Monday, April 11, 2016

Ynglyn a gwrthod condemio tor cyfraith

Does yna ddim amheuaeth bod dwyn neu falu posteri etholiadol yn drosedd - i fod yn fanwl gywir mae'n debyg mai niwed troseddol neu ladrad fyddai'r cyhuddiad petai rhywun yn cael ei hun yn y llys am y peth - nid bod hynny prin byth yn digwydd.  Mae'n anodd dwyn neu falu poster heb dresbasu hefyd - er mai mater sifil yn hytrach nag un troseddol ydi hynny.

Beth bynnag cafodd nifer o bosteri'r Blaid eu dwyn a / neu eu malu ym mhentref Bethel ger Caernarfon tros y Sul.  Achosodd y digwyddiad gryn storm ar trydar gyda nifer go uchel o bobl yn cwyno am y peth.  Trwy gyd ddigwyddiad anffodus mae ymgeisydd Llafur Arfon yn byw ym Methel, a chafodd ei bosteri yntau lonydd.  

Yn gam neu'n gymwys rhoddodd ambell un ddau a dau at ei gilydd a chasglu mai cefnogwyr Llafur oedd y lladron posteri - nid bod neb yn honni bod Sion ei hun yn gyfrifol wrth gwrs.  Yn wir 'dwi'n 'nabod Sion ddigon da i wybod na fyddai'n ymhel a'r math yma o beth.

Fel y dywedais roedd yna storm drydar ynglyn a'r mater, a wna i ddim mynd trwy'r cyfan - gallwch fynd i edrych eich hun os oes gennych ddiddordeb.  Ond hoffwn ffocysu ar beth o'r dadlau rhwng Llion Jones a Sion.  Gweler isod:





Fel y gwelwch mae Llion yn flin oherwydd i rywun ddwyn poster o ardd ei dad oedranus liw nos.  Yr hyn sy'n anhygoel am y ddeialog ydi bod Sion yn gwrthod condemnio dwyn / malu posteri oni bai bod yr heddlu yn gwneud ymchwiliad.  Mae ymchwiliadau heddlu yn cymryd amser, efallai na fyddai'r heddlu yn dewis ymchwilio i'r mater, efallai nad oes neb am drafferthu tynnu sylw'r heddlu at y mater.  Ond mae dwyn / malu pethau pobl eraill yn dal i fod yn beth hollol anerbyniol i'w wneud - ac mae Sion yn gwrthod condemnio gwneud hynny.

Gan nad ydi o'n fodlon condemnio tor cyfraith ac argymell i bobl beidio a malu neu ddwyn mi wna i - er nad ydw i erioed wedi clywed am gefnogwyr Plaid Cymru yn dwyn neu falu posteri, ac er nad ydw i'n ymgeisydd ar gyfer y Cynulliad.  

Felly - fel aelod o Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol Plaid Cymru, fel aelod o Bwyllgor Ymgyrch Plaid Cymru yn Arfon, fel asiant y Blaid yn y Gogledd, a fel rhywun dreuliodd y rhan fwyaf o ddydd Sadwrn yn gosod posteri yng Nghaernarfon - 'dwi'n gofyn i bawb, yn gefnogwyr Plaid Cymru a chefnogwyr pleidiau eraill i adael llonydd i bosteri a deunyddiau etholiadol pleidiau eraill.  Byddai gwneud hynny 'n groes i'r gyfraith ac mae mewn gwirionedd yn ymysodiad ar y broses ddemocrataidd.  

Na fo - doedd hynna ddim yn  boenus o gwbl -  er nad oes unrhyw awgrym bod cefnogwyr y Blaid yn gwneud y math yma o beth.  Pam goblyn bod Sion yn ei chael mor anodd i ddweud rhywbeth tebyg?



No comments: