Sunday, July 14, 2013

Pam bod Llafur eisiau ymladd Ynys Mon ar faterion sy'n ddim oll i'w gwneud efo'r Cynulliad

Mae'r ateb yn eithaf amlwg am wn i.  Petai Llafur yn ymladd yr etholiad ar eu record fel llywodraeth yng Nghaerdydd fyddai ganddyn nhw ddim dadl o gwbl i'w chyflwyno.  Mae eu record mewn llywodraeth yn drychinebus - ac mae'n cyferbynnu'n  greulon efo record yr SNP yng Nghaeredin.

Ym maes addysg mae'r holl wasanaeth wedi ei amddifadu o fuddsoddiad addas, ac yn gwbl ddisgwyladwy mae safonau mewn cymhariaeth a gwledydd eraill wedi syrthio fel carreg.  A hyn o bryd mae ysgol ar ol ysgol, awdurdod lleol ar ol awdurdod lleol yn methu arolygiadau ESTYN.  Ac ar ben hynny mae addysg cyfrwng Cymraeg wedi stopio tyfu, ac o dan rai mesyryddion mae'n crebachu - a hynny er gwaethaf addewidion i ymateb i alw gan rieni ac ehangu'r ddarpariaeth.

Petai ddim yn fater mor ddifrifol byddai'r perfformiad ym maes iechyd yn ddigri.  Cafwyd polisiau sydd wedi arwain at gynlluniau i gau ysbytai ac unedau arbenigol ar hyd a lled Cymru - cynlluniau sydd wedi dod ag ASau Llafur, ACau Llafur, a hyd yn oed gweinidogion Llafur allan ar y strydoedd yn protestio yn eu herbyn.  Yn y cyfamser mae'r 'gwasanaeth' ambiwlans yn mynd o ddrwg i waeth.  Mae'n flwyddyn gron ers i dargedau'r gwasanaeth ambiwlans gael eu cwrdd.

Mor ddrwg ag ydi'r uchod mae methiant Llafur i edrych ar ol economi Cymru yn ymylu at fod yn anhygoel.  Flynyddoedd yn ol, yn nyddiau cyntaf datganoli addawodd Llafur gau'r bwlch rhwng Cymru a gweddill Prydain o 1% y flwyddyn mewn termau GVA - prif fesurydd perfformiad economaidd.  Ers hynny mae'r bwlch wedi tyfu a thyfu a thyfu - a hynny er gwaethaf buddsoddiad o £6bn mewn gwariant strwythurol.  Mae perfformiad GVA Cymru bellach yn salach nag un Gogledd Iwerddon - gwlad a dreuliodd ddegawdau wedi ei rhwygo gan ryfel.  Yn wir mae Cymoedd Gwent reit ar waelod tabl Prydain ac yn agos at waelod tabl Ewrop.  Mae'n tua hanner perfformiad cyfartalog Lloegr.

A dyna pam mae Gwil, Tal, Alun, Albert, Carwyn ac ati mor awyddus i son am fater sy'n ddim oll i'w wneud efo'r Cynulliad yn hytrach na materion sy'n ymwneud a'r sefydliad hwnnw.  Mae eu gweinyddiaeth drychinebus yng Nghaerdydd yn ymdebygu i barodi gwyrdroedig o stori Midas - mae pob dim maen nhw'n ei gyffwrdd yn troi'n faw ci.  Ac maen nhw eisiau siarad am unrhyw beth - unrhyw beth - ond eu record mewn llywodraeth.  

6 comments:

Anonymous said...

It was always going to be thus ! Ma gan bobl yr hawl i wybod yn eglur safbwynt Rhun ar y mater yma!

Anonymous said...

Wyt ti'n mynd i sgwennnu am anerchiad Pete Wishart o'r SNP ynghylch yr ymgyrch dros annibyniaeth i'r Alban yn Galeri noson o'r blaen?

Cai Larsen said...

Ella - cael amser i 'neud pob dim ydi'r broblem.

Anonymous said...

Breaking News o'r Ynys.

Yn y Western Mail heddiw, 15 Gorffennaf, erthygl dda iawn gan Martin Shipton am Rhun. Yn ol rhywun sy'n cael ei gyfeirio ato fel 'A Labour source' dywedir fod :

'Rhun is likely to win the by-election..' Aiff ymlaen :

'As yet we have no idea how Rhun is going to perform in the Assembly and whether he will be able to take on Carwyn in the debating chamber.'

Dau ddyfyniad hynod ddiddorol a dadlenol felly am yr hyn sy'n cael ei ddweud o fewn rhengoedd Llafur Cymru.

Ond - pwy tybed yw'r ffynhonnell ?

A pha effaith gaiff hyn ar ymgyrch Tal ys gwn i ?

A allwn ni ddisgwyl mwy o ymosodiadau negyddol a phersonol gan Tal ac Albert?

Neu a ydynt o'r diwedd wedi sylwedoli nag ydyw hyn yn taro deuddeg gyda'r etholwyr ?

Cawn weld yn reit fuan mae'n debyg.

Cai Larsen said...

Swnio fel darn o bropoganda ar ran Llafur mae gen i ofn.

Anonymous said...

Gweld llun y sian gwenllian na - rhaid i bobol ynys mon watchad neu mi fydd hi yna yn cynnig cau ysgolion fflat owt. Ast ddiegwyddor. Neith pobol dyffryn nantlla byth fadda iddi.......