Wednesday, August 28, 2019

Brexit - canlyniad hen ragfarnau Prydeinig

Un o’r pethau mwyaf trawiadol - a diddorol mewn rhai ffyrdd - am yr holl fusnes Brexit yma - ydi’r ffaith bod cymysgedd o hen ragfarnau a mytholeg Prydeinig yn elfen greiddiol o’r ffordd mae cefnogwyr Brexit yn rhesymu ac yn rhesymoli eu agweddau. .Yr agwedd gryfaf ar feddylfryd yma ydi’r gred yn netholusrwydd (os mai dyna’r gair Cymraeg am ‘exclusivism’) y DU - y gred bod y DU yn wahanol i wledydd eraill ac yn well na nhw.

Mae’r rhesymau tros barhad y gred yma yn gymhleth ac wedi goroesi am gyfnod maith.  Ond un o’r rhesymau  ydi’r ffaith nad ydi’r DU erioed wedi gorfod wynebu ei hanes yn yr un ffordd a mae gwledydd sydd wedi colli rhyfeloedd mawr wedi gorfod gwneud.  

Mae yna gilfachau - a chilfachau mawr ar hynny - hynod dywyll yn hanes yr Ymerodraeth Brydeinig.  ‘Does yna ddim ymwybyddiaeth eang o hynny yn y DU, ac mae agweddau’r gwledydd oedd yn rhan o’r Ymerodraeth Brydeinig yn dra gwahanol i’r profiad o fod yn rhan o ymerodraeth nag ydi agwedd Prydeinwyr.  ‘Does ddim rhaid mynd cyn belled a Kenya neu India i ddeall hyn - byddai taith fyrach o lawer i Ddulyn yn gwneud y tro’n iawn.

Ac mae’r ffaith nad yw Prydain wedi cymryd golwg gwrthrychol ar ei hanes yn creu pob math o ffwlbri chwerthinllyd.  Er enghraifft dyna i ni Gavin Williamson, pan oedd yn Weinidog Amddiffyn yn egluro wrthym syniad mor dda fyddai anfon llongau rhyfel i For De China yn dilyn Brexit.  Mae’n anodd gwybod ymhle i ddechrau efo hon.  Mae llywodraeth Williamson yn dweud ein bod yn gadael yr UE i bwrpas gallu dod i gytundebau masnach efo gwledydd mewn rhannau o’r Byd megis y gwledydd ym Mor De China ar yr un llaw, tra bod Williamson eisiau eu bygwth ar y llaw arall.  Mae’r dyddiau pan roedd Prydain yn ddigon pwerus i anfon llongau rhyfel i fomio Ting-ha er mwyn gorfodi’r Tseiniaid i dderbyn opiwm o India wedi mynd, a ‘dydyn nhw ddim yn debygol o ddychwelyd.

Tybed a fyddai Prydain yn edrych yn fwy ffafriol ar China petaent yn anfon llongau rhyfel i For y Gogledd?  

A wedyn dyna i ni y canfyddiad rhyfedd gan lywodraeth y DU a’r cyfryngau Prydeinig bod dyletswydd ar arweinwyr gwledydd eraill i flaenori buddiannau’r DU tros fuddiannau eu gwledydd eu hunain.  Weithiau mae’r canfyddiad yma’n cael ei fynegi mewn ffordd ychydig yn wahanol - sef bod llywodraeth y DU neu ei chyfryngau yn daeall yn well buddiannau gwledydd eraill nag ydyn nhw eu hunain yn eu deall - a bod y buddiannau hynny trwy gyd ddigwyddiad ffodus yn rhedeg yn union gyfochrog a rhai’r DU.

Mae hyn yn ymylu at fod yn ogleisiol. Mae Leo Varadkar yn cymryd yr agwedd mae’n ei chymryd oherwydd ei fod yn dilyn trywydd strategol sy’n fanteisiol i’r wlad mae yn ei harwain - Iwerddon.  ‘Dydi o ddim yn cael ei dalu i ddilyn trywydd strategol sy’n fanteisiol i’r DU.  Mae llawer mwy o allforion Iwerddon yn mynd i’r UE na sy’n mynd i’r DU - ond bod llawer o’r allforion hynny yn croesi’r DU ar hyn o bryd. Byddai Brexit caled yn golygu y byddai’n rhaid gwirio’r nwyddau sy’n cael eu gwerthu yn yr UE unwaith neu ddwywaith neu byddai’n rhaid allforio yn uniongyrchol i’r UE.  Mae hyn yn broblem strategol sylweddol i lywodraeth Iwerddon a gwaith y llywodraeth hwnnw ydi ceisio atal y broblem.  

Ond mae yna ragdybiaeth yn y DU y dylai Iwerddon roi buddiannau’r DU o flaen ei buddiannau ei hun (fel y dywedodd Malcolm Rifkind ychydig ddyddiau yn ol).  Mae’r disgwyliad yma wedi ei wreiddio mewn cyfnod pan roedd Iwerddon - a llawer i wlad arall - yn gorfod gwneud yn union yr hyn roedd llywodraeth y DU yn dweud wrthyn nhw am ei wneud.

Ymddengys i Priti Patel gymryd at y syniad o ddefnyddio dosbarthiad bwyd fel modd o roi pwysau ar lywodraeth Iwerddon i ildio i Brydain ynglyn a’r ffin rhwng Gogledd a De Iwerddon.  Rwan mae dosbarthiad bwyd ‘gwleidyddol’ yn rhywbeth roedd y DU yn ei ymarfer yn rheolaidd yn Oes Fictoria, ac mae’n lwybr polisi a arweiniodd at ddioddefaint di ben draw a miliynnau o farwolaethau yn Iwerddon ac yn y wlad mae Priti Patel yn hannu ohoni. Mae’r syniad wrth gwrs yn un idiotaidd - hyd yn oed o dan safonau gweinidog Toriaidd - mae Iwerddon yn cynhyrchu llawer mwy o fwyd na mae’n ei ddefnyddio, ac mae ymysg y gwledydd mwyaf diogel o ran cyflenwadau bwyd yn y Byd.  Mae Prydain wrth gwrs yn eithaf ansicr o ran ei chyflenwadau bwyd - gan orfod mewnforio ddim ymhell o hanner ei bwyd - y rhan fwyaf o hwnnw oddi wrth gyfeillion Iwerddon yn yr UE.  Ond unwaith eto rydym yn dod ar draws hen ffeddylfryd yn ail ymddangos mewn cyd destun cyfoes.

A daw hyn a ni at yr Ail Ryfel Byd - rhywbeth sy’n hynod o agos at galonnau cenedlaetholwyr Prydeinig.  Mae’n ganolog i’w canfyddiad o’r Byd a’i bethau i’r DU ennill y rhyfel hwnnw.  Mae’n debyg y dylai’r ffaith mai llai nag 1% yn unig o’r sawl a laddwyd yn y rhyfel oecc yn Brydeinwyr awgrymu bod y gwirionedd ychydig yn fwy cymhleth, ond wrth gwrs dydi ffeithiau na chymhlethdod ddim yn arbennig o agos at galonau cenedlaetholwyr Prydeinig.  Ond mae’r canfyddiad yn bwysig i naratif Brexit.  Dyna pam bod Dunkirk neu’r Battle of Britain yn cael eu codi pob tro mae yna son am broblemau neu dioddefaint yn sgil Brexit - ‘Os daethom ni trwy Dunkirk mi ddown ni trwy hyn hefyd’.

Ac wedyn dyna i ni’r agweddau is ymwybodol yna.  Byddwch yn cofio i Priti Patel - ia hi eto - ddatgan y bydd rhyddid i symud yn dod i ben ar Hydref 31.  Meddwl mae Priti wrth gwrs am ryddid symud i bobl o’r UE yn y DU - ond byddai cymryd y fath gwrs yn sicr o gael union yr un effaith ar ddinasyddion y DU symud yn yr UE.  Mae bron yn sicr y bydd unrhyw gamau mae Priti yn eu cymryd i erlid tramorwyr yn cael eu hadlewyrchu ar ffurf camau tebyg gan yr UE.  Ond i rhywun fel Priti mae’n rhan o’r drefn naturiol bod Prydeinwyr yn troedio’r Byd yn unol a’u dymuniad.  Onid hynny oedd yn digwydd yn nyddiau’r Ymerodraeth?  Y peth anaturiol ydi i dramorwyr droedio tir y DU - does yna ddim cysylltiad rhwng y naill beth na’r llall.

Esiampl tebyg oedd llinellau coch Theresa May - roedd y DU i adael yr UE a’r Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau.  Cyn gynted a bod y penderfyniad yna wedi ei wneud, roedd llywodraeth y DU yn gosod ei hun ar lwybr oedd yn ei harwain i gyfeiriad fyddai’n ei gorfodi i dorri amodau cytundeb rhyngwladol pwysig roedd wedi ei arwyddo - Cytundeb Dydd Gwener y Groglith.  Mae symud di dramgwydd ar draws y ffin yn elfen bwysig - yn elfen ganolog - o’r cytundeb hwnnw.  Dydi hi ddim yn bosibl cael cyfundrefn reoliadol gwahanol mewn dwy wlad heb wirio beth sydd yn croesi o’r naill wlad i’r llall. Doedd y cysyniad bod angen symud ymlaen mewn modd nad oedd yn arwain at dorri cytundeb rhyngwladol heb wawrio ar Mrs May na’i llywodraeth - mae’r DU wedi arfer torri cytundebau pan mae hynny’n hwylus.  Mae’r strancio a’r rhincian dannedd gan wleidyddion sydd o blaid Brexit a’r wasg bod Iwerddon a’r UE yn disgwyl i’r DU anrhydeddu ei chytundebau rhyngwladol wedi bod yn rhywbeth i ryfeddu ato.

Ac mae’r syniadau yma i gyd - y dylai buddiannau Prydain gael blaenoriaeth, hyd yn oed gan wledydd eraill, bod ceisio bwlio gwledydd eraill efo bygythiadau i roi buddiannau’r DU o flaen rhai eu hunain yn briodol ac yn rhesymol, bod Prydain yn arbennig ac yn sylfaenol wahanol i wledydd eraill, bod tramorwyr yn ddichall ac yn anibenadwy, bod cytundebau thyngwladol yn bethau i’w torri pan mae hynny’n gyfleus wrth galon yr holl brosiect Brexit.  A dyna’r rheswm pam bod yna cymaint o lanast - mae dealltwriaeth y sawl sy’n hyrwyddo Brexit wedi ei seilio ar fodelau o le’r DU yn y byd sydd wedi hen, hen ddyddio.