Thursday, February 08, 2024

Hynt a Helynt y Pleidiau yng Nghymru ers 2016 - Llafur

 Reit - mi fydda i’n edrych yn ol unwaith eto cyn dechrau ystyried gwleidyddiaeth mwy cyfredol.  Llafur ers 2016 felly.  




Y peth gwirioneddol ryfedd efo Llafur - ydi er gwaethaf pawb a phopeth - er gwaethaf yr ymchwydd Corbyn, er gwaethaf buddugoliaeth enfawr y Toriaid yn 2019, er gwaetha’r stormydd gwleidyddol ers trychineb Brexit, ychydig iawn o newid sydd wedi bod yn eu hynt a’u helynt mewn gwirionedd. 


Yn 2016 roedd gan y blaid 577 cynghorydd ac roeddan nhw’n rheoli 10 cyngor.  Roedd ganddyn nhw 29 Aelod Senedd Cymru wedi eu dychwelyd oddi ar 35% o’r bleidlais a 25 sedd San Steffan wedi eu dychwelyd oddi ar 37% o’r bleidlais.  


Erbyn rwan mae ganddyn nhw 526 cynghorydd ac maent yn rheoli 8 cyngor, mae ganddyn nhw 22 sedd yn San Steffan oddi ar 41% o’r bleidlais ac  mewn etholiadau Senedd Cymru mae nhw ar 30 sedd oddi ar 36.2% o’r bleidlais.  


 Yr unig wahaniaeth arwyddocaol mewn gwirionedd ydi’r golled net o dair sedd San Steffan yn ystod y cyfnod - a newidiadau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru sy’n bennaf gyfrifol am hynny.


Y cwestiwn diddorol o bosibl ydi beth sy’n debygol o ddigwydd yn y dyfodol agos?  Gallwn fod yn sicr y bydd etholiad cyffredinol eleni.  


Yn hanesyddol mae Llafur yng Nghymru wedi perfformio’n well na’r Blaid Lafur Brydeinig.  Ers dechrau’r ganrif mae perfformiad y blaid yng Nghymru wedi bod yn well na’r blaid Brydeinig o rhwng 6.5% a 8.9% ym mhob etholiad.  


Petai hyn yn cael ei wireddu eleni gallai Llafur ddisgwyl etholiad da iawn - gan ad-ennill y Gogledd Ddwyrain a phob etholaeth Doriaidd yn y De.  Serch hynny mae ychydig o dystiolaeth polio bod y bwlch arferol am fod yn llai y tro hwn. 


Ar un olwg fyddai hynny ddim yn syndod - mae’r llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd yn gwneud pethau sydd yn dra amhoblogaidd ar hyn o bryd.  


Ond ‘dydi poblogrwydd neu amhoblogrwydd y llywodraeth yng Nghaerdydd erioed wedi cael fawr o effaith ar ganlyniadau etholiadau cyffredinol yn y gorffennol.  Bydd yn ddiddorol gweld os fydd y patrwm yn wahanol y tro hwn.

No comments: