Sunday, March 31, 2024

Gorffennol a Dyfodol y Blaid Geidwadol

 Un o’r pethau diddorol am wleidyddiaeth ydi bod hanes yn ailadrodd ei hun dro ar ôl tro ar ôl tro - ac mae’n bosibl ein bod ni am weld hanes yn ail adrodd ei hun yn y dyfodol agos iawn.

 


 Mae ail gynghreirio gwleidyddol yn digwydd yn weddol aml yn llawer o wledydd Ewrop. Mae’n digwydd yn llai aml o lawer ym Mhrydain lle mae cyfuniad o’r system etholiadol cyntaf i’r felin, ceidwadaeth gyfundrefnol a llwyddiant o ran osgoi colli rhyfeloedd  yn cyfrannu at wneud y gyfundrefn wleidyddol yn eithaf di symud.  

Mae’r Blaid Geidwadol fodern wedi bod yn fwy llwyddiannus na’r un blaid Brydeinig i osgoi newid mawr.  Mae’n bosibl bod hynny ar fin newid - a dyna fydd thema’r blogiad yma.  Ond ychydig o hanes y Blaid Geidwadol yn gyntaf.

Mae hi’n bosibl dadlau - heb grwydro ymhell oddi wrth realiti - mai’r Blaid Geidwadol ydi’r blaid fwyaf llwyddiannus yn hanes gwleidyddiaeth, yn unrhyw le yn y Byd.  

Daeth i fodolaeth ar rhywbeth tebyg i’w ffurf presennol ym 1834 yn dilyn chwalfa plaid flaenorol - y Blaid Doriaidd ynghyd a nifer o grwpiau gwleidyddol eraill. Aeth ati i ddominyddu gwleidyddiaeth Oes Fictoria pan oedd yr Ymerodraeth Brydeinig yn ei hanterth, ynghyd a’r Blaid Ryddfrydol wrth gwrs.  

Dominyddodd yr Ugeinfed Ganrif hefyd, a hynny i raddau mwy, er mai’r Blaid Lafur ac nid y Blaid Ryddfrydol oedd yn cystadlu efo nhw yn ystod y ganrif honno.  Mae’r patrwm hwnnw wedi parhau yn ystod y ganrif hon.  

Mae’n debyg ei bod yn bosibl dadlau i’r ddwy blaid fawr yn yr UDA ddominyddu rhyngddyn nhw i raddau tebyg ac am gyfnod tebyg, ond y tu hwnt i hynny ‘dwi’n crafu fy mhen braidd i feddwl am enghreifftiau o ddominyddiaeth gwleidyddol mor hirhoedlog. 

Beth bynnag, y gorffennol ydi’r gorffennol a rŵan ydi rŵan.  Er gwaethaf llwyddiant ysgubol i’r blaid yn Etholiad Cyffredinol 2019 - eu perfformiad gorau ers 1979 os mai canran y bleidlais ydi’r llinyn mesur - mae ei pherfformiad yn y polau ar hyn o bryd yn waradwyddus, ac mae Etholiad Cyffredinol ond ychydig fisoedd i ffwrdd ar y gorau.   

Er mor sâl ydi’r polio o’u safbwynt nhw mae  amrediad eithaf mawr yn y polio.  Os ydi’r Ceidwadwyr yn dod yn agos at waelod yr amrediad - is nag 20% o’r bleidlais - mae posibilrwydd cryf y byddan nhw yn cael llai na hanner cant o seddi, fyddai yn eu rhoi yn drydydd os nad yn bedwerydd plaid yn Nhy’r Cyffredin. Byddai’n anodd iawn ail adeiladu o le felly. 

Os ydyn nhw’n dod yn agos at frig yr amrediad bydd ganddyn nhw tua 150 o seddi a nhw fydd yn arwain yr wrthblaid a hynny’n eithaf hawdd.  Byddai canlyniad felly yn un gwael iawn - y perfformiad gwaethaf yn hanes y blaid, ond byddai’n bydew y gellid dod allan ohono ‘n raddol.

Byddai perfformiad ar sail gwaelod yr amrediad yn debygol o arwain at newid sylfaenol ym mhensaernïaeth etholiadol y DU.

Mae sefyllfaoedd tebyg wedi codi yn y gorffennol o bryd i’w gilydd yn y DU.

Rydym eisoes wedi sôn am yr ail gynghreirio a ddaeth a’r Blaid Geidwadol i fodolaeth.

Cychwynodd y gyfundrefn dwy blaid (Llafur / Ceidwadol) sydd gennym ar hyn o bryd yn dilyn 1922 mewn gwirionedd gyda diflaniad i bob pwrpas y Blaid Ryddfrydol draddodiadol.

Yn ôl 1981 holltodd y Blaid Lafur yn ddau - a daeth yr SDP i fodolaeth.  Daeth y blaid honno i gytundeb etholiadol efo’r Blaid Ryddfrydol ar gyfer etholiad cyffredinol 1983 - a bu bron i’r gynghrair honno gael mwy o bleidleisiau na Llafur (27.6% i 25.4%).  Ond ‘doedd yna ddim cymhariaeth o ran faint o seddi a enillwyd - cafodd Llafur 209 a’r Gynghrair 23. Petai Llafur wedi cael canran 4% yn is a’r Gynghrair wedi cael 4% yn fwy mae’n debygol mai Llafur fyddai’r drydydd blaid o ran nifer seddi a byddai hanes gwleidyddol y DU wedi bod yn dra gwahanol. 

Ond yr hyn a ddigwyddodd oedd i Lafur adeiladu cefnogaeth yn raddol, rhywbeth  agorodd y ffordd i fuddugoliaeth anferth 1997 a 13 blynedd o lywodraeth Lafur.  Llyncwyd yr SDP gan y Rhyddfrydwyr a datblygodd plaid yn sgil hynny oedd yn derbyn mai trydydd plaid oedd hi mewn gwleidyddiaeth Brydeinig, ond oedd yn targedu cydrannau demograffig a daearyddol penodol er mwyn macsimeiddio faint o seddi oedd ar gael iddi fel trydydd plaid.  

Felly datblygodd rhyw fath o gyfundrefn dwy blaid a chwarter - tan i hynny ddod i ddiwedd disymwth yn sgil penderfyniad y Rhyddfrydwyr i gynghreirio efo’r Ceidwadwyr yn 2010.

Fel soniwyd eisoes ‘dydi newidiadau gwleidyddol mawr ddim yn digwydd yn aml yn y DU, ac yn arbennig felly rhai sy’n arwain at ddiflaniad neu o leiaf gwymp enfawr mewn cefnogaeth.  Pan mae hynny’n digwydd mae’r hyn sy’n gyrru’r newidiadau yn amlwg.

Rydym eisoes wedi cyfeirio at hollti’r hen Blaid Doriaidd ym 1846, hollt sylfaenol mewn athroniaeth wleidyddol yn sgil diwydiannu’r wlad oedd yn gyfrifol am hynny.  

Ymestyn y gofrestr etholwyr yn sylweddol arweiniodd at dwf y Blaid Lafur yn y degawdau yn dilyn diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. 

Cytundeb Dydd Gwener y Croglith oedd yn Gyfrifol am yr ail fodelu gwleidyddol oddi mewn i’r cymunedau unoliaethol a chenedlaetholgar yng Ngogledd Iwerddon a arweiniodd at ddominyddiaeth diweddar y DUP a Sinn Fein. 

Refferendwm annibyniaeth yr Alban arweiniodd at gwymp syfrdanol y Blaid Lafur yn yr Alban yn 2015 a thwf cyfatebol yr SNP.  

A daw hyn a ni yn ol at y polau piniwn a lle mae’r Toriaid heddiw.  Fel rydym eisoes wedi nodi mae eu ffigyrau polio cyn ised a mae nhw wedi bod erioed.  Mae nifer o resymau arwynebol am hyn - economi yn agos at fod mewn cyfnod o argyfwng ac wedi bod mewn cyflwr felly am flynyddoedd, anhrefn gwleidyddol di baid ers i David Cameron ymddiswyddo fel Prif Weinidog, methiant Brexit i wireddu unrhyw un o addewidion yr ymgyrch i adael yr UE argyfwng o rhyw fath neu’i gilydd ym mhob gwasanaeth cyhoeddus.  

Ond symptomau o newid gwaelodol ydi’r rhain mewn gwirionedd.  Mae newidiadau sylweddol i economïau rhyngwladol yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd – ‘globaleiddio’ ydi’r term mae’n debyg - ac mae hynny yn ei dro yn arwain at newidiadau cymdeithasol arwyddocaol.  

Canlyniad hynny yn ei dro oedd symudiad i’r Dde yng ngwleidyddiaeth y DU ac yng ngwleidyddiaeth mewnol y Blaid Geidwadol hefyd (gyda’r Ceidwadwyr Cymreig yn gwneud eu gorau i fod yn fwy Adain Dde nag unrhyw gyfadran arall).

Arweiniodd gwireddu Brexit a symudiad y Torïaid i’r Dde at ddiflaniad pleidiau’r Dde eithafol dros dro o leiaf.  Roeddynt wedi bod yn perfformio yn gryf mewn etholiadau ar ddiwedd y ddegawd ddiwethaf.  Ond ers hynny mae eu perfformiad etholiadol wedi bod yn wan iawn.

Ond rwan yn nyddiau olaf y cyfnod hir o lywodraethau Ceidwadol - ac er gwaetha’r holl symud i’r Dde mae nhw yn ôl, neu o leiaf mae Reform yn ôl, ac os ydi rhai polau yn gywir yn brathu wrth sodlau’r Ceidwadwyr. 

A chymryd am funud bod y polau gwaethaf i’r Toriaid yn cael eu gwireddu a’u bod yn ennill llai nag 20% o’r bleidlais a bod pleidlais Reform yn agos at bleidlais y Ceidwadwyr byddai hynny’n arwain at ychydig iawn o aelodau seneddol Ceidwadol a dim aelodau Reform.  

Byddwn wedyn mewn sefyllfa lle byddai mwy na thraean o’r etholwyr wedi pleidleisio tros blaid adain Dde, ond mai ychydig iawn o Aelodau Seneddol adain Dde fyddai yn Nhy’r Cyffredin.   

Byddai hynny yn ei dro yn arwain at bwysau sylweddol i ddod a’r ddwy blaid adain Dde at ei gilydd - a gallai hynny arwain at gydran eithaf mawr o gefnogwyr y Blaid Geidwadol yn chwilio am gartref newydd oherwydd na allant stumogi cynghreirio efo Reform.  

‘Dydi’r uchod ddim yn sicr o ddigwydd o bell ffordd, ond petai’n digwydd byddai gwleidyddiaeth y DU yn cael ei ail osod i raddau sydd heb ddigwydd ers y cyfnod rhwng y ddau Ryfel Byd.  Dyddiau difyr.

No comments: