Wednesday, April 27, 2011

Pleidleisiau post a 'ballu

'Dydw i erioed wedi bod yn un am roi gormod o grediniaeth ar y rhagolygon etholiadol y gellir eu casglu o bleidleisiau post, ond cyn bod Betsan yn codi'r mater waeth i mi ddweud gair neu ddau.

Cyfeirio mae Betsan at y ffaith bod pleidleisiau post bellach yn cael eu dychwelyd i'r swyddogion etholiadol. Bydd y swyddogion hynny yn cyfri a gwirio'r pleidleisiau, ac mae gan gynrychiolwyr o'r pleidiau hawl i fod yn bresennol pan wneir hynny. 'Dydi'r swyddog ddim i fod i ddangos wyneb y papurau pleidleisio, ond mae yn natur pethau bod rhai swyddogion yn fwy cydwybodol yn hyn o beth na'i gilydd a bod cynrychiolwyr y pleidiau yn sbecian ar y pleidleisiau pan gant y cyfle.

Y drwg efo'r math yma o ddarogan ydi bod y wybodaeth a geir yn ddarniog iawn, ac nad ydi'r sawl sy'n pleidleisio trwy'r post yn gynrychioliadol o'r gofrestr bleidleisio yn aml - mae rhai pleidiau lleol yn dda iawn am drefnu i'w cefnogwyr bleidleisio trwy'r post, tra nad ydi eraill cystal. Mae hefyd er budd pleidiau i honni i fod ar y blaen, hyd yn oed os nad ydynt.

Ta waeth - awgrymu mae Betsan bod yna ambell i ganlyniad anisgwyl ar y gweill, ac mae yna sylw (di enw) yn y dudalen sylwadau bod Ron Davies ar y blaen yng Nghaerffili. Mi allwn ni ddisgwyl mwy o'r math yma o beth tros y dyddiau nesaf.

No comments: