Thursday, January 01, 2015

Etholiad Cyffredinol 2015 - Gogledd Iwerddon

Reit - mi wnawn ni ddechrau'r flwyddyn efo blogiad fydd o fawr ddim diddordeb i fawr neb sy'n darllen y Gymraeg - ond mi wnawn ni fo beth bynnag.  Rhagolygon ar gyfer etholiadau Gogledd Iwerddon.  Mae tua hanner y seddi yn gwbl ddiogel - West Belfast, Mid Ulster, West Tyrone a Newry Armagh i Sinn Fein a North Antrim, Strangford, East Antrim, Lagan Valley ac East Londonderry i'r DUP.

Gair bach o eglurhad cyn cychwyn - mae yna ddwy brif blaid genedlaetholgar - yr SDLP a Sinn Fein.  Mae SF yn fwy 'gwyrdd' na'r SDLP.  Mae yna dair brif blaid unoliaethol y TUV, y DUP, yr UUP yn ogystal ag ambell i blaid fach arall.  Mae UKIP yn debygol o roi eu trwynau i mewn y tro hwn ond fyddan nhw ddim yn gwneud argraff fawr.  Y TUV ydi'r mwyaf 'glas' a'r UUP ydi'r mwyaf cymhedrol.  Y prif bleidiau heddiw ydi SF a'r DUP - ond mae hynny'n ddatblygiad cymharol ddiweddar.  Y pleidiau mwy cymhedrol oedd yn dominyddu tan gytundeb Dydd Gwener y Groglith.  Mae yna blaid arall - Alliance (APNI) sy'n cael cefnogaeth o'r ddwy gymuned.  Mae wedi ei lleoli yn y canol yn wleidyddol ac mae ei chefnogaeth yn ddosbarth canol iawn.  SF ydi'r unig blaid sy'n sefyll y ddwy ochr i 'r ffin ac mae wedi bod yn blaid cymharol fach yn y De hyd yn ddiweddar.  Mae serch hynny wedi ennill cryn dipyn o gefnogaeth yn y Weriniaeth tros y ddwy flynedd diwethaf a chafodd fwy o gefnogaeth tros yr ynys na 'r un blaid arall yn etholiadau Ewrop y llynedd.  Mae yna berthynas rhyfeddol o agos rhwng cefndir crefyddol pobl a'u patrymau pleidleisio.  Mae pobl o gefndir Pabyddol yn pleidleisio i'r SDLP neu SF tra bod Protestaniaid yn pleidleisio i'r pleidiau unoliaethol.

Gogledd Down (Annibynnol) Os ydi Sylvia Hermon yn sefyll fel unoliaethwraig annibynnol yn North Down bydd yn ennill.  Ond os bydd yn penderfynu peidio sefyll mae gan y DUP gyfle da - er bod yr etholaeth yma (sydd yn fwy unoliaethol na'r un arall) efo hen, hen hanes o dorri ei chwys ei hun.  Os nad ydi Sylvia Hermon yn sefyll, mae yna son y gallai gefnogi Judith Gallespie o blaid ganol y ffordd yr Alliance - mae wedi ffraeo ego'r UUP ac yn casau'r DUP.  Gallai hynny greu canlyniad cwbl anisgwyl - does yna neb yn y DU efo pleidlais bersonol uwch na Sylvia Hermon.  Mae'r etholaeth yn un gyfoethog, ac mae yna lawer o bobl sy 'n gysylltiedig a'r heddlu a'r lluoedd diogelwch yn byw yno.  Fyddan nhw ddim yn pleidleisio i'r Alliance, ac mae'r DUP wedi perfformio'n gryf yna mewn etholiadau lleol diweddar.

Mae etholaeth Foyle (SDLP) yn cwmpasu dinas Derry, ac mae wedi bod yn gadarnle i'r SDLP ers degawdau.  Collodd y blaid ei mwyafrif yn y ddinas yn etholiadau'r cyngor eleni - yn rhannol oherwydd i ddwy ward o Tyrone gael eu hychwanegu i'r ddinas - mae Tyrone yn rhan o berfedd dir gwledig Sinn Fein yn hanner gorllewinol y dalaith.  Dydi'r wardiau Tyrone ddim yn gynwysiedig yn Foyle, ond o graffu roedd perfformiad yr SDLP yn wan yn wardiau Foyle hefyd - yn arbennig yn y wardiau poblog cyfan gwbl Babyddol ar lannau gorllewinol Afon Foyle.  Ond mi ddylai'r SDLP gadw'r sedd beth bynnag.  Er bod y nifer o unoliaethwyr yn yr etholaeth yma'n syrthio'n gyflym, mae yna tua 7,000 ar ol ar y gofrestr etholiadau - y cwbl bron ar lannau dwyreiniol y Foyle.  Mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw yn debygol o bleidleisio'n dactegol i'r SDLP os oes canfyddiad bod perygl i  SF yn ennill y sedd.  Gallai fod yn agos, ond dylai'r Stwps ddal eu gafael - y tro hwn o leiaf. 

Mae South Down (SDLP) yn debyg i Foyle o ran cydbwysedd etholiadol - er i'r SDLP wneud yn well yno yn etholiadau lleol eleni.  Mae'r bleidlais SF yn agos at yr un SDLP bellach mewn etholiadau cynulliad ac ati, ond mae yna 7,000 - 8,000 o ethollwyr unoliaethol ar gael i roi benthyg eu pleidlais i'r SDLP - ac maen nhw wedi gwneud hynny yn y gorffennol.  Byddwn yn disgwyl i'r SDLP oroesi yma am fwy o amser nag y byddant yn ei wneud yn Foyle.

Fermanagh South Tyrone oedd sedd fwyaf ymylol y DU yn 2010 gydag SF yn curo'r DUP o bedair pleidlais.  Mae yna fwyafrif cenedlaetholgar o hyd at 10% yn yr etholaeth, ond daeth  y pleidiau unoliaethol i gytundeb i redeg un ymgeisydd yn unig tra methodd y cenedlaetholwyr a gwneud hynny.  Dwi'n rhagweld y bydd SF yn dal y sedd hyd yn oed os oes yna ymgeisydd SDLP - mae'r bleidlais SDLP wedi chwalu mwy yma nag yn unrhyw ran arall o'r dalaith bron - ac mae'r broses yma yn debygol o barhau.   Os bydd yr unoliaethwyr yn ei hennill mi fydd y tro diwethaf i hynny ddigwydd.

Dwyrain Belfast (Alliance). Roedd hon yn sedd DUP yn ol yn y dyddiau pan mai North Antrim Ian Paisley oedd yr unig  sedd DUP arall, ond collodd Peter Robinson y sedd yn 2010 yn fuan wedi sgandal yn ymwneud a'i wraig - a nifer o sgandalau eraill.  Mae'r etholaeth yn un eiconig i'r DUP a byddant yn ei hennill yn ol ym mis Mai - a bydd defnydd di drugaredd yn cael ei wneud ynglyn a'r anghydfod Jac yr Undeb ar Neuadd y Ddinas i atal cefnogwyr UUP rhag pleidleisio yn dactegol i APNI. Roedd APNI o blaid cyfyngu ar y defnydd o'r faner.

Gogledd Belfast (DUP)  Mae'r boblogaeth Babyddol wedi tyfu'n gyflym yng Ngogledd Belfast -etholaeth oedd hyd yn gymharol ddiweddar yn un soled unoliaethol.  Roedd y bleidlais genedlaetholgar yn uwch yma na'r un unoliaethol yn yr etholiad Cynulliad diwethaf, er bod y bleidlais genedlaetholgar yn rhannu ychydig yn fwy cyfartal na'r un unoliaethol. Mae hyn yn rhoi mantais i'r DUP tros SF.  Os mai un ymgeisydd cenedlaetholgar ac un unoliaethol sy'n sefyll - ac mae hynny'n bosibl byddwn yn disgwyl i SF ei chrafu hi.  Os ydi'r ddau floc pleidleisiau wedi rhannu (fel yn 2010) byddwn yn disgwyl i'r DUP ddal y sedd o drwch blewyn - yn arbennig os mai Alban McGuiness sy'n sefyll i'r SDLP.  

De Belfast (SDLP). Fel yng Ngogledd Belfast mae'r cydbwysedd cenedlaetholwyr / unoliaethwyr yn agos iawn - ond efo'r gwahaniaethau bod yr etholaeth yn un dosbarth canol a bod Alliance yn ffactor.  Penderfynodd SF beidio sefyll yn erbyn yr SDLP yn 2010 ac awgrymu i'w cefnogwyr bleidleisio i'r blaid honno.  Roedd hynny a phleidleisio tactegol gan gefnogwyr Alliance yn ddigon i roi'r sedd yn hawdd i'r Stwps.  Os digwydd hynny eto, byddant yn cadw'r sedd.  Os na fydd yn digwydd bydd pethau'n agos iawn rhwng y DUP a'r SDLP - ac mae SF yn dweud y byddant yn sefyll y tro hwn.  Beth bynnag fyddwn i ddim yn synnu petai cytundeb rhwng y ddwy blaid genedlaetholgar na fydd y naill blaid yn sefyll yng ngogledd y ddinas tra na fydd y llall yn sefyll yn y De (er nad oes ganddynt record dda o ddod i gytundeb o unrhyw fath efo'i gilydd ).  Byddai hynny'n rhoi tair o bedair sedd Belfast yn nwylo cenedlaetholwyr.  

De Antrim (DUP) Roedd hin yn agos rhwng y DUP a'r UUP yn 2010, yn rhannol oherwydd ymgyrch gref gan arweinydd yr UUP Reg Empey a pherfformiad cymharol gryf gan y TUV - plaid sydd i'r 'Dde' o'r DUP.  Mewn etholiadau yn dilyn hynny mae'r DUP wedi ad ennill eu goruwchafiaeth, a byddant yn ennill yn hawdd ym mis Mai.

Yr unig sedd arall a allai newid dwylo mewn gwirionedd ydi Upper Bann (DUP).  Mae yna fwyafrif unoliaethol clir yn yr etholaeth yma, ond mae wedi ei rhannu mwy na'r bleidlais genedlaetholgar.  Mae pethau'n gymharol agos rhwng yr UUP a'r DUP tra bod goruwchafiaeth 2:1 i 3:1 gan SF tros yr SDLP.  Yn wir cafodd y SF ychydig mwy o bleidleisiau na'r DUP yn etholiadau'r cynulliad.  Mae'n bosibl y bydd TUV yn sefyll, ac mae UKIP yn bygwth gwneud hynny hefyd. Byddai hyn yn creu cryn hollt yn y bleidlais unoliaethol. Mae yna dri phosibilrwydd yma - SF, DUP neu'r UUP.  Y DUP ydi'r mwyaf tebygol, ond mae'r ddau ganlyniad arall yn bosibl.  Petai SF yn ennill mi fyddai'n ffliwc a byddai'r tro diwethaf am gryn gyfnod - byddai'r bleidlais unoliaethol yn ail drefnu ei hun yn yr etholiad canlynol. 

A dyna chi - yr unig ddadansoddiad o wleidyddiaeth etholiadol Gogledd Iwerddon rydych yn debygol o 'i weld yn y Gymraeg.  Peidiwch a dweud nad ydych yn cael gwerth eich pres.

No comments: