Monday, May 27, 2019

Edrych yn ol ar Etholiad Ewrop - rhan 1

Un o fanteision etholiad ydi ei fod yn rhoi cyfle i chwarae o gwmpas efo ffigyrau - ac mi wnawn ni wneud ychydig o hynny tros y dyddiau nesaf.

Gan bod y Blaid wedi dod o flaen Llafur am y tro cyntaf erioed mewn etholiad Cymru gyfan mi wnawn ni ddechrau trwy edrych ar y gymhariaeth rhwng pleidlais Llafur a phleidlais y Blaid.  Dwi ddim yn meddwl bod hon yn siarad trosti ei hun - llwyddodd y Blaid i lanhau’r llawr go iawn efo Llafur yn y Gymru Gymraeg.




Sunday, May 26, 2019

Beth fydd yn digwydd heno?

Reit, beth sydd am ddigwydd pan mae’r pleidleisiau yn cael eu cyfri heno?
Y peth cyntaf i’w ddweud ydi os oes rhywun yn dweud wrthych eu bod yn gwybod i sicrwydd mae nhw’n dweud celwydd.  Yr unig ffordd hollol ddibynadwy o ddweud beth sydd am ddigwydd mewn etholiad ydi cael golwg dda ar y pleidleisiau wedi i’r pleidleisio ddigwydd ond cyn i’r canlyniadau gael eu datgan.  Mae hyn yn eithaf hawdd yn y rhan fwyaf o gyfrifon etholiadol. 

Y rheswm am hyn ydi bod yr awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am gyfri yn dilysu’r pleidleisiau (gwneud yn siŵr bod y nifer cywir o bleidleisiau ym mhob bocs) cyn dechrau cyfri – ac mae’r pleidleisiau yn y golwg pan maent yn gwneud hynny.  Os ydi rhywun efo syniad go lew beth mae’n ei wneud mae’n bosibl darogan y canlyniad yn gyflym iawn ar ôl gweld y pleidleisiau – oni bai bod pethau’n agos iawn wrth gwrs.
Mae etholiadau Ewrop yn wahanol – mae’r papurau yn cael eu dilysu a’u pen i lawr, o ganlyniad canran fach iawn o’r pleidleisiau sydd yn y golwg gan amlaf – ac mae hynny’n ei gwneud yn anodd iawn, iawn i ddarogan yn gywir.

Serch hynny, dydi hyn oll ddim yn golygu na ellir gweld dim byd o gwbl, ac mae yna ddangosyddion eraill hefyd – ym mha wardiau mae’r bleidlais yn uchel iawn neu’n isel iawn a pholau piniwn cyhoeddus er enghraifft.  Ac wrth gwrs mae yna sibrydion o gwmpas – rhai sydd ddim yn gwbl ddibynadwy, ond rhai sydd wedi eu seilio ar rhywfaint wybodaeth bendant – ac mae’n bosibl dod i rhai casgliadau ar sail hynny.

Y peth cyntaf i’w ddweud ydi ei bod yn gwbl sicr mai’r Blaid Brexit fydd yn cymryd y sedd cyntaf.  Mae nhw wedi gwneud yn dda ar hyd a lled Cymru ac yn debygol o ddod yn gyntaf hyd yn oed yn rhai o’r ardaloedd bleidleisiodd i aros – gan gynnwys y brif ddinas.

Plaid Cymru fydd yn cael yr ail sedd yn ôl pob tebyg.  Mae’n ymddangos bod y bleidlais i’r Blaid wedi bod yn uchel ym mherfedd-diroedd y Gymraeg ac mae’n debygol o ddod yn ail i’r Blaid Brexit mewn nifer o gynghorau lle mae pob Aelod Seneddol yn rhai Llafur, a lle cafodd Llafur fwyafrifoedd anferthol yn 2017.  Mae’n bosibl y bydd y Blaid yn curo Llafur 2:1 mewn nifer o etholaethau sydd ag ASau ac ACau Llafur.

Plaid Brexit fydd yn cael y trydydd sedd – er ei bod yn bosibl – ond ddim yn debygol y byddant yn cael yr ail.

Ac wedyn mae hi’n mynd yn gymhleth – ac mae yna sawl posibilrwydd am beth fydd yn digwydd i’r bedwerydd sedd.  Yr hyn rydym yn gallu bod yn sicr ohono ydi na fydd y Torïaid na’r Blaid Werdd nag UKIP yn y ras arbennig yma. 
Mae yna bleidlais fach i UKIP – un fach – 3% o bosibl – ond gallai hynny fod yn ddrud i’r Blaid Brexit.

Mae’r bleidlais Doriaidd yn debygol o fod yn gyfforddus is na 10% - sydd ddim yn gwbl annisgwyl.  Mae hi’n bosibl na fyddan nhw yn dod yn bumed hyd yn oed.
Mae’r bleidlais Lafur yn debygol o fod yn gyfforddus is nag oedd y polau yn awgrymu.  Mae’n debyg bod y gyfradd pleidleisio yn hynod o isel yn rhai o’r wardiau lle mae Llafur ar eu cryfaf.  Ar ben hynny mae yna adroddiadau o bleidlais wan iawn i Lafur mewn llefydd cwbl annisgwyl – gan gynnwys stepan drws Mark Drakeford.

Bydd y bleidlais Lib Dem yn uwch o lawer nag oedd yn 2014 – a byddant yn ail i’r Blaid Brexit mewn nifer o ardaloedd lle nad ydi trefniadaeth Plaid Cymru yn dda – Abertawe er enghraifft.  Ac mae hyn yn ein gadael efo 4 posibilrwydd ar gyfer y pedwerydd sedd – Llafur, Lib Dem, ail Plaid Cymru a 3ydd i’r Blaid Brexit.  Dwi’n meddwl mai’r pedwerydd posibilrwydd ydi’r lleiaf tebygol – ond nid y posibilrwydd cyntaf ydi’r mwyaf tebygol.

Ond cyn i neb ddechrau cynhyrfu cofiwch beth ddywedais ar y cychwyn - os ydi rhywun yn dweud wrthych eu bod yn gwybod beth sydd am ddigwydd maent yn dweud celwydd.

Beth bynnag, mi geisia i bostio yn hwyrach heno os dwi’n darganfod mwy.

Monday, May 13, 2019

Beth fydd yn digwydd yn yr Etholiad Ewrop?

Mae’n debyg bod rhywbeth digri am y sefyllfa ryfedd lle mae llefarwyr ar ran y Blaid Doriaidd a’r Blaid Lafur yn dweud bod canlyniadau etholiadau lleol yn Lloegr yn arwydd bod yr etholwyr yn dweud wrth y gwleidyddion am sicrhau Brexit (mae Nigel Evans druan wrthi fel ‘dwi’n ‘sgwennu hyn).  

Y gwir ydi - wrth gwrs - bod y blaid Brexit caled (UKIP), y blaid Brexit (Toriaid), a’r blaid Brexit dan din (Llafur) i gyd wedi colli seddi rif y gwlith (1559 i fod yn fanwl) tra bod y pleidiau gwrth Brexit (Dib Lems a Gwyrddion) wedi ennill seddi (894). A rhaid cofio wrth gwrs mai ardaloedd oedd o blaid Brexit oedd yn pleidleisio - nid oedd etholiadau yn Llundain na’r Alban.  

Digwyddodd rhywbeth tebyg yng Ngogledd Iwerddon gyda llaw - roedd y ganran o’r bleidlais a sicrhawyd gan y pleidiau unoliaethol (y rhai sydd o blaid Brexit i pob pwrpas) yn is na mae wedi bod erioed o’r blaen.

Y cwestiwn diddorol o’n safbwynt ni ydi beth mae hyn yn ei olygu yma yng Nghymru?  Yr etholiadau nesaf - os byddant yn digwydd - ydi etholiadau Ewrop ddiwedd y mis yma.

Amrediad pleidlais Llafur mewn etholiadau Ewrop (ers mabwysiadu pleidlais gyfrannol yn 1999) ydi 20.3% (2009) i 32.5% (2004).  Amrediad y Toriaid ydi 17.4% (2014) i 27.8% (1999). 

Byddwn yn disgwyl i’r ddwy blaid unoliaethol fawr gael eu canran isaf erioed o bleidleisiau yn yr etholaethau i’r UE.  Mae’n bosibl y byddant yn cael cyn lleied a 30% o’r bleidlais rhyngddyn nhw.  45% oedd y cyfanswm hwnnw yn 2014.   Mae’n debygol hefyd y bydd y Toriaid yn colli eu sedd - os ydi’r blaid sy’n cael y mwyaf o bleidleisiauyn cael 25% o’r bleidlais - rhywbeth sy’n debygol iawn.

Beth felly am y ddwy blaid Brexit - plaid Nigel Farage ac UKIP?  27.6% oedd pleidlais UKIP (yng Nghymru) yn 2014 - canran oedd fwy neu lai yn union fel yr un Prydeinig.  Mae’r polau Prydeinig y  amrywio o ran cefnogaeth Plaid Brexit ar hyn o bryd- ond mae’r diweddaraf yn awgrymu eu bod ar tua 34%.  

Roedd y polau yn 2014 yn tueddu i or ddweud y bleidlais UKIP - a byddai hynny’n awgrymu ei bod yn  fwy na phosibl y bydd pleidlais y blaid Brexit ddim llawer mwy nag un un UKIP yn 2014.  

Ond mae rhywbeth yn dweud wrthyf y bydd pleidlais y blaid Brexit yn is eto.  Mae llai o bobl o blaid Brexit heddiw nag oedd yn 2014 (er eu bod yn fwy swnllyd o lawer), ac yn fy mhrofiad i o leiaf mae llawer o’r sawl sydd eisiau gadael yr UE yn mynegi uchel ac yn groch nad ydyn nhw byth am bleidleisio eto.  Rhywbeth fyddai’n - ahem - anffodus iawn, iawn.

‘Dydw i ddim yn meddwl ei bod yn afresymol i gymryd y bydd pleidlais y pleidiau Brexit - UKIP + Brexit + Llafur + Toriaid yn dod i tua 55% i 60%.  Mae hyn - wrth gwrs - yn gadael 40% i 45%  ar gyfer y pleidiau gwrth Brexit.  Sefyllfa’r pleidiau hynny yn 2014 oedd Plaid Cymru 15%, Gwyrddion 4.5%, Dib Lems 4%.  Mae hynny’n gadael lle i dyfu o 15% i 20% rhwng y bedair (a chynnwys Change UK) plaid i dyfu felly.  Dydi hyn ddim yn gyfanswm anferthol os ydi o wedi ei rannu rhwng 4 plaid.  Petai’r twf wedi ei rannu’n gyfartal byddai tair sedd i’r pleidiau Brexit ac un yn unig i’r pleidiau Aros (2 i’r Blaid Brexit, un i Lafur ac un i’r Blaid).  Dwi’n disgwyl i’r Toriaid gael o gwmpas 10% o’r bleidlais Gymreig a cholli eu hunig sedd gyda llaw.  

Ond petai 10% yn mynd i’r Blaid byddai hynny yn dod a hi i 25%.  Byddai hynny yn agos at bleidlais y Blaid Brexit ac mae’n debygol mai tua 25% fydd ei angen ar y blaid sy’n dod yn gyntaf i gael ail sedd.  (30% oedd ei angen yn 2014 - ond bydd y bleidlais wedi ei rannu’n fwy cyfartal rhwng mwy o bleidiau y tro hwn).  Byddai cynnydd tebyg o 10% i naill ai’r Dib Lems neu’r Gwyrddion yn debygol o roi’r bedwerydd sedd  iddyn nhw hefyd.  

Ond - a cheisio bod yn wrthrychol yma - os oes rhywun sy’n gwrthwynebu Brexit methu meddwl i pa blaid gwrth Brexit fyddai orau i bleidleisio iddi - y Blaid fyddai’r gorau o lawer.  Byddai plaid sy’n gwrthwynebu Brexit yn dod ar ben y pol yn gwneud datganiad cryfach o lawer na dwy sedd i bleidiau gwrth Brexit - ond gyda Plaid Brexit ar ben y pol.