Saturday, May 30, 2009

Etholiadau Ewrop

'Dwi wedi bod yn ddigon ffol i geisio darogan etholiadau Ewrop yn gynnar - ac wedi gwneud hynny cyn i'r llanast treuliau gymryd yr agenda trosodd. Gellir gweld fy ymdrechion yma, yma ac yma. Bydd rhaid i mi geisio rhoi trefn ar bethau unwaith eto mae'n debyg.

Mi ddechreuais o'r blaen gyda'r Iwerddon. 'Dydi'r busnes treuliau heb effeithio ar y Weriniaeth wrth gwrs - a 'dydi pobl ddim yn poeni llawer am bethau felly yn y Gogledd. Fel hyn roeddwn yn gweld pethau ar y pryd:

FF - 2 (4 ar hyn o bryd)
FG - 4 (5)
Llafur - 2 (1)
SF - 2 (2)
DUP - 1 (1)
UUP - 1 (1)
Annibynnol - 2 (2)
Libertas - 1 (0)

'Dwi heb ewid fy meddwl rhyw lawer. 'Dwi'n meddwl bellach mai FF fydd yn cael y trydydd sedd yn North West ac nid Libertas. 'Dwi'n dal i feddwl y bydd Mary Lou McDonald yn cyflawni rhywbeth sy'n ymylu at fod yn wyrth gwleidyddol ac yn amddifadu FF o sedd yn Nulyn. 'Dwi hefyd yn eithaf siwr bellach mai SF fydd ar ben y pol yn y Gogledd ac na fydd yr SDLP yn ennill y drydydd sedd. Mae posibilrwydd mai'r ethafol TUV fydd yn mynd a hi (maent yn cynnal ymgyrch dda) - ond 'dwi'n aros efo'r UUP ar hyn o bryd. Felly 'dwi'n ei gweld hi fel hyn:

FF - 3 (4 ar hyn o bryd)
FG - 4 (5)
Llafur - 2 (1)
SF - 2 (2)
DUP - 1 (1)
UUP - 1 (1)
Annibynnol - 2 (2)

Mae pob dim wedi newid yn Lloegr fodd bynnag. Fel hyn yr oeddwn yn gweld pethau ar y cychwyn:

Toriaid - 24
Llafur - 10
UKIP - 7
Lib Dems - 12
BNP - 3
Y Blaid Werdd - 3

Tros yr wythnosau diwethaf mae UKIP wedi cryfhau eu sefyllfa, mae'r Toriaid yn wanach, ac mae Llafur mewn trwbl gwirioneddol. Dydi'r polau ddim yn awgrymu y bydd y BNP yn ennill seddau - ond fel 'dwi wedi egluro eisoes, dydw i ddim yn eu credu nhw. Felly fel hyn 'dwi'n gweld pethau 'rwan.

Toriaid - 20
Llafur - 9
UKIP - 12
Lib Dems - 11
BNP - 3
Y Blaid Werdd - 4

'Dydi Llafur ddim yn cwympo llawer oherwydd fy mod wedi eu gosod yn agos at 1 sedd y rhanbarth eisoes - mae'n anodd cael llai na hynny - hyd yn oed os ydi'r bleidlais yn syrthio'n sylweddol.

Yn yr Alban 'roeddwn yn ei gweld hi fel hyn o'r blaen:

SNP 2 (2 o'r blaen)
Llafur 1 (2 o'r blaen)
Toriaid 2 (2 o'r blaen)
Lib Dems 1 (1 o'r blaen)

'Dwi'n meddwl y bydd y ffradach wedi niweidio'r Toriaid ac mai fel hyn y bydd pethau bellach:

SNP 3
Llafur 1
Toriaid 1
Lib Dems 1

Wnes i ddim darogan canlyniad Cymru ond mae yna ddau flogiwr sydd wedi - HRF a Hogyn o Rachub.

Barn HRF ydi y bydd UKIP yn ennill sedd:

PC 1
Llafur 1
Toriaid 1
UKIP 1

Mae HoR yn awgrymu y gallai Plaid Cymru gipio dwy - er ei fod yn cyfaddef ei bod yn anodd iawn darogan y tro hwn.

Mae rhesymu'r ddau flogiwr yn ddigon cadarn chware teg. Da iawn bois.

Mae'n debyg bod rhaid i mi geisio rhoi tro arni.

Y canrannau o'r blaen oedd:

Llafur 32.5%
Toriaid 19.4%
Plaid Cymru 17.4%
UKIP 10.5%
Lib Dems 10.5%

O dan y system a ddefnyddir yn etholiadau Ewrop, i un blaid gael dwy sedd mae'n rhaid iddi ennill ddwywaith pleidlais y bedwaredd blaid. 'Dwi'n rhagweld y bydd canran Llafur yn syrthio mwy na 10% yng Nghymru. Efallai fy mod yn anghywir - 'dydi'r polau ddim yn darogan bod y gwymp am fod cymaint a hynny - ond 'dwi'n credu y bydd y gwymp yng Nghymru'n fwy na'r un Brydeinig.

'Dwi ddim yn gweld cynydd sylweddol ym mhleidlais UKIP - roedd yr etholiad diwethaf yn dda iddynt. Efallai y byddant ar tua 12%. Bydd y Lib Dems yn aros lle y maent. 'Dwi'n gweld y rhan fwyaf o'r 10% + y bydd Llafur yn ei golli yn hollti rhwng Plaid Cymru a'r Toriaid - ond bydd y rhan fwyaf ohono'n mynd i'r Blaid. Mae dau prif reswm am hyn - yn gyntaf mae'r Toriaid wedi eu niweidio gan yr helynt treuliau tra bod y Blaid yn eithaf clir o'r holl strach. Yn ail mae'r ffaith bod y Blaid mewn clymblaid efo Llafur yng Nghaerdydd yn i gwneud yn haws i bleidleiswyr Llafur fwrw pleidlais brotest i'r Blaid - dydi'r cam ddim mor fawr na phetai'r bleidlais brotest yn mynd i'r Toriaid neu UKIP.

Mae yna un peth bach arall hefyd. Yn 1999 cafodd y Blaid bron i 30% o'r bleidlais. Byddai dod o fewn 4% i hynny'n deygol o sicrhau'r ail sedd. Felly 'dwi'n ei galw hi yn:

Plaid Cymru 2
Toriaid 1
Llafur 1

'Dwi hefyd yn credu y gallai Llafur ddod yn drydydd.

Sunday, May 24, 2009

O diar - mae pethau'n mynd yn waeth


Yn ol Telegraph fory mae unarddeg aelod o'r cabinet Llafur wedi gwneud i'r trethdalwr dalu am gyngor iddyn nhw eu hunain ar sut i osgoi talu trethi.

A chyn ein bod wrthi ar dreuliau Aelodau Seneddol, cwis bach.

Pwy ydi'r unig Aelod Seneddol o Ogledd Cymru i wrthod datgelu ei manylion treuliau i Dail y Post, pam y gwrthododd wneud hynny a phwy sy'n cael ei gyflogi ganddi?

Atebion ar gerdyn post os gwelwch yn dda.

Ydi hi'n bosibl dibynnu ar y polau Ewropeaidd

Yn ol y Guardian ddoe maent wedi comisiynu pol piniwn gan ICM ar gyfer etholiadau Ewrop. Dyma'r canlyniadau:



Ar yr olwg gyntaf byddai'r rhain yn ganlyniadau gwael iawn i'r ddwy brif blaid. Ond 'dydyn nhw ddim - mae etholiadau Ewrop yn bethau tra gwahanol i rai San Steffan. Dyma oedd canlyniadau etholiadau Ewrop 2005:

Toriaid 27%
Llafur 23%
Lib Dems 15%
UKIP 16%
Gwyrddion 6%
SNP/PC 2%
BNP 5%
Eraill 5%.

Felly os ydi pol y Guardian yn gywir bydd y pleidiau mawr Prydeinig yn cryfhau a bydd pleidlais y pleidiau llai yn syrthio'n sylweddol, a bydd y BNP yn cael eu chwalu. Bydd Llafur yn gwneud yn well nag y gwnaethant gwta flwyddyn cyn eu buddugoliaeth gyfforddus yn etholiadau San Steffan yn 2005.

Mi fedra i gredu'r ffigyrau am y Blaid Werdd, SNP / Plaid Cymru a'r Toriaid i raddau. Mae'r gweddill yn nonsens llwyr. Bydd Llafur yn polio ymhell o dan 20% - efallai y byddant cyn ised a 15%. Bydd y Toriad rhwng 25% a 30% a bydd y ddwy blaid adain dde rhyngddynt yn cael pleidlais uwch nag un y Toriaid. Bydd UKIP yn dal eu tir neu'n cynyddu eu pleidlais,a bydd y pleidlais y BNP rhwng 7% a 10%. Byddant yn ennill nifer o seddi.

Saturday, May 23, 2009

Y Daily Post a Lwfansau Plaid Cymru

Mae Dail y Post yn poeni'n arw bod yr hen Plaid Cymru ddrwg 'na wedi gorfodi trethdalwyr sy'n pleidleisio i'r Blaid Lafur i dalu swm anferthol o £4,500 tuag at uwch gyhuddo'r cyn brif weinidog diarhebol o gelwyddog Mr Tony Blair.



Yr hyn sydd ganddynt ydi bod y tri aelod seneddol Plaid Cymru wedi defnyddio rhan o'u lwfansau cadw swyddfa ac ati i dalu am gyngor cyfreithiol ynglyn a'r posibilrwydd o uwch gyhuddo Blair. Mae'r defnydd yma o bres y trethdalwr yn cymaint o stwmp ar stumog y Daily Post, maent wedi mynd ati i greu stori tudalen flaen o'r mater.

Am rhyw reswm 'dydi'r stori ddim yn nodi mai cost y rhyfel hwnnw i drethdalwyr Unol Daleithiau'r America oedd $1,600,000,000,000,000,000, na bod 4,296 o'r dywydiedig drethdalwyr wedi eu lladd yn y rhyfel (heb son am y 110,600 o Iraciaid a laddwyd wrth gwrs).Yn ffodus roedd pethau'n rhatach ym Mhrydain - 179 o farwolaethau milwrol yn unig a chost i'r trethdalwr o £5,300,000,000, ond 'dydi'r Post ddim yn son am hynny chwaith.

Y prif reswm bod Prydain wedi cymryd rhan yn yr ymarferiad gorffwyll o ddrud (yn ariannol ac o ran y bywydau pobl) yma ydi bod y llywodraeth Lafur wedi rhaffu un celwydd ar ol y llall er mwyn creu argraff bod bygythiad o gyfeiriad Irac.

Fedra i ddim honni mai'r grwp atgas o bapurau mae'r Daily Post yn perthyn iddo - Trinity Mirror - oedd y mwyaf euog o bell ffordd o bedlera propoganda Blair yn y misoedd cyn y rhyfel. Serch hynny, pe byddai'r wasg - Trinity Mirror yn gynwysiedig - ar y pryd heb fod mor bathetig o grediniol o gelwydd gwleidyddion, hwyrach na fyddai'r trethdalwr wedi orfod dod o hyd i biliwn ar ol biliwn o bunnoedd i dalu am antur oedd wedi ei chyfiawnhau gan llond trol o gelwydd.

Friday, May 22, 2009

Morrisons y Mrs a charchar Caernarfon


Mae gan y Mrs acw berthynas ryfedd efo Morrisons. Mae'n debyg gen i mai hi ydi prif gwsmer Morrisons Caernarfon, mae'n ymweld a'r lle rhyw ben pob dydd. Y rheswm am hyn ydi am ein bod yn byw gyferbyn a'r lle ac mae'n ei drin fel rhyw fath o siop gornel. Does ganddi ddim mynediad i gar yn ystod y dydd, felly croesi'r ffordd gyda bag llaw ydi'r peth hawsaf.



Fodd bynnag mae'r lle yn dan ar ei chroen, a'r prif reswm am hynny ydi Seisnigrwydd y lle. Un o Gaerdydd ydi Lynne, a 'doedd ganddi ddim llawer o Gymraeg nes iddi ddysgu pan oedd yn ei harddegau hwyr, ac mae arddeliad y sawl a gafodd droedigaeth yn aml yn fwy tanbaid nag un neb arall. Gan ei bod yn mynychu'r lle mor aml mae'n 'nabod pawb sy'n gweithio ar y tils, ac mae'n gwybod pa iaith maent yn ei siarad. Dyma sampl am ychydig ddyddiau diweddar o iaith y sawl oedd yn gweithio ar y tils (Saesneg yn gyntaf - Cymraeg yn ail):

2 0
7 2
7 1
6 2
8 2

'Dydi hyn ddim yn anarferol - tebyg ydi'r gymysgedd pob dydd, pob wythnos.

Mae'r ffigyrau hyn yn debyg i'r hyn y byddai rhywun yn ei ddisgwyl petai'r siop yn cyflogi pobl o Gymru ben baladr - ond dydi hi ddim - cyflogi pobl o gylch Caernarfon mae hi. 'Does yna ddim un stryd yng Nghaernarfon gyda llai na 50% yn siarad Cymraeg, ychydig iawn sydd yna gyda llai na 70% yn siarad yr iaith honno, ac mae efallai hanner strydoedd y stadau dosbarth gweithiol mawr - y llefydd y byddai dyn yn disgwyl fyddai'n cyflenwi gweithwyr til Morrisons - efo mwy na 90% yn siarad Cymraeg. 'Dydi proffeil ieithyddol y pentrefi sy'n amgylchu'r dref ddim yn gwahanol iawn i hyn (ag eithrio'r Felinheli, sydd mymryn yn llai Cymreig).

'Rwan, ar yr olwg gyntaf mae'r gwahaniaeth rhwng y ganran o'r sawl a gyflogir gan Morrisons sy'n siarad Cymraeg a'r hyn y gellid ei ddisgwyl yn syfrdanol, ac yn awgrymu bod rhagfarn gwrth Gymreig wedi ei wreiddio'n dwfn ym mhrosesau cyflogi'r arch farchnad. Mae'r ffaith bod canran uchel o'r bobl sy'n gwneud yr un gwaith yn Tesco (sydd wedi ei leoli ar yr ochr arall i'r dref) yn cadarnhau'r argraff yma. Mae'r rhan fwyaf o'u staff nhw yn siarad Cymraeg.

Mae yna ychydig mwy i'r stori wrth gwrs. Mae'r rhan fwyaf o fusnesau preifat yng Nghaernarfon yn cyflogi rhywfaint mwy o bobl ddi Gymraeg nag y byddai rheolau tebygolrwydd syml yn eu hawgrymu. Mae yna reswm da am hyn. Oherwydd nad yw'n hawdd cael unrhyw swydd yn yr ardal yn y sector gyhoeddus heb fod a gwybodaeth o'r Gymraeg, ychydig iawn o'r di Gymraeg sy'n cael eu cyflogi yn y sector honno. O ganlyniad mae'r pwll o bobl sy'n chwilio am waith yn y sector breifat yn gwahanol o ran proffeil ieithyddol i un yr ardal yn ei chyfanrwydd.

Serch hynny mae llwyddo i gyflogi 75% o bobl di Gymraeg mewn ardal lle mae efallai 85% yn siarad y Gymraeg yn gryn gamp. Mae'n amlwg bod rhesymau eraill ar waith.

'Dwi'n siwr bod yna amrediad o resymau am y sefyllfa, rhai'n gymhleth, rhai'n syml - ond mae'r rheswm canolog yn sobor o syml. Mae rheolwyr adnoddau dynol (fel mae swyddogion personel yn cael eu galw y dyddiau hyn) mewn sefydliadau mawr bron yn ddi eithriad yn Saeson dosbarth canol. Pan maent yn cyfweld hogan o Gefn Hendre neu 'Sgubor Goch maent yn debygol o gael trafferth hyd yn oed deall y fersiwn o'r Saesneg a siaredir ganddi. Er bod pobl y dref yn siarad Saesneg yn rhwydd (roedd Gaernarfon yn ddwyieithog ymhell, bell cyn i'r rhan fwyaf o bobl cefn gwlad ddysgu Cymraeg) mae'r dafodiaeth yn y ddwy iaith yn cael ei siarad yn gyflym iawn ac mae dylanwad y Gymraeg yn drwm iawn ar y Saesneg (a'r Saesneg ar y Gymraeg o ran hynny). O ganlyniad mae mewnfudwraig o Cheshire yn swnio fel petai ganddi sgiliau cyfathrebu llawer gwell na'r hogan o Lon Arfon i'r sawl sy'n penderfynu pwy sy'n cael y swydd. Y gwrthwyneb sy'n wir o safbwynt mwyafrif cwsmeriaid y siop wrth gwrs.

Daw hyn a ni at Tesco. Yn ddi amau mae eu rheolwr adnoddau dynol nhw yn ddi Gymraeg, ond mae'r rhan fwyaf o'r staff yn Gymry. Pam?

Ychydig flynyddoedd yn ol roeddwn yn chwarae sboncen yn rheolaidd yn erbyn y dyn oedd yn rheoli Tesco Caernarfon bryd hynny - Sais rhonc. Mi soniodd un diwrnod mor falch oedd ei fod wedi llwyddo sicrhau bod yr holl weithwyr til ag eithrio un yn siarad Cymraeg. Roeddwn wedi fy synnu gan y sylw a dywedais wrtho nad oeddwn yn ymwybodol fod y Gymraeg yn bwysig iddo. Ei ateb oedd - It isn't important to me, I couldn't care less - but I reckon that the customers wants to speak Welsh as they check out - & it's my job to give them what they want.

Dyma ydi cryfder mawr Tesco wrth gwrs - eu bod yn gallu meithrin diwylliant o ymateb yn hyblyg i anghenion a delfrydau eu cwsmeriaid. Dyma'r rheswm creiddiol pam bod y cwmni yn un mor rhyfeddol o lwyddiannus. Mae'n debyg bod strwythurau cyflogi Tesco a Morrisons yn debyg - ond bod diwylliant rheolaethol Tesco yn gallu cywiro gwall sy'n amlwg o safbwynt masnachol tra nad yw Morrisons yn llwyddo i wneud hynny.

Daw hyn a ni yn ei dro at y carchar arfaethiedig. 'Dwi'n hollol argyhoeddiedig y gallai'r carchar fod yn gydadran allweddol i economi llwyddiannus yn y Gogledd Orllewin - ond bydd yn gyflogwr mawr - ac mae'n bwysig o safbwynt y Gymraeg yn ei phrif gadarnle nad ydi'n gyflogwr tebyg i Morrisons o safbwynt ieithyddol. Fydd yna ddim diwylliant Tescoaidd o ymateb i negeseuon y farchnad - dydi barn y cwsmer ddim ymysg prif flaenoriaethau clinc. Felly mae'n bwysig bod strwythurau cyflogaeth mewn lle sy'n sicrhau bod y gweithly yn adlewyrchu natur ieithyddol yr ardal. 'Dydw i ddim yn siwr bod hynny wedi digwydd yn y datblygiad cyfreithiol arall newydd yng Nghaernarfon - yr adeiladau Llys y Goron newydd ar hen safle Ysgol Segontium. Mae'n hanfodol bod strwythur cyflogaeth yn cael ei ystyried yn fanwl cyn, yn ystod ac wedi'r broses ymgynghori.

Wednesday, May 20, 2009

Lib Dem Watch - rhan 1

Mae'r blog yma wedi dadlau yn y gorffennol mai'r Lib Dems ydi'r blaid futraf yn y DU, ac mai'r prif reswm am hyn ydi'r gwacter ideolegol sy'n ei nodweddu. Mae pleidiau di ideoleg yn cael eu gorfodi i wleidydda mewn ffordd fudur ac anonest ac i ganolbwyntio ar fanion oherwydd nad oes ganddynt unrhyw beth arall i'w gynnig i'r ddadl wleidyddol. 'Dydi'r Lib Dems eu hunain ddim yn derbyn hyn wrth gwrs - fel y gellir gweld o edrych ar sylwadau Peter Black yma.

Gan bod nifer o etholiadau ar y ffordd (wel dwy beth bynnag) 'dwi'n bwriadu postio ambell i gyfraniad yn edrych ar eu dull gwleidydda. Dyma ddechrau efo pamffled sydd ag enw rhywun o'r enw Alan Butt Philip ar ei ben. Mae'n debyg mai fo ydi eu prif ymgeisydd yn etholiad Ewrop ar Fehefin 4.

Dyma sydd gan Alan i'w ddweud am y Toriaid:

Britain needs to work with other countries to get us out of recession.


But the Conservatives & extreme political parties like UKIP & the BNP want Britain to be isolated from Europe.

They consistently oppose working with other countries to create jobs, tackling crime & climate change.

Often the Conservatives only agree with small fringe parties including UKIP & Sinn Fein.

We can't let the Conservatives isolate Britain too.

'Rwan, mae pawb sy'n darllen y blog yma yn rheolaidd yn gwybod nad ydw i'n or hoff o'r Blaid Geidwadol - ond fyddwn i ddim yn breuddwydio ceisio eu pardduo efo nonsens fel hyn.

Bwriad y sylwadau ydi gwneud i'r Toriaid edrych yn eithafol trwy eu henwi yn yr un frawddeg a phleidiau sydd yng ngolwg llawer yn eithafol. Mae polisi'r Toriaid ar Ewrop yn gwahanol i un UKIP a'r BNP. Diweddu aelodaeth Prydain o'r sefydliad ydi eu polisi nhw. Gwrthwynebu'r intigreiddio pellach fyddai'n deillio o weithredu Cytundeb Lisbon mae'r Toriaid.

Yn rhyfedd iawn mae agwedd Sinn Fein at Lisbon yn y ffordd mae'n effeithio ar Iwerddon yn debyg iawn i un y Toriaid parthed Prydain. Dyna'r unig fater o unrhyw bwys mae'r Toriaid a Sinn Fein yn cytuno ynglyn a nhw. Ym mhob ffordd arall mae'r ddwy blaid cyn belled ag y gallant fod oddi wrth ei gilydd.

Yn wir, yn y gorffennol mae gweinidogion Toriaidd wedi awdurdodi llofruddio gwleidyddion Sinn Fein, ac mae arweinwyr presenol Sinn Fein, pan oeddynt yn cyflawni rol arall, wedi awdurdodi llofruddio gwleidyddion Toriaidd.

Ond dydi hynny fotwm o ots wrth gwrs - y peth pwysig i'r Lib Dems ydi gallu stwffio enw'r ddwy blaid i'r un brawddeg mewn ymdrech i bardduo gwrthwynebwyr gwleidyddol - guilt by association, even where there's no association.

Etholiad yn yr haf?


Os ydi hwn i'w gredu mae perygl i ni gael etholiad yn yr haf.

Mae met Gordon Brown - Nick Brown wedi nodi mewn neges Twitter (sydd bellach wedi ei dileu) mai ychydig o wythnosau fydd gan y Llefarydd newydd i setlo cyn y bydd etholiad yn cael ei galw.

Bydd y Llefarydd newydd yn cael ei ethol ar Fehefin 22, sy'n awgrymu (os ydi camgymeriad Brown i'w gymryd o ddifri) y bydd yr etholiad yn cael ei galw ym mis Gorffennaf, a'i chynnal ym Mis Awst. Fedra i ddim cofio etholiad o unrhyw fath (ag eithrio is etholiadau cyngor) yn cael ei chynnal ar yr amser yma o'r flwyddyn.

Byddai'n sicrhau cyfradd pleidleisio isel gan y byddai cymaint o bobl ar eu gwyliau. Efallai y byddai hefyd o rhywfaint o fantais i Lafur - bydd yn lleihau faint o bobl sy'n fodlon gweithio tros bleidiau a ni fydd llawer yn gweithio tros Lafur beth bynnag o dan yr amgylchiadau sydd yn bodoli ar hyn o bryd. Hefyd wrth gwrs bydd y dosbarthiadau canol i ffwrdd ar eu gwyliau - ac mae Llafur wedi hen golli'r rheiny.

Sunday, May 17, 2009

Treuliau Aelodau Seneddol Cymreig

'Dydi'r aelodau seneddol Cymreig heb fod ymysg 'ser' y sgandal hawlio treuliau diweddar, ac mae'n debyg nad ydi hynny'n anisgwyl ar un olwg. 'Dydi ceisio hel swmiau mawr o bes ddim ymhlith gwendidau'r Cymry yn draddodiadol - dyna'n rhannol pam bod llai o bobl gyfoethog iawn yng Nghymru i gymharu a'r Alban neu'r Iwerddon er enghraifft. Ta waeth, mae rhai wedi gwneud eu gorau - dyma sut mae pethau'n edrych hyn yn hyn.

Peter Hain (Llafur, Castell Nedd). Er nad oes awgrym bod y creadur anymunol yma wedi hawlio pres nad oedd yn briodol iddo ei hawlio, mae wedi llwyddo i hawlio swmiau sylweddol o arian - £431,905 0 2005 - 2008. Mae hyn yn uwch na'r un Aelod Seneddol Cymreig arall, ac mae bron i £200,000 yn fwy na hawlwyd gan ei 'gymydog', Alan Williams.

Lembit Opik (Lib Dem, Trefaldwyn). Mae gan Lembit dalent o gael ei hun yng nghanol rhyw smonach neu'i gilydd bron yn barhaol. Wnaeth o ddim siomi y tro hwn chwaith. Ymddengys ei fod o'r farn y dylai'r cyhoedd dalu am ei ddirwyon (£40) a £12,655 er mwyn uwchraddio ei dy - turning into a bit of a maintenance disaster oedd yr esgys am hyn. Roedd hefyd o'r farn mai mater i'r trethdalwr oedd talu am ei deledu plasma £2,500. Yn anarferol nid oedd awdurdodau Tai'r Cyffredin yn cytuno. Roedd nifer o fan eitemau megis dodrefn oedd i fod ar gyfer ei 'ail' dy yn cael eu cludo i'w gartref yn Nhrefaldwyn, neu i'w swyddfa yn Llundain.



'Roedd y swmiau roedd yn eu hawlio ar gyfer ei ail dy yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn yn ol pob golwg:

2004-05: £14,026

2005-06: £14,685

2006-07: £16,237

2007-08: £23,083

Paul Murphy (Llafur, Torfaen). Mae'n ymddangos bod Paul eisiau prynu'r les ar ei ail gartref, ond nid oedd eisiau cael ei wahanu oddi wrth ei bres chwaith. Felly cafodd y cyhoedd y fraint o dalu £2,336.37 ynghyd a £1,799 mewn treth er mwyn i Paul gael ei les. Cawsom hefyd y fraint o dalu £3,419.25 i brynu boilar newydd iddo oherwydd bod yr hen un yn gor gynhesu'r dwr. Mae Paul yn codi ar y trethdalwr am bob math o fanion - £30 am rhywbeth i ddal papur toiled, £6 am declyn agor tuniau, £6 am leinars i'r hwfer ac ati. Mae'n un da am fwyta hefyd - bydd yn hawlio £200 i £300 yn fisol am fwyd.

Don Tohuig (Islwyn, Llafur) Don ydi un o aelodau mwyaf gwrth Gymreig ei blaid - ymddengys ei fod yn ystyried pob siaradwr Cymraeg yn grachach. Fo hefyd sy'n cadeirio pwyllgor sy'n ystyried treuliau aelodau seneddol.



Fflipio ydi prif bechod Don - honnodd mai ei gartref yng Ngwent oedd ei ail gartref er mwyn gallu hawlio £2,500 i addurno'r lle. Hefyd hawliodd £1,325 am fwyd pan oedd Aelodau Seneddol ar eu gwyliau.

Mae faint o arian mae o'n ei wario ar ei dai hefyd wedi bod yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn:

2004/05: £20,902

2005/06: £21,531

2006/07: £22,106

2007/08: £23,080

Stephen Crabb (Tori, Preseli Penfro). Er mai aelod cymharol newydd ydi Stephen, 'doedd o ddim yn hir cyn dod i ddeall sut i wthio 'rheolau' treuliau i'r eithaf. Trwy honni mai ei brif gartref oedd fflat roedd yn ei rentu efo aelod seneddol arall yn Llundain, gallai hawlio'r £9,300 o dreth stamp ar y ty mae ei deulu yn byw ynddo ym Mhenfro.

Kevin Brennan (Llafur, Gollewin Caerdydd). Roedd Kevin yn hoff o hawlio am eitemau megis teledu £450 ar gyfer yr ail gartref mae'n ei rannu efo ei frawd yn Llundain, ond trefnu iddynt gael eu hanfon i'w dy cyntaf yng Nghaerdydd. Roedd hefyd yn hawlio am pob math o fanion i'w ail gartref, gwely ar gyfer ei blant yn ei ail dy yn Llundain. Cadarnle etholiadol Kevin ydi stad enfawr Trelai ar gyrion y brifddinas - un o'r llefydd tlotaf ym Mhrydain.

Mae'r santaidd Paul Flynn wedi bod ar Radio Cymru yn cyfiawnhau treuliau Kevin a Paul Murphy tra'n ymosod ar Cheryl Gillan am ddisgwyl i'r trethdalwr dalu am fwydo ei chi (ac mae Nick Bourne - dyn y stafell molch a'r i pod fe gofiwch - yn ei hamddiffyn ar y sail ei bod yn agos iawn at ei y dywydiedig gi).

Chris Bryant (Llafur, Rhondda). Fflipio oedd prif bechod Chris hefyd. Trwy wneud hyn ddwy waith mewn dwy flynedd fe'i galluogodd ei hun i hawlio £20,000 i uwchraddio dau dy. Tros gyfnod o 5 mlynedd llwyddodd i wario £92,000 o bres y cyhoedd ar dri thy.

Yn Ebrill 2005, fe fflipiodd ei dy yng Ngorllewin Llundain, oedd wedi ei brynu am £400,000 yn Ebrill 2002. Hawliodd £630 y mis am log morgais. Wedi hawlio £3,600 tros dri mis gwerthodd y lle ym Mehefin 2005 am £477,000. Defnyddiodd yr elw i brynu lle newydd am £670,000. Mae nifer o'r wardiau tlotaf ym Mhrydain yn etholaeth Chris.

Friday, May 15, 2009

Pwy fydd yn ail yn yr etholiadau Ewropiaidd tros Brydain?

Ymddengys bod pol diweddar (Prydeinig)yn rhoi UKIP, y Lib Dems a Llafur ar 19% yn etholiadau Ewrop. I mi mae hyn yn awgrymu'n gryf mai'r Lib Dems fydd yn ail ar lefel Prydeinig. Dyma pam:

Mae gan Lafur hanes o berfformio'n sal mewn etholiadau Ewrop. Er enghraifft roedd y polau (am etholiadau San Steffan), yn awgrymu bod Llafur ar 36% yn 2004. 22% oedd eu pleidlais yn etholiadau Ewrop. Mae hyn yn awgrymu'n gryf i mi y bydd pleidlais Llafur yn sylweddol is na 20% - efallai y bydd yn is na 15%. Byddai hyn yn drychineb etholiadol ar raddfa epig a hanesyddol.

Problem wahanol iawn sydd gan UKIP - problem y syndrome Sinn Fein. Mae polau piniwn yng Ngogledd Iwerddon yn enwog am fod yn gyson anghywir. Mae bron i bob pol yn y Gogledd yn rhoi'r SDLP o flaen Sinn Fein - ond pan mae diwrnod yr etholiad yn dod a phan mae bocsus Gorllewin a Gogledd Belfast a phentrefi a man drefi Tyrone, Fermanagh ac Armagh yn cael eu gwagio mae pleidlais y Shinners yn sylweddol uwch nag un y Stoops.

Mae'r rheswm am hyn yn eithaf amlwg. 'Dydi pobl ddim yn hoffi dweud eu bod yn cefnogi plaid sydd yn cael ei hystyried yn gwbl esgymyn gan y cyfryngau torfol, ond pan maent ar eu pennau eu hunain yn y bwth pleidleisio efo dim gyda nhw ag eithrio eu cydwybod eu hunain, 'dydi barn y sefydliad cyfrygol ddim yn cyfri am ffeuen. Yn yr un ffordd 'dydi pobl ddim am ddweud wrth ddieithryn ar y ffon eu bod yn cefnogi'r BNP - felly maent yn honni eu bod yn cefnogi'r blaid Adain Dde, wrth sefydliadol mwy parchus. Byddwn yn fodlon betio y bydd y BNP yn cael pleidlais uwch o lawer na'r 3% mae'r polau yn ei roi iddynt - ac y bydd UKIP yn caelcael llai nag 19%.

Yn anffodus bydd yn etholiad Ewrop 2009 yn un dda i'r BNP.

Wednesday, May 13, 2009

Croeso cynnes ond amodol i'r Stratgaeth Addysg Gymraeg

'Dwi'n gwybod nad ydi'r croeso i ddatganiad Jane Hutt heddiw ynglyn a datblygu'r ddarpariaeth Gymraeg mewn addysg wedi derbyn croeso di gymysg, ond i mi mae ymhlith y datblygiadau mwyaf cadarnhaol i ddeillio o gytundeb Cymru'n Un. Mae hefyd yn ddadl bwerus iawn pam ei bod yn angenrheidiol i Blaid Cymru fod mewn llywodraeth.

I fod yn fras iawn, bwriad y cynllun ydi ei gwneud yn ofynol ar i Awdurdodau Lleol ganfod faint o alw sydd am addysg Gymraeg yn eu hardal nhw a mynd ati i ddiwallu'r galw hynny. Mae lle cryf i gredu bod y galw am addysg Gymraeg yn uwch o lawer na'r cyflenwad ym mhob rhan o Gymru bron - ceir tystiolaeth o hyn heddiw. Yn wir mae'n debyg bod mwy na hanner rhieni'r wlad eisiau addysg Gymraeg i'w plant - 21% o blant 7 oed sy'n derbyn addysg Gymraeg heddiw a 10% sy'n sefyll eu TGAU sy'n gwneud hynny trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r cynllun yn gosod targed o gynyddu'r ffigyrau hyn i 25% a 13%. Mae'r targedau yma yn uchelgeisiol, ond maent hefyd yn gyraeddadwy. O'u gwireddu byddant yn gamau arwyddocaol tuag at wireddu nod Cymru'n Un o greu Cymru ddwyieithog.

Cyn cynhyrfu'n lan ('dydi gor ganmol - nag yn wir canmol o gwbl - ddim ymhlith nodweddion y blog yma), efallai y dyliwn ychwanegu ychydig eiriau o amheuaeth. Os ydi'r cynllun yn mynd i weithio mae'n bwysig cymryd y canlynol i ystyriaeth:

(1) Dylid sicrhau bod y fethodoleg mae Awdurdodau yn ei defnyddio wrth ganfod faint o alw sydd yn gyson ac yn effeithiol. Mae'n hawdd cael unrhyw waith ymchwil i ddod i'r canfyddiad mae'r sawl sy'n ei gomiwsiynu ei eisiau trwy lunio'r fethodoleg mewn ffordd arbennig.

(2) Dylid sicrhau bod pob Awdurdod yn gorfod llunio cynllun gweithredu sy'n manylu ar sut yn union, ac erbyn pryd maent am ddarparu'r wasanaeth. Os nad ydi'r cynlluniau gweithredu hyn yn foddhaol, dylai'r asiantaeth arolygu ESTYN lunio rhai ar ran yr Awdurdod. Dylai ESTYN hefyd arolygu sut mae pob Awdurdod yn gweithredu eu cynllun.

(3) Lle nad ydi Awdurdod yn llwyddo i ddiwallu'r galw am addysg Gymraeg dylid eu cosbi'n ariannol, a dylid rhoi'r adnoddau a godir felly i Awdurdodau sy'n llwyddo i ddiwallu'r angen hwnnw er mwyn iddynt ddatblygu addysg cyfrwn Cymraeg ymhellach.

Mae gen i ofn os nad oes elfen gref o orfodaeth bydd datblygiad addysg Gymraeg yn parhau'n dameidiog (a defnyddio ansoddair Jane Hutt). Bydd Awdurdodau gwrth Gymreig megis Rhondda Cynon Taf neu Merthyr yn dod o hyd i ffyrdd o beidio a chwrdd a'u cyfrifoldebau.

Wedi dweud hyn oll 'dwi'n argyhoeddiedig bod hwn yn gam sylweddol yn hanes addysg Gymraeg.

Monday, May 11, 2009

Apel Cheryl, Toby a Hector



'Dydi hi byth yn hawdd gofyn i ddieithriaid am bres i fwydo'ch cwn, ac mae llawer iawn o sbeitio snobyddlyd yn gallu cael ei daflu tros y treueniaid sy'n gorfod gwneud hyn. Er enghraifft mae'r Daily Telegraph, efallai'r papur mwyaf snobyddlyd yn y Bydysawd, wedi bod yn gwneud yn union hynny i ferch dra anffodus o Landaf yng Nghaerdydd.

Er i Cheryl gael ei geni i deulu da iawn a'i haddysgu yn Cheltenham Ladies College yn anffodus aeth i fyw i Lundain lle sythiodd ei statws yn y Byd gyda chyflymder dychrynllyd bron mor ddi symwth a chwymp Jonathan Aitken neu Jeffrey Archer. Mewn dim roedd yn byw ar y strydoedd oer, caled gyda neb ag eithrio ei dau gi - Toby a Hector yn gyfeillion iddi.

Rwan mae Cheryl yn gyfangwbl ddibynol ar Hector a Toby am gwmni ac am ei diogelwch personol ar strydoedd cas y ddinas fawr. Yn anffodus ni all fforddio eu bwydo nhw - felly mae'n gorfod meddwl am ffyrdd creadigol a dychmygus o gadw cyrff ac eneidiau ei chyfeillion blewog ynghyd. Dyna ddigwyddodd pan ddaeth o hyd i bentwr o ffurflenni costau o Dai'r Cyffredin yng ngardd hynod rhywun o'r enw Alan Duncan - ac mi hawliodd gostau am Pedigree Chum i Toby a Hector. Llenwi ffurflenni o'r math yma ydi un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol mae neb wedi meddwl amdano o gael pres gan bobl eraill.

Ond yn anffodus, oherwydd sbeit y Telegraph bu'n rhaid i Cheryl dalu'r pres i gyd yn ei ol. Felly mae gen i ofn bod perygl marwol i gwn Cheryl. 'Dwi'n bwriadu anfon siec o £10 iddi er mwyn rhoi cymorth iddi fwydo'r cwn. Os oes rhywun arall am wneud yr un peth gellir anfon arian iddi trwy law Cronfa Amddiffyn Toby a Hector, 4 Ffordd Penlline, Caerdydd, CF14 2XS. Cyfranwch yn hael gyfeillion - mae'r achos yn un da.

Saturday, May 09, 2009

Cynnig i Mr Ian Lucas




Diolch i Plaid Wrecsam am ddwyn ein sylw at y llythyr uchod sydd wedi ei ysgrifennu gan Mr Ian Lucas, AS Wrecsam at un o'i etholwyr.

Mae'r dasg o ddysgu plant bach sut i 'sgwennu llythyr ffurfiol, cwrtais yn syrthio arnaf yn fy ngwaith pob dydd. Yn anffodus ymddengys bod bwlch bach yn rhywle yn addysg Mr Lucas, ac nad yw wedi cael y cyfle i feistrioli'r grefft eto. Mae hyn yn arbennig o anffodus o ystyried bod llythyru yn rhan greiddiol o waith dyddiol Mr Lucas.

Felly 'dwi'n fodlon cynnig gwers neu ddwy iddo'n rhad ac am ddim - cyn belled a'i fod yn addo peidio a chymryd arno fy mod wedi codi tal arno a hawlio'r 'costau' gan y trethdalwr. 'Dwi'n deall bod arweinyddiaeth ei blaid wedi gosod esiampl drwg braidd iddo yn hyn o beth.

Wednesday, May 06, 2009

Etholiadau Ewrop Rhan 3 Cymru a'r Alban

Reit - ychydig o ffigyrau i ddechrau.

Cyn yr etholiadau Ewrop diwethaf roedd Llafur ar tua 36% (tros y DU) yn ol y polau piniwn oedd yn tracio bwriad pleidleisio pobl mewn etholiadau San Steffan. 'Roedd eu perfformiad yn sylweddol waeth na hynny - 22.6%. Ar hyn o bryd mae eu ffigyrau polio o gwmpas 28%. Byddai perfformiad cymharol debyg yn dod a'u canran yn etholiad Ewrop i lawr i 14%. 'Dwi ddim yn meddwl y bydd pethau cyn waethed a hynny, ond mi fydd yn is na 20% ac mae'n bosibl iawn y byddant yn dod yn drydydd, ar ol y Toriaid a'r Lib Dems. Bydd y patrwm yma'n cael ei ail adrodd yng Nghymru a'r Alban yn ogystal a Lloegr.

Roedd perfformiad Llafur yng Nghymru a'r Alban yn well - 26.6% yn yr Alban a 32.5% yng Nghymru ac roeddynt yn hawdd ar ben y pol yn y ddwy wlad.

'Dydyn nhw ddim am wneud cystal y tro hwn a byddwn yn disgwyl i'w pleidlais gwympo tua 6% yn yr Alban ac efallai mwy na hynny yng Nghymru gan y bydd llai o lawer yn pleidleisio y tro hwn yma nag a wnaeth yn 2004 oherwydd nad oes etholiadau lleol ar yr un diwrnod. Doedd yna ddim etholiadau lleol yn yr Alban yn 2004.

Felly byddwn yn disgwyl i ganran Llafur fod tua 20% yn yr Alban ac i lai na 25% yng Nghymru. Byddwn yn disgwyl i'r Toriaid hefyd fod yn agos at 20% yn yr Alban ac i'r SNP godi eu pleidlais yn sylweddol i'r ugeiniau hwyr (o 19.7%).

Byddwn yn disgwyl i bleidlais Plaid Cymru a'r Toriaid godi o 17.4% a 19.4% i'r ugeiniau canol. Mewn geiriau eraill bydd y prif bleidiau Cymreig yn agos iawn at ei gilydd.

O gyfieithu hyn oll i seddi, byddwn yn disgwyl i'r canlynol ddigwydd:

Yr Alban

SNP 2 (2 o'r blaen)
Llafur 1 (2 o'r blaen)
Toriaid 2 (2 o'r blaen)
Lib Dems 1 (1 o'r blaen)

6 yn hytrach na 7 sedd sydd ar gael yn yr Alban y tro hwn.

'Dwi ddim am ei galw hi yng Nghymru eto. Bydd y Toriaid yn ennill canran o bleidleisiau UKIP, ond mae'n bosibl y bydd y ffaith bod Plaid Cymru mewn clymblaid efo Llafur yn y Cynulliad ei gwneud yn haws i aml i gyn Lafurwr bleidleisio i Blaid Cymru. Mae tystiolaeth bod hyn wedi digwydd yn yr etholiadau lleol y llynedd.

'Dwi'n credu y bydd yn agos rhwng y tair plaid fawr Gymreig - a bod posibilrwydd mai trydydd fydd Llafur yma. Mae hefyd yn ddigon posibl mai trydydd fyddant yn Lloegr a hyd yn oed yn yr Alban.

Tuesday, May 05, 2009

Mytholeg y Dde Eingl Americanaidd




Gadawodd un o'n cyfeillion Ceidwadol (mae'n debyg gen i) y neges ganlynol mewn ymateb i fy nghyfraniad ar y Farwnes Thatcher. Mae'r cyfraniad yn un diddorol, a 'dwi yn ei ddyfynu'n llawn:

wrth gwrs, petai chwith basiffistaidd Plaid Cymru wedi cael eu ffordd yna fase Prydain wedi gadael i'r Falkland Islands gael eu gorsgyn gan Galtieri - ffasgwyr Yr Ariannin!

Tra roedd cenedlaetholwyr asgell chwith y Blaid yn son am yr angen i siarad a chymodi, fyddai Galtieri wedi tynhau eu rym ar yr ynysoedd. Thatcher ddaeth a democratiaeth i'r Ariannin gan guro Galtieri a'i ffasgwyr.

Thatche a Reagan wnaeth yn fwy na neb (ag eithro'r Pab 'adweithiol' a Solidarnosc) i ddymchwel yr Undeb Sofietaidd gan ddod a democratiaeth i Ddwyrain Ewrop a rhyddid i wledydd Bychain fel Latvia ac Estonia. Tra fod chwith Plaid Cymru'n mawrygu gwastraff amser hunangyfiawn 'Merched Greenham' a chredu fod cynnal gwylnos dros heddwch, wnawn nhw fyth cyfaddef i'w hunain mai Reagan benstiff a Thatcher egwyddorol a orfododd yr USSR i'r bwrdd trafod oherwydd na allen nhw fforddio curo NATO mewn ras arfau.

Felly, mae dwy ochr i'r geniog.

Byddai ychydig o wyleidd-dra gan y Chwith genedlaetholaidd wrth gofio da a drwg Thatcher yn gwneud lot i'w hygrededd.


Cenedlaetholwr a Phleidiwr




Mae'n ddiddorol i'r graddau ei fod yn cwyno am elfennau afresymegol o fytholeg gwleidyddol cenedlaetholdeb Cymreig trwy ddiffinio'r fytholeg honno yn nhermau mytholeg y Dde Eingl Americanaidd.

Mae'r thesis bod Reagan a Thatcher (gyda ychydig o help gan y Pab a Solidarnos' wedi 'curo'r' Undeb Sofietaidd yn un cyffredin - ond hefyd mae'n boenus o ddi niwed.

Efallai bod a wnelo Reagan a Thatcher ag union amseriad cwymp y bloc Sofietaidd, ond yr hyn oedd yn gyfrifol am y cwymp oedd methiant y model economaidd oedd yn cael ei arfer yn y gwledydd hynny. Siawns y byddai'r sawl sy'n arddel economeg y farchnad rydd yn fwy na neb yn gweld hynny'n well na neb.

Roedd John Paul yn erbyn yr Undeb Sofietaidd, ond 'dydi hi ddim yn briodol i hawlio bod yr Eglwys Babyddol o blaid diwylliant marwolaeth y Dde Eingl Americanaidd. Mae beirniadaeth yr Eglwys o'r diwylliant hwnnw yn bwerys - llawer mwy felly na beirniadaeth y traddodiad gwleidyddol sydd wedi ei wreiddio mewn anghydffurfiaeth Gymreig ar sawl ystyr. Ond, wedi dweud hynny, mae agwedd yr Eglwys Babyddol gyfoes, ac un y 'Chwith Cymreig', ol grefyddol at drais gwladwriaethau yn ddigon tebyg i'w gilydd.

Fyddai Galtieri ddim wedi goroesi fwy nag unrhyw un arall o lywodraethau milwrol, adain Dde (ond nid Ffasgaidd wrth gwrs) De America. Roedd hanes yn prysur redeg o'u blaenau hyd yn oed bryd hynny. 'Roedd safbwynt yr Eglwys Babyddol yn ddigon tebyg i un anghydffurfwyr Cymreig yn y mater hwn unwaith eto.

Lle y gallwn gytuno gyda'n cyfranwr Toriaidd ydi bod elfennau o'r wleidyddiaeth mae o'n ei diffinio fel gwleidyddiaeth y 'Chwith Cymreig' (nid dyma'r term y byddwn i yn ei ddefnyddio) yn afresymegol ar adegau - ond mae'r un peth yn wir am pob traddodiad gwleidyddol - neb yn fwy felly na'r Dde Eingl Americanaidd.

Mae symleiddio a chreu mytholeg yn un o nodweddion creu ideoleg gwleidyddol. Mae mytholeg y tu ol i pob ideoleg gwleidyddol - a 'does dim lle i'r cymhlethdodau a greir gan flerwch a chymhlethdod hanes go iawn mewn ideoleg na myth. Peth felly ydi gwleidyddiaeth mae gen i ofn.

Testun i flog arall ychydi hirach yn y dyfodol agos efallai.

Sunday, May 03, 2009

Deg mlynedd ar hugain ers i Dduw roi Mrs Thatcher i ni


Ymddengys mai deg mlynedd ar hugain i fory y daeth y Fonesig Thatcher yn brif weinidog am y tro cyntaf.

Gan ei bod yn fwriad gennyf ddangos fideo gwleidyddol o bryd i'w gilydd o hyn allan, mae'n debyg ei bod yn addas fy mod yn dathlu'r diwrnod mawr efo fideo - can goffa hyfryd Christy Moore i Victor Jara - canwr poblogaidd o Chile a gafodd ei arteithio a'i lofruddio ar orchymyn ei chyfaill mynwesol, Augusto Pinochet.