Tuesday, May 31, 2011
Datganoli'r hawl i drethu i'r gwledydd Celtaidd
Mae datganoli grymoedd trethiant i'r Alban yn fater creiddiol i'r SNP tra bod Sinn Fein o blaid datganoli grymoedd cyllidol yn eu cyfanrwydd i Stormont ac mae'r DUP o blaid datganoli'r hawl i osod treth gorfforiaethol.
Mae'r blog yma wedi dadlau yn y gorffennol na fydd Llafur Cymru byth, byth eisiau datganoli'r hawl i drethu, oherwydd mai'r gallu i fynnu mwy a mwy o wariant heb orfod trethu neb yng Nghymru er mwyn gwireddu hynny ydi gwir sail grym etholiadol Llafur yng Nghymru.
Saturday, May 28, 2011
Pwysigrwydd naratif cenedlaethol i'r Mudiad Cenedlaethol
Yr hyn sydd o dan y chwyddwydr y tro hwn ydi'r ffaith nad ydi'r Mudiad Cenedlaethol yn ymddangos i mi i fod yn cynnig naratif cenedlaethol sy'n cysylltu ag amrediad eang o bobl Cymru.
Yr hyn ydi naratif cenedlaethol mewn gwirionedd ydi'r stori genedlaethol sy'n rhoi mynediad i bobl i'w hunaniaeth genedlaethol. Mae i'r stori honno ei gorffennol, ei phresenol ac mae'r dyfodol ymhlyg ynddi hefyd. 'Dydi naratif cenedlaethol ddim yn gyfystyr a hanes gwlad wrth gwrs, mae naratifau cenedlaethol yn ddethol iawn o ran yr agweddau ar hanes sy'n cael eu defnyddio - mae hanes yn gymhleth tra bod naratif yn syml.
'Rwan mae'r cysyniad o naratif cenedlaethol yn gallu bod yn gynhenus - 'dydi pob gwlad ddim o anghenrhaid yn rhannu'r un naratif - mae hyn yn wir am y DU (heddiw o leiaf) ac mae hefyd yn wir am Gymru. Serch hynny byddwn yn ei awgrymu ydi bod methiant i gynnig o naratif cenedlaethol cyson sy'n un cenedlaetholgar yn un o'r rhesymau pam nad ydi'r Mudiad Cenedlaethol yng Nghymru yn yr un lle nag ydi'r mudiadau cenedlaethol Celtaidd eraill.
Un o nodweddion rhyfedd (ar un olwg) cenedlaetholdeb Cymreig ydi'r ffaith ei bod yn colli cefnogwyr yn gymharol hawdd - yn arbennig yn wyneb teimlad gan gyn gefnogwyr bod buddiannau lleol o dan fygythiad ac nad ydi'r Mudiad Cenedlaethol yn gwneud digon i'w hamddiffyn. Esiampl o hyn ydi Llais Gwynedd wrth gwrs. Roedd yn drawiadol bod cyn genedlaetholwyr ethnig (a benthyg term sy'n llai na chysact na theg efallai) sydd wedi treulio blynyddoedd yn honni eu bod yn burach gwladgarwyr na phobl mwy hyblyg fel fi yn ymgyrchu tros rhywun a fyddai - o'i hethol - wedi cynrychioli Meirion Dwyfor yn y Cynulliad Cenedlaethol trwy gyfrwng y Saesneg, ac yn unol a gwelediagaeth digon Seisnig o'r Byd a'i bethau.
Y rheswm gwaelodol am hyn ydi bod llawer o bobl yn cael trafferth i wahaniaethu rhwng y cenedlaethol a'r lleol blwyfol. 'Does yna ddim gwahaniaeth rhwng y naill a'r llall i lawer - mae brogarwch a gwladgarwch yn gyfystyr. Felly mae'n dilyn bod unrhyw fygythiad i wasanaethau lleol yn 'frad', a dyna pam bod y gair yn cael ei ddefnyddio mor rhwydd i ymateb i benderfyniadau gwleidyddol sydd ddim oll i'w wneud a brad yn y ffordd mae'r rhan fwyaf o bobl yn deall y term.
Mae yna wledydd eraill sydd a phlwyfoldeb sy'n treiddio'n dwfn i'w gwneuthuriad cenedlaethol wrth gwrs. Mae Iwerddon yn esiampl da. Os ydych yn cael eich hyn yn teithio ar yr ynys ar ddydd Sul, mae'n ddigon tebygol y cewch eich dal mewn traffig - mae llawer o boblogaeth yr ynys ar y lonydd yn dilyn eu timau gemau Gaeleg lleol ar hyd a lled y wlad. Os ydi sir, neu glwb yn mynd ymhell mewn cystadleuaeth mae'r holl ardal yn cael ei foddi mewn baneri i ddathlu hynny. Mae yna bobl sy'n peintio eu ceir yn lliwiau eu sir neu eu clwb. Mae yna ochr wleidyddol negyddol i'r plwyfoldeb yma, gyda phatrymau pleidleisio yn aml yn cael eu gyrru gan blwyfoldeb, ac aelodau etholedig yn rhoi blaenoriaethau lleol o flaen rhai cenedlaethol. O'r traddodiad yma y daw ein cyfaill Jacky Healy Ray.
Ond mae Iwerddon yn wlad mewn ffordd nad ydi Cymru yn un - gall ei phobl godi uwchlaw'r plwyfol a rhoi blaenoriaethau cenedlaethol cyn rhai lleol. Yn wir mae niferoedd sylweddol iawn o bobl tros y ganrif ddiwethaf wedi bod yn ddigon parod i ladd, marw a byw gyda chryn dipyn o ddioddefaint personol er mwyn hyrwyddo achosion cenedlaethol. Y rheswm am hyn ydi bodolaeth naratif, neu fytholeg genedlaethol bwerus sy'n cysylltu efo llawer iawn o bobl - o Capagh i Cabra, o Bandon i Ballycastle. Mae'n naratif sy'n gwneud i bobl fod eisiau bod yn rhan ohono.
Mae yna broblemau efo'r naratif wrth reswm - mae'n dibynnu ar ddarlleniad dethol iawn o hanes, ac mae'n arwain yn fynych at ddefnydd di angen o drais - ond serch hynny mae'n naratif sy'n cydio yn nychymyg pobl, ac mae'n un gyfoethog i'r graddau ei bod yn cwmpasu syniadaethau y Chwyldro Ffrengig a gwrth imperialaeth Byd eang canol yr ugeinfed ganrif.
Os ewch i dafarn, neu aml i fan cyhoeddus arall yn yr Iwerddon mae'n ddigon posibl y byddwch yn dod ar draws tystiolaeth weledol o ymrwymiad i'r naratif yma ar ffurf lluniau o'r bobl sydd wedi ei hyrwyddo neu baraffanalia arall megis copiau o'r proclomasiwn a ddarllenwyd gan Padraig Pearse ar risiau'r GPO yn 1916. Pan mae gwrthdaro rhwng y cenedlaethol a'r lleol yn yr Iwerddon, bydd y cenedlaethol yn ennill fel rheol - a nerth y naratif cenedlaethol sy'n gyfrifol am hynny.
Mae naratif cenedlaethol Iwerddon yn un sydd wedi goroesi yn y tymor canolig, mae pethau'n wahanol yn yr Alban - mae'r naratif mae'r SNP yn ei gwthio yn cynnig delwedd o wlad fodern, ddeinamig yng Ngogledd Ewrop - yn un gymharol newydd - er ei bod yn tynnu ar hanes y llu o Albanwyr megis Alexandar Bell, Adam Smith, Alexander Fleming, James Watt a llawer i un arall oedd yn gyfrifol am adeiladu'r Byd modern. Mae'r naratif yma'n cyferbynnu'n llwyr efo un gynharach yn yr Alban oedd yn canolbwyntio ar orffennol Jacobiaidd - ac oedd i ryw raddau yn cydnabod bod yr Alban fel endid gwleidyddol yn perthyn i'r gorffennol. Mae'r SNP wedi llwyddo i greu naratif newydd sy'n atyniadol i lawer o bobl mewn ffordd nad ydi'r Mudiad Cenedlaethol yma yng Nghymru wedi ei wneud.
Rwan, nid rhyw ddamwain hanesyddol ydi'r diffyg naratif yma - mae yna resymau amdano. Y ffaith bod Cymru yn gymharol gymhleth a bod dealltwriaeth pobl o ystyr Cymreictod yn amrywio'n sylweddol mewn gwahanol rannau o'r wlad ydi'r rheswm eilradd. Y prif reswm fodd bynnag ydi'r ansicrwydd oddi mewn i'r Muniad Cenedlaethol ynglyn a'i gyfeiriad ei hun - os ydi'r cwestiwn (a dyna'r gair yna eto) annibyniaeth yn un problematig, mae creu naratif cenedlaethol cyson i bobl yn anodd hefyd. O ganlyniad mae'n hanfodol bod y Blaid yn mynd i'r afael unwaith ac am byth a'i phroblem annibyniaeth cyn y gall symud ymlaen.
Thursday, May 26, 2011
Un cam ymlaen, dau gam yn ol
Roedd yn ddiddorol gwrando ar Guto Bebb, aelod seneddol Toriaidd Aberconwy ar CF99 yn lled amddiffyn y toriadau sydd ar y gweill i wasanaethau darlledu yng Nghymru trwy awgrymu bod cost darlledu yng Nghymru yn uchel o gymharu a Chatalonia.
Rwan, dwi ddim yn gwybod faint ydi cost darlledu yng Nghatalonia i'r pwrs cyhoeddus, ond 'dydi'r gymhariaeth ddim yn un addas. Mae'r byd cyfryngol yn hynod gryf yng Nghatalonia. Er enghraifft mae yna rwydwaith o wyth sianel deledu Catalanaidd o ran iaith TV3, 33, Super3, 3/24, 3XL, Esport 3, TV3 HD a TV3CAT. Ceir hefyd 17 sianel radio sy'n defnyddio'r iaith fel cyfrwng, ac un ar bymtheg o bapurau newydd. a chwe chylchgrawn.
Cymharer hynny efo'r hyn sydd ar gael yng Nghymru - yn y Gymraeg a'r Saesneg. 'Rydym wedi edrych ar rhan o'r rheswm am hyn eisoes - 'dydan ni ddim yn creu marchnad ar gyfer allbwn cyfryngol Cymreig. Oherwydd hynny rydym yn ddibynnol iawn ar arian cyhoeddus am ein allbwn cyfryngol cenedlaethol. Mae'n debygol y bydd rhaglenni sy'n ymwneud a materion cyfoes a gwleidyddiaeth ymysg y cyntaf i wynebu'r gyllell. Ar hyn o bryd mae rhaglenni felly yn rhoi sylw digon effeithiol a thrylwyr i'r wleidyddiaeth Gymreig newydd sydd wedi datblygu tros y cyfnod ers sefydlu'r Cynulliad. O'u torri bydd y sylw hwnnw yn edwino - a bydd yr anghydbwysedd llwyr rhwng y sylw a roir ar y cyfryngau i wleidyddiaeth Gymreig o gymharu a gwleidyddiaeth Brydeinig yn gwaethygu - i anfantais gwleidyddiaeth Gymreig wrth gwrs.
Mi fyddai'n eironi creulon petai'r Cynulliad - ac yntau bellach yn ddeddfwrfa am y tro cyntaf - yn mynd trwy'r broses o reoli a deddfu, ond bod hynny'n digwydd heb i grynswth pobl Cymru fod a fawr o syniad beth sy'n digwydd yno. Mae perygl gwirioneddol i'r Cynulliad Cenedlaethol gael ei hun mewn rhyw fath o swigan wedi ei wahanu oddi wrth, ac allan o olwg y sawl mae'n eu llywodraethu.
Wednesday, May 25, 2011
Gareth Hughes, y Blaid a'r SNP
Yn y blogiad mae Gareth yn cyferbynnu llwyddiant y cenedlaetholwyr Albanaidd efo perfformiad siomedig y Blaid, ac yn dod i'r casgliadau canlynol:
(1) Bod lleoliad gwleidyddol adain chwith y Blaid yn wahanol i un yr SNP, ac yn creu problem etholiadol pan mae Llafur yn boblogaidd.
Now the SNP in Scotland have never branded themselves as either right or(2) Mae'n casglu o'r canfyddiad yma bod yr SNP wedi targedu a llyncu'r bleidlais Doriaidd, cyn mynd ati i wneud yr un peth i bleidlais y Lib Dems.
left but “nationalist”. They’ve been branded “tartan Tories”, by Labour.Now the
SNP in Scotland have never branded themselves as either right or left but
“nationalist”. They’ve been branded “tartan Tories”, by Labour.
(3) Bod y Blaid wedi canolbwyntio ei hymgyrch ar ymosod ar Lafur yn hytrach nag ar ymosod ar y Toriaid a'r Lib Dems, a bod hyn yn gamgymeriad.First of all they targeted the Tory vote and swallowed up
the Conservative vote in Scotland. They then moved their tanks onto the
Liberal Democrats lawn and helped themselves to their votes. By so
doing, they eclipsed Labour in most of the Scottish constituencies, to
gain an absolute majority.
(4) Bod y Blaid wedi cymryd yn ganiataol y byddai'n gwneud yn dda oherwydd canlyniad y refferendwm.
(5) Bod y Blaid wedi dangos diffyg hyder yn eu polisiau creiddiol eu hunain.
(6) Na lwyddodd y Blaid i roi rheswm da i bobl bleidleisio trosti gydag oedd y refferendwm wedi ei hennill.
Mae llawer o resymu a chymharu Gareth yn amheus - a bod yn garedig. Er enghraifft 'does yna fawr o amheuaeth ynglyn a lle mae'r SNP yn gweld ei lleoliad gwleidyddol ar y sbectrwm De / Chwith. Mae'r Blaid a'r SNP yn eithaf agored am fod yn bleidiau'r Chwith, ac mae hynny'n ddigon synhwyrol i bleidiau sy'n weithredol mewn gwledydd fel Cymru a'r Alban. 'Dydi'r dystiolaeth polio ddim yn cefnogi barn Gareth bod yr SNP wedi mynd ar ol y pleidlais Toriaid yn gyntaf a'r Lib Dems wedyn. Yr hyn sy'n drawiadol am yr ychydig fisoedd cyn yr etholiad ydi'r cwymp yng nghefnogaeth Llafur a'r cynnydd yng nghefnogaeth yr SNP. Mae cefnogaeth y Lib Dems a'r Toriaid yn weddol statig. Gweler yma.
Mae'n wir i'r SNP beidio ymosod llawer ar Lafur yn ystod yr ymgyrch, ond wnaethon nhw ddim ymosod llawer ar y pleidiau unoliaethol eraill chwaith. Roedd eu hymgyrch wedi ei chanoli ar y cwestiwn o bwy fyddai'r llywodraeth a'r prif weinidog gorau. Roedd hynny mor amlwg nad oedd prin angen ymosod ar neb. 'Doedd yna yn sicr ddim gor hyder ar ran y Blaid yn dilyn y refferendwm, roedd y polau Cymreig yn ei gwneud yn gwbl glir i ba gyfeiriad yr oedd y gwynt yn chwythu.
Mae Gareth fodd bynnag yn gywir ynglyn a diffyg hyder y Blaid ynglyn a'i pholisiau creiddiol ei hun - Adeiladu Tros Gymru ydi'r esiampl mae Gareth yn cyfeirio ati, ond mae gan y Blaid hanes o hyn. Gellid bod wedi gwneud llawer mwy o'r posibilrwydd o senedd grog a'r Polisi Ariannu Teg i Gymru yn etholiad cyffredinol 2010 - etholiad oedd yn cael ei dominyddu gan yr economi a'r toriadau oedd ar y ffordd.
Ac mae'n gywir hefyd i ddweud bod annibyniaeth yn broblem i'r Blaid. Gyda'r refferendwm wedi ei hennill yn ddigon hawdd, bod yn fwy agored ynglyn ag annibyniaeth ydi'r unig ddewis i'r Blaid mewn gwirionedd. Mae'r SNP yn gwbl agored ynglyn a'r mater, ac mae'r brif blaid Geltaidd genedlaetholgar arall yn y DU - Sinn Fein - wedi treulio'r rhan fwyaf o'i hanes yn ceisio sefydlu annibyniaeth trwy ddulliau treisgar. Mae'r ddwy blaid yn fwy poblogaidd o lawer na ni.
Rwan mae'n wir nad oes galw mawr am annibyniaeth yng Nghymru ar hyn o bryd, ond 'dydi'r achos tros annibyniaeth ddim yn cael ei wneud chwaith. Os ydi Gareth yn awgrymu nad ydi sefyll yn llonydd yn opsiwn i'r Blaid, ond bod rhaid iddi symud i'r cyfeiriad o hyrwyddo annibyniaeth yn agored neu wneud ei hun yn amherthnasol - mae'n gwbl gywir. 'Dydi lleoliad presenol y Blaid ddim yn un cynaladwy.
Tuesday, May 24, 2011
Safonau dwbl Nia Griffiths
Digon teg - mae'n gam ddefnydd llwyr o hawl cwbl amhosibl ei gyfiawnhau, sy'n cael ei roi i aelodau seneddol ddweud yr hyn maent eisiau ei ddweud am unrhyw un nad ydynt yn ei hoffi. Ond oedd cam ddefnydd Hemming mewn gwirionedd yn waeth na cham ddefnydd Chris Bryant o'r un fraint ar Ebrill 5 eleni, pan aeth ati i bardduo Ieuan Wyn Jones ar sail cynnwys gwefan ffug na fyddai ond ynfytyn llwyr yn ei chymryd o ddifri?
Sunday, May 22, 2011
Realaeth cyfochrog Llais Gwynedd
Er enghraifft, dyma hanes yr wythnosau diwethaf ym Myd bach rhyfedd Llais Gwynedd:
- Ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Meirion Dwyfor, Dafydd Ellis Thomas yn diflannu.
- Dim barn yn cael ei mentro ynglyn a ffawd tebygol 36 o 40 etholaeth Cymru (hyd yn oed llefydd fel y Rhondda ac Aberafon) , ond barn bendant yn cael ei mynegi ynglyn a phedair etholaeth y Gogledd Orllewin - pethau'n 'agos iawn' rhwng Plaid Cymru a Llais Gwynedd yn Meirion Dwyfor, Plaid Cymru i golli Ynys Mon, Llafur i ennill Aber Conwy a Phlaid Cymru i ennill yn Arfon. O leiaf roedd yr olaf yn gywir, ond roedd y cwn ar y palmentydd yn gwybod beth fyddai'n digwydd yn Arfon.
- Erbyn bore'r cyfri roedd Llais Gwynedd wedi cynhyrfu'n lan oherwydd i Helen Mary golli ei sedd i Lafur ac oherwydd bod Plaid Cymru am golli Ynys Mon a bod pethau'n agos iawn ym Meirion Dwyfor. Fel mae'n digwydd cynyddodd y Blaid ganran ei phleidlais ym Mon, a chafodd Dafydd Ellis Thomas dair gwaith cymaint o bleidleisiau ag ymgeisydd Llais Gwynedd, Louise Hughes a ddaeth yn drydydd.
- Serch hynny roedd canlyniad Meirion Dwyfor yn llwyddiant ysgubol i Lais Gwynedd gyda 3,225 pleidlais Louise yn ganlyniad clodwiw iawn, a 9,656 pleidlais Dafydd yn brawf pendant o'i ddiffyg poblogrwydd.
- Cwta ddeg diwrnod ar ol yr etholiad roedd pethau'n edrych yn well byth i Lais Gwynedd gydag ymddiswyddiad 'o leiaf tri' o gynghorwyr Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd. 'Doedd y ffaith na chafodd yr 'ymddiswyddiadau' eu riportio ar unrhyw gyfrwng arall, ac nad oes neb ond Llais Gwynedd yn gwybod dim oll amdanynt yn amharu dim ar y gorfoledd.
E bost bach rhyfedd
Mi fyddwch yn cofio mai Julian ydi'r nofelydd hynod o wrth Gymraeg sy'n cynhyrchu stwff fel a ganlyn ar ei flog;Shouldn't I be getting a Wales Blog of the Year award? I doubt very much if any of your Welsh blogs have managed to achieve over 8,000+ views in 2-3 months and still escalating (my blog receives more daily views than the Daily Mail I'm told).Julian Ruck - Novelist
That may sound shocking considering I’m a Welsh author, but cards on the table, this particular form of communication sounds like a turkey being strangled and should, like the Dodo, have been confined to the history books years ago.
Constantly having this gobbledygook rammed down my throat is too much. It’s made me miss my train on more than a few occasions I can tell you.
Rwan mae'n anodd gweld pam y byddai Julian yn canfasio blogmenai o bawb am wobr, felly efallai bod rhywun yn tynnu coes. Beth bynnag, os ydych chi eisiau dod i farn eich hun ynglyn ag addasrwydd blog Julian i dderbyn gwobr, gallwch ddod o hyd i'w gampwaith yma;
Saturday, May 21, 2011
Cymro ar flaen y gad unwaith eto
Mae'n rhaid bod bod ei ymennydd i gyd yn y droed chwith 'na.
Llwyddiant i'r SNP - eto fyth
Roedd gogwydd sylweddol oddi wrth pob un o'r pleidiau unoliaethol tuag at y cenedlaetholwyr - 8.47% oddi wrth Llafur; 15.20% oddi wrth y LibDems; a 7.43% oddi wrth y Toriaid.
I'r pant y rhed y dwr.
Tuesday, May 17, 2011
Sunday, May 15, 2011
Arweinyddiaeth Plaid Cymru
Rwan, 'dwi ddim eisiau bod yn groes, ond mewn difri calon ydi o'n syniad da i gael lled ymgyrch arweinyddol yn cyd redeg efo beth fydd (gobeithio) yn asesiad trylwyr o strwythurau a blaenoriaethau'r Blaid, ac hynny am gyfnod lled faith?
Mae angen i'r Blaid - fel pob plaid arall - gymryd amser i syllu ar ei botwm bol ei hun weithiau, ond dydi o ddim yn iach i wneud hynny am hydoedd. Mae hanes etholiadol diweddar yn ei gwneud yn eithaf clir nad ydi'r etholwyr yn maddau i bleidiau sy'n cymryd gormod o ddiddordeb yn eu materion mewnol eu hunain. Os mai mewn dwy flynedd a hanner mae IWJ yn bwriadu mynd, iawn os 'na felly mae o eisiau pethau - ond nid yw er lles y Blaid os ydi pobl yn dechrau lleoli eu hunain i gymryd ei le rwan.
Dylai'r Blaid edrych ar ei strwythurau a'i chyfeiriad rwan, a dod a'r broses i ben erbyn diwedd yr hydref, a dylai'r ras am yr arweinyddiaeth gychwyn pan mae dyddiad pendant wedi ei osod ar gyfer y ras honno. Mi fydd yna etholiadau cyngor ac Ewrop yn cael eu cynnal tros y ddwy flynedd nesaf - mi fyddai'n well o lawer i'r Blaid pe na byddai cwestiwn arweinyddiaeth yn crogi trosti bryd hynny.
Friday, May 13, 2011
Ymddiheuriadau
Thursday, May 12, 2011
Sut y dylid ethol aelodau i'r Cynulliad?
Mae’n ddiddorol nodi o flog Jonathan Edwards bod y Blaid yn San Steffan eisiau diwigio’r gyfundrefn ethol aelodau Cynulliad. Byddwch yn ymwybodol mai’r drefn ar hyn o bryd ydi bod 40 o aelodau yn cael eu hethol yn uniongyrchol o’r etholaethau, tra bod ugain arall (pedwar i pob rhanbarth) yn cael eu hethol trwy system rhestr. Ymddengys bod y Blaid yn pwyso ar Cheryll Gillan ddefnyddio ffiniau etholaethol newydd San Steffan ar gyfer y Cynulliad (hy 30 ac nid 40 o seddi) ac ethol 30 aelod trwy ddull rhestr (6 i pob rhanbarth). Y ddadl ydi y byddai’r dull fel hyn yn fwy cyfrannol, ac yn rhannol ddileu’r tuedd yn y drefn bresenol i ffafrio’r Blaid Lafur. ‘Dwi’n anghytuno mae gen i ofn – a dyma pam:
(1) Gall y drefn rhestr fod yn hynod anemocrataidd ac anatebol oherwydd bod y sawl sydd ar frig y rhestrau yn aml yn cael eu dychwelyd heb i’r etholwyr feddwl rhyw lawer am yr hyn maent yn ei wneud efo’u hail bleidlais. Er enghraifft lle ceir pleidiau efo diwylliant mewnol anemocrataidd – fel y Blaid Doriaidd – gallant fynd ati i gamddefnyddio’r drefn. Nid oedd y rhan fwyaf o ymgeiswyr oedd ar ddwy safle uchaf rhestrau’r Toriaid eleni wedi eu hethol gan neb ond rhyw bwyllgor bach canolig o Doriaid pwysig, pwysig. Penderfynodd y rheini y dylai pawb oedd yn y Cynulliad eisoes fynd i frig y rhestrau yn ddi etholiad – sut bynnag yr oeddynt wedi perfformio – a dyna ni, roeddynt i bob pwrpas wedi eu hethol gan lond dwrn o bobl o’r un plaid a nhw eu hunain. Hyd yn oed lle mae’r drefn fewnol yn iachach, nifer fechan o aelodau yn aml sy’n pleidleisio ynglyn a phwy ydi’r ymgeisydd.
(2) ‘Dydi newid y drefn yn y ffordd mae Jonathan eisiau ddim yn sicrhau y canlyniad mae ei eisiau. Er enghraifft, yn yr Alban ceir 73 aelod yn cael eu hethol yn uniongyrchol a 56 (7 i bob rhanbarth trwy’r rhestrau). Wnaeth y trefniant yma ddim atal yr SNP rhag cael mwyafrif llwyr er mai 45.4% o’r bleidlais a gafwyd yn yr etholaethau a 44% ar y rhestrau. Yn wir mi lwyddodd yr SNP i ennill sedd ranbarthol yn eu perferdd dir yng Ngogledd Ddwyrain yr Alban er iddi ennill yr with sedd uniongyrchol yn y rhanbarth.
(3) Yn bwysicach ‘dydi’r newidiadau mae Jonathan yn eu hawgrymu ddim yn cyd fynd ag amcanion hir dymor y Blaid. Ar hyn o bryd mae pobl yn tueddu i uniaethu mwy efo San Steffan nag y gwnant efo’r Cynulliad. Mae’r newidiadau mae’r Toriaid yn bwriadu eu gweithredu i ffiniau etholaethau San Steffan yn gyfle i newid y patrwm hwn. Mi fydd y newidiadau yn creu unedau etholiadol anaturiol – rhai na fydd pobl yn gallu uniaethu efo nhw. Bydd cymoedd sy’n edrych yn agos at ei gilydd ar fap, ond sydd mewn gwirionedd yn bell oddi wrth ei gilydd o safbwynt teithio, yn cael eu rhoi mewn un etholaeth. Bydd Ynys Mon yn cael ei gosod gyda rhan o Wynedd a bydd rhannau o Geredigion yn cael eu rhoi yn yr un etholaethau a rhannau o Bowys yn ol pob tebyg. Mae’n well o lawer bod yr etholaethau Cynulliad yn aros fel ag y maent (yn ddigon tebyg i’r hyn a ddigwyddodd pan newidwyd ffiniau San Steffan yn yr Alban) – mae’r etholaethau presenol (gydag ambell i eithriad) yn rhai eithaf naturiol. Os ydi pobl yn uniaethu efo un set o etholaethau mwy nag efo’r llall, byddant yn uniaethu’n well efo cynrychiolwyr etholedig, yr etholaethau hynny ac efo’r sefydliad maent yn eistedd ynddynt.
Gyda llaw, mae’r blog yma wedi dadlau sawl gwaith mai’r drefn etholiadol orau ar gyfer y Cynulliad ydi dull STV aml aelod gyda thiriogaeth y cynghorau sir presenol yn unedau etholiadol. O gynyddu’r nifer aelodau i 80, gellid mynd ati i ethol un aelod am pob 50,000 o boblogaeth +1. Byddai hyn yn golygu y byddai Caerdydd yn cael 7 aelod, Ynys Mon a Cheredigion 2 yr un a Gwynedd 3 er enghraifft. Mae pobl yn gallu uniaethu hawdd efo eu ffiniau sirol oherwydd mai’r cynghorau sy’n eu darparu efo llawer o’u gwasanaethau.
Tuesday, May 10, 2011
Anghytuno efo Mabon am unwaith
'Dwi'n anghytuno efo dau bwynt yn benodol - yr un sy'n ymwneud a datblygu cyfryngau torfol mwy 'Cymreig' eu naws a'r un sy'n awgrymu bod yr ymgyrch yn ei hanfod yn ddigon effeithiol, ac mai digon tebyg fyddai pethau wedi bod beth bynnag am yr ymgyrch. Mi gychwynwn ni efo'r ail.
Mae unrhyw sefyllfa y cawn ein hun ynddi - yn bersonol neu'n gorfforiaethol - wedi ei chreu gan ddau wahanol fath o amgylchiadau - rhai sydd o fewn ein rheolaeth a rhai nad ydynt. Os ydi'r sefyllfa yr ydym ynddi yn un nad ydym yn hapus a hi, mae'n bwysig i ni ddeall yr holl amgylchiadau sydd wedi arwain at y sefyllfa honno, er mwyn osgoi'r un sefyllfa y tro nesaf daw'r cyfle. Mae'n bwysicach fodd bynnag ein bod yn deall yr amgylchiadau sydd oddi mewn i'n rheolaeth na'r rhai nad ydynt - mae'n haws o lawer newid amgylchiadau felly.
Dyna pam bod hunan feirniadaeth yn greiddiol bwysig os ydym am wella perfformiad. 'Dydi casglu bod pob dim sydd o fewn ein rheolaeth yn sylfaenol gadarn heb gymryd y drafferth i ddadansoddi mewn modd adeiladol ond hunan feirniadol, ddim yn strategaeth sy'n debygol o arwain at sefyllfa o ddysgu gwersi a gwella perfformiad.
Mae'r syniad o 'greu' cyfryngau torfol mwy Cymreig ynddo'i hun yn un arbennig o dda wrth gwrs - ac mae hyn wedi digwydd i raddau tros y degawdau diwethaf. Tra bod gen i broblemau efo'r ffordd y bydd BBC Cymru / Wales yn dehongli'r newyddion i ni, 'does yna ddim dwywaith bod eu dehongliad o'r Byd a'i bethau yn Gymreiciach o lawer nag oedd ugain mlynedd yn ol. Mae S4C hefyd wedi cynnig ffesestr mwy Cymreig ar y Byd i ni. Tra bod y cyfryngau print yng Nghymru yn hynod wan, mae'r papurau cyfrwng Saesneg yn fwy Cymreig eu naws bellach nag yr oeddynt, ac mae cylchgronau cyfrwng Cymraeg fel Barn a Golwg yn gwneud joban dda oddi mewn i'r cyfyngiadau maent yn gorfod cadw iddynt.
A'r cyfyngiadau hynny ydi'r broblem wrth gwrs - gan bod y rhan fwyaf o'r cyfryngau Cymreig yn cael eu hariannu efo arian cyhoeddus, mae unrhyw newid pwyslais sydd yn mynd ymhell o'r norm am ymddangos yn 'bleidiol' wleidyddol - a dydi'r pleidiau unoliaethol ddim yn debygol o ganiatau i sefydliadau sy'n cael eu hariannu ag arian cyhoeddus ymddangos yn bleidiol wleidyddol. Nid ei bod byth yn dod i hynny wrth gwrs - mae'r cyfryngau Cymreig yn deall o ble mae eu grantiau neu eu pres trwydded yn dod, a 'dydyn nhw ddim yn debygol o wneud unrhyw beth i beryglu eu cyllid.
Rwan mae Mabon yn gywir i nodi bod y cyfryngau print yn yr Alban yn llai Prydeinig nag ydynt yng Nghymru. Maent hefyd yn fwy pleidiol o lawer - roedd colofnau barn y Scotsman yn wrthwynebus i'r SNP yn ystod yr etholiad diweddar tra bod Sun Rubert Murdoch yn frwd o'u plaid. Mae yna reswm am hyn - mae'r cyfryngau Albanaidd yn ymateb i'w marchnad - pobl yr Alban. Y rheswm bod y cyfryngau'r Alban yn llai Prydeinig na rhai Cymru ydi bod yr Alban fel gwlad yn llai Prydeinig na Chymru. Mae eu cyfryngau nhw yn gweithredu mewn tirwedd cwbl wahanol. Mae'r un peth gyda llaw yn wir am Ogledd Iwerddon - mor unoliaethol ag ydi'r Belfast Telegraph mae'n llawer llai Prydeinig ar aml i wedd nag ydi'r Daily Post.
A dyna'r broblem - adlewyrchu eu marchnad mae'r cyfryngau print fel rheol, ac mae'r farchnad yng Nghymru wedi ei hintegreiddio efo'r farchnad Seisnig mewn ffordd sydd ddim yn wir yn y gwledydd Celtaidd eraill. Dyna pam bod gan y papurau mawr Prydeinig fersiynau Gwyddelig ac Albanaidd, tra ein bod ni yn cael yr un arlwy a thrigolion Brent a Bradford.
Dydi hyn oll ddim yn golygu nad oes gobaith i'r cyfryngau torfol ddod yn fwy Cymreig gydag amser - i'r gwrthwyneb, fel rydym wedi nodi mae'r cyfryngau Cymreig yn llai Prydeinig bellach nag oeddynt yn y gorffennol - ac mae hynny yn ei dro yn adlewyrchu'r ffaith ein bod ni fel pobl yn llai Prydeinig nag oeddem dro yn ol. Mae'r broses yma yn debygol o barhau.
Yn y cyfamser beth allwn ei wneud i ddatblygu cyfryngau mwy Cymreig?
Y peth amlwg ydi cefnogi'r hyn sydd gennym eisoes o ran cyfryngau Cymreig a chreu marchnad. Yr ail ydi gwneud yr hyn mae Mabon yn ei wneud ar hyn o bryd a blogio trwy gyfrwng y Gymraeg am Gymru. Yn yr oes sydd ohoni gall pobl gyffredin gymryd yr awennau a chyhoeddi fel y mynant ar y We. Tra bod y blogosffer Cymraeg ei iaith yn wan, mae'r blogosffer Cymreig yn fyrlymus a phoblogaidd ac yn dehongli gwleidyddiaeth mewn ffordd llawer Cymreiciach na'r cyfryngau prif lif.
Felly dyna fo - os ydym am gyfryngau mwy Cymreig a llai Prydeinig rhaid mynd ati i gefnogi'r hyn sydd ar gael o ran cyfryngau prif lif, a chreu ein ymgom gwleidyddol Cymreig ein hunain yn y cyfryngau hynny y gallwn ddylanwadu arnynt fel unigolion. Mae'r pethau yma'n gweithio o'r gwaelod i fyny ac nid o'r brig i lawr.
Monday, May 09, 2011
Ychydig mwy o nodiadau ynglyn a natur ryfedd gwleidyddiaeth Cymru
Mae'r Blaid Lafur wedi dominyddu gwleidyddiaeth ar pob lefel yng Nghymru mewn ffordd sy'n weddol anghyffredin mewn gwleidyddiaeth etholiadol. Ar un olwg mae hyn yn beth rhyfedd - wedi'r cwbl o safbwynt llwyddo i wneud yr hyn sydd yn bwysig - codi perfformiad economaidd y wlad - mae Llafur wedi methu, methu a methu eto. Mae'n bosibl meddwl am bleidiau eraill sydd wedi rheoli am gyfnodau hir iawn - yr LDP yn Japan er enghraifft neu'r IRP yn Mecsico - ond roedd ganddyn nhw yn eu ffyrdd eu hunain record o lwyddiant i gyfeirio ato. Does gan Llafur Cymru dim record o gwbl o lwyddiant i gyfeirio'n ol ato. A beth bynnag 'dydyn nhw heb ddominyddu gwleidyddiaeth i'r un graddau a Llafur Cymru.
Rydym wedi edrych yn y gorffennol am y rhesymau tros gryfder Llafur yng Nghymru bellach - mae'n blaid sy'n cael ei chysylltu efo gwariant cyhoeddus, ac mae yna lawer iawn, iawn o bobl yn ddibynnol ar wariant felly yng Nghymru. Mae cefnogaeth yn tueddu i lifo yn gryfach tuag at Lafur pan ceir canfyddiad bod bygythiad i wariant cyhoeddus - y sefyllfa yr ydym ynddi 'rwan wrth gwrs.
Yr hyn sy'n ddiddorol ydi'r ffaith bod Llafur yn cael reid rhad ac am ddim gan y pleidiau eraill ar y mater yma. 'Does yna neb o ddifri yn creu naratif sydd wedi ei seilio ar y ffaith bod parhau i bleidleisio i Lafur wedi ein cael ar waelod pob tabl 'rhanbarthol' sydd o unrhyw werth. Mewn unrhyw gyfundrefn wleidyddol normal byddai methiant parhaus Llafur yn bwnc llosg gan y pleidiau eraill ym mhob etholiad. 'Dydi hynny ddim yn wir yng Nghymru, mae ein methiant yn cael ei dderbyn fel rhan naturiol o drefn pethau. Mae derbyn - a disgwyl methiant yn rhan o'n seicoleg cenedlaethol.
Daw hyn a ni at broblem arall yn ein gwneuthuriad seicolegol cenedlaethol - i gymharu a'r Alban, neu'r Iwerddon o ran hynny, ychydig iawn o optimistiaeth sydd ynglyn a'r hyn ydi Cymru a'r hyn y gallai Cymru fod. Mae yna ymdeimlad yn y gwledydd Celtaidd eraill o botensial cenedlaethol, ac mae'n dilyn felly bod methiant i gyrraedd y potensial hwnnw yn fater o bwys sydd a goblygiadau etholiadol iddo. 'Does gennym ni ddim ymdeimlad cryf o botensial yn cael ei golli - mae dibyniaeth rhywsut wedi dod yn rhan o'r hyn rydym.
Yn y blogiad diwethaf roeddem yn rhyw edrych ar bethau y gallai'r Blaid fod wedi eu gwneud yn well yn yr etholiad diweddaraf. O ran creu naratif gwleidyddol mwy cyffredinol a pharhaus byddwn yn awgrymu bod y Blaid yn meddwl am y ddau fater uchod.
I ddechrau dylid ceisio creu mwy o ymdeimlad o optimistiaeth ynglyn a Chymru a'r hyn y gallai fod - nid trwy ddibynnu ar naratif sy'n tanlinellu canfyddiad y dylid gwario mwy o arian cyhoeddus yng Nghymru oherwydd ei thlodi ydi'r ffordd orau o wneud hynny.
Yn ail dylai methiant parhaus Llafur yng Nghymru fod yn rhan barhaol o'r sgwrs wleidyddol yng Nghymru. Am rhyw reswm 'dydi hyn prin yn bwnc trafod ar hyn o bryd.
Friday, May 06, 2011
Etholiadau 2011 sylwadau cychwynol
Reit, at brif grynswth y pwt yma. Roedd perfformiad y Blaid ddoe yn siomedig ac roedd nifer o resymau am hynny - rhai oddi mewn i'n rheolaeth, a rhai y tu hwnt i'n rheolaeth. Byddwn yn edrych ar bethau o sawl cyfeiriad maes o law
'Doedd yna ddim oll y gallai'r Blaid ei wneud i newid un ffaith gwaelodol - sef bod Llafur - wrth safonau hanesyddol - yn boblogaidd yng Nghymru yn 2011 ond yn amhoblogaidd yn 2007. Gan mai yn erbyn Llafur mae'r Blaid yn cystadlu am bleidleisiau tros y rhan fwyaf o Gymru, roedd y cyd destun etholiadol yma yn rhwym o gael effaith ar berfformiad y Blaid yn genedlaethol. Yn yr un modd mae'r Lib Dems ar hyn o bryd yn amhoblogaidd, ac mae'r Toriaid yn aml yn ymgodymu efo nhw am bleidleisiau - felly mae rhan o lwyddiant cymharol y Toriaid i'w briodoli i hynny.
Mater fydd yn cael ei godi tros yr wythnosau nesaf ydi mater yr arweinyddiaeth - gall Ieuan Wyn Jones ddisgwyl cael ei gladdu o dan bentwr o feirniadaeth. Wnes i ddim pleidleisio i gael Ieuan yn arweinydd - i Helen Mary Jones aeth fy rhif 1 i. Serch hynny 'dydw i erioed wedi gweld ei arweinyddiaeth yn broblem sylweddol.
Mae i Ieuan ei gryfderau a'i wendidau fel arweinydd. Mae'n drefnus, yn gydwybodol, mae'n deall ei feysydd ac yn mynegi ei hun yn ddigon effeithiol yn y ddwy iaith. 'Dydi o ddim yn arweinydd carismataidd yn yr ystyr bod Alex Salmond neu Dafydd Wigley yn garismataidd - ond dydi hynny ddim yn broblem ynddo'i hun - bydd pleidiau ag arweinwyr nad ydynt yn garismataidd yn aml yn llwyddo. Er enghraifft, mae'r DUP yn perfformio'n well o dan arweinyddiaeth Peter robinson nag oedd yn gwneud o dan Ian Paisley. Ond yr hyn na ellir ei wneud o dan amgylchiadau felly ydi rhedeg ymgyrch arlywyddol fel un Salmond eleni - mae'n rhaid wrth strategaethau eraill - a natur y strategaethau hynny oedd y broblem i'r Blaid eleni.
Polisiau ydi'r mater cyntaf. Mae polisiau yn amlwg yn hynod bwysig. Yn 2007 roedd gan y Blaid set o bolisiau trawiadol - gliniaduron am ddim, cymorth i fusnesau efo treth busnes er enghraifft. Er nad oedd y polisiau hyn ar un olwg yn rhai sylweddol roedd pobl yn son am rai ohonynt ar stepan drws bryd hynny. Chlywais i neb yn son am bolisi o eiddo'r blaid y tro hwn.
Mae naratif etholiadol yn bwysig ym mhob etholiad, ac mae hefyd yn bwysig bod y naratif hwnnw yn gyson trwy'r ymgyrch, ac ar pob lefel - yn lleol ac yn genedlaethol. 'Dydw i ddim yn siwr beth yn union oedd y naratif y tro hwn. Fy awgrym i am naratif effeithiol eleni fyddai gwrthgyferbynnu'r llywodraeth glymbleidiol gymharol boblogaidd sydd newydd ddod i ben efo'r llanast o lywodraeth Lafur hynod amhoblogaidd 2003 - 2007 (torri cyllid ysgolion, cau ysbytai ac ati) - ac yna mynd ati i wneud defnydd o'r polau i awgrymu bod pleidlais i Lafur yn bleidlais i ddychwelyd i'r dyddiau hynny. Mi wnaeth straeon am gyrff ddim yn cael eu claddu a mynyddoedd o sbwriel ar hyd ochrau'r ffyrdd yn ystod llywodraeth Callaghan gadw Mrs Thatcher yn mynd am flynyddoedd maith.
Mater arall mwy gwaelodol o bosibl ydi lleoliad gwleidyddol y Blaid. Ers 1997 mae'r pleidiau unoliaethol yng Nghymru wedi Cymreicio ac wedi meddiannu peth o dir syniadaethol traddodiadol y Blaid. 'Dydi o ddim yn glir i mi bod y Blaid wedi ymateb i'r newid yma, nag yn wir wedi ystyried o ddifri os ydi'r tir gwleidyddol mae'n sefyll arno ar hyn o bryd yn un priodol i'r oes sydd ohoni. Yn sicr mae'n fwy anodd gwahanu'r Blaid oddi wrth y pleidiau unoliaethol yng Nghymru nag oedd hi yn y dyddiau cyn datganoli. Mae angen gwirioneddol edrych ar hyn. Yn gynharach heddiw cafodd un plaid genedlaetholgar oddi mewn i'r DU ei sgubo i rym gan gannoedd o filoedd o bleidleisiau pobl gyffredin. Yn hwyrach heddiw bydd un arall yn ol pob tebyg yn gwneud yn dda iawn. Mae proffeil cyhoeddus y ddwy blaid yma yn llawer mwy miniog genedlaetholgar nag un y Blaid. Mae cwestiynau i'w holi ynglyn a hynny.
Thursday, May 05, 2011
Ymddiheuriadau etholiadol
Gwaetha'r modd dilyn pethau o bell y byddaf eleni - felly os ydych eisiau canlyniadau cynnar, nid blogmenai ydi'r lle i chi y tro hwn.
Sori.
Taflen gelwyddog Eifion Williams
Yr hyn sydd wedi digwydd yn y bon ydi bod yr ymgyrch Llafur wedi creu 'ffeithiau,' wedi eu cyhoeddi ac yna wedi mynd ati i'w dosbarthu i etholwyr Aberconwy, yn y gobaith y byddai'r rheiny yn pleidleisio i Eifion Williams ar sail y celwydd yn y pamffledi.
Mae hyn yn ddigon tebyg i'r hyn a ddigwyddodd yn Oldham yn ystod yr etholiad cyffredinol y llynedd. Diwedd y stori honno oedd i'r ymgeisydd Llafur celwyddog, Phil Woolas orfod egluro ei hun i lys barn a cholli ei sedd.
Rwan, petai Eifion yn ennill, ac yn arbennig petai'n ennill o drwch blewyn mae'n ddigon posibl y byddai pethau'n cyrraedd llys barn unwaith eto. Byddai'n dra thebygol y byddai hynny'n arwain at rhywbeth tebyg i'r hyn a ddigwyddodd yn Oldham - sydd yn codi mater digon diddorol. Byddai canlyniad Aberconwy wedi cael effaith ar y canlyniad rhanbarthol yn y Gogledd. Byddai'n rhaid cael is etholiad yn Aberconwy, ac mae'n debyg y byddai'r canlyniad yn wahanol. Felly ar rhyw olwg byddai canlyniad annilys wedi cael effaith ar y canlyniad rhanbarthol yn y Gogledd.
Mae yna rhywbeth yn dweud wrthyf bod un neu ddau oddi mewn i'r Blaid Lafur Gymreig yn gobeithio nad Eifion Williams fydd AS nesaf Aberconwy.
Wednesday, May 04, 2011
Taflen 'enllibus' Eifion Williams
Mae'n ddiddorol i'r Blaid Lafur dynnu taflenni honedig enllibus Eifion Williams yn Aberconwy yn ol wedi bygythiadau cyfreithiol gan Blaid Cymru a'r Lib Dems.
Mi fydd nifer yn cofio i Eifion sefyll tros y Blaid Lafur yng Ngaernarfon yn etholiadau San Steffan 1997. Fedra i ddim cofio dim enllibus yn neynydd etholiadol Eifion bryd hynny - ond roedd ganddo'n sicr bethau digon lliwgar i'w dweud am ei wrthwynebwyr gwleidyddol pan roedd yn ymlacio o gwmpas tafarnau Caernarfon wedi dyddiau hir o ganfasio.
Hwyrach ei bod yn anodd dysgu triciau newydd i hen gi.
Monday, May 02, 2011
Ffigyrau'r mis
UKIP i gael seddi ar Fai 5?
Petai'r ffigwr hwnnw'n cael ei wireddu byddai'n sicr y byddai'r blaid wrth Gymreig, asgell dde yn ennill seddi. Yn wir, petai eu pleidlais wedi ei ddosbarthu y fwy cyson nag un y Lib Dems - ac mae yna beth lle i gredu y gallai hynny fod yn wir, yna gallent gael mwy o seddi na phlaid Kirsty Williams.
Map etholiadol yr Alban ar ol Mai 5
Er enghraifft o fwydo canlyniadau diweddaraf Progressive Poll i injan ddarogan Scotland Votes daw bron i pob etholaeth yn wyrdd neu'n goch.
Yn wir mae yna bosibilrwydd y bydd pob etholaeth tir mawr yn cael eu cynrychioli gan Lafur neu'r SNP. Mi fyddai hynny'n ganlyniad cwbl syfrdanol.