Wednesday, April 29, 2015

Y Sun a'r Sun

Y Sun a'r Sun - coeliwch o neu beidio.


Poster y diwrnod

Roeddwn ym Mangor Uchaf yn dosbarthu posteri gardd heddiw.  Myfyrwyr ydi mwyafrif llethol trigolion yr ardal wrth gwrs.  Mae Plaid Cymru, Arfon wedi dosbarthu llawer, llawer mwy o bosteri felly nag ydym erioed wedi ei wneud o'r blaen - maen nhw'n dominyddu'r ymgyrch weledol yma.

Ta waeth mae yna nifer dda o bosteri ffenest ym Mangor Uchaf - rhai Llafur neu Blaid Cymru yn ddi eithriad.  Ond roedd yna rhywbeth trawiadol am y poster DIY yma yn y ffenest uchaf ar y chwith.  Rhag nad ydych yn ei gweld yn iawn mae'n darllen Vote Hawel.  Rhyw fyfyriwr o rywle lle nad ydi'r enw Hywel yn gyffredin wedi cymryd at neges y Blaid.  Hyfryd iawn.

Rhai o fanylion pol Ipsos Mori heddiw

Tuesday, April 28, 2015

Gohebiaeth etholiadol o fydysawd cyfochrog

Dwy etholaeth, dau set gwahanol o gymeriadau ond yr un gohebiaeth i pob pwrpas.  Gohebiaeth o fydysawd cyfochrog lle mae pawb ond am y Lib Dems yn colli tir.

Rhywun arall wedi ei blocio gan Alun Pugh

Llongyfarchiadau i Manon am ymuno a'r clwb o bobl sydd wedi eu blocio gan Alun Pugh am feiddio gofyn cwestiynau.  Mae'r clwb yn tyfu'n gyflym.

Poster y diwrnod

Ond tydi etholiadau yn ddigwyddiadau addfwyn yng Ngogledd Iwerddon dywedwch?


Saturday, April 25, 2015

Delweddau'r diwrnod

Cefnogwyr yr SNP yn Glasgow



Cwestiwn i Alun Pugh

Mae Abel McWalkies yn gwneud honiad diddorol yn ei dudalen Gweplyfr - sef bod ymgeisydd Llafur yn Arfon, Alun Pugh wedi derbyn £1,000 o bunnoedd o bres budur Tony Blair.  Gallwch weld y neges yn ei chyfanrwydd yma.



Rwan, dwi ddim yn gwybod os wnaeth Alun gymryd y pres yma, ac yn anffodus fedra i ddim gofyn iddo fo'n hawdd iawn - dwi wedi cael fy mlocio o'i gyfrif trydar ers talwm.  Mae'r cwestiwn yn un perthnasol iawn i Arfon - mae yna draddodiad o heddychiaeth yng Ngogledd Orllewin Cymru sy'n mynd yn ol ymhell, ac mae llawer o'r bobl sydd wedi symud i'r ardal yn ystod y degawdau diwethaf hefyd yn arddel yr un gwerthoedd.  

Serch y ffaith na allaf i ofyn trwy drydar i Alun,  efallai bod y trydarwyr yn eich plith eisiau gofyn iddo fo os ydi o wedi derbyn pres budur Blair.  Gellir dod o hyd iddo ar @Alun_Pugh.  Dwi 'n gwybod nad oes rhaid i mi atgoffa yr un ohonoch i holi'n gwrtais - er bod y pwnc yn un hynod emosiynol.

Friday, April 24, 2015

Beth wnawn ni o electionforecast.co.uk?

Dwi ddim yn siwr beth i'w wneud o'r wefan electionforcast.co.uk.  Mae'r wefan yn cael ei rhedeg gan sefydliadau academaidd, mae'n cymryd y polau diweddaraf i ystyriaeth, mae'n cynnig ffigyrau ar gyfer pob etholaeth ag eithrio rhai Gogledd Iwerddon, ac mae'n diweddaru'r ffigyrau yn ddyddiol.   Mae hefyd yn cydnabod bod yna lefel uchel o ansicrwydd yn yr hyn mae'n ei wneud.

Dwi ddim yn deall methedoleg y wefan, felly wna i ddim mentro awgrymu ei bod yn ddibynadwy, ond efallai ei bod yn ddefnyddiol mewn un ffordd.  Gan bod data dyddiol yn cael ei fwydo i'r system - byddai rhywun yn disgwyl iddi adlewyrchu cyfeiriad a symudiad yn hytrach na'r union sefyllfa.

Mae'r  wefan yn awgrymu gogwydd sylweddol tuag at y Blaid tros y dyddiau diwethaf - ac mae hynny yn cael ei adlewyrchu i raddau ar y marchnadoedd betio.

Dyma rhywfaint o'r canlyniadau sy'n cael eu hawgrymu ar yr amser dwi'n sgwennu hwn:

Arfon - PC 41%, LLAF 28%, TORIAID 15% LIB DEMS 4% UKIP 8%

Ceredigion - PC 39%, LLAF 10%, TORIAID 11%,  LIB DEMS 28%, UKIP 7%

Dwyfor Meirion - PC 54%, LLAF 13% TORIAID 16%, LIB DEMS 5%, UKIP 9%

Dwyrain Caerfyrddin - PC 43%, LLAF 22%, TORIAID 17%, , LIB DEMS 2%, UKIP 11%.

Rhondda - PC 32%, LLAF 45%,  TORIAID 5%, LIB DEMS 3%, UKIP 10%.

Llanelli - PC 36%, LLAF 36%,  TORIAID 12%, LIB DEMS 2%, UKIP 11%

Ynys Mon - PC 34%, LLAF 31%,  TORIAID 12%, LIB DEMS 2%, UKIP 11%.

Castell Nedd - PC  32%, LLAF  38%, TORIAID 10%, LIB DEMS 2%, UKIP 12%.

Caerffili - PC 25%, LLAF 41%, TORIAID 10%, LIB DEMS 2%, UKIP 13% 

Arwyddocaol neu beidio?  Dwi ddim yn siwr - ond dylai fod yn hwyl dilyn y wefan am y deuddeg diwrnod nesaf.



Thursday, April 23, 2015

Llafur Watch 1013

O diar, o diar, o diar.

Delweddau'r Diwrnod

Leanne yn y brifysgol ym Mangor:




Llafur Watch 1012

Wel - rydan ni wedi son am hon o'r blaen, ond cyn bod Alun Pugh yn parhau i ragrithio, waeth i ni ei haiadrodd hi.

Mae Alun yn gweld rhyw chwithdod mawr bod Plaid Cymru yn bwriadu cael gwared o gytundebau sero awr, er bod cytundebau felly gan Gyngor Gwynedd.

Ond dydi Alun byth yn methu cyfle i ddweud bod Llafur am gael gwared o gytundebau sero awr - er bod llawer, llawer mwy yn cael eu cyflogi ar y telerau hynny gan gynghorau Llafur, er bod llawer o aelodau seneddol Llafur yn cyflogi staff ar delerau sero awr, ac er i Lafur addo cael gwared o'r arfer yn 1997 ond peidio a thrafferthu i wireddu hynny yn ystod y tair blynedd ar ddeg roeddynt mewn grym.

Un rheol i Lafur, a rheol cwbl wahanol i bawb arall. 

Wednesday, April 22, 2015

Delwedd y ddadl

Owen Smith yn edrych ar ei nodiadau cyn i'r camera teledu ddod ato.  Roedd ei berfformiad yn wirioneddol wan - boring, llwyd, sefydliadol, hunan gyfiawn, amddiffynol, gweithio i fformiwla, di hyder.  

Ymgorfforiad perffaith o fethiant gwleidyddol Cymru yn y gorffennol.

Poster y Diwrnod


Lib Dem Watch

Diolch i Glyn Erasmus am hon.  Mae'r Lib Dems yn enwog am eu graffiau camarweiniol wrth gwrs - ond mae cyflwyno graffiau o'r etholiad diwethaf heb ddweud at lle maent yn cyfeirio yn un newydd i mi.

Tuesday, April 21, 2015

Delwedd y diwrnod

Sut i sicrhsu bod Cymru'n cael triniaeth deg

Mae'n debyg na ddylai fod o fawr o syndod i neb bod plaid nad oes a chysylltiad uniongyrchol a Chymru - yr SNP - o blaid i Gymru gael ei hariannu yn gyfartal a'r Alban tra bod y Blaid Lafur 'Gymreig' yn gwbl hapus i Gymru gael ei than ariannu.  

Mae hyn wrth gwrs yn ei gwneud yn fwy tebygol y caiff Cymru ei hariannu yn deg os bydd yr SNP mewn sefyllfa i ddylanwadu ar lywodraeth Lafur.  Fodd bynnag, mae'n bwysig deall mai'r unig ffordd o sicrhau triniaeth deg i Gymru mewn gwirionedd ydi trwy anfon tim cryf o Bleidwyr i San Steffan.  Real politic y sefyllfa ydi mai'r Alban fydd blaenoriaeth yr SNP, a byddai ethol llond trol o'r unoliaethwyr arfetol o Gymru i San Steffan yn rhoi'r neges glir bod Cymru yn hollol hapus efo'i sefyllfa dreuenus.  


Monday, April 20, 2015

Dyna beth ydi lawnsiad maniffesto


Delwedd etholiadol y diwrnod

Leanne, Jonathan a phobl ifanc Dwyrain Caerfyrddin.

Ynglyn ag Arfon

Yn Golwg yr wythnos cyn yr wythnos ddiwethaf cafwyd llythyr hirfaith ac hunan dosturiol gan ein cyfaill Gwilym Owen yn cwyno'n groch na chafed ei ddewis i fod yn rhan o banel etholiadol ITV.  

Yr wythnos ddiwethaf roedd yr hen frawd wedi cynhyrfu yn lan efo'r syniad o fuddugoliaeth i Lafur yn Arfon.  Mae Gwil yn byw yn Arfon.  Yn anffodus mae nifer o gamgymeriadau ffeithiol yn yr erthygl.  Er enghraifft mae'n gwneud mor a mynydd bod Plaid Cymru wedi cynrychioli Arfon ers 1974.  Dydi hynny ddim yn wir - etholaeth cymharol newydd ydi hi.  Amalgam o rannau o hen sedd Caernarfon a Conwy ydi Arfon.  Dydi Plaid Cymru erioed wedi cynrychioli Conwy ar lefel seneddol, er iddi wneud hynny rhwng 1999 a 2003 ar lefel Cynulliad.  Ar wahan i hynny doedd y Blaid erioed wedi bod yn gystadleuol yn etholaeth Conwy.

Sedd wedi ei chreu o hen gynghorau dosbarth Gwyrfai ac Ogwen, Cyngor Tref Caernarfon a Chyngor Dinas Bangor ydi Arfon.  Roedd Gwyrfai a Chaernarfon yn etholaeth Caernarfon, tra bod Bangor a Dyffryn Ogwen yn etholaeth Conwy.  Daw 41% o'r sawl a bleidleisiodd yn 2010 o'r hen Gonwy, Bangor 26%, Dyffryn Ogwen 15% a daw 59% o'r hen Caernarfon 15%, Gwyrfai 43%.  Petai Arfon yn bodoli yn 2005 Llafur fyddai wedi ei hennill - felly hefyd yn 2001 a 1997.  Dyna pam mai Plaid Cymru gain ymddangosodd ar sgrin y Bib pan eniliodd Hywel Williams yn 2010.

Efallai mai'r rheswm na ddewiswyd Gwilym gan ITV oedd nad yw'n gwybod rhyw lawer am yr etholiad, nag yn wir yr etholaeth mae'n byw ynddi.  Does yna ddim pwrpas cyflogi boi sydd ddim yn gwybod ei stwff.

Ta waeth, cyn ein bod wedi son am Arfon waeth i ni gael golwg frysiog ar y sedd.  Yr etholiad cyntaf yn hanes yr etholaeth oedd etholiad Cynulliad 2007.  Roedd yna gryn son y byddai Llafur yn ennill bryd hynny, a'r rheswm oedd bod demograffeg Arfon yn ffafriol iawn i Lafur. Mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn byw mewn ardaloedd trefol neu ol ddiwydiannol.  Petai Arfon yng Ngogledd Orllewin Lloegr, byddai'n sedd ddiogel iawn i Lafur.  Ond dydi Arfon ddim yng Ngogledd Orllewin Lloegr - mae yng Ngogledd Orllewin Cymru.  Enillwyd y sedd yn hawdd gan Ffred i'r Blaid.

Roedd pethau'n nes o lawer yn 2010.


Plaid Cymru
Hywel Williams*9,38336.0+3.9
LabourAlun Pugh7,92830.4−3.5
ConservativeRobin Millar4,41616.9+0.5
Liberal DemocratSarah Green3,66614.1−1.7
UKIPElwyn Williams6852.6+0.7

Felly sedd ymylol ydi Arfon ar lefel San Steffan - does yna ddim pwt o amheuaeth ynglyn a hynny.  Mae yna rai pethau sy'n rhoi lle i Llafur obeithio.  Mae'r polau tros y DU ac yng Nghymru yn awgrymu bod cynnydd yn y bleidlais Lafur o gymharu a 2010,  mae Alun Pugh wedi cael mwy o amser i weithio ar yr etholaeth ac fel sedd darged i Lafur mae yna adnoddau ariannol wedi eu taflu i'w chyfeiriad.  Mae Alun wedi bod yn ymgeisydd llawn amser i bob pwrpas am rai blynyddoedd.  Mae cwymp y Lib Dems (ychydig iawn o bleidleisiau fyddant yn eu cael yn Arfon y tro hwn) yn rhoi cyfle iddynt hel pleidleisiau myfyrwyr yn ardal Bangor.

Ond mae yna ffactorau sy'n milwrio yn erbyn Llafur hefyd.  Fyddai'r cynnydd ym mhleidlais Llafur tros y DU ac yng Nghymru ddim yn ddigon iddynt ennill y sedd ar ogwydd unffurf.    Mae Llafur wedi perfformio'n wael iawn yn Arfon dair gwaith ers 2010 - ni wnaethwyd llawer o argraff yn etholiadau'r cyngor yn 2012, cafodd Llafur gweir wirioneddol yn etholiad y Cynulliad yn Arfon yn 2011, a thrydydd y tu ol i UKIP oedd Llafur yng Ngwynedd yn etholiadau Ewrop y llynedd.

Mae peiriant etholiadol y Blaid yn llawer, llawer mwy pwerus nag un Llafur.  Mae gan y Blaid o leiaf chwe aelod am pob un sydd gan Lafur yn yr etholaeth.  Beth bynnag ddarllenwch chi ar flogiau eraill, mae yna ymgyrch sylweddol yn mynd rhagddi - ymgyrch sydd wedi dechrau mewn gwirionedd fwy na deunaw mis yn ol.  Mae yna lawer iawn mwy o ganfasio wedi bod gan y Blaid, mae yna lawer mwy o ohebiaeth wedi ei ddosbarthu, mae yna lawer mwy o gefnogwyr wedi eu hadnabod, ac mae ymgyrch y Blaid yn llawer mwy gweladwy.  Mae hefyd yn ymgyrch llawer mwy proffesiynol nag un y pleidiau eraill.

Mae Hywel Williams hefyd wedi cael llawer mwy o gyfle i sefydlu ei hun ym Mangor a Dyffryn Ogwen.  Mae'n wir bod 90% a mwy o'r sylw cyfryngol yn cael ei roi i'r pleidiau Prydeinig - ond mae hynny'n llai nag arfer.  Mae Leanne Wood wedi cael sylw yn sgil perfformio'n dda yn y dadleuon, ac mae'r ffaith bod gwleidyddiaeth yr Alban yn dominyddu'r naratif Prydeinig hefyd o gryn gymorth.

Ydi hyn yn golygu bod y sedd yn ddiogel i'r Blaid?  Nag ydi - mae yna gryn dipyn o waith i'w wneud o hyd.  Ond mae gan y Blaid pob rheswm i fod yn obeithiol y bydd y sedd yn cael ei dal - ac hynny o bosibl yn haws na mae nifer yn darogan.

Cefnogaeth i ymgyrch Hywel Williams o'r tu hwnt i Gymru


Sunday, April 19, 2015

Delwedd etholiadol y diwrnod - Tyllgoed, Gorllewin Caerdydd

Llafurwatch 1012

Esiampl dda o gymryd yr etholwyr yn ganiataol a'r synnwyr o entitlement sydd mor greiddiol i ddiwylliant Llafur yng Nghymru.

Llafurwatch 1011

Y slogan lleiaf addas bosibl ar ddrws Transport House, Caerdydd - Vote for change and hope.  Rydym wedi bod yn pleidleisio i Lafur ym mhob etholiad am bron i ganrif, ac rydym yn parhau i fod gyda'r ardaloedd tlotaf yng Ngorllewin Ewrop.

Saturday, April 18, 2015

Llafurwatch 1010

Unrhyw un wedi sylwi bod Albert Owen yn anodweddiadol o flin ar ei gyfri trydar @AlbertOwen?  Ga i awgrymu eglurhad posibl.


Llafur Watch 1009

Tybed os ydi hi'n bryd i Albert ac Alun gael sgwrs bach i bwrpas canu o'r un llyfr emynau ynglyn a'u hagwedd at y Blaid Werdd a phleidleiswyr gwyrdd?


Mr Parker, Mr Thomas a Ms Hopkins

Dwi ddim yn un am gyfyngu ar ryddid pobl i ddweud yr hyn maent eisiau ei ddweud, ond mae hyn yn mynd braidd yn bell, ac mae'n cael ei gyhoeddi mewn papur dyddiol sydd a chylchrediad ymysg yr uchaf ym Mhrydain.


Ymysg myfyrdodau ymfflamychol dwys Ms Hopkins ceir y frawddeg yma.

Make no mistake, these migrants are like cockroaches. They might look a bit “Bob Geldof’s Ethiopia circa 1984”, but they are built to survive a nuclear bomb. They are survivors.  

Cymharwch hyn a'r sylwadau ynglyn a barn wleidyddol lleiafrif o fewnfudwyr o Loegr i Gymru a wnaeth gan Mike Parker amser maith yn ol, a sylwadau Huw Thomas ynglyn a baneri Lloegr ar geir ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach.  Achosodd y ddwy hen stori yma storm gyfryngol.  Ond mae amrywiaethau ar y naratif uchod yn ymddangos yn rheolaidd yn y cyfryngau - fel arfer heb unrhyw sylw cyfryngol o gwbl.

Dwi'n meddwl bod yr hyn sydd y tu ol i'r safonau deublyg yma yn eithaf hawdd i'w arenwi - yn y Brydain gyfoes mi gewch chi gyhoeddi'r hyn rydych eisiau ei gyhoeddi am rhai grwpiau torfol o bobl, ond mae'r awgrym lleiaf o feirniadaeth o grwpiau eraill yn esgor ar hysteria cyfryngol.  

Dydi hyn ddim yn sefyllfa iach.



Friday, April 17, 2015

Llafur Watch 1008

Albert Owen yn sarhau pleidleiswyr Plaid Cymru  trwy awgrymu nad ydynt yn soffistigedig.  Adlewyrchiad o 'r snobydyddiaeth sy'n nodweddu gwleidyddion Llafur yng Nghymru.


Ta waeth - cwpl o luniau o Lafurwyr soffistigedig Ynys Mon i'ch diddanu.


                                        Cinio Blynyddol Plaid Lafur Ynys Mon


                                 Criw Llafur Caergybi ar ol bod allan yn canfasio






Polau diweddaraf Ashcroft o'r Alban

Maent yn awgrymu perfformiad cryfach i'r SNP na gafwyd mewn polau blaenorol gyda chwymp trychinebus yng nghefnogaeth Llafur yn arbennig.  O'u gwireddu byddai Llafur yn colli bron i pob sedd yn yr Alban.

Cliciwch ar y ddelwedd i'w gweld yn glir.


Thursday, April 16, 2015

Delwedd y ddadl

Wel, mi ddaeth y ddelwedd fwyaf cofiadwy wedi i'r ddadl ddod i ben.


A'r ail ddelwedd.  



Wednesday, April 15, 2015

Dwy wythnos a dwy stori yn y Cambrian News

Diolch i Cneifiwr am luniau o Cambrian News wythnos yma ac wythnos diwethaf.

Fel y gwelwch roedd ffrwyth dychymyg y Cambrian News yr wythnos diwethaf yn cael tudalen flaen gyfan iddi hi ei hun - penderfyniad a allai yn hawdd gael y papur o flaen llys barn.

Yr wythnos yma mae stori sydd yn gysylltiedig a'r un gyntaf - sy'n dangos rhagrith ar raddfa arwrol gan ymgeisydd yng Ngheredigion -sydd heb unrhyw amheuaeth o gwbl ynglyn a'i chywirdeb - sydd yn ymwneud a sylwadau a allai'n hawdd fod yn groes i'r gyfraith.  Mae honno'n cael ei chladdu'n dwfn yn y papur gyda phenawd sy'n gydymdeimladol tuag at yr ymgeisydd. Mae'r stori dudalen flaen yn rhywbeth i'w wneud efo Castell Aberteifi.

Roedd y stori gyntaf yn ymwneud ag aelod o Blaid Cymru, roedd yr ail yn ymwneud ag aelod o'r Blaid Lafur a dyna sydd y tu ol i'r gwahaniaeth yn yr ymdriniaeth.  





Llafur Watch 1007

Alun Pugh yn dangos unwaith eto ei fod yn cymryd rhan mewn etholiad arlywyddol - ac yn anghofio mai ei blaid o oedd yn gyfrifol am gyflwyno ffioedd prifysgol.


O wel - dyna un peth i'w wneud efo pamffledi Llafur.

Stori yma


Y stori go iawn o Aberconwy

Ddylai'r ffrae fewnol ymysg Ceidwadwyr Aberconwy ddim synnu neb.  Dydi'r blaid yn Aberconwy ddim yn ddieithr i ffraeo, dydi'r ymgeisydd seneddol yn sicr ddim yn ddieithr i ffraeo, ac mae dynesiad etholiad cyffredinol yn tueddu i ddod a thensiynau mewnol mewn pleidiau i'r wyneb.

Ni ddylai themau'r ffraeo fod yn syndod mawr chwaith - maent yn themau lled gyfarwydd beth bynnag - y ffraeo mewnol tros yr haf ynglyn a'r blog The Thoughts of Oscar, perthynas anesmwyth rhwng yr aelod seneddol a'r aelod cynulliad, a barn rhai Ceidwadwyr y dylai eu haelod fyw yn yr etholaeth.  



Yr hyn sy'n fwy dadlennol serch hynny ydi'r ffaith ei bod yn ymddangos bod Lynton Crosby - gwrw etholiadol drudfawr y Toriaid - yn awgrymu bod Ceidwadwyr mewn seddi ymylol yn gwneud y mwyaf ohonyn nhw eu hunain, ac yn gwneud y lleiaf o'r ffaith eu bod yn Doriaid.  

Mae hyd yn oed y Toriaid yn ystyried y brand Toriaidd yn wenwynig.

Ydych chi eisiau poster?

Mae'r Blaid yn Arfon wedi dosbarthu llawer mwy o bosteri gardd nag arfer ar gyfer yr etholiad yma - a bu'n rhaid archebu mwy.  Os oes yna rhywun eisiau un, gadewch i mi wybod trwy fy e bostio ar blogmenai@gmail.com


Tuesday, April 14, 2015

Llafur Watch 1006

O diar, ymddengys bod Llafur Cymru yn credu ei bod yn gywilyddus bod pleidiau eraill yn cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd ac yn ennill etholiadau.