Sunday, March 25, 2012

Plaid sefydliadol, strwythurol lwgr?

Mae hi'n anodd peidio rhyw wenu o ddeall bod y 'rali' a drefnwyd gan y Toriaid Cymreig oherwydd nad oeddynt yn gallu trefnu cynhadledd fel y pleidiau eraill, wedi ei gwthio ymhell i gefndir y newyddion gan y sgandal ynglyn a threfniadau cyllido'r Blaid Doriaidd Brydeinig.

Ond mewn gwirionedd mae'r mater yn un hynod ddifrifol. Os ydi'r hyn a ddywedwyd gan Peter cruddas wrth ohebwyr y Sunday Times yn wir - bod cyfraniad o £250,000 i goffrau'r Blaid Doriaidd yn ddigon i brynu mynediad i broses creu polisi'r llywodraeth - byddai hynny'n golygu bod y Blaid Doriaidd yn strwythurol, sefydliadol lwgr. Dyletswydd unrhyw lywodraeth ydi llunio polisiau er budd pawb - nid er budd pobl sy'n rhoi 250k iddi.

Byddai hefyd wrth gwrs yn eglurhad posibl am benderfyniadau diweddar y Toriaid i dorri trethi pobl gyfoethog, a chychwyn ar y broses o yrru cyflogau i lawr mewn rhannau tlawd o'r DU.

1 comment:

Anonymous said...

be am i bawb yma yn ein gwlad bach ni rhoi 10c yr un er mwyn gweld os fedra ni gael stec a chips efo dafydd cameron a trio cael setliad teg i Gymru gan y ba*dads barus ma sy'n drewi o biso?!?