Monday, August 31, 2009

Beth sydd gan blogmenai a trinity Mirror yn gyffredin

Bydd darllenwyr rheolaidd y blog hwn yn ymwybodol nad wyf yn or hoff o bapurau Trinity Mirror.

'Dwi ddim yn hollol siwr os i lawenhau neu beidio o ddeall bod gwerthiant papurau dyddiol a Sul y grwp anymunol, Prydeinllyd hwn yng Nghymru yn syrthio fel carreg. Wele'r ffigyrau diweddaraf:

South Wales Echo - 41,550 (-9.9%)
The Western Mail - 33,693 (-10.3%)
Daily Post (Cymru) - 34,601 (-5.0%)
Wales on Sunday - 44,591 (-16.5%)

Ar un olwg mae hyn yn newyddion arbennig o dda, ond yr unig broblem ydi bod y pedwar rhecsyn uchod o leiaf yn Gymreig yn ystyr ehangaf y gair hwnnw. Efallai nad ydi eu cyn ddarllenwyr yn darllen dim byd Cymreig bellach.

Mae dyn yn rhyw hanner gobeithio bod y We'n llenwi'r bwlch, ond a barnu oddi wrth fy mlog fy hun sydd wedi colli darllenwyr tros y mis neu ddau diwethaf, 'dydi hynny ddim yn wir chwaith.

Mae blogmenai pob amser yn awyddus i dorri tir newydd - ac yn yr ysbryd hwnnw mi fyddaf o hyn allan yn cyhoeddi maint fy nghynulleidfa misol ar ddiwrnod olaf pob mis - hyd yn oed os ydi nifer fy narllenwyr yn mynd i'r un cyfeiriad a nifer darllenwyr papurau Trinity Mirror.






Y panic twf poblogaeth - lle mae idiotrwydd y Dde a'r Chwith yn cwrdd

Mae'n debyg y dyliwn ddatgan buddiant cyn cychwyn ar hwn - mae gen i bump o blant.

Tua'r amser yma pob blwyddyn, mae yna fyllio a thantro bod y boblogaeth yn tyfu'n rhy gyflym - gan y wasg Geidwadol yn bennaf, ond gan bobl mwy rhyddfrydig weithiau hefyd. Mae'r erthygl anymunol a hiliol yma yn y Daily Mail gan Amanda Platell yn esiampl o gonsyrn y Dde.

Ymddengys bod y ffaith bod 61,000,000 o bobl yn byw ym Mhrydain bellach yn rhywbeth y dylem oll dreulio llawer iawn o amser yn poeni amdano. Yn wir mae'n stwmp ar stumog llawer bod y boblogaeth yn tyfu y tu allan i Brydain, gyda rhywun o'r enw David Attenbrough yn cefnogi ymgyrch corff sinister a rhyfeddol o fysneslyd o'r enw'r Optimal Population Trust i gosbi gwledydd tramor oni bai eu bod yn cadw eu poblogaeth yn isel. Mae un o'u prif noddwyr - Jonathan Porrit, un o gyn arweinwyr Y Blaid Ecolegol - rhagflaenwyr Y Blaid Werdd yn bendant ei bod yn 'anghyfrifol' i bobl gael mwy na dau o blant.

Mae'r ymddiriedolaeth hefyd yn poeni eu hunain yn sal oherwydd bod tebygrwydd y bydd poblogaeth y DU yn 77,000,000 erbyn 2050. Mae'n od braidd i' r Mail ddod o hyd i dir cyffredin rhyngddynt eu hunain a chorff sy'n gwneud defnydd o naratif amgylcheddol y Chwith gyfoes megis yr OPT - ond dyna fo mae yna ambell i briodas rhwng pobl anisgwyl iawn weithiau.

Mae yna bobl wedi bod yn poeni bod yna ormod o bobl eraill ers i ni gael _ _ wel pobl ar y Ddaear. Roedd yr athronydd Sieiniaidd Han Fei-tzu wedi cael ei hun mewn stad am y peth yn y drydydd ganrif CC, ac roedd Plato o'r farn y dylai pobl ddechrau dympio eu merched ar wladwriaethau eraill os oedd poblogaeth y ddinas wladwriaeth yn mynd yn fwy na 5,040.

Nawdd Sant y sawl sy'n poeni am ormod o bobl ydi Thomas Malthus rheithor gydag Eglwys Lloegr yn Oes Fictoria. Rydym eisoes wedi gweld sut wnaeth ei ddamcaniaethu fo gyfrannu at leihau'r boblogaeth yn Iwerddon a thu hwnt.

Canolbwynt damcaniaeth Malthus oedd yr 'amhosebilrwydd' i gyflenwad bwyd y Byd gadw i fyny efo twf arithmataidd y boblogaeth. Roedd cyd destun gwleidyddol i'r ddamcaniaeth wrth gwrs - roedd Malthus yn erbyn datblygu deddfau i roi cymorth i'r tlodion ac roedd o blaid deddfau oedd yn trethu mewnforio bwyd i Brydain. Roedd ei ddamcaniaethu, wrth gwrs, yn bolycs o'r radd eithaf - fel y cawn weld yn ddiweddarach. Roeddynt hefyd yn bolycs peryglys iawn.

'Dydi hynny heb stopio i bobl a mudiadau cyfoes a diweddar wneud defnydd o'i nonsens. Y lol yma sydd y tu cefn i lawer o ddadleuon yr OPT. Un o lyfrau mwyaf dylanwadol y ganrif ddiwethaf ar y pwnc oedd campwaith Paul R Ehrlich - The Population Bomb (1968).

Roedd Paul o'r farn mai'r gorau y gellid ei ddisgwyl oedd y byddai canoedd o filiynau o bobl yn marw yn saithdrgau'r ganrif ddiwethaf. Byddai'r UDA yn stopio rhoi cymorth i India a'r Aifft erbyn 1974, byddai'r Pab wedi derbyn yr egwyddor o atal cenhedlu, byddai Asia, Affrica, De America a'r Byd Arabaidd yn cael eu hysgwyd gan ymladd am fwyd. Byddai bwyd yn cael ei ddognu yn America ac Ewrop. 2 biliwn fyddai poblogaidd y Byd erbyn 2025, 1.5 biliwn erbyn 2050. Yr unig ateb i hyn yn ol Ehrlich oedd gwenwyno cyflenwadau dwr efo cemegolion atal cenhedlu. Wna i ddim manylu ar y gwaethaf yr oedd Paul yn poeni amdano, rhag bod rhai o fy narllenwyr gyda thueddiad at hunllefau.

Wnaeth methiant treuenus ei ddarogan ddim ei atal rhag cyhoeddi llyfr arall - The Population Explosion efo'i wraig Anne yn 1990. Does yna ddim llawer o dystiolaeth yn yr ail lyfr i Paul fod wedi dysgu llawr o'r ffaith na ddaeth dim o holl ddarogan gwae'r llyfr cyntaf.

Un neu ddau o ffeithiau - mae poblogaeth y Ddaear wedi cynyddu mwy nag erioed (o lawer) yn ystod y ganrif ddiwethaf - ac mae'r GDP ar gyfer pob un o'r bobl yna wedi cynyddu mwy nag erioed hefyd. Er enghraifft roedd GDP y pen (Byd eang) tua phum gwaith yn uwch ar ddiwedd y ganrif nag oedd ar y cychwyn. Roedd y nifer o bobl oedd yn dioddef o brinder bwyd parhaus wedi lleihau ac felly hefyd y gyfradd o blant oedd yn marw. Roedd pobl ym mhob gwlad bron yn gallu disgwyl byw yn hirach - yn hirach o lawer. Roedd India - gwlad roedd Ehlrich o'r farn nad oedd yna unrhyw obaith o gwbl iddi oherwydd dwysedd ei phoblogaeth wedi gwneud ei hun yn hollol hunan gynhaliol o ran bwyd erbyn diwedd y ganrif diwethaf. Roedd ei phoblogaeth wedi tyf'n sylweddol hefyd

'Rwan - mae dwysedd poblogaeth yn stwmp ar y sawl sy'n poeni am boblogaeth Prydain. Dwysedd poblogaeth y Byd ydi
45.21 person y km sgwar o dir. Dwysedd y DU ydi 246 (sydd trwy gyd ddigwyddiad bron yn union yr un peth ag un Pennsylvania- talaith sydd a 2 biliwn acer o fforestydd, naw miliwn acer o dir ffermio sy'n cynhyrchu gwerth tros i ddeugain biliwn dolar o fwyd yn flynyddol). Mae yna 51 o wledydd efo dwysedd uwch - gan gynnwys Singapore (6,814), Macau (18,705), Hong Kong (6,326), De Korea (487), Yr Iseldiroedd (395). Hynny ydi rhai o wledydd a rhanbarthau mwyaf cyfoethog y Byd. Mae yna 22 o wledydd gyda llai na 10 person y km sgwar - tua hanner ohonynt ymhlith y tlotaf yn y Byd.

Daw hyn a ni'n ol at erthygl bach hiliol Amanda. Yr amheuaeth sydd gen i pob amser yr ydwyf yn darllen y math yma o nonsens ydi nad gormod o bobl ydi'r broblem - ond gormod o bobl o'r math anghywir. Alla i ddim yn fy myw gredu y byddai Amanda yn gwneud ei hun mor sal yn poeni petai'r holl bobl yna yn rhai tebyg i'r sawl sy'n gwneud eu siopa yn Waitrose, yn mwynhau guacamole ac yn teithio mewn tractorau Chelsea.

Sunday, August 30, 2009

Brogarwch vs Cenedlaetholdeb rhan 3

Y trydydd cyfraniad i'r ddadl oedd un Hogyn o Rachub, neu'r Tatw o Rachub fel mae'n rhaid i ni ddod i'w adnabod bellach.

Dydi ei gyfraniad ddim yn un sy'n ymwneud a'r ddeuoliaeth brogarwch / cenedlaetholdeb fel y cyfryw - ond yn hytrach mae'n ymgais digon treiddgar i ddadelfennu'r feddylfryd genedlaetholgar yng Nghymru. Mae'n rhannu'r feddylfryd honno i bedwar categori - Cenedlaetholdeb Diwylliannol / Traddodiadol, Cenedlaetholdeb Ideolegol, Cenedlaetholdeb Economaidd, Cenedlaetholdeb Dinesig/Sifig.

'Does gen i ddim problem efo'r categoreiddio ynddo'i hun - mae o'n ddigon cywir. Mi fyddwn yn nodi fodd bynnag nad ydi hi'n bosibl gosod unigolion mewn categoriau twt - mae pobl ychydig yn fwy cymhleth na hynny. Mi fyddwn i'n gosod fy hun ym mwy nag un o gategoriau HoR - a 'dwi'n meddwl y byddai'r rhan fwyaf o genedlaetholwyr yn gallu gosod eu hunain mewn mwy nag un hefyd.

Mae HoR a minnau wedi croesi clefyddau ynglyn a Phlaid Cymru yng Nghaerdydd yn y gorffennol. 'Dwi ddim yn derbyn bod y gwahaniaeth rhwng cenedlaetholwyr yng Ngwynedd er enghraifft a Chaerdydd mor amrwd ag y mae HoR yn awgrymu. Un o Gaerdydd ydi'r Mrs - mi fyddwn i'n ei disgrifio fel mwy o genedlaetholwraig diwylliannol / traddodiadol na fi. Ydi cenedlaetholdeb Owen John Thomas mewn difri yn ofnadwy o wahanol i un HoR?

Wedi dweud hynny mi fyddwn yn derbyn bod yna wahaniaethau - ac mae'n anhepgor bod gwahaniaethau - mae hanes a diwylliant y ddau ranbarth yn dra gwahanol. Yr her ydi sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o'r hyn sydd gennym yn gyffredin - felly mae symud ymlaen. Fel 'dwi wedi nodi yn y gorffennol, bydd darpariaeth addysg Gymraeg yn cael ei drawsnewid er gwell yn y brifddinas - y cynnydd mwyaf mewn darpariaeth ers blynyddoedd lawer. Mi fydd hyn yn digwydd o dan weinyddiaeth sy'n cynnwys cynghorwyr Plaid Cymru. Ydi o ots os mai McKevoy, Ford, Islam, Singh ydi cyfenwau rhai o'u cynghorwyr, a'u bod wedi dod i mewn i'r Mudiad Cenedlaethol ar hyd llwybr gwahanol iawn i un HoR a finnau.

Saturday, August 29, 2009

Gair bach o gysur i Mr Paul Flynn


Mae nifer o flogwyr wedi gwneud hwyl am ben Paul Flynn tros yr wythnos neu ddwy diwethaf oherwydd ei ymateb hunan bwysig a phwdlyd i'r ffaith na wnaeth yn arbennig o dda yn 'etholiad' Totalpolitics. Mae Paul o'r farn mai'r unig eglurhad am ei ganlyniad siomedig ydi bod cynllwyn anferth yn bodoli ymhlith blogwyr Cymreig yn gyffredinol a Phleidwyr yn benodol. Felly mae Paul yn dipyn o conspiracy theorist pan mae'n dod i egluro'r anfadwaith arbennig yma.

Fedar Paul ddim deall sut y gwnaeth cymaint o flogiau Cymreig mor dda, ac mae'n syndod mawr iddo i flog Vaughan ddod yn y deg uchaf a hwnnw wedi ei 'sgwennu yn uniaith Gymraeg. Daeth y blog hwn yn uwch nag un Vaughan gyda llaw, ac mae hwnnw hefyd yn uniaith Gymraeg (fwy neu lai). Mae i mi ddod yn uchel yn 'rhyfeddach' ar un olwg nag i un Vaughan wneud hynny - 'does gen i ddim cymaint o gysylltiadau na Vaughan, ac mae ei flog o yn un proffesiynol. Mi ddyliwn ychwanegu mewn gonestrwydd bod ei flog o'n well nag ydi fy un i hefyd.

Efallai bod y ffaith nad ydi Paul wedi sylwi ar hynny yn awgrymu pam ei fod yn cael anhawster deall y sefyllfa. 'Dydi o ddim yn ymddiddori yn y blogosffer Cymreig, ac nid yw ei flog mewn gwirionedd yn rhan o'r blogosffer hwnnw. Ceisiaf gynnig ychydig o gymorth iddo ddod i delerau efo'r anghyfiawnder erchyll mae'n gorfod ymdopi a fo.

Paul - mathemateg syml sydd y tu ol i'ch problem - 'does yna ddim cynllwyn gan flogwyr Cymreig yn gyffredinol na'r Pleidwyr drwg, drwg chwaih. Petai yna un fi fyddai'r cyntaf i wybod - a 'dwi'n gwybod dim. Fodd bynnag, mae yna scene blogio gwleidyddol Cymreig - mi'r ydan ni'n darllen blogiau ein gilydd. Anaml iawn er enghraifft y byddaf i'n darllen blog o'r tu allan i Gymru (ag eithrio poliicalbetting.com) . Mae'n dilyn felly ein bod ni'n pleidleisio i'n gilydd yn hytrach nag i flogiau o'r tu allan i Gymru.

Oherwydd bod y pleidleisiau o Gymru yn tueddu i fynd i flogiau Cymreig mae'r ffaith nad oes llawer o flogiau Cymreig yn cael ei negyddu o safbwynt pleidleisio. Mewn sefyllfa lle mae pleidleisiau yn cael eu bwrw mewn cylch cyfyng, mae pob pleidlais yn fwy pwerus na'r rhai lle maent yn cael eu dosbarthu'n ehangach.

Mae yna fwy o flogwyr a phleidleiswyr o lawer yn Lloegr - ond mae eu pleidleisiau yn cael eu gwasgaru'n eang iawn. Mae yna llai o bleidleiswyr yng Nghymru - ond 'does yna ddim yn agos cymaint o flogiau i bleidleisio trostynt - felly mae mwy ohonynt yn mynd i'r un blogiau. Mae'r cylch pleidleisio yn gyfyng.

Mae hyn yn wir am flogiau sy'n defnyddio'r Gymraeg fel cyfrwng. Mae yna is scene Cymraeg ei hiaith. Ychydig o flogiau felly sydd ar gael - ond mae siaradwyr Cymraeg yn tueddu i bleidleisio trostynt a pheidio gwasgaru ymhellach. Mi fyddwn yn tybio i mi dderbyn pleidleisiau'r rhan fwyaf o Gymry Cymraeg a bleidleisiodd. Pe bawn yn 'sgwennu yn Saesneg, ni fyddai llawer o'r rheini ar gael i mi.

'Dydi'ch blog chi ddim yn un arbennig o Gymreig, ac nid yw'n rhan o'r scene mewn gwirionedd. O ganlyniad rydych yn cystadlu efo blogiau o'r blogosffer Seisnig - lle ceir mwy o bleidleisiau, ond hefyd mwy o gystadleuaeth am bleidleisiau.

'Rwan, er gwaethaf yr hunan bwysigrwydd a'r sancteiddrwydd, a'r ymlyniad rhyfedd i Peter Hain 'dwi'n hoff o Paul Flynn. Mae'n Gymro da ac yn ddatganolwr brwd. Mae ymhell bell o fod yn un o'r defaid llywaeth, lleddf ac ufudd, y nodwyr pennau ar clywch clywchwyr proffesiynol sy'n cynrychioli'r rhan fwyaf o etholaethau Llafur yng Nghymru. Unoliaethwr, ond unoliaethwr 'da'. Yn yr ysbryd yna mae gen i fymryn o newyddion da iddo o'r holl fusnes - sef hyn:

Y rheswm bod yna gorlan neilltuol Gymreig wedi datblygu yn y blogosffer gwleidyddol ydi oherwydd bod Cymru wedi datblygu ei gwleidyddiaeth neilltuol ei hun. Adlewyrchiad o'r Byd go iawn ydi'r blogosffer, ac adlewyrchiad o'r Byd gwleidyddol ydi'r blogosffer gwleidyddol.

Ugain mlynedd yn ol (petai'r We yn bodoli bryd hynny), byddai blog Mr Flynn ymhell o flaen y blogiau Cymreig eraill - a dweud y gwir go brin y byddant yn bodoli. Byddwn yn meddwl y byddai'n cytuno mai pris bach i'w dalu ydi cael cweir gan flog Vaughan, neu hyd yn oed flogmenai er mwyn gweld Cymru'n datblygu fel gwlad efo'i gwleidyddiaeth unigryw a neilltuol hi ei hun.

Ordovicius

Mae'n ddrwg gen i nodi nad ydi fy nghyfaill Simon wedi cymryd ei gwymp yn rhestr y blogwyr yn arbennig o dda.

Ta waeth - 'dwi'n siwr y bydd yn ol yn ei briod le yn y tri uchaf y flwyddyn nesaf - os y bydd yn cofio blogio weithiau wrth gwrs - sy'n fwy nag y gellir ei ddweud am Mr Paul Flynn.

Brogarwch vs Cenedlaetholdeb rhan 2

'Dwi am gychwyn trwy ddyfynu rhan o ymateb HRF i fy sylwadau yn ail ran ei ymateb i mi:

Os ydy pobl Bontddu am gadw eu hysgol , iawn gad iddynt dalu, trwy dreth blwyfol, y swm uwchben y cyfartaledd i'w gadw ar agor. Os yw'r gost yn rhy uchel i ganiatáu i hynny digwydd gad i fwrdd yr ysgol penderfynu uno efo'r Bermo, y Ganllwyd, Llanelltud, Dolgellau neu Lesotho er mwyn cyfiawnhau cadw presenoldeb ysgol yn y Llan. Gad i bobl Bontddu, yn hytrach na swyddogion Caernarfon, penderfynu nad yw cadw ysgol y llan yn syniad cynaliadwy!

Cyfeirio mae HRF yma wrth gwrs at y ddadl ysgolion, ac mae'n cynnig ateb i ddwy o'r elfennau sy'n gyrru'r agenda ailstrwythuro ysgolion tros Gymru, sef cost ysgolion llai a'r gwahaniaeth rhwng gwariant y plentyn mewn ysgolion mwy a rhai llai. Er bod y ddwy elfen yma'n ymddangos ar yr olwg gyntaf yn debyg, maent mewn gwirionedd yn wahanol - mae'r naill yn ymwneud ag effeithiolrwydd cyllidol tra bod y llall yn ymwneud a thegwch cymdeithasol.

Mae'n disgrifio ei ateb - sef rhoi'r cynnig i godi treth cyngor uwch mewn ardal os ydi ysgol yn ddrud i'w chynnal - fel un ceidwadol. Mae'r sylw yn hollol gywir - mae'n ateb ceidwadol yn ystyr ariannol / cyllidol y gair hwnnw. 'Dwi'n ystyried y syniad hefyd yn un diddorol iawn - er na fydd o fawr o syndod i neb sy'n darllen y blog hwn yn aml nad ydw i'n cael fy hun ar yr un ochr i bethau nag Alwyn. Mater i lywodraeth San Steffan wrth gwrs fyddai newid deddfwriaeth trethiant - felly ar y lefel honno y byddai mynd i'r afael a mater fel hyn. 'Dwi'n cymryd mai trwy refferendwm lleol y byddai cymuned yn penderfynu os ydynt eisiau ysgol neu beidio.

Gadewch i ni edrych ar ychydig o ffigyrau. Cyn dechrau dyliwn bwysleisio nad ydw i yn defnyddio ffigyrau go iawn yma - does gen i ddim rhai wrth law, a byddai'n amhriodol ymdrin ag ysgolion penodol ar flog sy'n gyhoeddus i bawb.

Cymerer am funud bod ysgol fechan o 23 o blant, a bod y gwariant y pen ar y plant hynny yn £5,200, tra bod gwariant cyfartalog y sir mae'r ysgol ynddi yn £2,700. Ceir gwahaniaeth felly o £2,500 y plentyn rhwng gwariant yr ysgol a'r gwariant cyfartalog. O gyfieithu hyn i wariant tros yr ysgol byddwn yn son am 23 x £2,500 sydd yn £57,500. Felly o gymryd syniad HRF ar ei symlaf, byddai'n rhaid codi cymaint a hynny trwy drethiant lleol ychwanegol yn y gymuned o dan sylw.

Mae'n rhesymol cymryd mai cymuned o tua 400 o bobl fyddai'n cynnal ysgol o'r maint yma. Gallwn gyfieithu hyn i 200 cartref. Felly byddai'n rhaid i'r 200 cartref yna godi £57,500 trwy drethiant lleol ychwanegol. Mae hyn yn swm sylweddol o bres. Byddai'r dreth ychwanegol yn £287.50 y flwyddyn yn ychwanegol i bob cartref yn yr ardal.



Mae hefyd yn rhesymol cymryd y byddai 23 o blant yn dod o tua 15 teulu gwahanol. Byddai tua 200 o deuluoedd yn y pentref. Canran fechan o deuluoedd fyddai efo plentyn yn yr ysgol gynradd. Mae'n ddigon posibl y byddai rhieni a pherthnasau agos y 23 plentyn sydd yn yr ysgol yn ystyried bod talu £300 yn rhesymol am addysg leol i'w plant - ond son am efallai chwarter y tai yn y gymuned ydym ni wedyn. Fyddai'r tri chwarter arall eisiau talu bron i £300 ychwanegol? Efallai, ond fyddwn i ddim yn betio'n rhy drwm ar ganlyniad cadarnhaol refferendwm a dweud y gwir. Byddai modd chwarae o gwmpas efo'r ffigyrau wrth gwrs - disgwyl dim ond hanner y gost ychwanegol i gael ei godi'n lleol ac ati.

Ta waeth am hynny, mi gymerwn am ennyd bod pobl yn pleidleisio'n gadarnhaol mewn refferendwm ac ystyried y goblygiadau.

Yn gyntaf, byddai byw mewn llefydd gwledig yn ddrytach na fyddai byw mewn cymunedau trefol. Mae hyn eisoes yn wir wrth gwrs - mae'r ffaith bod pobl yn gorfod teithio ymhell i ganolfannau cyflogaeth ac at wasanaethau yn golygu bod cost uwch i fyw mewn ardal wledig beth bynnag. Os ydi'r ardal yn un sy'n apelio at bobl 'o'r tu allan' mae'r gost yn uwch eto oherwydd bod tai yn fwy drud nag ydynt mewn canolfannau trefol. Cost uwch byw mewn llefydd gwledig ydi un o'r prif ffactorau pam bod pobl yn symud o gymunedau gwledig i rhai trefol. Byddai trefniant fel hyn yn atgyfnerthu'r broses - y broses yma ydi prif ffynhonnell argyfwng ysgolion bychain yn y lle cyntaf.

Yn ail byddai'n gynsail gwirioneddol beryglys i gefn gwlad. Mae pob gwasanaeth yn ddrytach i'w ddarparu yng nghefn gwlad nag yn unman arall - hel sbwriel, fan llyfrgell, cymorth yn y cartref - pob un dim. Ar hyn o bryd mae'r gost ychwanegol yma'n cael ei rannu rhwng pawb - pobl sy'n byw mewn cymunedau trefol a rhai gwledig fel ei gilydd. Byddai gwneud i gymunedau dalu union gost y gwasanaethau maent yn ei dderbyn unwaith eto'n gwneud ardaloedd gwledig yn anatyniadol i fyw ynddynt a rhai trefol yn fwy atyniadol.

Mae'n eironi am wn i bod pobl sy'n byw mewn cymunedau gwledig (fel HRF) yn tueddu i fod yn geidwadol, tra bod rhai sy'n byw mewn cymunedau trefol (fel fi) yn tueddu i fod yn llai felly. Byddai gweithredu egwyddorion ceidwadiaeth cyllidol ar sir sydd a chymunedau cymysg (hy rhai trefol a gwledig) fel Gwynedd yn wirioneddol niweidiol i gefn gwlad (ac yn gymharol fanteisiol i gymunedau trefol).

Mae'r syniad yn un diddorol - ond 'dwi'n anghytuno sylfaenol efo fo oherwydd y byddai'n arwain at wneud cefn gwlad yn llai hyfyw o lawer nag yw heddiw.

Friday, August 28, 2009

Brogarwch vs Cenedlaetholdeb rhan 1

'Reit ta, brogarwch a 'ballu.

Cafwyd cryn ymateb i fy mlogiad oedd yn awgrymu bod honni i fod yn genedlaetholwr / wraig a phleidleisio i bleidiau rhanbarthol yn anghydnaws a'i gilydd. 'Dydw i ddim yn cytuno efo'r rhan fwyaf o'r cyfraniadau mae gen i ofn. Mi gawn i olwg brysiog ar un neu ddau ohonynt. Mi gychwynwn ni gyda chyfraniad Dyfrig ar ei flog answyddogol.

Dadl lled Adferaidd sydd gan Dyfrig yn y bon - sef bod amddiffyn y Gymraeg yn bwysicach na dim arall gwleidyddol ac mai ar lefel Gwynedd gyfan y gellir gwneud hynny orau. 'Dwi'n gweld tair problem sylweddol efo'r dadansoddiad yma.

Yn gyntaf tua un siaradwr Cymraeg o pob wyth sy'n byw yng Ngwynedd. Yn ganrannol mae'r Gymraeg yn gryfach yng Ngwynedd nag yw mewn unrhyw sir arall, ond mae dadansoddiad sy'n anwybyddu saith o pob wyth siaradwr Cymraeg yn amlwg yn ddiffygiol. Mae unrhyw strategaeth i amddiffyn y Gymraeg angen bod yn ddeublyg - yn lleol a chenedlaethol.


'Dwi'n derbyn wrth gwrs bod Gwynedd ar y blaen i pob sir arall o ran amddiffyn y Gymraeg, a 'dwi hefyd yn nodi mai go brin y byddai'r sir mor flaengar oni bai am ddylanwad cryf Plaid Cymru arni.

Yn ail mae'r feddylfryd Adferaidd wedi dyddio bellach - meddylfryd sy'n canolbwyntio ar y gwledig a'r gorllewinol ydi hi yn y bon. Pan fydd haneswyr yn y dyfodol yn edrych yn ol ar hynt y Gymraeg yn nhraean olaf y ganrif ddiwethaf a chychwyn y ganrif yma, nid y patrwm mwyaf amlwg fydd un o ddirywiad ond yn hytrach ddwy un o ailddosbarthiad. Mae'r blog hwn eisoes wedi nodi bod 19 o'r 20 ward sydd ag 80% neu fwy yn siarad Cymraeg yn rhai trefol (neu o leiaf fwrdeisdrefol). Trefol hefyd ydi'r ardaloedd lle cafwyd twf yn y nifer a'r canrannau sy'n siarad Cymraeg. Ardaloedd gwledig ydi'r rhai lle cafwyd y lleihad mwyaf o ran canrannau a niferoedd.

'Dydi hi ddim yn bosibl edrych ar Gymru a'r Gymraeg yn yr un ffordd yn 2009 nag oedd hi yn 1979 - mae digwyddiadau, neu yn hytrach brosesau cymdeithasegol wedi trawsnewid pethau. 'Does yna ddim ffordd sicrach o niweidio'r Gymraeg na chymryd arnom ein bod yn byw mewn gwlad sydd wedi diflannu ers degawdau.

Yn drydydd dydi hi ddim yn bosibl trin un agwedd ar fywyd cenedlaethol a gwleidyddiaeth - un pwysig iawn, ond un cyfyng fel yr unig reswm tros wleidydda yn etholiadol. Nid felly mae gwleidyddiaeth etholiadol yn gweithio.

Thursday, August 27, 2009

Guto, David ac Oscar

'Dwi'n rhyw ddeall o flog Ceidwadwyr Aberconwy nad yw pawb o griw'r cwch Geidwadol yn rhwyfo i'r un cyfeiriad yn yr etholaeth.

Waeth i mi heb a honni fy mod yn arbenigwr ar yr etholaeth arbennig yma. Er ei bod drws nesaf i'r un 'dwi'n byw ynddi mae yna nifer o etholaethau eraill 'dwi'n eu hadnabod yn well o lawer. Serch hynny hoffwn wneud sylw neu ddau ar y ddadl rhwng Oscar - Ceidwadwr ac awdur un o flogiau mwyaf diflas a phlwyfol Cymru a Guto Bebb - ymgeisydd y Toriaid yn yr etholaeth.

I ddechrau mae Oscar yn cwyno bod ei sylwadau ar flog Ceidwadwyr Aberconwy yn cael eu cymedroli - hynny yw nad ydynt yn cael eu cyhoeddi. 'Dwi wedi cael yr un broblem pan 'dwi wedi ceisio gwneud sylwadau (digon ffeind a chymharol anwleidyddol). 'Dwi ddim yn meddwl bod fy sylwadau fi wedi cael eu cymedroli - 'dwi'n weddol siwr bod nam technegol ar y blog ac nad yw'n bosibl gadael sylwadau o bob peiriant yno. Mae'r diffyg sylwadau cefnogol neu feirniadol, yn awgrymu fy mod yn gywir.





Mae Oscar yn cymharu Guto'n anffarfiol efo David Jones, aelod seneddol etholaeth gyfagos Gorllewin Clwyd ac awdur blog sydd bron mor ddiflas (ond ddim mor blwyfol) ag un Oscar ei hun. Mae'n ymddangos bod y naill yn ganolbwynt gweithgaredd brwdfrydig a hynod effeithiol tra bod y llall yn treulio'i oriau'n hamddena mewn hammock yng ngardd gefn ei annedd sylweddol sydd wedi ei leoli yn rhywle anymunol, gorllewinol a Chymreig ynghanol y defaid, y derwyddon, y niwl, y gwynt a'r eithafwyr.

'Rwan, dydw i'n amlwg ddim yn un o gefnogwyr mawr Guto - ond efallai y dyliwn dynnu sylw at ganlyniadau'r etholiadau cyffredinol diwethaf. Roedd Guto'n sefyll yn hen sedd Conwy tra bod David erbyn hynny wedi dianc o'r fan honno i sedd mwy Ceidwadol Gorllewin Clwyd. Bu bron iddo a chyflawni'r wyrth o fethu a churo Gareth Thomas. Roedd yna ogwydd o fwy na 4% tuag at Guto tra bod y gogwydd tuag at David yn llai na hanner hynny. Yn wir perfformiad Guto oedd yr un gorau i'r Ceidwadwyr yng Ngogledd Cymru, ac un o'r rhai gorau yng Nghymru gyfan ar ddiwrnod digon symol i'r Toriaid.



Cwyn fawr arall Oscar ydi bod Guto'n ymddiddori gormod mewn materion sy'n ymwneud a'r Cynulliad ac mewn etholaethau cyfagos (hy rhai gorllewinol llawn defaid, derwyddon, niwl, nashis ac ati). 'Rwan mae'r gwyn gyntaf yn wirioneddol idiotaidd gan y byddai osgoi trafod materion sy'n ymwneud a'r Cynulliad yn golygu osgoi trafod tua 80% o'r hyn sy'n effeithio'n uniongyrchol ar etholwyr Aberconwy. Mae'n rhaid cyfaddef bod diddordeb mawr Guto yn Arfon ychydig yn od ar un olwg, ond rhesymau - ahem - hanesyddol sydd wrth gefn hynny. Mae hefyd yn digwydd byw yn yr etholaeth honno.

Felly beth yn union ydi problem Oscar? Gellir cael goleuni ynglyn a hyn (os fawr ddim arall) ym mlog David Jones - blog mae Oscar yn meddwl y Byd ohono. 'Dwi'n rhestru teitlau diweddar blogiadau David:

Prescott Clears It Up.
Dump Russell Brand & Save £1,000,000.
Healthandsafety Corner - rhywbeth am flodau yn Llundain.
Time to reassess CCTV - rhywbeth am gamerau yn Llundain.
PMS Headache - rhy ddiflas i mi ddarllen y peth i gyd ond rhywbeth i'w wneud efo llefarydd Brown ar rhywbeth neu'i gilydd.
Redwood is Right; Recall Parliament.
More Power for Councils.
Lewis Letter Doesn't Stack Up - roeddwn yn meddwl am eiliad mai cyfeirio at lythyrwr mwyaf toreithiog Cymru (ac efallai'r Byd), Robin Lewis oedd David yma, ond rhywun o'r enw Ivan Lewis sy'n rhywbeth neu'i gilydd yn y Swyddfa Dramor sydd ganddo mewn golwg.
Quintissentially Mandelson.
Shame is Too Much To Expect From Mr MacAskill.
Miliband and Gadaffi Can't Both Be Telling The Truth.
Miliband's Silence Dishonours Britain.

Mae hanner y lincs sydd ym mlog David yn cyfeirio rhywun at ddeunydd darllen dyddiol y dyn - y Telegraph, neu'r Sunday Times.

'Rwan mi wnes i awgrymu ar gychwyn y darn yma mai blog Oscar ydi'r mwyaf cachlyd yng Nghymru - ond o nofio trwy'r llyn o ddiflasdod yma, 'dwi wedi newid fy meddwl. Yr unig flog gwaeth nag un Oscar ydi blog ei arwr. 'Does yna ddim byd diddorol, dim byd lleol, dim byd gwreiddiol, dim byd treiddgar, dim mymryn o wybodaeth na ellid ei gael yn rhywle arall ar gyfyl y domen dail yma o flog. Y cwbl sy'n cael ei gyflwyno ger ein bron ydi ailadroddiad o ddehongliad Adain Dde bland a chwbl ragweladwy'r papurau mae rhyw greadur druan yn gorfod eu stwffio trwy dwll llythyrau David pob bore. Mae cadw'r blog yn wastraff amser llwyr.

Pam bod Oscar wedi dotio cymaint ar flog David felly - onid yw'n gallu fforddio i brynu'r Telegraph a'r Sunday Times trosto'i hun?

Efallai, ond mae'n debyg gen i mai Seisnigrwydd world view y blog sy'n apelio at Oscar druan. Mae ei flog o ei hun yn Seisnig ond yn lleol o ran ei ddiddordebau, tra bod un David yn Seisnig ond yn 'genedlaethol' o ran ei ddiddordebau yntau. Mae'r ddau yn mynd efo'u gilydd fel hufen a jam. Mae blog Aberconwy yn cynnwys elfennau lleol a 'chenedlaethol'. Mae rhywfaint o'r 'lleol' yn ymwneud ag ardal ehangach na gogledd etholaeth Aberconwy, ac mae'r elfennau 'cenedlaethol' yn genedlaethol yn ystyr Cymreig yn hytrach na Phrydeinig y gair hwnnw.

Problem Guto ydi ei fod yn rhy Gymreig (ac efallai'n rhy wrthnysig Gymreig) i gydadran sylweddol o aelodau a chefnogwyr plaid sydd yn ei hanfod yn Brydeinllyd o ran gwleidyddiaeth ac yn Seisnig o ran diwylliant. Mi fyddai un neu ddau yn dweud bod hon yn groes mae wedi ei chreu iddo'i hun - ond mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod yn rhyw gydymdeimlo efo fo am unwaith.

Wednesday, August 26, 2009

Mr el-Megrahi a Lt William Calley (neu fideos gwleidyddol 4)


Fel y gwyddoch 'dwi wedi bod i ffwrdd am gyfnod - ond roedd stori rhyddhau
Abdelbaset Ali al-Megrahi a'r ymateb hysteraidd a'r sgorio pwyntiau gwleidyddol idiotaidd gan y pleidiau unoliaethol a'u cefnogwyr a gododd yn sgil hynny yn stori hyd yn oed yn Bosnia.

'Rwan dydi rhyddhau carcharorion sydd wedi cyflawni gweithredoedd erchyll gan wleidyddion ddim yn arbennig o anarferol - yn wir 'dydi o ddim yn anarferol o gwbl.

'Dwi'n siwr bod darllenwyr blogmenai yn cofio Jack Straw (a'r llysoedd) yn rhyddhau dyn oedd wedi lladd llawer mwy o bobl na phawb arall yr ydym yn son amdanynt yn y blog hwn efo'i gilydd. Llun o'r cyfaill hwnnw, ei wraig ac aelod o blaid Mrs Annabelle Goldie a aeth ati i ymgyrchu gydag arddeliad a brwdfrydedd o blaid ei ryddhau a geir isod.



Enghraifft arall oedd rhyddhau 428 o garcharorion yng Ngogledd Iwerddon (gan gynnwys 143 oedd wedi eu carcharu am oes) ar ddiwedd y ddegawd diwethaf fel rhan o Gytundeb Dydd Gwener y Groglith. Roedd y rhain yn cynnwys dynion megis
Bik McFarlane oedd yn gyfrifol am lofruddio 5 o bobl yn Bayardo Bar ar y Shankill - gan gynnwys tair dynes oedd yn cerdded heibio'r bar - mae'n debyg i Mr McFarlane eu saethu'n stribedi efo machinegun, neu Johnny Adair, gwr bonheddig a oedd yn gyfrifol am gyfarwyddo'r UFF yng Ngogledd Belfast yn ystod cyfnod pan drochwyd strydoedd cul yr Ardoyne gyda gwaed Pabyddion.

Mae yna ddwsinau o achosion anwleidyddol - er enghraifft rhyddhau Anthony Jeffs oedd wedi lladd heddwas yn ol yn y nawdegau cynnar gan lywodraeth geidwadol.

Mae llawer o'r sterics ynglyn a'r achos yma yn deillio o'r ffaith bod dimensiwn Eingl Americanaidd i'r stori - mae America yn flin iawn am y sefyllfa. Mae gan America hanes hir o ryddhau carcharorion sydd wedi llofruddio wrth gwrs - ond mae'n help mawr os ydi'r carcharor wedi bod yn ddigon gofalus i lofruddio pobl nad ydynt yn Americanwyr. Roedd llywodraeth America yn gefnogol iawn i ryddhau carcharorion Gogledd Iwerddon er enghraifft.

Esiampl (ymysg llawer) o oddefgarwch America tuag at rhai carcharorion ydi achos milwr o'r enw William Calley. Calley oedd arweinydd ymysodiad gan fyddin America ar bentref My Lai yn Fiet Nam ar Fawrth 16, 1968, pan laddwyd rhwng 347 i 504 o drigolion y pentref ('does yna neb yn hollol siwr). Roedd llawer o'r meirwon wedi eu arteithio, eu treisio, wedi eu cam drin yn rhywiol neu wedi cael rhannau o'u cyrff wedi eu torri i ffwrdd cyn eu lladd. Gwrthododd tri o'r milwyr Americanaidd gymryd rhan yn y gyflafan a gwnaethant eu gorau i atal y drychineb. Am eu dewrder cawsant eu condemni yn senedd America, cawsant eu boddi mewn llythyrau bygythiol gwenwynig a gadawyd darnau o anifeiliaid wrth eu drysau.



Cyhuddwyd 26 o swyddogion byddin yr UDA mewn cysylltiad a'r digwyddiad yn 1971. Un yn unig a gafwyd yn euog - William Calley prif swyddog yr uned oedd yn gyfrifol am y gyflafan - cafodd ei ddedfrydu i fywyd o lafur caled yn y carchar. Esgorodd hyn ar gyfnod o hysteria cenedlaethol - nid anhebyg i'r hyn a ddigwyddodd pan ryddhawyd el Megrahi yn America - ond hysteria yn erbyn carcharu, nid hysteria yn erbyn rhyddhau a gafwyd ar yr achlysur hwnnw wrth gwrs.



Gofynodd Jimmy Carter (oedd i ddod yn arlywydd yn ddiweddarach) i bawb ddreifio gyda'u goleuadau ymlaen fel protest. Roedd y baneri yn chwifio ar hanner mast yn Indiana. Aeth George Wallace i weld Calley yn y carchar. Yn ol polau piniwn, roedd 79% o Americanwyr yn erbyn y ddedfryd. Gofynodd nifer o senedd dai taleithiol yr UDA i'r llys fod yn drugarog - er nad oedd gweithrediad cyfraith milwrol yn ddim oll o'u busnes.

Ddiwrnod wedi'r ddedfryd gorchmynodd yr arlywydd (Nixon) y dylai Calley gael ei garcharu o dan amodau House Arrest yn Fort Beling. Yn y diwedd tair blynedd a hanner o ddedfryd a gafodd Calley - y cwbl ohono ag eithrio diwrnod wedi eu dreulio yn ei gartref yn Fort Beling. Daeth y gan bach isod - The Ballad of Lt Calley - yn boblogaidd am gyfnod.

Mwynhewch.



Mae enghreifftiau eraill o ryddhau cynnar yn America- rhai yn ddiweddar iawn. 521 diwrnod o ddedfryd o 4-6 blynedd a dreuliodd Lynndie England - un o arteithwyr Abu Grahib. Dim ond dau aelod arall o'r sawl a arteithiodd (ac oedd hefyd yn gyfrifol am dreisio a llofruddio) carcharorion a gafodd garchar o ganlyniad i'r digwyddiadau hynny - un am fis neu ddau yn unig.

Mae'n un o ffeithiau bywyd bod mewn llywodraeth bod problemau fel yr un oedd yn wynebu llywodraeth yr Alban yn codi o bryd i'w gilydd - cafodd Jack Staw ei hun mewn sefyllfa digon tebyg fel y gwelsom yn gynharach. Mae dadleuon cryf o'r ddwy ochr yn achos Al Megrahi - ond yn ymarferol cyfyng iawn oedd dewis llywodraeth yr Alban - fel mae
blog Saesneg Alwyn yn nodi.

Gall rhywun ddeall ymateb perthnasau'r sawl a laddwyd (er nad ydi'r rheiny yn unfrydol wrth gwrs) ond mae'r ymateb hysteraidd i benderfyniad llywodraeth yr Alban gan wleidyddon unoliaethol yn sinicaidd ar y gorau.

Mae'r safonau dwbl yn America, lle ceir diwylliant o wrthwynebiad i garcharu Americanwyr am ladd neu gam drin tramorwyr, tra'n daer o blaid lluchio'r goriad pan mae tramorwyr yn lladd neu'n cam drin Americanwyr yn waeth na hynny. Duw yn unig a wyr pam bod rhai pobl yr ochr yma i For yr Iwerydd yn is ymwybodol yn rhannu'r gred bod bywydau Americanaidd yn fwy gwerthfawr na bywydau pobl eraill.

Sunday, August 23, 2009

60 blog uchaf Cymru

Mae`n gryn syndod i mi ddeall o flog HRF bod y blog hwn wedi dod yn drydydd. Mae`r ddau sydd o fy mlaenyn flogiau arbennig o dda ac mae nifer dda o`r rhai sy`n is na fi yn fwy haeddianol o lawer na fi hefyd. Beth bynnag diolch i bawb a fotiodd.

`Dwi`n deall o flog Paul Flynn bod cynllwyn gan flogwyr Plaid Cymru i gefnogi ei gilydd.

Mae`n gryn siom i mi na adawodd neb i mi wybod am y cynllwyn hwnnw.

Llythyr o Sarajevo!

Dwi’n ‘sgwennu’r ychydig frawddegau hyn o Sarajevo (mae’n debyg gen i mai dyma’r blogiad Cymraeg cyntaf i ddechrau efo’r frawddeg arbennig yna).

Mae’r drafodaeth (ddiddorol iawn) sydd wedi codi yn sgil fy mlogiad diwethaf ynglyn a’r tyndra a geir rhwng gwleidyddiaeth rhanbarthol a chenedlaetholdeb yn peri cryn syndod i mi – er fy mod yn hapus i fod wedi ysgogi trafodaeth mor ddiddorol. Byddaf yn ymateb i ddau flogiad HRF yn ogystal ag i ddau flogiad Hogyn o Rachub a Dyfrig wedi i mi ddod adref – a chael mynediad fforddiadwy i’r We.

Dwi’n ymwybodol bod ‘sgwennu am wyliau ar flog mentro efelychu’r person boring hwnnw sy’n mynnu dod draw ar ol mynd ar ei wyliau i ddangos ei luniau. Fy mwriad wrth gyflwyno’r sylwadu isod ydi ceisio canolbwyntio ar yr hyn sy’n berthnasol i’r blog gwleidyddol hwn. Os oes yna rhywun ddigon trist i fod eisiau darllen am wyliau rhywun arall, mae gen i flog (‘dwi’n ei gadw ar fy nghyfer i fy hun) ar yr union bwnc yma.

Beth bynnag, yn ol at Bosnia Herzegovina. Efallai bod prif ddinas y wlad yma yn lle addas iawn i drafod y ddeuoliaeth ryfedd sydd rhwng brogarwch a chenedlaetholdeb. Rhag bod neb yn camddeall, ‘dwi ddim yn gwneud cymhariaeth uniongyrchol gyda Chymru yma – mae’r hyn sy’n gwahanu’r Bosniaid yn llawer mwy sylfaenol na’r hyn sy’n ein gwahanu ni, ac mae gwreiddiau`r gwahaniaethau hynny wedi ei blanu’n dwfn yn y pridd lle mae’r hyn sydd wedi hollti Ewrop am ganrifoedd lawer. Mae’r hyn sy’n ein gwahanu ni’n haws mynd i’r afael a fo, diolch byth. Cyffredinol iawn ydi unrhyw gymhariaeth y gellir ei gwneud yma.

Prif enwogrwydd Sarajevo mae’n debyg ydi i’r weithred a gychwynodd y Rhyfel Byd Cyntaf ddigwydd yma, sef llofruddiaeth yr Arch Ddug Franz Ferdinand ym 1914. Ail ymddangosodd y ddinas yn y newyddion rhyngwladol ym 1992 pan oedd yr hen wladwriaeth Iwgoslafaidd yn datgymalu, gydag un gwladwriaeth Iwgoslafia yn troi’n nifer – Serbia, Croatia a Bosnia Herzegovina a effeithwyd yn bennaf gan y rhyfel. Roedd yr effaith ar Bosnia Herzegovina yn bell gyrhaeddol ac yn ddirdynnol – lladdwyd tua 100,000 o boblogaeth o tua 4,000,000, a chafwyd symudiadau poblogaeth anferth. Term a fathwyd yn ystod y cyfnod yma yn Bosnia Herzegovina ydi ‘puro ethnig’.

Ymysodwyd ar Sarajevo gan fyddin Bosniaid Serbia a byddin Iwgoslafia ym 1992. Gwarchau’r ddinas – pan gafodd ei hamgylchynu a’i bomio am 1,400 diwrnod oedd yr hiraf yn hanes modern Ewrop. ‘Dwi’n eistedd wrth deipio hyn ar fryn tua 1km o ganol yr hen dref.


Mae tua hanner y llwybr i lawr i’r dref wedi ei amgylchu gan fynwent sy’n cynnwys cannoedd ar gannoedd o feddi gwyn – pob un ohonynt ar gyfer pobl a laddwyd rhwng 1992 a 1995, pob un ohonynt o ganlyniad i warchau’r Serbiaid. Ceir adeiladau wedi eu difa gan fomio a hoel bwleti ar waliau adeiladau hyd heddiw, er bod y lle wedi ei drwsio yn llawer gwell nag ail ddinas y Weriniaeth – Mostar er enghraifft -

Mae hefyd yn gyffredin i weld rhestr o’r sawl a laddwyd yn y cyffuniau ar adeiladau.


Canlyniad y rhyfel yma ydi Bosnia Herzegovina fel ag y mae heddiw – gwlad sydd efallai’n fwy rhanedig a dysfunctional nag unrhyw wlad arall yn y Byd. Ceir tri grwp ethnig yn y wlad, Bosniaks sy’n Fwslemiaid, Croatiaid sy’n Babyddion, a Serbiaid sy’n dilyn yr Eglwys Uniongred. Mae’r tri grwp yn honni eu bod yn siarad ieithoedd gwahanol – er bod y bobl sy’n deall y pethau yma yn dadlau eu bod oll yn siarad Serbo Croat gydag acenion gwahanol.

Mae enw’r wlad yn gyfuniad o ddau ranbarth daearyddol - Bosnia a Herzegovina.

Mae’r wlad yn cynnwys dwy wladwriaeth – Republika Srpska ar gyfer y Serbiaid a Ffederasiwn y Mwslemiaid a’r Croatiaid. Rhennir y Ffederasiwn i ddeg canton – pob un ohonynt gyda llawer iawn mwy o rym na’n Cynulliad ni. Nid oes rhaid nodi am wn i bod y wlad wedi ei ‘bendithio’ efo digon o bleidiau gwleidyddol – rhai ethnig, rhai cenedlaethol a rhai lleol. Mae ganddynt fwy na 50 ohonynt. Un o’r amryw o broblemau pan ffurfwyd y wlad oedd dod o hyd i faner. Gan nad oedd trigolion Bosnia Herzegovina yn gallu cytuno ar faner, roedd rhaid i’r Undeb Ewropiaidd lunio un ar eu rhan. Baner Croatia sydd i’w gweld yng ngorllewin y wlad, mor gwario’r kuna Croatiaidd neu’r Ewro na’r mark Bosniaidd yn rhai o’r lleoedd hyn. Yn amlwg baner a phres Serbia sydd i’w gweld yn Republika Srpska.

Rwan mae’n amlwg bod y wlad yma’n llanast llwyr fel gwladwriaeth, (er ei bod yn goblyn o le da a rhad i ddod ar wyliau) ar lefel gwleidyddol – y cwestiwn diddorol ydi pam?

Mae’n debyg mai gwraidd y broblem ydi nad oes yna fawr o gytundeb ynglyn a hunaniaeth cenedlaethol – nag yn wir ynglyn a’r cwestiwn os oes yna angen am wladwriaeth o gwbl. Fel Cymru ‘does gan Bosnia Herzegovina ddim llawer o hanes diweddar o fod yn wlad annibynnol – er ei bod wedi bod yn wlad felly am ganrifoedd yn y Canol Oesoedd – ond roedd pawb yn dilyn yr un crefydd bryd hynny – Eglwys Annibynnol Bosnia. Ers hynny bu’r wlad o dan fawd gwahanol ymerodraethau mawr – sefyllfa a roddodd hunaniaeth sylfaenol wahanol i gydrannau gwahanol o’r boblogaeth. – hunaniaethau oedd yn croesi hen fault lines gwleidyddol Ewropiaidd.

Mae’r gwledydd cyfagos yn symlach yn gymdeithasegol o lawer – Croatiaid ydi mwyafrif llethol trigolion Croatia a Serbiaid ydi mwyafrif llethol trigolion Serbia. Mae’r ddwy wlad yn ffyrnig genedlaetholgar – ac mae llawer o drigolion Bosnia Herzegovina yn uniaethu mwy efo’r cymdogion hyn nag ydynt efo’u gwlad eu hunain. Ar y llaw arall crefydd sy’n cadw’r Bosaks at ei gilydd – ac fel cymdeithas dydyn nhw ddim yn cymryd Mwslemiaeth cymaint o ddifri a’r rhan fwyaf o gymdeithasau Mwslemaidd (er mae’n drawiadol mai’r ifanc ac nid y canol oed a’r hen sy’n tueddu i wisgo’n draddodiadol Fwslemaidd yn y dinasoedd o leiaf – ond rhywbeth ar gyfer blogiad arall ydi hynny).

Felly ‘dydi Bosnia Herzegovina ddim yn gweithio fel gwladwriaeth oherwydd diffyg ffocws cenedlaethol, diffyg consensws ynglyn a’r angen am wladwriaeth a gwahaniaethau sylfaenol rhwng cydrannau’r gymdeithas. Mae hyn yn ein hatgoffa o Gymru i raddau – mae ein cymdeithas ni wedi ei rannu – gweler y model tri Chymru er enghraifft ac mae’r ffaith bod y pleidiau unoliaethol yn tra arglwyddiaethu yng Nghymru yn brawf nad oes unrhyw beth yn ymylu at gonsensws am yr angen am wladwriaeth. Ond dyna lle mae’r tebygrwydd yn gorffen – ‘dydi’r gwahaniaethau rhyngom ni ddim yn arbennig o dwfn.

Yr unig wers sydd gennym fel mudiad cenedlaethol i’w ddysgu o brofiad Bosnia ydi y dylid gwleidydda trwy ganolbwyntio ar yr hyn sy’n gyffredin rhyngom yn hytrach na’r hyn sy’n ein gwahanu. Mae Bosnia Herzegovina wedi methu hyd yn hyn fel gwlad oherwydd bod ei gwleidyddion a’i phobl wedi ffocysu yn llwyr ar yr hyn sy’n eu gwahanu. Y ffordd ymlaen i ni fel gwlad ydi gwneud y gwrthwyneb - gwneud y mwyaf o`r pethau hynny sy`n ein uno.

Monday, August 10, 2009

Pam bod cefnogi pleidiau rhanbarthol yn ei hanfod yn weithred wrth genedlaetholgar

'Dydi Hen Rech Flin a finnau ddim yn cytuno'n rhy fynych, ond mi fyddaf yn mwynhau ei flog - ac yn bwysicach mae'r blog yn aml yn gwneud i mi feddwl.

Mae ei flogiad diweddaraf yn esiampl o hyn - lle mae'n dadlau y dylai pleidiau rhanbarthol fel Llais y Bobl sy'n weithredol yng nghymoedd y De Ddwyrain a Llais Gwynedd sy'n mynd trwy'i pethau yn y Gogledd Orllewin - ddod at ei gilydd i geisio ennill seddau rhestr yn etholiadau'r Cynulliad..

'Rwan, 'dwi'n weddol siwr na fyddai syniad o'r fath yn gweithio - wedi'r cwbl mae LlG yn weithredol mewn dau ranbarth gwahanol, tra bod LlB mewn un arall eto.

Yn bwysicach mae'n debyg 'dydi hi ddim yn bosibl i grwpiau rhanbarthol mewn rhannau mor wahanol o'r wlad i gydweithredu oherwydd eu bod nhw i bob pwrpas yn cystadlu yn erbyn ei gilydd am adnoddau. Mae'n anodd gweld unrhyw gyfundrefn cyllido fyddai'n gwobreuo Bro Dysynni a Glyn Ebwy ar yr un pryd ar drael pob man arall (a cheisio elwa ar drael lleoedd eraill ydi pwrpas pleidiau rhanbarthol mewn gwirionedd).

Cyn mynd ymlaen hoffwn ddweud pwt bach am bedwar o bobl a bleidleisiodd 'Na' refferendwm 97 ('dwi'n gwybod nad ydi'r cysylltiad yn amlwg eto - mi fydd o erbyn y diwedd).

Cwpl mewn oed oedd y cyntaf - mae'r ddau wedi gadael yr erwau hyn bellach - heddwch i'w llwch. 'Roeddynt yn pleidleisio i Blaid Cymru yn ddi eithriad, ac roeddynt wedi gwneud hynny ers y pumdegau. Roeddynt hefyd wedi pleidleisio 'Ie' yn ol yn 79. 'Doedden nhw ddim yn erbyn datganoli fel y cyfryw y tro hwn chwaith - ond roeddynt wedi clywed fod posibilrwydd y byddai cyn gymydog iddynt nad oeddynt yn or hoff ohono yn cael ei ddewis i sefyll tros Lafur mewn etholaeth gyfagos. Felly dyma nhw'n pleidleisio 'Na' rhag iddo gael ei ethol. 'Doedd o ddim yn aelod o'r Blaid Lafur, ac nid oedd unrhyw bosibilrwydd y cai ei ethol.

Cymydog i fodryb y Mrs sy'n byw mewn rhan reit grand o Ogledd Caerdydd oedd yr ail. Wedi hir bendroni penderfynodd y fodryb bleidleisio 'Ia'. Gwelodd ei chymydog ar y ffordd i'r orsaf bleidleisio, a dyma hwnnw'n gofyn iddi sut oedd am bleidleisio. I'm voting 'Yes' meddai hithau. God I didn't know you speak Welsh oedd yr ateb ('does ganddi hi ddim gair o Gymraeg).

Athrawes mewn ysgol uwchradd fawr iawn (a llwyddiannus iawn) wrth y ffin efo Cheshire oedd yr olaf. Flynyddoedd yn ol mi'r oeddwn yn gwneud ychydig o waith i'r Cynulliad yn asesu ansawdd hyfforddiant technoleg gwybodaeth yr oeddynt yn ei ddarparu. Golygai hyn fy mod yn treulio ychydig wythnosau pob blwyddyn yn crwydro Cymru yn holi athrawon a llyfrgellwyr am eu hargraffiadau o'r hyfforddiant yr oeddynt wedi ei dderbyn.

Beth bynnag aeth y ddynes trwy'r cyfweliad yn gwrtais, proffesiynol ac effeithiol - ac yn gyflym - yn hynod o gyflym. Yn anffodus i mi roedd hyn yn golygu bod gennyf hanner awr o'i chwmni ar ddiwedd y cyfweliad. Ni fyddai dweud ei bod yn casau'r Cynulliad gyda'i holl galon, a'i holl enaid a'i holl gorff yn dod yn agos at wneud cyfiawnder a dwyster ei theimladau am y sefydliad.

Cyn belled ag yr oedd hi yn y cwestiwn roeddwn i yn ymgorfforiad anymunol o'r Cynulliad yn ei holl ddrygioni maleisus. Roedd ganddi amrediad mor rhyfeddol o eang o ddadleuon yn erbyn y sefydliad nes bod fy mhen yn troi erbyn y diwedd - ond roedd y rhai oedd yn ei ypsetio fwyaf yn rhai rhanbarthol - pob dim yn mynd i Gaerdydd, ei phlant hi i gyd yn byw yng Nghaer, y Rhondda bron wedi ethol Comiwnydd yn un naw rhywbeth neu'i gilydd, thygs glofaol yn bwlio pobl oedd eisiau gweithio, pawb ar y dol neu'n smalio bod yn sal, Deleilah'n gan sexist, Bonnie Tyler, wedi dwyn cariad cyntaf cyfneither ei gwr, Pontypridd wedi twyllo yn erbyn Sale yn un naw wyth rhywbeth ac ati ac ati. 'Dydw i erioed wedi bod mor falch o ysgwyd llwch unrhyw le oddi ar fy nhraed.

Yr hyn sy'n ddiddorol ydi bod yr achosion uchod oll yn esiamplau o bobl sy'n ystyried yr achos cenedlaethol Cymreig yn achos israddol - i fan gasineb personol yn yr achos cyntaf, i ddehongliad o lwytholdeb sydd wedi ei seilio ar iaith yn yr ail achos, ac ar ystyriaethau rhanbarthol (eithafol) yn y trydydd.

A dyna yn anffodus prif broblem Cymru - 'dydi'r ymdeimlad cenedlaethol (er ei fod yn bodoli) ddim yn gryfach nag ystyriaethau eraill. Dyna pam bod ymgyrchoedd 'Na' 79 a 97 wedi llwyddo i'r fath raddau - aethant ar ol pob hollt ym mywyd Cymru gan berswadio pobl i bleidleisio yn unol a'u buddiannau bach plwyfol nhw eu hunain yn hytrach nag i'r genedl yn ei chyfanrwydd - gwahanu'r De a'r Gogledd, y Gorllewin a'r Dwyrain, y Cymru Cymraeg a'r un ddi Gymraeg, y dosbarth gweithiol a'r dosbarth canol, y Gymru wledig a'r Gymru drefol, y dinasoedd a'r cymoedd, Caerdydd ac Abertawe, y bobl sy'n byw ar gwahanol ochrau'r Afon Llychwr, ac ati, ac ati hyd at syrffed.

Mae'n debyg gen i fy mod yn cymharu Cymru ag Iwerddon yn rhy aml - ond mae cymhariaeth addas i'w gwneud yma. Mae'r ymdeimlad rhanbarthol yn gryf iawn yn yr Iwerddon, yn llawer cryfach nag yw yng Nghymru. Os nad ydych yn fy nghredu gyrrwch yn y car trwy sir Wyddelig yn ystod misoedd yr haf pan mae'r sir honno wedi mynd ymhell yng ngemau'r GAA. Fedrwch chi ddim gyrru canllath heb weld lliwiau'r sir honno mewn ffenest cartref neu siop, ar bolion telegraff, yng ngerddi pobl, ar ben adeiladau cyhoeddus, mewn tafarnau. Mae yna bobl sy'n peintio eu ceir yn lliwiau eu sir.

Ond - ac mae'n ond mawr - mae'r ymdeimlad cenedlaethol yn gryfach na'r un rhanbarthol yn yr Iwerddon. Pan mae'r angen yn codi mae ystyriaethau cenedlaethol yn bwysicach na rhai lleol. 'Dydi hyn ddim yn wir yng Nghymru - 'dydi'r cysyniad o Gymru fel endid ddim yn arbennig o gryf i gydadran sylweddol o'r bologaeth - mae yna ystyriaethau pwysicach - gan gynnwys rhai rhanbarthol.

Mae pleidiau fel Llais y Bobl a Llais Gwynedd yn ymgorfforiad gwleidyddol o rhai o'r prif bethau sy'n ein rhannu, yn ein gwahanu ac yn ein gwneud yn rhywbeth llai na gwlad. Maent yn ymgyrfforiad pleidiol o rai o'n gwendidau mwyaf sylfaenol fel cenedl, yn ymarferiad sinicaidd mewn gwneud defnydd gwleidyddol o'r grymoedd hynny oedd yn sail i ymgyrchoedd 'Na' 79 a 97.

Ag aralleirio dyfyniad enwog Kennedy, ymgais dorfol i ddarganfod beth y gall ein gwlad ei wneud i ni, yn hytrach nag i geisio canfod beth allwn ni ei wneud i'n gwlad ydi'r wleidyddiaeth yma.

Dyna pam na ddylai unrhyw un sy'n ystyried ei hun yn genedlatholwr hyd yn oed ystyried cefnogi Llais y Bobl na Llais Gwynedd.

Friday, August 07, 2009

Llwyddiant yr Eisteddfod


'Dwi wedi clywed llawer tros y blynyddoedd yn rhyfeddu at lwyddiant tymor hir yr Eisteddfod Genedlaethol - ac erbyn meddwl mae'n beth rhyfeddol i gymuned gymharol fechan (hy y Gymru Gymraeg) lwyddo i gynnal gwyl fawr iawn yn llwyddiannus flwyddyn ar ol blwyddyn - ac yn llwyddo i ddenu canran mor uchel o'i haelodau ei hun.

'Dydw i fawr o 'Steddfodwr mae gen i ofn - ond mi fyddaf yn gwneud pwynt o fynd am ddiwrnod o leiaf pob blwyddyn. 'Dwi byth bron yn mynd i mewn i'r Pafiliwn - oni bai bod y ferch yn dawnsio yno - mae'n hoffi dawnsio disgo. Mi fyddaf yn rhoi fy mhen yn y stondinau, ond fawr mwy - anaml y byddaf yn prynu llawer.

Yr unig reswm 'dwi'n mynd ydi oherwydd ei fod yn gyfle i gyfarfod a phobl 'dwi wedi hen golli cysylltiad a nhw, ond oedd yn rhan o fy mywyd mewn rhyw ffordd neu'i gilydd ar rhyw amser neu'i gilydd yn y gorffennol. 'Dwi'n rhyw feddwl bod llawer o bobl eraill yn mynd am yr un rheswm.

Petai'r gymuned sy'n siarad Cymraeg yn llawer mwy - yn bum miliwn efallai, yn hytrach nag yn hanner miliwn, mae'n debyg na fyddai rhywun yn gweld ei gydnabod yn aml ar y maes - mi fyddai'r 'pwll' o bobl yn rhy fawr. Petai'n llai o lawer - yn hanner can mil efallai, ni fyddai angen digwyddiad blynyddol i gadw pobl at ei gilydd - byddai gennym lai o lawer o bobl yr ydym yn eu hadnabod sy'n siarad yr iaith.

'Dwi'n siwr bod sawl rheswm am lwyddiant y brifwyl - traddodiad, trefniadaeth ac ati - ond tybed os mai un o'r rhesymau hynny ydi bod y Gymry Gymraeg yn ddigon mawr - ond heb fod yn rhy fawr - i roi'r cymhelliad pwerus i bobl fynd - sef eu bod yn debygol o weld llawer o bobl na fyddant byth yn eu gweld onibai am y 'Steddfod.

Tuesday, August 04, 2009

Datganiad i'r Wasg Llais Gwynedd

Newydd weld y datganiad hwn i'r wasg ar flog Gwilym Euros Roberts.

I roi mymryn o gefndir cyn cychwyn. Yn sgil cwymp disymwth cynllun ail strwythuro ysgolion diwethaf Cyngor Gwynedd, aethwyd ati i edrych ar bethau o'r newydd, ond mewn ffordd ychydig yn wahanol.

Yn gyntaf penderfynwyd peidio a rhoi cynllun strategol sir gyfan yn ei le, ond edrych ar pob dalgylch yn unigol ac yn ei dro.



Yn ail ceiswyd adeiladu cymaint o gonsensws a phosibl trwy ymgynghori yn ehangach, a thrwy drosglwyddo llawer o'r cyfrifoldeb am y broses i weithgor traws bleidiol.

Cafwyd cefnogaeth unfrydol i'r cynllun, a sefydlwyd panel aml bleidiol i ymgymryd a'r broses. Y Cynghorydd Seimon Glyn oedd cynrychiolydd Llais Gwynedd ar y gweithgor hwnnw.

Bellach - wedi ystyried un dalgylch yn unig - Bro Dysynni yn Ne Meirion, mae Llais Gwynedd wedi dod a'u cefnogaeth i'r broses i ben, a bydd Seimon Glyn yn ildio ei le ar y gweithgor. 'Dydi hyn ddim yn syndod enfawr i neb - roedd ymdeimlad ers tro bod Llais Gwynedd yn amheus iawn o'r broses, tra'n dal yn ffurfiol yn ei chefnogi. Mae'n debyg bod sefyllfa o'r fath yn anghynaladwy. Mae'n anffodus bod Seimon yn gorfod gadael y gweithgor - bu'n gyfaill cyson a chydwybodol i ysgolion bach ers talwm - ymhell, bell cyn bod neb wedi ystyried bod cymryd cwrs felly yn ffordd o adeiladu gyrfa wleidyddol - ond dyna fo - mae'n debyg bod y llwybr yma'n anhepgor.

Cyn mynd ymlaen, mae un peth ynglyn a'r datganiad yn fy mhoeni - ceir honiad i swyddogion ddatgan yn ystod yr ymgynghoriad yn Nysynni bod 25 ysgol ar restr cau (gudd am wn i). Mae Gwilym wedi gwneud honiad digon tebyg ar ei flog eisoes, ond gan roi enw swyddog yn yr achos hwnnw. Mi adawais y mater ar y pryd gan dybio mai camgymeriad arall oedd y tu ol i'r haeriad.

'Rwan, fedra i ddim deall pam y byddai swyddogion yn gwneud datganiad o'r fath - byddai dweud hyn - neu rhywbeth tebyg - yn tanseilio'r broses yn llwyr o'r cychwyn ac yn chwalu ei hygrededd yn gyfangwbl - ac mae pawb sy'n agos at y broses yn deall hynny'n iawn. 'Dwi heb fod yn rhan o'r broses yn Nysynni wrth gwrs - ac felly 'dwi heb fynychu unrhyw gyfarfodydd - ond byddwn yn rhyfeddu - yn rhyfeddu petai hyn yn wir.

Ta waeth am hynny - mae gen i air o gyngor i Lais Gwynedd, a phawb sydd eisiau gweld dyfodol i ysgolion bach yng Ngwynedd a thu hwnt. Mae fy sylwadau yn cael eu cynnig mewn ysbryd adeiladol, gobeithio y cant eu cymryd yn yr ysbryd hwnnw.

'Mae'r cynllun ail strwythuro bellach wedi ei oddiweddyd gan argyfwng ariannol sy'n sicr o effeithio ar pob awdurdod lleol tros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Bydd cynghorau yn derbyn toriadau cyson a difrifol yn y cyllid maent yn ei dderbyn gan y Cynulliad tros y blynyddoedd nesaf.

Mae dau reswm am hyn - toriadau y bydd rhaid i lywodraeth San Steffan eu gwneud yn y grant a roddir i'r Cynulliad yn sgil y llanast ariannol mae'r DU yn cael ei hun ynddo, a phroblemau yn strwythur fformiwla Barnett - y Barnett Squeeze bondigrybwyll - sy'n debygol o leihau'r arian sy'n cael ei ddatganoli i Gymru o tua £8.5 biliwn - tros y ddegawd nesaf. Mae hyn yn gyfystyr a £2,900 am pob person sy'n byw yn y wlad.

Mewn amgylchedd cyllidol fel hyn ni fydd cael y Cynulliad i sefydlu rhagdybiaeh i beidio a chau ysgolion yn gwneud iot o wahaniaeth. Ceir rhagdybiaeth tebyg yng Ngogledd Iwerddon - ond mae'r Gweinidog Addysg yno - Catriona Ruane yn arwyddo'r papurau i gau ysgolion yn syrffedus o aml - Newtownbreda Primary, Maghera High School, St Colmcille’s Primary, Benburb Primary eleni er enghraifft. Mae'r ddemograffeg yng Ngogledd Iwerddon yn llawer cryfach nag yw yng Ngwynedd.

Mae'n dra phosibl y bydd toriadau cyllidol yn arwain at gau ysgolion yng Ngwynedd a thu hwnt - ailstrwythuro ysgolion neu beidio - sefydlu rhagdybiaeth yn erbyn cau neu beidio - oherwydd na fydd llywodraethwyr yn gallu fforddio i'w cadw nhw'n agored. Hyd y gwn i dim ond Plaid Cymru sy'n ymgyrchu i ddiwigio Barnett mewn modd fydd yn sicrhau bod Cymru'n cael ei hariannu'n deg. Efallai fy mod yn gwneud cam a nhw, ond dydw i ddim yn cofio i mi glywed gair o gefnogaeth i'r ymdrech yma gan y Blaid o gyfeiriad Llais Gwynedd.

Felly - ar pob cyfri ymgyrchwch i gael rhagdybiaeth i beidio a chau, ymgyrchwch yn erbyn yr egwyddor o ail strwythuro - ond os nad ydi'r amgylchiadau cyllidol priodol yn bodoli wnaiff hyn ddim cadw ysgolion bach yn agored mae gen i ofn - a dim ond Plaid Cymru sy'n ceisio gwneud rhywbeth am hynny ar hyn o bryd.