Wednesday, September 30, 2009

Ystategau Medi 2009


Hyd y gwn i, blogmenai ydi'r unig flog i fod ddigon gwirion i wirfoddoli i syllu ar ei fotwm bol ei hun yn gyhoeddus yn fisol trwy gyhoeddi faint ymweldau a gafwyd ar y blog yn ystod y mis.

Cafwyd mwy o ymwelwyr y mis hwn nag yn ystod unrhyw fis arall eleni, ag eithrio mis Mehefin. 'Roedd yna etholiad yn ystod y mis hwnnw, a bydd traffig blogmenai yn dwblu neu dreblu yn ystod yr ychydig ddyddiau y naill ochr i etholiad. Felly bu'n fis digon llwyddiannus.



O'r diwedd - un rheswm o leiaf i fotio tros Lafur

Er crafu fy mhen, 'dwi wedi methu meddwl am cymaint ag un rheswm pam y byddai unrhyw Gymro yn ei lawn bwyll eisiau fotio i blaid Gordon Brown.

Ond - o'r diwedd daeth un rheswm i law, un gwan mae'n rhaid cydnabod. Os ydi'r Sun yn casau Llafur, mae'n rhaid bod rhywbeth yn rhywle'n dda am y blaid honno.

Tuesday, September 29, 2009

Gair bach o blaid STV

Yn nhudalen sylwadau fy mlogiad diwethaf dywed Aled - Yn bersonol, mi hoffwn i weld Cymru yn arwain y blaen hefo hyn a chyflwyno system bleidleisio STV. Byddai hyn yn rhoi mwy o rym a mwy o ddewis i etholwyr wrth ethol eu cynrychiolwyr gwleidyddol, ac fe allai annog mwy o ymgeiswyr annibynnol i sefyll fyddai hefyd yn llesol i ddatblygiad democratiaeth yng Nghymru.


Ag anghofio am ennyd na fyddai Cymru ar y blaen - defnyddir STV (neu STV gydag etholaethau aml sedd i fod yn fanwl) ym mhob etholiad ag eithrio etholiadau San Steffan yng Ngogledd Iwerddon, ac mewn etholiadau lleol yn yr Alban, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn cytuno.

Wna i ddim egluro'r dull yn y blogiad hwn - os oes gennych ddiddordeb gallwch ddarllen amdano yma.

Mi fyddwn serch hynny yn nodi bod i'r dull yma o bleidleisio sawl mantais - rhestraf rai isod:

(1) Mae'n fwy cyfrannol na First Past The Post (FPTP).
(2) Mae'n rhoi mwy o rym i'r etholwyr a llai i beiriannau pleidiol.
(3) Nid oes unrhyw bleidlais yn cael ei gwastraffu - os nad ydi'r person mae rhywun yn rhoi ei bleidlais gyntaf iddo / iddi, gall yr ail, trydydd neu bedwaredd dewis helpu i ethol rhywun.
(4) Nid oes yna etholaethau sydd ond yn cael eu cynrychioli gan un blaid am cyhyd a chanrif.
(5) Mae'n caniatau i bleidiau llai gystadlu am seddi a chael bod yn rhan o lywodraethau.
(6) Mae'n gorfodi cynrychiolwyr etholedig i weithio'n galed.
(7) Mae'n cynnal, ac yn wir yn atgyfnerthu'r cysylltiad rhwng aelodau etholedig ag etholaethau penodol.
(8) Mae diwrnod y cyfri yn hwyl i bawb ond yr ymgeiswyr.

Y ffordd y byddwn yn gwneud hyn ar lefel Cymru gyfan fyddai trwy ddiddymu'r etholaethau presennol a gwneud pob sir yn etholaeth seneddol, a dosbarthu seddi yn ol poblogaeth y siroedd hynny. Er enghraifft gellid rhoi un sedd ar gyfer pob 50,000 o bobl sy'n byw mewn sir, ac un arall ar ben hynny i pob sir. Byddai hyn yn rhoi tair sedd i Wynedd, dwy i Fon ac efallai 7 i Gaerdydd. Mi fyddai gan o leiaf dwy o'r pleidiau gynrychiolaeth ym Mon a Gwynedd, ac mae'n debyg y byddai pob un o'r prif bleidiau gyda chynrychiolaeth yng Nghaerdydd.

Byddai hyn yn golygu cynnydd yn y nifer o ASau Cymreig - i tua 82 (o 60), ond mae'n debyg y bydd hyn yn digwydd beth bynnag os enillir refferendwm y flwyddyn nesaf.

Oes yna unrhyw un efo dadl yn erbyn?

Monday, September 28, 2009

Pam bod y Toriaid yn gwneud mor sal?


Mae fy nhafod hanner yn fy moch wrth ofyn y cwestiwn - wedi'r cwbl mae Llafur mewn cyflwr enbyd, ac mae'r Toriaid mor sicr ag y gallant fod o ennill yr etholiad cyffredinol.

Ond - ag ystyried mor isel ydi canrannau Llafur - 'dydi rhai'r Toriaid ddim yn arbennig o iach. Tros y dyddiau diwethaf cafwyd sawl pol sy'n rhoi y Toriaid ar 40% neu lai. Gweler yma, yma, neu yma er enghraifft. 'Rwan 'dwi'n gwybod ei bod yn dymor cynhadleddau gwleidyddol, ond mae'r canrannau yma'n dal yn isel mewn cyd destun hanesyddol. Yr unig etholiadau cyffredinol lle cafwyd canrannau is yn y cyfnod diweddar oedd y rhai wedi trychineb 97, etholiad cyntaf 74 a thrychineb 45 ('dwi'n gweithio o fy nghof yma - efallai y bydd Guto yn fy nghywiro - ond dydw i ddim ymhell iawn o fy lle). Collodd y Toriaid pob un o'r etholiadau hynny.

Gwnaed llawer o 'fuddugoliaeth' y Toriaid yn etholiadau Ewrop yng Nghymru, ac roedd yn wir yn ganlyniad arwyddocaol. Ond - 'dydi 21% ddim yn ganran uchel i'r Toriaid yng Nghymru os ydym yn edrych yn ol tros y ganrif ddiwethaf.

Mae'r Toriaid yn debygol o ennill etholiad cyffredinol o filltir gyda chanran sy'n isel wrth safonau'r ganrif ddiwethaf - beth sydd yn mynd ymlaen?

Rhan o'r ateb ydi bod y defnydd o gyfundrefnau cyfrannol (PR) o bleidleisio mewn rhai mathau o etholiadau (Ewrop, Cynulliad, etholiadau lleol yn yr Alban) wedi cryfhau pleidiau a arferai fod yn ymylol yn yr etholiadau hynny, a bod hynny'n effeithio ar batrymau pleidleisio mewn etholiadau cyffredinol.

A dyna pam bod newid y gyfundrefn bleidleisio mewn etholiadau cyffredinol yn bwysig. Mae'r system bresenol yn arwain at sefyllfa lle'n bod yn cael ein rheoli'n ddi eithriad gan un o ddwy blaid sy'n chwerthinllyd o debyg i'w gilydd.

Mae'r llanast economaidd ym Mhrydain yn waeth nag yw yn y rhan fwyaf o lefydd eraill (os nad ydych yn fy nghredu, gofynwch i chi'ch hun pam bod gwerth y bunt wedi syrthio cymaint o gymharu a phob cyfundrefn ariannol hanner call arall). Rhan o'r rheswm am hyn ydi bod gennym lywodraeth sydd yn credu bod y sawl sy'n rhedeg banciau yn ymgorfforiadau o Dduwioldeb, ac na ddylid gwneud dim i reoli eu gweithdrefnnau. Mae'r gred yma'n union fel yr un mae plaid Cameron wedi ei harddel trwy'r degawdau. Mae hefyd yn gred ddagreuol o wirion.

Mae'r drefn bresenol - First Past the Post (FPTP) wedi creu cyfundrefn wleidyddol sy'n rhoi dewis i'r etholwr o faw ci neu faw cath. Mae'n bryd symud i drefn gyfrannol ym mhob etholiad - gan gynnwys rhai San Steffan.

Sunday, September 27, 2009

Diwrnod du eto fyth i Brown



O diar, 'dydi pethau ddim yn mynd yn dda iawn i Mr Brown - y Lib Dems yn dal ei blaid yn y polau piniwn, Y Farwnes Scotland yn cael ei dal yn dweud _ _ _ , wel llai na'r gwir, wedyn dyma Alistair Darling yn ymosod ar ei holl blaid gan gynnwys fo'i hun a'i fos; a fel petai hynny ddim yn ddigon, mewn datblygiad dramatig a allai'n hawdd ddod a'r llywodraeth i lawr, mae Llais Gwynedd wedi galw ar y creadur i ymddiswyddo, er mwyn i'r Toriaid gael dod i rym yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach.

Mae'r diwedd yn agos bois bach.

Saturday, September 26, 2009

A oes gwersi i'w dysgu o'r 'trai Spring'?


Blogmenai ydi'r unig flog yn y byd mawr crwn sy'n gwneud arfer o gymharu gwleidyddiaeth etholiadol Cymru a gwleidyddiaeth etholiadol Iwerddon - hyd y gwn i. 'Dwi ddim yn siwr bod cymharu dwy wlad sydd mewn rhai ffyrdd yn debyg, ond sydd o ran system etholiadol a diwylliant gwleidyddol yn gwbl wahanol, yn syniad da. 'Dwi'n rhyw led ymddiheuro pob tro 'dwi'n gwneud cymhariaeth, a 'dwi'n gwneud hynny eto y tro hwn.

Beth bynnag - mae clymbleidio yn rhan anatod o ffurfio llywodraeth yn Iwerddon - y dyddiau hyn mae'n ymylu at fod yn amhosibl ffurfio llywodraeth heb wneud hynny. Mae clymbleidio yn gysyniad newydd yng Nghymru, ac mae'n amlwg o nifer o sylwadau diweddar ar y We a thu hwnt nad ydi oblygiadau bod mewn tirwedd etholiadol sy'n gorfodi clymbleidio wedi treiddio'n llawn i'r ymwybyddiaeth dorfol eto.

'Rydym eisoes wedi edrych ar sut y llwyddodd John A Costello i achub ei blaid - Fine Gael - trwy ffurfio clymblaid llywodraethol ym 1948. Y ddadl pan gynhyrchais y blogiad hwnnw oedd os oedd yn briodol i'r Blaid glymbleidio o gwbl. Y ddadl y tro hwn ydi os y dylai'r Blaid dynnu allan o glymblaid, neu newid partneriaid mewn clymblaid lywodraethol. Efallai y gall dau etholiad Gwyddelig mwy diweddar fod o gymorth i ni.

Yn fy marn bach i etholiad 1992 yng Ngweriniaeth Iwerddon oedd yr un mwyaf dramatig ers un 1918, pan sgubodd y wlad gan Weriniaethol anferth. Ton etholiadol o fath gwahanol a gafwyd ym 1992. Dwblodd y Blaid Lafur Wyddelig ei chynrychiolaeth yn y Dail o 15 i 33. Dwblwyd hefyd y bleidlais i bron i 20%. Yn yr ardaloedd trefol oedd y rhan fwyaf o'r gefnogaeth newydd, ond llwyddodd y blaid ryddfrydig yma i gael mwy na 10% o'r bleidlais yn rhai o geiri ceidwadiaeth Pabyddol Gwyddelig - llefydd fel Donegal North East er enghraifft. I mi roedd hyn yn fwy syfrdanol na'r buddigoliaethau trefol anferth.

'Roedd llawer (gan fy nghynnwys i) yn darogan ar y pryd bod newid strwythurol, hir dymor ar ddigwydd yng ngwleidyddiaeth yr ynys. Hyd hynny roedd yr ymgiprys gwleidyddol yn Iwerddon wedi croni o gwmpas yr hafn a agorwyd mewn cymdeithas Gwyddelig gan y Rhyfel Cartref. Roedd gwleidyddiaeth i raddau helaeth yn llwythol - gyda'r sawl oedd a'u teuluoedd wedi gwrthwynebu'r Cytundeb Eingl Wyddelig yn cefnogi Fianna Fail, a'r sawl a'i cefnogodd yn pleidleisio i Fine Gael. Roedd mwy iddi na hynny wrth gwrs - ond goroesodd y Rhyfel Cartref yng ngwleidyddiaeth Iwerddon am ddegawdau wedi i'r bwled olaf gael ei danio. Byddai aml i un yn dadlau bod y rhyfel yn waelodol i wleidyddiaeth y Weriniaeth hyd heddiw.

Canlyniad hyn oedd system oedd yn cynhyrchu dwy blaid - Fine Gael a Fianna Fail - oedd i rhywun o'r tu allan yn edrych yn ddigon tebyg i'w gilydd. Roeddynt yn ddwy blaid adain Dde - y naill efallai ychydig yn fwy rhyddfrydig yn gymdeithasol, a'r llall yn gogwyddo ychydig i'r Chwith weithiau mewn polisiau economaidd. 'Doedd yr hollt De / Chwith oedd yn nodweddu gwleidyddiaeth etholiadol gweddill Ewrop ddim yn ffactor ar yr Ynys Werdd.

Ac yna daeth etholiad 1992. 'Doedd y polau piniwn ddim wedi darogan yr hyn ddigwyddodd - ond roedd perfformiad rhyfeddol o gryf y Blaid Lafur a'u harweinydd carismataidd, Dick Spring - yn rhoi lle gwirioneddol i gredu bod yr hen drefn ar ddymchwel. Fianna Fail oedd y blaid gryfaf o hyd - ac wedi ychydig wythnosau o'r hym hymian arferol, cafwyd clymblaid FF / Llafur. Cafodd Llafur 6 o'r 15 sedd yn y cabinet, a gwnaethwyd Spring yn Tánaiste - dirprwy brif weinidog. Albert Reynolds, arweinydd FF oedd y prif weinidog. Cafodd Spring fuddugoliaeth bersonol anferth yn ei etholaeth ei hun - Kerry North. Bathwyd y term Spring Tide - llanw Spring i ddisgrifio'r hyn oedd wedi digwydd.

Cafwyd newidiadau sylweddol yn fuan iawn mewn polisi cyhoeddus - cynllunwyd ar gyfer refferendwm i gyfreithloni ysgariad, cyfreithlonwyd rhyw hoyw am y tro cyntaf, cafwyd deddfwriaeth i ddelio efo llygredd llywodraethol, caniatawyd gwethiant offer atal cenhedlu ac ati.

Syrthiodd yr olwynion oddi ar y wagen ym 1994. Yn dilyn un neu ddwy o is etholiadau gwael i Lafur, cafodd Spring homar o ffrae efo Reynolds ynglyn a phenodiad llywodraethol. Wna i ddim mynd i mewn i'r mater yma - mae'n gymhleth. Bu'n rhaid i Reynolds ymddiswyddo, a chymerwyd ei le gan Bertie Ahern a'r disgwyl oedd y byddai llywodraeth FF / Llafur newydd yn cael ei ffurfio - ond nid dyna beth ddigwyddodd. Y diwrnod cyn roedd y trafodaethau i fod i ddod i ben, newidiodd Spring ei feddwl - ac aeth ati i ffurfio clymblaid anhebygol efo Fine Gael a'r Democratic Left. Roedd rhaid i Bertie Ahern ddisgwyl tair blynedd arall cyn gwireddu uchelgais oes.

Ac wedyn daeth 1997 ag etholiad arall yn ei sgil. Collodd Llafur yr oll roeddynt wedi ei ennill yn 92 - fwy neu lai. Yng ngeiriau'r Irish Independent, roedd hi'n Payback Time. Cadwodd Spring ei sedd, ond bu'n rhaid iddo ymddiswyddo fel arweinydd y Blaid Lafur. Collodd ei sedd yn yr etholiad canlynol - un 2002 i wleidydd carismataidd arall - Martin Ferris - dyn oedd wedi treulio cyfran dda o'i fywyd fel oedolyn mewn carchar, ac a oedd yn ol pob tebyg yn un o uchel swyddogion yr IRA. 'Dydi'r Blaid Lafur byth wedi ad ennill y tir a gollwyd, ac mae strwythurau gwaelodol gwleidyddiaeth Gwyddelig yn dal yn ddigon tebyg i'r hyn a fuont ers dau ddegau cynnar y ganrif ddiwethaf.



'Rwan, nid y neidio o un gwely gwleidyddol i'r llall oedd yr unig reswm tros berfformiad sal y Blaid Lafur Wyddelig, ond roedd yn sicr yn ffactor pwysig. Llwyddodd y blaid i dynnu blewyn o drwyn pawb oedd yn gogwyddo tuag at FF, pawb oedd yn gogwyddo tuag at FG a phawb nad oeddynt yn hoff o'r Chwith eithafol mewn un tymor llywodraethol. Gwnaethant hefyd i'r blaid ymddangos yn ddi gyfeiriad ac yn anwadal.

Byd gwleidyddol hollol wahanol? Efallai. Trefn etholiadol hollol wahanol? Efallai - ond dim ond ffwl fyddai'n dweud nad oes yna wers i'w hystyried o gwbl.

Thursday, September 24, 2009

Dyfrig, carchar C'narfon a Chymru'n Un

'Dwi wedi darllen blogiad ddiweddaraf Dyfrig dair neu bedair gwaith, a 'dwi'n dal i grafu fy mhen. Mae'n datgan - Tydw i ddim am eiliad yn dadlau bod penderfyniad Llywodraeth Prydain i beidio ac adeiladu carchar yng Nghaernarfon yn reswm dros dorri Cytundeb Cymru'n Un, a ildio'n lle yn Llywodraeth Cymru - ac yna'n mynd ati i son am pob dim mae'n ei ddrwg leicio am y ffordd mae'r Cytundeb yn mynd rhagddo hyd yn hyn ac yna datgan - Mae'n bryd i ni wynebu y ffaith bod Llafur wedi methu a chadw ei bargen gyda Phlaid Cymru, a gadael y glymblaid.

'Rwan dydi corff y blogiad ddim yn nodweddiadol o'r ffordd y bydd Dyfrig yn dadlau fel rheol, i'r graddau ei fod yn rhestr o gwynion sydd heb eu didoli na'u gwerthuso - tipyn bach fel petai yn un o flogiadau blogwyr Llais Gwynedd. Hynny yw, mae mwy o sylwedd i rai o'r cwynion na'r lleill - ond maent i gyd yn cael eu cyflwyno i'n sylw yn un lwmp bler fel petaent i gyd yn ddiymwad, ac i gyd yn gyfartal o ran difrifoldeb. Mae hefyd yn bwysig cofio ein bod dim ond hanner ffordd trwy'r Cytundeb.

Ydi hi mewn gwirionedd yn onest i ollwng y gyfrifoldeb am beidio a symud ymlaen efo papur dyddiol ar stepan drws Rhodri Morgan, pan mai Rhodri Glyn oedd yn gyfrifol am y penderfyniad? Ydi cynlluniau'r llywodraeth i sefydlu Coleg Ffederal mewn gwirionedd yn dystiolaeth o 'fethiant' Cymru'n Un. Ydi'r ddadl LCO iaith yn dal dwr pan mae'n amlwg bod pwyllgor deddfwriaeth y Cynulliad yn credu y dylai'r cynulliad gael y cwbwl lot o'r pwerau deddfu ynghylch yr iaith?

'Dydw i ddim yn gwybod beth i'w wneud o ddadl Dyfrig - mae o'n codi'r ddadl y dylid torri Cymru'n Un yng nghyd destun y penderfyniad ynglyn a charchar Caernarfon, ac yna'n honni y dylid tynnu allan o'r cytundeb oherwydd nad ydi Cymru'n Un wedi gwireddu ei holl amcanion hanner ffordd trwy gyfnod y cytundeb.

'Dydw i'n onest ddim yn gwybod beth i'w wneud o'r ddadl.

Wednesday, September 23, 2009

Yr ymatebion rhyfedd i siom carchar Caernarfon

Mae'n amlwg bod tro trwstan diweddaraf saga carchar Caernarfon wneud niwed ymenyddol rhyfeddol i bobl sy'n arfer bod yn gallach. Mae rhai o'r ymatebion wedi bod yn wirioneddol bisar. Gobeithio y bydd pawb yn well mewn diwrnod neu ddau.

I ddechrau dyma i ni eglurhad / gyfiawnhad Guto Bebb. Mae Guto o dan yr argraff nad oes yna lawer o seddi Llafur yng nghyffuniau'r carchar. Yr unig sedd nad ydi Llafur yn ei dal ar lefel San Steffan yn rhanbarth y Gogledd ydi Gorllewin Clwyd. Mae'r dair sedd agosaf - Arfon (yn dechnegol o leiaf), Ynys Mon a'r sedd mae Guto ei hun yn ei hymladd ar ran y Ceidwadwyr yn nwylo Llafur ar hyn o bryd. Tybed os mai sioc peidio cael y carchar 'ta llwyddiant rhyfeddol Plaid Cymru yn y Gogledd Orllewin tros yr ychydig flynyddoedd diwethaf sydd wedi effeithio mor ddybryd ar gof Guto?

Ac wedyn dyna i ni Gwilym Euros Roberts. Yn rhyfeddol, ni chafwyd yr ymateb Pavlofaidd* arferol o feio Plaid Cymru ar y cychwyn - er iddo ddod at ei goed ychydig oriau'n ddiweddarach a dychwelyd i'r comfort zone - wedi derbyn anogaeth o le anisgwyl. Ta waeth, fel un sydd wedi bod yn gefnogol i'r cynllun o'r cychwyn, hoffwn ddiolch i Gwilym am ei holl help, yn arbennig pan ddaeth y cynllun o flaen Bwrdd Cyngor Gwynedd yn Nhachwedd 2008.

Ond yr ymateb rhyfeddaf i mi oedd un Dyfrig Jones. 'Rwan mae Dyfrig yn ddyn deallus - ac mae teitl ei ddarn - Torri Cytundeb Cymru'n Un yn amwys. 'Dwi'n cymryd na'r hyn sydd ganddo mewn golwg ydi y dylai'r Blaid dorri Cymru'n Un - ac nad yw'n dadlau bod peidio a mynd ymlaen a'r cynllun i godi carchar yn torri'r cytundeb. Mi fyddai dadlau hynny yn chwerthinllyd fel mae Hogyn o Rachub - blogiwr sydd yn aml yn synhwyrol a chytbwys - yn dangos yn glir.

'Dydi clymbleidio ddim yn gyffredin eto yng Nghymru - ond mae'n gyffredin mewn gwledydd eraill. Mi fydd clymbleidiau weithiau yn syrthio'n ddarnau - ond 'dydi hi ddim yn ddoeth i blaid dorri cytundeb am resymau sydd ddim oll i'w wneud efo'r cytundeb hwnnw. Os ydi plaid yn gwneud hynny, mae'n gadael ei hun yn agored i gyhuddiad o oportiwnistiaeth - ac os ydi'r hollt tros fater sy'n ymwneud a lles economaidd un rhan arbennig o'r wlad (neu un grwp penodol) mae'n agored hefyd i gyhuddiad o gleiantiaeth gwleidyddol a gwleidyddiaeth casgen borc. Ar ben hynny mae plaid sy'n torri cytundebau clymbleidio am resymau fel hyn yn ei chael yn anodd dod o hyd i bartneriaid clymblaid yn y dyfodol. 'Does yna'r un plaid eisiau mentro cael ei gwthio i mewn i'r afon ddwy neu dair blynedd i mewn i dymor llywodraethu.

Mae Dyfrig a minnau wedi anghytuno ynglyn a hyn o'r blaen. Bryd hynny 'roedd Dyfrig yn cymryd agwedd mwy aruchel na fi - llywodraethu'n 'deg' oedd yn bwysig. 'Rwan 'dwi'n llai sniffy na Dyfrig ynglyn a'r math yma o beth - ond mi fyddwn yn tagu ar y syniad o ddod a llywodraeth i lawr oherwydd nad ydi datblygiad yn mynd rhagddo mewn lleoliad arbennig - a hynny oherwydd ffactorau oedd i raddau helaeth y tu allan i reolaeth y llywodraeth hwnnw.

Mae Alwyn yn cytuno efo Dyfrig - ond mae'n haws ei gymryd ganddo fo rhywsut - mae'n dod o gyfeiriad arbennig mae pawb sy'n dilyn ei flog yn ei adnabod yn dda- ac mae oddi allan i'r Blaid beth bynnag. Yr unig bwynt y byddwn yn ei godi yma yw nad yw'r awgrym na fydd carchar yng Nghymru o anghenrhaid yn gywir. Chwilio am le arall fydd y llywodraeth 'rwan.

Ymddengys nad oedd ">Rhydian yn rhyw awyddus iawn i gael carchar yn y lle cyntaf. Mae'n rhaid i ni gytuno i anghytuno ar honna mae gen i ofn.

Does yna neb mor siomedig a fi ynglyn a'r hyn sydd wedi digwydd - ond mae llawer o'r ymateb wedi bod yn - wel - rhyfedd.

* Bydd y sawl sy'n ymddiddori mewn seicoleg yn gwybod am gwn Pavlov. Llwyddodd Pavlov i berswadio cwn i lafeirio pob tro roeddynt yn clywed cloch trwy ganu'r gloch pob tro roeddynt yn bwyta. Ar ol dipyn roedd y cwn yn glafeirio pob tro roeddynt yn clywed y gloch - os oedd bwyd o gwmpas neu beidio. Y dyddiau yma defnyddir y term i ddisgrifio rhywun sy'n ymateb mewn ffordd cwbl ragweladwy i sefyllfa heb geisio rhesymu na dadansoddi. Mae nifer o aelodau Llais Gwynedd yn gwn Pavlov yn yr ystyr eu bod yn ymateb i pob newyddion drwg trwy feio Plaid Cymru am y newyddion hwnnw - ta waeth pa mor chwerthinllyd o wan ydi'r cysylltiad.

Edwina Hart i fod yn brif weinidog?


Ymddengys bod Edwina a chyfle cryf i gael joban Rhodri Morgan.

'Rwan 'does gen i ddim byd yn erbyn y ddynas - i'r gwrthwyneb, hi ydi'r gweinidog Llafur mwyaf effeithiol o filltiroedd - ac mae wedi bod felly am flynyddoedd.

Ond ydi Llafur mewn difri calon am ethol dynas i'w harwain sydd yn mwynhau cael ei holi ar y cyfryngau cymaint a mae'n mwynhau bath oer a sy'n rhedeg i'r cyfeiriad arall gyda chyflymder Usain Boltaidd, pan mae'n gweld camera yn dod i'w chyfeiriad?

M'ond gofyn?

Tuesday, September 22, 2009

Carchar Caernarfon

O wel, dyna'r cyfle prin os nad unigryw yna i greu saith gant o swyddi yng Ngogledd Orllewin Cymru wedi mynd.

Oes yna unrhyw un yn deall pam?

Ymddengys nad ydi'r safle yn addas. Roedd o'n addas ychydig fisoedd yn ol - 'dydi'r safle heb newid yn ystod yr amser hwnnw - felly beth yn union sydd wedi newid oni bai am y gweinidog sy'n gyfrifol am wneud y penderfyniad?

Monday, September 21, 2009

Beth mae Kirsty Williams wedi ei wneud i Nick Clegg?


Ar ol y mor o sarhad a daflwyd i gyfeiriad Plaid Cymru pan newidiodd rheiny eu polisi parthed peidio a chael ffioedd myfyrwyr, ar ol yr holl hunan gyfiawnder, ar ol yr holl ystumio, ymddengys bod polisi'r Lib Dems a Phlaid Cymru bellach yn union yr un peth. Mae'r ddwy blaid yn erbyn ffioedd fel mater o egwyddor, ond yn sylweddoli nad oes ganddynt ddewis ond byw efo nhw o dan yr amgylchiadau cyllidol presennol.

Mae'r math yma o beth yn bwysig yn nwy o etholaethau seneddol y Lib Dems - Canol Caerdydd a Cheredigion. Go brin y gwnaiff wahaniaeth yn y cyntaf - mae mwyafrif sylweddol gan y Lib Dems. Nid felly'r ail. Os oedd ganddynt unrhyw obaith o ddal Ceredigion o'r blaen, mae'r gobaith hwnnw bellach wedi mynd.

Ac wedyn mae'r datblygiad enfawr yn St Athan yn cael cic trwy'r ffenest. 'Dydi hynny ddim yn debygol o effeithio'n uniongyrchol ar y Lib Dems - does ganddyn nhw ddim gobaith ym Mro Morgannwg - ond mae'r Fro yn gymharol agos at Gasnewydd a Chaerdydd - ardaloedd sydd yn gryf iddynt ar lefel llywodraeth leol o leiaf. Eto mae eu unig sedd yn y De - Canol Caerdydd yn agos, a byddant yn gobeithio gwneud argraff yn Nwyrain Casnewydd.

Hefyd mae'r son gan Clegg am savage cuts am fod tua mor boblogaidd yng Nghymru a cherddoriaeth Leonard Cohen mewn ysbyty sy'n arbenigo mewn trin pobl sy'n dioddef o iselder ysbryd. Mewn gwlad lle mae canran uchel o'r boblogaeth yn gweithio yn y sector cyhoeddus, fydd yna ddim llawer o bobl yn dawnsio ar y strydoedd pan mae Nick yn gwintyllu'r syniad o rewi cyflogau sector cyhoeddus.

Felly pedair sedd sydd ganddynt yng Nghymru ar hyn o bryd - 'doedd pethau ddim yn edrych yn arbennig o dda yng Ngheredigion beth bynnag, mae Lembit yn gwneud ei orau glas i roi Trefaldwyn i Glyn Davies (trydydd oedden nhw yno yn etholiadau Ewrop gydag UKIP o'u blaenau), ac roedd y Toriaid yn gyfforddus o'u blaenau yn yr etholiad Ewrop yng ngardd gefn Kirsty - Brycheiniog a Maesyfed. Tybed os mai Canol Caerdydd yn unig fydd ar ol ganddynt ar ol Mai 2010?

Fedra i ddim dychmygu mai Nick Clegg ydi hoff berson y Lib Dems Cymreig ar hyn o bryd - ac mae o'n gwestiwn diddorol pam ei fod yn gwneud y ffasiwn ddatganiadau mor agos at etholiad. Mae'r ateb yn weddol hawdd - mae Lloegr yn bwysicach o lawer yn etholiadol i'r Lib Dems nag ydi Cymru - ac mae'r tirwedd etholiadol yn dra gwahanol yno i'r Lib Dems nag ydi yng Nghymru.

Mae gan y Lib Dems ddau ffrynt etholiadol yn Lloegr - etholaethau dinesig a threfol lle maent yn ymladd yn erbyn Llafur a rhai mwy gwledig - ond mwy cyfoethog o lawer yn Ne Lloegr yn bennaf. Y Toriaid ydi'r gelyn yma. Oherwydd bod gogwydd sylweddol yn erbyn Llafur nid oes rhaid iddynt boeni am eu seddi dinesig - yn wir maent yn debygol o ennill mwy.

Ond oherwydd bod gogwydd sylweddol tuag at y Toriaid mae perygl mawr i'r seddi mwy gwledig a chyfoethog - ac mae yna fwy o lawer o'r rheiny. Os bydd y Lib Dems yn mynd i etholiadau San Steffan efo cynlluniau i wario'n drwm, bydd yn hawdd i'r Toriaid ddychryn etholwyr cyfoethog trwy ddarogan cynnydd anferth yn eu trethi - felly mae'n rhaid dangos eu bod am docio ar wariant - ond ceisio gwneud hynny mewn modd sydd ddim yn niweidiol yn etholiadol. 'Dydi Sain Athan ddim yn agos at nifer sylweddol o seddi ymylol Toriaidd / Lib Dem, gallant bechu myfyrwyr oherwydd nad oes ganddyn nhw gartref arall - yn Lloegr o leiaf. Cod ydi savage cuts am dim trethi uwch.

Felly 'dydi Kirsty druan na'r Lib Dems Cymreig ddim wedi pechu Nick Clegg o gwbl. Ond maen nhw'n anlwcus bod natur y tirwedd gwleidyddol Prydeinig yn gorfodi Clegg i wneud a dweud pethau sy'n niweidiol iddynt.

Sunday, September 20, 2009

Mr Balls yn penderfynu y bydd y Cynulliad yn cael llai o gyllid

Mae'n ddrwg gen i am ddod a Mr Balls i'ch sylw ddwywaith mewn diwrnod - ond mae ei ddatganiad yn ei gwneud yn eithaf clir mor wirion ydi'r ffordd mae Cymru'n cael ei chyllido.

Fel bydd darllenwyr cyson y blog hwn yn ymwybodol, cyllidir Cymru yn unol a fformiwla a adwaenir fel Fformiwla Barnett. Mi fydd darllenwyr cyson yn gwybod hefyd bod awdur y blog yma'n ystyried nad ydi'r fformiwla bellach yn ffit i bwrpas - hyd yn oed os oedd synnwyr iddi pan gafodd ei dyfeisio yn saithdegau'r ganrif ddiwethaf.

'Rwan mae'r ffordd mae Barnett yn gweithio yn golygu bod penderfyniadau mewn rhai adrannau o lywodraeth Prydain yn effeithio'n uniongyrchol ar faint o gyllid mae Cymru yn ei gael - mae'r gwasanaeth addysg Seisnig ymhlith y rhain. Bydd Cymru'n derbyn 5% o gyllid yr adrannau llywodraethol dynodedig hyn. Felly - er nad oes gan Mr Balls unrhyw ddiddordeb yng Nghymru (hyd y gwyddon ni), er mai Cymru oedd y peth diwethaf ar ei feddwl pan aeth ati i weithio allan faint mae'n bwriadu ei dorri ar wariant ei adran ei hun, mi fydd ei benderfyniad yn cael effaith uniongyrchol er gwaeth ar wariant cyhoeddus yng Nghymru.

Mae hyn yn amlwg yn anheg ac yn wirion - ond mae pethau'n mynd yn waeth y mwyaf y byddwn yn meddwl am y peth.

Gadewch i mi egluro - nid yw rhai adrannau - amddiffyn er enghraifft - yn effeithio ar wariant yng Nghymru o gwbl. Felly petai yna lywodraeth Doriaidd y flwyddyn nesaf yn penderfynu cynnig elfen o warchodaeth i amddiffyn ar draul adrannau fel addysg a iechyd (mae ganddynt hanes o wneud hyn), yna gallai gwariant cyhoeddus yng Nghymru syrthio'n gynt nag y byddai yn Lloegr - ac hynny ar sail penderfyniad arall nad oes wnelo fo ddim a Chymru. Fel rydym wedi ei drafod eisoes, mae'r Barnett Squeeze yn golygu fod gwariant cyhoeddus yn syrthio'n gynt yng Nghymru nag yn Lloegr o dan amgylchiadau presenol.

Byddai cwymp hwn mewn cyllid i wasanaethau rheng flaen yn digwydd er gwaetha'r ffaith ei bod yn anhebygol iawn y byddai unrhyw un o bleidiau'r Cynulliad (gan gynnwys y Toriaid Cymreig) yn rhoi blaenoriaeth i amddiffyn tros y gwasanaethau hynny, ac er gwaetha'r ffaith nad torri ar y cyllid sydd ar gael i Gymru ydi bwriad llywodraeth San Steffan.

Neu i dorri stori hir yn fyr, mae'r gyfundrefn gyllido yn hollol wallgo.

Diolch Mr Balls


'Dydi blogmenai ddim yn gwneud sylwadau ar faterion sy'n ymwneud yn benodol a Lloegr yn aml, a 'dydw i ddim chwaith yn cynhyrchu blogiadau sydd wedi eu seilio ar newyddion o'r cyfryngau prif lif Seisnig rhag i rhywun fy nghamgymeryd am David Jones AS. Serch hynny, 'fedra i ddim ymatal rhag gwneud sylw ar brif stori'r (na allaf ddod o hyd iddi ar y We) Sunday Times heddiw.

Ymddengys bod Ed Balls - y gweinidog sy'n gyfrifol am ysgolion - yn fodlon torri 5% neu £2 biliwn ar gyllideb addysg Lloegr er mwyn helpu ein cael ni allan o'r twll mae ei lywodraeth wedi ein cael ni i mewn iddo. Mae Ed yn ddyn ffeind iawn.

Cyn mynd ymlaen mae'n debyg y dyliwn nodi nad ydi'r stori yn ymwneud yn uniongyrchol efo Cymru wrth gwrs - awdurdodau lleol sy'n cyllido ysgolion yng Nghymru - mae'r llywodraeth yn gwneud hynny'n uniongyrchol yn Lloegr.

'Rwan mae £2 biliwn yn swnio'n swm sylweddol iawn o bres, ond mae'r llywodraeth gyda rhaglen gynhwysfawr o wariant arfaethiedig ar pob math o bethau eraill:

  • Trident - system filwrol gynhyrfus gyda defnydd niwclear iddi os oes angen. Mae'n caniatau i ni ladd pobl mewn unrhyw ran o'r Byd, pryd bynnag rydym eisiau gwneud hynny. Pan mae gwledydd eraill yn ceisio cael eu bachau ar rhywbeth gyda chanfed o botensial marwol y system yma, rydym yn cael ein hunain mewn stad, yn eu cyhuddo o fod eisiau WMDs ac yn defnyddio Trident arnynt. Mae'r system bresennol yn heneiddio, felly mae Llafur am ei hadnewyddu. Mae'n anodd dirnad y gost yn union, ond mae'n debyg y bydd prynu'r system a'i chynnal o flwyddyn i flwyddyn yn costio tua £26 biliwn. O drosi WMDs i healthandeducation mi fyddai hyn yn gyfystyr a £1,000 ychwanegol i pob ystafell ddosbarth yn y DU am 26 blynedd ac yn rhoi £1,000 ychwanegol ym mhoced pob nyrs am 26 blynedd.
  • Cardiau adnabod - system yr un mor gynhyrfus fydd yn caniatau i'r llywodraeth gadw data o fanylion personol pob dinesydd yn y DU a thracio'r cyhoedd. Mae Llafur yn edrych ymlaen yn arw at gael gwneud hyn. Cymharol fach fyddai'r arbedion o beidio a mynd ymlaen efo hyn - tua £6 biliwn - wrth ymyl y system WMD. Ond mae'n edrych yn gymharol swmpus wrth ymyl y £2 biliwn blynyddol sydd gan Mr Balls druan i'w gyfraunu at yr achos.
  • Rhyfel llwyddiannus a phoblogaidd Afganistan - fedar yna neb wadu bod amcanion y rhyfel yma'n gwbl glir, a'n bod yn gwneud coblyn o joban dda ar amddiffyn llywodraeth boblogaidd a gonest. Yr unig fan broblem ydi bod yr ymarferiad ychydig bach yn ddrud - o ran bywydau sy'n cael eu colli a phres. Roedd y gost yn £4.5 biliwn y llynedd ac ers 2001 mae'r trysorlys wedi gorfod dod o hyd i £12 biliwn i ariannu'r ymarferiad. I wneud trosiad healthandeducation arall mae hyn yn cyfateb i 23 ysbyty newydd, 60,000 o athrawon newydd neu 77,000 o nyrsus newydd. Cynyddu, nid lleihau fydd y gwariant tros y blynyddoedd nesaf.
'Rwan mae'r blog yma wedi dadlau'n ddiweddar bod rhaid i awdurdodau lleol ystyried eu gwerthoedd creiddiol wrth dorri eu cyllidebau. Mae'r un peth yn wir am lywodraethau - ar lefel San Steffan ac ar lefel y Bae. Mae'n anodd gen i ddychmygu y byddai neb - hyd yn oed llywodraeth Mr Brown yn anghytuno a hynny.

Ydi cael gwell WMDs na neb arall, sbeio ar y boblogaeth a chynnal rhyfel boncyrs i gefnogi llywodraeth dramor llwgr ymysg gwerthoedd creiddiol y DU? Ac os felly, pwy yn ei lawn bwyll fyddai eisiau bod yn rhan o'r DU?

Saturday, September 19, 2009

Beth wnawn ni efo Mr Price dywedwch?


Mae yna dipyn go lew o ddamcaniaethu wedi bod ar y We (a thu hwnt) ynglyn a dyfodol Adam Price - gormod i mi ddechrau mynd i ddarparu lincs. Mi fydd rhaid i minnau gyfranu fy mewath mae'n debyg. Efallai y dyliwn gychwyn trwy nodi ei bod ymhlyg ym mhopeth rwyf yn ei ysgrifennu yma bod Adam yn wleidydd o sylwedd anarferol, a'i bod yn hanfodol i'r Blaid ei bod yn dod o hyd i ffordd i'w gael ym Mae Caerdydd cyn gynted a phosibl.

Cyn mynd ymlaen mi hoffwn ychwanegu un pwynt bach gweddol amlwg nad oes yna neb arall wedi tynnu sylw ato hyd y gwn i. Nid New Labour ydi Plaid Cymru - 'dydi hi ddim yn bosibl (mewn amgylchiadau cyffredin o leiaf) i'r Blaid yn ganolog orfodi'r Blaid yn lleol i wneud pethau nad ydynt eisiau eu gwneud. Ar un olwg, byddai dyn yn meddwl y byddai unrhyw blaid leol wrth ei bodd yn cael rhywun o statws a gallu Adam i sefyll trostynt. Ond - 'dydi pleidiau lleol ddim pob amser yn meddwl yn strategol genedlaethol - mae ystyriaethau lleol yn aml yn bwysicach iddynt na rhai amgenach. Nid dweud ydw i na allai Adam sefyll yng Nghastell Nedd (er enghraifft) ond nodi na fyddai pethau o anghenrhaid mor syml a di drafferth ag mae aml i un yn meddwl.

Wedi dweud hynny, hyd y gwelaf i dyma'r opsiynau - a'r tebygrwydd iddynt arwain at wireddu dymuniad Adam i fynd i Fae Caerdydd. 'Dwi'n rhoi dau sgor DIY ar ddiwedd pob opsiwn. Mae'r cyntaf yn dynodi pa mor debygol ydi Adam (yn fy marn bach i) o ddilyn y trywydd, ac mae'r nesaf yn dynodi pa mor debygol y byddai o fynd i Fae Caerdydd petai'n gwneud hynny.

(1) Sefyll yn erbyn Rhodri Glyn am enwebiaeth y Blaid yn Nwyrain Caerfyrddin. Byddai'n debygol iawn o guro Rhodri Glyn ac ennill yn yr etholiad Cynulliad, ond byddai pethau'n fler iawn a 'does yna ddim un plaid leol yn hoffi rhyfel cartref. 'Dwi ddim yn gweld Adam yn cymryd y cwrs hwn 1/10 ac 8.5/10.

(2) Bod y Blaid yn ganolog yn dwyn perswad ar Rhodri Glyn i sefyll ar gyfer San Steffan yn 2010, a bod Rhodri yn ei dro yn amseru ymddiswyddiad mewn modd fyddai'n sicrhau is etholiad Cynulliad ar yr un diwrnod ag etholiad San Steffan. Bu ymgais eisoes i wneud rhywbeth fel hyn, ond 'doedd gan Rhodri ddim diddordeb. Efallai y byddai ganddo fwy o ddiddordeb petai'n credu y gallai opsiwn (1) gael ei gwireddu, ond 'dydi o ddim yn credu hynny. 2/10 a 9.5/10.

(3) Cael ei ethol oddi ar un o'r rhestrau rhanbarthol. Mae'n ddigon posibl na fydd y Blaid yn cadw eu seddau rhanbarthol yn y Gogledd na'r Gorllewin y tro nesaf - byddai ennill Gorllewin Clwyd yn arwain at golli sedd Janet Ryder er enghraifft a byddai ennill Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro yn golygu y byddai Nerys yn colli ei sedd. Gallai cwymp mawr yn y nifer o seddi uniongyrchol sydd gan Lafur yn y Gogledd fod yn broblem i'r Blaid hefyd. Petai'n rhoi ei enw ymlaen ar gyfer y tair rhanbarth arall, byddai'n dra thebygol o ddod yn gyntaf (neu'n ail) yn o leiaf un ohonynt. Byddai hyn hefyd yn osgoi'r broblem o orfod dod adref o America i ymgyrchu (gweler isod). 7/10 a 8/10.

(4) Sefyll mewn sedd gyfagos - Castell Nedd neu Orllewin Caerfyrddin De Penfro. Mae llawer yn anghofio i'r Blaid ddod yn llawer nes at ennill yn 07 yn y sedd Orllewinol nag y daethant yng Nghastell Nedd. Yn wir roedd yr ymgeiswyr wedi ysgwyd llaw gan gredu bod John Dixon wedi ennill nes i rhywun sylwi nad oedd y pleidleisiau post wedi eu cyfri. Mae yna ddwy broblem - yr un a soniais amdani ar y cychwyn, a'r ffaith na fyddai'n bosibl iddo ymgyrchu llawer yn y naill etholaeth na'r llall - mae America'n bell ac mae angen paratoi'r tir yn ofalus os ydi rhywun yn sefyll mewn etholaeth sy'n newydd iddo. 'Dwi ddim yn gwybod am gyflwr peirianwaith y naill etholaeth na'r llall ond byddwn wedi meddwl y byddai'n rhaid mynd ar ofyn peirianwaith sylweddol etholaethau cyfagos megis Dwyrain Caerfyrddin a Llanelli i ymgyrchu tros gyfnod estynedig os na fyddai'r dyn ei hun ar gael llawer. Wedi dweud hynny gallai ennill y naill etholaeth neu'r llall. 7/10 a 7/10.

(5) Cyfuniad o (3) a (4). Yn ol y son mae'r Toriaid yn bwriadu newid y rheolau er mwyn caniatau i ymgeiswyr sefyll ar y rhestr rhanbarthol ac mewn etholaethau y tro nesaf. Byddai hyn yn caniatau i Adam sefyll ar restr y Gorllewin a'r Canolbarth ac yng Ngorllewin Caerfyrddin / De Penfro ar yr un pryd. Pe na byddai'n llwyddo i ennill yng Ngorllewin Caerfyrddin / De Penfro yna byddai'n debygol o gael ei ethol oddi ar y rhestr oni bai bod rhywbeth anisgwyl yn digwydd yn Nhrefaldwyn neu Benfro Preseli. Mae'n anodd gweld y Blaid yn ennill yn Nhrefaldwyn - a thra ei bod yn ddigon posibl gweld y Blaid yn ennill yng Ngogledd Penfro / Preseli, mae'n anodd dychmygu y gallai ddigwydd mewn etholiad lle byddai Adam yn colli yn y sedd ddeheol, mwy Pleidiol. Un broblem fyddai Nerys Evans - byddai'n sicr o golli ei sedd - a byddai hynny'n anffodus. Mae'n eneth dda. Ond mae hi'n ifanc ac efallai bod goleuadau Llundain yn atyniadol iddi. Mae yna swydd wag yn Nwyrain Caerfyrddin. 5/10 ac 8/10.

Fy hoff opsiwn i yn bersonol fyddai (2), ond gan nad yw'n debygol o gwbl o ddigwydd, fy ail hoff opsiwn fyddai (5).

Thursday, September 17, 2009

Da iawn Louise Well done Louise



'Dydi hyn ddim yn digwydd yn aml iawn, ond hoffwn gefnogi blogiad gan fy nghyfaill achlysurol Gwilym Euros Roberts.

Yr hyn sydd gan Gwilym ydi bod cynghorydd Llais Gwynedd Llanegryn yn ddynes arbennig o wych oherwydd iddi feicio 63 milltir o'i chartref i Gaernarfon mewn ymgais i gadw toiledau cyhoeddus y sir ar agor. Mi fedraf innau hefyd edmygu Louise - 'dwi'n cofio reidio o Gaernarfon i Ddolgellau ac yn ol mewn diwrnod ers talwm, ac roedd fy mhen ol yn brifo am bethefnos. 'Dwi ddim yn hollol siwr sut mae beicio 63 milltir am gadw ceudai'r sir ar agor, ond mae'n debyg fy mod yn methu rhywbeth.

Fel mae Gwilym yn dweud byddai cau toiledau yn codi gwrychyn amryw o drigolion yn eu mysg yr henoed, mamau ifanc, gyrrwyr loris a'r rhai sydd yn dioddef anhwylder. Mae'n anodd anghytuno.

Mae holl awdurdodau lleol y Deyrnas Gyfunol yn wynebu toriadau enbyd tros y blynyddoedd nesaf. Bydd rhaid i Wynedd ddod o hyd i £16 miliwn. O dan amgylchiadau fel hyn mae'n hanfodol ein bod yn blaenori - yn dod i gasgliadau pendant am yr hyn y gellir ei dorri, ac am yr hyn na ddylid cyffwrdd a fo. Felly mae'n dilyn bod rhaid i pob cyngor benderfynu beth sy'n greiddiol, beth sy'n hanfodol, beth sy'n waelodol i'w gwerthoedd sylfaenol.

Ac mae Llais Gwynedd am ddechrau efo toiledau.



Da iawn chi bois - mi fydd yna wahanol nytars yn ymbil, yn crefu ac yn bygwth tros y misoedd nesaf ar y Cyngor i gau toiledau a dileu gwasanaethau ac asedau nad ydynt yn greiddiol i anghenion trigolion Gwynedd, er mwyn ceisio amddiffyn yr hyn sydd yn hanfodol - gofal, addysg, gwasanaethau cymdeithasol. Ond mi fydd Llais Gwynedd yn sefyll yn y bwlch yn gadarn eu cri o blaid y toiledau.

Fel arwydd o ewyllys da, mi hoffwn wneud un awgrym bach i Lais Gwynedd. Roedd penderfyniad Llafur i newid eu henw i New Labour yng nghanol y ddegawd diwethaf yn gam ysbrodoledig a arweiniodd at lwyddiant etholiadol.

'Dwi'n siwr os gwnaiff Llais Gwynedd ddechrau galw eu hunain yn Llais Toiledau Gwynedd, gallant ddisgwyl llwyddiant tebyg. Wedi'r cwbl mae pawb angen toiled, ond dim ond plant sydd angen ysgol, dim ond yr hen a'r methedig sydd angen gofal a dim ond pobl sydd a phroblemau dwys sydd angen cymorth gwasanaethau cymdeithasol.

Llythyr Peter Hain i'r Guardian



Gallwch weld campwaith Peter yma.

Poeni mae Peter bod y Toriaid am ddod yn gyntaf yng Nghymru fel y gwnaethant yn etholiadau Ewrop, a felly mynd i lywodraeth yn San Steffan. Mi fyddai canlyniadau hyn yn anymunol gan bod y Toriaid yn wahanol i Lafur yn 'ddau wynebog'. Ymhellach, mae gan Adam Price gynllun cudd i glymbleidio efo'r Toriaid.

Y ffordd i osgoi hyn wrth gwrs ydi i bawb yng Nghymru fotio i blaid Peter - wedi'r cwbl fel a ddaeth yn amlwg yn 2007 pleidlais i'r Toriaid ydi pleidlais i Blaid Cymru mewn gwirionedd a mae'r Lib dems mor fach nad ydyn nhw'n werth pleidleisio trostynt beth bynnag.

'Rwan 'dwi'n petruso cyn awgrymu bod gan Peter issues yn ymwneud ag ansawdd ei ddeallusrwydd, ond 'dydw i ddim yn gwybod beth arall i'w feddwl.

Cymerer am eiliad bod pleidleiswyr Plaid Cymru i gyd yn sylweddoli mai pleidleisio i'r Toriaid maent mewn gwirionedd ac mai clymblaid Tori / Plaid Cymru sy'n rheoli yng Nghaerdydd a bod Rhodri Morgan yn Geidwadwr o fri. Cymerer eu bod yn credu celwydd Hain am gynlluniau cudd Adam Price.Cymerer bod cefnogwyr y Lib Dems yn derbyn bod eu plaid yn rhy fach i drafferthu pleidleisio iddi. Cymerer bod pwerau perswadio Peter mor rhyfeddol nes ei fod yn argyhoeddi holl gefnogwyr y Toriaid yng Nghymru (hyd yn oed Guto Bebb) bod eu plaid yn ddau wynebog ac na ddylid pleidleisio trosti. Cymerer bod pob copa walltog (a'r copaon moel) yng Nghymru yn pleidleisio i blaid Peter - yna beth fyddai'n digwydd?

Wel - mi fyddai'r Blaid Lafur yn ennill unarddeg sedd ychwanegol yng Nghymru. Yn y cyfamser mae'r Toriaid ugain pwynt ar y blaen yn Lloegr - 45% i 25%. Mae hyn yn ogwydd o 10%. Mae 533 o'r 650 sedd yn Nhy'r Cyffredin yn rhai Seisnig. Mae'n anodd bod yn fanwl yma - ond mae'n debyg y byddai hyn yn arwain at tua 270 mwy o seddi Toriaid yn Lloegr na fyddai yna o rai Llafur. Piso dryw bach yn y mor fyddai'r unarddeg sedd Llafur newydd yng Nghymru. Piso gwylan fyddai'r deugain sedd Gymreig.

Neu i roi pethau mewn ffordd ychydig yn wahanol, mae pleidlais i Lafur gan berson sy'n byw yng Nghymru yn wastraff llwyr o bleidlais. Y gorau y gall pleidlais i Lafur ei wneud ydi dychweld rhywun fel Nia Griffiths neu Chris Bryant i gymryd eu lle ymysg nifer fechan o aelodau shellshocked Llafur, Seisnig fydd a'u hysbryd yn isel. Mi fyddant hefyd yn destun gwawd cyffredinol.

Beth mewn difri fyddai'n gwneud i'r Toriaid betruso cyn gwneud i Gymru yr hyn mae'r Toriaid yn ei wneud pob tro - gweld Cymru yn dychwelyd at ei hen batrwm gwleidyddol aneffeithiol, di ddannedd, lleddf a hynny mewn cyd destun Prydeinig lle na fydd Llafur mewn grym eto am genhedlaeth, ta gweld cyfundrefn wleidyddol newydd yn dechrau ffurfio yng Nghymru - un sy'n fygythiad i'w hannwyl Deyrnas Gyfunol?

'Dwi ddim yn meddwl bod yr ateb i'r cwestiwn hwnnw'n anodd iawn.

Wednesday, September 16, 2009

Plaid Cymru, y dirwasgiad a Barnett

Mae sylwadau Gwilym Euros, ymateb dychanol Simon i dueddiad Llais Gwynedd i feio Plaid Cymru am holl ddrygioni'r Byd a'r drafodaeth sy'n dilyn yn codi pwyntiau diddorol.

Yn gyntaf 'dwi'n meddwl bod Gwilym o dan gamargraff os ydi'n meddwl bod y toriadau mae o a gweddill cynghorwyr Cymru yn gorfod ymgodymu efo nhw yn 2010 yn cael eu gyrru gan y dirwasgiad. Cymhlethdodau'r fformiwla Barnett sy'n gyrru toriadau 2010 yn bennaf. O 2011 hyd 2014 fydd y glec o ganlyniad i'r dirwasgiad yn cael ei gweithredu. Mi fydd canlyniadau hynny'n llawer, llawer gwaeth na'r hyn sydd o'n blaen ar hyn o bryd.

'Rwan mae Simon wedi dangos yn glir iawn bod y Blaid wedi gwrthwynebu toriadau 2011 - 2014. Yr unig bwynt y byddwn yn hoffi ei ychwanegu ynglyn a hynny ydi hyn - o'r pleidiau sydd ar gael yng Nghymru, dim ond y Blaid sydd wedi bod y tu allan i'r consensws o neo ryddfrydiaeth economaidd tros y ddegawd diwethaf - y consensws hwnnw yn annad dim arall a luniodd y tirwedd masnachol a ganiataodd i'r llanast banciau ddigwydd. Byddai'n fwy cywir i ddadlau bod mai yng nghyd destun gwleidyddol Cymru, mai'r Blaid yn unig oedd yn erbyn y gyfundrefn a arweiniodd at y toriadau arfaethiedig.

Y Blaid hefyd ydi'r unig blaid Gymreig sydd eisiau diwygio Barnett er mwyn caniatau i Gymru gael ei chyllido yn ol angen yn hytrach nag yn y ffordd fympwyol y caiff ei chyllido ar hyn o bryd. 'Does yna'r un plaid arall yng Nghymru yn cymryd y safbwynt yna. Mae hi'n bwysicach bod y ddadl yma yn cael ei hennill nawr nag oedd o'r blaen - dyna'r unig ffordd y gallwn osgoi'r toriadau gwirioneddol enbyd sy'n ein hwynebu o 2011 i 2014 - yr unig ffordd.

Felly hoffwn awgrymu gyda chymaint o garedigrwydd ag y gallaf ddod o hyd iddo mai'r peth gorau y gall grwpiau, sydd yn wirioneddol boeni am wariant cyhoeddus yng Nghymru, ei wneud ydi cefnogi ymgyrch y Blaid i ddiwygio Barnett. 'Tydi ceisio beio'r Blaid am greu hinsawdd cyllido sydd wedi ei lunio gan ddigwyddiadau y tu allan i'r wlad ddim o unrhyw gymorth o gwbl. Yr unig beth mae'n ei wneud ydi gwneud y sawl sy'n ceisio gwneud y cysylltiad edrych yn chwerthinllyd o ddi niwed a di glem.

Tuesday, September 15, 2009

Bygythiad erchyll i flogmenai

Roedd hi'n ddigon drwg dim ond llwyddo i ddod yn drydydydd o ran poblogrwydd ymysg blogiau Cymru eleni - fyddai rhywun ddim yn credu y gallai pethau fynd yn waeth.

Ond mae Simon yn ei ol yn ei holl ogoniant llachar. 'Dwi ddim am ddangos delwedd o'r dyn ar dudalen flaen y blog rhag niweidio'r sawl sy'n dioddef o ffitiau, neu ddychryn yr hen, yr ifanc neu'r sawl a ddylanwadir arnynt yn hawdd. Os ydych ddigon dewr, gallwch edrych yma. Mi fyddwn i'n awgrymu'n gryf eich bod yn osgoi'r profiad - am resymau sy'n ymwneud a chwaeth yn ogystal a iechyd a diogelwch.

'Dwi'n poeni.

Beth os mai'r ail flog mwyaf poblogaidd mewn tref mor fach a Chaernarfon fydd blogmenai y flwyddyn nesaf? Neu'r ail mwyaf poblogaidd yng nghangen Plaid Cymru Caernarfon? 'Dydi o ddim yn gysur mawr mai ni ydi'r gangen Plaid Cymru fwyaf yn y Bydysawd.

'Dwi'n teimlo argyfwng gwacter ystyr yn syrthio arnaf. 'Dwi'n mynd i'r gwely - er ei bod yn lled anhebygol o gael cwsg.

Monday, September 14, 2009

Araf y ticia'r cloc yr oriau meithion _ _ _ _

'Dydi'r blog yma ddim yn ymdrin a Llais Gwynedd yn aml iawn - ond un o'r pleserau o wneud hynny ydi bod ymateb i'w gael - weithiau o fewn eiliadau i gyhoeddi blogiad.

Yn anffodus 'dwi'n dal i ddisgwyl ymateb i fy ngwahoddiad i'r cyfryw blaid awgrymu'n gynnil i'w cefnogwyr beidio a bwrw pleidlais tros UKIP yn etholiadau San Steffan 2010. Ta waeth, 'dwi'n ddyn amyneddgar ac mi allaf ddal i drio a dal i ddisgwyl.

Mae gan UKIP pob hawl i'w barn wrth gwrs, a fi ydi'r cyntaf i ddadlau y pwysigrwydd iddynt gael lleisio'r farn honno. Ond mae eu barn yn un rhyfeddol o wrth Gymreig - 'dydyn nhw ddim hyd yn oed yn derbyn bod Cymru'n wlad, ac maent yn awyddus iawn i gau'r Cynulliad Cenedlaethol. Yn wir byddant yn sefyll yn etholiadau 2011 ar sail eu bwriad i ddychwelyd i'r hen drefn o lywodraethu Cymru'n uniongyrchol o San Steffan. Petai rhywun yn dadlau y dylid diddymu San Steffan a rheoli'r DU yn uniongyrchol o Frwsel 'dwi'n rhyw feddwl y byddai UKIP eisiau ei roi yn erbyn wal a'i saethu am frad - ond stori arall ydi honno.

'Rwan 'dwi ddim eisiau gwybod sut mae neb yn fotio, ond mi fyddwn i'n hoffi gofyn yn garedig a chyfeillgar os ydi Llais Gwynedd yn gallu perswadio nhw eu hunain i argymell i'w cefnogwyr beidio a phleidleisio i UKIP.

'Dydi hyn ddim yn anodd iawn.

Sunday, September 13, 2009

Ac wedyn dyna i ni Carwyn Jones


Mae Carwyn yntau yn ei flog gwych a gwreiddiol yn egluro i ni bod pleidlais i Blaid Cymru mewn gwirionedd yn bleidlais i'r Toriaid.

Eglurwyd hyn i ni yn fanwl iawn yn ystod etholiadau'r Cynulliad yn 2007. Prif ladmerydd y newyddion yma yn y parthau hyn oedd Martin Eaglestone. Dadl Martin oedd nad oedd yn bosibl i Lafur gyd weithio efo'r Blaid oherwydd gwahaniaethau athronyddol cymhleth a dwys - llawer rhy gymhleth a dwys i Martin fedru eu trafod na hyd yn oed eu harenwi. Felly byddai pleidlais i'r Blaid yn arwain at lywodraeth Doriaidd yng Nghaerdydd - ac roedd pawb yn gwybod bod rheiny yn bwyta babis ac yn lluchio'r henoed i'r ffynnon.


Beth bynnag daeth yr etholiad, cafodd Martin gweir ac roedd Llafur ar eu gliniau yn crefu ar y Blaid i glymbleidio efo nhw mewn chwinciad chwanen. Oni bai am lwyddiant y Blaid yn yr etholiadau hynny ni fyddai plaid Martin yn rhannu grym heddiw.

Fast forward i 2009, ac mae Carwyn yn ail adrodd yr un hen fantra blinedig.

Hoffwn awgrymu'n garedig ac yn wylaidd mai'r hyn mae Carwyn yn ei olygu pan mae'n dweud bod pleidlais i'r Blaid yn bleidlais i'r Toriaid mewn gwirionedd, ydi na all feddwl am cymaint ag un rheswm call pam y byddai rhywun eisiau pleidleisio i Lafur yn hytrach nag i Blaid Cymru, felly mae'n gwau ffantasi lliwgar ac afresymegol ac yn stwffio hwnnw ger ein bron.

Cwestiwn bach i Lais Gwynedd

Hmm dau gyfraniad treiddgar yn ymwneud a chynhadledd y Blaid yn Llandudno tros y dyddiau diwethaf.

Mae Guto Bebb wedi dod i gasgliadau pendant bod y peth i gyd yn bantomeim hyd yn oed cyn iddo ddigwydd - ac felly dangos ei fod yn credu bod ganddo'r gallu anarferol (a defnyddiol 'dwi'n siwr) i ragweld y dyfodol.

Wedyn mae yna un o rants rhannol ddealladwy enwog un o gynghorwyr Llais Gwynedd. Os 'dwi'n deall y tantro yn gywir mae Gwilym wedi cael ei ypsetio'n lan oherwydd i Adam Price feiddio beirniadu'r Toriaid yn ei araith arbennig ddoe.

'Rwan mae'r cwestiwn wedi ei godi ar flog Gwilym eisoes - i bwy mae o'n pleidleisio pan nad yw Llais Gwynedd yn sefyll mewn etholiad? Am resymau sydd yn glir iddo fo'i hun yn unig, nid oedd yn fodlon ateb. Mae ambell i gynghorydd arall Llais Gwynedd yn ddigon gonest i gyfaddef ei fod yn gobeithio gweld llywodraeth sy'n cael ei harwain gan y Toriaid. Mae gonestrwydd yn rhinwedd i'w edmygu.

Felly, yn y gobaith o gael rhyw lun ar ateb, mi ofynaf y cwestiwn eto mewn ffordd ychydig yn wahanol. Ydi Llais Gwynedd yn argymell i'w cefnogwyr beidio a phleidleisio i rhyw blaid neu'i gilydd? Mae dyn yn cymryd (nid bod unrhyw fath o sicrwydd na chysondeb ynglyn a phrosesau meddwl aelodau LlG wrth gwrs) eu bod yn anghymeradwyo pleidleisio i Blaid Cymru, gan eu bod dragwyddol yn cael eu poeni gan weledigaethau erchyll ac anymunol o aelodau'r blaid honno'n dawnsio'n noeth yn y coed efo'r anifeiliaid gwyllt a'r diafol.

Ond beth am eu cyd bleidiau unoliaethol, gwrth genedlaetholgar? Mynegodd Alwyn bryderon eisoes bod aelodau o'i deulu wedi pleidleisio i UKIP oherwydd nad oedd enw aelod o Lais Gwynedd ar y papur pleidleisio. 'Dwi ddim yn credu i hynny ddigwydd yn aml iawn a dweud y gwir, ond mae'n amlwg o dystiolaeth Alwyn iddo ddigwydd ambell waith.

Ydyn nhw'n fodlon o leiaf argymell nad yw eu cefnogwyr yn pleidleisio i'r blaid arbennig honno?

Saturday, September 12, 2009

Ydi hi'n bosibl ennill poblogrwydd trwy gymryd penderfyniadau amhoblogaidd?

'Dwi'n gwybod ei fod o'n swnio'n gwestiwn gwirion - ond beth ydym i'w wneud o'r pol piniwn yn Express fory sy'n darogan gogwydd sylweddol iawn tuag at yr SNP yn etholiadau San Steffan yn 2010 ac etholiadau Holyrood yn 2011.

Petai'r canlyniadau yn cael eu gwireddu byddai Llafur yn colli hanner ei haelodau seneddol yn San Seffan, a byddai gan yr SNP fwy o seddi nag unrhyw ddwy o'r pleidiau unoliaethol efo'i gilydd yn Holyrood.



Mae'n debyg gen i y bydd hyn yn siom enfawr i'r pleidiau unoliaethol yn yr Alban - roeddynt yn gobeithio y gallant elwa'n etholiadol yn sgil y ffaith i weinidog cartref yr Alban, Kenny MacAskill, ryddhau'r bomiwr Al-Megrahi, yn ystod yr haf, oherwydd ei fod yn marw o gancr.

Aeth y pleidiau unoliaethol yn yr Alban i ben y caets - ac roedd yn edrych am wythnos neu ddwy wedi'r penderfyniad bod yr SNP wedi dioddef niwed etholiadol sylweddol. Ond chymerodd hi fawr o amser i'r SNP ail ennill eu mantais glir tros y pleidiau eraill yn y polau.

Y cwestiwn diddorol ydi pam? Un rheswm mae'n debyg ydi ymateb bisar y Blaid Lafur i'r holl beth. Roeddynt yn groch yn erbyn ar lefel Holyrood, ond yn gwrthod mynegi barn ar lefel San Steffan, tra bod tystiolaeth yn adeiladu eu bod wedi gwneud eu gorau y tu ol i'r lleni, i ryddhau Al-Megrahi.

Ond efallai bod rheswm arall pwysicach. Roedd y penderfyniad yn un roedd angen stumog go gryf i'w gymryd - ond roedd hefyd yn benderfyniad oedd y unol a chyfraith yr Alban. Mae'r gyfraith yn caniatau, yn wir yn annog trugaredd o dan yr amgylchiadau hyn. Trwy gymryd y penderfyniad roedd Kenny MacAskill yn dangos ei fod yn fodlon mentro amhoblogrwydd er mwyn gweithredu'n unol a chyfraith ei wlad.

Mi fyddwn i'n rhoi mwy o ymddiriedaeth mewn dyn felly, nag mewn un sy'n fodlon anwybyddu cyngor cyfreithiol er mwyn peidio a cholli poblogrwydd etholiadol. Ymddengys bod llawer iawn o Albanwyr yn cytuno efo fi.

Cynhadledd Plaid Cymru


Dydw i ddim yn rhyw gynadleddwr mawr mae gen i ofn - ond mi fyddaf yn mynychu cynhadledd flynyddol y Blaid ar y dydd Sadwrn, a 'doedd y tro hwn ddim yn eithriad.

'Rwan mae yna berygl mewn ceisio darllen gormod i mewn i unrhyw gynhadledd wleidyddol - mae nhw'n ddigwyddiadau digon artiffisial ar sawl gwedd. Serch hynny mae'n rhaid i mi ddweud i mi fwynhau'r diwrnod - roedd y lle'n llawn - roedd yr areithiau yn rhai digon caboledig. ac roedd ymdeimlad pendant y gallai'r Blaid - yn wir y dylai'r Blaid - dorri pob record o ran cynrychiolaeth yn San Steffan y flwyddyn nesaf. Byddai ennill chwech neu saith sedd, a bod yn ail cryf mewn efallai ddwsin o rai eraill yn ein rhoi mewn safle lle y gallwn edrych ymlaen at gyfle gwirioneddol i arwain y llywodraeth nesaf ym Mae Caerdydd.

Roedd un neu ddau o bwyntiau yn fy nharo fodd bynnag.

Yn gyntaf roedd cryn dipyn o'r ymosod gwleidyddol yn cael ei gyfeirio at y Toriaid. Ar un wedd mae hyn yn anarferol - fel rheol y blaid sydd mewn llywodraeth sydd yn derbyn beirniadaeth mewn digwyddiad fel hyn. Fodd bynnag mae'r ffordd yma o fynd ati yn synhwyrol - mae pawb yn gwybod bod Llafur yn wynebu cweir anferthol yn yr etholiad nesaf - ac mae strategaeth o hawlio'r tir o amddiffyn y wlad oddiwrth y Toriaid yn allweddol os yw'r Blaid i ddod yn brif rym gwleidyddol Cymru - fel rydym wedi ei drafod yma.

Yn ail roedd yn amlwg o araith feistrolgar Adam Price ei fod yn awyddus i ysgwyd llwch San Steffan oddi ar ei draed. Mae Vaughan yn cyffwrdd a hyn yma. Dweud mae Vaughan y bydd tri gwleidydd o sylwedd arbennig yn sefyll yn enw'r Blaid yn 2011 - ac mae'n enwi dau - Dafydd Wigley ac Adam. 'Dwi'n cymryd mai'r trydydd sydd ganddo mewn golwg ydi Ron Davies. Mae ansawdd rhai o'r aelodau sydd gan y Blaid yn y Cynulliad eisoes yn uwch o lawer na'r hyn sydd gan y pleidiau eraill i'w gynnig. Byddai etholiad Cynulliad gydag Adam yn sefyll yn (dyweder) Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro, Dafydd yn sefyll yng Ngorllewin Clwyd a Ron yng Nghaerffili (neu o bosibl Islwyn) yn un lle byddai proffeil y Blaid yn uchel - yn llawer uwch nag un unrhyw blaid arall.

Y trydydd pwynt ydi'r refferendwm. Y son oedd y byddai refferendwm i gael pwersau pellach i'r Cynulliad yn cael ei gynnal yn hydref 2010 - ychydig fisoedd cyn etholiadau'r Cynulliad. Byddai hwn yn amser da ar sawl cyfrif. Yn gyntaf byddai'r awyrgylch o greisis sy'n sicr o ddilyn toriadau'r Toriaid mewn gwariant cyhoeddus yn gwneud y tebygrwydd o ganlyniad cadarnhaol. Mae hefyd yn bosibl y byddai canlyniad da yn y refferendwm yn rhoi hwb etholiadol i'r Blaid yn genedlaethol - fel a ddigwyddodd yn sgil refferendwm 1997.

Felly, ar ddiwedd cynhadledd - am y tro cyntaf erioed, gallaf ddweud fy mod yn teimlo ein bod mewn sefyllfa i hyderu y bydd y ddwy flynedd nesaf yn rhai trawsnewidiol o ran hynt etholiadol y Blaid ac o ran statws cyfansoddiadol Cymru. Yr her i ni fel Pleidwyr ydi gafael yn y cyfle a'i goleddu. Efallai na ddaw cyfle tebyg am genhedlaeth arall.

Wednesday, September 09, 2009

Cwis bach rhif 3

Yn ysbryd y ddadl bach yma mae'n bleser o'r eithaf gen i osod cwis bach arall ger eich bron:

1 Pwy ddywedodd: we insisted on reserving the right to bomb niggers

(A)

(B)


(C)


2 Pwy ddywedodd am Adolf Hitler - One man has accomplished this miracle. He is a born leader of men. A magnetic, dynamic personality with a single-minded purpose, a resolute will and a dauntless heart. He is not merely in name but in fact the national Leader.

(A)
(B)
(C)


3 Pwy ddywedodd am Hitler: The greatest living German?

(A)
(B)

(C)

Tuesday, September 08, 2009

Etholiad 2010 a gwers o 1983 i'r Mudiad Cenedlaethol


Sylwadau diddorol gan ddau o flogiau gorau Cymru - Welsh Guerilla Warefare a Syniadau ynglyn ag erthygl gan Adam Price yn y Western Mail heddiw.

Rhybudd a geir gan Adam ei bod yn bryd i'r Mudiad Cenedlaethol droi ei sylw at y Toriaid a pharatoi am gyfnod gwleidyddol ol Lafur. Mae Syniadau yn anghytuno efo un agwedd yn benodol ar ei ddadl - sef y dylai'r Blaid fynu (petaem yn cael ein hunain mewn senedd grog) bod y Pwyllgor Dethol Cymreig yn adlewyrchu cydbwysedd gwleidyddol Cymru yn hytrach nag un y DU. Ei gred yw bod hyn yn ffordd o daflu rhaff achub i Lafur gan mai nhw sy'n debygol o fod a'r mwyafrif o Aelodau Seneddol Cymru. Mae'r canfyddiad hwn yn un cywir.

Beth am edrych yn ol chwarter canrif am funud i 1983 - isafbwynt etholiadol Llafur yn y DU?

Ychydig o dan 27% yn unig o bleidlais Brydeinig a sicrhawyd gan Lafur - mymryn mwy na'r glymblaid Rhyddfrydol / SDP. Oherwydd trefn etholiadol boncyrs y DU cawsant fwy o seddi o lawer na'r glymblaid wrth gwrs. Gwnaeth Llafur yn well yng Nghymru - o tua deg pwynt canrannol - ond roedd hyn yn isafbwynt hanesyddol yng Nghymru iddynt.

Aeth Llafur ati i ail adeiladu rhwng 1983 ac 1997 tros y DU - ond yr hyn sy'n drawiadol ydi iddynt ail adeiladu'n gynt o lawer yng Nghymru. Yn etholiad 1987 roedd Llafur ar 29.5% yn Lloegr ond ar 45% yng Nghymru. 34% a 49.5% oedd y ffigyrau cymharol yn 1992. Roedd Llafur unwaith eto'n dominyddu yng Nghymru tra'u bod yn gymharol wan o hyd yn Lloegr.



'Rwan roedd nifer o resymau tros lwyddiant Llafur i ail adeiladu'n gyflym yng Nghymru - peirianwaith effeithiol, effaith polisiau economaidd y Toriaid ar Gymru, y ffaith mai Cymro oedd yn arwain y blaid er enghraifft. Ond mi fyddwn i'n dadlau bod rheswm arall hefyd - Llafur oedd ffocws y gwrthwynebiad Cymreig i lywodraeth Seisnig a Thoriaidd yng Nghymru. Mae'n hawdd i bobl sydd ag argyhoeddiadau gwleidyddol cryf i werthfawrogi bod llawer o bobl yn pleidleisio am resymau negyddol - pleidleisio yn erbyn rhywbeth, ac nid pleidleisio o blaid rhywbeth mae lleiafrif sylweddol o etholwyr. Pleidlais yn erbyn y Toriaid mwy na phleidlais tros Lafur oedd cyfadran arwyddocaol o'r cynnydd cyflym hwn yn eu pleidlais rhwng 83 a 92.

Mi fydd y Toriaid yn ennill fis Mai nesaf, a byddant yn ennill yn hawdd - fydd yna ddim senedd grog. Mae'n bosibl y bydd Llafur yn ennill llai o bleidleisiau tros y DU nag y gwnaethant yn 83, ac mae'n weddol sicr y digwydd hynny yng Nghymru. Bydd Cymru'n dioddef fwy na'r unman arall oherwydd ein bod yn ddibynnol iawn ar wariant cyhoeddus, a bydd hwnnw'n cael ei dorri i'r bon. Hefyd mae ein Senedd yn rhy wan o ran pwerau i gynnig gwarchodaeth effeithiol i'r wlad. Ond mae'n bwysig ein bod yn dysgu gwers o beth ddigwyddodd yn wythdegau a nawdegau'r ganrif ddiwethaf. Os caiff Llafur y cyfle i'w cyflwyno eu hunain fel ffocws gwrthwynebiad y genedl i lywodraeth Doriaidd, byddant yn ailadeiladu'n gyflym eto.

Her wleidyddol fawr y Mudiad Cenedlaethol tros y ddegawd nesaf fydd gwneud ei hun yn hytrach na Llafur yn ffocws i wrthwynebiad Cymru i'r llywodraeth Doriaidd. Dyma pam mai etholiadau Cynulliad 2011 fydd y rhai pwysicaf yn hanes y Blaid, ac efallai yn hanes Cymru. Os bydd Plaid Cymru yn gwneud yn dda, ac yn cael ei hun yn chwarae rhan arweiniol yn y llywodraeth nesaf yng Nghaerdydd, gall sicrhau bod y Cynulliad - a thrwy hynny hi ei hun, yn ganolbwynt i wrthwynebiad cenedlaethol i lywodraeth Doriaidd - fel y gwnaeth y Blaid Lafur chwarter canrif ynghynt. O lyddo i wneud hyn gellir disgwyl gwobr etholiadol sylweddol.



Golyga hyn bod rhaid i'r Blaid (fel mae Adam yn awgrymu) ymosod yn bennaf ar y Toriaid yn y dyfodol. Ond mae'n bwysig hefyd cadw mewn cof mai'r gwir elyn ydi Llafur - y traddodiad unoliaethol Llafur ac nid yr un Toriaidd sydd wedi rhwystro Cymru rhag esblygu'n gyfansoddiadol yn ystod y ganrif ddiwethaf. Y ffordd fwyaf effeithiol o ddifa Llafur ydi trwy chwarae rol tebyg i'r un a chwaraewyd ganddyn nhw chwarter canrif yn ol.

Sunday, September 06, 2009

Polau Piniwn Mis Awst

Mewn blynyddoedd diweddar mae'r polau piniwn ym mis Awst cyn etholiad cyffredinol wedi bod yn hynod debyg i ganlyniad yr etholiad cyffredinol ei hun. Mae rhywbeth ychydig yn ddigri am hyn mae'n debyg - er gwaetha'r holl wario, er gwaetha'r holl ymgyrchu, er gwaetha'r holl dantro, er gwaetha'r holl hysteria, er gwaetha'r cynllwynio a'r triciau budur yn ystod y misoedd cyn etholiad cyffredinol, mae'r patrymau pleidleisio eisoes wedi eu sefydlu - ac ychydig iawn y gellir ei wneud i newid pethau.

Does yna ddim polio Cymreig o unrhyw werth (yn wahanol i'r Alban), felly 'does gennym ni ddim llawer i fynd arno o ran polio sy'n berthnasol yn benodol i Gymru. Ar lefel Prydeinig roedd y polau yn erchyll i Lafur - gan awgrymu y bydd eu canran o'r bleidlais yn cwympo efallai ddeg pwynt canrannol. 'Dydyn nhw ddim yn arbennig o dda i'r Lib Dems chwaith gydag awgrym y byddant yn is nag 20%. Ar y llaw arall mae lle i gredu y bydd y pleidiau llai yn gwneud yn dda, ac y bydd y Toriaid yn cynyddu eu pleidlais o efallai 9%.

Mae'n anodd cyfieithu hyn i gyd destun Cymreig, gan fod gwleidyddiaeth etholiadol yn gwahanol yma bellach i weddill y DU. Ond mae'n rhesymol i gasglu y bydd pob sedd Lafur ag eithrio rhai'r cymoedd a Dwyrain Abertawe mewn perygl. 'Dydi hyn ddim yn golygu y byddant i gyd yn cael eu colli wrth gwrs - ond byddai pob dim ag eithrio'r rhai 'dwi wedi eu henwi yn gystadleuol.

Posibilrwydd arall ydi y bydd y Lib Dems yn colli eu seddi gwledig yng Nghymru, ond yn ennill un neu ddwy o rai dinesig - ac felly'n troi'n blaid ddinesig yma yng Nghymru o leiaf.

Gallai'r map etholiadol Cymreig edrych yn rhyfedd iawn erbyn mis Mehefin nesaf.

Saturday, September 05, 2009

A ddylai'r BNP fod yn blaid gyfreithlon?

Yn ol blog Saesneg Alwyn mae yna tipyn o ddadlau ar hyn o bryd rhwng rhai o flogwyr y Blaid a Peter Black ynglyn a sut y dylid ymateb i'r BNP. Mae Alwyn yn nodi ei fod yn cytuno efo Peter Black nad oes angen anghyfeithloni'r blaid neo ffasgaidd.

'Rwan 'dwi heb fod yn dilyn y ddadl mor agos ag Alwyn, ond fedra i ddim gweld neb yn dadlau tros eu gwneud yn anghyfreithlon fel y cyfryw - dadl ydi hi yn y bon ('dwi'n meddwl) ynglyn a pha mor briodol ydi hi iddyn nhw gael stondin mewn sioe ym Mro Morgannwg - efallai fy mod wedi methu rhywbeth yma.

Ta waeth, mae'n codi pwynt digon diddorol - ydi hi'n briodol i wahardd rhai pleidiau gwleidyddol oherwydd bod eu credoau'n wrthyn i'r rhan fwyaf o bobl? Mi fyddwn i'n tueddu i ochri efo Alwyn ynglyn a hyn am unwaith.

Y drwg efo anghyfreithloni grwpiau oherwydd eu heithafiaeth ydi bod yr hyn a ystyrir yn eithafol yn newid yn gymharol rheolaidd, ac mae'r hyn sy'n cael ei ystyried yn eithafol yn ddibynnol ar o lle'r ydych yn edrych ar bethau.

Er enghraifft, yn Oes Fictoria roedd y rhan fwyaf o bobl yn BNPwyr i'r graddau bod rhywbeth yn ymylu ar gonsensws o'r farn bod rhai hiliau dynol yn uwchraddol i hiliau dynol eraill. Yr agwedd yr ydym yn ei hystyried yn ryddfrydig erbyn heddiw oedd y farn 'eithafol' bryd hynny. O edrych yn ol ymhellach, roedd yna amser pryd ystyrid bod safbwynt oedd yn bleidiol i anghyfreithloni caethweisiaeth yn eithafol.

Mae yna bobl sy'n ystyried cenedlaetholdeb Cymreig yn eithafol heddiw. Er enghraifft 'dwi'n dyfynu'r isod o flog Stonemason - y blogiwr mwyaf gwrth Gymreig ar y blogosffer mae'n debyg.

…… where its ultimate objective is separation, is much the same as an external aggressor that would invade a country, the only exception is where not even 1 citizen objects to the nationalist objective, only then is it legitimate.

Welsh nationalism is little different to any aggressor of the past.

In Wales today, the major political players need to divorce themselves from Plaid Cymru, lest they become tainted as political aggressors.


Hynny yw, o edrych ar Gymru o'r safbwynt yma mae mynegi'r gobaith y bydd Cymru rhyw ddiwrnod yn annibynnol ynddo'i hun yn weithred ymysodol. Mae'r awdur yn disgrifio ei hun fel Ceidwadwr (nid bai y Blaid Geidwadol ydi hynny wrth gwrs), ac mewn materion ag eithrio ei gasineb rhyfedd tuag at genedlaetholdeb Cymreig mae'n ymddangos yn weddol agos at y prif lif Ceidwadol. Rydym eisoes wedi edrych ar farn digon tebyg gan geidwadwr (c fach) mwy eithafol - John Walker.

It doesn't matter whether Plaid play the short game or the long game - they are still, ultimately, a destructive force in British politics and they should be marginalised by the 'Brits' at every opportunity.

'Dwi ddim yn dadlau am funud bod yr agwedd yma yn ganolog i ideoleg ceidwadiaeth Seisnig cyfoes, ond mae edefyn felly yn sicr yn bodoli oddi mewn i'r brodwaith ideolegol hwnnw. 'Dydi hi ddim yn bosibl gweld o flaen llaw pa agweddau ar geidwadiaeth Seisnig (nag unrhyw ideoleg arall o ran hynny) fydd yn bwysig yn y dyfodol. Yr hyn yr ydym yn gwybod ydi bod natur ideolegau yn amrywio'n sylweddol o gyfnod i gyfnod. Rydym hefyd yn gwybod mai ceidwadiaeth Seisnig ydi'r ideoleg sydd fwyaf llwyddiannus am drosglwyddo trwy'r canrifoedd ar yr ynysoedd hyn.

I roi pethau mewn ffordd arall 'does ganddom ni ddim ffordd o wybod os mai ni fydd yn cael eu hystyried yn 'eithafwyr' yn y dyfodol. Os oes yna gynsail o ddeddfu i wahardd pleidiau ar sail y canfyddiad o eithafiaeth, 'dydan ni ddim yn gwybod os y caiff y ddeddfwriaeth honno ei defnyddio yn ein herbyn ni ar rhyw bwynt yn y dyfodol.

Mae hanes y ganrif ddiwethaf yn Ewrop a thu hwnt yn ddigon o ddadl i sicrhau nad ydi gwleidyddiaeth sydd wedi ei seilio ar gasineb tuag at, neu o leiaf ddrwgdybiaeth o hiliau eraill yn llwyddo. 'Does yna ddim dyfodol i blaid fel y BNP oherwydd ein bod yn gwybod beth sydd yn digwydd pan mae pobl sy'n coleddu credoau sylfaenol y BNP yn ennill grym. Atgoffa pobl hyd at syrffed o hynny ydi'r ateb gorau i bleidiau hiliol.

Un nodyn bach arall cyn gorffen - 'dydi dweud nad ydw i'n cytuno a gwahardd pleidiau gwleidyddol ddim yn golygu fy mod yn credu y dylai digwyddiadau megis Ffair Bro Morgannwg ganiatau iddynt eu defnyddio i ledaenu propoganda. Mae'n gywilydd ar y trefnwyr eu bod yn eu derbyn yno.

Thursday, September 03, 2009

Faint fyddai buddugoliaeth i'r Toriaid yn ei gostio i Gymru?

Newydd weld y blogiad diddorol yma mewn perthynas a Gogledd Iwerddon. Mae'n berthnasol i Gymru hefyd.

Mewn datganiad ddoe dywedodd Roger Helmer, un o Aelodau Ewropiaidd Y Toriaid, y byddai ei blaid yn tynnu o faterion cyflogaeth a chymdeithasol Ewrop pe byddent yn cael eu hethol - dyma ei union eiriau - withdraw from European social and employment affairs.

'Rwan mae dwy ochr i geiniog European social and employment affairs - deddfwriaeth a throsglwyddiad arian. Mae Cymru'n derbyn swm sylweddol o arian gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop - £1.6 biliwn i fod yn fanwl gywir rhwng 2007 a 2013. Mae tua £545 miliwn (32%) yn cael ei fuddsoddi mewn busnesau, £755 miliwn (45%) mewn pobl a bron £345 miliwn (20%) ar gyfer adfywio cymunedol, yr amgylchedd a thrafnidiaeth.

Wnaeth Helmer ddim son os oedd yn fwriad gan y Toriaid i ddigolledu Cymru am yr adnoddau ariannol fydd yn cael ei golli o ganlyniad i'r gorffwylldra ideolegol yma. Mi fyddwn i'n betio cryn dipyn nad ydi hynny hyd yn oed wedi cael ei ystyried.

Wednesday, September 02, 2009

Etholiad Cyffredinol 2010 - y betio

Mae efallai naw mis i fynd hyd yr etholiad cyffredinol ac mi fydd y blog yma - yn ogystal a nifer o rai eraill 'dwi'n siwr yn edrych ar beth sy'n debygol o ddigwydd mewn gwahanol etholaethau Cymreig (a thu hwnt) yn ystod y cyfnod hwnnw.

Mi wnawn ni gychwyn trwy gael golwg ar yr ods bwcis sydd ar gael ar hyn o bryd. Mae pob dim oddi ar wefan Ladbrokes ag eithrio ail set o brisiau Gorllewin Casnewydd (Raymond Chandler) a'r trydydd am yr etholaeth honno (Paddy Power). Ymddiheuriadau am y blerwch.

Aberconwy:

Toris 2/7

Plaid Cymru 7/2

Llafur 8/1

Lib Dems 25/1


Arfon:

Plaid Cymru 1/10

Llafur 6/1

Toris 14/1

Lib Dems 100/1


Ceredigion:

Plaid Cymru 8/11

Lib Dems evens

Toris 25/1

Llafur 100/1


Llanelli:

Llafur 1/2

Plaid Cymru 6/4

Toris 50/1

Lib Dems 100/1


Trefaldwyn:

Lib Dems

1/3

Toris

2/1

Llafur

100/1

Plaid Cymru

100/1


Dwyrain Casnewydd:



Llafur

1/2

Lib Dems

9/4

Toris

6/1

Plaid Cymru

100/1



Gorllewin Casnewydd:


Llafur

4/6

Toris

evens

Lib Dems

50/1

Plaid Cymru

100/1


Llafur 10/11

Toris 4/5

Lib Dems33/1

Plaid Cymru100/1







Llafur 8/11


Toris 10/11


Lib Dems 40/1


Plaid Cymru100/1



Gorllewin Abertawe:

Selection

Odds

Lib Dems

5/6

Llafur

evens

Toris

10/1

Plaid Cymru

100/1


Ynys Mon:


Plaid Cymru - 1/3

Llafur - 9/4

Toriaid - 16/1

Lib Dems - 100/1