Sunday, April 21, 2019

Ffantasi ddi gyfnewid Llafur Arfon

Fel mae pawb sy’n gyfarwydd efo Plaid Lafur Arfon yn gwybod, mae nhw yn treulio cryn dipyn o amser ac ynni yn ffraeo - efo’i gilydd yn bennaf.  Weithiau bydd hynny yn torri i wyneb y dwr - yn amlach na pheidio (ond ddim pob tro) ar un o wefannau cymdeithasol eu hunig gynghorydd yng Ngwynedd - Sion Jones.



Cwyno oedd o ddoe nad fo ydi ymgeisydd Llafur ar gyfer Arfon yn etholiadau San Steffan.  Yn naturiol ddigon ynghanol y cwyno am ei blaid ei hun mae’n cwyno am Blaid Cymru a’i ardal ei hun.  Bydd o gryn syndod i’r cannoedd lawer o bobl sydd wedi heidio i draeth Dinas Dinlle yn haul y dyddiau diwethaf bod Sion yn ystyried bod y lle yn ‘ddymp’ o dan Cyngor Gwynedd.  Mae o hefyd wrthi’n  cwyno bod y Blaid wedi cael eu hethol yn Arfon ers 45 o flynyddoedd (rhywbeth sydd ddim yn wir wrth gwrs - dim ond yn 2005 y daeth Arfon i fodolaeth fel etholaeth.










Mae’r naratif yma - bod Arfon yn ddymp ac mai cynrychiolaeth Plaid Cymru yn San Steffan a’r Cynulliad yn diwn gron gan yr hen griw o Lafurwyr yn Arfon.  Mae’r criw yma wedi colli rheolaeth ar Lafur yn Arfon gyda llaw - ond stori i flogiad arall ydi


Y brif broblem efo’r naratif ydi ei bod yn nonsens llwyr a chyfangwbl.  Wrth safonau Cymru ‘dydi Arfon ddim yn etholaeth dlawd - ac o gymharu ag etholaethau sy’n pleidleisio i Lafur yn ddi eithriad, mae’n etholaeth eithaf cyfoethog.


Os ydym yn cymharu Arfon efo’r etholaethau sydd wedi cael eu cynrychioli yn ddi dor neu fwy neu lai’n ddi dor gan Lafur mae yna wahaniaeth sylweddol mewn safonau byw - ac mae’r gwahaniaeth hwnnw yn ffafrio Arfon.  Cymerer - er enghraifft Aberafon.  Nid  hon ydi’r etholaeth Lafur dlotaf o ddigon - yn wir mae’n ddigon nodweddiadol o etholaethau Llafur yng Nghymru.   


Enillwyd y sedd gan Ramsay McDonald i Lafur yn 1922 - bron i gan mlynedd yn ol - ac mae Llafur wedi ennill pob 
etholiad yno ar lefel San Steffan a Cynulliad ers hynny.  Bydd Llafur yn cael tua 70% yn rheolaidd.  Dydi’r etholaeth ddim yn llewyrchys wrth safonau Gorllewin Ewrop.  Llafur sydd wedi rheoli’r cyngor lleol ers i hwnnw gael ei ffurfio hefyd.

Mae 21% o drigolion yr etholaeth yn byw yn y cymdogaethau mwyaf amddifiedig yn y DU (8% ydi’r ganran yn Arfon).  Mae cyfraddau hyd bywyd tua dwy flynedd yn is yn Aberafan nag yw yn Arfon.  Mae 25% o’r boblogaeth yn economaidd anweithgar o gymharu a 19% yn Arfon.  Mae 32% o’r boblogaeth mewn swyddi proffesiynol o gymharu a 46% yn Arfon.  Nid oes gan 32% o’r boblogaeth unrhyw 
sgiliau o gwbl o gymharu a 25% yn Arfon.  Mae cyflogau wythnosol yn Arfon tua £60 yn wythnos yn uwch nag ydynt yn Aberafan, ac mae prisiau tai £12k yn uwch yn Arfon.  Mae safonau addysg yn sylweddol uwch.  Yn wir cymaint yr amddifadedd yn Aberafan mae 30% o blant yn cael prydau 
ysgol am ddim.  13% ydi’r ganran gyfatebol yn Arfon.  Mae llawer mwy o drigolion Aberafan yn dioddef o anabledd neu o dan law doctor, ond mae llai o ddoctoriaid yno.


Ond ‘dydi dyn ddim mymryn callach o dynnu sylw ein cyfeillion Llafur yma yn y Gogledd at ffeithiau a phethau anghyfleus felly.  Mae’r syniad mai aelodau etholedig lleol sy’n gyfangwbl gyfrifol am lewyrch- neu ddiffyg llewyrch - lleol,  cyn belled nad ydi’r aelodau etholedig yna yn Lafurwyr sy’n cynrychioli ardaloedd tlawd, wedi ei wreiddio’n rhy dwfn i’w symud.  

Bai’r Toriaid ydi tlodi Aberafan, Blaenau Gwent ac Ogwr wrth gwrs.

Tuesday, April 09, 2019

Dyfodol Gogledd Iwerddon a Brexit

Canolbwynt anisgwyl y ffrae Brexit ydi Gogledd Iwerddon a’i statws cyfansoddiadol.  Mae’n hawdd anghofio bod y backstop sydd wedi bod yn destun cymaint o wichian gan y DU yn rhywbeth wnaeth y DU ei hun ofyn amdano.  

Yn amlwg mae’n bwysig - yn hanfodol bwysig - i’r UE bod ei ffiniau allanol wedi eu diogelu er mwyn sicrhau nad ydi nwyddau ac ati sydd ddim yn cyfarfod a rheoliadau’r UE yn dod i mewn trwy’r drws cefn.  
Y ffordd amlwg i wneud hyn ydi i gadw Gogledd Iwerddon oddi mewn i’r Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau - a dyna oedd yr UE am ei wneud.  Roedd hyn yn anerbyniol i’r DUP, ac roedd mwyafrif seneddol y Toriaid yn ddibynol ar ewyllys da y criw lliwgar hwnnw.  Felly awgrymodd Prydain drefn lle fyddai Prydain gyfan yn aros oddi mewn i fframwaith rheoliadol yr UE tan bod cytundeb masnachu parhaol yn cael ei gytuno.  Ac yn y fan yna aeth pig yr holl broses Brexit yn sownd.

Felly mae Brexit yn debygol o gael ei aberthu ar allor undod cyfansoddiadol y DU.  Ond pa mor saff ydi’r undod hwnnw beth bynnag?  Mae’r ateb i hynny i’w gael mewn ystadegau.

Dwi’n gwybod o’r gorau bod y rhan fwyaf o ddarllenwyr Blogmenai yn gwybod hyn yn iawn. ond mae’n siwr y byddai’n werth ei ail adrodd cyn ei fod yn rhywbeth nad oedd Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon Karen Bradley yn ei ddeall.  Mae yna berthynas clos iawn rhwng cefndir crefyddol pobl a’u hunaniaeth cenedlaethol yng Ngogledd Iwerddon, ac mae yna berthynas yr un mor glos rhwng hunaniaeth genedlaethol a phatrymau pleidleisio.  

Mae’r rhan fwyaf o bobl o gefndir Pabyddol yn pleidleisio i’r pleidiau cenedlaetholgar - yr SDLP a Sinn Fein tra bod y rhan fwyaf o bobl o gefndir Protestanaidd yn pleidleisio i bleidiau unoliaethol.  Mae yna dir canol - ac mae hwnnw ar  o bryd yn cael ei lenwi gan Y Blaid Werdd ac Alliance - ond mae’r tir hwnnw yn gymharol fach.  

Ymhellach mae’r eithafion yn gryfach na’r cymhedrol oddi mewn i’r blociau pleidleisio ers Cytundeb Dydd Gwener y Groglith.  Erbyn hyn mae tros i 70% o’r bleidlais genedlaetholgar yn mynd i Sinn Fein ac mae tros i 70% o’r bleidlais unoliaethol yn mynd i’r DUP.  Yn 2017 aeth  11 sedd i unoliaethwyr a 7 i genedlaetholwyr - y cwbl o’r rheiny i Sinn Fein a’r cwbl o’r rhai unoliaethol ag eithrio un i’r DUP. 



Roedd Gogledd Iwerddon wedi ei greu’n benodol o’r dechrau’n deg i fod a mwyafrif Protestanaidd - a llwyddodd y weinyddiaeth unoliaethol yn Stormont i gynnal mwyafrif o tua 2:1 hyd at cychwyn y rhyfel hir yn 1969 - er gwaethaf cyfradd geni Papyddol uwch.  Roedd hynny’n cael ei adlewyrchu yn y patrymau pleidleisio wrth gwrs.  Enillwyd 11 o’r 12 sedd San Steffan gan unoliaethwyr yn Etholiad Cyffredinol 1966 gyda Gorllewin Belfast yn unig yn ethol cenedlaetholwr.  



Dechreuodd y boblogaeth Babyddol ddringo gymharol gyflym wedi cychwyn y rhyfel yn 1969 - yn rhannol oherwydd i lywodraeth y DU gael gwared o’r strwythurau oedd wedi disgrimineiddio yn erbyn Pabyddion mewn meysydd fel tai a chyflogaeth.

Mae’r newidiadau demograffig yma - fel rydym wedi gweld - yncael eu adlewyrchu mewn patrymau pleidleisio.  Mae’r ddwy etholiad diweddaraf (un Cynulliad Gogledd Iwerddon a San Steffan) wedi arwain at lai na hanner y pleidleisiau yn mynd i’r pleidiau unoliaethol am y tro cyntaf - roedd cyfanswm y pleidiau cenedlaetholgar a’r canol yn uwch.

Ond beth am y dyfodol?  

Wel, mae yna lwyth o ddata am ddemograffeg yn cael ei goledu yng Ngogledd Iwerddon yn flynyddol - yn rhannol oherwydd gofyniadau statudol i fonitro bod cyflogaeth yn deg ac yn adlewyrchu’r gymdeithas ehangach.  Mae’r tabl isod yn dangos data sydd wedi ei hel wrth lunio adroddiad cyflogaeth blynyddol y dalaith.

Oed (2017) 
Pabyddion
Protestaniaid
16+
41%
42%
16 – 24
45%
33%
16 – 59
43%
38%
60+
35%
54%

Yr hyn sy’n drawiadol yma ydi’r ffaith bod mwyafrif mawr o bensiynwyr yn Brotestaniaid - ond pan ydan ni’n cyrraedd oedrannau ieuengach mae yna fwyafrif Pabyddol mawr - a chynyddol.

Beth felly am y dyfodol?  Wel mae mae’r cyfrifiad ysgolion yn dweud wrthym bod 51% o’r plant sydd yn ysgolion y dalaith yn Babyddion a 33% yn Brotestaniaid.  Mae’r gweddill yn syrthio i gategoriau eraill - yn bennaf pobl sydd ddim yn fodlon datgelu crefydd eu plant.  

Gallwn ddod i ddau gasgliad o hyn.  Yn gyntaf mae tua’r un faint o Babyddion a Phrotestaniaid yn y boblogaeth sy’n pleidleisio bellach.  Yn ail - ag ystyried oedran y blociau crefyddol gallwn fod yn siwr y bydd y boblogaeth sy’n pleidleisio yn mynd yn fwy Pabyddol (ac felly cenedlaetholgar) pob blwyddyn, ac yn llai Prorestanaidd (ac unoliaethol) pob blwyddyn.  

Gallwn felly ddweud bod y seiliau sy’n cynnal lle Gogledd Iwerddon yn wan iawn.  Mi fyddai’n baradocs rhyfedd petai cyfle’r sawl sydd o blaid Brexit yn cael ei golli i amddiffyn statws cyfansoddiadol rhan o’r DU sy’n statws anghynaladwy beth bynnag.