Y trydydd gwaith i mi orfod cywiro hon. Dwi'n adgynhyrchu'r hyn ysgrifennais ym mis Chwefror.
Rwan mae'r stori mymryn yn gymhleth - yn arbennig os ydych yn dod o'r tu allan o Wynedd, ond mi geisiwn wneud pethau'n syml.
Mae Gwynedd - fel pob cyngor arall yng Nghymru - yn gorfod gwneud toriadau sylweddol mewn gwariant - a felly gwasanaethau. Mae dau reswm uniongyrchol am hyn.
1). Y toriadau sylweddol i gyllideb y Cynulliad yn sgil y toriadau enfawr a bleidleiswyd arnynt fis Chwefror y llynedd yn San Steffan gan y Blaid Lafur, y Toriaid a'r Dib Lems.
2). Y ffaith i 'r Cynulliad drosglwyddo lwmp o'r toriadau hyn i'r cynghorau. Cafodd Gwynedd setliad salach na'r rhan fwyaf o gynghorau gan lywodraeth Llafur y Cynulliad.
Yn wahanol i'r rhan fwyaf o gynghorau, aeth Gwynedd ati i lunio rhestr o pob toriad posibl ac ymgynghori efo'r cyhoedd ynglyn a pha doriadau oedd fwyaf derbyniol (neu leiaf anerbyniol). Cafodd pawb gyfle i ddweud eu dweud ar lein, a cymrodd rhai miloedd o bobl fantais o'r cyfle i wneud hynny.
Beth bynnag, dau o'r toriadau posibl ar y rhestr oedd cau Pont yr Aber yng Nghaernarfon a Phont Abermaw. Roedd yna ddwsinau o bosibiliadau eraill, gan gynnwys cau canolfannau hamdden, torri grantiau diwylliant a hamdden ac ati, ac ati. Am rhyw reswm gafaelodd Sion yn y posibilrwydd o gau Pont yr Aber yn hytrach na'r un arall, a chynhaliodd brotest ar y bont. Ymddengys bod nifer go dda o bobl yn cytuno efo fo mai dyna 'r mater mawr - a chafwyd gwrthdystiad eithaf sylweddol ar y bont yn ystod yr hydref.
Yn y cyfamser roedd y broses ymgynghori yn mynd rhagddi, gyda phobl Gwynedd yn dweud eu dweud ar lein. Llunwyd rhestr oedd wedi ei seilio bron yn llwyr ar flaenoriaethau 'r cyhoedd ac ar sail hynny y llunwyd y papur oedd yn argymell beth i'w dorri a beth i beidio ei dorri. 'Doedd y cyhoedd ddim yn ystyried y dylai cau Pont yr Aber fod yn agos at frig y rhestr, felly ni chafodd ei chau - yn union fel nifer sylweddol o argymhellion posibl eraill.
Felly y cyhoedd a gymrodd rhan yn yr ymgynghoriad a achubodd y bont, nid protest Sion. Mae'n debygol wrth gwrs i nifer o bobl oedd yn y brotest gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a chyfranu at y penderfyniad felly - a chware teg iddynt am wneud hynny.
Ond mae'r awgrym bod y penderfyniad i beidio a chau'r bont yn ganlyniad i'r brotest yn gwbl gamarweiniol. Yn wir mae 'n ymgais drwsgl i hawlio clod ar draul y nifer fawr o bobl a gymrodd rhan yn yr ymgynghoriad yn ddi rodres a di ffwdan ac heb fynd i chwilio am ganmoliaeth. Dinasyddion cyfrifol, di lol Gwynedd mewn geiriau eraill.
No comments:
Post a Comment