Monday, February 08, 2010

Pam bod mor bersonol?


Ar ol cychwyn ei yrfa fel arweinydd y Blaid Doriaidd yn addo new style of politics, mae David Cameron yn mynd yn fwyfwy personol ac annifyr yn y ffordd mae'n gwleidydda. Mae'r ymysodiad heddiw ar Brown lle mae'n rhagrithiol ddigon, yn cyfuno'r busnes costau efo sylwadau personol yn nodweddiadol o hyn.

Fel rheol arwydd nad oes yna wahaniaethau polisi mawr ydi gwleidydda personol - ymgais i greu gwahaniaeth pan nad oes yna wahaniaeth mewn gwirionedd. Dyna sydd yn digwydd yma wrth gwrs - twidyldym yn ymosod ar twidyldi oherwydd nad yw'n gallu meddwl am reswm call pam y byddai rhywun eisiau rhoi ei groes wrth ymyl enw twidyldym yn hytrach na thwidyldi.

1 comment:

A Evans said...

Panig efallai oherydd mae'r gap yn poliau opiniwn mynd yn llai.