Tuesday, January 22, 2019

Twr o gelwydd

Un o nodweddion diddorol yr holl ffrae Brexit ydi bod cymaint o ffeithiau  ar gael, ond  bod cymaint o’r ddadl yn ymwneud a gwybodaeth sydd ddim yn ffeithiol gywir - neu gelwydd.


Y celwydd mae pob celwydd arall wedi eu adeiladu arno ydi ei bod yn bosibl rhannu 4 rhyddid yr UE (rhyddid i symud pobl, cyllid, gwasanaethau a nwyddau ar draws ffiniau yn ddi dramgwydd).  Dydi hynny ddim yn bosibl i’r UE, a phetai’r UE yn caniatau i wledydd allanol ddewis yr elfennau o’r Farchnad Sengl byddai’r Farchnad Sengl  a’r UE yn datgymalu yn ddigon cyflym.  


Roedd y celwydd sylfaenol yma yn sail i’r ymgyrch Gadael adeiladu twr o gelwydd ar ei ben - bod cwmniau ceir Almaeneg a ffermwyr Ffrengig am orfodi eu llywodraethau i roi telerau da i’r DU, y byddai’r UE yn crefu am gytundeb efo’r UE, y byddai’r DU yn gallu negydu cytundebau masnach efo gwledydd unigol yn yr UE, y byddai cytundebau yn cael eu cwblhau’n gyflym ac yn hawdd iawn, y byddai’r Gwasanaeth Iechyd yn cael £350m yr wythnos yn ychwanegol, na fyddai yna unrhyw oblygiadau negyddol o ran teithio i’r UE, na fyddai’n rhaid codi ffin yn Iwerddon ac ati, ac ati.


Nid yr ochr Gadael oedd yr unig ochr oedd yn dweud celwydd wrth gwrs.  Roedd yr ochr Aros o dan arweinyddiaeth Cameron ac Osborne wedi cymryd eu hysbrydoliaeth o’r refferendwm ynglyn ag annibyniaeth i’r Alban.  Roedd ochr Cameron ac Osborne wedi ennill y refferendwm hwnnw trwy restru pob dim ofnadwy roeddynt yn gallu meddwl amdano a allai ddigwydd petai’r Alban yn gadael y DU, a’u ailadrodd trosodd a throsodd a throsodd.  Ailadroddwyd y patrwm hwn yn ei dro i raddau helaeth, a dywedwyd ymhellach y byddai’r holl wae a gwewyr yn digwydd yn syth bin.


Mae’r ddwy flynedd diwethaf o ‘negydu’ wedi dangos bod bron iawn i’r cwbl o’r hyn addawyd gan yr ochr Gadael yn amhosibl, ac mae yna fynydd o dystiolaeth bod llawer o ganlyniau negyddol am fod i adael yr UE - yn arbennig os nad oes cytundeb.


Ond yr ymateb ydi mwy o gelwydd.  Roedd hi tua blwyddyn yn ol pan holwyd Iain Duncan Smith ynglyn a datganiad Prif Gwnstabl gwasanaeth heddlu Gogledd Iwerddon - y PSNI - y byddai ffin galed yn Iwerddon yn fygythiad i ddiogelwch y dalaith.  Yn ol Duncan Smith doedd hyn ddim yn wir - roedd o wedi gwasanaethu yn y fyddin yng Ngogledd Iwerddon rhywbryd yn y gorffennol pell ac roedd o’n gwybod nad oedd bygythiad o unrhyw fath.  Mae George Hamilton yn darllen adroddiad gan y gwasanaethau cudd wybodaeth ar y bygythiad diogelwch yng Ngogledd Iwerddon yn wythnosol.  Mae Iain Duncan Smith wedi treulio cyfnod yng Ngogledd Iwerddon tra yn y fyddin  ddeugain mlynedd yn ol - ond mae’n credu bod y profiad hwnnw yn rhoi mwy o arbenigedd iddo ar fygythiadau i ddiogelwch yng Ngogledd Iwerddon na phrif gwnstabl cyfredol y PSNI.






A dyna ydi’r ateb i pob rhybudd - os ydi undebau amaethwyr yn darogan gwae i’w sector nhw mae nhw yn anghywir, mae’r asiantaeth ffiniau yn anghywir pan mae nhw yn paratoi ar gyfer anhrefn mewn porthladdoedd a meysydd awyr, mae’r weinyddiaeth sifil yn anghywir i rybuddio y bydd masnach efo’r cyfandir yn syrthio trwy’r llawr, mae’r heddlu yn anghywir i rybuddio y bydd ffin galed yn arwain at dor cyfraith.  Mae pawb yn anghywir - y CBI, yr IMF, Banc Lloegr, yr LSE, y weinyddiaeth sifil, Nissan, Airbus, Siemens, Pawb - mae Iain a’i ffrindiau yn gwybod yn well.  ‘Does na neb yn deall ond Iain a’i ffrindiau.


Mae celwydd Osborne a Cameron yn 2016 o wedi bod o gymorth wrth gwrs.  Mae pob rhagweld negyddol yn cael ei ddisgrifio fel ‘Project Fear’ - rhywbeth tebyg i brosiect Osborne a Cameron.  Ond dydi llawer o’r darogan gwae a geir bron yn ddyddiol ddim yn rhan o ymgyrch wleidyddol.  Yn amlach na pheidio cyrff proffesiynol neu asiantaethau llywodraethol sy’n paratoi ar gyfer problemau - gydag awduron y trefniadau yn aml yn credu bod eu rhybuddion neu eu trefniadau yn gyfrinachol.


Dwi’n meddwl mai dyfyniad cofiadwy y lladmerydd Brexit arall hwnnw - Boris Johnson - ydi ‘inverted pyramid of piffle’.  Fel mae’n digwydd mae’r dyfyniad yn disgrifio Brexit yn eithaf da.  Mae strwythur felly yn sicr o syrthio’n ddarnau wrth gwrs - a dyna fydd yn digwydd i’r prosiect Brexit.  Y cwestiwn mawr wrth gwrs ydi sut fydd y darnau’n syrthio.  Mae’r ateb i’r cwestiwn hwnnw am effeithio ar bawb am gyfnod maith. 

Monday, January 14, 2019

Yr wythnosau nesaf - beth sydd o’n blaenau?

Reit ta - beth sy’n debygol o ddigwydd tros yr wythnosau nesaf?  Yr ateb wrth gwrs ydi nad oes yna neb yn gwybod.  Ond o ran ceisio darogan y dyfodol mae yna waeth ffyrdd o fynd ati nag edrych ar beth mae’r marchnadoedd betio yn awgrymu.  Dyma beth maent yn awgrymu o ran tebygolrwydd gwahanol ddigwyddiadau.


Theresa May yn ennill ei phleidlais ddydd Mawrth - 17%


Ail Refferendwm - 36%


Theresa May yn peidio a bod yn Brif Weinidog eleni - 69%


Etholiad Cyffredinol eleni - 40%


Ac mi arhoswn ni efo’r olaf.  Petai yna etholiad yn y dyfodol agos, beth fyddai’n digwydd?  Ond mae’n bosibl edrych ar y sefyllfa gyfredol, etholiad 2017 a bwrw amcan ar sail hynny.



Y peth cyntaf i’w ddweud ydi ei bod yn rhyfeddol - ag ystyried pob dim sydd wedi digwydd ers Etholiad Cyffredinol 2017 - pa mor debyg ydi’r polau rwan i ganlynad yr etholiad.  


Er enghraifft roedd y pol Cymreig diweddaraf gan ITV Cymru fel a ganlyn.






Canlyniad Etholiad Cyffredinol oedd.






Felly y prif wahaniaeth ydi cwymp yng nghefnogaeth Llafur - ond cwymp sy’n eu gadael yn y sefyllfa gryfaf o ddigon.


A bod yn onest dwi ddim yn meddwl ei bod yn debygol y byddai Etholiad Cyffredinol yn cynhyrchu canlyniad mor debyg i un 2017.  Byddai etholiad cyffredinol yn arwain at i bob dim gael ei luchio i’r awyr - a phan mae hynny’n digwydd mae’n anarferol i bob dim syrthio’n ol yn yr un lle.  Gallai rhywbeth tebyg i’r hyn ddigwyddodd yn etholiad 2017 ddigwydd gyda symudiadau sylweddol mewn lefelau cefnogaeth yn ystod y cyfnod ymgyrchu.


Doedd yna ddim newidiadau mawr yn y nifer seddi yng Nghymru (na’r DU) oherwydd i gefnogaeth y ddwy blaid unoliaethol fawr symud i’r un cyfeiriad - Llafur + 12% a’r Toriaid + 6% yng Nghymru.  Mae’r rhain yn symudiadau mawr iawn.


Rwan petai’r ddwy brif blaid unoliaethol yn symud i gyfeiriad gwahanol byddai yna newidiadau mawr mewn seddi seneddol.  Er enghraifft petai yna ogwydd o 6% oddi wrth y Toriaid tuag at Lafur byddai yna gyflafan.  Byddai eu seddi i gyd  yng Nghymru ag eithrio tair yn syrthio - Trefaldwyn, Brycheiniog a Maesyfed a Mynwy.


Byddai gogwydd tebyg oddi wrth Lafur tuag at y Toriaid yn arwain gyflafan fwy.  Byddai Wrecsam, Alyn a Glannau Dyfrdwy, Pen y Bont, Gogledd Caerdydd, De Clwyd, Delyn, Gwyr a Dyffryn Clwyd yn syrthio.  Byddai Ynys Mon a Gorllewin Casnewydd hefyd yn agos iawn.


Ond mae’n bosibl - neu’n debygol hyd yn oed - y bydd y ddwy blaid unoliaethol fawr yn ymladd yr etholiad tra’n cefnogi Brexit.  Wedi’r cwbl dyna beth ddigwyddodd yn 2017.  Wnaeth y pleidiau llai gwrth Brexit (Dib Lems, Gwyrddion, SNP a Phlaid Cymru) ddim llwyddo i fanteisio ar hynny yn 2017.  Ond mae yna lawer iawn o ddwr wedi llifo o dan y bont ers hynny, ac mae agweddau’r ddwy ochr wedi caledu - a chwerwi.  


Mae’n bosibl felly y byddai etholiad cyffredinol yn arwain at symudiad sylweddol oddi wrth y ddwy blaid unoliaethol fawr a thuag at bleidiau llai sydd yn amlwg wrth Brexit.  Byddai angen symudiad gwirioneddol fawr o’r math hwn i arwain at newid mawr o ran niferoedd seddi.  Ond gallai newid llai fraeanu’r tir ar gyfer yr ail strwythuro gwleidyddol mwyaf ers yr 80au cynnar - os nad ers 1918.

Sunday, January 06, 2019

Brexit - beth fydd yn digwydd tros y misoedd nesaf

Tri phosibilrwydd sydd yna mewn gwirionedd:


- Mae Prydain yn gadael yr UE ar delerau cytundeb May

- Prydain yn gadael heb unrhyw fargen

- Prydain yn aros yn yr UE.


Mae’n annhebygol y bydd Ty’r Cyffredin yn derbyn cytundeb May.  Ymddengys bod tros 400 AS am bleidleisio yn erbyn y cytundeb cyn y Nadolig.  Does yna ddim llawer wedi newid ers hynny.  Yr unig beth allai newid pethau ydi bod Llafur yn newid eu safbwynt - a gan mai’r hyn mae nhw eisiau fwy na dim arall ydi Etholiad Cyffredinol mae hynny’n anhebygol iawn.  


Mae hynny’n ein gadael ni efo dau bosibilrwydd - aros neu adael heb gytundeb.  Mae’r llwybr tuag at aros yn gymhleth.


Er mwyn aros yn yr UE, rhaid i Brydain roi gwybod i'r UE ei bod yn tynnu ei hysbysiad Erthygl 50 yn ôl cyn y 29ain o Fawrth.  Golyga hyn mewn gwirionedd y byddai’n rhaid cael mandad newydd gan etholwyr y DU - naill ai trwy refferendwm newydd neu trwy etholiad cyffredinol.  Mae’n anodd iawn gweld y gallai May alw Erthygl 50 yn ol heb etholiad na refferendwm - byddai hynny’n wirioneddol niweidiol i’r Blaid Geidwadol - a byddai yn ol pob tebyg yn ei hollti.  Mae anghenion mewnol y Blaid Doriaidd wedi cael blaenoriaeth trwy’r holl hanes Brexit - a does yna ddim lle i feddwl y bydd hynny’n newid yn y dyfodol agos - na phell.


Cyn cael ail refferendwm byddai’n rhaid wrth ymgynghoriad cyhoeddus ynglyn a natur y cwestiynau a byddai rhaid fframio’r trefniadau mewn Mesur Refferendwm.  Byddai’n  rhaid i'r Senedd ei basio a byddai’n rhaid  darparu o leiaf ddau fis ar gyfer dadl gyhoeddus cyn y pleidleisio. 


Ag ystyried yr amrediad barn ynglŷn â'r materion hyn a gwrthwynebiad y brif wrthblaid a llawer oddi mewn i’r blaid lywodraethol nid yw’n debydol y gellid cynnal ail refferendwm cyn hydref nesaf ar y cynharaf.  Byddai’n rhaid i’r DU wneud cais i’r UE am estyniad i Erthygl 50 - ac estyniad cymharol faith ar hynny.  


Byddai hyn ymhell o fod yn ddelfrydol i’r UE oherwydd bod etholiadau ar gyfer Senedd Ewrop yn cael eu cynnal rhwng 26 a 29 Mai eleni.  Pe byddai’r DU yn yr UE o hyd bryd hynny mae’n debyg y byddai’n rhaid i’r DU fynd trwy’r broses etholiadol hefyd.  Dydi hyn ddim yn ddelfrydol o ran yr UE gan fod newidiadau eisoes wedi digwydd yn y niferoedd o aelodau sy’n cael eu darparu i wledydd yr UE yn sgil penderfyniad y DU i ymadael.  Byddai’n rhaid newid hynny ac ethol ASEau o’r DU heb wybod os byddai’r DU yn rhan o’r UE am fwy nag ychydig fisoedd wedyn.


 Problem arall ydi y bydd rhaid i Senedd yr Undeb Ewropiaidd ethol Llywydd nesaf y Comisiwn cyn dechrau mis Gorffennaf, nid yw’n debygol y byddai’r UE yn caniatau ymestyn cyfnod Erthygl 50 y tu hwnt i'r dyddiad hwnnw. 


O ganlyniad, byddai Prydain yn ol pob tebyg wedi gadael yr UE cyn y gallai ail refferendwm ddigwydd - a byddai ceisio dod yn ol ar ol gadael yn creu llawer o gymhlethdodau ynddo’i hun.  Ar ben hynny mae’n debyg y byddai ymadawiad o dan yr amgylchiadau yma yn un anhrefnus a heb sail cyfreithiol iddo - a byddai’r refferendwm yn cael ei gynnal mewn amgylchiadau argyfyngus.  Byddai galw refferendwm arall hefyd yn hollti’r Blaid Doriaidd.


Gallai etholiad cyffredinol ddigwydd yn llawer cynt a mwy di drafferth a gallai Senedd newydd gyda mandad i wrthdroi Brexit trwy alw’r  datganiad Erthygl 50 yn ol yn fuan wedi’r etholiad - ond byddai'n rhaid galw’r etholiad erbyn y 1af o Chwefror ar yr hwyraf  i ganiatau galw Erthygl 50 yn ol cyn 29ain o Fawrth. 


Gallai'r UE gytuno i ymestyn Erthygl 50 am tua dau fis arall i ganiatáu mwy o amser ar gyfer yr etholiad os byddai angen hynny.  Gellid galw Erthygl 50 yn ol yn fuan wedi etholiad - ond mae’n anodd gweld y gellid ei alw yn ol heb i’r blaid fuddugol - y Toriaid neu Lafur - fod wedi mynd i’r etholiad ar y ddealltwriaeth eu bod am wneud hynny.  Mae’n anodd gweld y byddai hynny’n bosibl i’r Toriaid ond mae’n bosibl i Lafur - er bod yna’r cymhlethdod bach bod arweinyddiaeth (ond nid aelodaeth)  y blaid honno eisiau Brexit.


Mae etholiad cyffredinol yn bosibl mewn amgylchiadau eraill hefyd - byddai gadael yr UE heb sail gyfreithiol i wneud hynny ac heb gyfnod trosiannol yn debygol o arwain at argyfwng gwleidyddol fyddai’n cyd redeg efo’r argyfwng economaidd.  Gallai hyn yn hawdd esgor ar etholiad cyffredinol.  Dydi hi ddim tu hwnt i bosibilrwydd chwaith y byddai’n well gan May wynebu etholiad cyffredinol na symud i ymadawiad caled a gorfod perchnogi hynny.  Byddai yna bethau gwaeth o safbwynt y Blaid Doriaidd na chyfnod fel gwrthblaid yn edrych ar Lafur yn ceisio gwneud rhywbeth efo’r llanast.


Mae etholiad cyffredinol felly yn llawer mwy tebygol na refferendwm.  


Ond gan nad yw'r Torïaid na’r Blaid Lafur yn ddigon unedig i ymrwymo i wyrdroi’r broses Brexit y perygl - yn wir y tebygrwydd ydi - y bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb oherwydd nad ydi hi’n bosibl cytuno i wneud unrhyw beth arall.  Lleiafrif gweddol fach sydd eisiau Brexit caled - ond lleiafrif sydd eisiau unrhyw beth yn y cyswllt yma.  


Mae etholiad cyffredinol eleni yn debygol iawn - ac mae gadael yr UE heb gytundeb yn fwy tebygol na pheidio.

Thursday, January 03, 2019

Pam y bydd dim cytundeb yn arwain ffin yn Iwerddon


Reit, beth am gael cip ar Iwerddon - a’r ffin sy’n achosi cymaint o ddrwg deimlad ymysg y cyfeillion sydd eisiau gadael yr UE?

Mae yna ddigon o son gan Rees Mogg, Ian Duncan Smith ac ati mai rhyw gynllwyn maleisus i gadw’r DU yn yr UE ydi penderfyniad Iwerddon a’r UE na fydd yna ffin rhyngwladol weledol yn yr Iwerddon.  ‘Wedi’r cwbl dydi’r  UE ddim eisiau un, dydi’r DU ddim eisiau un a dydi Iwerddon ddim eisiau un - felly fydd yna ddim un.’





Yn anffodus  ‘dydi pethau ddim cweit mor syml a hynny. 

‘Dydi Iwerddon ddim am ystyried ffin galed oherwydd y byddai ffin felly yn fygythiad i ddiogelwch y wladwriaeth.  Mae yna lawer iawn o bobl wedi eu lladd ar hyd y ffin tros y blynyddoedd.

Ond dydi Iwerddon na’r UE ddim mewn sefyllfa i ystyried gadael i gynnyrch a nwyddau symud yn rhydd o’r DU ar draws y ffin i’r UE chwaith.  Fyddai hynny ddim yn broblem yn syth bin, ond pan y byddai’r DU yn dechrau cymryd nwyddau a chynnyrch rhad o safon isel o wledydd y tu hwnt i’r DU - UDA Trump er enghraifft - yna byddai’r ffin yn ddrws cefn i pob math o stwff ansawdd isel gael mynediad i’r UE.  Byddai hynny’n fygythiad uniongyrchol i hygrededd y Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau.

Byddai hynny yn ei dro yn golygu y byddai’n rhaid i’r UE ac Iwerddon benderfynu lle i godi ffin - ar y ffin bresenol rhwng Gogledd Iwerddon a’r Weriniaeth, neu rhwng tir mawr Ewrop a’r Weriniaeth.  Mae’r naill mor annerbyniol a’r llall i’r UE a’r Werinaeth fel ei gilydd.

Byddai rhywun yn meddwl hefyd y byddai’r DU eisiau rheoli eu ffin nhw efo’r UE - gan mai rheoli ffiniau a chadw tramorwyr allan oedd rhai o’r prif ddadleuon tros adael yr 
UE.  Os ydi awgrymiad Jacob Rees Mogg i adael y ffin yn agored o’r ochr Brydeinig yn cael ei galw, fyddai yna ddim byd i rwystro Ffrainc rhag hedfan y sawl sydd yn Calais sy’n ceisio cael mynediad i’r DU i Ddulyn a mynd a nhw mewn bysus i borthladd fferi Larne yng Ngogledd Iwerddon.  Fyddai’r DU methu gwneud llawer i rwystro Ryan Air rhag hedfan pobl o Ogledd Affrica i Shannon a mynd a hwythau hefyd i Larne.  Y gwir ydi y byddai’r DU yn cau’r ffin o fewn ychydig fisoedd o gael eu traed yn rhydd o’r UE, ac mai’r sawl sydd fwyaf cegog na fydd ffin yn Iwerddon ar hyn o bryd fyddai’r uchaf eu cloch tros gael un.  Ac mae’r Iwerddon a’r UE yn deall hynny’n iawn.

Ac yn ychwanegol at hynny byddai’n rhaid i’r DU godi ffin os ydynt eisiau cadw at reoliadau’r WTO.  I gadw ar yr ochr gywir o’r rheolau hynny ni chai’r DU godi tollau ar unrhyw wlad ar nwyddau neu gynyrch petai yn peidio a chodi tollau ar unrhyw wlad yn absenoldeb cytundeb - gwledydd yr UE yn yr achos yma.  Petai’r DU yn peidio a chodi tollau ar wledydd eraill tra bod gwledydd eraill yn codi tollau ar y DU byddai hynny’n gymhelliad cryf i ddiwydiant adael y DU cyn gynted a phosibl.

Mewn geiriau eraill os nad oes cytundeb bydd yna ffin yn Iwerddon - beth bynnag mae’r DU, y Weriniaeth a’r UE yn ei ddweud.