Showing posts with label demograffeg. Show all posts
Showing posts with label demograffeg. Show all posts

Saturday, September 29, 2012

Gorymdeithio yn erbyn llif hanes

Ymddengys bod miloedd o aelodau'r Urdd Oren yn gorymdeithio yng Ngogledd Iwerddon heddiw i ddathlu can mlwyddiant arwyddo Cyfamod Ulster.

Y cwestiwn diddorol fodd bynnag ydi faint sydd ganddynt i'w ddathlu mewn gwirionedd?  Mae yna berthynas hynod agos yng Ngogledd Iwerddon rhwng cefndir crefyddol a thueddiadau gwleidyddol.  Mae tueddiad cryf gan bobl o gefndir Pabyddol i bleidleisio i bleidiau cenedlaetholgar, tra bod pobl o gefndir Protestanaidd gyda thueddiad cryf i bleidleisio i bleidiau unoliaethol.  Mae'r berthynas rhwng patrymau pleidleisio a chefndir diwylliannol yn hynod gryf yng Ngogledd Iwerddon -  yn gryfach o lawer nag ydi'r berthynas rhwng dosbarth cymdeithasol a phatrymau pleidleisio yn y DU, a chryfach o lawer nag ydi'r berthynas rhwng cenedlaetholdeb a'r gallu i siarad y Gymraeg yng Nghymru er enghraifft.

O ganlyniad mae yna aros mawr am ganfyddiadau cyfriad 2011 ynglyn a'r cydbwysedd 'crefyddol' yn y dalaith.  Mae'r canfyddiadau hynny bron yn sicr o fod yn rhai negyddol o safbwynt y sawl sy'n gorymdeithio heddiw.  Mi geisiaf esbonio pam.



Y peth cyntaf i'w nodi ydi bod yna fwyafrif 'Protestanaidd' yng Ngogledd Iwerddon o hyd - yn ol pob tebyg - fyddan ni ddim yn siwr o hynny nes bod y rhan perthnasol o gyfrifiad 2011 yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Yn ol cyfrifiad 2001 roedd tua 43.8% or boblogaeth o gefndir Pabyddol, tra bod 53.1% 0 gefndir Protestanaidd. Yn 1961 roedd  63% or boblogaeth yn Brotestanaidd, tra bod 35% yn Babyddol. 

Rydym yn gwybod hefyd bod yna fwyafrif clir unoliaethol ymysg pobl sydd ar y gofrestr pleidleisio. Ond mae hefyd yn amlwg bod y mwyafrif Unoliaethol / Protestanaidd yn gostwng.  Yn ol yn 1974 roedd tua 63% yn pleidleisio i rhyw blaid unoliaethol neu'i gilydd, erbyn 2011 roedd y ffigwr o gwmpas y 45%.

Yr hyn sy'n arwyddocaol o safbwynt y dyfodol fodd bynnag ydi strwythur y boblogaeth - mae'r boblogaeth 'Babyddol' yn llawer ieuengach na'r un 'Brotestanaidd'.  Gellir gweld hyn ar ei gliriaf yn ffigyrau'r cyfrifiad ysgolion a gyhoeddir pob blwyddyn.  Maer graff isod yn dangos y gogwydd tros y blynyddoedd diwethaf:


Fel y gellir gweld, mae'r ganran 'Babyddol' yn aros yn weddol gyson o gwmpas y 51%, gyda'r categori 'arall' yn cynyddu tra bod yr un 'Brotestanaidd' yn cwympo.  Rydym yn gwybod bod pobl o gefndir Protestaniaidd yn llai tebygol o ddatgan eu bod yn grefyddol na phobl o gefndir Pabyddol, ond dydi'r cwbl o'r categori 'arall' ddim yn dod o gefndir Protestanaidd. Yn ol swyddfa'r cyfrifiad (yn 2001 o leiaf), mae'r sawl sydd ddim yn dweud o ba gefndir crefyddol maent yn dod ohono yn torri tua 7:4 o blaid pobl o gefndir 'Protestanaidd'. O ystyried hynny, byddai'r graff yn edrych fel hyn:
Gellir gweld y ffigyrau llawn yma .

Canlyniad hyn oll ydi bod proffeil gwleidyddol y sawl sydd ar y gofrestr etholiadol yng Ngogledd Iwerddon yn graddol newid o flwyddyn i flwyddyn. Mae'n debyg bod mwyafrif o'r sawl sy'n cael eu hychwanegu i'r gofrestr pob blwyddyn wedi bod yn bobl o gefndir 'Pabyddol' ers tua pymtheg mlynedd. Mae'r mwyafrif clir iawn o'r sawl sydd wedi gadael y gofrestr (oherwydd marwolaeth yn bennaf) wedi bod o gefndir 'Protestanaidd'. Mae'n debyg bod mwyafrif 'Pabyddol' ym mhob cohort blynyddol sy'n ieuengach na 35 neu 36 oed bellach.

Canlyniad anhepgor hynny yn ei dro ydi y bydd mwyafrif y boblogaeth o gefndir 'Pabyddol' o fewn cyn lleied a deg mlynedd o bosibl, o fewn degawd arall bydd yna fwyafrif felly ar y rhestr etholiadol, ac wedyn bydd dyfodol statws cyfansoddiadol Gogledd Iwerddon y tu hwnt i reolaeth y gymuned mae'r sawl sydd yn gorymdeithio heddiw yn perthyn iddi. 

Dwi wedi dwyn y graffiau oddi wrth flog o'r enw End Game in Ulster. Os oes rhywun efo diddordeb yn nemograffeg y dalaith gellir hefyd edrych ar Ulster's Doomed - blog arbennig o dda, ond un sydd ddim yn cael ei ddiweddaru bellach oherwydd marwolaeth yr awdur.

Sunday, July 31, 2011

Dosbarth cymdeithasol a'r Gymraeg

Mynd i rhyw feddwl wnes i ar ol darllen am ymddeoliad Gwilym Owen yn Golwg y diwrnod o'r blaen os oedd yna rhywbeth yn ei osodiad bod y Gymraeg yn mynd yn iaith i'r dosbarth canol yn unig.  Mae'r canfyddiad hwnnw yn groes i fy argraff i, ond wedyn dwi'n byw mewn tre Gymreig iawn sydd hefyd yn ddosbarth gweithiol at ei gilydd.

Felly mi es i ati i geisio gweld os oes yna sail ystadegol i'r sylwadau.  Ymgais (ychydig yn ansoffisdigedig mae'n rhaid cyfaddef) i brofi os ydi gosodiad Gwilym yn gywir neu beidio ydi'r isod.  Rwyf wedi gosod y wardiau oedd yn ol y cyfrifiad diwethaf gyda 75%+ yn siarad Cymraeg ynddynt yn eu trefn ac wedi nodi eu safle a'u sgor ar Indecs Amddifadedd Cymru. Fel mae'r enw yn rhyw awgrymu ffordd o fesur amddifadedd ydi'r indecs ac mae'n gwneud hynny ar lefel ward etholiadol.  Mesurir amddifadedd 1,792 o gymunedau i gyd.

Felly mae safle isel a sgor uchel yn awgrymu lefel uchel o amddifadedd, tra bod sgor isel a safle uchel yn awgrymu'r gwrthwyneb.  Dwi ymhellach wedi gosod y cymunedau Cymraeg yn eu chwarteli cenedlaethol - mae lefel uchel o amddifadedd mewn cymunedau yn chwartel 4, a lefel isel o amddifadedd mewn rhai yn chwartel 1.  Ceir tair ward yn y chwartel isaf, tair yn y chwartel uchaf, 18 yn y trydydd chwartel a 17 yn yr ail chwartel.

Rwan does yna ddim diffiniad mae pawb yn ei dderbyn o'r hyn sy'n gwneud pobl yn ddosbarth canol - y diffiniad sy'n cael ei ddefnyddio amlaf ydi pobl sy'n syrthio i gategoriau ABC1.  Mae tua hanner poblogaeth Cymru yn syrthio i'r categoriau hynny, tra bod yr hanner arall yng nghategoriau C2DE.  A chymryd hynny mae'r tabl yn awgrymu bod cymunedau Cymraeg eu hiaith wedi eu rhannu yn weddol gyfartal rhwng rhai sydd yn ddosbarth gweithiol a dosbarth canol, ond bod llai ohonynt yn perthyn i'r pegynnau na sy'n wir am Gymru gyfan. 


Un neu ddau o bwyntiau bach technegol cyn gorffen - 'dwi'n derbyn nad ydi cyfrifo amddifadedd yr un peth a chyfrifo dosbarthiad cymdeithasol - ond mae'r naill yn rhoi syniad o'r llall.  Dwi hefyd yn derbyn nad ydi'r rhan fwyaf o Gymry Cymraeg yn byw mewn cymunedau 75% + - ond mae proffeil cymunedau Cymreig yn rhoi syniad i ni am broffeil siaradwyr Cymraeg yn gyffredinol.  Mae hefyd yn wir bod y ffigyrau cyfrifiad yn ddeg oed bellach. Mae unedau cyfrifo'r indecs hefyd mymryn yn wahanol i unedau'r cyfrifiad, ac mae yna ychydig fanylion ar goll o'r indecs.

Tuesday, July 26, 2011

Demograffeg a dyfodol Gogledd Iwerddon

'Does yna fawr neb yn yr oes sydd ohoni yn cymryd diddordeb mewn ystadegau sy'n ymwneud a chrefydd plant ysgol - yng Nghymru o leiaf.  Mae pethau'n wahanol yng Ngogledd Iwerddon oherwydd bod cysylltiad clos iawn rhwng cefndir crefyddol pobl a'u gwleidyddiaeth.  Mae Pabyddion yn pleidleisio i bleidiau cenedlaetholgar tra bod Protestaniaid yn pleidleisio i rai unoliaethol.

Cafwyd patrwm ers y 70au cynnar o gynnydd graddol yn y bleidlais genedlaetholgar a chwymp cyfatebol yn y bleidlais unoliaethol.  Mae yna ddamcaniaeth mai sylweddoliad bod demograffeg o'u plaid a arweiniodd yn y pen draw at gadoediad yr IRA a'r broses heddwch.

Ta waeth, fe dorrwyd ar y patrwm yna yn etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon yn gynharach eleni pan  gafwyd cwymp bychan yng nghanran y bleidlais genedlaetholgar. Mae rhai unoliaethwyr wedi gweld hyn fel arwydd bod y llanw demograffig ar droi. Mae edrych i lawr yr ysgol ddemograffaidd yn awgrymu nad ydynt yn gywir.

Dydi ystadegau'r adran addysg ddim cefnogi'r ddamcaniaeth honno fodd bynnag.  Mae'r tabl isod yn dangos yr ystadegau crefyddol yn ysgolion cynradd y rhanbarth, ac mae'r patrwm yn un eithaf clir - cynnydd araf iawn yn y ganran o blant a ddiffinir fel Pabyddion, cynnydd cymharol gyflym yn y ganran na ddiffinir yn ol eu crefydd a chwymp gweddol gyflym yn y ganran Brotestanaidd.  Hwyrach bod yna arwyddocad ychwanegol i slogan y chwe degau - make love not war - yng nghyd destun gwleidyddiaeth cenedlaetholgar yng Ngogledd Iwerddon. 


Protestaniaid Pabyddion Eraill Bwlch
2004 / 2005 40.23% 49.44% 9.88% 9.21%
2005 / 2006 40.22% 49.65% 9.95% 9.43%
2006 / 2007 38.90% 50.17% 10.89% 11.27%
2007 / 2008 38.12% 50.46% 11.41% 12.34%
2008 / 2009 37.25% 50.64% 12.10% 13.39%
2009 / 2010 36.92% 50.46% 12.61% 13.54%
2010 / 2011 36.36% 50.64% 12.98% 14.28%

Ffigyrau oll o wefan ystadegol Cynulliad Gogledd Iwerddon

Sunday, October 24, 2010

Cymru fach mewn taenlen


Poblogaeth
(miloedd)
2009

Newid 04 - 09 (%) Canran o'r boblogaeth o oed pensiwn Genedigaethau am pob 1,000 o'r boblogaeth 2008 (%) Genedigaethau byw ysgafnach na 2.5kg 2008 (%)
Cymru 2999 1.9 21.7 11.9 7.8
Ynys Mon 69 0.7 25.6 11.3 8.2
Gwynedd 119 0.4 23.7 10.8 7.5
Conwy 111 0.4 28 10.4 7.9
Sir Ddinbych 97 1.8 25.1 11 7.3
Sir Fflint 150 0.5 20.8 11.5 6.8
Wrecsam 133 2.7 20.3 13.5 8
Powys 132 2.1 26.6 9.7 7.8
Ceredigion 76 0.9 24.7 7.7 4.5
Penfro 117 1.6 25.4 10.5 7
Caerfyrddin 181 2.3 24.3 10.9 6
Abertawe 231 2.2 21.5 11.9 5.9
Castell Nedd Port Talbot 137 0.7 22.1 11.3 9.7
Pen y Bont 134 2.6 21.2 12.1 13.3
Bro Morgannwg 125 2.6 21.5 11.9 8.4
Caerdydd 336 6.8 15.5 14.1 7.1
Rhondda, Cynon, Taf 234 0 20.1 12.4 8.2
Merthyr Tydfil 56 0.6 20.2 14 8.2
Caerffili 173 1.1 19.7 12.9 7.7
Blaenau Gwent 69 -0.4 21.5 12.5 8.7
Torfaen 91 0.3 21.6 11.6 8.3
Mynwy 88 1.2 24.3 10.4 6.4
Casnewydd 140 1.3 19.6 14.2 8.4




Marwolaethau babanod am pob 1,000 genedigaeth 2006 - 2008 (%) Marwolaethau am pob 1,000 o bobl 2008 (%) Diweithdra 2007 / 2008 (%) Canran sy'n hawlio un o'r prif fudd daliadau 2009 Cyflog cyfartalog (£)
Cymru 4.5 10.7 5.6 20.3 444.9
Ynys Mon 5.3 11.3 6.1 18.3 439
Gwynedd 4.4 11.6 5.6 15.1 408.3
Conwy 6.1 13.7 4.8 19.3 421.3
Sir Ddinbych 3.5 12.4 5.4 19.6 432
Sir Fflint 5.6 9.5 4.1 15.7 458.4
Wrecsam 2.8 10.3 5 18.2 459.7
Powys 4.7 10.8 4.1 14.3 410.5
Ceredigion 2.1 9.5 5 12.8 406.4
Penfro 4.8 11.8 4.3 17.8 431.7
Caerfyrddin 4.1 12.1 5.1 20.8 421.8
Abertawe 4.2 10.7 5.9 21 460.3
Castell Nedd Port Talbot 4.4 11.8 6.2 27.1 479.3
Pen y Bont 4 10.7 6 23.6 427.6
Bro Morgannwg 5.4 9.8 5.3 16.8 534.9
Caerdydd 4.2 8.5 6.3 17.7 483.2
Rhondda, Cynon, Taf 4.9 11.1 6 25.8 423
Merthyr Tydfil 5 11.3 7.5 30.6 388.6
Caerffili 4.5 10.3 6.7 26 412
Blaenau Gwent 5 12.1 7.4 30.1 361.6
Torfaen 5.4 11 7 22.8 427.7
Mynwy 5 10.1 3.5 13.8 509.9
Casnewydd 4.4 9.8 6.4 21.6 443.6

Data i gyd o datablog

Monday, August 31, 2009

Y panic twf poblogaeth - lle mae idiotrwydd y Dde a'r Chwith yn cwrdd

Mae'n debyg y dyliwn ddatgan buddiant cyn cychwyn ar hwn - mae gen i bump o blant.

Tua'r amser yma pob blwyddyn, mae yna fyllio a thantro bod y boblogaeth yn tyfu'n rhy gyflym - gan y wasg Geidwadol yn bennaf, ond gan bobl mwy rhyddfrydig weithiau hefyd. Mae'r erthygl anymunol a hiliol yma yn y Daily Mail gan Amanda Platell yn esiampl o gonsyrn y Dde.

Ymddengys bod y ffaith bod 61,000,000 o bobl yn byw ym Mhrydain bellach yn rhywbeth y dylem oll dreulio llawer iawn o amser yn poeni amdano. Yn wir mae'n stwmp ar stumog llawer bod y boblogaeth yn tyfu y tu allan i Brydain, gyda rhywun o'r enw David Attenbrough yn cefnogi ymgyrch corff sinister a rhyfeddol o fysneslyd o'r enw'r Optimal Population Trust i gosbi gwledydd tramor oni bai eu bod yn cadw eu poblogaeth yn isel. Mae un o'u prif noddwyr - Jonathan Porrit, un o gyn arweinwyr Y Blaid Ecolegol - rhagflaenwyr Y Blaid Werdd yn bendant ei bod yn 'anghyfrifol' i bobl gael mwy na dau o blant.

Mae'r ymddiriedolaeth hefyd yn poeni eu hunain yn sal oherwydd bod tebygrwydd y bydd poblogaeth y DU yn 77,000,000 erbyn 2050. Mae'n od braidd i' r Mail ddod o hyd i dir cyffredin rhyngddynt eu hunain a chorff sy'n gwneud defnydd o naratif amgylcheddol y Chwith gyfoes megis yr OPT - ond dyna fo mae yna ambell i briodas rhwng pobl anisgwyl iawn weithiau.

Mae yna bobl wedi bod yn poeni bod yna ormod o bobl eraill ers i ni gael _ _ wel pobl ar y Ddaear. Roedd yr athronydd Sieiniaidd Han Fei-tzu wedi cael ei hun mewn stad am y peth yn y drydydd ganrif CC, ac roedd Plato o'r farn y dylai pobl ddechrau dympio eu merched ar wladwriaethau eraill os oedd poblogaeth y ddinas wladwriaeth yn mynd yn fwy na 5,040.

Nawdd Sant y sawl sy'n poeni am ormod o bobl ydi Thomas Malthus rheithor gydag Eglwys Lloegr yn Oes Fictoria. Rydym eisoes wedi gweld sut wnaeth ei ddamcaniaethu fo gyfrannu at leihau'r boblogaeth yn Iwerddon a thu hwnt.

Canolbwynt damcaniaeth Malthus oedd yr 'amhosebilrwydd' i gyflenwad bwyd y Byd gadw i fyny efo twf arithmataidd y boblogaeth. Roedd cyd destun gwleidyddol i'r ddamcaniaeth wrth gwrs - roedd Malthus yn erbyn datblygu deddfau i roi cymorth i'r tlodion ac roedd o blaid deddfau oedd yn trethu mewnforio bwyd i Brydain. Roedd ei ddamcaniaethu, wrth gwrs, yn bolycs o'r radd eithaf - fel y cawn weld yn ddiweddarach. Roeddynt hefyd yn bolycs peryglys iawn.

'Dydi hynny heb stopio i bobl a mudiadau cyfoes a diweddar wneud defnydd o'i nonsens. Y lol yma sydd y tu cefn i lawer o ddadleuon yr OPT. Un o lyfrau mwyaf dylanwadol y ganrif ddiwethaf ar y pwnc oedd campwaith Paul R Ehrlich - The Population Bomb (1968).

Roedd Paul o'r farn mai'r gorau y gellid ei ddisgwyl oedd y byddai canoedd o filiynau o bobl yn marw yn saithdrgau'r ganrif ddiwethaf. Byddai'r UDA yn stopio rhoi cymorth i India a'r Aifft erbyn 1974, byddai'r Pab wedi derbyn yr egwyddor o atal cenhedlu, byddai Asia, Affrica, De America a'r Byd Arabaidd yn cael eu hysgwyd gan ymladd am fwyd. Byddai bwyd yn cael ei ddognu yn America ac Ewrop. 2 biliwn fyddai poblogaidd y Byd erbyn 2025, 1.5 biliwn erbyn 2050. Yr unig ateb i hyn yn ol Ehrlich oedd gwenwyno cyflenwadau dwr efo cemegolion atal cenhedlu. Wna i ddim manylu ar y gwaethaf yr oedd Paul yn poeni amdano, rhag bod rhai o fy narllenwyr gyda thueddiad at hunllefau.

Wnaeth methiant treuenus ei ddarogan ddim ei atal rhag cyhoeddi llyfr arall - The Population Explosion efo'i wraig Anne yn 1990. Does yna ddim llawer o dystiolaeth yn yr ail lyfr i Paul fod wedi dysgu llawr o'r ffaith na ddaeth dim o holl ddarogan gwae'r llyfr cyntaf.

Un neu ddau o ffeithiau - mae poblogaeth y Ddaear wedi cynyddu mwy nag erioed (o lawer) yn ystod y ganrif ddiwethaf - ac mae'r GDP ar gyfer pob un o'r bobl yna wedi cynyddu mwy nag erioed hefyd. Er enghraifft roedd GDP y pen (Byd eang) tua phum gwaith yn uwch ar ddiwedd y ganrif nag oedd ar y cychwyn. Roedd y nifer o bobl oedd yn dioddef o brinder bwyd parhaus wedi lleihau ac felly hefyd y gyfradd o blant oedd yn marw. Roedd pobl ym mhob gwlad bron yn gallu disgwyl byw yn hirach - yn hirach o lawer. Roedd India - gwlad roedd Ehlrich o'r farn nad oedd yna unrhyw obaith o gwbl iddi oherwydd dwysedd ei phoblogaeth wedi gwneud ei hun yn hollol hunan gynhaliol o ran bwyd erbyn diwedd y ganrif diwethaf. Roedd ei phoblogaeth wedi tyf'n sylweddol hefyd

'Rwan - mae dwysedd poblogaeth yn stwmp ar y sawl sy'n poeni am boblogaeth Prydain. Dwysedd poblogaeth y Byd ydi
45.21 person y km sgwar o dir. Dwysedd y DU ydi 246 (sydd trwy gyd ddigwyddiad bron yn union yr un peth ag un Pennsylvania- talaith sydd a 2 biliwn acer o fforestydd, naw miliwn acer o dir ffermio sy'n cynhyrchu gwerth tros i ddeugain biliwn dolar o fwyd yn flynyddol). Mae yna 51 o wledydd efo dwysedd uwch - gan gynnwys Singapore (6,814), Macau (18,705), Hong Kong (6,326), De Korea (487), Yr Iseldiroedd (395). Hynny ydi rhai o wledydd a rhanbarthau mwyaf cyfoethog y Byd. Mae yna 22 o wledydd gyda llai na 10 person y km sgwar - tua hanner ohonynt ymhlith y tlotaf yn y Byd.

Daw hyn a ni'n ol at erthygl bach hiliol Amanda. Yr amheuaeth sydd gen i pob amser yr ydwyf yn darllen y math yma o nonsens ydi nad gormod o bobl ydi'r broblem - ond gormod o bobl o'r math anghywir. Alla i ddim yn fy myw gredu y byddai Amanda yn gwneud ei hun mor sal yn poeni petai'r holl bobl yna yn rhai tebyg i'r sawl sy'n gwneud eu siopa yn Waitrose, yn mwynhau guacamole ac yn teithio mewn tractorau Chelsea.

Monday, July 20, 2009

Paradocs rhyfedd gwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon

Mi fydda i o bryd i'w gilydd yn cael cip ar y sefyllfa wleidyddol mewn gwledydd eraill, yn arbennig rhai cyfagos - ac yn arbennig pan mae gennyf ychydig amser ar fy nwylo. Mi gawn ni gip ar wleidyddiaeth Gogledd Iwerddon heddiw.



Y peth cyntaf i'w ddeall am y wleidyddiaeth yma ydi ei bod yn unigryw o llwythol - yng nghyd destun Ewrop o leiaf. 'Rydym yn gwybod bod peth perthynas yng Nghymru rhwng cefndir ieithyddol a phatrymau pleidleisio. Mae'r berthynas rhwng cefndir crefyddol a thueddiadau pleidleisio yn gryfach o lawer yng Ngogledd Iwerddon. Mae mwyafrif llethol pobl o gefndir Pabyddol yn pleidleisio i'r SDPL neu Sinn Fein, tra bod mwyafrif llethol pobl o gefndir Protestanaidd yn pleidleisio i'r DUP, yr UUP, y PUP a'r blaid newydd - y TUV (mwy am hyn wedyn).

Mae yna batrwm dosbarth llai amlwg hefyd. Yn gwahanol i weddill Prydain mae pobl o gefndiroedd dosbarth gweithiol yn fwy tebygol o bleidleisio na rhai dosbarth canol, ac mae llawer mwy o'u gwleidyddion o gefndiroedd felly. Ar ben hynny mae tueddiad gan bobl dosbarth gweithiol Pabyddol i bleidleisio i SF tra bod y rhai dosbarth canol yn pleidleisio i'r SDLP. Ar yr ochr arall tuedda pobl dosbarth canol i bleidleisio i'r UUP, tra bod rhai dosbarth gweithiol yn cefnogi'r dair plaid arall.

Gellir dod o hyd i hanes etholiadol y dalaith yng ngwefan penigamp Nicholas Whyte - Northern Ireland Elections.

Yn fras mae'r patrwm tros yr ugain mlynedd diwethaf fel a ganlyn:

Ar yr ochr Unoliaethol yr UUP oedd yn ennill pob etholiad (ag eithrio rhai Ewrop) tan i'r broses heddwch ddod i fodolaeth. Roedd yr UUP yn cael ei hystyried yn fwy cymhedrol na'r DUP wrth gwrs. Roedd hyn yn cael ei adlewyrchu ar ochr arall y rhaniad gwleidyddol gyda phlaid gymhedrol yr SDLP yn gyfforddus o flaen SF.

Pan ddaeth y broses heddwch dechreuodd pethau newid gyda phleidleisiau'n symud ar un llaw tuag at y DUP, ac ar y llall tuag at SF. Mae'n debyg bod tros i hanner yr Unoliaethwyr wedi pleidleisio yn erbyn Cytundeb Dydd Gwener y Groglith yn 1998 - ac roedd yn ddigon naturiol i'r rheiny droi at y DUP - plaid oedd bryd hynny yn erbyn y Cytundeb.

Ar y llaw arall roedd derbyn y Cytundeb wedi symud SF tua'r canol (ac oddi wrth drais yr IRA), ac roedd hefyd yn naturiol i'r gyfadran weddol fawr o bleidleiswyr yr SDLP oedd yn genedlaetholwyr di gyfaddawd ym mhob ystyr ond eu cefnogaeth i drais, ddechrau troi tuag at SF.

Erbyn blynyddoedd cynnar y ddegawd yma (2001 yn achos SF a 2003 yn achos y DUP) roedd y pleidiau 'eithafol' ar y blaen. Erbyn 2007 cyrhaeddodd y broses yma ei phenllanw gyda'r DUP yn cael dwywaith cymaint o bleidleisiau na'r UUP, a SF yn gwneud bron cystal mewn cymhariaeth a'r SDLP yn yr etholiaau Cynulliad.

Wedi etholiadau 2007 roedd y DUP yn teimlo'n ddigon hyderus i allu rhannu grym efo SF - ac i bob pwrpad i dderbyn Cytundeb Dydd Gwener y Groglith. Arweiniodd hyn at ffurfio plaid newydd - y TUV - plaid sydd yn ffyrnig yn ei gwrthwynebiad i rannu grym gyda SF. Arweinydd y blaid yma ydi Jim Allister - Aelod Ewrop y DUP tan eleni. Maent wedi sefyll yn erbyn y DUP ddwywaith - mewn is etholiad cyngor (yn Dromore) ac yn etholiad Ewrop. Er iddynt fethu ag ennill sedd ar y ddau achlysur, gwnaethant niwed etholiadol arwyddocaol i'r DUP. Collwyd y sedd DUP yn Dromore a methodd y blaid a dod ar ben y pol yn ol eu harfer yn yr eholiad Ewrop.



Ar ochr arall y frwydr etholiadol methodd SF a chynyddu eu canran o'r bleidlais, ac yn wir cafwyd cwymp bach. Roedd cwymp mwy o lawer yn y nifer a bleidleisiodd iddynt. Mae'n debyg mai'r rheswm am hyn oedd iddynt dderbyn y gwasanaeth heddlu newydd y PSNI yn 2008. Nid yw'n dderbyniol gan nifer helaeth o bleidleiswyr y blaid hon i gael eu plismona gan heddlu 'tramor'.

'Roedd SF yn gallu arwain eu dilynwyr allan o ryfel, i mewn i strwythurau gwleidyddol 'tramor', i mewn i rym efo'u harch elynion, y DUP - ond maent yn cael mwy o drafferth o lawer i werthu'r egwyddor y dylai cymdogaethau Gweriniaethol gael eu plismona gan heddlu cyffredin.

Serch hynny nid oedd llawer o niwed etholiadol i SF, tra bod niwed sylweddol ac arwyddocaol i'r DUP. Mae hyn yn broblem - ac yn yr hir dymor mae'n fwy o broblem i'r traddodiad Unoliaethol nag yw i'r un Cenedlaetholgar. Y rheswm am hyn ydi bod llwyddiant y TUV yn ei gwneud yn anhebygol y gall y DUP (a'r UUP o ran hynny) symud oddi wrth eu safbwyntiau a'u hethos traddodiadol.



Mae eu problem yn sylfaenol yn un ddemograffig. Mae'r ganran sydd wedi bod yn pleidleisio i'r pleidiau Cenedlaetholgar wedi bod yn cynyddu'n raddol am ddegawdau, tra bod y bleidlais Unoliaethol wedi bod yn cwympo. Mae'r rheswm am hyn yn syml - mae Payddion Gwyddelig yn cael mwy o blant na Phrotestaniaid Gwyddelig. Gellir amcangyfrif y bydd y nifer o bleidleiswyr Cenedlaetholgar yn goddiweddyd y nifer Unoliaethol mewn tua naw mlynedd - erbyn 2018 - dwy flynedd ar ol canmlwyddiant Gwrthryfel 1916.

'Rwan os ydi'r mwyafrif Unoliaethol i barhau, mae'n rhaid iddynt ddechrau apelio at bobl o gefndir Pabyddol. Nid yw'n bosibl iddynt wneud hynny heb symud i dir gwleidyddol llai jingoistaidd, llai secteraidd, llai Protestanaidd a mwy cynhwysol. Mae presenoldeb Jim Allister a'i blaid newydd yn gwneud hyn yn llawer mwy anodd iddynt. Mae unrhyw symudiad at y canol yn colli pleidleisiau.

Felly ar un olwg mae Mr Allister yn cymaint o fygythiad i ddyfodol yr Undeb ag ydi Mr McGuinness, oherwydd bod ei bresenoldeb yn ei gwneud yn anos o lawer i'r traddodiad Unoliaetholapelio at Babyddion - y grwp crefyddol fydd yn y mwyafrif ymysg pleidleiswyr o fewn degawd. Byd bach rhyfedd iawn ydi byd gwleidyddol Gogledd Iwerddon.

Friday, March 13, 2009

Golwg arall ar ddemograffeg Gogledd Iwerddon

Mae David H Jones yn gwneud y sylwadau canlynol ynglyn a fy mlog diwethaf, a chan bod ei bwyntiau yn rhai diddorol, a chan bod y blog gwreiddiol yn fyr iawn mi ymatebaf ar dudalen flaen y blog yn hytrach nag ar y dudalen sylwadau.

blog difyr - fel arfer. Mae hefyd yn wir fod y gyfradd geni yn uwch yn GI nawr nag mae hi wedi bod ers 1991
http://news.bbc.co.uk/1/hi/northern_ireland/7939546.stm
gan fod menwyod sydd wedi osgoi dechrau teulu yn eu 20au nawr yn eu 30au canol / hwyr. Y dybiaeth fell gan fod y Catholigion yn fwy niferus yn yr oedran 30 ac iau, fod y mwyafrif o'r plant yma am fod yn Gatholigion hefyd. Roedd rhyw gred efallai ymysg Unoliaethwyr y byddai'r cwymp yn y cyfradd geni yn yr 1990au yn lleihau twf yn y gymuned Gatholig. Dydy hynny ddim yn edrych mor wir nawr.

Fy unig gwestiwn Menai yw hyn. Gallaf ddeall fod Catholigion yn pleidleisio ar lefel 'gymunedol/sectyddol' syfrdannol o gyson ond oes tystiolaeth y byddant yr un mor driw mewn refferendwm ar uno gyda'r Weriniaeth?

Dwi'n meddwl hefyd y byddai'n anodd iawn i'r Gogledd ymuno a'r De yn unig ar sail pleidlais o dyweder 51% o blaid a 49% yn erbyn. Bydd angen mwyafrif llawer mwy a chymuned unoliaethol llawer gwanach/cyfforddus gyda'r syniad o Iwerddon unedig, i wireddu'r freuddwyd honno.


Mae'n wir bod y gyfradd geni wedi cynyddu'n ddiweddar, ac mae'n debyg mai Pabyddion sydd yn gyfrifol am hyn - ond fyddwn ni ddim yn siwr tan mae canlyniadau cyfrifiad 2011 yn cael ei gyhoeddi (neu tan mae'r babanod yn ddigon hen i fynd i'r ysgol). Mae'r gyfran o'r boblogaeth Babyddol sydd o oedran epilio wedi cynhyrchu mwy o blant na'r Protestaniaid ers cryn gyfnod bellach - er ei bod yn llai o ran maint na'r un Brotestanaidd. Bellach mae'n debyg bod y gyfran yma o'r boblogaeth yn fwy ymysg Pabyddion, ac mae felly'n dilyn bod cyfraddau geni'n codi.

Roedd rhywfaint o le i gredu ar ddiwedd y naw degau bod cyfradd geni Pabyddion yn syrthio yn gynt na'r un Brotestaniaid, ond nid yw'r rhagdybiaeth yma wedi ei wireddu. Gellir dangos hyn trwy gyfeirio at y graffiau hyn yr wyf wedi bod yn ddigon digywilydd i'w dwyn o'r blog arbennig o dda - Ulster's Doomed.







Mae Cytundeb Dydd Gwener y Groglith yn gwbl glir ynglyn a statws cyfansoddiadiol Gogledd Iwerddon. Pan mae'n ymddangos i'r Ysgrifennydd Gwladol Tros Ogledd Iwerddon bod mwyafrif yn ffafrio ail uno'r wlad, yna mae'n rheidrwydd arno i alw refferendwm. Mae 50% + 1 yn ddigon i wireddu'r penderfyniad. 'Does yna ddim opsiynau eraill megis ail leoli'r ffin, neu greu endid annibynnol.

'Rwan mae'r cwestiwn os y byddai mwy o Babyddion yn pleidleisio tros y status quo na sydd o Brotestaniaid yn pleidleisio tros Iwerddon unedig yn un da iawn. Mae polau piniwn yn tueddu i awgrymu bod lleiafrif sylweddol (efallai 25% neu fwy) o Babyddion o blaid y status quo - ond - ac mae'n ond mawr - dydi polau piniwn yng Ngogledd Iwerddon ddim yn ddibenadwy. Maent yn ddi eithriad yn gor gyfrifo nerth etholiadol y canol gwleidyddol, ac yn tan gyfrifo nerth yr eithafion.

Er enghraifft yr ymchwil mwyaf cyson ydi un y Northern Ireland Life & Times Survey. Mae'r ymchwil yma yn dangos bod lleiafrif sylweddol o Babyddion yng Ngogledd Iwerddon yn fodlon aros yn rhan o'r Deyrnas Unedig. Ond - roedd yr ymchwil diweddaraf i gael ei gyhoeddi (2007) hefyd yn dangos mai 14% oedd cefnogaeth Sinn Fein. Cynhalwyd etholiadau Stormont y flwyddyn honno, ac roedd cefnogaeth SF tua dwywaith hynny. Mae hyn yn dan gyfrifo arwyddocaol iawn - llawer mwy felly na mewn unrhyw bol piniwn neu ymchwil Prydeinig neu Wyddelig arall. Mae'n rhesymol felly tybio bod gor gyfrifo sylweddol o Babyddion unoliaethol.

Mae yna fater arall y dylid ei ystyried hefyd - mae patrymau pleidleisio Gogledd Iwerddon yn cael eu gyrru gan ystyriaethau llwythol. Pan mae'r etholiad yn bwysig, mae'r pwysau llwythol i bleidleisio mewn ffordd arbennig yn cynyddu. Er enghraifft, roedd cred na allai'r ymprydiwr newyn, Bobby Sands ennill mewn is etholaeth yn etholaeth ymylol Fermanagh South Tyrone yn 1981 oherwydd na fyddai cyfran arwyddocaol o'r boblogaeth Babyddol yn fodlon pleidleisio i derfysgwr. Dyma'r canlyniad:

Bobby Sands (Anti-H-Block/Armagh Political Prisoner) 30,493 (51.2%)
Harry West (Ulster Unionist Party) 29,046 (49.8%)

Anti-H-Block/Armagh Political Prisoner majority: 1,446; electorate 72,283; spoilt votes: 3,280; votes cast: 86.9%

Mae cyfradd bleidleisio o 87% yn brin iawn ym Mhrydain, ac mae'r etholiad arbennig yma yn dysteb i rym y reddf lwythol mewn gwleidyddiaeth etholiadol yng Ngogledd Iwerddon.

Thursday, March 12, 2009

Pam na fydd y trais yn parhau yng Ngogledd Iwerddon (o ochr y Cenedlaetholwyr o leiaf)?

Mae Gogledd Iwerddon wedi bod yn y newyddion eto am y rhesymau anghywir gyda dau filwr a heddwas yn cael eu llofruddio. Ond ym marn blogmenai 'does yna ddim llawer o berygl i ni fynd yn ol i'r hen ddyddiau.



Mae nifer o resymau am hyn - 'does ganddyn nhw ddim y gefnogaeth na'r arweinyddiaeth oedd gan y Provos yn ystod eu rhyfel nhw. Ond mae yna reswm arall pwysicach o lawer hefyd, a gellir dod o hyd i hwnnw mewn lle anisgwyl iawn - yng nghyfrifiad blynyddol gwasanaeth ysgolion Gogledd Iwerddon.

Yr hyn sydd o ddiddordeb i bwrpas y cyfraniad hwn ydi'r trydydd linc i lawr y dudalen - yr un sy'n manylu ar grefydd plant ysgol. Efallai y dyliwn betruso yma i nodi bod perthynas rhyfeddol o agos rhwng patrymau pleidleisio a chefndir crefyddol yng Ngogledd Iwerddon - mae mwyafrif llethol pobl o gefndir Pabyddol yn pleidleisio i bleidiau cenedlaetholgar, tra bod Protestaniaid yn pleidleisio i bleidiau unoliaethol.

Yn ol y cyfrifiad mae 40.7% o'r plant yn Brotestaniaid tra bod 50.9% yn Babyddion. Mae'r ganran o Babyddion yn uwch nag y bu erioed, tra bod y ganran o Brotestaniaid yn is nag y bu erioed. O edrych ar gyfrifiad 2001 mae'n deg casglu bod pob cohort blynyddol o bobl sy'n ieuengach na 30 gyda mwyafrif Pabyddol, ac mae'r mwyafrif hwnnw yn mynd yn fwy fel mae'r cohort yn mynd yn ieuengach. Ar y llaw arall mae tua dau dreuan o'r henoed yn Brotestaniaid.

Mae'r newid hwn yn cael ei adlewyrchu yn y patrymau pleidleisio. Mae'r bwlch rhwng y ganran sy'n pleidleisio i'r pleidiau cenedlaetholgar a'r rhai unoliaethol yn is nag y buont erioed - ac mae'r bwlch yn cau yn gyson.

Mewn geiriau eraill mae'r angen i ymladd tros Iwerddon unedig yn cael ei erydu o flwyddyn i flwyddyn. Y cwbl sy'n rhaid i Genedlaetholwyr ei wneud ydi disgwyl.

Mae'r stori'n dra gwahanol i Unoliaethwyr a'r grwpiau terfysgol teyrngarol wrth gwrs - a 'dydi'r rheiny heb ddi arfogi eto.

Saturday, December 06, 2008

Addysg Gymraeg - colli cyfle hanesyddol?




Mae datganiadau fel hwn ynglyn ag agor trydydd ysgol uwchradd Gymraeg yng Nghaerdydd
yn ddi eithriad yn galonogol. Serch hynny mae'n hawdd twyllo ein hunain ynglyn a lle'n union yr ydym o ran roi darpariaeth lawn. Mae ffigyrau ar gael sy'n disgrifio hyd a lled y ddarpariaeth yn fanwl. Dyma'r prif bwyntiau.

Nid yw 4 o pob pump plentyn yn y sector cynradd yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg (79.7%). Mae’r ganran yn uwch yn y sector uwchradd (84.6%).

Mae’r ganran o blant sy’n siarad Cymraeg adref gyda’i teuluoedd yn dreuenus o isel - 7.6% o blant cynradd yn ol tystiolaeth rhieni. Mae lle i gredu bod y ffigwr hwn yn rhy uchel – pan wnaed yr asesiad yma gan brifathrawon ddiwethaf yn 2001 / 2002 6.2% oedd y rhif, ac roedd wedi bod yn cwympo’n gyson ers i’r ffigyrau ddechrau cael eu coledu. (Mae’r canrannau sy’n siarad Cymraeg adref yn y sector uwchradd yn uwch na’r rhai cynradd – ‘dwi’n meddwl mai rhesymau technegol sy’n codi o ddulliau cyfrifo sy’n achosi hyn, yn hytrach na chwymp sylweddol diweddar).

Adlewyrchiad o hen broses hanesyddol sy'n dyddio'n ol i gychwyn y Chwyldro Diwydiannol sydd wedi arwain at ddirywiad graddol ond cyson a di ildio yn y defnydd o'r Gymraeg yn gymunedol ac mewn bywyd teuluol. Erbyn heddiw mae'n bosibl dadlau bod Cymru'n fwy Seisnig na Lloegr o ran iaith - mae'r Saesneg yn iaith leiafrifol (fel mamiaith) mewn un o pob ugain ysgol yn Lloegr.

Mae lle i gredu nad yw’r ganran o blant nad ydynt yn siarad Cymraeg adref, ond sydd yn ei siarad yn rhugl yn cynyddu. 5.7% oedd yn syrthio i’r categori hwn yn 2002 / 2003, a 5% ydi’r ffigwr heddiw. Roedd y canranau hyn yn uwch na chyn 2001 / 2002 pan mai’r prifathrawon oedd yn asesu statws plant o safbwynt eu Cymreictod ieithyddol.

Un sir yn unig sydd a mwy na hanner ei phlant cynradd yn siarad y Gymraeg adref – Gwynedd gyda 52.7%. Pedair sir arall (o’r 22) sydd a mwy na 10% yn siarad Cymraeg adref – Conwy (11%), Ynys Mon (33.5%), Ceredigion (30.9%) a Chaerfyrddin (21.4%). Yn hanner y siroedd mae llai na 5% yn siarad Cymraeg adref.

Dim ond hanner y siroedd sydd a mwy na 5% o’u plant cyntadd o gefndir di Gymraeg yn siarad yr iaith yn rhugl – Gwynedd a Dinbych (5.5% yr un), Ceredigion (10.5%), Penfro (6.2%) a Chaerfyrddin (8.7%), Castell Nedd / Port Talbot (6.5%), Rhondda Cynon Taf (8.1%), Merthyr (9.1%), Caerffili (9.6%), Caerdydd (5%). Mae’r record yma yn un o gryn fethiant.

Dim ond yn y siroedd traddodiadol Gymreig mae mwy na chwarter y plant cynradd yn cael eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg – Gwynedd (90% bl 1), Ynys Mon (72.9%), Ceredigion (79.2%) a Chaerfyrddin (56.1%). Mae Rhondda Cynon Taf yn gymharol uchel hefyd ar 18.9%.

Graddol iawn y bu'r cynnydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg tros y blynyddoedd. Roedd 17.8% o blant cynradd yn cael eu haddysg yn llwyr trwy gyfrwng y Gymraeg yn 2000 / 2001. 20.3% oedd y ganran yn 2007. Cwympodd y ganran o blant oedd mewn dosbarthiadau lle’r oedd rhai pynciau yn cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg o 2.6% i 0.4% tros y cyfnod.

Mae’r ganran o blant sy’n cael eu hasesu trwy gyfrwng y Gymraeg yn cynyddu’n raddol iawn – o 18.1% yn 2000 – 2001 yn CA1 i 20.3% yn 2007 – 2008, o 17.5% 1 19.5% tros yr un cyfnod.

Mae’r ffigyrau uwchradd yn caniatau i ni edrych yn ol ymhellach na’r rhai cynradd. Gellir gweld cynnydd graddol yn y ganran a addysgid trwy gyfrwng y Gymraeg o 9.7% yn 1979 – 1980 i 15.4% yn 2006 – 2007.

Dim ond yng Ngwynedd (80.6% bl 7), Ceredigion (61.7%), ac Ynys Mon (69.2%) mae mwy na hanner y plant yn cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae asesiadau CA3 trwy gyfrwng y Gymraeg eto wedi cynyddu’n raddol o 13% yn 2,000 i 15.3% yn 2007.

Er bod y rhan fwyaf o'r ffigyrau sy'n ymwneud a'r ddarpariaeth addysgol yn symud i'r cyfeiriad cywir, maent mewn gwirionedd yn adlewyrchiad o fethiant ar ran y Cynulliad, ac yn fwy arbennig y rhan fwyaf o'r Awdurdodau lleol (ag eithrio Gwynedd, Ynys Mon, Ceredigion, Rhondda Cynon Taf a Chaerffili).

Y rheswm am y methiant yw nad ydi'r cyflenwad o ran addysg cyfrwng Cymraeg yn dod yn agos at y galw yn y rhan fwyaf o'r wlad. Mae cryn le i gredu bod y galw am addysg Gymraeg yn llawer, llawer uwch na'r cyflenwad o tua 20% (yn tynnu at 50% o bosibl). Nid yw'r galw am addysg Gymraeg erioed wedi bod yn uwch yn hanes Cymru nag yw ar y funud yma - erioed - ac mae hyn yn ei gwneud yn gwbl bosibl i wneud gwahaniaeth - a gwahaniaeth go iawn.

Mewn geiriau eraill rydym yn byw yn ystod cyfnod lle mae cyfle hanesyddol, ac unigryw efallai, i droi'r llif sydd wedi trawsnewid proffeil ieithyddol y rhan fwyaf o Gymru mewn tua can mlynedd a hanner. Mae'n gyfnod lle gellid ail fodelu'r ddarpariaeth addysgol tros y wlad mewn modd fyddai'n gwneud y Gymraeg yn gyfadran bwerus - mwy pwerus na'r Saesneg efallai yn y gyfundrefn addysgol. Gyda chyfle fel hyn 'dydi cynyddu'r ddarpariaeth o sero pwynt rhywbeth pob blwyddyn ddim digon da. Mae'n gyfle sy'n cael ei golli - a gallai hyn fod yn drychineb hanesyddol i ni fel gwlad.

Saturday, November 29, 2008

Ydi Cymru a Lloegr yn esblygu mewn cyfeiriadau gwahanol?



Cododd y cwestiwn yn fy meddwl wrth i mi gael fy hun (fel mae rhywun yn ei wneud) yn edrych ar ffigyrau cyfraddau ffrwythlondeb (TFR) Cymru a Lloegr.

TFR ydi'r term am ffrwythlondeb merched. Byddai TFR o 2.0 yn dynodi bod merched o oed rhoi genedigaeth ar gyfartaledd yn cael dau blentyn. TFR y DU ar hyn o bryd ydi 1.92. Golyga hyn y byddai'r boblogaeth yn lleihau oni bai am fewnfudiad. Mewn gwlad Orllewinol mae angen TNR o tua 2.1 i gadw'r boblogaeth yn sefydlog. Mewn gwlad yn y Trydydd Byd byddai'n rhaid wrth raddfa uwch i sefydlogi'r boblogaeth gan bod llawer o blant yn marw cyn dod yn ddigon hen i gael eu plant eu hunain.

Mae'n anodd gor bwysleisio pwysigrwydd TFR wrth ystyried patrymau newid poblogaeth. Er enghraifft, mae gwahaniaethau cymharol fach mewn cyfraddau ffrwythlondeb Pabyddion a Phrotestaniaid yng Ngogledd Iwerddon yn debygol o newid mwyafrif sylweddol o Brotestaniaid ddeg mlynedd ar hugain yn ol i fwyafrif Pabyddol mewn 15 i 20 mlynedd. Mae gwahaniaeth TFR rhwng pobl wyn a phobl o gefndir Hisbanaidd wedi trawsnewid natur poblogaeth nifer o daleithiau yn yr UDA tros yr ugain mlynedd diwethaf. Mae'n debyg y bydd gan y mwyaf ohonynt o ran poblogaeth - California - fwyafrif Hisbanaidd mewn ugain mlynedd.

O graffu ar ffigyrau Prydain, maent yn rhannu i ddau gategori gwahanol iawn - ffigyrau mamau a anwyd ym Mhrydain a rhai a anwyd y tu allan i Brydain. TFR mamau Prydeinig ydi 1.79, tra bod rhai a anwyd y tu allan i Brydain yn 2.54. Mae'r gwahaniaeth yma'n ystadegol arwyddocaol - ond nid yw ond yn dweud hanner y stori. Mae tua chwarter y plant a anwyd i famau o'r tu allan i Brydain yn dod o Ewrop - mae cyfraddau genedigaeth Ewrop yn debyg i rai Prydain (a dweud y gwir maent yn is fel rheol). Felly mae TFR mamau o wledydd y tu allan i Brydain yn uwch na 2.54. Mae TFR rhai cydrannau o'r boblogaeth yma'n uchel iawn. Er enghraifft mae TFR merched a anwyd ym Mhacistan o gwmpas tair gwaith un merched a anwyd ym Mhrydain. Mae'r gwahaniaeth yma'n anferth.

O graffu ymhellach ar y manylion mae yna wahaniaeth, ac mae'n un sylweddol rhwng Cymru a Lloegr. Mae TFR Cymru a Lloegr yn debyg iawn - mae un Lloegr yn 1.91 ac un Cymru yn 1.9. Mae'r gwahaniaeth i'w weld pan rydym yn ystyried pwy sy'n cael y plant. Mae 24% o'r plant a anwyd yn Lloegr wedi eu geni i famau a anwyd y tu allan i Brydain. Y ganran yng Nghymru yw 9.4%, ac mae ychydig o dan hanner y rheiny wedi eu geni yn Ewrop. Yn Lloegr tua thraean sydd wedi eu geni yn Ewrop. I roi pethau'n blaen, mae TFR cynhenid Cymru yn uwch nag un Lloegr. Mae TFR Lloegr yn 1.91 oherwydd bod pobl o gefndir Asiaidd yn cael llawer o blant. Mae'r TFR cynhenid yn isel iawn - yn rhy isel o lawer i adnewyddu'r boblogaeth gynhenid.

Os ydi'r tueddiadau demograffig yma yn parhau - ac mae'n dra thebygol y byddant - bydd newidiadau strwythurol sylweddol yn natur poblogaeth Lloegr tros y degawdau nesaf. Ni fydd efallai traean o boblogaeth Lloegr yn wyn erbyn 2051. Bydd newid hefyd yng Nghymru - ond bydd yn llai o lawer. Un sir yng Nghymru yn unig sy'n dod yn agos at y gyfradd Seisnig o enidigaethau i famau o'r tu allan i Brydain - Caerdydd.

Mewn geiriau eraill bydd gwahaniaeth sylfaenol yn natur cymdeithas yn y ddwy wlad - a bydd gwahahaniaethau gwleidyddol yn sicr o adlewyrchu hynny. Ceir elfen o hyn 'rwan - mae'r BNP yn weddol gryf mewn rhannau o Loegr, ychydig iawn o gefnogaeth sydd ganddynt yng Nghymru a'r Alban. Mae'n amhosibl darogan beth yn union fydd effaith hyn oll - ond mae'n rhesymol i dybio y bydd y ddwy wlad yn fwy gwahanol nag ydynt erioed wedi bod o'r blaen - yn gymdeithasol ac yn wleidyddol.