Friday, December 31, 2010

Diolch _ _ _

_ _ _ i bawb wnaeth alw draw yn 2010. Mae'n rhaid eich bod wedi dod o hyd i rhywbeth i'ch diddanu.

Y ffigyrau misol oedd:



A'r ffigyrau chwarterol am y ddwy flynedd ddiwethaf oedd:

Unwaith eto, diolch yn fawr - mi'ch gwelaf eto yn y flwyddyn newydd - gobeithio.

O - a bu bron i mi ag anghofio - blwyddyn newydd dda.

Rhagolygon 2011

Diwrnod olaf y flwyddyn yn barod! Mae'r blynyddoedd 'ma yn hedfan fel gwenoliaid fel mae dyn yn heneiddio.

Ta waeth am yr athronyddu - mi fydd y flwyddyn nesaf yn un diddorol yn wleidyddol - yma, yn yr Alban a thros y Mor Celtaidd. Mi fydd yna ddwy refferendwm - un yn ymwneud a newid y drefn bleidleisio, a'r llall yn ymwneud a rhoi pwerau deddfu i'r Cynulliad. Mae etholiadau'r Cynulliad a Senedd yr Alban yn gyflym agosau, bydd yna etholiadau Cynulliad a chyngor yng Ngogledd Iwerddon, ac mae'n 99.9% sicr y bydd yna etholiad cyffredinol yng Ngweriniaeth Iwerddon hefyd.

Mae'r etholiadau Gwyddelig yn fwy diddorol nag ydi rhai'r Alban a Chymru. Mae yna bosibilrwydd yng Ngogledd Iwerddon y bydd y brif blaid genedlaetholgar (Sinn Fein) yn ennill mwy o seddi na'r blaid unoliaethol fwyaf (DUP), a byddai hynny yn ei dro yn arwain at Weinidog Cyntaf cenedlaetholgar. 'Dydw i fy hun ddim yn gweld hynny yn digwydd y tro hwn, ond mae'n bosibilrwydd. Mi fydd yna ddiddordeb hefyd yn yr etholiadau lleol yn Belfast. Yn ogystal a bod yn gyngor mwyaf y dalaith o ddigon mae Belfast yn dalwrn o ran demograffeg, ac mae'n debygol bod yna fwy o etholwyr o gefndir Pabyddol na sydd yna o gefndir Protestanaidd yno bellach. Gallai hyn yn ei dro newid cyfansoddiad cyngor y ddinas a rhoi mwyafrif i'r cenedlaetholwyr am y tro cyntaf erioed. Byddai hynny'n gryn garreg filltir yn hanes gwleidyddol y dalaith.

Mae'r diddordeb yn etholiadau'r Weriniaeth yn wahanol. Ers sefydlu'r wladwriaeth mae'r hollt wleidyddol wedi cwmpasu hafn mewn cymdeithas Wyddelig a agorwyd gan y Rhyfel Cartref. Mae'r brif blaid, Fianna Fail, yn cynrychioli'r sawl a wrthododd y cytundeb efo'r DU ac a gollodd y Rhyfel Cartref, ac mae'r ail blaid, Fine Gael, wedi esblygu o'r elfennau a enillodd y Rhyfel Cartref ond a gollodd y rhyfel etholiadol wedi hynny. Mae'r model yma wedi bod yn un hynod o wydn, ac mae wedi parhau ymhell, bell wedi i'r ffactorau a'i creodd ddiflannu i'r gorffennol.

Mae'r drychineb ariannol sydd wedi amgylchu'r Weriniaeth yn ddiweddar fodd bynnag yn bygwth y model mewn ffordd nad yw wedi ei fygwth o'r blaen. Mae'r polau yn awgrymu i gefnogaeth Fianna Fail chwalu tros y misoedd diwethaf, gyda'u cefnogaeth yn mynd i pob cyfeiriad. Y cwestiwn diddorol ydi beth sydd yn digwydd nesaf? - a wnaiff a model chwalu am byth gyda gwleidyddiaeth Gwyddelig yn cymryd y ffurf De / Chwith sy'n fwy cyffredin yn Ewrop? Er mwyn i hyn ddigwydd byddai'n rhaid i'r Chwith Gwyddelig, sydd wedi ei hollti i sawl cydadran gwahanol, weithredu mewn ffordd gweddol gydlynus, naill ai fel gwrthblaid neu (yn llai tebygol o lawer) fel llywodraeth. Os na ddigwydd hyn, gallai'r hen fodel ail ymddangos - mewn ffurf diwygiedig.

Mae yna rhywbeth yn ddigon tebyg am yr etholiadau yng Nghymru a'r Alban - y cwestiwn ydi os ydym yn mynd yn ol i'r dyfodol fel petai. Hynny yw os y byddwn yn dychwelyd at lywodraethau Llafur. Llywodraeth Llafur / Plaid ydi'r un yng Nghaerdydd wrth gwrs, a bydd Llafur yn gobeithio mynd yn ol i'r sefyllfa 2003 - 2007 lle'r oeddynt yn rheoli ar eu pennau eu hunain. Mae hynny'n anodd - ond mae'n sicr yn bosibl.

Mi fyddan nhw hefyd yn gobeithio ennill grym yn yr Alban. Mae'n anodd dychmygu y byddant yn mynd yn ol i glymblaid efo'r Lib Dems oherwydd amgylchiadau yn San Steffan, ond mae yna pob tebygrwydd o lywodraeth leiafrifol Llafur (mae'n anodd iawn cael mwyafrif llwyr yn yr Alban). Mi fydd llywodraeth leiafrifol Lafur yn llai sefydlog na'r un SNP, ac mi fyddai yna gryn dipyn o wrth daro am flynyddoedd.

Mi fyddai'n anffodus a dweud y lleiaf petai llywodraethau Caeredin a Chaerdydd yn mynd yn ol i rhywbeth tebyg i drefn cyn 2007 - mae'r llywodraethau o dan ddylanwad y cenedlaetholwyr wedi bod yn fwy effeithiol, mwy creadigol a mwy arloesol na'r rhai blaenorol. Mae'r rhagolygon o osgoi mynd yn ol i'r gorffennol yn well yng Nghymru nag yw yn yr Alban.

Mi fyddaf i yn pleidleisio Ia yn y refferendwm AV, ond 'dwi ddim yn meddwl y caiff y cynnig ei dderbyn. Bydd gwleidyddiaeth ehangach yn amharu ar y canlyniad - bydd cefnogwyr Llafur yn pleidleisio Na er mwyn rhoi cic i'r llywodraeth, a bydd llawer o Doriaid yn pleidleisio Na am nad ydyn nhw'n hoffi unrhyw newid cyfansoddiadol o unrhyw fath. Dyna ydi'r broblem efo refferenda - mae pobl yn pleidleisio yn aml gyda materion ag eithrio'r un dan sylw yn eu meddyliau.

Ac yn eironig ddigon bydd y ffaith etholiadol yma yn gwneud pleidlais Ia yn llawer mwy tebygol ar Fawrth 3. Mae lliw gwleidyddol y llywodraeth yng Nghaerdydd mwy at ddant y rhan fwyaf yng Nghymru ar hyn o bryd nag ydi lliw gwleidyddol y llywodraeth yn San Steffan. Bydd hyn yn effeithio ar y canlyniad, ac oherwydd y ffaith yma rwy'n llawer mwy hyderus bellach mai Ia fydd yr ateb nag oeddwn chwe mis yn ol.

Thursday, December 30, 2010

Newyddion da o'r diwedd i'r byd darlledu yng Nghymru



Fel rydym wedi trafod sawl gwaith yn ddiweddar ar y blog yma mae yna cryn dipyn o newyddion drwg yn amgylchu'r diwydiant cynhyrchu yng Nghymru ar hyn o bryd. Ond mae'n braf weithiau gallu cyfeirio at ychydig o newyddion cadarnhaol.

Daw hwnnw o gyfeiriad y grwp cynhyrchu Boomarang Plus. Er nad ydi canlyniadau (ariannol) y grwp wedi bod yn arbennig o wych yn ddiweddar, gydag elw o 2.4% o gymharu a chymedr yn y diwydiant o 8% i 10%, mae'r dyfodol yn edrych yn well - Yn ol eu canlyniadau ariannol mae ganddynt werth £50m o waith ar y gweill.

Rwan, mae'n lled anhebygol mai o gyfeiriad S4C y daw'r rhan fwyaf o'r gwaith hwnnw - fel y gwyddom mae'r sianel yn wynebu toriadau sylweddol iawn tros y blynyddoedd nesaf, ac ar ben hynny dydi'r tendrau yr ydym yn gwybod amdanynt sy'n dod o gyfeiriad S4C ddim yn dod yn agos at gyfanswm o £50m. Mae'n rhesymol casglu felly bod Boomarang Plus wedi llwyddo i ddenu gwaith sylweddol o Loegr, neu'r tu hwnt. Mae llwyddo i ddenu gwaith sylweddol o'r sector Saesneg yn dra anarferol i gwmniau cynhyrchu Cymraeg - felly llongyfarchiadau i Boomarang.

Mi fydd hi'n ddiddorol gweld yn union beth ydi'r gwaith.

Wednesday, December 29, 2010

Gweinidog Dyledion a Thlodi


Mae'n ddiddorol bod llywodraeth San Steffan wedi rhoi joban newydd i Simon Hughes - rhywbeth i'w wneud efo dwyn perswad ar bobl ifanc o gefndiroedd tlawd i fynd i addysg bellach ac adeiladu dyledion sylweddol y byddant yn gorfod eu ad dalu am lwmp go lew o'u bywydau.

Beth nesaf tybed?

Tuesday, December 28, 2010

Gorchest Glyn yn y Glaw



Mae'n fater o lawenydd i flogmenai nodi bod y Tori o Faldwyn, Glyn Davies wedi mwynhau ei Wyl San Steffan yn y Trallwng yn cymryd arno i fod yn rhyw fath o arwr yn sefyll yn gadarn yn erbyn y tywydd a rhagfarn.

Mae'n ddiddorol hefyd nodi cymaint mwy o angerdd sydd yn ymysodiadau Glyn ar yr Hunting with Dogs Act nag a lwyddodd i gynhyrchu wrth amddiffyn y Sianel Gymraeg. Efallai y byddai Glyn wedi gwneud mwy o ymdrech i amddiffyn y Sianel petai hela gyda chwn yn cael ei ddarlledu'n fyw arno o bryd i'w gilydd (erbyn meddwl, hwyrach y dylai Awdurdod S4C roi ystyriaeth i'r mater yma yn eu cyfarfod nesaf)

Er, mewn gwirionedd ffug 'angerdd' mae Glyn yn ei ddangos wrth gwrs. Mae plaid Glyn yn rheoli yn San Steffan ar hyn o bryd, a 'does ganddyn nhw ddim y bwriad lleiaf i ddiddymu'r Ddeddf yn ystod bywyd y llywodraeth yma; a hyd y gwn i 'dydi Glyn ddim yn ceisio dyladwadu arnynt i wneud hynny chwaith. Rhyw flogiad bach hunan dosturiol sydd yn gwneud iddo fo'i hun ymddangos yn dipyn o arwr yn sefyll yn y glaw yn erbyn rhagfarn sydd gan Glyn yma - er y byddai ymladd ei achos ar lawr Ty'r Cyffredin yn llawer mwy effeithiol mewn gwirionedd - o safbwynt cael canlyniadau a chadw'n sych. Hel fots heb orfod gwneud llawer ond gwlychu a smalio tantro ydi'r ymarferiad mae gen i ofn.

Ar nodyn cysylltiedig ond gwahanol, mae'n ddiddorol i bol gan ISPOS MORI, a gomiwsiynwyd gan y League Against Cruel Sports, ac a gyhoeddwyd ar Wyl San Steffan ddangos bod 76% o boblogaeth y DU eisiau cadw'r gwaharddiad ar hela llwynogod tra mai 18% yn unig sydd am ei wyrdroi. Mae mwy na hynny yn erbyn hela ceirw ac ysgyfarnogod, ac yn gwbl groes i'r hyn mae Glyn yn ei honni ar ei flog, mae mwyafrif clir iawn o bobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig yn cefnogi'r gwaharddiad hefyd.

Ond, yn y cyfamser, mae'r Countryside Alliance wedi comiwsiynu pol gan ORB lle mae cwestiynau gwahanol yn cael eu gofyn - Do you think that banning hunting and the subsequent requirement to police the ban is a good use of police resources? (62% Na, 33% Ia) a - Do you think that animal rights activists should be allowed to take the law into their own hands for the purpose of protecting wild animals? (Na 85% a Ia 13%).

'Rwan mae cwestiynau'r Countryside Alliance wedi eu llwytho wrth gwrs, ac mae'n ddamniol i'w hachos nad ydyn nhw'n fodlon gofyn y cwestiwn syml os ydi pobl yn cytuno efo'r gwaharddiad neu beidio. Ond mae hefyd yn ymarferiad diddorol o ran nodi pa mor bwysig ydi gofyn y cwestiwn 'cywir' er mwyn cael yr ateb 'cywir' mewn gwleidyddiaeth.

Sunday, December 26, 2010

Problemau cytundeb etholiadol rhwng y Lib Dems a'r Toriaid

Mi fydd yna bethau rhyfeddol ac anisgwyl yn digwydd tros y Nadolig - ac mi ddigwyddodd rhywbeth felly acw heddiw - cawsom y Sunday Telegraph am rhyw reswm - ac am y tro cyntaf ers cyn cof.

Yn naturiol ddigon 'doedd yna neb eisiau cael ei weld yn darllen y peth, ac mi eisteddodd ar fwrdd y gegin heb ei agor am rai oriau. Fi oedd y cyntaf i dorri'r tabw mae gen i ofn - roedd y pennawd ar y dudalen flaen yn ormod o demtasiwn - Top Tory Calls For Vote Pact.

Byrdwn y stori ydi bod rhyw weinidog di enw sydd, yn ol y papur, yn agos at Cameron eisiau cytundeb efo'r Lib Dems iddynt beidio a sefyll yn erbyn ei gilydd mewn rhai etholaethau yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Rwan gall dyn weld pam y byddai hyn yn demtasiwn i aelodau seneddol Toriaid - maen nhw ar ol Llafur yn y polau ar hyn o bryd, a phetai yna etholiad fory byddant yn ol lle maent wedi bod am y rhan fwyaf o'r tair blynedd ar ddeg diwethaf - ar feinciau'r gwrthbleidiau. Byddai'n fwy o demtasiwn fyth i'r Lib Dems, pe byddai yna etholiad 'fory, mi fyddai'r rhan fwyaf ohonyn nhw yn y ganolfan waith y diwrnod wedyn.

Ond byddai yna broblemau sylweddol ynghlwm a dilyn y trywydd yma. Yn gyntaf 'dydi pleidiau gwleidyddol ddim yn 'berchen' eu cefnogwyr. Mae rhoi dwy blaid at ei gilydd yn cynhyrchu rhywbeth sy'n llai na chyfanswm y ddau ran fel rheol.

Yn fwy arwyddocaol byddai'n achosi cryn dyndra ar sawl lefel - efallai bod Clegg a Cameron yn meddwl y byd o'i gilydd, ond mae actifyddion ar lawr gwlad hyd yn oed yn llai hoff o'i gilydd na'r gweinidogion eraill. Ymhellach, byddai darparu rhyw fath o yswiriant i'r Lib Dems yn San Steffan, tra'n gadael eu cynghorwyr a'u Haelodau Cynulliad a Senedd yr Alban i gael eu llabuddio gan yr etholwyr oherwydd polisiau'r aelodau San Steffan hynny yn achosi drwg deimlad mewnol sylweddol.

Mi fydd gweld sut y bydd y stori yma'n datblygu yn ddiddorol.

Friday, December 24, 2010

'Dolig Llawen

Toriaid yn 'nutters' - Peter Black

Un rhyfedd ydi Peter Black. Fe glywsom wythnos diwethaf ei fod yn ystyried Leighton Andrews yn cretin, ond ymddengys ei fod hefyd yn ystyried partneriaid ei blaid yn San Steffan yn nutters. Wnaeth o ddim trafferthu i egluro pam bod ei blaid wedi mynd i bartneriaeth efo, a rhedeg y DU yng nghwmni y cyfryw lwyth o nutters - ond dyna fo.

Mae'n drist gweld Peter mor flin, cegog a ffraegar a hithau'n dymor o ewyllys da fel hyn. Tybed os oes yna rhywbeth neu'i gilydd yn ei boeni?

Arweinydd plaid Peter yng Nghymru efo dau nutter.

Diweddariad 20:30 - Mae Peter bellach wedi cymedroli ei sylwadau, ac mae'n ymddangos mai dim ond Toriaid adain Dde ydi'r nutters bellach - Thank goodness the Liberal Democrats are there to keep the nutters on the right wing of the Tory party in check. Toriaid yn gyffredinol oedd yn ei chael hi y bore 'ma.

Peth gwych ydi'r 'Dolig - gall feirioli'r mwyaf cegog hyd yn oed.

Thursday, December 23, 2010

Y polau, y Blaid ac etholiadau'r Cynulliad


Y pwynt cyntaf a'r pwysicaf i'w wneud ydi hwn - mae'r Blaid yn ymladd pob etholiad gydag un fraich y tu ol i'w chefn, ac mae Llafur yn ymladd pob etholiad yng Nghymru efo'r gwynt yn ei hwyliau.

Mae'r rheswm am hyn yn syml. Materion economaidd sy'n gyrru etholiadau ym Mhrydain. Mae Cymru yn tan berfformio yn economaidd yn barhaus - bron yn gyfan gwbl ddi eithriad - a'r rheswm am hyn ydi nad oes ganddom ddigon o reolaeth tros ein heconomi ein hunain i fynd i'r afael a'n hanfanteision strwythurol a daearyddol. Does yna ddim rheswm yn y Byd i fusnesau sylweddol leoli yng Nghymru yn hytrach nag yn Ne Ddwyrain Lloegr, oni bai bod yna gyfundrefn drethiannol mwy cystadleuol gennym. Yn absenoldeb hynny, ac oherwydd y tan berfformiad economaidd sy'n dilyn, mae Cymru yn ddibynnol iawn ar wariant cyhoeddus, ac mae'r blaid sydd yn gallu addo mwy o wariant cyhoeddus, a gwneud hynny'n gredadwy, efo mantais etholiadol sylweddol. Dyma graidd goruwchafiaeth Llafur yng Nghymru, y gallu i addo gwariant cyhoeddus, ynghyd a diffyg dadansoddiad cenedlaetholgar credadwy a dealladwy o sut y byddai mwy o ymreolaeth yn cryfhau economi'r wlad.

'Dydi hi ddim yn cael ei ystyried yn gwrtais i drafod effeithiadau economaidd, ac yn wir dynol, y setliad cyfansoddiadol presenol ar Gymru, er mai dyma ddylai fod yn brif fater gwleidyddol y wlad mewn gwirionedd.

Rwan 'dydi pawb ddim yn pleidleisio am resymau sy'n ymwneud a'r economi, a 'dydi'r patrwm ddim yr un peth ym mhob math o etholiad. Mae ffactorau economaidd yn llawer pwysicach mewn etholiadau San Steffan nag ydynt mewn etholiadau cyngor er enghraifft. Mae ffactorau economaidd yn bwysicach mewn etholiadau Cynulliad nag ydynt mewn rhai cyngor, ond maent yn llai pwysig nag ydynt mewn rhai San Steffan. Mae hyn yn un rheswm pam bod y Blaid yn perfformio yn gryfach ar lefel Cynulliad (a chyngor). Mae yna resymau eraill hefyd wrth gwrs - mae'r cwestiwn sylfaenol yn wahanol (pwy ddylai reoli Cymru? yn hytrach na phwy ddylai reoli Prydain?), 'dydi'r cyfryngau ddim yn chwarae rhan mor bwysig yn yr etholiad, a does yna ddim cymaint o anghytbwysedd rhwng y pleidiau unoliaethol a'r un genedlaetholgar er enghraifft.

Y broblem sylfaenol i'r Blaid yn yr etholiad sydd o'n blaenau ydi bod ffactorau economaidd am fod yn bwysicach nag yw yn arferol mewn etholiadau Cynulliad - mae hyn oherwydd bod y cyd destun gwleidyddol ehangach yn cael ei ddominyddu yn gyfangwbl gan ddadl sy'n ymwneud a gwariant cyhoeddus ar hyn o bryd. Tir Llafur ydi hwn. Mi fyddai pethau wedi bod yn llawer, llawer haws petai Llafur mewn grym yn San Steffan - ond 'dydyn nhw ddim.

Problem arall ydi'r ffaith mai'r newid mawr yng ngwleidyddiaeth Cymru ydi chwalfa'r bleidlais Lib Dem. 'Dydi hon ddim yn bleidlais sy'n debygol o droi'n hawdd at y Blaid. Y Lib Dems ydi'r blaid fwyaf Seisnig yng Nghymru, ac mae'n apelio at rhai o'r elfennau mwyaf Seisnig mewn cymdeithas Gymreig. Nid ydi Plaid Cymru yn borthladd naturiol i'r bobl yma.

Rwan, 'dwi ddim eisiau swnio'n rhy besimistaidd. Mae yna ffactorau mwy cadarnhaol i'r Blaid hefyd:
  • Fel y Toriaid, mae'n pleidlais (os ydi'r polau piniwn i'w credu) yn soled iawn - mae'n debyg i'r hyn oedd yn 2007.
  • Mae yna hafn gwleidyddol wedi agor yng Nghymru tros y misoedd diwethaf, ac mae'n ymwneud a'r cwestiwn gwariant cyhoeddus. Mae'r Blaid ar ochr 'gywir' yr hafn - o safbwynt y math o bobl mae'n ceisio apelio arnynt.
  • Mae'n haws gwrthsefyll llif mewn etholaethau unigol mewn etholiad Cynulliad nag ydi hi mewn etholiad San Steffan. Er enghraifft roedd llif cryf yn erbyn y Blaid yn genedlaethol yn 2003 yn dilyn ymgyrch gasineb Trinity Mirror. Ond llwyddwyd i wrthsefyll hynny mewn ambell i le - yn nodedig yng Ngorllewin Caerfyrddin / De Penfro. Y rheswm am hyn ydi nad ydi'r naratif cyfryngol yn boddi pob dim arall mewn etholiadau Cynulliad.
  • Mae'r Glymblaid wedi bod yn ddigon llwyddiannus, ac mae gan y Blaid bethau y gallant gyfeirio atynt sydd wedi eu sicrhau oherwydd ei dylanwad hi. Mae nifer o'r materion hyn yn rhai sy'n bwysig i bleidleiswyr anturiol y Blaid (materion yn ymwneud a'r iaith, refferendwm ac ati), a bydd hynny yn ei dro yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd y bleidlais greiddiol honno yn pleidleisio.
  • Mae gan y Blaid ymgeiswyr cryf - cryfach na rhai'r pleidiau unoliaethol, ac yn arbennig felly yn rhai o'r etholaethau allweddol. Mae cyfle i'r lleol a'r personol wneud argraff mewn etholiadau Cynulliad.
  • Gall canlyniad cadarnhaol i'r refferendwm pwerau deddfu i'r Cynulliad roi hwb i ymgyrch y Blaid, fel y gwnaeth y refferendwm Cynulliad cyntaf.
Mae gwersi hefyd i'w dysgu o'r ymgyrch Cynulliad diwethaf, lle gwnaeth y Blaid yn llawer gwell nag oedd aml i un yn disgwyl. Roedd ganddi amrediad o bolisiau trawiadol, rhoddwyd ystyriaeth fanwl i faterion lleol (cynlluniau'r llywodraeth i gau ysbytai er enghraifft) a chanolbwyntwyd adnoddau ar etholaethau enilladwy.

Felly, er bod y tirwedd gwleidyddol ehangach yn anffarfiol i'r Blaid, mae yna ffactorau yn gweithio'r ffordd arall hefyd. 'Does yna ddim rheswm pam na ddylai'r Blaid gynnal ei sefyllfa bresennol, os nad symud ymlaen ychydig. Byddai gwneud hynny ynghyd a chadw Llafur yn is na 30 sedd yn sicrhau rol lywodraethol unwaith eto. Mae'r pedair blynedd diwethaf wedi bod yn rhai lle mae'r Blaid wedi gwneud gwahaniaeth arwyddocaol i sut wlad ydi Cymru, ac mae'r blynyddoedd hynny wedi cynyddu ei hygrydedd hefyd.

Byddai pedair blynedd arall mewn llywodraeth yn atgyfnerthu'r newidiadau cadarnahol i'r wlad ac i ddelwedd cyffredinol y Blaid. Gobeithio y byddant hefyd yn flynyddoedd fydd yn gweld yr achos economaidd tros fwy o ymreolaeth i Gymru yn cael ei ddatblygu a'i leisio.

Wednesday, December 22, 2010

Mwy am y Lib Dems

Ymddengys bod ffigyrau polio Cymreig ITV / YouGov yn ddigon tebyg i'r joban cefn amlen sydd gen i isod - ond eu bod mymryn yn waeth i'r Lib Dems hyd yn oed.

Mae yna bosibilrwydd real mai Peter Black fydd y Blaid Lib Dem yn y Cynulliad ac mai pumed neu chweched plaid fydd hi yno gydag UKIP ac o bosibl y BNP hyd yn oed yn dod o'u blaenau.

Yr unig gysur iddynt am wn i ydi'r ffaith y caiff ego Peter ei gynnal trwy fod yn arweinydd ei blaid yng Nghymru yn ogystal a bod yn llefarydd iddynt ar pob agwedd o fusnes y Cynulliad.

Gobeithio y bydd ganddo ddigon o amser ar ol i flogio, wir Dduw!

Tuesday, December 21, 2010

Vince Cable, y polau piniwn a'r rhagolygon i'r Lib Dems yng Nghymru

Wna i ddim gwneud rhyw lawer o'r stori Vince Cable - mae'r cyfryngau prif lif wrthi yn gwneud hynny bymtheg y dwsin. Mi fyddwn yn nodi, fodd bynnag, ei bod yn ddiddorol bod y dyn yn teimlo ei fod yn gorfod cyfiawnhau ei hun i'r fath raddau i 'etholwyr' - a rhai nad oedd wedi dod ar eu traws o'r blaen ar hynny.

Cyd destun ehangach hyn oll ydi ffigyrau polio (Prydeinig) gwirioneddol isel isel i'r Lib Dems - 12% gan IMS ac 11% gan ComRes er enghraifft. Mae'n gryn gyfnod ers i'r blaid bolio cyn ised a hyn (70au'r ganrif ddiwethaf 'dwi'n meddwl), ac mae'n awgrymu iddynt golli tua hanner eu cefnogaeth ers yr etholiad cyffredinol ym Mis Mai.

Ychydig fisoedd yn ol mi es i ati i greu dull cefn amlen i gyfieithu'r ffigyrau (Lib Dem) Prydeinig i rhywbeth sy'n gwneud synnwyr mewn cyd destun etholiadau Cynulliad. Roedd cefnogaeth y Lib Dems yn y DU yn 15% bryd hynny.

Ystyrier y ffigyrau hyn. Yn etholiad cyffredinol 2005 cafodd y Lib Dems 22% o'r bleidlais tros Brydain ac 18.4% yng Nghymru. Cyfieithodd hyn i 14.8% yn etholiadau'r Cynulliad yn yr etholaethau ac 11.7% ar y rhestrau yn 2007. Hynny yw roedd y Lib Dems yng Nghymru yn cael 83% o'r hyn y cafodd y blaid tros Brydain yn ei gael yn 2007, ac roeddynt yn cael 80% o hynny yn etholiadau'r Cynulliad yn yr etholaethau a 63.5% ar y rhestrau. 'Dwi'n gwybod bod hyn yn beth peryglus i'w wneud - ond os cymerwn bod cefnogaeth y Lib Dems tros Brydain bellach yn tua 15% (fel mae'r polau yn awgrymu), yna byddai'r gefnogaeth yng Nghymru yn 12.45% (mewn termau San Steffan). A chymryd mai tua 80% ar lefel etholaethol a 63% ar y rhestrau o hynny all y Lib Dems ei ddisgwyl ar lefel Cynulliad, yna byddai eu canran o gwmpas 10% yn yr etholaethau ac 8% ar y rhestrau. 'Dydi hyn ddim yn uchel.*


Rwan, os ydym yn ailadrodd yr ymarferiad cefn amlen yma gyda’r ffigyrau polau piniwn diweddaraf, mae’r rhagolygon ar gyfer mis Mai i’r Lib Dems yn edrych yn wirioneddol erchyll yng Nghymru. A chymryd 12% fel y ffigwr Prydeinig ar gyfer etholiadau San Steffan, byddai hyn yn cyfieithu i ychydig yn is na 10% ar lefel San Steffan iddynt yng Nghymru. Byddai hyn yn ei dro yn cyfieithu i 8% yn yr etholaethau mewn etholiadau Cynulliad a 6.3% yn y rhanbarthau.

I werthfawrogi gwir erchylldra’r ffigyrau yma mae’n rhaid eu cyfieithu i seddi. Ar hyn o bryd mae gan y blaid dair sedd uniongyrchol, Brycheiniog a Maesyfed, Maldwyn a Chanol Caerdydd. A chymryd y byddant yn colli 46% o’u pleidlais (fel mae’r ffigyrau uchod yn awgrymu) byddant yn debygol o golli’r dair. Fyddai yna ddim llawer o gysur i’w gael yn y rhanbarthau chwaith. Mi fyddai yna yn agos at hanner y bleidlais yn mynd yno hefyd, gan sicrhau y byddai’r sedd yn y Gogledd yn cael eu cholli, ei gwneud yn debygol iawn y byddai’r un yn Nwyrain de Cymru yn mynd – ac yn rhoi’r dair arall mewn perygl. Ar y ffigyrau yma byddai'n bosibl na fyddai gan y blaid gynrychiolaeth o gwbl yn y Cynulliad ar ol Mis Mai - yn union fel sefyllfa UKIP a'r BNP rwan. 'Dwi ddim yn dweud bod hyn am ddigwydd o anghenrhaid - ond ar y ffigyrau diweddaraf mae'n bosibl.

'Does dim rhaid i mi ddweud y byddai goblygiadau pell gyrhaeddol i hyn oll o ran y glymblaid yn Llundain. Fyddai cael hyd at chwech cyn Aelod Cynulliad o Gymru yn eistedd ar eu bodiau yn grwgnach ddim yn broblem fawr ynddo'i hun, ond mae'n debygol y byddai rhywbeth tebyg wedi digwydd yn yr Alban, ac yn bwysicach eto, mae hefyd yn debygol y bydd canoedd o gyn gynghorwyr o ardaloedd trefol Lloegr (mae lle i gredu bod y Lib Dems yn gwneud yn eithaf mewn rhannau cyfoethog o Loegr) yn cael eu hunain efo cryn dipyn o amser ar eu dwylo - hen ddigon o amser i wthio'r cwch i'r dwr.

Mewn geiriau eraill bydd y pwysau sy'n peri i Vince Cable ymddwyn mor anoeth ar hyn o bryd yn llawer, llawer mwy erbyn dechrau'r haf. Mi fydd hi'n gryn sialens i Clegg ddal y sioe at ei gilydd.

*Un nodyn bach technegol efo'r ffigyrau uchod - roedd ffigyrau'r Lib Dems (ICM) rhwng 1% a 2% yn is yn y polau Prydeinig amser etholiadau'r Cynulliad nag oeddynt yn 2005 - 'dydi'r gwahaniaeth ddim yn fawr, ond gallai wneud i fy sgriblo cefn amlen or wneud yr erchylldra rhyw fymryn.

Sunday, December 19, 2010

Efallai bod pwynt gan Peter Black _ _ _

_ _ _ nid ei honiad bod Leighton Andrews yn gretin wrth gwrs - mae'r sylw yna'n hysteraidd a gwirion hyd yn oed o dan safonau Peter pan mae'n cael y myll. Son am ei ofid am natur ymgyrch Ia'r Blaid Lafur ydw i.

Mi fyddwch yn gwybod mae'n debyg bod Llafur yn rhedeg ymgyrch lled annibynnol o'r brif ymgyrch. Mae'r rhan fwyaf ohonom sydd eisiau canlyniad cadarnhaol i'r refferendwm wedi rhyw dderbyn bod hynny'n beth da - wedi'r cwbl go brin bod neb yn gwybod sut i gael y bleidlais lwythol Lafuraidd allan yn well na'r Blaid Lafur ei hun.

Ond - ac mae yna ond go fawr yma - mae cael y bleidlais Lafur allan yn un peth, ond mae pechu pleidleiswyr Ia potensial Lib Dem a Thoriaidd yn fater arall. 'Dwi ddim yn amau y byddai ymgyrch lwythol fyddai'n sicrhau bod, dyweder, 70% o bleidleiswyr Llafur yn rhoi eu croes yn y bocs cywir yn ddigon i sicrhau pleidlais Ia - o'i roi ynghyd a'r 90%+ o bleidleiswyr Plaid Cymru fydd yn siwr o fod yn yr un corlan. Ond mae er lles tymor hir i ddatganoli bod cymaint a phosibl o bleidleiswyr y Lib Dems a'r Toriaid hefyd yn pleidleisio Ia.

Mae cefnogaeth eang i ddatganoli yn well na chefnogaeth lwythol a chyfyng. Mae pwysleisio y byddai pleidlais Ia yn gic i'r glymblaid yn Llundain ac yn hwb i ymgyrch Llafur yn etholiadau'r Cynulliad yn cyfyngu ar amrediad y gefnogaeth bosibl. Gellir awgrymu'r neges honno heb wneud mor a mynydd o'r peth. Yn anffodus 'dydi Llafur ddim yn dewis mynd o gwmpas pethau felly - ac mae Peter yn gywir i dynnu sylw at y peth.

Saturday, December 18, 2010

Refferendwm newydd, ond yr un hen g**hu gyfeiriad yr ochr Na

Yn ol yr ymgyrch Na, ni allant ddod o hyd i'r un enaid byw sy'n fodlon siarad yn y Gymraeg trostynt efo'r cyfryngau - mae'n ymddangos bod ganddynt ddigon o gefnogwyr Cymraeg eu hiaith - ond bod y rheiny'n ofn dychwelyd i'w cymunedau ar ol mynegi safbwyntiau sy'n wrthwynebus i roi pwerau deddfu i'r Cynulliad.

Rwan, mae'n ddrwg gen i - ond 'dydw i ddim yn credu gair o'r nonsens yma.

Mae gennym fel Cymry Cymraeg draddodiad maith o gynhyrchu hunan gasawyr niwrotig ym mowld y diweddar D Elwyn Jones, a does yna'r un ohonyn nhw wedi dod i unrhyw niwed. Petai'r ymgyrchwyr Na yn trafferthu chwilio byddant yn dod o hyd i ddigonedd o bobl fyddai ond yn rhy fodlon i gael eu hwynebau ar ein sgriniau teledu i ddadlau eu hachos. Mi allant ddechrau holi ymysg y criw bach dethol o aelodau seneddol Toriaidd Cymraeg eu hiaith.

Mae'r cysyniad bod yr holl Gymry Cymraeg yn byw mewn cymunedau Cymraeg hefyd yn un rhyfedd. Heb fynd trwy'r ffigyrau'n fanwl, mi fyddwn yn awgrymu'n bod mwy na 40% o siaradwyr Cymraeg yn byw mewn cymunedau sy'n defnyddio'r Saesneg yn unig i bob pwrpas.

Felly pam creu'r nonsens rhyfedd yma? Mae'r ateb yn weddol amlwg mi dybiwn. Mae'n ddefnyddiol i'r ymgyrch Na bortreadu'r Cymry Cymraeg fel cenedlaetholwyr plwyfol, chwerw sydd i gyd yn byw yn yr un pentrefi ofnadwy yn rhywle yn y Gorllewin pell, a sy'n taflu tar a phlu tros bawb sydd ddim yn cytuno efo'u rhagfarnau.

Roedd pardduo Cymry Cymraeg yn ffrwd bwysig o dan wyneb yr ymgyrch Na, yn 79 ac yn 97, ac mae rwdlan diweddaraf True Wales i'w ddeall yn y cyd destun hwnnw.

Beth sydd y tu cefn i'r ymgyrch yn erbyn Awdurdod S4C?

'Doeddwn i erioed wedi clywed y term arwahanrwydd cyn helyntion diweddar S4C. Defnyddir y term yn y cyd destun yma i ddisgrifio'r polisi o gadw hyd braich rhwng Awdurdod y sianel a'i swyddogion. Diflanodd yr arwahanrwydd hwnnw fel gwynt o flaen glaw yn sgil cyfuniad o drafferthion yn dilyn newid llywodraeth yn San Steffan. 'Dydi hynny ynddo'i hun ddim yn syndod mawr - byddai'n rhesymol disgwyl ymyraeth uniongyrchol gan yr Awdurdod yn sgil y gors roedd y sianel wedi cael ei hun ynddi erbyn hynny.

Beth bynnag, mae diflaniad yr arwahanrwydd hwnnw wedi arwain at ddiflaniad pob math o arwahanrwydd mewn perthynas a'r sianel. Datblygodd arwahanrwydd rhyfeddol rhwng yr Awdurdod a'i gadeirydd. Mae'n anarferol i wleidyddion alw'n agored am ymddiswyddiad aelodau cwango, ond mae hyn wedi digwydd sawl gwaith yn ddiweddar yn achos Awdurdod S4C - gydag amrediad o wleidyddion o aelodau seneddol Toriaidd i Lywydd y Cynulliad yn gwneud hynny. Mae golygydd materion Cymraeg y Bib, Vaughan Roderick yn ei dro wedi tynnu sylw at gynildeb efo'r gwirionedd ar ran Arwel Ellis Owen, Prif Weithredwr S4C - er bod Vaughan, yn wahanol i'r gwleidyddion, yn darparu tystiolaeth tros ei osodiad.

'Rwan mae'n bosibl bod gan yr oll o'r bobl uchod resymau da tros alw am ymddiswyddiad yr Awdurdod, mae nhw'n cael mwy o wybodaeth na chi neu fi - ond mae yna stori arall yn mynd rhagddi yn y cefndir. Mae'r Awdurdod wedi mynegi bod newid polisi comisiynu ar y gweill - ac y bydd mwy o gyfle i gwmniau cynhyrchu llai a chwmniau newydd gael gwaith. Mae goblygiadau pell gyrhaeddol, anymunol a hynod o ddrud yn y newid yma i'r cwmniau cynhyrchu sy'n dominyddu allbwn y sianel ar hyn o bryd. Byddai'n naturiol ddigon i'r cwmniau hynny geisio amddiffyn eu sefyllfa - a'r ffordd amlwg o wneud hynny fyddai trwy briffio pobl sydd a dylanwad - megis gwleidyddion a'r cyfryngau torfol - a briffio yn erbyn ffynhonnell y bygythiad iddynt - Awdurdod S4C yn yr achos yma.

'Dwi ddim yn gwybod os ydi hyn yn digwydd neu beidio - does gen i ddim ffordd o wybod hynny. Ond efallai y dylai'r sawl sydd a'u cyllell yn Awdurdod S4C ystyried yn ddwys o ble mae'r wybodaeth maent yn seilio eu gwrthwynebiad i'r corff arno wedi dod, ac ymhellach holi pam maent yn cael y wybodaeth honno wedi ei gyflwyno iddynt.

Y drwg efo darogan pethau _ _ _

_ _ _ ydi bod darogan yn anghywir yn gwneud i chi edrych yn ofnadwy o wirion weithiau.

Hwn o'r Independent yn 2000 - teitl yr erthygl oedd Snowfalls are now just a thing of the past


However, the warming is so far manifesting itself more in winters which are less cold than in much hotter summers. According to Dr David Viner, a senior research scientist at the climatic research unit (CRU) of the University of East Anglia,within a few years winter snowfall will become "a very rare and exciting event".

"Children just aren't going to know what snow is," he said.

The effects of snow-free winter in Britain are already becoming apparent. This year, for the first time ever, Hamleys, Britain's biggest toyshop, had no sledges on display in its Regent Street store. "It was a bit of a first," a spokesperson said.



Y llun oedi ei ddwyn oddi wrth Golwg.

Friday, December 17, 2010

Cynlluniau'r Toriaid ar gyfer llywodraeth leol

Diolch i Plaid Wrecsam am roi syniad i ni o'r toriadau mae Toriaid Cymru yn eu cynllunio ar gyfer cynghorau'r wlad os byddant yn cael eu dwylo ar rym yn y Cynulliad y flwyddyn nesaf.

Ynys Mon 3,038,114
Gwynedd 5,465,372
Conwy 4,703,120
Dinbych 4,355,462
Fflint 6,016,013
Wrecsam 4,442,081
Powys 4,990,116
Ceredigion 2,261,995
Penfro 5,201,787
Caerfyrddin 6,954,764
Abertawe 8,992,538
Castell Nedd 6,393,560
Pen y Bont 5,339,769
Bro Morgannwg 4,899,205
RCT 11,183,241
Merthyr 2,804,854
Caerffili 8,165,050
Blaenau Gwent 3,527,828
Torfaen 4,216,282
Mynwy 3,128,221
Casnewydd 6,322,036
Caerdydd 5,723,012

Thursday, December 16, 2010

Yr anghytundeb yn Golwg rhwng Cymdeithas yr Iaith a Llais Gwynedd

Roeddwn wedi synnu braidd o ddarllen yn Golwg yr wythnos yma bod Rhys Llwyd wedi trafferthu i ysgrifennu llythyr yn ymateb i gwynion a fynegwyd yr wythnos cynt gan un o gynghorwyr Llais Gwynedd, na chawsant annerch y dyrfa ym mhrotest Cymdeithas yr Iaith yng Nghaernarfon.

Mae'n ymddangos i mi y byddai yn gwbl amhriodol i wahodd y grwp i'r rali. Roedd y grwpiau a gafodd wahoddiad yn ddi amwys yn erbyn y toriadau - neu a'i roi mewn ffordd arall, yn grwpiau sydd ar y Chwith.

Mae sefyllfa Llais Gwynedd yn wahanol. 'Dwi'n dilyn gwleidyddiaeth yn weddol agos, a 'dwi ddim yn siwr o bell ffordd beth ydi eu hagwedd at y toriadau. Yn sicr, a barnu o'u blogiau roeddynt yn rhyw led groesawu'r glymblaid toriadau - hobnobian mewn cyfarfodydd etholiadol Toriaidd, gwichian pan mae dyn yn tynnu sylw at y ffaith bod bron i holl gabinet y glymblaid yn bobl sydd ddim yn gorfod poeni am unrhyw doriadau mewn gwariant cyhoeddus, ymateb yn ecstatig pan mae'r Toriaid yn cael ychydig o hwyl ar recriwtio, cynhyrchu amddiffyniadau dagreuol pan roedd rhywun neu'i gilydd yn beirniadu'r Blaid Doriaidd, ymosod ar y pleidiau gwrth Doriaidd ac ati ac ati (mae yna gryn dipyn mwy o'r stwff yma). Roeddynt hyd yn oed wedi argyhoeddi eu hunain mai protest yn rhannol yn erbyn Plaid Cymru oedd y Gymdeithas wedi ei threfnu.

Yn fy marn bach i mi fyddai'r Gymdeithas wedi bod yn ffol iawn i roi gwahoddiad i Lais Gwynedd - Duw a wyr beth fyddai wedi digwydd - mae'n ddigon posibl y byddai rhywun neu'i gilydd wedi sefyll ar y platfform ar eu rhan a chanu clodydd y Toriaid a chyfiawnhau'r toriadau.

Protest yn erbyn y toriadau oedd hi wedi'r cwbl.

Cau Canolfannau Gwylwyr y Glannau

Felly mae llywodraeth San Steffan wedi penderfynu gwneud y Mor Celtaidd, sydd eisoes yn hynod beryglus, hyd yn oed yn fwy peryglus, trwy gau canolfannau Gwylwyr y Glannau yn Aberdaugleddau a Chaergybi. Penderfyniad ysbrydoledig arall ar ran y glymblaid yn San Steffan.

Cyn bod canolfan Caergybi yn cael y fwyell, mi fyddai rhywun wedi disgwyl rhyw fath o ymateb gan flog mwyaf plwyfol a mewnblyg Cymru - un y Tori o Ynys Mon. Ond na - does yna ddim sylw o unrhyw fath ar y pwnc eto. Yn wir, mae'n rhy brysur i gymryd sylw o'r mater oherwydd iddo gynhyrfu cymaint am stori yn Economist wythnos diwethaf sy'n damcaniaethu bod cysylltiadau nes rhwng Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr na sydd rhwng De Gogledd Cymru - yn nhermau telegyfathrebu o leiaf.

'Dwi'n siwr mai'r un stori yn union fyddai ganddo petai'r Cynulliad yn gyfrifol am gau'r canolfannau.

Diweddariad 17.45 - Hmm - mae yna flogiad ar y pwnc newydd ymddangos. Mae o'n un diddorol - mae'n dweud ei fod wedi 'sgwennu llythyr yn mynegi gofid am y penderfyniad, cyn mynd ati i'w gyfiawnhau. Yn ol y Derwydd bydd nifer o'r gweithwyr yn cael swyddi sy'n talu yn well, ni fydd unrhyw effaith ar y gwasanaeth a gynigir gan wirfoddolwyr a'r RNLI, ni fydd effaith ar ansawdd y wasanaeth, ni fydd y ganolfan yng Nghaergybi yn cau hyd 2014/2015.

Pethau da ydi'r toriadau Toriaidd 'ma - gwasanaeth yn aros yr un peth, gweithwyr yn cael mwy o gyflog, dim byd yn digwydd am achau.

Wednesday, December 15, 2010

Beth sydd gan y diwydiant arfau a'r diwydiant darlledu yn gyffredin?


Dwi'n gwybod ei fod yn gwestiwn rhyfedd, a na 'dydw i ddim wedi treulio'r noswaith yn yr Alex. Ond mi fyddwn yn awgrymu bod gan y ddau ddiwydiant gryn dipyn yn gyffredin.

Ystyriwch gwmni cynhyrchu systemau arfau fel BAE er enghraifft. Mae'r cwmni yn gweithredu mewn marchnad hynod anarferol - mae eu prif gwsmeriaid yn hynod o brin. I bob pwrpas dim ond llywodraethau sydd ar gael iddynt fel cwsmeriaid, a 'dydi pob llywodraeth ddim ar gael o bell ffordd. Fyddwn i ddim yn meddwl bod llywodraeth Prydain yn debygol o ganiatau i BAE werthu eu system Nimrod MRA4 i lywodraeth Iran yn y dyfodol agos rhywsut. Mae marchnad fel hyn yn cyferbynnu'n llwyr a sefyllfa'r rhan fwyaf o farchnadoedd. Cymerer Tesco er enghraifft - mae eu cwsmeriad nhw yn niferus iawn - mae ganddyn nhw ddegau o filiynau ohonynt.

Gall gweithredu mewn marchnad gyda chyn lleied o gwsmeriaid gael effaith syfrdanol ar y ffordd y bydd busnes yn cael ei wneud. Chwi gofiwch mae'n debyg i'r Tywysog Andrew gael ei hun yn y newyddion yn ddiweddar am feirniadu ymchwiliad i lygredd honedig ar ran BAE wrth werthu arfau i Saudi Arabia. Mae'n ymddangos bod y llywodraeth Lafur ar y pryd yn rhyw gytuno efo fo, daethant a'r ymchwiliad i ben oherwydd nad oedd ei chynnal 'er budd i'r cyhoedd'. Yr honiad oedd yn destun yr ymchwiliad oedd bod BAE wedi rhoi symiau mawr iawn o arian i aelodau o deulu brenhinol Saudi Arabia er mwyn sicrhau contractau. Mae'n ymddangos bod Andrew a llywodraeth y dydd yn derbyn bod cynnig llwgr wobreuon yn dderbyniol yn y maes arbennig yma.

Ag anghofio moesoldeb gwerthu arfau, ac yn wir moesoldeb llygredd am funud, 'dydi hi ddim yn anodd gweld pam bod Andrew a'r llywodraeth wedi argyhoeddi eu hunain o briodoldeb yr hyn a wnaeth BAE. Lle'r oedd nifer fach o bobl nad oeddynt yn atebol i fawr neb yn gwneud penderfyniadau gwerth biliynau, ac yn gwneud hynny mewn cyd destun diwylliant lle mae kick back yn arferol ac yn dderbyniol gellir gweld pam y byddai cwmni yn cael ei demtio i weithredu yn y modd yma.Ychwanegwch at hynny y ffaith mai nifer fach iawn o gwsmeriaid oedd ar gael, ac mae gweithredu yn y ffordd yma yn fwy o demtasiwn fyth. Mewn geiriau, eraill mae diffyg cwsmeriaid wedi gwyrdroi arferion masnachu arferol i'r fath raddau nes ei fod wedi cyfrannu at sefyllfa lle mae llywodraeth Prydain i bob pwrpas yn cymeradwyo torri'r gyfraith.

Mae darlledu yn gyffredinol mewn sefyllfa debyg - ychydig o gwsmeriaid (cwmniau darlledu), llawer mwy o werthwyr potensial (cynhyrchwyr). Yng Nghymru mae'r sefyllfa hyd yn oed yn llai cytbwys. 'Dydi cynhyrchwyr Cymreig at ei gilydd ddim yn llwyddo i werthu eu cynnyrch i ddarlledwyr Seisnig. O ganlyniad - i aml i gwmni - S4C ydi'r unig gwsmer. Mae rhoi cymaint o rym tros y farchnad arbennig yma - a dweud y lleiaf - yn broblematig.

Rwan 'dwi'n prysuro i ddweud (cyn i neb ddechrau chwilio am rif ffon Eversheds) nad ydw i yn awgrymu am eiliad bod unrhyw le o gwbl i feddwl bod llygredd yn broblem yng nghyd destun S4C. I'r gwrthwyneb - mae diwylliant amlenni brown yn anghymreig iawn - 'dydi'r math yma o beth ddim yn rhan o'n diwylliant ni. Ond mae canoli y ffasiwn rym tros farchnad gyfan yn nwylo un corff yn creu risg sylweddol i ddiffygion eraill lethu'r gyfundrefn.

Roeddwn yn meddwl am hyn oll ddoe pan gadarnhaodd Rheon Tomos mai'r rheswm y gadawodd Iona Jones S4C ei swydd oedd oherwydd iddi gael y sac am nad oedd eisiau caniatau i Awdurdod S4C gymryd rhan mwy gweithredol yng ngweinyddiad y sianel. Yn wir aeth Rheon cyn belled a dweud nad oedd uwch reolwyr y sianel yn darparu gwybodaeth yr oedd yr Awdurdod wedi gofyn amdano ganddynt.

Rwan, os ydi hyn yn wir, roedd sefyllfa yn amlwg yn gwbl amhriodol. Byddai disgwyl i'r Awdurdod osod cyfeiriad strategol i'r sianel, ac i graffu ar waith ei swyddogion. Os nad oedd hyn yn digwydd roedd un o'r prif fecanweithiau i sicrhau effeithiolrwydd y sianel yn ddiffygiol - a bod yn garedig. Ychwaneger y broblem strwythurol o lawer iawn o rym yn nwylo un corff ac mae pethau'n edrych yn llawer gwaeth eto. I bob pwrpas roedd y grym hwnnw yn nwylo llond dwrn o unigolion - unigolion oedd yn pwrcasu gwaith cynhyrchwyr a chreu cyfeiriad strategol ar yr un pryd. Byddai'r risg o gam reoli yn uchel iawn mewn sefyllfa fel hyn.

Rwan os ydym yn edrych ar rai o'r cwynion sydd wedi eu gwneud am y sianel yn y cyd destun yma, mae'n hawdd gweld pam maent wedi codi. Er enghraifft mae un math o gwyn gyffredin yn erbyn y sianel yn ymwneud a chysylltedd - bod cysylltiadau rhwng pobl sy'n gwneud penderfyniadau a phobl mae'r penderfyniadau hynny yn effeithio arnynt. Mae hon yn broblem Gymreig iawn - rydan ni'n wlad fach lle mae pawb efo rhyw adnabyddiaeth o'i gilydd. Byddai disgwyl i'r Awdurdod sicrhau bod mecanweithiau yn eu lle i sicrhau bod tryloywder mewn materion yn ymwneud a chysylltedd. Os nad oedd mecanweithiau, neu os nad oedd yr Awdurdod mewn sefyllfa i graffu eu heffeithiolrwydd, roedd y risg yn uchel.

Bu pob math o gwynion eraill am y sianel - diffyg cysylltiad efo'r gynulleidfa greiddiol - ac yn wir diffyg dealltwriaeth ohoni, diffyg pendantrwydd o ran cyfeiriad strategol, diffyg gallu i ddelio efo cwynion yn foddhaol, perthynas wael efo cynhyrchwyr. Byddai sefyllfa o griw bach gyda grym rhyfeddol yn gwneud penderfyniadau strategol o lefel amhriodol - ac yn gwneud hynny heb oruwchwyliaeth addas, yn egluro llawer o hyn.

Yn ychwanegol byddai'r sefyllfa mae Rheon yn ei disgrifio yn egluro llawer o'r llanast tros yr wythnosau diwethaf hefyd - Awdurdod sydd heb arfer cymryd penderfyniadau allweddol, ac heb felly fagu diwylliant o gymryd penderfyniadau, yn cael eu hunain yn gorfod gwneud hynny ar amser cwbl dyngedfennol.

Tuesday, December 14, 2010

Gwefan yr ymgyrch Ie

Mae'r wefan bellach yn fyw - ac mae'r ymgyrch bellach ar gychwyn.

Gellir dod o hyd iddi yma.

Monday, December 13, 2010

Y Blaid Geidwadol Gymreig - gwleidyddiaeth unigryw?

Mae Welsh Ramblings yn gwneud pwynt diddorol pan mae'n nodi mor anarferol ydi'r Toriaid Cymreig - plaid adain Dde sydd a'i llefarwyr byth a hefyd yn galw am amddiffyn rhywbeth neu'i gilydd, cynyddu gwariant ar beth arall, arbed rhywbeth arall ac ati - a gwneud hynny mewn cyd destun lle mae eu plaid yn Llundain yn gorfodi toriadau enfawr ar yr holl sector gyhoeddus - a lle maen nhw eu hunain ar lefel strategol yng Nghaerdydd yn argymell toriadau i pob adran ond iechyd.

Mi fyddwn yn mynd gam ymhellach na Ramblings, a dweud mai plaid bopiwlistaidd ydi'r Toriaid yn y Cynulliad bellach, a bod hynny'n gwneud y berthynas rhyngddyn nhw, a'r Toriaid ar lefel San Steffan yn un sylfaenol dysfunctional - beth bynnag y gair Cymraeg am hynny.

Sunday, December 12, 2010

Newyddion da i ddeinasoriaid Wrecsam?

Hwyrach y byddwch yn cofio i ni drafod ymateb bisar a gwrth Gymreig rhai o gynghorwyr Llafur yn Wrecsam i gais y Cyngor am grant i godi ysgol Gymraeg yng Ngwersyllt mewn ymateb i alw sylweddol yn yr ardal am addysg Gymraeg.

Bryd hynny roedd yn ymddangos mai ofer y byddai eu holl sterics - ond a barnu o'r nodiadau hyn gan Plaid Wrecsam hwyrach mai nhw fydd yn chwerthin yn y pen draw. Ymddengys bod rhan 3 cynllun SPIG (y gyfundrefn sy'n ariannu ysgolion newydd) wedi ei ohirio heb reswm amlwg am wneud hynny.

Rwan, mi'r ydym ni eisoes wedi gweld yn achos ysgol Treganna beth all lobio mewnol gan wleidyddion Llafur gwrth Gymreig ei wneud i gynlluniau awdurdodau lleol i ehangu addysg Gymraeg. Mae rhai o gynghorwyr Llafur Wrecsam yn erbyn ysgol Gymraeg yng Ngwersyllt, ac mae'r Aelod Cynulliad Llafur lleol yn erbyn ysgol Gymraeg yng Ngwersyllt. Mae hi yn digwydd bod yn ddirprwy weinidog yn adran Leighton Andrews.

Mi fydd hi'n ddiddorol iawn gweld beth ddaw o gynllun Gwersyllt pan ac os caiff yr arian ei ryddhau.

Profion PISA - un neu ddau o nodiadau pellach

Fydda i ddim yn 'sgwennu am addysg yn aml ar y blog hwn - mae'r pwnc dipyn bach yn rhy agos at adref, a dwi'n rhyw gymryd nad ydyw o ddiddordeb mawr i'r rhan fwyaf o'm darllenwyr. Mae'r ffaith i gymaint o bobl ymateb i'r blogiad diweddar ar ganlyniadau profion PISA yn awgrymu bod y canfyddiad hwnnw yn un anghywir. Felly mi ychwanegaf rhyw bwt ynglyn a'r pwnc.

Byddwch yn cofio i'r profion sy'n cael eu defnyddio mewn amrediad eang o wledydd datblygedig, ddangos bod perfformiad Cymru wedi gostwng tros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Bydd y rhai ohonoch sydd wedi edrych ar y dudalen sylwadau wedi nodi bod gwahanol gyfranwyr yn dod i'w casgliadau eu hunain ynglyn a'r rhesymau am y gostyngiad. Addysg 'adain chwith' sy'n cael y bai gan amlaf.

Rwan, cyn cychwyn mi hoffwn i ddweud nad wyf yn derbyn bod y profion yn anilys, na eu bod ond yn adlewyrchu gallu ysgolion i 'ddrilio' plant. Mae'r drefn brofi yn broffesiynol, trylwyr ac yn ymwneud yn bennaf a gallu plant i gymhwyso eu sgiliau sylfaenol i sefyllfaoedd pob dydd. Mewn geiriau eraill 'dwi'n derbyn bod system addysg Cymru yn tan berfformio. Mae'r canlyniadau yn rhoi lle i ni oll ofidio - mae addysg o safon uchel yn bwysig iawn mewn gwlad fel Cymru sydd heb y gallu i addasu ei pholisiau cyllidol ac economaidd i roi mantais economaidd iddi. Creu gweithlu addysgiedig a dyfeisgar ydi'r unig erfyn economaidd gwirioneddol bwerus sydd gennym yn ein dwylo ni'n hunain, a rydym yn methu a chymryd mantais o hwnnw mae gen i ofn.

'Dydi'r adroddiad PISA ddim yn cynnig atebion fel y cyfryw, ond mae'n cymharu nodweddion systemau llwyddiannus, a rhai llai felly - a mae'r gymhariaeth yn ddadlennol os yn gymhleth. Nodaf rhai o'r prif ganfyddiadau (ynghyd a sylw neu ddau gen i) isod:

  • Mae'r systemau gorau yn cynnig addysg o ansawdd uchel i bawb - ac addysg gynhwysol. Lle mae disgwyliad bod plant o gefndiroedd arbennig am fethu, yna mae'r disgwyliad hwnnw yn tueddu i gael ei wireddu. 'Dydi gwahanu plant yn unol a chanfyddiad o allu neu ddiffyg gallu ddim yn creu deilliannau cadarnhaol.
  • Mae'r berthynas rhwng tlodi a than gyflawniad addysgol yn gymhleth. Mae rhai o'r gwledydd sydd yn agos i frig y rhestr yn gymharol dlawd yn nhermau GDP. Hefyd mae plant o gefndiroedd tlawd yn tueddu i wneud yn well os ydynt mewn ysgolion sydd a llawer o'u plant o gefndiroedd mwy cyfoethog. Wedi dweud hynny mae'r rhan fwyaf o blant sy'n methu o gefndiroedd tlawd.
  • Mewn gwledydd lle mae lefel uchel o atebolrwydd i ysgolion, maent yn perfformio'n well os nad oes gormod o ymyraeth ganolog ar sut a beth maent yn dysgu. Lle nad oes atebolrwydd mae'r gwrthwyneb yn wir.
  • Does yna ddim tystiolaeth bod cystadleuaeth ymysg ysgolion yn creu canlyniadau gwell.
  • Dydi'r sector breifat ddim yn fwy effeithiol na'r un gyhoeddus.
  • Lle mae cyflogau athrawon yn gymharol uchel mae'r deilliannau yn well. Mae hyn yn llawer pwysicach na maint dosbarthiadau bach. Awgryma hyn bod ansawdd addysgwyr ymysg y ffactorau pwysicaf i lwyddiant cyfundrefn addysg.
  • Mae disgyblaeth gadarn ynghyd a pherthynas gadarnhaol rhwng staff a phlant yn ffactorau pwysig.
Rwan crynhoad gen i o ganfyddiadau'r archwiliad ydi'r uchod, ac mae hynny ynddo ei hun yn tueddu i or symleiddio - ond mae gor symleiddio weithiau yn fwy defnyddiol nag ydi edrych ar ddarlun mwy cymhleth. Yn yr ysbryd hynny 'dwi am symleiddio mwy, a rhoi tri egwyddor pwysig sy'n codi o'r astudiaeth.

  1. Mae disgwyliad o fethiant yn creu methiant, ac mae disgwyliad o lwyddiant yn creu llwyddiant. Mae felly'n dilyn bod ysgolion yn disgwyl llwyddiant gan pob grwp o ddisgyblion. Mae hefyd yn bwysig bod plant eu hunain a'u rhieni yn disgwyl llwyddo - ac i'r graddau yna mae angen dod o hyd i ffordd o addasu diwylliant llawer o gymunedau yng Nghymru. Ni all ysgolion ar eu pennau eu hunain wneud hyn - er bod ceisio sicrhau cynhwysiad oddi mewn i'r ysgol yn helpu.
  2. Mae ansawdd addysgwyr yn bwysicach na bron dim arall. Golyga hyn greu gweithdrefnau recriwtio (a strwythur cyflog) effeithiol a threfniadau hyfforddiant mewn swydd o safon uchel. Eto, mae'r darlun ar y gorau, yn dameidiog yng Nghymru.
  3. Mae'n bwysig cael cydbwysedd priodol rhwng atebolrwydd ac annibyniaeth ysgolion. Byddai'n llawer mwy effeithiol petai'r Cynulliad yn penderfynu ar ei flaenoriaethau a'i dargedau ac yn gwneud ysgolion yn atebol am eu gweithredu trwy gynnwys y blaenoriaethau hynny yn y fframwaith arolygu. Mae'r drefn bresenol lle ceir llu o wahanol flaengareddau yn cael eu cyflwyno oddi uchod mewn ffyrdd presgriptif ac anystwyth yn aneffeithiol. Byddai'n llawer gwell gosod blaenoriaethau a thargedau, rhoi'r rhyddid i ysgolion fynd i'r afael a nhw yn eu ffyrdd eu hunain, a'u harolygu oddi mewn i fframwaith ESTYN.
O fynd i'r afael a'r tri phwynt uchod, 'dwi'n argyhoeddiedig y byddai Cymru'n symud i fyny cynghrair PISA, ac yn bwysicach byddwn hefyd yn dechrau cynhyrchu gweithlu a fyddai'n rhoi mantais gystadleuol i ni.

Thursday, December 09, 2010

Toriadau'r Toriaid

Dewisodd y Toriaid ddiwrnod da i gyhoeddi y toriadau cynhyrfus sydd ganddynt ar y gweill i ni yma yng Nghymru - os cant byth eu bysedd ar rym yn y Cynulliad.

Mae'r ffaith nad ydynt am dorri ar wariant iechyd o gwbl am resymau popiwlistaidd yn golygu y byddai'n rhaid i'r holl feysydd eraill mae'r Cynulliad yn gyfrifol amdanynt dderbyn toriadau sylweddol iawn. Fe'i rhestraf, ynghyd a'r gwahaniaeth rhwng cynlluniau'r Toriaid a rhai'r llywodraeth, isod.

Maes gwariant
Toriadau'r Glymblaid Toriadau'r Toriaid Gwahaniaeth
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol 7.60% 0% -7.60%
Llywodraeth Leol 7.40% 12.50% 5.10%
Addysg 8% 12% 4%
Economi a Thrafnidiaeth 21.30% 30% 8.70%
Yr Amgylchedd a Thai 21% 25% 4%
Materion Gwledig 12.70% 15% 2.30%
Treftadaeth 13% 20% 7%
Gwasanaethau Cymdeithasol a Pherfformiad 24.40% 30% 5.60%
Gwasanaethau Canolog 19.10% 25% 5.90%

Rhaid hefyd nodi bod y toriadau mae'r Cynulliad yn gorfod eu gweithredu mor sylweddol oherwydd bod y glymblaid yn Llundain wedi penderfynu torri ar wariant cyhoeddus ynghynt nag oes rhaid iddi wneud - a hynny am resymau ideolegol.

Felly cofiwch pan mae'r Derwydd o Fon yn hefru am ddatblygu'r economi, bod ei blaid am dorri'r arian cyhoeddus sydd ar gael i wneud hynny, i'r bon. Pan mae Paul Davies yn rwdlan am y gwasanaeth addysg, cofiwch bod gan ei blaid eisiau gwario llawer llai ar addysg na'r llywodraeth. Pan fydd Brynle Williams yn mynd trwy ei bethau am ymlyniad y llywodraeth i gefn gwlad, cofiwch nad yw yn fodlon rhoi pres cyhoeddus lle mae ei geg.

Wednesday, December 08, 2010

Canlyniadau profion PISA


Felly mae'r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews yn flin oherwydd bod canlyniadau arolwg PISA yn awgrymu bod plant Cymru yn perfformio'n salach na rhai gweddill y DU o ran sgiliau rhifedd, darllen a gwyddoniaeth sylfaenol. Ymddengys ein bod ni hefyd yn perfformio'n waeth na'r cymedr rhyngwladol. Mae'n ddealladwy bod Leighton yn poeni.

Wedi dweud hynny, hwyrach y byddai mymryn o fewnsylliad ar ran Leighton yn syniad da, cyn iddo fynd ati i feio ysgolion y wlad. Mae gwariant y pen ar addysg yng Nghymru tua £500 y flwyddyn yn llai yng Nghymru nag yn Lloegr. Datblygodd y bwlch yma yn gyfangwbl rhwng 2003 a 2007 - y blynyddoedd pan oedd Llafur - plaid Leighton - mewn grym yn y Bae ar ei phen ei hun. Roedd ganddi flaenoriaethau eraill ar y pryd.

A 'dydi Paul Davies, llefarydd y Toriaid ar addysg ddim yn hapus chwaith. Fel rydym wedi trafod eisoes, byddai toriad pellach o tua 20% yn y gyllideb ysgolion petai cynlluniau gwallgo plaid Paul i amddiffyn y gyllideb iechyd ar draul pob dim arall yn cael eu gwireddu. Tybed beth fyddai hynny yn ei wneud i safonau?

Tuesday, December 07, 2010

Y Mesur Iaith a Chymru'n Un

Felly mae'r llywodraeth wedi cynnig gwelliant i'r Mesur sydd wedi derbyn croeso gan lawer o'r sawl oedd yn feirniadol hyd yma. Ceir eglurhad gan Guto, gan blog Golwg 360 a nifer o wefannau eraill. Newyddion da di gymysg mi dybiwn. 'Dwi wedi rhybuddio yn y blogiad diwethaf bod modd gwneud gormod o'r hyn y gall deddfwriaeth ei wneud i gynnal iaith, ond 'does yna ddim dwywaith bod y cam yn un hanesyddol, a bod statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru bellach yn gadarnach nag y bu ers canrifoedd lawer.

Mae'r cam yma ymlaen yn digwydd mewn cyd destun ehangach wrth gwrs - ers ffurfio'r glymblaid Llafur / Plaid Cymru mae nifer o gamau wedi eu cymryd sydd wedi symud achos yr iaith, ac achos Cymru yn fwy cyffredinol yn eu blaenau - refferendwm ar bwerau, strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg, cychwyn ar y broses o ffurfio Coleg Ffederal Cymraeg, Cymreigio polisi grantiau Cadw, datblygu'r is strwythur trafnidiaeth o'r De i'r Gogledd ac ati. Arweiniodd Comisiwn Holtham yn ei dro at led gonsensws bod Cymru yn cael ei than gyllido (nid bod y glymblaid yn Llundain yn fodlon gweithredu ar hynny wrth gwrs).

Canlyniadau Cymru'n Un ydi'r datblygiadau hyn, ac mae'r cytundeb heb amhaeaeth wedi creu fframwaith sydd wedi galluogi'r llywodraeth i fynd ati i weithredu mewn ffordd llawer mwy radicalaidd, arloesol a Chymreig na'r un o'r ddau lywodraeth blaenorol. Mi fyddwn i hefyd yn dadlau bod gweithredu oddi mewn i fframwaith felly wedi rhoi'r hyder i'r llywodraeth dorri ei gwys ei hun mewn materion sydd ddim yn ymwneud yn uniongyrchol a Chytundeb Cymru'n Un - mae datganiad yr wythnos diwethaf ynglyn a ffioedd myfyrwyr yn esiampl diweddar o hynny.

Bu cryn dipyn o feirniadu ar Gymru'n Un gan genedlaetholwyr ar gwahanol achlysuron. Mae cyhoeddiad heddiw, (ynghyd a rhai o'r datblygiadau rwyf wedi cyfeirio atynt uchod) yn ateb pwerus iawn i'r beirniadaethau hynny. Rhoddodd cyfnod cyntaf Plaid Cymru mewn llywodraeth ddimensiwn cwbl newydd i'r ffordd mae Cymru'n cael ei llywodraethu. Mae'n bwysig bod y Blaid yn parhau a rol lywodraethol ar ol Fis Mai'r flwyddyn nesaf - byddai mynd yn ol at lywodraeth tebyg i un 2003 - 2007 yn gam sylweddol yn ol i Gymru.

Saturday, December 04, 2010

Myfyrdodau ar y Mesur Iaith

Mae'n debyg y dyliwn ddweud gair neu ddau am y Mesur Iaith fydd yn dod i bleidlais yn y Cynulliad wythnos nesaf. Mi fyddwch yn ymwybodol bod y gwrthbleidiau yn y Cynulliad a gwahanol ymgyrchwyr iaith eisiau i'r Mesur roi statws cyfartal diamod i'r iaith, tra bod y llywodraeth yn rhybuddio y byddai statws felly yn arwain at sefyllfa lle mai'r llysoedd fyddai'n diffinio hyd a lled effaith y Mesur. Gellir gweld safbwynt y gweinidog perthnasol, Alun Ffred yma, a gellir gweld y safbwynt arall yma. Mae gan Alwyn flogiad diweddar digon synhwyrol ar y mater yma.

Mae hefyd wedi dod yn glir tros y dyddiau diwethaf y bydd Bethan Jenkins yn cynnig gwelliant wyth gair i Fesur Alun Ffred fyddai, o'i dderbyn yn atgyfnerthu statws y Gymraeg o'i chymharu a'r Saesneg.

Fy mwriad efo'r blogiad yma ydi edrych ar bethau o safbwynt ychydig yn wahanol ac ystyried ddefnyddioldeb mesurau, neu ddeddfau iaith wrth adfer neu gynnal iaith.

Ystyrier y canlynol:


BUNREACHT NA hÉIREANN - CYFANSODDIAD IWERDDON
ERTHYGL 8:


(1) Yr iaith Wyddeleg fel yr iaith genedlaethol yw'r iaith swyddogol gyntaf.

(2) Cydnabyddir y Saesneg fel yr ail iaith swyddogol.

(3) Gellir gwneud darpariaethau, fodd bynnag - yn gyfreithiol, i ddefnyddio'r naill iaith neu'r llall yn unig i un pwrpas swyddogol neu fwy, naill ai mewn rhan o'r Wladwriaeth neu drwyddi draw.


Rwan, yn amlwg daw'r dyfyniad o gyfansoddiad Gweriniaeth Iwerddon. Mae'r cymal cyntaf yn rhoi statws uwchraddol i'r Wyddeleg o gymharu a'r Saesneg, ond mae'r trydydd yn manylu y gellir defnyddio'r naill iaith neu'r llall i bwrpasau swyddogol.

Rwan, ar sawl golwg mae hwn yn gryfach na'r hyn a gynigir i'r Gymraeg yn y Mesur, ac mae hefyd yn gryfach na'r hyn mae'r ymgyrchwyr iaith yn gofyn amdano. Ond - 'dydi'r statws cyfansoddiadol yma heb achub y Wyddeleg yn yr Iwerddon.

Os ewch i Ddulyn mae'r lle yn Dwr Babel ieithyddol - ond mi fyddwch chi'n lwcus o glywed gair o Wyddelig. I glywed y Wyddeleg yn cael ei siarad yn naturiol bydd rhaid i chi wneud eich ffordd i gorsydd Donegal neu Conemara neu i'r ynysoedd di bridd oddi ar arfordir y Gorllewin. Mae eich gobaith o gael awdurdodau lleol, adrannau llywodraethol neu fusnesau i ddelio efo chi yn y Wyddeleg yn llawer is nag yw i gael cyrff cyffelyb i ddefnyddio'r Gymraeg yng Nghymru. Roedd y Wyddeleg yn llawer, llawer cryfach pan nad oedd ganddi statws swyddogol o gwbl. Yn wir mae yna lawer mwy o wynt yn hwyliau'r iaith ar strydoedd Gorllewin Belfast nad oes iddi statws swyddogol a lle roedd oedd yn cael ei chysylltu gan lawer o bobl gyda therfysg a thrais hyd yn ddiweddar.

Peidiwch a fy ngham ddeall i. Nid dadlau ydw i nad yw statws swyddogol yn bwysig. 'Dwi'n siwr bod diffyg statws felly wedi bod yn un o'r ffactorau a arweiniodd ddirywiad hir a graddol y Gymraeg. Dadlau ydw i'n hytrach nad statws swyddogol ydi'r peth pwysicaf o ddigon o safbwynt adfer neu gynnal iaith. Camgymeriad y Gwyddelod oedd credu y byddai pob dim yn dilyn yn naturiol o sefydlu statws cyfansoddiadol i'r iaith - rhoi eu ffydd mewn datrysiad top down os y mynnwch.

Mae darparu cyfundrefn addysg cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i bawb yn ymarferol bwysicach, mae amddiffyn darlledu cyfrwng Cymraeg yn ymarferol bwysicach - felly hefyd ymdrechion y mentau iaith i normaleiddio'r defnydd o'r iaith, felly hefyd parodrwydd ffigyrau cyhoeddus i ddefnyddio'r iaith yn gyhoeddus - ac yn arbennig ein parodrwydd ni fel Cymry Cymraeg i goleddu'r iaith ac i fachu ar pob cyfle i'w defnyddio.

Rwan, ydi statws swyddogol i'r Gymraeg am wneud yr uchod yn fwy tebygol ac yn haws? Ydi mae'n debyg.

Ydi union natur y statws hwnnw yn bwysicach nag ydi adeiladu strwythur a chyd destun i'r iaith gael eu defnyddio ynddynt ar lawr gwlad? 'Dwi ddim yn meddwl.

Pe byddwn i mewn sefyllfa i wneud hynny byddwn yn sicr yn ystyried yn ddwys pleidleisio tros welliant Bethan. Ond yn y pen draw 'dydi union eiriad y Mesur ddim o dragwyddol bwys o gymharu a datblygiad organaidd rhwydweithiau iaith ar lawr gwlad. Mae modd gwneud gormod o'r symbolaidd mae gen i ofn.

Ail ymweld a'r snob ideolegol

'Dydw i ddim yn meddwl i flogmenai erioed ail gyhoeddi blogiad o'r blaen - ond 'dwi am ail gyhoeddi un sydd bellach yn ddyflwydd oed isod gyda rhai addasiadau sy'n cywiro ambell i wall iaith a thynnu'r sylwadau allan o gyd destun sydd wedi dyddio bellach.

Sylwadau gan biwritaniaid cenedlaetholgar ar dudalen sylw'r blogiad diwethaf ac mewn ambell i le arall sy'n gwneud y blogiad yn berthnasol. Gellir darllen y gwreiddiol yma.

Efallai bod snob ideolegol yn derm ychydig yn gas - chwilio am derm am ideological purist oeddwn i, ond mae'n mynegi'r hyn 'dwi'n ceisio ei ddweud cymaint yn well. Y peth cyntaf i'w ddeall am y snob ideolegol ydi nad oes ganddo unrhyw ddiddordeb mewn, na dealltwriaeth o wleidyddiaeth etholiadol. Ei brif ddiddordeb ydi harthio nad ydi pobl eraill cyn bured a fo ei hun. Felly mae'r snob ideolegol sydd hefyd yn genedlaetholwr Cymreig yn meddwl ei fod yn well cenedlaetholwr na neb arall, ac mai ei le fo yn nhrefn pethau ydi tynnu sylw at pob dim mae ei gyd genedlaetholwyr yn eu gwneud nad ydynt yn eu hanfod yn genedlaetholgar.

'Dwi wedi canfasio tros rhyw Bleidiwr neu'i gilydd ers etholiad cyffredinol ym mhob etholiad ers 1983. Yn ystod yr amser yna gallaf ddweud gyda pheth hyder fy mod wedi sefyll wrth ddrws miloedd ar filoedd o bobl yn trafod gwleidyddiaeth efo nhw. Mae pobl yn barod iawn i drafod yr hyn sydd yn eu poeni.

Y themau mwyaf cyffredin ydi materion yn ymwneud a thai a chynllunio, swyddi, cymdogion sy'n defnyddio cyffuriau ac yn ymddwyn yn wrth gymdeithasol, treth y cyngor, datblygiadau lleol ('dwi wedi clywed am y datblygiad ar Ddoc Fictoria mor aml nes fy mod eisiau sgrechian pob tro 'dwi'n meddwl am y lle). Roedd y rhyfel yn Irac yn codi ar aml i stepan drws yn ystod y ddwy etholiad diwethaf - roedd pawb, yn ddi eithriad yn erbyn.

Mae pobl yn codi pob math o bethau eraill hefyd - llawer ohonynt yn bisar - ar un achlysur cefais gyfaill oedd wedi gwisgo fel dynas yn dweud mai hawliau hoyw oedd y peth mawr iddo fo, a chymydog agos oedd gyda baner fawr yr hen Dde Affrica (hy baner y De Affrica aparteid) yn bytheirio bod gormod o bobl sydd a gwyrdroedigaethau rhywiol yn poblogi San Steffan. 'Dwi wedi clywed llawer un yn dweud nad ydynt am bleidleisio oherwydd eu bod eisoes wedi pleidleisio tros Grist. Mae yna foi yn Twtill sy'n poeni bod Caernarfon yn cael ei boddi gan bobl dduon, ac mae yna foi yn yr un rhan o'r dref sy'n poeni bod gwreiddiau coeden sy'n tyfu o flaen ei dy yn mynd i chwalu'r seiliau a ddymchwel ei gartref i'r llawr. Mae'n fodlon pleidleisio i'r sawl sy'n fodlon torri'r goeden. 'Dwi hefyd wedi clywed aml i fan swyddog cyngor yn gwrthod dweud i bwy maent am bleidleisio oherwydd bod eu swydd mor ofnadwy, ofnadwy o bwysig nes ei bod yn hanfodol bwysig i ddyfodol y bydysawd eu bod yn ymddangos yn ddi duedd pob amser.

'Dwi erioed - ddim unwaith wedi clywed neb yn codi mater cyfansoddiadol o unrhyw fath - dim byd ynglyn a datganoli, dim ynglyn a'r frenhiniaeth, dim ynglyn a Thai'r Arglwyddi a dim ynglyn ag annibyniaeth i Gymru, dim gair, dim sill, dim byd - zilch.

Mi fedra i gyfri ar un llaw yr adegau mae pobl wedi codi statws y Gymraeg. Y tro diwethaf i hyn ddigwydd oedd ar stad dai cyngor 'Sgubor Goch ar gyrion Caernarfon rhyw dair blynedd yn ol. Daeth dyn mewn tracwisg a chap pel fas i'r drws a chymryd fy mhapur o fy llaw ac edrych trosto'n frysiog cyn dweud - Da iawn chdi cont felna mae'r peth i fod yn Gnarfon Cymraeg gynta a Susnag wedyn nath y boi Tori roid papur i fi yn dre ddoe efo'r Susnag gynta rel ffycin Cardiff mi nes i stwffio fo i lawr i gorn gwddw fo dwi'm yn fotio i neb cofia gas gin i politics. 'Dwi ddim yn gwamalu.

'Rwan 'dydi hyn ddim yn golygu nad ydi'r materion sy'n ymwneud a iaith, cenedligrwydd, ymreolaeth ac ati - y materion sy'n bwysig i aelodau cyffredin y Blaid ddim yn bwysig i'r cyhoedd yn gyffredinol. 'Dwi'n siwr eu bod yn bwysig i lawer o bobl - ond dydyn nhw ddim yn flaenoriaethau uchel iawn i bobl pan maent yn meddwl am sut i bleidleisio. Mae pobl sy'n ymddiddori mewn materion ieithyddol a chyfansoddiadol yn fwy tebygol o bleidleisio i'r Blaid wrth gwrs - ond 'dydi naratif syml a di gyfaddawd ddim yn ennill digon o bleidleisiau i ennill unrhyw etholiadau o unrhyw fath. Dyma gamgymeriad mawr y Blaid am tua hanner ei hanes - yr hanner cyntaf pan nad oedd yn ennill unrhyw etholiadau a phan nad oedd ganddi nemor ddim dylanwad ar fywyd cyhoeddus yng Nghymru.

Mae gwleidyddiaeth etholiadol yn estron i dirwedd gwleidyddol y snob ideolegol - tirwedd mewnol ydi hwn yn y bon - tirwedd sy'n ymwneud mwy ag anghenion seicolegol y snob ideolegol nag anghenion gwlad y snob ideolegol.

Y peth cyntaf i'w ddeall am dirwedd gwleidyddol y snob ideolegol ydi ei fod yn lle braf i fod ynddo. Mae cynnal safbwynt deallusol cyson ac anhyblyg yn hawdd, cyn belled nad ydym yn caniatau i fywyd go iawn amharu llawer arno. Mae'n hawdd ennill dadl abseliwtaidd yn erbyn rhywun sy'n hyblyg ac ymarferol. Mae yna fanteision ychwanegol wrth gwrs - gall y snob ideolegol edrych i lawr ei drwyn ar y sawl sydd wedi cyfaddawdu gyda'r byd sydd ohoni er mwyn symud yr agenda genedlaethol yn ei blaen. Gall deimlo'n bwysicach, yn fwy gonest, yn fwy cyson ac yn burach na'i gyd genedlaetholwyr. 'Dydi'r ffaith mai'r dywydiedig gyd genedlaetholwyr sydd wedi dod a ni i lle'r ydym heddiw ddim yn amharu mymryn ar y pleser bach hwnnw wrth gwrs.

Gall y snob ideolegol fod yn ddiog ac eistedd yn ol yn ei gadair a chyfiawnhau peidio a gwleidydda - wedi'r cwbl does yna'r un blaid yn ddigon pur iddo fo - neu hi. Felly gall edrych o hirbell ar eraill yn ymdrechu, croesawu pob cam ymlaen yn ddistaw bach tra'n beirniadu'r mudiad cenedlaethol ar dop ei lais am beidio a chyflawni digon yn ddigon cyflym - wrth unrhyw un sy'n fodlon gwrando.

Hynny yw mae cenedlaetholwyr naturiol sydd wedi dod i ddeall tros flynyddoedd sut i lwyddo yn etholiadol wedi defnyddio'r llwyddiant hwnnw i symud agenda genedlaetholgar yn ei blaen. Mae'r snob etholiadol am ymateb trwy ddweud nad yw'r llwyddiant yn ddigonol, a'i fod o ei hun yn llawer purach na neb arall. Ond wrth gwrs pe byddai cyngor y snob ideolegol wedi ei ddilyn ni fyddai unrhyw beth o gwbl wedi ei gyflawni - ond 'dydi hynny ddim ots - mae'r snob wedi amddiffyn ei direwdd mewnol cyfforddus - a dyna'r oll sy'n bwysig iddo yn y pen draw.

'Rwan o ddarllen hyn oll efallai eich bod yn meddwl fy mod o'r farn nad oes gan y snob ideolegol unrhyw rol o gwbl - ond mi fyddech yn anghywir. Mae yna bwrpas iddo - ond 'dydi o ddim yn bwrpas arbennig o bwysig. Mae'r mudiad cenedlaethol angen cydwybod o rhyw fath. 'Rwan yn amlwg mae mymryn o berygl i'r broses etholiadol droi cenedlaetholdeb yn risgl gwag sydd heb agenda cenedlaetholgar o gwbl - ychydig fel Llais Gwynedd sy'n canolbwyntio eu holl ymdrechion ar amddiffyn hen doiledau drewllyd. 'Dydi'r perygl yma ddim yn fawr iawn wrth gwrs - i'r gwrthwyneb - mae'r Blaid wedi llwyddo i symud yr agenda cenedlaethol yn ei blaen pan mae mewn grym, a phan nad yw mewn grym. Ond rhag ofn, 'mond rhag ofn, efallai nad ydyw'n ddrwg o beth i gael rhywun yn grwgnach a chwyno yn y cefndir.

Mae'n debyg bod gan bawb rhyw berthynas mewn oed mawr - hen fodryb efallai - sy'n boenus am pob dim ac yn swnian yn ddi ddiwedd - gwna'n siwr dy fod yn rhoi dy felt pan rwyt yn mynd i'r car, criba dy wallt, paid a dreifio yn lysh gachu, rho dy got cyn mynd allan rhag ofn i ti ddal anwyd, paid a chysgu efo pobl dwyt ti ddim yn eu 'nabod rhag ofn i ti ddal rhywbeth, clyma dy sgidiau rhag ofn i ti faglu, torra dy wallt, cau'r drws mae yna ddrafft yma, tynna dy ddwylo allan o dy boced, ti angen bath, cofia gau dy falog ac ati ac ati.

Mae'r holl nagio yn blydi niwsans ac mae dyn yn cael bath ac yn cau ei falog a dreifio'n sobor beth bynnag - ond efallai - jyst efallai bod yr holl swnian yn gwneud rhyw fymryn bach, bach, bach o wahaniaeth weithiau.

Gwneud dipyn bach, bach, bach o wahaniaeth weithiau ydi rol y snob ideolegol ym mywyd cenedlaethol Cymru.