Monday, April 18, 2016

Coeden Bres Hud y Toriaid

  • Felly yn ol maniffesto'r Toriaid o gael eu hethol byddant yn sicrhau nad ydi  treth y cyngor yn cynyddu, torri treth incwm, pwmpio pres i mewn i'r rhwydwaith ffonau symudol, talu am ofal preswyl, gofal plant, gwario mwy ar addysg, gwario ar yr M4 a pheidio a thorri gwariant ar y Gwasanaeth Iechyd. 


Felly - yn anhygoel - mae'r Toriaid eisiau cynyddu gwariant a thorri trethi ar yr un pryd. I blaid sydd yn hoffi honni ei bod o gwmpas ei phethau mewn materion economaidd - mae'r ymdrech yma yn gryn sarhad i ddeallusrwydd yr etholwyr.  

Tybed yn lle maen nhw'n bwriadu planu'r Goeden Bres Hud?  

3 comments:

Anonymous said...

Mae hi yn debyg iawn i goeden ffug Plaid Cymru!!

Cai Larsen said...

Ym, na. Mae maniffesto'r Blaid wedi ei chostio'n llawn - ac yn annibynnol.

Fyddan nhw methu bod yn fwy gwahanol.

Unknown said...

Siôn yn brysur 7.52
😉