Tuesday, May 30, 2017

Yn y cyfamser ym myd rhyfedd Plaid Lafur Arfon _ _

_ _ mae'r syniad o gyfieithu eu stwff o'r Saesneg i Urdu a ieithoedd Dwyrain Ewrop yn cael ei ystyried er mwyn gallu cyfiawnhau cyfieithu i'r Gymraeg.






Pam bod Albert Owen yn debygol o golli yn Ynys Mon i Ieuan Wyn

Oherwydd bod y bleidlais isaf gafodd Ieuan erioed - pan gollodd i Keith Best yn 1983 - fil yn uwch na'r bleidlais uchaf gafodd Albert erioed.

Record Albert mewn etholiadau San Steffan:

2010 - 11,490
2005 - 12,278
2001 - 11,906

Record Ieuan Wyn yn etholiadau San Steffan:

1997 - 15,756
1992 - 15,984
1987 - 18,580
1983 - 13,333

Monday, May 29, 2017

Talking to the few, not the many

Arfon ydi'r etholaeth fwyaf Cymraeg ei hiaith yng Nghymru - ac yn wir y Byd.  Hyd oed pan mae yna filoedd o fyfyrwyr yn ein plith mae tua dau draean o'r boblogaeth yn siarad y Gymraeg - gyda 'r mwyafrif llethol ohonom yn ei siarad fel mamiaith.  Mae pob ward sydd a mwy nag 80% o bobl yn siarad Cymraeg ynddynt ag eithrio pedair yn Arfon.

Ond fyddech chi byth yn credu hynny o ddarllen tudalen Facebook Llafur Arfon - Woking4Arfon - dydi hi ddim yn ymddangos i wneud unrhyw ddefnydd o gwbl o'r Gymraeg.  Y teitl gogleisiol ydi Working For the Many, not the Few.














Friday, May 26, 2017

Sut i ymateb i newyddion ffug

Rwan bod y tymor y cynghorau newydd wedi cychwyn mae'n amlwg ar ol wythnos neu ddwy yn unig bod 'newyddion ffug' am barhau i fod yn un o nodweddion y ffordd mae'r gwrthbleidiau yn gweithredu.  

Mae yna hen hanes o hyn yng Ngwynedd wrth gwrs - gyda pob math o hanesion bisar o greu 'newyddion' - o'r ymgeisydd Llafur ar gyfer y Cynulliad a safodd y tu allan i Ysbyty Gwynedd yn hel enwau ar gyfer deiseb yn erbyn 'toriadau' Plaid Cymru i'r Gwasanaeth Iechyd - er bod y toriadau hynny'n gwbl ddychmygol - i'r ymgeisydd cyngor Llais Gwynedd aeth ati i chwalu pob neges o'i eiddo ar maes e (o barchus gof) oherwydd bod y cwbl ohonynt yn ei adael yn agored i gamau cyfreithiol.  Cafwyd hefyd erthygl mewn cylchgrawn wythnosol yn ddiweddar oedd yn honni bod hanner miliwn o gwynion yn cael eu derbyn ar y ffon yn flynyddol gan Gyngor Gwynedd - honiad arall cyfangwbl ddi sail.

Y cwestiwn sy'n codi i Bleidwyr ydi sut y dylid ymateb i hyn oll?  Gallwn fod yn siwr bod llawer mwy o'r math yma o stwff ar y ffordd.  Dyma ychydig o egwyddorion cyffredinol.

Egwyddor 1:  Dylid cywiro celwydd pob tro.  Byddai'r rhan fwyaf o bobl yn ymateb yn ffyrnig i rhywun sy'n dweud celwydd amdanynt, ac mae methu ymateb yn finiog yn awgrymu i bobl bod gwirionedd yn yr honiadau.

Egwyddor 2:  Dylid cywiro yn gyhoeddus ac yn eang.  Does yna ddim pwrpas cywiro celwydd os nad neb yn dod ar draws y cywiriad.

Egwyddor 3:  Peidiwch byth a gwneud sylwadau personol.  Does yna ddim pwrpas ymosod ar neb yn bersonol - does yna ddim i'w ennill o wneud hynny - hyd yn oed pan mae pobl wedi bod yn bersonol amdanom ni.

Egwyddor 4:  Gwnewch yn siwr bod yr hyn rydych yn ei ddweud yn ffeithiol gywir - gwiriwch a gwiriwch eto.  Os ydi rhywbeth rydych yn ei ddweud yn anghywir - ymddiheurwch a chwalwch y deunydd anghywir.  Does gennym ni ddim busnes yn rhoi pobl eraill yn eu lle am ddweud celwydd os ydym ni'n gwneud yr un peth ein hunain.

Egwyddor 5:  Os oes yna gyd destun, tynnwch sylw at y cyd destun.  Er enghraifft os oes yna orji o foesoli hunan gyfiawn wedi mynd rhagddo am gyflogau 'uchel' cynghorwyr, a bod hwnnw wedi ei arwain gan rhywun oedd wythnosau ynghynt yn dadlau tros godi cyflogau cynghorwyr - dylid tynnu sylw at hynny wrth ymateb.  Os oes yna honiadau nad ydynt yn wir yn cael eu gwneud gan rhywun sydd efo hanes o ddweud anwiredd, dylid tynnu sylw at y celwydd blaenorol.  Nid ein busnes ni ydi edrych ar ol y cynhyrchwyr newyddion ffug.

Egwyddor 6:  Dylid osgoi ansoddeiriau - yn arbennig rhai lliwgar.  Mae'r defnydd o ansoddeiriau megis 'gwarthus', 'cywilyddus' ac ati yn gwneud i'r sawl sy'n eu defnyddio edrych yn hysteraidd a chegog.  Mae cyferbyniad oeraidd rhwng yr hyn ddywedwyd a'r ffeithiau gwirioneddol - ynghyd a chyflwyniad o gyd destun ehangach - yn gwneud y joban yn iawn.  Mae yna ddigon o sterics, myllio a mwydro o amgylch y ddisgwrs wleidyddol yng Ngwynedd heb i ni ychwanegu ato.




Wednesday, May 24, 2017

Yr olwynion yn dod oddi ar yr ymgyrch i gamarwain





Mwy am y 'codiad cyflog' - neu spot the difference

Sion Jones mis Chwefror 2017.


Sion Jones mis Mai 2017:


Mae trimis yn amser hir mewn gwleidyddiaeth.


Ynglyn a'r 'codiad cyflog' o £3,000 i gynghorwyr Gwynedd

Dwi'n gwybod fy mod i'n mynd yn hen - ond roedd yn gryn syndod gennyf ddeall o dudalen ymgeisydd aflwyddiannus ym Menai, Caernarfon (y ward dwi'n byw ynddi) - Gwyndaf Jones fy mod wedi pleidleisio am godiad cyflog i gynghorwyr o £3,000.


Erbyn meddwl mae'n debyg mai'r rheswm am hynny ydi nad oedd yna bleidlais am godiad cyflog o £3,000. Roedd yna fodd bynnag bleidlais i dderbyn argymhellion gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol oedd yn cynnwys cyfeiriad at godiad cyflog o £100 y flwyddyn i gynghorwyr cyffredin - cynnydd o £13,300 i £13,400, codiad o tua 0.7%.  Gan bod chwyddiant ar hyn o bryd yn 2.7%, golyga hyn gwymp cyflog mewn termau real o 2%.

Roedd yna hefyd bleidlais yn erbyn gwelliant (gan Sion Jones, unig aelod Llafur y cyngor bellach) oedd yn argymell toriad cyflog o tua £3,000 i aelodau cabinet o gymharu a'r trefniadau blaenorol - trwy eu symud o un lefel cyflog i un arall. Nid oedd gan yr aelodau Annibynnol, Llais Gwynedd, Llafur na Lib Dems unrhyw obaith o gael lle ar y cabinet - felly roeddynt mewn gwirionedd yn pleidleisio i dorri cyflogau eu gelynion gwleidyddol, tra'n osgoi unrhyw doriad eu hunain.  Dwi ddim yn cofio cynnig o ostyngiad cyffelyb yng nghyflogau cadeiryddion pwyllgorau - safleoedd sydd yn agored i aelodau o pob grwp, ac nid y grwp sy'n rheoli yn unig.

Mae'r aelodau o'r wrthblaid a bleidleisiodd yn erbyn y cynnig i dderbyn argymhellion y bwrdd yn gwbl rhydd i ddychwelyd y £100 blynyddol, neu unrhyw gyfran eraill o'u cyflogau.  Bydd yn ddiddorol gweld faint o aelodau'r gwrthbleidiau sy'n teimlo'n ddigon cryf am y mater i wrthod cymryd eu £100 y flwyddyn.

Mae Sion hefyd yn cyfeirio at y mater yn ei dudalen gweplyfr - ond mae ei gyfeiriad ychydig yn fwy cywir nag un Gwyndaf. Mae Sion wrth gwrs - yn wahanol i Gwyndaf - yn agored i gamau disgyblu o dan god ymarfer cynghorwyr os yw'n dweud celwydd am bobl eraill.

Beth bynnag mae ganddo ddau gyfeiriad - yn y cyntaf mae'n cwyno nad ydi'r Daily Post yn rhedeg stori am y cyngor yn gwrthod ei gynnig i dorri cyflogau aelodau cabinet.


Petai'r Daily Post yn rhedeg straeon am gynghorau ddim yn torri cyflogau cynghorwyr neu aelodau cabinet, dyna'r unig straeon y byddant yn ei rhedeg.  Mae yna 22 cyngor yng Nghymru gyda chyfran uchel ohonynt yn cael eu rheoli'n llwyr neu'n rhannol gan Lafur.  'Dydw i heb glywed am yr un o'r rheiny'n torri cyflogau, a dydw i heb glywed Sion - nag yn wir Gwyndaf - yn galw arnynt i wneud hynny.
Mae hefyd yn nodi ei fod o'n fodlon cymryd toriad - er nad ydi'r tebygrwydd y bydd yn cael ei hun ar y cabinet yn uchel - a dweud y lleiaf.

Yn yr ail mae'n cwyno bod pobl wedi cywiro'r camargraff.



Beth bynnag os ydi'r grwp annibynnol o ddifri eisiau arbed pres i'r cyngor mae yna ffyrdd llawer mwy effeithiol o wneud hynny.  Mae yna 75 aelod ar Gyngor Gwynedd (gydag argymhelliad gan y Comisiwn Etholiadol i'w dorri i 67 erbyn 2022).  60 Aelod Cynulliad sydd yna - er bod hwnnw'n gweithredu tros Gymru gyfan, a 30 aelod sydd gan Ynys Mon - sydd a bod yn deg efo poblogaeth is nag un Gwynedd.  Byddai toriad yn y nifer o gynghorwyr yng Ngwynedd i - dyweder - 40 yn arbed pres sylweddol yn hytrach na manion i'r cyngor.  Byddai hynny'n hen ddigon i wneud y gwaith.

Felly beth amdani bois?  Beth am gynnig bod y cyngor yn argymell toriad yn nifer y cynghorwyr sy'n eistedd arno i 40?

A bu distawrydd.


Tuesday, May 23, 2017

Y Blaid Lafur yn hollti

Wel ym Mon o leiaf.  

Dau yn unig o Lafurwyr a etholwyd - y ddau ohonyn nhw ar Ynys Cybi, ac ymddengys eu bod yn eistedd mewn dau grwp gwahanol.  Gobeithio na fyddant yn hollti eto neu mi fydd yna rhywun yn brifo'n weddol ddrwg.


Sunday, May 21, 2017

Adnabod Arfon yn drylwyr

Da gweld bod y Blaid Lafur yn ganolog wedi gorfodi rhywun sy'n adnabod yr etholaeth fel cefn ei llaw ar y Blaid Lafur yn Arfon.

Friday, May 19, 2017

Beth mae'r marchnadoedd betio yn dweud wrthym am obeithion y Blaid?

Wel, maent yn awgrymu y bydd y Blaid yn cadw Dwyfor Meirion, Arfon a Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr ac yn cipio Ynys Mon.  Maent hefyd yn awgrymu y gallai'n hawdd iawn ennill yn y Rhondda.  Petai hynny oll yn digwydd dyna fyddai canlyniad gorau'r Blaid mewn unrhyw etholiad cyffredinol erioed.  

Maent hefyd yn awgrymu bod Blaenau Gwent a Cheredigion yn bosibl - ac i raddau llai Llanelli.





















Tuesday, May 16, 2017

Cip ar yr etholiad yng Ngogledd Iwerddon

Cip bach arall ar ein diddordeb bach achlysurol yng Ngogledd Iwerddon.  Gair bach o eglurhad ar y cychwyn.

Ar y sbectrwm Gwyrdd \ Oren - sy'n diffinio patrymau gwleidyddol yn y dalaith y patrwm ydi  Sinn Féin - SDLP - Alliance - UUP - DUP - o ran y prif bleidiau o leiaf.  SF ydi'r blaid fwyaf cenedlaetholgar a'r DUP ydi'r un mwyaf unoliaethol.  Hyd at Gytundeb Dydd Gwener y Groglith yr SDLP a'r UUP oedd yn dominyddu, ond wedi hynny cymerwyd yr awenau gan y ddwy blaid mwy eithafol - SF a'r DUP.  

Tyfodd y bleidlais genedlaetholgar yn gyson hyd at ddechrau'r ddegawd ddiwethaf, ond daeth y twf hwnnw i stop o tua 2001 ymlaen er bod y boblogaeth Babyddol yn tyfu'n gyson.  Newidwyd hynny yn ddisymwth yn gynharach eleni pan dynnodd SF allan o'r weinyddiaeth yn Stormont ac ymladd etholiad mwy traddodiadol nag oedd wedi ei wneud ers blynyddoedd - un gwrth unoliaethol iawn.  Tyfodd eu pleidlais yn sylweddol gan amddifadu'r unoliaethwyr o fwyafrif am y tro cyntaf yn hanes y dalaith.  Mae'r etholiad bresennol yn cael ei hymladd mewn amgylchiadau tebyg.

Beth bynnag, dyma dipyn o ddarogan.

Mae 10 yn gwbl ragweladwy:

Bydd Sinn Féin yn cadw eu seddi yn West Belfast, West Tyrone, Mid Ulster, a Newry and Armagh.

Bydd y DUP yn cadw eu seddi yn  East Derry, North Antrim, East Antrim, Lagan Valley a Strangford.

Bydd Sylvia Hermon yr unoliaethwraig annibynnol (a chymhedrol iawn) yn cadw ei sedd yn North Down.

Mae'r 8 sedd arall yn y fantol, gan gynnwys tair sedd yr SDLP.

Mae ganddynt seddi yn Foyle (dinas Derry yn bennaf), South Down a Belfast South.

Yn Belfast South cawsant eu hethol yn 2015 gyda 24.5% yn unig o'r bleidlais - mae'n etholaeth ymylol gyda phedair plaid yn y ras.  Roedd y DUP tua 600 o'u blaenau eleni gyda SF ac Alliance hefyd yn agos.  Byddwn yn disgwyl i'r bleidlais gwrth DUP drefnu ei hun mewn modd fydd yn rhoi mwyafrif i naill ai Alliance neu'r SDLP - yr ail yn ol pob tebyg, ond mae'n un anodd iawn i'w darogan.

SF sy'n eu bygwth yn y ddwy etholaeth arall.  Daeth y blaid honno o flaen yr SDLP yn y ddwy yn etholiadau Cynulliad eleni - o 2,000 yn Foyle a 6,650 yn South Down.  Mae yna leiafrif unoliaethol gweddol fawr yn y ddwy etholaeth ac mae yna hanes o bleidleisio tactegol o'r cyfeiriad hwnnw mewn etholiadau cyffredinol i gadw SF allan.  Dylai hynny fod yn ddigon i achub y sedd i'r SDLP yn Foyle, ond dydw i ddim mor siwr am South Down.  Mae SF yn fwy tebyg na pheidio o'i chipio.

Collodd SF sedd eiconig Fermanagh South Tyrone o drwch i'r UUP yn 2015 - yn rhannol oherwydd methiant cenedlaetholwyr i bleidleisio ac yn rhannol oherwydd bod y bleidlais genedlaetholgar wedi ei rhannu ddwy ffordd tra bod yr un unoliaethol yn unedig.  Gyda'r bleidlais genedlaetholgar ddeg pwynt canrannol o flaen yr un unoliaethol eleni, ddylai hynny ddim gwneud gwahaniaeth.  Mae SF yn debygol iawn o ail gipio hon.

Yr UUP sydd yn dal Antrim South, ond roedd y DUP tua 5,500 o'u blaenau ym mis Mawrth.  Mi fydd yna rhywfaint o bleidleisio tactegol gan Alliance ac efallai'r SDLP i 'r UUP, ond gyda'r unoliaethwyr yn teimlo o dan fygythiad yn gyffredinol dylai hynny fod o gymorth i'r DUP.  Dylent gipio'r sedd.

Cipiodd y DUP Belfast East gan Alliance yn 2015 - ond doedd ganddynt ddim cystadleuaeth gan yr UUP.  Dydi hynny ddim yn wir y tro hwn - mae'r UUP yn sefyll.  Serch hynny byddwn yn disgwyl i'r DUP gadw'r sedd.

Ac yn olaf y sedd Belfast olaf - ac o bosibl y fwyaf diddorol - Belfast North.  Mae'r sedd yn nwylo'r DUP, ac enillwyd y sedd ganddynt yn hawdd yn 2015.  Ond roedd pethau'n dyn iawn yn sgil yr ymchwydd yn y bleidlais genedlaetholgar ym mis Mawrth.  Un unoliaethwr fydd yn sefyll - Nigel Dodds o'r DUP a dau genedlaetholwr.  O dan amgylchiadau arferol dylai hynny wneud y gwahaniaeth a rhoi'r sedd i'r DUP.  Ond mae ymgeisyddiaeth SF yn bygwth newid hynny.  Yn hytrach na Gerry Kelly gyda'i gysylltiadau IRA clos, eu hymgeisydd y tro hwn ydi John Finucane. 

Llofruddwyd ei dad, Pat yn ei gartref yn yr etholaeth yn 1989.  Roedd Patrick Finucane yn un o gyfreithwyr mwyaf adnabyddus Gogledd Iwerddon, ac amddiffynodd ddwsinau o bobl oedd wedi eu cyhuddo o derfysgaeth.  Er iddo gael ei ladd gan derfysgwyr teyrngarol mae'n debygol  bod hynny o dan gyfarwyddyd, neu o leiaf gyda chytundeb un o asiantaethau cudd wybodaeth y DU.  Mae'r mater wedi bod yn un gwenwynig ers degawdau.  Bydd yr ymgeisyddiaeth yma yn apelio at genedlaetholwyr dosbarth canol yng Ngogledd yr etholaeth a'r un ddosbarth gweithiol oedd yn pleidleisio i Gerry Kelly yn agos at ganol y ddinas.  Roedd mathemateg mis Mawrth yn agos iawn, ond mae mwy o berygl nag erioed i'r sedd - a gallai'n hawdd syrthio.

Pen draw hyn ydi y gallai'r ochr genedlaetholgar gael mwy o bleidleisiau na'r un unoliaethol (yn arbennig os oes pleidleisio tactegol sylweddol i'r SDLP yn Foyle a South Down), ac y gallai hefyd gael hanner y seddi.  Petai hynny'n digwydd byddai'n arwain at argyfwng yn y teulu unoliaethol - a gallai hynny arwain at ail strwythuro gwleidyddiaeth unoliaethol yng Ngogledd Iwerddon.


Sunday, May 14, 2017

Etholiad San Steffan - sylwadau cychwynol

Mae etholiad mis nesaf am fod yn wahanol i'r rhan fwyaf - wele un neu ddau o sylwadau cychwynol.

1). Er gwaetha'r naratif cyfryngol, dydi'r polau, yn arbennig y rhai mwy diweddar ddim yn awgrymu bod y bleidlais Lafur yn chwalu - mae nifer o'r polau yn awgrymu y byddant yn cael canran uwch o'r bleidlais na gawsant ddwy flynedd yn ol.  Cawsant 30.4% yn 2015 oedd 1.5% yn uwch na gafodd Brown bum mlynedd ynghynt.  Dydi hyn ddim yn golygu wrth gwrs y bydd Llafur yn cael canran uwch o'r bleidlais na gafodd yn 2015 - roedd y polau yn gor gyfrifo eu pleidlais yn 2015.  Mae'r twf yn y bleidlais Doriaidd yn dod yn bennaf o chwalfa yn y bleidlais UKIP - nid chwalfa yn y bleidlais Lafur.  

2). Er gwaethaf hynny mae'r Blaid Lafur Gymreig yn teimlo'r angen i roi pellter rhyngddyn nhw eu hunain a'r Blaid Lafur Brydeinig.  I'r perwyl hwn maent wedi cyhoeddi maniffesto Cymreig.  Ymarferiad cosmetig ydi hyn oll - mae aelodau seneddol Llafur o Gymru yn ymddwyn yn union fel rhai o weddill y DU pan maent yn San Steffan - hyd yn oed pan mae hynny'n groes i ddymuniad eu haelodau Cynulliad yng Nghaerdydd.

3). Mae'r etholiad yn cael ei hymladd ar sail cwbl ffug - o safbwynt y Toriaid o leiaf.  Dydi'r honiad bod pob pleidlais mae plaid May yn ei gael yn cryfhau ei llaw wrth ddelio efo gweddill Ewrop yn gwbl ddi ystyr.  Dydi maint cefnogaeth i lywodraeth ddim yn effeithio ar drafodaethau rhyngwladol.  

4). Mae'n dra thebygol y bydd y gyfradd pleidleisio yn isel.  Dyna sydd yn tueddu i ddigwydd pan mae yna nifer o etholiadau / refferenda yn dilyn ei gilydd a dyna sy'n digwydd hefyd pan mae yna ganfyddiad bod yr etholiad eisoes wedi ei phenderfynu.  Mae'r ddau ffactor ar waith yma. Gall cyfraddau pleidleisio isel arwain at ganlyniadau unigol anisgwyl a dylai hefyd lywio strategaethau pleidiau - gall sicrhau bod y bleidlais graidd yn pleidleisio arwain at lwyddiant pan na fyddai'n ddigon fel rheol.

5). Er gwaetha'r ffaith bod y Toriaid wedi symud i'r Dde, dydi hi ddim yn ymddangos eu bod yn colli pleidleisiau i'r Dib Lems i'r Chwith - dydi'r polau ddim yn awgrymu y bydd y blaid honno'n gwneud dim gwell na'u perfformiad trychinebus yn 2015.  Mae hyn gyda llaw yn gwneud Ceredigion yn fwy diddorol na byddai llawer ohonom wedi disgwyl.  Er i Geredigion bleidleisio i aros yn yr UE, pleidleisio i afael wnaeth De'r Sir - lle mae pleidlais Mark Williams gryfaf.  Gallai rhai o'i bleidleisiau wneud eu ffordd i gorlan y Toriaid - a gallai hynny yn ei dro gynnig cyfle i'r Blaid.

6). Mae etholiadau lleol yn wahanol iawn i etholiadau San Steffan, ond rhaid cydnabod i Lafur wneud yn well na'r disgwyl tros lawer o'r wlad.  Serch hynny mae'n werth nodi i'r Blaid ddod o flaen pob plaid arall mewn nifer o etholaethau - Ynys Mon, Arfon, Dwyfor Meirion, Ceredigion, Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr, Castell Nedd, Rhondda, Caerffili a Gorllewin Caerdydd.  Mae'r olaf yn dibynu ar sut rydym yn cyfri.  

Friday, May 12, 2017

Dafydd El yn trio cael pobl i fotio'n dactegol unwaith eto

Byddwch yn cofio i Dafydd El fentro i fyd pleidleisio tactegol y llynedd gan wneud yr awgrym gogleisiol o hurt bod pobl yn fotio i'r ail blaid (Llafur) yn hytrach na'r blaid gyntaf (Plaid Cymru) er mwyn cadw'r pedwerydd plaid (UKIP ) allan yn yr etholiad Comisiynydd Heddlu'r Gogledd.  Wnaeth fawr neb gymryd sylw bryd hynny - ac os dwi'n cofio'n iawn cafodd ymgeisydd y Blaid - Arfon Jones - fwy o bleidleisiau na Dafydd El ym Meirion Dwyfor.  

Trwy gyd ddigwyddiad llwyr mae ymdrech ddiweddaral Dafydd El - yng Ngorllewin Caerdydd y tro hwn - hefyd yn awgrymu bod pobl yn fotio i'r boi Llafur, Kevin Brennan y tro hwn.


Thursday, May 11, 2017

Caerdydd

Efallai na symudodd y Blaid ymlaen o ran seddi yn y brifddinas - ond symudodd ymlaen yn sylweddol o ran maint y bleidlais mewn rhannau sylweddol o'r ddinas.  Wele isod:


Wednesday, May 10, 2017

Meddyliwch _ _

_ _ _ y myllio a thantro fyddai  yn y cyfryngau petai Plaid Cymru wedi dewis rhywun i arwain cyngor mwyaf Cymru fyddai wedi dweud neu awgrymu: 

Y dylai mewnfudwyr wynebu treth y cyngor uwch nes eu bod wedi dysgu'r Gymraeg.

Bod pobl sy'n byw mewn trefi arfordirol sy'n mynegi drwgdeimlad tua at Gymry yn 'small minded, retarded, philistianist bigots'

Bod baneri Lloegr yng Nghymru yn gyfoglyd.

Bod y di Gymraeg yn chavs.

Bod pobl sy'n prynu baneri Lloegr yn simpletons neu casual racists.

Y dylid ystyried taflu Tippex ar geir sydd a baneri Lloegr arnynt - neu sgwennu stwff fel English Go Home arnynt efo tipiau ffelt.

Neu gellwair y dylid taflu Molotov Cocktails at geir o'r fath.

Ond dyna'n union beth mae'r grwp Llafur ar Gyngor Caerdydd wedi ei wneud.








Tuesday, May 09, 2017

Canlyniadau Arfon

Cafodd ymgeiswyrPlaidCymru eu dychwelydyn ddi wrthwynebiad yn Arllechwedd, Deiniolen, Glyder, Llanrug, Tregarth, Pentir a'r Felinheli.

Mae tair ward efo dau aelod - Menai (Bangor), Seiont a Marchog.  Y bleidlaisuchaf argyfer pob plaid dwi wedi eu nodi yn y lleoeddhynny.

Saturday, May 06, 2017

Etholiadau lleol - argraffiadau cyntaf

Un neu ddau o argraffiadau ynglyn ag etholiadau dydd Iau - byddaf yn dod yn ol at y mater ar ol cael golwg gwell ar y data.

Gwers 1). Mae Llafur - ar lefel leol o leiaf -yn llawer mwy gwydn yng Nghymru nag yn Lloegr a'r Alban.  Mae nhw wedi colli llawer o bleidleisiau - ond mae nhw hefyd wedi cadw eu gafael ar gynghorau pwysicaf Cymru.  Bydd Mehefin 8 yn dangos os ydi'r gwytnwch hwnnw yn dal ar lefel cenedlaethol.

Gwers 2). Dydi is seiledd y Toriaid ddim mor gryf a hynny yng Nghymru.  Mewn cyfnod lle mae'r polau cenedlaethol yn awgrymu eu bod ar y blaen yng Nghymru, trydydd oedden nhw ddydd Iau.  Unwaith eto bydd Mehefin 8 yn dangos pa mor bell uwchlaw'r  bleidlais greiddiol y gall y bleidlais San Steffan fynd - hynny yw i ba raddau mae'n bosibl osgoi disgyrchiant etholiadol?

Gwers 3). Mae'r cerdyn iaith yn gweithio i Lafur.  Cafodd ei chwarae yn Llangenech a Threganna.  Enillwyd sedd gan y Blaid yn Llangench  a llwyddwyd i wrthsefyll cystadleuaeth chwyrn yn Nhreganna. Bydd yn cael ei defnyddio eto.

Gwers 4). Dydi hi ddim yn dilyn bod Llafur yn gorfod dominyddu mewn ardaloedd trefol. Does gan Llafur bellach ddim seddi o gwbl yn y stribedyn poblog sy'n ymestyn o orllewin Caernarfon i ddwyrain Bangor, nag yn Nyffryn Ogwen na Dyffryn Nantlle - mae'r ardal yn cael ei dominyddu gan Blaid Cymru gyda cynghorwyr annibynnol yn ennill y seddi nad ydi'r Blaid wedi eu hennill.  Yr hyn sy'n nodweddu'r ardaloedd yma o safbwynt y Blaid o leiaf ydi bod y drefniadaeth yn arbennig o dda.

Gwers 5). Gall y Blaid gael llwyddiant mewn unrhyw ran o Gymru.  Etholwyd cynghorwyr ym Mhowys, yn Wrecsam, ym ac ym Mlaenau Gwent.

Gwers 6). Oni bai bod y Toriaid yn newid eu meddyliau ynglyn a Brexit fyddwn ni ddim yn clywed llawer mwy gan UKIP eto (er y bydd y Bib yn parhau i roi llwyfan i blaid sydd i pob pwrpas yn ddi aelod seneddol a di gynghorydd),  bod y Toriaid wedi troi'n blaid Brexit, does yna ddim gwagle gwleidyddol i UKIP.  'Dydi bod yn blaid gwrth Fwslemaidd ddim am apelio at neb ond eithafwyr Asgell Dde.

Gwers 7). Mae hi'n anodd dod yn ol yn dilyn trychineb etholiadol.  Er bod amgylchiadau bellach yn llawer haws i'r Dib Lems y tro hwn nag oedd 5 mlynedd yn ol parhaodd eu perfformiad i ddirywio.  

Gwers 8). Mae'r gyfundrefn etholiadol First Past the Post yn ffafriol iawn i Lafur yng Nghymru ar lefel cynghorau lleol yn ogystal ag ar lefel etholiadol.  Er iddynt golli llond bwced o seddi ddydd Iau, doedd hynny ddim yn adlewyrchu'r ogwydd ffyrnig yn eu herbyn mewn rhannau eang o Gymru.  Yn aml iawn mae traean o'r bleidlais yn hen ddigon i Lafur gael mwy na hanner y seddi.

Friday, May 05, 2017

Sibrydion

Sibrydion yn unig ydi'r canlynol o Wynedd - peidiwch a betio ar ddim un ohonynt,

PC i gadw Ogwen a Gerlan a felly cael pob sedd yn Nyffryn Ogwen.
Annibynnol i ennill yn Llanberis - ond pethau'n agos.
Agos yn Penisarwaun ond Plaid yn debyg o gadw.
PC i golli Bontnewydd.
Llafur i gadw Cadnant a Bethel.
PC i ennill dwy sedd newydd ym Mangor, agos mewn sedd arall sy'n cael ei dal gan PC.
Annibynnol i gadw Groeslon a'u sedd yn Seiont.  Ail sedd Seiont yn hynod gystadleuol.
Perygl i sedd LlG yn Seiont, ond ddim yn glir pwy fydd yn ei hennill - gallai fod yn PC neu Annibynnol.
Agos rhwng PC ac Annibynnol yn Peblig.
PC i gadw Llanaelhaearn.
Perygl i sedd PC yng Ngogledd Pwllheli yn erbyn Annibynnol.
LlG i gadw Llanwnda.
Agos ym Motwnnog - posibl i'r Blaid gadw sedd - felly hefyd 
PC i gadw Penygroes a Llanllyfni.
PC yn debygol o gadw Penisarwaun.
Agos rhwng PC ac Annibynnol yn Llanberis.
PC i gadw Waunfawr.

Sibrydion yn unig cofiwch.

Tuesday, May 02, 2017

Llafur Treganna unwaith eto

Rydym wedi edrych ar hyn eisoes -ond mae'n ymddangos bod Llafur Treganna yn mynd yn codi hen grachan.  Roedd yna homar o ffrae yn ystod y cyfnod pan roedd y Dib Lems a Phlaid Cymru yn rhedeg Cyngor Caerdydd oherwydd cynllun i ail strwythuro'r gwasanaeth ysgolion yn Nhreganna (a mewn wardiau eraill).  

Y cefndir oedd bod twf sylweddol yn y galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal a bod yr ysgol Gymraeg leol yn llawn hyd yr ymylon tra bod yr ysgolion Saesneg gyda nifer fawr o leoedd gwag.  Bwriad y weinyddiaeth oedd datrys y broblem trwy droi un o'r ysgolion Saesneg yn ysgolcyfrwng Cymraeg.  

Mewn gwirionedd gweinyddu dau o bolisiau'r llywodraeth ym Mae Caerdydd oedd y weinyddiaeth - lleihau'r nifer o lefydd gwag mewn ysgolion a chynyddu'r ddarpariaeth addysg Gymraeg.  Roedd Llafur wrth gwrs yn chwyrn yn erbyn y cynllun, ac yn y diwedd perswadwyd y llywodraeth i gamu i mewn ac ariannu ysgol newydd sbond cyfrwng Cymraeg a chaniatau i'r ysgolion Saesneg (hanner gwag) aros yn agored.

Beth bynnag, mae'r holl beth yn cael ei ail godi yn yr ymgyrch hynod ffyrnig am dair sedd Treganna ar Gyngor Caerdydd - a hynny ar y stepan drws ac ar dudalennau masnachol Facebook.




Rwan, fydd yna ddim cynllun i ehangu addysg Gymraeg yn Nhreganna y tro hwn oherwydd bod yr ysgol (anferth) a godwyd i yn cyflenwi'r galw am addysg Gymraeg - ymarferiad mewn codi bwganod ydi'r cyfan.

Fel rydym wedi nodi eisoes mae'n ddigon hawdd i Alun Davies son am filiwn o siaradwyr Cymraeg.  Ond yr unig ffordd y gellir gwneud hynny ydi trwy ehangu 'r ddarpariaeth addysg Gymraeg - ond pan mae awdurdodau lleol yn ceisio gwneud hynny mae Llafur - o Langenech i Dreganna - yn ceisio elwa'n etholiadol trwy ymosod ar yr union gynlluniau hynny.