Tuesday, May 10, 2011

Anghytuno efo Mabon am unwaith

Fydda i ddim yn anghytuno yn aml iawn efo Mabon ap Gwynfor, ond mae gen i ofn fy mod am anghytuno efo rhai o'i sylwadau yn ei flogiad diweddaraf - un sy'n ymwneud yn bennaf a chanlyniad siomedig yr etholiad diweddar i'r Blaid.

'Dwi'n anghytuno efo dau bwynt yn benodol - yr un sy'n ymwneud a datblygu cyfryngau torfol mwy 'Cymreig' eu naws a'r un sy'n awgrymu bod yr ymgyrch yn ei hanfod yn ddigon effeithiol, ac mai digon tebyg fyddai pethau wedi bod beth bynnag am yr ymgyrch. Mi gychwynwn ni efo'r ail.

Mae unrhyw sefyllfa y cawn ein hun ynddi - yn bersonol neu'n gorfforiaethol - wedi ei chreu gan ddau wahanol fath o amgylchiadau - rhai sydd o fewn ein rheolaeth a rhai nad ydynt. Os ydi'r sefyllfa yr ydym ynddi yn un nad ydym yn hapus a hi, mae'n bwysig i ni ddeall yr holl amgylchiadau sydd wedi arwain at y sefyllfa honno, er mwyn osgoi'r un sefyllfa y tro nesaf daw'r cyfle. Mae'n bwysicach fodd bynnag ein bod yn deall yr amgylchiadau sydd oddi mewn i'n rheolaeth na'r rhai nad ydynt - mae'n haws o lawer newid amgylchiadau felly.

Dyna pam bod hunan feirniadaeth yn greiddiol bwysig os ydym am wella perfformiad. 'Dydi casglu bod pob dim sydd o fewn ein rheolaeth yn sylfaenol gadarn heb gymryd y drafferth i ddadansoddi mewn modd adeiladol ond hunan feirniadol, ddim yn strategaeth sy'n debygol o arwain at sefyllfa o ddysgu gwersi a gwella perfformiad.

Mae'r syniad o 'greu' cyfryngau torfol mwy Cymreig ynddo'i hun yn un arbennig o dda wrth gwrs - ac mae hyn wedi digwydd i raddau tros y degawdau diwethaf. Tra bod gen i broblemau efo'r ffordd y bydd BBC Cymru / Wales yn dehongli'r newyddion i ni, 'does yna ddim dwywaith bod eu dehongliad o'r Byd a'i bethau yn Gymreiciach o lawer nag oedd ugain mlynedd yn ol. Mae S4C hefyd wedi cynnig ffesestr mwy Cymreig ar y Byd i ni. Tra bod y cyfryngau print yng Nghymru yn hynod wan, mae'r papurau cyfrwng Saesneg yn fwy Cymreig eu naws bellach nag yr oeddynt, ac mae cylchgronau cyfrwng Cymraeg fel Barn a Golwg yn gwneud joban dda oddi mewn i'r cyfyngiadau maent yn gorfod cadw iddynt.

A'r cyfyngiadau hynny ydi'r broblem wrth gwrs - gan bod y rhan fwyaf o'r cyfryngau Cymreig yn cael eu hariannu efo arian cyhoeddus, mae unrhyw newid pwyslais sydd yn mynd ymhell o'r norm am ymddangos yn 'bleidiol' wleidyddol - a dydi'r pleidiau unoliaethol ddim yn debygol o ganiatau i sefydliadau sy'n cael eu hariannu ag arian cyhoeddus ymddangos yn bleidiol wleidyddol. Nid ei bod byth yn dod i hynny wrth gwrs - mae'r cyfryngau Cymreig yn deall o ble mae eu grantiau neu eu pres trwydded yn dod, a 'dydyn nhw ddim yn debygol o wneud unrhyw beth i beryglu eu cyllid.

Rwan mae Mabon yn gywir i nodi bod y cyfryngau print yn yr Alban yn llai Prydeinig nag ydynt yng Nghymru. Maent hefyd yn fwy pleidiol o lawer - roedd colofnau barn y Scotsman yn wrthwynebus i'r SNP yn ystod yr etholiad diweddar tra bod Sun Rubert Murdoch yn frwd o'u plaid. Mae yna reswm am hyn - mae'r cyfryngau Albanaidd yn ymateb i'w marchnad - pobl yr Alban. Y rheswm bod y cyfryngau'r Alban yn llai Prydeinig na rhai Cymru ydi bod yr Alban fel gwlad yn llai Prydeinig na Chymru. Mae eu cyfryngau nhw yn gweithredu mewn tirwedd cwbl wahanol. Mae'r un peth gyda llaw yn wir am Ogledd Iwerddon - mor unoliaethol ag ydi'r Belfast Telegraph mae'n llawer llai Prydeinig ar aml i wedd nag ydi'r Daily Post.

A dyna'r broblem - adlewyrchu eu marchnad mae'r cyfryngau print fel rheol, ac mae'r farchnad yng Nghymru wedi ei hintegreiddio efo'r farchnad Seisnig mewn ffordd sydd ddim yn wir yn y gwledydd Celtaidd eraill. Dyna pam bod gan y papurau mawr Prydeinig fersiynau Gwyddelig ac Albanaidd, tra ein bod ni yn cael yr un arlwy a thrigolion Brent a Bradford.

Dydi hyn oll ddim yn golygu nad oes gobaith i'r cyfryngau torfol ddod yn fwy Cymreig gydag amser - i'r gwrthwyneb, fel rydym wedi nodi mae'r cyfryngau Cymreig yn llai Prydeinig bellach nag oeddynt yn y gorffennol - ac mae hynny yn ei dro yn adlewyrchu'r ffaith ein bod ni fel pobl yn llai Prydeinig nag oeddem dro yn ol. Mae'r broses yma yn debygol o barhau.

Yn y cyfamser beth allwn ei wneud i ddatblygu cyfryngau mwy Cymreig?

Y peth amlwg ydi cefnogi'r hyn sydd gennym eisoes o ran cyfryngau Cymreig a chreu marchnad. Yr ail ydi gwneud yr hyn mae Mabon yn ei wneud ar hyn o bryd a blogio trwy gyfrwng y Gymraeg am Gymru. Yn yr oes sydd ohoni gall pobl gyffredin gymryd yr awennau a chyhoeddi fel y mynant ar y We. Tra bod y blogosffer Cymraeg ei iaith yn wan, mae'r blogosffer Cymreig yn fyrlymus a phoblogaidd ac yn dehongli gwleidyddiaeth mewn ffordd llawer Cymreiciach na'r cyfryngau prif lif.

Felly dyna fo - os ydym am gyfryngau mwy Cymreig a llai Prydeinig rhaid mynd ati i gefnogi'r hyn sydd ar gael o ran cyfryngau prif lif, a chreu ein ymgom gwleidyddol Cymreig ein hunain yn y cyfryngau hynny y gallwn ddylanwadu arnynt fel unigolion. Mae'r pethau yma'n gweithio o'r gwaelod i fyny ac nid o'r brig i lawr.

5 comments:

Anonymous said...

Hunan-werthuso?

Be di hyn, 'addysg speak'? ;-)

Anonymous said...

Na-hunan arfanu fyddai hynnu!

Cai Larsen said...

Hunan feirniadaeth wnes i ei ddefnyddio - roeddwn yn ceisio osgoi addysg speak!

Anonymous said...

hmmm...ar ol treilio oes yn llunio ymateb mae 'Blogger' wedi penderfynnu nad yw'n gallu ei gyhoeddi ac wedi ei golli!

Mi wna i mond rhoi'r pwt olaf am y tro felly.

Rwy'n gyndyn o gynnal trafodaeth ar lwyddianau a methianau mewnol y Blaid yn gyhoeddus.

Ond os yw unrhyw un sydd am weld y Blaid yn llwyddo am roi barn, mae croeso i chi ddanfon e-bost ata i (mor gynhwysfawr, gryf, feirniadol, ag y dymunwch) at mabonapgwynfor@gmail.com

Diolch.

Mi wna i ymateb rywbryd eto i rai'r o'r pwyntiau penodol.

Diolch Cai.

Mabon

Cai Larsen said...

Mabon: Rwy'n gyndyn o gynnal trafodaeth ar lwyddianau a methianau mewnol y Blaid yn gyhoeddus.

'Dwi ddim yn meddwl bod y blogiad yn gwneud hynny Mabon - dim ond pwysleisio pwysigrwydd parodrwydd i fod yn hunan feirniadol.