi'r un sy'n rhoi'r hawl i'r Cynulliad hawlio pwerau deddfu, heb orfod gofyn i Lundain yn gyntaf. Rwan mae'n lled anhebygol y byddai'r llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd yn gwneud defnydd o'r hawl yma ar hyn o bryd - nid oes consensws digonol oddi mewn i'r Blaid Lafur Gymreig - ond petai llywodraeth Doriaidd yn cael ei hethol yn Llundain, byddai barn y Blaid Lafur yng Nghymru yn newid fel cwpan mewn dwr.

Byddai'r hawl i ddeddfu yn cael ei ymarfer yn syth bin.

Sunday, July 03, 2005

Clymblaid rhwng y Blaid a'r Toriaid?

‘Dwi’n rhyw ddeall bod Dafydd Wigley a Cynog Dafis ar grwydr yn hyrwyddo’r syniad y dylai’r Blaid ffurfio clymblaid efo’r Toriaid er mwyn ennill grym ar ol yr etholiad nesaf. ‘Roedd cyfarfod gyda’r ddau yn yr Institiwt Caernarfon i drafod hyn yr wythnos diwethaf. Ches id dim gwahoddiad i fynd – felly nid oeddwn yno. Ond yn ol yr hyn a ddeallaf, cyflwynwyd y syniad o ddod i ddealltwriaeth ffurfiol efo’r Toriaid cyn yr etholiad nesaf, a chyfeirwyd at gytundeb tebyg rhwng Plaid Lafur Iwerddon a Fine Gael. Holais Dafydd Wigley neithiwr – ac ‘roedd yn llai pendant o lawer ynglyn a’r syniad o gytundeb ffurfiol.

Beth bynnag, byddai cytundeb ffurfiol cyn etholiad yn gamgymeriad dybryd. ‘Dwi’n dweud hyn er fy mod yn sylweddoli mai trwy gynghreirio efo’r Toriaid ydi’r unig ffordd y gall y Blaid gael eu dwylo ar rym gwleidyddol yn y dyfodol agos neu ganolig.

Mae’r model Gwyddelig yn un amhriodol. Mae temtasiwn i bleidiau wneud hyn yn yr Iwerddon oherwydd y system etholiadol. Mae Llafur yn derbyn y byddant yn colli pleidleisiau cyntaf (first preferences) i ddau gyfeiriad. Bydd rhai ar adain dde eu plaid yn dweud ‘Waeth i mi bleidleisio i FG ddim’, a bydd eraill ar chwith y blaid yn pleidleisio i bleidiau eraill y chwith am eu body n casau FG.

Pam felly bod Llafur yn cymryd y cam hwn? Mae’n syml oherwydd y drefn etholiadol yn y Weriniaeth. Mae ail a thrydydd pleidlais yn bwysig – ac mae llawer o rai FG ar gael. Ffordd o ddenu’r pleidleisiau hyn ydyw. Dim ond y bleidlais gyntaf sy’n bwysig yng Nghymru.

Byddem yn y sefyllfa o ymladd etholiad gyda Peter Hain et al yn mynd o gwmpas y wlad yn dweud ‘A vote for Plaid is a vote for the Tories’. Byddem yn colli pleidleisiau o’n hadain chwith i Lafur a’r Lib Dems, a rhai o’n hadain dde i’r Toriaid. Byddem yn sicr o gael ein gweld fel ail blaid y glymblaid oherwydd gwendid arweinyddiaeth y Blaid yn y Cynulliad.

Mae yna ffordd i gynghreirio efo’r Toriaid mewn llywodraeth heb chwalu’n cefnogaeth – ac mae’r ffordd honno i’w chael yr ochr arall i’r Mor Celtaidd hefyd. Mynd i mewn i etholiad ar ein liwt ein hunain – ymladd am bob pleidlais ac ystyried pethau ar ol gweld y fathemateg ar ol etholiad. Dyna a wna’r rhan fwyaf o bleidiau Gwyddelig. Mae’n osgoi gwaedu pleidleisiau yn ystod etholiad, mae’n osgoi trafodaethau hir, lled gyhoeddus cyn etholiad, mae’n rhoi cyfle i ddweud – ‘Roedd rhaid i ni er mwyn ffurfio llywodraeth sefydlog – er mwyn y wlad’

Wedyn, os ydi’r llywodraeth yn llwyddiannus, mae’n ein rhoi mewn lle cryf ar gyfer yr etholiad nesaf. Os nad ydi pethau’n gweithio, mater bach ydi tynnu allan a gadael i’r pleidiau eraill geisi gwneud rhywbeth o’r smonach.

Friday, June 24, 2005

Ydi hi'n amser i'r heddlu edrych tuag adref?

Gogledd Cymru ydi canolfan camerau gor yrru'r byd.

Mae'n rhaid bod yr holl gamerau yma wedi lleihau'r nifer o ddamweiniau a marwolaethau reit? Ym, efallai ddim. Gweler isod:


Fatalities























  58
63
51
60
48
44
49
 
  1997199819992000200120022003  


Serious Injuries
























  461
393
417
372
326
318
304
 
  1997199819992000200120022003  



Slight Injuries























  3713
3706
3715
3551
3314
3285
3089
 
  199719981999200020012002  

Source: National Statistics —

Road Casualties in Great Britain





 


Cafodd y drefn Siwrna Saff ei chychwyn yn Hydref 2001.


Felly mae gostyngiad bach iawn wedi bod - er gwaetha'r holl ymdrech, ac er gwaetha'r holl ddirwyo. Ac roedd gogwydd y ffigyrau ar y ffordd i lawr beth bynnag.

Pam?

Mae'r ateb yn syml - nid yw'r camerau yn cael eu gosod mewn lleoedd perygl - cant eu gosod mewn lleoedd sy'n debygol o ganiatau i'r faniau ddal llawer o bobl (ac felly gwneud llawer o bres) - ychydig fetrau ar ol i'r cyfyngiad 40mya droi'n gyfyngiad 30mya wrth Bont Saint yng Nghaernarfon, ond lle nad ydi damweiniau byth yn digwydd.

Yn y cyfamser daw'r stori bach

yma i'r wyneb.

O, a rhag ofn eich bod yn meddwl - chefais i erioed gopsan gan y faniau