Friday, April 15, 2016

Diwrnod gogleisiol o ymgyrchu

I ddechrau dyna ni 'fetro' Glannau Mersi / Gogledd Orllewin Cymru.

Wedyn dyna i ni bolisi'r Toriaid o adael i geir yrru ar 80mha ar hyd yr A55 - a felly ei gwneud yn bosibl mynd o Gaer i Gaergybi 8.6 munud yn gynt ar yr adegau prin pan mae'n bosibl mynd ynghynt na chyflymder crwban ar y lon honno.  


Ac wedyn dyna i ni Carwyn Jones yn ateb cwestiynau ar un o brif raglenni etholiadol y Bib, llai na thair wythnos cyn etholiad, a neb yn gallu ei holi am ei faniffesto am nad yw wedi ei gyhoeddi eto.

Ac yna dyna UKIP am droi'r Cynulliad - deddfwrfa efo pwerau cyfyng iawn - yn rhywbeth rhyfeddol o gymhleth, gyda chynghorwyr, Aelodau Cynulliad ac Aelodau Seneddol o gorff etholedig arall i gyd a o dan draed ei gilydd ym Mae Caerdydd.  



No comments: