Sunday, February 25, 2007

Ail Gylchu

Digwydd mynd i ddymp Cilgwyn ddoe i gael gwared o beth o'r stwff sydd wedi hel o gwmpas y lle tros yr wythnosau diweddar. Oherwydd ein bod yn rhai drwg am hel sbwriel, 'dwi wedi bod yn gwneud y daith yma i uchelfanau Dyffryn Nantlle yn weddol rheolaidd ers ugain mlynedd da.

Pan oeddwn i'n mynd yno gyntaf roedd ail gylchu o rhyw fath yn digwydd. Byddai'r sawl oedd gyda rhywbeth i gael gwared ohono yn gyrru i fyny i Gilgwyn ac yn taflu ei sbwriel i mewn i dwll bychan yn y llawr. Bron iawn yn ddi eithriad byddai ychydig o bobl eraill yn sefyll wrth ochr y twll ac os oeddynt yn gweld rhywbeth yr oeddynt yn ystyried bod gwerth iddo, byddant yn neidio i mewn i'r twll, codi'r eitem dan sylw allan, ac yn ei roi yng nghefn fan. Pob hyn a hyn byddai peiriant trwm yn ymddangos ac yn mynd a'r hyn oedd yn weddill i dwll chwarel Cilgwyn.

Erbyn heddiw mae pethau wedi newid yn llwyr - mae'r safle'n cael ei goruwchwylio mewn modd sy'n ei gwneud yn nesaf peth i amhosibl. Ceir arwydd mawr yn gwahardd pobl rhag 'dwyn' dim o gynnwys y dymp. Y gwahaniaeth mwyaf, fodd bynnag, ydi'r holl sgipiau a chynwysyddion sbwriel eraill sydd ar y safle bellach yn lle'r twll petryalog yn y llawr. Mae yna sgip i sbwriel go iawn - ond mae yna lefydd ar gyfer batris, metel sgrap, brigau, dail ac ati, olew, rhewgelloedd, sgriniau teledu, pren, plastic, papur ac ati. Mae sgip hyd yn oed i blastar - fe'i troir yn bowdwr ar ddiwedd pob diwrnod a'i dywallt ar ben y domen er mwyn cadw adar draw.





Mae hyd yn oed y domen chwarel wrth fynedfa'r dymp yn cael ei hailgylchu mewn ffordd. Mae'n mynd yn llai wythnos wrth wythnos oherwydd bod y cerrig sydd arni'n cael eu malu er mwyn gwneud defnydd ar gyfer adeiladu lonydd.

Rhyfedd mi wn - ond mae'r safle rhywsut yn ymgorfforiad o newidiadau sylfaenol mewn agweddau tuag at yr amgylchfyd tros yr ugain mlynedd diwethaf.

Tuesday, February 20, 2007

Sain Ffagan - twee?

Twee oedd yr ansoddair Saesneg dilornus a ddefnyddiodd un o uchel swyddogion Amgueddfa Genedlaethol Cymru wrth gyfeirio at Amgueddfa Werin Sain Ffagan mewn sgwrs (braidd yn feddw, rhaid cyfaddef) efo fi'n yn yr Anglesey ddiweddar.

Ar un olwg mae'n ddigon hawdd cytuno efo fo. Mae llawer - nid y cwbl wrth gwrs - o'r adeiladau sydd i'w gweld ynddo yn adlewyrchu cyfnodau cyn ddiwydiannol, ac yn adlewyrchu bywydau pobl oedd cryn dipyn yn gyfoethocach na'r helyw o'u cyfoedion. Go brin y byddai eu haneddau wedi goroesi oni bai am hynny. Yr ymdeimlad cyffredinol mae'r lle yn ei adael ydi un o rhyw lonyddwch gwledig delfrydol - llonyddwch nad oedd yn bodoli mewn gwirionedd.

Yn sicr, mae'r argraff cyffredinol yn dra gwahanol i'r hyn a geir yn yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis neu Big Pit ym Mlaenafon. Ceir ymdeimlad uniongyrchol iawn o galedi corfforol bywyd , ynghyd a blas o'r cyfeillgarwch a chymuned yn y lleoedd hynny. Adlais, ond adlais digon nerthol, o gymunedau a gwerthoedd y cymunedau hynny, cymunedau sydd bellach wedi mynd i ddifancoll.

Serch hynny, beth bynnag barn y swyddog, 'dwi'n ddigon hoff o Sain Ffagan - nid cymaint oherwydd ethos cyffredinol y lle, ond oherwydd rhai o'r adeiladau unigol. Dau o fy hoff adeiladau yn bersonol ydi Bwthyn Llainfadyn a Beudy Cae Adda. Mae'r ddau yn adeiladau o'r ddeunawfed ganrif sydd wedi eu symud o Wynedd - y naill o Rostryfan, a'r llall o'r Waunfawr.

Adeiladau ydynt wedi eu codi o gerrig y mynydd, ac oherwydd hynny maent wedi goroesi - yn gwahanol i lawer o adeiladau eraill y cyfnod. Fel plant roeddem yn arfer chwarae mewn adfeilion bythynod a beudai digon tebyg yng nghaeau plwyf Llanddeiniolen. Yn aml byddai yna goed eirin, neu goed afalau yn y gerddi a llwybr troed cul yn unig fyddai'n arwain atynt o gamfa wrth ochr y ffordd fawr.

Mae'n rhaid bod hel yr holl gerrig o'r tir mynyddig a'u cludo i safle'r cartref yn waith poenus o galed ynddo'i hun, heb son am godi'r ty wedyn. Ymdrech dorfol i deulu estynedig cyfan mae'n siwr. Ac ar ol codi'r ty roedd rhaid mynd ati i blanu coed ffrwythau, gwyngalchu'r waliau, a gwneud beth bynnag oedd angen ei wneud i droi'r gwagle oddi mewn i hen gerrig y mynydd cyntefig yn gartref i deulu, yn ffocws i'w delfrydau. 'Dwi'n cofio fel ddoe tri neu bedwar ohonom yn mochel rhag cawod drom yn un o'r tai hyn ac yn teimlo ychydig o'r cynhesrwydd diddan oedd yn perthyn i'r adeilad pan oedd o'n gartref i deulu oedd erbyn hynny wedi hen ddychwelyd i'r pridd.

Bwthyn Llainfadyn



Beudy Cae Adda



Mor twee ag ymddengys y lle ar un olwg, o edrych ar ambell i adeilad a'i osod yn feddyliol yn ei gyd destun go iawn, ac o ddefnyddio ychydig ar y dychymyg, mae ymweld a'r lle yn brofiad a chymaint o sylwedd iddo nag ymweld a'r un amgueddfa arall. Daw ymdrech, delfryd, gobaith a chariad a sgubwyd ar adain y gwynt yn ol am ennyd fach. Na, lle gwerth chweil, er gwaethaf siniciaeth y sawl sy'n gyfrifol amdano.

Gyda llaw, mae datblygiadau digon diddorol ar y gweill yn Sain Ffagan. Mae Eglwys Llandeilo Tal y Bont yn y broses o gael ei chodi (hen bryd i ni gael eglwys yno.

Eglwys Llandeilo Tal y Bont



Deallaf hefyd bod gorsaf heddlu a thy marsiandwr ar y safle eisoes, ond heb eu codi eto. Ac wrth gwrs mae'n hen bryd cael tafarn yno, cyn gynted a phosibl. awgrymaf dafarn dinesig - Brains efallai. Tybed beth ddaeth o'r Vulcan?

Diolch yn fawr. Croeso.

Dreifio adref o Gaerdydd efo Nacw a'r fenga heddiw ac aros am ginio yn y Felin Fach Griffin Inn yn Llyswen ger Aberhonddu.

'Rwan, 'dwi ddim yn bwyta yn aml iawn mewn llefydd fel hyn - wedi'r cwbl un o Gaernarfon ydw i Serch mae'n rhaid i mi ddweud bod y bwyd yn flasus iawn, ac roedd yr awyrgylch yn chwaethus os hynod o anwerinol.

Yr hyn wnaeth argraff arnaf braidd oedd gadael. Dywedais diolch, heb feddwl bron, wrth y ferch oedd yn gweini - hogan o Rwmania. Croeso meddai hithau heb betruso.

'Dwi'n cofio bod yn Wetherspoons, Caernarfon rhyw flwyddyn neu ddwy yn ol a gofyn am ddau Guinness a chael y Sais y tu ol i'r bar yn rhythu yn hollol ddi ddaeall arnaf - er ei fod wedi cael yr un cais ganoedd o weithiau o'r blaen mae'n debyg.

Ac eto roedd yr hogan bach yma - oedd wedi treulio y rhan fwyaf o'i bywyd yn Nwyrain Ewrop, a sydd yn gweithio yn y gornel bach mwyaf Seisnig o Gymru yn gallu ymdopi'n iawn efo gair neu ddau o Gymraeg.