Thursday, December 25, 2008

Rol y snob ideolegol yn y teulu cenedlaetholgar

Mae'r ddadl rhwng Rhydian, gwahanol gyfranwyr anhysbys a Hogyn o Rachub yma wedi codi nifer o gwestiynau digon diddorol. Mi gefais gip y diwrnod cyn y Nadolig ar y cwestiwn o pryd y dylid cynnal refferendwm. Fy mwriad heddiw ydi cael golwg ar fater arall - rol y snob ideolegol mewn gwleidyddiaeth yng Nghymru.

Efallai bod snob ideolegol yn derm ychydig yn gas - chwilio am derm am ideological purist oeddwn i, ond mae'n mynegi'r hyn 'dwi'n ceisio ei ddweud cymaint yn well. Y peth cyntaf i'w ddeall am y snob ideolegol ydi nad oes ganddo unrhyw ddiddordeb mewn, na dealltwriaeth o wleidyddiaeth etholiadol. Ei brif ddiddordeb ydi harthio nad ydi pobl eraill cyn bured a fo ei hun. Felly mae'r snob ideolegol sydd hefyd yn genedlaetholwr Cymreig yn meddwl ei fod yn well cenedlaetholwr na neb arall, ac mai ei le fo yn nhrefn pethau ydi tynnu sylw at pob dim mae ei gyd genedlaetholwyr yn eu gwneud nad ydynt yn genedlaetholgar yn eu hanfod.

'Dwi wedi canfasio tros rhyw Bleidiwr neu'i gilydd ers etholiad cyffredinol 1983. Yn ystod yr amser yna gallaf ddweud gyda pheth hyder fy mod wedi sefyll wrth ddrws miloedd ar filoedd o bobl yn trafod gwleidyddiaeth efo nhw. Mae pobl yn barod iawn i drafod yr hyn sydd yn eu poeni.

Y themau mwyaf cyffredin ydi materion yn ymwneud a thai a chynllunio, swyddi, cymdogion sy'n defnyddio cyffuriau ac yn ymddwyn yn wrth gymdeithasol, treth y cyngor, datblygiadau lleol ('dwi wedi clywed am y datblygiad ar Ddoc Fictoria mor aml nes fy mod eisiau sgrechian pob tro 'dwi'n meddwl am y lle). Roedd y rhyfel yn Irac yn codi ar aml i stepan drws yn ystod y ddwy etholiad diwethaf - roedd pawb, yn ddi eithriad yn erbyn.

Mae pobl yn codi pob math o bethau eraill hefyd - llawer ohonynt yn bisar - cefais un cyfaill oedd wedi gwisgo fel dynas yn dweud mai hawliau hoyw oedd y peth mawr iddo fo a chymydog agos oedd gyda baner fawr yr hen Dde Affrica (hy baner y De Affrica aparteid) yn bytheirio bod gormod o bobl sydd a gwyrdroedigaethau rhywiol yn poblogi San Steffan. 'Dwi wedi clywed llawer un yn dweud nad ydynt am bleidleisio oherwydd eu bod eisoes wedi pleidleisio tros Grist. Mae yna foi yn Twtill sy'n poeni bod Caernarfon yn cael ei boddi gan bobl dduon, ac mae yna foi yn yr un rhan o'r dref sy'n poeni bod gwreiddiau coeden sy'n tyfu o flaen ei dy yn mynd i chwalu'r seiliau a ddymchwel ei gartref i'r llawr. Mae'n fodlon pleidleisio i'r sawl sy'n fodlon torri'r goeden. 'Dwi hefyd wedi clywed aml i fan swyddog cyngor yn gwrthod dweud i bwy maent am bleidleisio oherwydd bod eu swydd mor ofnadwy, ofnadwy o bwysig nes ei bod yn hanfodol bod yn ddi duedd pob amser.

'Dwi erioed - ddim unwaith wedi clywed neb yn codi mater cyfansoddiadol o unrhyw fath - dim byd ynglyn a datganoli, dim ynglyn a'r frenhiniaeth, dim ynglyn a Thai'r Arglwyddi a dim ynglyn ag annibyniaeth i Gymru, dim gair, dim sill, dim byd - zilch.

Mi fedra i gyfri ar un llaw yr adegau mae pobl wedi codi statws y Gymraeg. Y tro diwethaf i hyn ddigwydd oedd ar stad dai cyngor 'Sgubor Goch ar gyrion Caernarfon rhyw dair blynedd yn ol. Daeth dyn mewn tracwisg a chap pel fas i'r drws a chymryd fy mhapur o fy llaw ac edrych trosto'n frysiog cyn dweud - Da iawn chdi cont felna mae'r peth i fod yn Gnarfon Cymraeg gynta a Susnag wedyn nath y boi Tori roid papur i fi yn dre ddoe efo'r Susnag gynta rel ffycin Cardiff mi nes i stwffio fo i lawr i gorn gwddw fo dwi'm yn fotio i neb cofia gas gin i politics. 'Dwi ddim yn gwamalu.

'Rwan 'dydi hyn ddim yn golygu nad ydi'r materion sydd yn agos at galon HRF, HOR a'u tebyg yn ogystal ag i'r rhan fwyaf o aelodau a gweithwyr y Blaid ddim yn bwysig i'r cyhoedd yn gyffredinol. 'Dwi'n siwr eu bod yn bwysig i lawer o bobl - ond dydyn nhw ddim yn flaenoriaethau uchel iawn i bobl pan maent yn meddwl am sut i bleidleisio. Mae pobl sy'n ymddiddori mewn materion ieithyddol a chyfansoddiadol yn fwy tebygol o bleidleisio i'r Blaid wrth gwrs - ond 'dydi naratif syml a di gyfaddawd ddim yn ennill digon o bleidleisiau i ennill unrhyw etholiadau o unrhyw fath. Dyma gamgymeriad mawr y Blaid am tua hanner ei hanes - yr hanner cyntaf pan nad oedd yn ennill unrhyw etholiadau a phan nad oedd ganddi nemor ddim dylanwad ar fywyd cyhoeddus yng Nghymru.

Mae gwleidyddiaeth etholiadol yn estron i dirwedd gwleidyddol y snob ideolegol - tirwedd mewnol ydyw yn y bon - tirwedd sy'n ymwneud mwy ag anghenion personol y snob ideolegol nag anghenion gwlad y snob ideolegol.

Y peth cyntaf i'w ddeall am dirwedd gwleidyddol y snob ideolegol ydi ei fod yn lle braf i fod ynddo. Mae cynnal safbwynt deallusol cyson ac anhyblyg yn hawdd, cyn belled nad ydym yn caniatau i fywyd go iawn amharu llawer arno. Mae'n hawdd ennill dadl abseliwtaidd yn erbyn rhywun sy'n hyblyg ac ymarferol. Mae yna fanteision ychwanegol wrth gwrs - gall y snob ideolegol edrych i lawr ei drwyn ar y sawl sydd wedi cyfaddawdu gyda bywyd pob dydd er mwyn symud yr agenda genedlaethol yn ei blaen. Gall deimlo'n bwysicach, yn fwy gonest, yn fwy cyson ac yn burach na'i gyd genedlaetholwyr. 'Dydi'r ffaith mai'r dywydiedig gyd genedlaetholwyr sydd wedi dod a ni i lle'r ydym heddiw ddim yn amharu mymryn ar y pleser hwnnw wrth gwrs.

Gall y snob ideolegol fod yn ddiog ac eistedd yn ol yn ei gadair a chyfiawnhau peidio a gwleidydda - wedi'r cwbl does yna'r un blaid yn ddigon pur iddo fo. Felly gall edrych o hirbell ar eraill yn ymdrechu, croesawu pob cam ymlaen yn ddistaw bach tra'n beirniadu'r mudiad cenedlaethol am beidio a chyflawni digon yn ddigon cyflym, wrth unrhyw un sy'n fodlon gwrando.

Mae yna stori fach sydd bron yn ddameg o ddiffygion y snob ideolegol. Os 'dwi'n deall safbwynt Hogyn o Rachub yn iawn 'dydi o ddim yn pleidleisio i'r Blaid yng Nghaerdydd oherwydd nad yw'n ystyried y Blaid yno yn ddigon 'cenedlaetholgar'. 'Rwan pe byddai'r Blaid yng Nghaerdydd yn dilyn cyngor HoR ni fyddant yn etholadwy mewn unrhyw ward yn y ddinas. Ni fyddant yn etholadwy hyd yn oed yng Ngwynedd, nag yn wir yn Rachub.

Yn y cyfamser mae'r Blaid trwy gyfaddawdu, bod yn ymarferol a cheisio apelio at amrediad eang o bobl wedi cael peth llwyddiant yng Nghaerdydd - yn rhannol oherwydd pleidleisiau pobl o leiafrifoedd ethnig. Un o ganlyniadau'r llwyddiant rhannol yma ydi bod y Blaid yn rhan o'r glymblaid sy'n rheoli yng Nghaerdydd, ac un o ganlyniadau hynny yn ei dro ydi bod y ddarpariaeth addysgol Gymraeg yn y brif ddinas yn debygol o gael ei thrawsnewid tros y blynyddoedd nesaf. Hwn ydi un o'r datblygiadau pwysicaf yn hanes addysg Gymraeg ers blynyddoedd lawer.

Hynny yw mae cenedlaetholwyr naturiol sydd wedi dod i ddeall tros flynyddoedd sut i lwyddo yn etholiadol wedi defnyddio'r llwyddiant hwnnw i symud agenda genedlaetholgar yn ei blaen. Mae'r snob etholiadol am ymateb trwy ddweud nad yw'r llwyddiant yn ddigonol, a'i fod o ei hun yn llawer purach na neb arall. Ond wrth gwrs pe byddai cyngor y snob ideolegol wedi ei ddilyn ni fyddai unrhyw beth o gwbl wedi ei gyflawni - ond 'dydi hynny ddim ots - mae'r snob wedi amddiffyn ei direwdd mewnol cyfforddus - a dyna'r oll sy'n bwysig yn y pen draw.

'Rwan o ddarllen hyn oll efallai eich bod yn meddwl fy mod o'r farn nad oes gan y snob ideolegol unrhyw rol o gwbl - ond mi fyddech yn anghywir. Mae yna bwrpas iddo - ond 'dydi o ddim yn bwrpas arbennig o bwysig. Mae'r mudiad cenedlaethol angen cydwybod o rhyw fath. 'Rwan yn amlwg mae mymryn o berygl i'r broses etholiadol droi cenedlaetholdeb yn risgl gwag sydd heb agenda cenedlaetholgar o gwbl - ychydig fel Llais Gwynedd sy'n canolbwyntio eu holl ymdrechion ar amddiffyn hen doiledau drewllyd ac ymosod ar yr amgylchedd oherwydd eu bod yn meddwl bod hynny'n etholiadol boblogaidd. 'Dydi'r perygl yma ddim yn fawr iawn wrth gwrs - i'r gwrthwyneb - mae'r Blaid wedi llwyddo i symud yr agenda cenedlaethol yn ei blaen pan mae mewn grym, a phan nad yw mewn grym. Ond rhag ofn, 'mond rhag ofn, efallai nad ydyw'n ddrwg o beth i gael rhywun yn grwgnach yn y cefndir.

Mae'n debyg bod gan bawb rhyw berthynas mewn oed mawr - hen nain efallai - sy'n boenus am pob dim ac yn swnian yn ddi ddiwedd - gwna'n siwr dy fod yn rhoi dy felt pan rwyt yn mynd i'r car, criba dy wallt, paid a dreifio yn lysh gachu, rho dy got cyn mynd allan rhag ofn i ti ddal anwyd, paid a chysgu efo pobl dwyt ti ddim yn eu 'nabod rhag ofn i ti ddal rhywbeth, clyma dy sgidiau rhag ofn i ti faglu, torra dy wallt, cau'r drws mae yna ddrafft yma, tynna dy ddwylo allan o dy boced, ti angen bath, cofia gau dy falog ac ati ac ati.

Mae'r holl nagio yn blydi niwsans ac mae dyn yn cael bath ac yn cau ei falog a dreifio'n sobor beth bynnag - ond efallai - jyst efallai bod yr holl swnian yn gwneud rhyw fymryn bach, bach, bach o wahaniaeth weithiau.

Gwneud dipyn bach, bach, bach o wahaniaeth weithiau ydi rol y snob ideolegol.

29 comments:

Anonymous said...

Yn gyntaf, ymddiheuriadau i blogMenai am ddod a'r dadlau i gyd i'w flog! A diolch iddo am ei amynedd, ac am y bloglith yma - dadansoddiad sydd yn torri at galon y ddadl am genedlaetholdeb.

Mae'r floglith yn cyfeirio at y 'snob ideolegol'. Mae pob cenedlaetholwr yn 'nabod y snob. Fel mae blogMenai yn dweud, mae ganddo rôl i'w chwarae. Os am ennill annibyniaeth i Gymru, rhaid i blaid genedlaetholgar fod yn etholadwy, a dangos cynllun aam y dyfodol. Ond mae'r snob yn gallu ein atgoffa o egwyddorion ein achos os ydym yn anghofio.

Ar y llaw arall, ni fydd y snob yn cytuno bod rhaid ail-lunio ein syniadau fel mae'r byd yn newid. I snob, ei egwyddorion yw'r unig beth sydd yn bwysig. Mae hyn fel yr USSR yn mynegi na ellir gwella ar waith Lenin. Yn y byd go iawn, rhaid i bawb dderbyn bod lle i newid ar ei ideoleg a'i flaenoriaethau ar brydiau, gan gadw'r egwyddorion.

Wrth gwrs, nid yw'r fath berson yn unigryw i genedlaetholdeb. Mae crefydd yn creu'r 'snob', yn arwain i drais yn aml. O fewn yr asgell chwith, mae'r cowmiwnyddion sydd yn credu bod sosialaeth llai eithafol yn frad. Ar yr asgell dde, mae'r un fath o broblem.

Y gwir am safbwyntiau absoliwtaidd yw nad ydynt, fel arfer, yn etholadwy. Cipio grym trwy drais yw'r ffordd mae'r damcaniaethau yma yn dod i, neu yn aros mewn grym. Tra mae lle i wrando ar y snob, er mwyn ein hatgoffa o'n egwyddorion, rhaid anwybyddu ei gyngor, a fyddai'n cgolygu'r diwedd i'r mudiad cenedlaetholgar yn etholiadol.

gwion said...
This comment has been removed by a blog administrator.
Cai Larsen said...

Dim angen ymddiheuro Rhydian - mae angen ychydig o fywyd yn yr hen le 'ma.

'Dwi'n cytuno efo'r rhan fwyaf o dy sylwadau - mae uniongrededd di ildio a di newid yn nodwedd o lawer o ideolegau gwleidyddol a chrefyddol.

Mae yna adegau pan mae'r bobl yma yn etholadwy neu'n gredadwy - ond mae hyn am gyfnodau byr ac yn dilyn rhyw greisis eithriadol - Iwerddon 1918, Hamas ein dyddiau ni, Rwsia 1917 ac ati.

Dydi twf hir dymor ddim yn bosibl.

Alwyn ap Huw said...

Roedd yr hen gyfaill Syd Morgan yn arfer dweud bod trwsio dreiniau yn allweddol i'r achos cenedlaethol - Os ydych chi'n gallu profi bod cynghorwyr y Blaid yn eirwir pan ddywedant eu bod am sicrhau trwsio eich dreiniau yna byddant yn credu eu bod yn eirwir wrth son am fanteision addysg Gymraeg a hunan lywodraeth i Gymru. Roedd Syd yn llygaid ei le.

Drwg y post yma yw dy fod di'n ymddangos fel un sydd am drwsio dreiniau er mwyn gwella'r system carthffosiaeth yn unig.

Wrth gwrs bod cynnig atebion i'r pethau pob dydd sydd yn poeni pobl er mwyn ennill grym ar gyngor mewn cynulliad ac mewn senedd yn hanfodol. Ond rhaid cofio pam bod eisiau ennill y grym yna. Heb yr egwyddorion sylfaenol sydd yn gwahaniaethu'r naill blaid oddi wrth y llall dim ond llestr gwag dibwys blaid wleidyddol.

Mae'r ffaith dy fod ti a Rhydian yn fodlon dweud yn gyhoeddus mae pethau eilradd os nad dibwys yw hunan lywodraeth, yr iaith a chymunedau Cymru i'r Blaid gyfoes yn dangos mae llestr gwag yw'r Blaid bellach.

Byddwn i'n synnu dim o glywed Peter Davies neu George Thomas yn dweud bod credu mewn annibyniaeth yn snoblyd, bod amddiffyn yr iaith yn naïf, bod cefnogi cymunedau Cymru yn dangos anwybodaeth wleidyddol - ond Blog Menai yn dweud y ffasiwn beth, mae hynny'n anhygoel!

Anonymous said...

Alwyn, ti yn camddeall yma. Does neb yma yn gwadu fod iaith, hunan lywodraeth a diwylliant yn bwysig i'r Blaid gyfoes. Y pwynt ydi mai i NI yn y garfan genedlaetholgar y maa'r rhain yn flaenoriaethau. Faint o bob felly sydd yna? Sut wyt ti yn meddwl y byddem yn gallu ennill annibyniaeth gyda neges wleidyddol sydd yn eilraddol neu amhwysig i 90% o bobl Cymru?

Rwyt hefyd yn son am gymunedau Cymru - a dwi'n credu dy fod yn cyfeirio at gymunedau gwledig, o'r math y mae Llais Gwynedd yn amddiffyn. Mae hyn braidd yn gyfyngedig tydi? - mae'r rhan fwyaf o Gymry yn byw mewn tref neu dinas. Cymuned yw nifer o bobl yn cydfyw a'n cydweithio. Lle mae cymuned wedi ei ddiffinio fel pentref gwledig yn Nwyfor-Meirionnydd?

Oes, rhaid bod yn deg i bentrefi gwledig - ond ni fedrir llunio dyfodol Cymru lwyddianus heb feddwl am newidiadau. Mae hyn yn golygu newidiadau i ardaloedd gwledig, nid newid y dinasoedd yn unig. Os oes newidiadau i foderneiddio Cymru, a fydd pobl Caerdydd neu'r Rhondda yn hapus os ydi cymunedau'r Gogledd yn cael eu atal o'r newid gan fod y Blaid a'i wreiddiau yno?

Ti sydd yn bod yn naîf, Alwyn. Mae'r egwyddorion sylfaenol yn ddi-newid - ond rhaid i ni gyfaddawdu a bod yn barod i drafod y manylion. Os wyt ti yn mynnu dy genedlaetholgarwch pûr, fydd yna ddim annibyniaeth Alwyn. Efallai y byddai'r methiant etholiadol yn achos ysblenydd a'n ennill gogoniant am ganrifoedd, ond methiant a fyddai er hynny.

Cai Larsen said...

O diar, Alwyn yn dweud celwydd eto fyth.

Does yna neb yn dweud mai pethau eilradd ydi annibyniaeth ac amddiffyn yr iaith - dyna pam mae'r rhan fwyaf ohonom yn y blydi gem.

Dyna ydi'r peth pwysicaf siwr Dduw - ond dydi o ddim yn naratif etholiadol sy'n ennill llawer o bleidleisiau na grym.

Dyna pam 'dwi'n ffaeliedig ond yn effeithiol o ran amddiffyn y Gymraeg a hyrwyddo agenda cenedlaetholgar, a dyna pam ti mor berffaith ond aneffeithiol.

Alwyn ap Huw said...

Ymateb disgwyliedig Cai. Yr wyt bellach wedi postio tair erthygl fel ymateb imi ofyn y cwestiwn "Be di Pwrpas Plaid Cymru?" Ond heb gynnig ateb i'r cwestiwn. Dim ond wedi taflu baw, gwneud ensyniadau am fy nidwylledd dros yr Achos Cenedlaethol, ac wedi gwneud sylwadau enllibus amdanaf.

Os oes snob yng ngwleidyddiaeth Cymru tydi ydyw. Yr wyt yn un sydd yn edrych lawr dy drwyn ar unrhyw un sydd yn beiddio dweud gair o feirniadaeth yn erbyn dy annwyl blaid, ac un sydd yn trin y rhai sydd yn gweld ffaeleddau yn dy Blaid "berffaith" fel petaent yn faw isa'r domen.

Os mae dim ond fi oedd yn gwneud y cwyno bydda dy ymateb yn un digon teg. Ond pan fo 13 o wardiau yng nghadarnle y Blaid yn dewis ymwrthod a hi - gan gynnwys rhai lle'r oedd hyd at 70% yn arfer pleidleisio i Blaid Cymru mae'r ysgrifen ar y mur. Pan fo son bod hyd at ddeg o gynghorwyr y Blaid ar Gyngor Gwynedd yn ystyried ymadael a grŵp y Blaid, mae'n hen bryd ddarllen yr ysgrifen honno!

Yr wyt yn fy nghyhuddo o ddweud celwydd am dy blaid, heb nodi pa gelwydd honedig yr ydwyf wedi eu dweud. Y ffaith yw bod pob beirniadaeth yr wyf wedi ei wneud am y Blaid yn eirwir.

Oes! Mae yna rywrai sydd yn dweud bod yr iaith ac annibyniaeth yn eilradd. TI er enghraifft - darllena dy blydi bost dy hun, uchod - mae o yna mewn du a gwyn!

Y peth fwyaf idiotaidd yr wyt yn ei ddweud yw dy fod di wedi bod yn "effeithiol" wrth amddiffyn y Gymraeg tra fy mod i wedi bod yn aneffeithiol. Rwy'n ysu gweld unrhyw brawf teg i gefnogi'r sylw, snoblyd ar y diawl, yma!

Alwyn ap Huw said...

Rwyt hefyd yn son am gymunedau Cymru - a dwi'n credu dy fod yn cyfeirio at gymunedau gwledig, o'r math y mae Llais Gwynedd yn amddiffyn.

Rhydian, nid ydwyf yn byw yng Ngwynedd! Pe bawn am son am gymunedau gwledig Gwynedd yn unig fuaswn wedi dethol y geiriau gwledig a Gwynedd cyn danfon fy ymateb!

Hogyn o Rachub said...

Gwraidd y ddadl ydi faint y dylai unrhyw blaid gyfaddawdu ar ei hegwyddorion er mwyn ennill pleidleisiau. Efallai bod yn rhaid i Blaid Cymru "doddi" rhywfaint ar ei chenedlaetholdeb i ennill pleidleisiau newydd, a thrwy wneud hynny colli hen bleidleisiau mwy traddodiadol.

Symleiddio ydi galw rhywun yn "snob ideolegol" oherwydd eu bod wedi'u dieithrio gan blaid, neu fod ganddynt bryderon go iawn am gyfeiriad cenedlaetholdeb yng Nghymru. Ond dydi'r rhain ddim yn bryderon y mae PC yn fodlon eu cydnabod, heb sôn am ddim arall.

Ar y llaw arall mae 'na ddigon o "snobs pleidiol" - y rhai sy'n rhoi'r blaid o flaen ei hegwyddorion a syniadau creiddiol, neu bobl a fydd yn pleidleisio drosti waeth cymaint y mae'r blaid yn cefnu ei ar phwrpas. Yr un fath â bob plaid arall, dydi Plaid Cymru ddim yn brin o'r rhain, yn amlwg.

Anonymous said...

Alwyn: diolch byth nad wyt yn byw yng Ngwynedd, mae angen cenedlaetholwyr effeithiol yma!

Ti mor awyddus i gyfeirio at y Blaid fel mudiad sydd yn ystyried yr iaith yn eilradd. Fel mae blogmenai yn dweud, pe bai hyn yn wir, ni fyddem yn y gem o gwbl - ond wedi ymuno pleidiau eraill , neu peidio ac ymddiddori a gwleidyddiaeth.

Ond a yw'r iaith ac annibyniaeth yn ystyriaeth eilradd pan mae'n dod i ddewis rhwng bywyd a marw? Mae'n iawn i fod yn barod aberthu dy hun i'r achos. Os wyt yn fodlon aberthu bywydau pobl eraill, mae rhywbeth yn bod ar dy foesau.

A yw'r iaith yn brif ystyriaeth etholiadol? Nac ydi. Nifer fach o bobl sydd a diddordeb pan mae plaid yn nodi diwylliant fel blaenoriaeth, fel y mae blogMenai wedi esbonio yn fanwl iawn.

Dyma'r unig ffyrdd y gellir ystyried yr iaith ac annibyniaeth yn eilradd i'r Blaid. Pam fyddai'r Blaid yn gwario cymaint o amser yn cynllunio ar gufer Cymru annibynol os nad yw'n flaenoriaeth? Yn y cyfamser, rhaid diogelu bydd y Cymry, a rhaid ennill etholiadau!

Y olaf, os wyt am alw ar ystadegau etholiadol Llais Gwynedd, cofia mae dim ond 20% o Gwynedd a 9% o Arfon oedd wedi pleidleisio dros y blaid yma. Mae cymunedau gwledig angen newid os ydym am eu cynnal. Nid yw newid yn boblogaidd byth, sydd yn esbonio Llais Gwynedd. Ond heb geisio newid, sut mae'n bosib mynd at etholwyr eraill a brolio'r Blaid fel un i Gymru gyfan, nnid yn unig i amddiffyn cymunedau gwledig?

Dyna'r gwir Alwyn. Mae Plaid Cymru yn blaid i Gymru gyfan, mae dy genedlaetholdeb di yn apelio i genedlaetholwyr a chymunedau gwledig yn unig.

Anonymous said...
This comment has been removed by a blog administrator.
Anonymous said...
This comment has been removed by a blog administrator.
Cai Larsen said...

O diar - sterics.

Yr hyn sy'n gelwydd Alwyn ydi honni bod sylw na ellir ennill yn etholiadol gyda naratif sydd yn ymwneud yn unig a iaith a materion cyfansoddiadol yn gyfystyr a dweud bod yr iaith ac annibynniaeth yn eilradd.

Mae'r sylw am Lais Gwynedd yn dangos diffyg crebwyll llwyr ynglyn a natur gwleidyddiaeth Gwynedd. Grwp sy'n ymwneud a materion pob dydd yn llwyr ydi Llais Gwynedd - nid oes yna ddimensiwn cenedlaetholgar o gwbl - maent yn derbyn cefnogaeth o bob gyfeiriad gan gynnwys rhai o'r elfennau mwyaf gwrth Gymreig yn y sir.

Mae gan y Blaid broblemau yng Ngwynedd - a byddaf yn 'sgwennu blog tros y dyddiau nesaf ar y pwnc - ond mae honni bod deg cynghorydd yn bwriadu gadael yn - wel ddim cweit yn wir.

Fel y dywedais, mi fydda i'n sgwennu darn ar hynny tros y dyddiau nesaf - ond nid diffyg cenedlaetholdeb ydi'r broblem - diffyg gallu i ymateb yn hyblyg i broblemau pob dydd pobl sydd wrth wraidd pethau.

Mae'r sylw bod y sawl sydd ddim yn cytuno efo chdi yn ymdebygu i George Thomas yn dy wneud yn frenin snobyddiaeth ideolegol cenedlaetholdeb Cymreig.

I gydnabod y ffaith hwyrach y dylid dy ddilladu mewn lifrau sidan, esgidiau uchel, wig gwyn a rhoi bwcl a botymau aur i ti - yn union fel George.

Anonymous said...

Sialens bach i ti Alwyn. A wnei di flogio dy gynllun, gam wrth gam, i blaid genedlaetholgar arwain Cymru i annibyniaeth.

Lle yn union fyddet ti yn fodlon cyfaddawdu fel y mae rhaid mewn gwleidyddiaeth? Beth yn union fyddai dy neges i'r etholwyr? Sut fyddet ti yn ennill pleidleisiau newydd? Pam dylswn i bleidleisio i dy blaid newydd?

Cai Larsen said...

HoR 'Dwi ddim cweit efo chdi.

Mae'r Blaid ar hyn o bryd yn fwy plaen mai annibyniaeth yw eu nod nag y buont ers talwm. Byddwn yn derbyn nad oes digon o waith wedi ei wneud o ran mecaneg gwneud i hynny ddigwydd.

Y peth i'w ddeall yn y pen draw ydi mai'r Blaid ydi'r unig sioe sydd ar a lon o ran cenedlaetholdeb - ac oni bai am y Blaid byddai ein sefyllfa gyfansoddiadol yn llawer llai boddhaol, ac ni fyddai llawer o'r newidiadau o ran y Gymraeg wedi digwydd.

Anonymous said...

Fel rhywun sy'n eitha newydd i rengoedd y Blaid ac wedi bod yn "burydd ideolegol" yn y gorffennol, dyma dweud fy neud...

Dwi'n cytuno fod y purydd ideolegol (dydi'r gair "snob" ddim yn help yma) mewn lle braf - yn eistedd ar y cyrion yn lladd ar bobol yn trio gneud y gorau o'r sefyllfa. Yn aml, dydi'r purydd ddim yn gneud dim ymarferol - dim ond lladd.

Ar y llaw arall mae gwleidyddion ymarferol yn aml yn colli golwg ar eu raison d'etre - wrth gyfaddawdu, wrth gynghreirio efo hen elyn dros dro, wrth wynebu'r ffaith nad oes digon o arian i dalu am y delfrydau pleidiol.
Felly mae angen y purydd ideolegol ond un sy'n weithgar ac yn ymarferol - er mwyn atgoffa'r gwleidydd pragmataidd pam ein bod ni yma. Yn ddelfrydol, fel grwp pwyso o fewn y Blaid neu o leia grwp pwyso.

Yn lle hyn, fel arfer cawn buryddion sy'n gelyniaethu llawer o'n cefnogwyr potensial drwy eu bychanu fel "Saeson" (etc etc).

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Hmmm.....dwi'n gweld rwan pan fo pobol o pob cefndir cymdeithasol ar draws Cymru, boed nhw yn Gymry Cymraeg a'i peidio yn ymbellau eu hunain oddi wrth Plaid Cymru.
Efo'r ddau yma yn "llefarwyr" ar eu rhan mae hon yn edrych fel Plaid sydd yn bendant wedi gweld dyddiau gwell.
Dewch yn ol at realiti dydd i ddydd yn lle malu cachu yn eich byd bach idealegol, gwleidyddol cywir yng nghysgod Castell Caernarfon.
Byddwn yn croesawu'r cyfle unrhyw adeg yn unrhyw le i gyfarfod ar ddau ohonoch i ddadlau wyneb yn yneb efo chi ynglyn a peth o'r nonsens yma 'da chi wedi ysgrifennu!
Fentrai ddweud rwan y bydd Llais Gwynedd yn dwblu nifer yr aelodau sydd ganddi ar Gyngor Gwynedd yn yr etholiad nesa'. Pam?Yn syml tydi Plaid Cymru ddim yn gwrando nac isio gwrando ar yr etholwyr yma yng Ngwynedd ac mae hynny'n brawf pendant mai Plaid y sefydliad yma yng Nghymru yw PC bellach ac nid Plaid y pobol. Dal ati Alwyn....ond paid gwastraffu gormod o amser efo rhain gan nad oes dysgu arnynt!

Cai Larsen said...

Beth yn benodol ti'n anghytuno efo fo Gwilym?

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Lle ti isio mi ddechrau? Y gwir ydi...mi wnawn ni ytuno ar llawer mwy na wnawn ni anghytuno arno..serch hynny, ti yn ceisio hawlio mai'r Blaid yw'r ateb i broblemau Gwynedd a Chymru ond heb os ac onid bai, ar lefel siriol mae'n dangos arweinad cwbwl anobeithiol ac yn Genedlaethol mae'n profi i fod yn anobeithiol ac dim mwy na ci bach i'r Blaid Lafur.
Dwi'n anghytuno a llawer o bethau...dwi eisioes rhestru rhai ohonynt ar fy mlog...ti umwaith eto yn lladd ar Llais Gwynedd.sut a pham? Ti ddim yn cytuno a'r ffordd gadarn rydym wedi gwneud safiad dros pobol a gwasanaethau ar draws y Sir hyd yma? Mae gen ti gysylltiadau agos gyda'r Blaid ar Gyngor Gwynedd...ydi pethau mor ddrwg a mae nhw'n edrych ta be?..Ers i mi gyfeirio a pheth o broblemau'r Blaid, mae'n ymddangos fod pethau hyd yn oed yn waeth...pam?

Cai Larsen said...

Gwilym - 'dwi ddim yn credu mai hawlio mai'r Blaid ydi'r ateb i broblemau Cymru oedd byrdwn y blog - ymysodiad ar dueddiad rhai pobl i roi ideoleg yn gyntaf - hyd yn oed pan mae hynny'n ei gwneud yn amhosibl i ennill grym i hyrwyddo'r ideoleg honno oedd. Mi fyddwn wedi dychmygu y byddai aelod blaenllaw o Lais Gwynedd yn cytuno efo'r dadansoddiad hwnnw - ond dyna fo - be wn i?

Mi'r ydw i hefyd yn gwneud sylwadau am ddiffyg ideoleg cenedlaethol Llais Gwynedd. efallai y galli fy nghywiro a fy rhoi ar ben ffordd - oes gan LlG bolisiau / safbwyntiau sy'n ymwneud a'r drefn gyfansoddiadol yng Nghymru?

Anonymous said...

Gwilym, rhaid i fi gyfaddef syndod hefyd. Wedi'r cwbl, mae Llais Gwynedd yn esiampl o blaid sydd wedi gadael unrhyw ideoleg heblaw am wasanaethu pobl Gwynedd. Y ddadl yma yw rhwng purydd ideolegol (Alwyn), a chenedlaetholwyr sydd yn barod bod yn hyblyg. Lle wyt ti yn ffitio fewn?

Ar yr un llaw ti yn dadlau fel purydd ideolegol yn cwyno fod y Blaid yn cyfaddawdu yn y Cynulliad. Ar y llaw arall ti yn gynghorydd i blaid sydd yn sefyll ar faterion lleol, sydd wedi dadlau fod y Blaid yn edrych dros Gymru gyfan yn lle canolbwyntio ar anghenion Gwynedd yn unig. Sut wyt ti yn cysoni'r safbwyntiau yma?

Hefyd, a gaf dy atgoffa mai 9% o etholwyr Arfon a bleidleisiodd i Llais Gwynedd, ac 20% yn yr holl sir. Paid a chyfri ar ennill mwy o seddi y tro nesaf!

Anonymous said...

Wedi ddarllen dy bostiau di eto Gwilym, a dwi dal ddim yn deall beth yr wyt ti yn cwyno amdano? Dwi yn gwybod nad wyt ti yn credu fod Plaid Cymru yn llywodraethu yn dda iawn, yn genedlaethol nac yn sirol. Ond beth a wnelo hynny a'r ddadl yma?

Nid oes unrhyw synnwyr i dy bostiau isod! Mae'n edrych mwy i mi fel cyfle i Llais Gwynedd gael cwyno am Blaid Cymru eto!

Alwyn ap Huw said...

Y ddadl yma yw rhwng purydd ideolegol (Alwyn), a chenedlaetholwyr sydd yn barod bod yn hyblyg.

Nac ydi Rhydian, mae'r ddadl yma rhwng rhywun sydd ddim yn gweld bod anwybyddu'r hyn sydd yn rhoi stamp ar blaid, ei USP (fel mae'r marchnatwyr yn ddweud), yn beth pragmatig iawn i wneud a phuryddion fel ti a Cai sydd yn rhy anhyblig i dderbyn bod unrhyw le am feirniadaeth teg ar eich plaid pur a pherffaith chi.

Anonymous said...

Wel, dydi sylwadau Gwilym dal ddim yn berthnasol i'r ddadl.

Ond i drafod pragmatiaeth, sut yn union wyt ti'n gallu credu fy mod i a blogMenai eisiau eilraddio'r iaith. O fewn trafodaethau polisi'r Blaid, mae'r iaith ac annibyniaeth ym mhobman.

Ond fel mae blogMenai wedi nodi, nid yw'n naratif etholiadol sydd yn ennill pleidleisiau. Mae pobl yn fwy tebygol i bleidleisio dros faterion sydd yn amharu ar eu bywydau, fel gwasanaethau iechyd. Tan nes i'r Blaid sylwi ar y ffaith, mi oeddem yn derbyn llond dwrn o bleidleisiau.

Ers hynny, rydym wedi ceisio defnyddio naratif genedlaethol sydd i ymwneud a bywydau o ddydd i ddydd. Mae'r dacteg yma a'i wendidau hefyd, fel y mae Gwilym yn profi, gan fod materion lleol yn gallu ymddangos yn fwy pwysig na materion cenedlaethol.

Ond mae'r tactegau yn well na naratif pur genedlaetholgar - gan ei fod yn ennill mwy na pleidleisiau'r cenedlaetholwyr. Sut naratif a fyddet ti yn ei gynnig?

Cai Larsen said...

Cweit Rhydian.

Y pwynt arall ydi nad oes neb yn argymell anwybyddu'r hyn sydd yn unigryw am y Blaid. Yr hyn mae'n rhaid ei wneud ydi ei osod mewn cyd destun ehangach.

Alwyn ap Huw said...

O fewn trafodaethau polisi'r Blaid, mae'r iaith ac annibyniaeth ym mhobman.

Ym mhle?

Lle mae'r papur dyddiol?

Lle mae'r Coleg Ffederal?

Lle mae'r Ddeddf Iaith?

Pam bod y Blaid am gau Ysgol lwyddiannus Bontddu, lle mae pob disgybl o bob cefndir yn ymadael a'r ysgol yn rhugl y Gymraeg, a'u danfon i Ysgol Dolgellau lle bydd prin 10% yn ymadael yn rhugl er gwaetha polisïau iaith honedig Gwynedd?

Pam bod Llywodraeth y Cynulliad, y mae'r Blaid yn rhan ohoni, yn methu cael hyd i filiwn i achub swyddi yn Nolgarrog (mewn etholaeth Plaid Cymru) ond yn gallu cael hyd i filiynau lawer i achub tŷ cyngerdd yng Nghaerdydd? Pam bod y Blaid wedi methu cadw gwaith Dolgarrog ar agor am swm bitw, ond wedi gadael etifeddiaeth i'r genedl o £100 miliwn i glirio'r safle fel un cyn ddiwydiannol?

Lle mae'r refferendwm? Wedi ei gicio i'r ystlys am flynyddoedd maith yn ôl un o fawrion y Blaid!

Lle mae'r ymgyrch dros annibyniaeth yr oedd Adam Price am ei gychwyn yn 2007 ac eto yn 2008? Yn disgwyl i gael ei ail gyhoeddi yn 2009 a 2010 mae'n debyg.

Anonymous said...

Lle mae'r papur dyddiol? Mae Golwg wedi derbyn arian i greu gwasanaeth. Nid ydi o gymaint a mae rhai, fel fi a blogMenai, eisiau, ond rhaid iddo wneudy tro. Os nad wyt wedi sylwi, mae gwasgfa ar arian cyhoeddus ers 2005 - y blas cynnar o'r dirwasgiad fyd-eang.

Lle mae'r Coleg Ffederal? Yn y broses o gynllunio. Dydi pethau ddim yn digwydd yn syth mewn gwleidyddiaeth - ond, diolch i Blaid Cymru, mae o ar agenda'r Cynulliad.

Lle mae'r Ddeddf Iaith? Gweler yr uchod - dydi pethauddim yn digwydd
yn syth. Does ddim gwadu fod ASau Llafur yn ceisio arafu pethau, ond os aiff pethau i gynllun, cawn Ddeddf Iaith yn fuan. Os ydi ASau Llafur yn llwyddo ei ohirio, dwi yn amau y bydd nifer o Bleidwyr, gan gynnwys fi a blogmenai mae'n debyg, yn galw am i ni adael y glymblaid.

Nid Dafydd El yw'r Blaid. Ei gyngor o yw cymeryd gofal - os ydi refferendwm yn cael ei golli, gallai ddal unrhyw newidiadau cyfansoddiadol yn ol am chwarter canrif. Mae'r rhan fwyaf o aelodau, am weld refferendwm yn fuan.

Yn ol i ysgolion bach. Effeithlondeb yw'r rheswm. Mae llefydd gwag mewn ysgol yn arallgyfeirio arian o wasanaethau eraill. Nid oes digon o arian i gynnal y llefydd gwag yma. Ar draws Cymru, gan drin bob ardal gwledig yn gyfartal, byddai'n costio degau o filiynau. Erbyn hyn, mae'r ddadl ar ben gan fod Llais Gwynedd yn erbyn y syniad. Rwyf wedi derbyn y ffaith - cawn weld pwy sydd yn iawn.

Wrth drafod tai cyngerdd, fe oeddwn i'n credu mai ti a HoR oedd yn cwyno am ddiffyg arian i ddiwylliant. Pan yn trafod Dolgarrog, nid oedd hwn yn fusnes bach, ond busnes a ddylai fod wedi gallu cynnalei hun. Mae galw rhyngwladol am nwyddau craidd wedi dymchwel - ni fedrir cynnal pob cwmni trwy dirwasgiad.

Rwyf wedi ateb dy gwestiynau di: a wnei di ymateb i'r sialens y gwnes i osod uchod?

Alwyn ap Huw said...

Rwyf wedi ateb dy gwestiynau di: a wnei di ymateb i'r sialens y gwnes i osod uchod?

Nid ydwyt wedi ateb - dim ond wedi ail bobi esgusodion am y methiannau.

O ran dy sialens wirion yr wyf eisoes wedi danfon bron i fil a hanner o byst i Faes -E ac wedi cyhoeddi dros 700 o byst ar fy mlogiau parthed lle yr wyf yn sefyll ar wleidyddiaeth Cymru fach - dydy hynny ddim yn ddigon iti?

Alwyn ap Huw said...
This comment has been removed by the author.