Wednesday, April 30, 2014

Mwy am bolau piniwn

Dwi'n ymwybodol bod y tri blogiad diwethaf yn ymwneud a polio, a dwi hefyd yn ymwybodol nad ydi'r math yna o beth at ddant pawb.  Serch hynny dwi am wneud un arall brysiog cyn gadael y pwnc am y tro.  Rhyddhawyd dau bol heddiw sy'n awgrymu y bydd y Toriaid yn 18% o'r bleidlais tros y DU yn etholiad Ewrop fis nesaf.  Yn 2009 roedd pleidlais y Toriaid 6.5% yn is yng Nghymru nag oedd tros y DU.  Petai'r tan berfformiad Cymreig yn cael ei ailadrodd (ac mae'n debygol y bydd hynny'n digwydd) yna byddai'r blaid yn cael 11.5% yng Nghymru.  O dan yr amgylchiadau sydd ohonynt mae'n  amheus y byddai hynny'n ddigon i gael sedd.

Petawn yn cymryd bod perfformiadau cymharol UKIP a Llafur yn debyg y tro hwn i 2009 - ac yn derbyn bod y polau hyn yn gywir - yna byddai pleidlais UKIP yng Nghymru yn yr amrediad 22.3% - 24.3% ac un Llafur yn 31.6%.  I ennill sedd o dan yr amgylchiadau yma byddai'n rhaid osgoi dod yn bedwerydd a chael oddeutu 12% neu fwy o'r bleidlais.

Dydi natur polau Prydeinig ddim yn caniatau i ni ddod i gasgliadau ystyrlon am berfformiad tebygol Plaid Cymru yn anffodus.  

Tuesday, April 29, 2014

YouGov eto fyth

Wele ymateb yr Athro Roger Scully o o CP Caerdydd i fy mlogiad diweddaraf.  Dwi'n ddiolchgar i Roger am gymryd y drafferth i ymateb mor drylwyr.


Diolch yn fawr iawn am eich diddordeb parhaus yn y gwaith dyn ni'n wneud gyda YouGov. 
Ychydig o sylwadau , fodd bynnag, ar y p么l diweddaraf gwnaethon ni gyda nhw yng Nghymru .
Yn gyntaf, yn gyffredinol mae'n arfer annheg ar fai Cwmni Arolwg (fel YouGov) ar gyfer yr union eiriad cwestiwn arolwg. Fel arfer bydd y geiriad yn adlewyrchu'r hyn y mae'r 'cleient ' yn moyn i ofyn - er y bydd cwmni arolwg yn rhoi cyngor , ac efallai y wrthod os bydd y cleient yn ceisio mynnu ar rywbeth hollol wallgof neu'n sarhaus.
Ail - mae angen i mi dynnu sylw at rhywbeth pwysig ynghylch cyd-destun arolwg hwn. Hyn yn cael ei gynnal fel rhan o brosiect a ariennir gan yr ESRC, sydd yn ymwneud yn bennaf ag agweddau yn Lloegr. Oedden ni'n rhedeg samplau byr (neu lai) ochr yn ochr yng Nghymru a'r Alban , er mwyn darparu rhai pwyntiau o gymharu ag agweddau yn Lloegr. Felly, bron ym mhob achos oedden ni'n rhedeg y geiriad cwestiwn union yr un fath yng Nghymru a'r Alban fel yn Lloegr, er mwyn osgoi problemau gyda gymharu atebion ar draws cwestiynau wahanol yn y tair gwlad. Ac mae llawer o'r cwestiynau, felly, yn cael eu geirio mewn ffordd wahanol o sut y byddem yn eu rhoi os cynnal arolwg a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer Cymru.
Ar y cynrychioldeb y sampl: wrth gwrs, ni fyddech yn disgwyl i gael is-sampl gyfan gwbl berffaith ar gyfer pob sir neu ranbarth. Ond yn gyffredinol, y sampl hwn yn edrych yn ychydig 'ysgafn' ynghylch y rhai a anwyd yng Nghymru. Yn y tymor byr, efallai y bydd angen i ni addasu'r pwysiadau y sampl ar gyfer peth dadansoddi. Byddwn yn trafod samplu a phwysiad gyda YouGov ar 么l yr etholiadau Ewropeaidd - fel rhan y gwaith nhw arferol i ddiweddaru ac addasu eu dulliau samplu a phwysiad. Fodd bynnag, dwi'n credu ei bod yn werth dweud bod ers ddechraeuodd YG gweithio yng Nghymru yn 2009 , maen nhw wedi cael record dda iawn pe gael pethau fel canlyniadau etholiad a refferendwm yn iawn , ac yn sicr nid oes tueddiad cyffredinol i dan - wladwriaeth cefnogi Plaid Cymru .

Sunday, April 27, 2014

Ac yn ol a ni at YouGov

Cyn cychwyn hoffwn wneud pethau yn glir - dwi'n croesawu'r ffaith bod YouGov a Phrifysgol Caerdydd yn cynnal polau piniwn rheolaidd, dwi'n dymuno yn dda i'r ymarferiad ac yn gobeithio y bydd yn parhau ymhell i'r dyfodol, dwi ddim yn bod yn angharedig a dwi'n mawr obeithio y bydd y sylwadau sydd i ddilyn yn cael eu cymryd fel beirniadaeth adeiladol ac nid fel ymysodiad o unrhyw fath.

Mae set data'r pol diweddaraf o fy mlaen - fedra i ddim darparu linc oherwydd nad ydi'r dudalen ar y We eto hyd y gwn i.  Bydd rhaid i chi ymddiried ynof bod yr wybodaeth dwi'n ei ddarparu yn adlewyrchu ymarferiad YouGov.  Mae gen i ddwy broblem efo'r hyn rydwyf yn edrych arno - y naill yn ymwneud efo natur rhai o'r cwestiynau a'r llall yn ymwneud a'r fethedoleg edoleg a ddefnyddir.  Fel y cawn weld mae'r ddau beth yn un yn y bon.

Mae rhai o'r cwestiynau yn - wel - rhyfedd i bol Cymreig.  Er enghraifft mae'r holiadur yn rhoi cyfle i ddynodi oddi ar pa sianel deledu mae pobl yn derbyn eu newyddion am wleidyddiaeth gan roi rhestr faith  o sianelau gan gynnwys CNN, More4 a BBC Parliament - ond does yna ddim cyfle i ddynodi S4C.  Mae YouGov eisiau gwybod os ydi'r atebydd yn aelod o'r prif bleidiau Prydeinig, ond does dim cyfle i ddynodi aelodaeth o Blaid Cymru.  Ceir cyfle i ddynodi aelodaeth o Eglwys yr Alban a Siciaeth, ond dim un i fynegi aelodaeth o'r Hen Gorff.  Ceir cwestiwn am ddilysrwydd pasport i fynd i'r Alban ond dim byd am bynciau amserol Cymreig megis perfformiad y gwasanaethau addysg a iechyd.  Mae yna gwestiwn am berthynas Prydain efo'r UDA ond dim am agweddau tuag at yr iaith Gymraeg.

Ac mae'r iaith Gymraeg yn dod a ni at y fethedoleg.  Does yna ddim tystiolaeth yn y set data bod y sampl wedi ei gynllunio i gynnwys y ganran briodol o siaradwyr Cymraeg.  Mae yna berthynas rhwng iaith a thueddiadau pleidleisio yng Nghymru.  Yn fwy difrifol mae yna dystiolaeth gref bod y sampl yn cynnwys gormod - llawer gormod o bobl o gefndir Seisnig - ac mae hynny'n arbennig o wir am y Gogledd a'r Canolbarth / Gorllewin.  63% o'r sawl a holwyd a aned yng Nghymru.  Mae'r Cyfrifiad yn  datgan i 72.7% o bobl Cymru gael eu geni yng Nghymru.  48% o'r sawl a holwyd yn y Canolbarth \ Gorllewin a anwyd yng Nghymru.  Dydi ffigyrau'r cyfrifiad ddim yn caniatau i ni weithio allan faint sydd wedi eu geni yng Nghymru yn ol rhanbarth (wel ddim yn hawdd beth bynnag) ond y sir efo'r lleiaf wedi eu geni yng Nghymru yn y Canolbarth / Gorllewin ydi Powys efo 49.8% a'r un efo'r mwyaf ydi Caerfyrddin efo 76%.

50% o'r sawl a holwyd yn y Gogledd oedd wedi eu geni yng Nghymru.  Y ganran isaf yn y Gogledd ydi 50% Sir y Fflint a'r uchaf ydi 69.2% Wrecsam.  Mae'r pol yn holi am ble y cafodd rhieni'r sawl a gymrodd rhan yn y sampl eu geni - yn ol yr arolwg mae 39% o dadau a 46% o famau pobl y Canolbarth / Gorllewin wedi eu geni yng Nghymru.  Y ffigyrau cyfatebol yn y Gogledd ydi 36% a 43%.  Mae hyn yn awgrymu mai lleiafrif bach - llai na thraean yn ol pob tebyg o drigolion y ddau ranbarth sydd efo'u dau riant wedi eu geni yng Nghymru.  Dydi'r Cyfrifiad ddim yn gofyn i bobl ymhle y cafodd eu rhieni eu geni - ond mae ffigwr YouGov yn hynod anhebygol o fod yn gywir.

Rwan - rydan ni i gyd yn gwybod goblygiadau cam samplo fel hyn - mae yna berthynas rhwng patrymau pleidleisio a lle mae rhywun wedi ei eni yng Nghymru.  Efallai nad ydi hyn yn wir yn Lloegr - lle mae YouGov wedi arfer gweithredu - ond mae'n sicr yn wir yng Nghymru ac mae'r arolwg yma yn cadarnhau hynny.  Rwan fyddai cam samplo fel hyn ddim ffeuen o ots petai YouGov yn pwyso'r data i gymryd hynny i ystyriaeth.  Ond dydi nhw ddim - mae nhw'n pwyso mewn perthynas a dosbarth cymdeithasol oed, rhyw a rhanbarth ond ddim mewn perthynas a'r wlad y ganwyd pobl ynddi.

Ac efallai mai dyna sy'n dod a fy nwy feirniadaeth at ei gilydd - mae rhai o'r cwestiynau yn awgrymu nad ydi YouGov yn gwbl gyfarwydd a rhai agweddau ar ein bywyd cenedlaethol - dydi hynny ddim yn ofnadwy o bwysig i ganlyniad pol piniwn ynddo'i hun - ond pan mae'n amharu ar lunio methodoleg addas i bwrpas mae'n broblem - ac mae hynny'n wir yma.  Mae man geni a iaith yn effeithio ar batrymau pleidleisio.  Dydi hynny ddim yn ymddangos i fod yn gwbl eglur i YouGov.  

Saturday, April 26, 2014

Etholiadau Ewrop yng Ngweriniaeth Iwerddon


Mi fydd Blogmenai o bryd i'w gilydd yn edrych ar wleidyddiaeth Iwerddon - a chyn ein bod yn dynesu at etholiad Ewrop a chyn bod y polau yn awgrymu newidiadau seismig yn y tirwedd etholiadol yno, waeth i ni gael cip brysiog arall ar bethau.  

Yn ol yn 1984 - ddeg mlynedd ar hugain yn ol roedd gan Gweriniaeth Iwerddon 15 Aelod Ewropiaidd - etholwyd 8 aelod Fianna Fail, 6 aelod Fine Gael ac un ymgeisydd annibynnol.  Roedd pleidiau gwleidyddiaeth y Rhyfel Cartref yn dominyddu gwleidyddiaeth yn llwyr.  Mae'r tudalennau isod o Sunday Independent fory yn awgrymu bod y tirwedd wedi newid yn llwyr.  Os ydi'r ffigyrau yn gywir gallwn ddarogan gyda pheth sicrwydd y bydd 3 o'r 11 aelod yn perthyn i Sinn Fein, y bydd 2 aelod annibynnol, 2 aelod FF, 2 aelod FG a bod y 2 olaf yn ansicr.  Mae'n bosibl mai pedwar aelod yn unig o'r prif bleidiau traddodiadol fydd yn cael eu hethol.  Gallai'r ddwy sedd ddiwethaf yn hawdd fynd i'r Gwyrddion ac ymgeisydd annibynnol.  

Yn ol yn 1984 roedd pleidlais Sinn Fein yn dreuenus o isel - llai na 5% yn y Weriniaeth a thua 13% yng Ngogledd Iwerddon. Nid oeddynt o fewn milltir i sedd.  Os ydi pol y Sunday Independent yn gywir bydd ganddynt dri yn y Weriniaeth y tro hwn - ac mae'r perfformiad yn fwy rhyfeddol ag ystyried bod y tri ymgeisydd efo proffeil isel iawn, yn wir prin bod gan y ddwy wraig  unrhyw brofiad gwleidyddol o gwbl.  Mae'n debyg bod yr ymgeiswyr wedi eu dewis yn benodol oherwydd eu proffeil 'meddal'.  'Dydi proffeil eu hymgeisydd yn y Gogledd yn sicr ddim yn 'feddal' - mae Martina Anderson yn dod o galon yr IRA yn ninas Derry.  Mae ei sedd hi'n gwbl ddiogel.  Mae'n fwy na phosibl - yn wir mae'n debygol - bod fydd gan SF fwy o seddi a mwy o bleidleisiau na neb arall ar draws yr ynys (dydi Fine Gael a Fianna Fail ddim yn sefyll yn y Gogledd wrth gwrs).  

Y wers - os oes gwers i'w chymryd o hyn oll - ydi bod cyfundrefnau sy'n edrych yn gwbl ddigyfnewid yn gallu newid yn llwyr pan fydd amgylchiadau yn newid.  Y gamp ydi bod mewn sefyllfa i elwa o newid sylfaenol pan mae hwnnw'n digwydd.  


Friday, April 25, 2014

Dirgelwch y pleidleisiau Toriaidd coll

Pol Cymreig YouGov sydd gen i o dan sylw heddiw.  Mae'r pol - fel y ddau o'i flaen yn awgrymu y bydd y Blaid yn colli ei sedd Ewrop fis nesaf gan adael y wlad yn cael ei chynrychioli ym Mrussels gan ddau aelod o'r Blaid Lafur, aelod o'r Blaid Geidwadol ac aelod o UKIP.


Dwi wedi edrych ar y ddau bol blaenorol ac wedi mynegi'r farn bod arfer YouGov o beidio a chymryd tebygrwydd i bleidleisio i ystyriaeth wrth ddod i'w canlyniadau yn rhoi lle i amau cywirdeb y canfyddiadau mewn etholiad gyda chyfradd pleidleisio isel.  Mi fydd y gyfradd fydd yn pleidleisio yn isel fis nesaf - llai na thraean yn ol pob tebyg.  Dwi hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith bod y Toriaid wedi cael cyfres o ganlyniadau trychinebus mewn is etholiadau  yng Nghymru. Cafwyd canlyniadau erchyll eraill yn ddiweddar iawn - un yn Sir y Fflint bethefnos yn ol ac un arall yng Nghaerffili neithiwr)

Rwan dydi diystyru polau nad ydych yn eu hoffi byth yn syniad da.  Dwi'n gobeithio nad ydwyf yn gwneud hynny - fi ydi'r cyntaf i gydnabod bod yna berygl gwirioneddol i sedd y Blaid yn Ewrop ac oni bai bod ei chefnogwyr yn sicrhau eu bod yn mynd allan i bleidleisio mewn niferoedd sylweddol gallai'r sedd yn hawdd gael ei cholli, a'r canfyddiad gael ei greu ei bod yn well gan bobl Cymru gael eu cynrychioli yn Ewrop gan UKIP a'r Blaid Doriaidd na chan Blaid Cymru.

Ond dwi'n gofyn y cwestiwn eto - pam y byddai'r Toriaid yn cynhyrchu un canlyniad trychinebus ar ol y llall yng Nghymru mewn is etholiadau,  tra'n perfformio'n  gryf yn etholiad Ewrop?  Mae'r pol YouGov Cymreig yn awgrymu y bydd llai o gwymp ym mhleidlais y Toriaid yng Nghymru o gymharu a'r cwymp mae polau Prydeinig y cwmni yn ei ddarogan ar lefel Brydeinig, ond dydi'r Toriaid ddim yn cael un canlyniad is etholiad trychinebus ar ol y llall yn Lloegr.

Hwyrach bod ateb synhwyrol i'r cwestiynau dwi wedi eu codi - fedra i ddim meddwl am un - ond dydi hynny ddim yn golygu nad oes ateb.  Mi gawn ni weld y canlyniad fis nesaf wrth gwrs - ond mi fyddwn i'n fodlon betio cryn dipyn na fydd y Toriaid yn dod 7% o flaen y Blaid - rhywbeth sydd heb ddigwydd ers y dyddiau pan oedd Mrs Thatcher mewn grym.

Tuesday, April 22, 2014

Blogio o'r Almaen - rhif 10

Beth sydd gan y Reichstag a'n Cymulliad bach ni yn gyffredin?

Dim llawer o ran grym a statws - ond mae cysylltiad rhwng penseiri'r ddau adeilad.  Marchog o Sais o'r enw Richard Rogers oedd yn gyfrifol am gynllunio'r Cynulliad - mae'r holl wydr sydd yno i bwrpas awgrymu tryloywder gwleidyddol. 

Marchog o Sais arall o'r enw Norman Foster oedd yn gyfrifol am ail gynllunio'r dom enfawr ar ben y Reichtag yn 1993 (cafodd y gwreiddiol ei ddifa yn ystod chwalfa llosgi'r Reichtag yn 1933 a bomio'r Ail Ryfel Byd). Mae'r holl wydr yno  - unwaith eto - i awgrymu tryloywder.


Sunday, April 20, 2014

Blogio o'r Almaen - rhif 9

Un o brif nodweddion Dwyrain Berlin ydi'r creaduriaid yma - maen nhw i'w gweld ym mhob man.  Mae'r un peth yn wir am rannau o Dde Ewrop wrth gwrs - ond y gwahaniaeth yma ydi bod y rhain yn dal i weithio'n ddiwyd.  Mae llawer o greini De Ewrop wedi bod yn segur am flynyddoedd - ers i'r swigen adeiladu ffrwydro gan adael cannoedd o filoedd o bobl yn ddi waith.  Disgwylir i fuddsoddiad  cyfalaf ar adeiladau nad ydynt yn aneddau gynyddu 8.7% ar hyd y Weriniaeth eleni.  Mae diweithdra yn 5.5% ar hyn o bryd - mae hyn yn cymharu a tua 25% yn Sbaen.  Yn wir roedd diweithdra yn yr Almaen yn is yng nghanol y dirwasgiad nag oedd yn Sbaen ar drothwy'r chwalfa pan roedd y bwm adeiladu yn ei anterth yno.

Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn fwy caredig efo rhai gwledydd na'i gilydd. 

Saturday, April 19, 2014

Blogio o'r Almaen - rhif 8

Mae yna dipyn go lew mwy o sylw i etholiadau Ewrop yma yn yr Almaen na sydd adref.  Mae Ewrop yn bwysicach i'r Almaen nag ydyw yn y DU.  Adlewyrchir hyn gan sylw cyfryngol a chan bosteri ar hyd ochru'r ffyrdd.  Gan bod uchel lys yr Almaen wedi penderfynu yn ddiweddar bod y trothwy o 5% mae'n rhaid i bleidiau ei gyrraedd cyn cael cynrychiolaeth yn Senedd Ewrop yn anghyfansoddiadol, mae'n hollol bosibl y bydd pleidiau sydd ond yn cael 1% o'r bleidlais yn ennill cynrychiolaeth am y tro cyntaf.

A barnu o bosteri Berlin mae'r gystadleuaeth yn lleol rhwng y prif bleidiau - yr SPD a'r CDU, y blaid sydd wedi esblygu o'r hen Blaid Gomiwnyddol - Y Chwith, Y Gwyrddion sydd efo cyfres o bosteri uniaith Saesneg sy'n clodfori eu rhyddfrydiaeth,  ac a barnu oddi wrth nifer y posteri mae'r Morladron  yn gystadleuol.  Dydw i heb glywed dim am yr FDP - fersiwn yr Almaen o'r Lib Dems

Os nad ydi hynny'n ddigon o ddewis mae yna hefyd blaid neo Naziaidd yr NDP i'r sawl sydd efo diddordeb yn y math yna o beth,  mae'r  SSW sy'n cynrychioli lleiafrifoedd Ffrisian a Daeneg, ac mae'r BIW (neu 'Dinasyddion Blin') yn bopiwlistiaid Adain Dde.  Mae'r oll o'r uchod efo cynrychiolaeth genedlaethol neu ranbarthol.  Os nad ydi hynny at ddant yr etholwyr chwaith mae yna bump ar hugain o bleidiau llai i ddewis ohonynt gan gynnwys Plaid Cristnogion Sy'n Parchu'r Beibl,Plaid  Anarchaidd Pogo a'r Blaid Amddiffyn Anifeiliaid.  Bydd y rheolau newydd yn arwain at gynrychiolaeth eclectig iawn o'r Almaen yn Senedd Ewrop y tro hwn.

Wele rhai o'r posteri sy'n 'addurno' strydoedd Berlin.









Friday, April 18, 2014

Blogio o'r Almaen - rhif 7

Daw'r lluniau isod o un o lochesau niwclear Berlin.  Ceir lle  i tua 3,600 o bobl gysgodi mewn amgylchedd heb ymbelydredd am gyfnod o bedwar diwrnod ar ddeg.  Wedi hynny roedd y dwr, bwyd ac awyr yn dod i ben.  Ymarferiad mewn gwneud i bobl deimlo'n fwy diogel yn ystod cyfnod y Rhyfel Oer oedd y llochesau mewn gwirionedd, nid ymarferiad mewn darparu diogelwch go iawn - er bod 23 lle tebyg ym Merlin, doedd yna ond lle i tua 1% o boblogaeth y ddinas aros yno.

Beth bynnag, ymddengys bod gwersi wedi eu dysgu o brofiadau'r Ail Ryfel Byd.  Doedd yna fawr ddim yn yr ystafell feddygol ag eithrio offer i ddelio efo genidigaethau.  Roedd genidigaethau buan yn digwydd yn aml iawn yn ystod ymgyrchoedd bomio yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a byddai lloches niwclear yn debygol o fod efo mwy na'i siar o ferched beichiog.

Roedd cyn lleied o doiledau ar gael er mwyn sicrhau ciwiau parhaol fwy neu lai i gyrraedd yno.  Roedd yn gyffredin iawn i bobl mewn amgylchiadau tebyg i hyn gloi eu hunain yn y toiled a chyflawni hunan laddiad yn ystod yr Ail Ryfel Byd.  Mae'n anodd gwneud hynny efo ciw anferth y tu ol i chi.








Thursday, April 17, 2014

Blogio o'r Almaen - rhif 6

Na, nid Groeg neu Dwrci ond y tu mewn i Amgueddfa Pergamon ym Merlin.  Mae'r allor yn esiampl hynod drawiadol o'r degau o filoedd o eitemau bach a mawr o'r Dwyrain Canol sydd wedi dod o hyd i'w ffordd i amgueddfeydd neu gasgliadau preifat yn y Gorllewin.


Blogio o'r Almaen - rhan 5

Siop lyfrau Iddewig ddim ymhell o Sw Berlin.  Mae'n ymddangos bod y lle angen cael ei warchod gan yr heddlu - mae heddlu wedi bod yn sefyll y tu allan i'r lle pob tro 'dwi wedi mynd heibio.  Ag ystyried pob dim ddigwyddodd yn nhri degau a phedwar degau'r ganrif ddiwethaf byddai rhywun wedi meddwl y byddai'r ysfa i erlid Iddewon wedi pylu.

Blogio o'r Almaen - rhan 4

Gardd goffa yng nghysgod y Reichstad i goffau grwp o bobl mae eu dioddefaint yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn cael ei anghofio yn aml iawn - y Sipsiwn - neu i fod yn gywirach o bosibl pobl y Sinti, Roma, Lallere, Louvari a Monouche.  Bu hyd at 500,000 ohonynt farw rhwng 1933 a 1945 o ganlyniad i buro ethnig gan lywodraeth yr Almaen yn ystod y cyfnod hwnnw.

Blogio o'r Almaen - rhan 3

Un o'r ychydig rannau o Wal Berlin sy'n sefyll o hyd ydi ychydig gannoedd o fetrau ar hyd yr Afon Speer - Oriel yr Ochr Ddwyreiniol.  Mae'r wal wedi ei gorchuddio efo murluniau o un ochr i'r llall ar y ddwy ochr.

Yn wahanol i Belfast - dinas arall enwog am ei murluniau - ychydig iawn o luniau ar thema gwleidyddol a geir.  Ond wedyn mewn ambell i gyd destun mae gwneud rhywbeth anwleidyddol yn ffordd o wneud datganiad ynddo'i hun.

Wednesday, April 16, 2014

Blogio o'r Almaen - rhan 2

Reit dwi heb gael llawer o amser i flogio - ond un neu ddau o argraffiadau brysiog am Berlin.  Mae'r llun isod wedi ei dynnu yn Alexanderplatz yn Nwyrain y ddinas.  Ar flaen y llun ceir cerfluniau o Marx ac Engles gan Ludwic Engelhart, ac yn y cefndir ceir Twr Teledu Fernsehturm.  Codwyd y ddau yn nyddiau'r GDR. 

Er mor wahanol, os ydi rhywun yn meddwl am y peth mae'r ddau strwythur yn cyflenwi pwrpas tebyg - lledaenu propoganda.  Mae'r twr yn ol pob tebyg yn fwy - ac yn fwy rhwysgfawr - na sy'n rhaid iddo fod.  Mae'n 368m o uchder ac mae'n weladwy o llawer o Orllewin Berlin - ac ymhell y tu hwnt yn Nwyrain yr Almaen.  Yn ogystal a bod yn dyst i rym y wladwriaeth roedd hefyd yn gallu lledaenu propoganda'r wladwriaeth.  Codwyd y strwythur tros gyfnod o 1965 - 1969 gyda dyfodiad teledu yn Nwyrain yr Almaen i bwrpas trosglwyddo signalau'r orsaf  deledu genedlaethol.  Roedd dyfodiad teledu yn fendith i unbeniaethau (ac nid unbeniaethau yn unig) ar hyd a lled y Byd - yn wahanol iawn i ddyfodiad y We Fyd Eang hanner canrif yn ddiweddarach.  Gall gwladwriaethau reoli'r naill yn llwyr - os ydynt am wneud hynny.  Ychydig iawn o reolaeth sydd ganddynt tros y llall.

Mae celf cyhoeddus ac adeiladau sific sy'n cael ei gomisiynu gan weinyddiaethau gwladwriaethol yn aml iawn yn wleidyddol o ran naws.  Mae'r cerflun o Marx ac Engles yn clodfori seiliau deallusol Marcsiaeth, mae'r Ardd Goffa yn Nulyn yn rhoi ffocws i amgylchiadau sefydlu'r wladwriaeth Wyddelig, mae'r Arc de Triumph yn tanlinellu grym milwrol Ffrainc ac mae'r Statue of Liberty yn ymgorfforiad o'r ideoleg weriniaethol a roddodd fodolaeth i'r Unol Daleothiau.

Mae gallu gwladwriaethau i gomisiynu celf neu godi adeiladau sy'n adlewyrchu eu grym yn nodwedd o'r ffordd y buont wedi cynnal eu hunain erioed - rhoi ffurf ddiriaethol i'w ideolegau creiddiol.  Mae dyfodiad y We a chyfryngau amgen eraill am ei gwneud yn fwy anos i gynnal ideolegau syml yn y dyfodol.  Mae'n anodd barnu os bydd hyn yn arwain at fwy 'ta llai o adeiladu a chomiwsiynu i bwrpas gwleidyddol yn y dyfodol.





Monday, April 14, 2014

Blogiadau o'r Almaen - rhan 1


Roedd yr haf diwethaf yn anarferol i Flogmenai yn yr ystyr na chymerwyd gwyliau.  Yn lle hynny mi es ati i wneud ychydig o flogio gwleidyddol tra ar wyliau yng ngwlad y Basg a Gogledd Spaen.  Doeddwn i ddim yn disgwyl i lawer ddarllen a dweud y gwir, ond er syndod i mi cefais fwy o ddarllenwyr yn ystod y cyfnod hwnnw nag yn ystod unrhyw ran arall o'r flwyddyn.  Felly dyma drio'r un peth eto - 'dwi yn ardal Berlin y tro hwn.

Y Trabant ydi'r car isod - darn o beirianwaith a ddaeth yn drosiad am fethiant y drefn Gomiwnyddol i lwyddo ar lefel economaidd.  Fyddai neb wedi credu hynny pan gynhyrchwyd y Trabant am y tro cyntaf yn Nwyrain yr Almaen yn 1958  - fel car roedd yn cymharu'n ffafriol ag unrhyw beth a gynhyrchwyd yn y Gorllewin ar y pryd.  Serch hynny ychydig iawn o ddatblygiadau a gafwyd wedi hynny - erbyn diwedd yr wythdegau roedd y cyferbyniad rhwng y Trabbi ar un ochr i Wal Berlin a'r Mercs a'r Beamers ar yr ochr arall yn ymylu ar fod yn greulon.  

Er mor elfennol mae'r car yn ymddangos i ni heddiw, roedd yn eitem i'w thrysori yn Nwyrain yr Almaen - roedd rhestr aros o ddeuddeg mlynedd i gael un, ac roedd yn costio rhwng 11,000 a 13,000 Ostmark - cyfwerth a chyflog cyfartalog ugain mis.  Mae cyflog cyfartalog yng Nghymru yn tua £20,000 y flwyddyn - felly roedd yn costio mwy na £32,000 yn ein pres ni.  

Rydych yn hynod o anhebygol o weld Trabbi ar y lon heddiw oni bai bod ei injan wedi ei addasu'n sylweddol - mae'n cynhyrchu llawer mwy o lygredd na sy'n gyfreithlon - tua phump gwaith cymaint o carbon monocsid na char gorllewinol o'r un cyfnod.   Roedd y  cynhyrchu llawer iawn mwy o wenwyn na Mercs oedd efo injan chwe gwaith cymaint a'r uned 600cc oedd yn gyrru'r Trabbi.



Sunday, April 13, 2014

Ydi'r Toriaid Cymreig mymryn bach yn dwp?

Rhyw feddwl oeddwn i wrth wrando am ymysodiad hollol anghmedrol a thros y top (a defnyddio idiom Saesneg) David Cameron ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru os ydi'r Toriaid - neu a bod yn fwy manwl y Toriaid Cymreig - wedi ystyried o ddifri beth fydd goblygiadau naratif y Toriaid Prydeinig iddyn nhw.

Mae strategaeth Cameron yn un eithaf hawdd i'w deall - portreadu Cymru fel rhyw Uffern ar y Ddaear, priodoli hynny i'r ffaith mai Cymru ydi'r unig ran o'r DU i gael ei reoli gan Lafur a dweud y byddai gweddill y DU hefyd yn Uffern ar y Ddaear petai Miliband yn ennill yr etholiad cyffredinol flwyddyn nesaf.  Rhyw amrywiaeth bach ar Project Fear yr ymgyrch Bitter Together yn yr Alban.  Gallai hyn weithio yn Lloegr wrth gwrs - a dyna ydi bwriad Cameron - dychryn Saeson yn wirion. Ond
beth fydd yr effaith yng Nghymru.  Mae'n anodd rhagweld y pethau 'ma - ond hoffwn awgrymu dau sgil effaith posibl:

1). Bydd yn haws i Lafur Cymru amddiffyn ei hun rhag beirniadaethau cwbl rhesymol o'r ffordd maent yn rhedeg gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru trwy gysylltu'r beirniadaethau hynny efo hefru hysteraidd Cameron am Glawdd Offa yn ffin rhwng bywyd a marwolaeth ac ati.  Mi fydd hi'n hawdd sgubo pob beirniadaeth o dan y carped.

2). Mae'n bosibl y bydd y strategaeth yn gelyniaethu llawer o ddarpar bleidleiswyr Toriaidd yng Nghymru.  Efallai y bydd sterics y Toriaid, y Mail a'r Sun yn argyhoeddi trigolion yr East Midlands bod Cymru yn wlad trydydd byd, ond fydd o ddim yn argyhoeddi trigolion Aberconwy na Gogledd Caerdydd.  Yn wir mae'n ddigon posibl y byddant yn cael yr holl beth yn sarhaus.  Os felly byddai'r bobl hyn yn agored iawn i wrth naratif Llafur sy'n portreadu'r ymgyrch fel rhyfel ar Gymru - pe byddai  hyn yn digwydd byddai pris sylweddol i'w dalu gan y Toriaid Cymreig tros y dair blynedd nesaf.

Mae yna rhyw ddyfyniad neu'i gilydd yn y Beibl sy'n canmol dyn sy'n fodlon rhoi ei einioes er mwyn ei frawd.  Efallai mai dyna gymhelliad y Toriaid Cymreig tros gymryd rhan yn ymgyrch Cameron gyda'r fath frwdfrydedd.  Ar y llaw arall efallai eu bod nhw'n rhy dwp i ystyried y posibilrwydd y gallai strategaeth Cameron arwain at wrthdrawiad rhwng y Toriaid Cymreig a thren etholiadol yn 2014, 2015 a 2016.

Mae'r ail bosibilrwydd yn fwy tebygol na'r cyntaf.

Saturday, April 12, 2014

Mae gan yr Alban y Sunday Herald _ _ _

 _ _ _ ac mae gennym ni bapur cenedlaethol o'r enw'r Western Mail.

Ymgyrchu

Wele rhai o'r timau o Bleidwyr oedd allan ar hyd a lled y wlad yn ymgyrchu tros Jill Evans yn etholiad Ewrop heddiw.


























Friday, April 11, 2014

Defnydd o'r Gymraeg yn y Cynulliad

Dydi Blogmenai ddim yn ymateb i geisiadau am flogiadau ar bwnc arbennig yn aml iawn, ond cyn bod rhai o fy ffrindiau bach anhysbys yn codi record y Blaid o ran defnyddio'r Gymraeg yn y Cynulliad mi wna i eithriad.  Dwi wedi torri'r tablau isod o astudiaeth hynod drylwyr a defnyddiol Cymdeithas yr Iaith o'r pwnc - ac mae'n ddadlennol.

Mae cynrychiolwyr Plaid Cymru yn gwneud dwywaith cymaint o ddefnydd o'r iaith na phawb arall efo'i gilydd.  Oni bai am y Blaid llai na 4% o drafodaethau'r Cynulliad fyddai'n digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg.  Un aelod unoliaethol sy'n defnyddio'r iaith mwy na 50% o'r amser - Keith Davies, Llanelli.  Ychydig iawn o ddefnydd o'r Gymraeg mae siaradwyr cwbl rhugl fel Carwyn Jones, Gwenda Davies, Suzy Davies, Paul Davies, Mark Drakeford neu Leighton Andrews yn ei wneud.  Yn wir mae Leighton yn ymddangos i fod wedi rhoi'r gorau yn llwyr i ddefnyddio'r Gymraeg ers colli ei swydd fel Gweinidog Addysg.

Ydi hyn oll yn bwysig?  Wel ydi - wrth gwrs.  Mae'n hen bregeth sy'n cael ei chyfeirio at y Blaid na ddylai ystyried yr iaith yn rhywbeth sy'n perthyn yn arbennig iddi hi.  'Dwi'n meddwl bod hynny yn ddadl synhwyrol o safbwynt lles yr iaith.  Ond mae hefyd yn wir nad yw'n ymddangos bod aelodau'r pleidiau unoliaethol yn cymryd yr iaith o ddifri - neu o leiaf nid ydynt  ei chymryd yn ddifri i'r graddau eu bod yn fodlon gwneud defnydd cyhoeddus ohoni.  Bai yr unoliaethwyr ydi hynny, nid bai y Blaid.