Showing posts with label BBC. Show all posts
Showing posts with label BBC. Show all posts

Sunday, October 07, 2012

Sgandal ar ol sgandal ar ol sgandal

Mae'n beth rhyfedd, ond mae llawer o'r sefydliadau hynny oedd yn cael eu hystyried yn  elfennau digyfnewid o fywyd ugain mlynedd yn ol, bellach yn ffocws rheolaidd i rhyw sgandal neu'i gilydd.  Roedd y rhan fwyaf o'r sefydliadau hynny y tu hwnt i feirniadaeth tan yn ddiweddar hefyd.

Dyna i chi'r Bib i ddechrau - mae'r gorfforaeth wedi bod o dan sylw yn ddiweddar oherwydd i filoedd lawer o'r sawl sy'n gweithio iddi dalu treth ar gyfradd is na'r gweddill ohonom trwy smalio mai cwmniau yn hytrach nag unigolion ydynt, ac oherwydd y sefyllfa hynod anffodus parthed Jimmy Savile.  Gallai goblygiadau'r ail stori fod yn hynod bell gyrhaeddol.

Ac wedyn cafwyd sefydliad hoffus arall - News International - yn cael ei hun mewn trafferth go sylweddol oherwydd i rai o bapurau newydd y cwmni fynd ati i hacio ffonau symudol cannoedd o bobl - gweithred sy'n gwbl anghyfreithlon.  Mae'r sgandal yma yn ei dro wedi taflu goleuni ar sefydliad arall - yr heddlu.  Ymddengys bod News of the World wedi bod yn talu i aelodau'r heddlu am wybodaeth cyfrinachol - rhywbeth arall sy'n anghyfreithlon.

Mae sgandalau sy'n ymwneud efo ein hannwyl fanciau rif y gwlith wrth gwrs, a dydan ni ddim yn gorfod mynd yn ol yn rhy bell i ddod ar draws y sefyllfa ryfeddol lle'r oedd aelodau seneddol wedi creu system dreuliau oedd yn caniatau iddyn nhw eu hunain hawlio symiau rhyfeddol o bres gan y trethdalwr heb orfod datgan unrhyw fanylion i'r dywydiedig drethdalwr.  Er wedi dweud hynny pe byddem yn mynd ati i fynd ar ol sgandalau seneddol byddwn wrthi am gryn gyfnod - mae yna fwy na hanner cant wedi bod yn ystod fy mywyd i.

Mae sgandalau brenhinol yn gyffredin hefyd - ac mae'r un bresenol ynglyn a Savile yn cyffwrdd a'r teulu hwnnw hefyd  - ond dydi'r rheiny ddim hyd yn oed yn niweidio delwedd y teulu brenhinol bellach - wnaeth yna neb hyd yn oed meddwl dwywaith pan gafodd Charles godiad cyflog o 11% yn ddiweddar - er bod pawb arall sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus wedi cael eu cyflogau wedi eu rhewi ers blynyddoedd.

Y llinyn sy'n cysylltu'r holl sgandalau ydi eu bod yn ymwneud a sefydliadau ag iddynt ddiwylliant o hunan bwysigrwydd, lefelau isel o atebolrwydd ac ethos o gyfrinachedd a diffyg atebolrwydd.  Y rheswm eu bod nhw i gyd yn cael eu taro gan sgandalau fwy neu lai yr un pryd ydi oherwydd bod disgwyliadau'r cyhoedd wedi newid - mae pobl yn parchu sefydliadau llai bellach ac yn disgwyl tryloywder, atebolrwydd a pharch at y gyfraith ganddynt.

Does dim rhaid dweud bod hyn yn rhywbeth cwbl gadarnhaol.

Tuesday, October 02, 2012

Beth mae helynt y diweddar Jimmy Savile yn ei ddweud wrthym

Yn bersonol dydi'r honiadau ynglyn a chamdriniaeth rhywiol gan Jimmy Savile ddim o llawer o ddiddordeb i mi.  Ond serch hynny mae'r stori yn codi cwestiynau sydd yn ddigon diddorol a pherthnasol.



Yn gyntaf dyna  ni'r Bib.  Os ydi'r straeon sydd o gwmpas yn y Daily Mail ac ati yn wir mae'n debyg bod aelodau o staff cynhyrchu y BBC wedi bod a lle i amau ers blynyddoedd lawer bod drwg yn y caws - ond nad oedd dim wedi ei wneud ynglyn a hynny.  Mae dau reswm posibl am hyn - naill ai bod diwylliant mewn rhannau o'r gorfforaeth yn un nad oedd yn hyrwyddo canu cloch ar gam ymddygiad selebs - neu bod rheolwyr y Bib yn gyndyn i weithredu mewn modd fyddai'n cael un o'r cyfryw  selebs o flaen llys barn.  Mae'r penderfyniad diweddar i ollwng y stori - er bod tim Newsnight wedi dechrau gweithio arni, hefyd yn awgrymu bod tim rheoli presenol y Bib yn bryderus ynglyn a lle y gallai'r stori arwain.

Yn ail mae'n ymddangos i'r heddlu holi Savile bum mlynedd yn ol ynglyn ag un o'r honiadau - ond i'r DPP benderfynu peidio a chynnal achos oherwyddc diffyg tystiolaeth.  Ond .mae ychydig o grafu o gwmpas gan ITV a'r Daily Mail  wedi dod a phob math o dystiolaeth i'r amlwg mewn dim amser o gwbl.  Dydi hi ddim yn swnio fel petai ymdrech fawr wedi ei gwneud i ddod o hyd i dystiolaeth.  Tybed os byddai mwy o ymdrech wedi ei gwneud petai'r sawl oedd yng nghanol yr helynt gyda phroffeil is na Savile.

Ac yn drydydd, os ydi rhai o'r straeon sydd o gwmpas yn wir mae lle i feddwl bod Savile wedi gwneud defnydd o'r ffaith ei fod yn hyrwyddo gwahanol elysennau i sicrhau nad oedd y papurau newydd yn cyhoeddi rhai o'r straeon oedd yn gwneud y rownds amdano.  Mae yna hen hanes o bobl adnabyddus yn hyrwyddo achosion da er mwyn hyrwyddo eu budd eu hunain. 

Tuesday, September 18, 2012

Cof gwallus y Bib

Mae'r Bib (Newyddion 6) newydd ddweud wrthym mai'r llofruddiaethau ym Maenceinion heddiw ydi'r tro cyntaf i ddwy blismones gael eu lladd ar yr un pryd yn 'unrhyw le yn y DU'. Dydi hynny ddim yn wir - lladdwyd dwy blismones - Ivy Kelly a Rosemary McGookin - ynghyd a saith o heddweision gwrywaidd ar Chwefror 28, 1985 mewn ymysodiad ar orsaf heddlu Newry gan un o unedau'r IRA o Dde Armagh.

Rwan mae'r ffaith nad ydi'r BBC yn cyfri'r ddwy Wyddeles yn adrodd cyfrolau am agweddau gwaelodol y Gorfforaeth. Trwy gydol y rhyfel yng Ngogledd Iwerddon roedd y Bib yn cael ei ddefnyddio yn feunyddiol i'n hargyhoeddi mai problem droseddol ac nid un wleidyddol oedd un Gogledd Iwerddon, ac o ganlyniad mai plismona effeithiol oedd un o'r prif atebion.

Rwan roedd yn weddol amlwg nad oedd yr hyn roedd y Bib yn ei honni yn dal dwr. Roedd y gwasanaeth heddlu yn anferth, yn llwyr Brotestanaidd i bob pwrpas ac yn aml wedi ei barafilwreiddio. Roedd hyfyd yn llwyr ddibynol ar gefnogaeth milwrol - milwyr, gwasanaethau cudd wybodaeth, hofrenyddion, tyrau gwylio, cerbydau arfog ac ati ac ati. Ar un adeg roedd yna 50,000 o aelodau lluoedd diogelwch yn ceisio cadw trefn ar y lle. Roedd y system droseddol yn llwyr ddibynol ar gyfreithiau 'arbennig' i ganiatau iddo weithio - llysoedd di reithgor, carcharu heb achosion llys, hawliau i'r heddlu nad oedd ar gael yn yr unman arall, talu am dystiolaeth celwyddog ac ati.

Yn y diwedd - wedi chwarter canrif - cafwyd datrysiad i'r broblem - Cytundeb Dydd Gwener y Groglith - datrysiad gwleidyddol i broblem wleidyddol. Roedd propoganda di ddiwedd y BBC - propoganda oedd yn troi problem oedd yn ei hanfod yn un wleidyddol yn un droseddol - yn un o'r rhesymau pam aeth y sefyllfa rhagddi cyhyd.

Ond rwan bod problem Gogledd Iwerddon yn diflannu i'r gorffennol mae'r Bib wedi anghofio am yr heddlu a laddwyd yno. Roedd Ivy Kelly a Rosemary McGookin yn ddwy blismones oedd yn cyflawni swyddi milwrol. Ar wahan i ddangos amharch digon anymunol mae'r ffaith nad ydi'r Bib yn gwybod dim oll amdanynt yn awgrymu nad ydi'r Gorfforaeth yn credu ei phropoganda ei hun.

Wednesday, August 08, 2012

Llongyfarchiadau i'r BBC!

'Dydi teitl y blogiad yma ddim yn un yr ydych yn debygol iawn o'i weld yn aml ar Flogmenai. Serch hynny mae yna ambell i raglen ar y Bib (y fersiwn Brydeinig wrth reswm, nid yr un Gymreig) sy'n fodlon nofio yn erbyn y lli.

Dyna'n union wnaeth Newsnight neithiwr gydag eitem drylwyr oedd yn ystyried yn union pa mor gynhwysol ydi Gemau Olympaidd Llundain.

Gallwch weld y rhaglen yma. edrychwch arni os cewch chi'r amser.

Monday, August 06, 2012

'Llwyddiant' Cymreig y Gemau Olympaidd

Mae'n ddiddorol mai Cymru ydi'r wlad sydd wedi cyfranu leiaf i lwyddiant TeamGB yn y Gemau Olympaidd yn ol dadansoddiad y Guardian - 2% o'r medalau o gymharu a 5% o'r boblogaeth. Mae cyfraniad yr Alban a hyd yn oed Gogledd Iwerddon yn sylweddol well. Nid bod neb yn debygol o ddod i ddeall hyn o wrando ar y brwdfrydedd mwyfwy hysteraidd sy'n dod o gyfeiriad BBC Cymru a'r cyfryngau Cymreig eraill.

Ar un olwg mae'n anodd arenwi'r rhesymau am y diffyg llwyddiant - wedi'r cwbl mae Cymru'n perfformio'n dda - o gymharu a'i phoblogaeth - mewn nifer o chwaraeon rygbi yn arbennig wrth gwrs, ond hefyd peldroed. Un rheswm tebygol ydi mai cymharol ychydig o blant Cymru sy'n mynychu ysgolion bonedd. Mae cefndir mewn ysgol felly yn rhoi cryn fantais i athletwr. Yn wir yng Ngemau Olympaidd Bejing aeth hanner medalau Prydain i gyn ddigsyblion ysgolion bonedd, er mai dim ond 7% o blant y DU sy'n mynd i ysgolion felly. Mae'r ffigyrau yn is y tro hwn, ond mae plentyn o ysgol bonedd bedair neu bump gwaith mwy tebygol o gael medal na rhywun aeth i ysgol gyffredin. Yn wir eithriad prin ydyw i rhywun o ysgol gyffredin gael medal mewn saethu, rhwyfo neu unrhyw beth i'w wneud efo ceffyl.

Rheswm arall posibl ydi diffyg buddsoddiad - wedi'r cwbl mae Cymru'n wlad dlawd. Dydi all gyfeirio gwariant ar chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru i gyfeiriad Gemau Olympaidd Llundain ddim yn debygol o wella'r sefyllfa yn y tymor canolig na'r hir dymor wrth gwrs.

Wneith realiti'r sefyllfa ddim amharu fymryn ar bropoganda lloerig BBC Cymru a'u tebyg wrth gwrs - mi fyddwn yn clywed ymhell, bell ar ol i'r holl sioe ddod i ben profiad mor gadarnhaol oedd y peth i gyd, cymaint mae Cymru wedi elwa, mor lwcus oeddem i gael ein cysylltu efo'r jambori estynedig, ac ati, ac ati.

Ond y gwir ydi mai'r unig wahaniaeth i Gymru fydd hybu hunaniaeth Brydeinig yn y wlad ar draul hunaniaeth Gymreig. Ac yn y pen draw, cryfder hunaniaeth Brydeinig sydd y tu ol i'n diffyg rheolaeth tros ein bywyd cenedlaethol ein hunain. Y diffyg ymreolaeth hwnnw sydd y tu ol i'n diffyg llwyddiant economaidd, a hynny yn ei dro ydi'r ffactor pwysicaf sydd wrth wraidd ein diffyg llwyddiant yn Llundain 2012.

Saturday, July 14, 2012

Pam nad ydi'r Bib eisiau i ni wybod am ymchwil Beaufort i agweddau tuag at y Gemau Olympaidd?

Mae'n ddiddorol nodi nad ydi BBC Cymru yn trafferthu dweud wrthym ar eu gwefan nad ydi mwyafrif pobl Cymru yn meddwl y bydd Gemau Llundain o unrhyw fudd o gwbl i Gymru. yn ol ymchwil gan Beaufort Research.

Mae hyn er gwaethaf i Golwg360 a Wales Online redeg y stori. Mae gan y wefan Saesneg fodd bynnag straeon bach diddorol am weilch ar Eryri a wiwerod, ac mae gan yr un Gymraeg rhywbeth am gwmni'n anfon eu gweithwyr ar wyliau.

Rhy boenus ar ol eu hymdrechion fwyfwy gorffwyll i heipio'r nonsens i'r entrychion o bosibl.

Thursday, June 21, 2012

Gwilym Owen - rhif 194

Bethan Jenkins ydi targed Gwilym Owen yn ei golofn ryfedd yn Golwg yr wythnos yma - nid am y tro cyntaf.

Mae'n cymryd tua 450 o eiriau i honni i'r Bib beidio a mynd ar ol sylwadau gan Bethan ar Twitter oherwydd i'r Western Mail eu curo i stori oedd yn ymwneud a'r ffaith iddi fethu a mynychu dau gyfarfod tra ar ymweliad a'r Iwerddon yn ddiweddar. Gobeithio nad ydi Golwg yn talu fesul gair.

Wel, mae'n bosibl am wn i bod rhyw fath o bwynt gan Gwilym - ond mae yna eglurhad ychydig yn symlach mi dybiwn. Efallai nad ydi stori am ddiffyg ymddangosiad gwleidydd mewn cyfarfodydd yn stori arbennig o ddiddorol i'r rhan fwyaf o bobl, ac efallai nad yw'n newyddion i neb ond Gwilym bod yna fwlis a phobl slei yn ymwneud a gwleidyddiaeth. Ac efallai, jyst efallai nad ydi pawb yn cytuno ag awgrym Gwilym bod gwleidyddion Cymraeg eu hiaith yn arbennig o addas ar gyfer sylw negyddol gan y cyfryngau.

Tuesday, June 05, 2012

Y Bib yn dangos ei blaenoriaethau arferol

Peidiwch a fy ngham ddeall i rwan - fel rhywun a dreuliodd ddwy awr bron yn y car ddoe yn ceisio mynd o Gaernarfon i Glynllifon i Eisteddfod yr Urdd, a sydd newydd redeg yr un daith i gasglu'r car - 'dwi wedi bod yn diawlio'r trefniadau cymaint a neb tros y diwrnod diwethaf.

Ond tydi o'n ddiddorol bod gwefan Saesneg y Bib yng Nghymru efo llond tudalen flaen o straeon di feirniadaeth - ac yn wir crafllyd - am y jiwbili, ond mae'r unig stori sydd ganddynt ar y dudalen honno am Eisteddfod yr Urdd yn ymwneud yn llwyr a'r anhrefn traffig.

Friday, May 25, 2012

BBC Cymru ar ei waethaf

'Dwi'n gwylio ymdriniaeth Wales Today o daith y ffagl Olympaidd trwy Gaerdydd wrth 'sgwennu hyn. Rwan 'dwi'n derbyn bod llawer o'r sawl sy'n edrych ar y sioe yn mwynhau a 'ballu - iawn, pawb at y peth y bo.

Ond yr hyn sydd yn fy mlino ydi'r ffaith bod yr amrywiaeth barn yng Nghymru a thu hwnt tuag at y gemau yn cael ei anwybyddu'n llwyr. Mae llawer o bobl yn amheus o'r holl sioe - rhai am resymau tebyg i'r rhesymau sydd wedi eu gwyntyllu yn y blog hwn, a rhai am resymau eraill - yn arbennig felly costau uchel y gemau mewn cyfnod o dorri a thocio ym mhob maes arall. Os nad ydych yn fy nghredu, gofynwch i bump neu chwech o bobl am eu barn ar y mater.

Ond 'dydi'r Bib ddim yn caniatau i sill o'r beirniadaethau hynny amharu iot ar eu hapusrwydd ecstatig. Maent yn hyrwyddo un barn gydag arddeliad lloerig, a 'dydyn nhw ddim hyd yn oed yn cydnabod bodolaeth y farn arall. Byddwn yn gweld yr un peth yn union ganddynt pan ddaw'n amser y jiwbili.

Os oes yna unrhyw un am weld gwir bwrpas y BBC yng Nghymru, rhowch y teledu ymlaen ac edrych ar Wales Today.

Monday, April 23, 2012

Y frenhiniaeth, y Bib a'r farn gyhoeddus yng Nghymru

Felly yn ol archwiliad British Future 35% yn unig o bobl Cymru sy'n falch o'r Frenhines - a chymharu ag 80% o Saeson.

Peidiwch a meddwl am eiliad y bydd y Bib yng Nghymru yn cymryd y mymryn lleiaf o sylw o hynny. Mi fyddwn yn cael ein cyflwyno i realaeth amgen y Gorfforaeth yng Nghymru tros y misoedd nesaf, lle byddant yn cymryd arnynt bod yna rhyw frwdfrydedd lloerig yma tuag at pob dim brenhinol efo llwyth o raglenni idiotaidd megis Elizabeth's Wales. yn cael eu stwffio o flaen ein trwynau.

'Does yna ddim byd sy'n datgelu gwir natur a phwrpas y Bib yng Nghymru mwy na'u hymdriniaeth o faterion brenhinol. Mae eu hymdriniaeth o'r sefydliad cyntefig a Phrydeinllyd yma'n afresymegol o grafllyd, di feirniadaeth ac anghynrychioladol o'r farn gyhoeddus yng Nghymru.

Tuesday, February 28, 2012

Y BBC ac ymddiswyddiad Chris Hughes o Lais Gwynedd

Ag ystyried cymaint wnaeth ystafell newyddion y Bib o'r ffaith i Chris Hughes guro Dafydd Iwan yn etholiadau Cyngor Sir Gwynedd yn 2008, mi fyddai rhywun yn rhyw feddwl y byddai ymadawiad Chris a Llais Gwynedd am Blaid Cymru o rhywfaint o ddiddordeb iddynt - yn arbennig cyd mai Chris ydi'r pedwerydd cynghorydd Ll G i ymddiswyddo ers 2008. 

Ond mi fyddai rhywun yn meddwl yn anghywir.  A barnu oddi wrth wefan y Bib a Wales Today 'dydi'r mater o ddim diddordeb o gwbl - a pha ryfedd pan mae yna straeon go iawn fel, yr un am rali'r Ceidwadwyr ddiwedd mis nesaf neu'r un sy'n dweud  rhywbeth neu'i gilydd am ffenestri i son amdanynt.

Friday, January 27, 2012

Wales Today a blaenoriaethau'r Bib

Difyr gweld bod prif long newyddiadurol y Bib, Wales Today wedi cynhyrfu'n lan oherwydd bod gwraig Mitt Romney - sy'n rhywbeth i'w wneud efo gwleidyddiaeth yr US of A - efo rhyw gysylltiad neu'i gilydd efo Maesteg. Doedd y ffaith i un o bleidiau Cymru ychwanegu 1,500 at ei haelodaeth ddim werth ei riportio.

Dweud pob dim sydd angen ei ddweud am natur y Bib yng Nghymru mae gen i ofn.

Wednesday, January 04, 2012

Y Bib a Chynghrair y Trethdalwyr

Felly mae'r Bib yn rhedeg stori arall sydd yn deillio o gyfeiriad Cynghrair y Trethdalwyr - y Taxpayer's Alliance.

Ymddengys bod y Gynghrair o'r farn y byddai'r trethdalwyr 'wedi dychryn' oherwydd i or daliadau Heddlu'r Gogledd gynyddu o £2.7m yn 2010 i £3.6m yn 2011.  Yn bersonol '- fel trethdalwr - dydi'r ffigwr ddim yn peri llawer o ddychryn i mi ag ystyried bod caniatau gor amser yn aml yn ffordd effeithiol o wario arian.

Ond mae'n peri mwy o ddychryn i mi bod y Bib yn adrodd ar wahanol ddatganiadau'r Gynghrair mor ffyddlon a di  feirniadaeth.  Mudiad adain Dde sydd yn hanesyddol efo cysylltiadau agos a'r Blaid Doriaidd, ac yn arbennig adain Dde y blaid honno.  

Mae gan pob un o sylfaenwyr y mudiad gysylltiadau efo'r Toriaid, ac mae'r rhan fwyaf o'u noddwyr hefyd yn ariannu'r Toriaid.   Mae eu bwrdd cynghori yn llawn pobl sy'n cael eu cysylltu efo syniadaethau'r Dde - Eamonn Butler, Madsen Pirie o'r Adam Smith Institute, yr acamedyddion adain Dde, Patrick Minford a Kenneth Minogue, a chyn arweinydd policy yr Institute of Directors, Ruth Lea. Mae'r corff hefyd o blaid y dreth fflat - gosod yr un gyfradd treth ar bawb - y cyfoethog a'r tlawd fel ei gilydd.

Mae dyn yn rhyw ddisgwyl defnydd an feirniadol o rwdlan y gynghrair gan yr Express, ond Duw a wyr pam bod y Bib yn gwneud hynny - y Gorfforaeth ydi un o hoff dargedau'r Gynghrair.

Thursday, December 29, 2011

Hywel Williams, y BBC a Capita

'Dwi ddim yn siwr os y dylai Hywel Williams ryfeddu na all neb - ac yn arbennig felly y BBC - ddweud faint o'r pres mae'r gorfforaeth yn ei godi yn flynyddol sy'n dod o'r drwydded deledu.

Mae'n wir bod y Bib yn talu £123.6 miliwn pob blwyddyn i  hel y ffi gorfodol, ond yn anffodus mae llawer o'r arian hwnnw  yn mynd i  goffrau Capita Group - neu Crapita Group - busnes sydd yn enwog am gael  dwsinau o gontractau gan y sector cyhoeddus a gwneud smonach llwyr o'u gweithredu.  Mae'r corff yma sydd a throsiant o tua £2.7 biliwn yn delio efo tua £3.3 biliwn o arian cyhoeddus i gyd.  Cyd ddigwyddiad llwyr wrth gwrs ydi'r ffaith bod Capita a pherthynas glos iawn efo llywodraeth Lafur Tony Blair, a hanes o roi benthyciadau anferth i'r blaid ar gyfraddau llog gostyngol, yn ogystal a phwmpio £4 miliwn i mewn i raglen academiau dinesig Blair.

Mae'r gyfundrefn addysg yn gyfarwydd iawn efo 'gwasanaethau' Capita.  Nhw oedd yn gyfrifol am roi gwyliau estynedig i ddegau o filoedd o blant trwy fethu a delio efo ceisiadau CRB yn ol yn 2002, eu system atal triwantiaeth nhw oedd yn gyfrifol am anfon llythyr at rieni hogan oedd wedi marw yn  bygwth  na chai fynd i'r prom blynyddol oni bai ei bod yn mynychu'r ysgol yn amlach,   nhw wnaeth 'uwchraddio' eu system Simms mewn modd oedd yn ei gwneud yn amhosibl i ysgolion adfer data roeddynt yn statudol gyfrifol am ei gyflwyno i'r llywodraeth  i enwi dim ond llond dwrn o'r llu o gamgymeriadau maent wedi bod yn gyfrifol amdanynt.  Gwnaeth eu  bos  - Paul Pindar gryn argraff yn y cyfryngau yn ddiweddar pan gafodd strop cyhoeddus ar ol cael ei alw'n fat cat ac yntau 'ond' yn ennill £14k yr wythnos.



'Dydi o ddim syndod o gwbl bod gan Capita enw drwg am  anfon llythyrau'n mynnu taliadau at bobl sydd eisoes wedi talu ac i dai nad oes ganddynt deledu, a 'dydi o ddim syndod chwaith nad oes ganddyn nhw syniad faint o bres maent yn ei hel yng Nghymru.

Perswadio llywodraethau a chyrff eraill i roi contractau iddynt ydi arbenigedd Capita - nid gweinyddu'r contractau hynny mewn modd effeithiol.

Monday, December 19, 2011

Huw Edwards a marwolaeth Kim Jong yr Ail

Mae'n anodd gwybod pa gysur y gellir ei gymryd o'r newyddion  brawychus am farwolaeth anisgwyl arweinydd Gogledd Korea, Kim Jong yr Ail.  Hyd y gallaf farnu yr unig Gymro a all gymryd unrhyw beth cadarnhaol o gwbl o'r digwyddiad dychrynllyd ydi'r darllenwr newyddion enwog,  Huw Edwards.



Ar ol ei lwyddiant rhyfeddol yn ein harwain trwy'r briodas frenhinol yn gynharach eleni, byddai Huw'n  siwr o gael y joban o wneud y datganiad ffurfiol yn ogystal a'n harwain trwy'r cynhebrwng, petai rhywbeth ofnadwy - Duw a'n gwaredo -yn digwydd i'n hannwyl Frenhines.

Y broblem i Huw fyddai'r diffyg model o sut i ymddwyn yn y sefyllfa arbennig yma - wedi'r cwbl  ni fu marwolaeth brenin neu frenhines mewn bron i drigain mlynedd.  Yn ffodus i Huw mae corfforaeth darlledu cenedlaethol Gogledd Korea yn debyg iawn i'r BBC o ran pwrpas, cynnwys  ac yn wir o ran arddull a goslef ei darlledwyr pan maent  yn ymdrin a'r teulu sy'n arwain y wladwriaeth.

Felly mae'r datganiad heddiw gan deledu Gogledd Korea yn berffaith i bwrpas Huw, a 'dwi'n siwr y bydd yn ei astudio'n fanwl gyda'r bwriad o'i efelychu yn weddol agos pan, ac os, y daw'r amser i wneud hynny.  'Dwi'n siwr y bydd y darllediad o gynhebrwng Kim Jong o gryn ddiddordeb proffesiynol iddo hefyd.


Thursday, December 01, 2011

Alex Jones, Clarkson a'r Bib

Felly mae Jeremy Clarkson wedi agor ei geg fawr drachefn - ar y One Show y tro hwn.

Nid y ffaith bod Jeremy eisiau mynd a fi allan a fy saethu o flaen fy nheulu sydd yn fy mhoeni yn benodol - mae ganddo'n anffodus wendidau seicolegol sy'n gwneud iddo gasau pobl a grwpiau o bobl am resymau cwbl afresymegol - felly 'dydw i ddim yn cymryd pethau yn bersonol.



Yn hytrach y BBC sydd yn fy mhoeni (unwaith yn rhagor).  Mae Jeremy Clarkson wedi mynegi ei gasineb at Gymru yn gyffredinol (ceisio rhoi delwedd o'r wlad mewn popty ping ac ati) a thuag at y Gymraeg yn benodol.  Mae Alex Jones yn Gymraes sy'n siarad ac yn defnyddio'r Gymraeg, ac mae gan unrhyw gyflogwr ddyletswydd gofalaeth tuag at y sawl sy'n gweithio iddo.  Ymddengys i mi ei bod yn afresymol gofyn iddi holi dyn sydd yn ei chasau oherwydd ei hiaith a'i chenedligrwydd.  Go brin bod y profiad yn un pleserus iddi hi.

Petai Alex yn ddu, a fyddai disgwyl iddi holi aelod o'r klu klux klan?  Mae yna rhywbeth yn dweud wrthyf mai negyddol ydi'r ateb i'r cwestiwn hwnnw.

Tuesday, November 08, 2011

Parti ymddeol Gwilym Owen

'Rwan peidiwch a fy ngham ddeall, 'dydi'r ffaith i Gwilym Owen gael tipyn o barti - neu rhyw ddigwyddiad arall a arweiniodd at werth £719.25 o fwyta ac yfed - cyn gadael y Bib yn poeni dim arna i.  Dim, dim oll.  Zilch.

'Dydi o ddim yn poeni rhyw lawer arnaf fy mod wedi cyfrannu'n anuniongyrchol at y digwyddiad gan i Keith Jones - pennaeth y Bib yng Nghymru ar y pryd - roi'r £719.25 ar ei ffurflen dreuliau.



Ond mi fyddwn, serch hynny yn  hoffi tynnu sylw at y ffaith bod partion ymddeoliad yn digwydd yn weddol gyson ar hyd a lled Cymru, a'r drefn arferol ydi i'r sawl sy'n mynychu dalu am ei fwyd a'i ddiod ei hun, yn hytrach na disgwyl i bobl eraill dalu am y dywydedig fwyd a diod.  Yr unig eithriad i hyn  ydi bod y sawl sy'n mynychu yn talu rhyngddynt am fwyd a diod y sawl sy'n ymddeol fel arfer.

Mewn amserau caled efallai y gallai uchel swyddogion y Bib ystyried talu am eu bwyd a'u diod eu hunain - wedi'r cwbl nid bychan ydi eu cyflog - fel y gellir weld yma.



Monday, November 07, 2011

Mi gewch chi gadw eich blydi ffagl _ _ _

Roedd yna rhywbeth hynod ragweladwy am ymdriniaeth y Post Prynhawn o'r newyddion y bydd y ffagl Olympaidd yn ymweld ag amrywiol lefydd yng Nghymru.  Roedd y Post wedi cynhyrfu'n llwyr, a chafwyd rhesiad o bobl oedd hefyd wedi cynhyrfu'n llwyr yn mynegi eu llawenydd a'u gorfoledd oherwydd bod y ffagl am ymweld a rhywbeth neu'i gilydd sy'n ymwneud a nhw.



Mi fyddai'n gwbl estron i ddiwylliant mewnol y Bib yng Nghymru  i ddifetha newyddion  mor fendigedig trwy dynnu sylw at y ffaith mai 0.01% o'r busnes a ddaeth yn sgil y gemau a wnaeth ei ffordd i Gymru, ac mai ychydig iawn o gystadlu ddaw ar gyfyl y wlad - er ein bod yn cael y fraint a'r anrhydedd o gyfrannu'n hael at y sbloets.  Mae Blogmenai wedi edrych ar hyn oll yma.

Ond efallai y byddai rhywun wedi disgwyl rhyw air bach o gyfeiriad at anhegwch yr holl beth - er mwyn cydbwysedd a 'ballu.  Ond na - dim sill o feirniadaeth i dramgwyddo ar y llifeiriant ecstatig.

Wedi'r cwbl byddai'n hynod aniolchgar cwyno am £400m o arian sydd wedi ei golli i Gymru pan rydym yn cael y ffagl am ychydig ddyddiau.




Wednesday, July 27, 2011

Beth ddigwyddodd i hwb economaidd y briodas frenhinol?

Ydych chi'n cofio'r holl les oedd y briodas frenhinol i fod i'w wneud i'r economi?

Yn wir yn ol y Bib, pan oedd y corff hwnnw yn dechrau gweithio ei hun  i gyflwr o frwdfrydedd  hysteraidd, roedd y digwyddiad am gyflawni gwyrthiau economaidd - byddai'n hwb i'r sectorau gwerthiant, darlledu a twristiaeth.  Yn wir roedd yr ymdeimlad o hapusrwydd cyffredinol a fyddai'n deillio o'r briodas yn debygol o hybu gwario ar hyd a lled yr  economi. 


Ond mis Tachwedd oedd hynny, a rwan ydi rwan.  Erbyn hyn mae'r Bib yn adrodd bod prif economegydd yr ONS, Joe Grice yn beio'r briodas frenhinol am berfformiad trychinebus yr economi yn ystod y chwarter diwethaf.  A dyfynnu'r adroddiad yn llawn:

Growth in the UK economy slowed in the three months to 30 June.
Gross Domestic Product (GDP) grew by 0.2% in the second quarter, according to the Office for National Statistics (ONS).
Joe Grice is the chief economist at the ONS and he blamed the result on April's Royal Wedding

Dim gair o ymddiheuriad gan y Bib am gynhyrchu adroddiadau naif ac anfeirniadol pan roeddynt yn ceisio 'gwerthu' eu sioe fawr cofiwch. 

Sunday, June 19, 2011

Peidiwch ag anghofio am y ceffylau!

Roedd yn ddiddorol deall gan y Sunday Times heddiw bod y frenhines yn poeni'n fawr am y cyswllt rheilffordd cyflym arfaethedig rhwng Birmingham a Llundain. Y broblem ydi y gallai'r cynllun £34bn dorri trwy Stonleigh Park, sy'n rhywbeth neu'i gilydd i wneud efo ceffylau. Mae'r frenhines yn hoffi ceffylau ac mae'n berchen ar lawer ohonynt, a dydi hi ddim eisiau i'r trenau ddychryn y creaduriaid. Ymddengys bod ei hail fab, Andrew wedi codi'r mater mewn cyfarfod efo swyddogion o'r trysorlys yn gynharach eleni. 'Doedd yna neb yn y cyfarfod hwnnw i siarad ar ran y canoedd o filoedd o bobl nad ydynt yn berchnogion ceffylau, ond a fyddai'n elwa'n fawr petai'r cyswllt trenau yn cael ei uwchraddio.

Rwan mae'n greiddiol i unrhyw drefn ddemocrataidd lwyddiannus bod llywodraethu yn digwydd mewn modd sydd o fudd i'r boblogaeth yn gyffredinol yn hytrach nag er budd unigolion, neu grwpiau o unigolion. Yr egwyddor yma sydd y tu cefn i'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth mewn gwirionedd - mae'r ddeddf yn rhoi cyfle i ddinasyddion sicrhau bod y llywodraeth yn llywodraethu mewn modd priodol - ac nad ydyw yn llywodraethu er budd rhyw elit hunan etholedig neu'i gilydd.

Yn anffodus 'dydi'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ddim yn berthnasol i'r teulu brenhinol - felly mae'n amhosibl ei defnyddio er mwyn darganfod i ba raddau y mae'r teulu hwnnw yn defnyddio ei gysylltiadau gwleidyddol er ei fudd ei hun.

Mae lle i gredu bod cryn dipyn o lobio a dylanwadu yn digwydd gan ac ar ran y teulu. Mi fyddwn o bryd i'w gilydd - fel mae stori'r Sunday Times heddiw yn ei brofi - yn cael cip ar y lobio brenhinol. Ond ar hap mae hynny'n digwydd - fel rheol o ganlyniad i ymholiadau newyddiadurol, neu rhywun yn datgelu gwybodaeth i'r wasg neu i Wikileaks. 'Dydi'r darlun yr ydym yn cael cip arno ddim yn un hyfryd.

Er enghraifft mae sawl stori wedi ymddangos am Andrew yn ddiweddar, a'r defnydd mae wedi ei wneud o'i rol lled swyddogol yn hybu busnes Prydeinig – ei gyfeillgarwch efo troseddwr rhyw cyfoethog o’r enw Jeffrey Epstein, defnyddio taith swyddogol i geisio dod o hyd i brynwr i’w dy, mynd ar wyliau efo smyglwr arfau o Libya, gwledda ym Mhalas Buckingham efo aelod o weinyddiaeth unbeniaethol Tunisia, gadael i Timor Kulibayev, mab yng nghyfraith arlywydd Kazakhstan brynu ei dy am £3m mwy na’i werth ar y farchnad, taranu yn erbyn ymchwiliadau gwrth lygredd gan y llywodraeth ac ati.

Mae gan frawd Andrew, Charles amrywiaeth o gredoau rhyfedd, ac rydym yn gwybod ei fod yn gwneud cryn ddefnydd o'i gysylltiadau er mwyn hyrwyddo'r rheiny. Er enghraifft am rhyw reswm neu'i gilydd mae'n grediniol y dylid codi adeiladau modern yn unol ag arddulliau pensaerniol cyfnodau eraill. Mae hefyd o'r farn y dylid trin cancr gydag enemas coffi, a bydd yn sgwrsio efo'i nionod.

Rwan, mae gan pawb yr hawl i gredu pethau rhyfedd, ond nid pawb sydd mewn sefyllfa i hybu'r credoau hynny y tu allan i'r trefniadau arferol - mae Charles mewn sefyllfa felly, ac mae'n gwneud defnydd mynych o'i amgylchiadau a'i statws. Y stori fwyaf diweddar am ei ymyryd ydi'r un lle aeth ati i ddwyn perswad ar deulu brenhinol Qatar i beidio ag anrhydeddu cytundeb £34bn gyda CPC Group i ddatblygu safle yn Chelsea, oherwydd nad oedd yn or hoff o gynlluniau ei hen elyn Richard Rogers ar gyfer y datblygiad. Costiodd yr holl fusnes £81m i deulu brenhinol Qatar mewn iawndal i CPC.

Ac mae'r frenhines hithau yn ei thro yn 'boenus' ynglyn ag annibyniaeth posibl yr Alban, ac wedi mynnu cyfarfod efo David Cameron i drafod y posibilrwydd. Mae gan y ddynas fuddiant personol yn y mater - mae ganddi gryn dipyn o eiddo yn yr Alban - gan gynnwys 49,000 acer o dir ar ystad Balmoral.

Mae'n debyg mai copa'r mynydd ia (a benthyg idiom Saesneg) yn unig sy'n dod i'r amlwg yn y papurau - a bod statws cyfansoddiadol rhyfedd ac afresymegol y teulu yma yn cael ei ddefnyddio'n ddi drugaredd i hyrwyddo buddianau teuluol.

Yn y cyfamser mae'r BBC ac elfennau o'r wasg wedi treulio cryn dipyn o amser ac ynni tros y misoedd diwethaf yn canu clodydd pobl sy'n gweithredu'n rheolaidd, yn systematig ac yn ddirgel y tu allan i'r strwythurau mae'r rhan fwyaf ohonom yn gaeth iddynt, er mwyn hyrwyddo eu budd eu hunain ar draul rhai y gweddill ohonom.