Yn bersonol dwi'n tueddu i beidio a darogan llwyddiant etholiadol yn rhy aml - mae'n anodd i rhywun sydd mor agos at y Blaid a fi, fod yn gwbl wrthrychol. Ond mae yna un peth sy'n awgrymu bod rhywbeth ar y gweill - a daw hynny o gyfeiriad Llafur, ac nid o gyfeiriad y Blaid - panig.
Ystyriwch - naratif cychwynol Llafur oedd mai ras rhwng Llafur a'r Toriaid oedd hi. Ac eto mae eu gwleidyddion yn ymosod yn gyhoeddus ar y Blaid, ac ar y Blaid yn unig i bob pwrpas - fel y gwnaeth Carwyn Jones ar Pawb a'i Farn neithiwr.
Mae rhai o'u gwleidyddion yn hynod, hynod flin. Dilynwch gyfri trydar Leighton Andrews os ydych eisiau gwybod beth sydd gen i. Mae ei linell trydar yn un afon o negyddiaeth ac ymosodiadau ar y Blaid. Mae hefyd yn ddadlennol bod cymorth gan Blaid Lafur Keele wedi ei anfon i'r Rhondda a dwy sedd ymylol - er bod mwyafrif Llafur yn yr etholaeth honno yn enfawr.
Ac wedyn dyna i ni antics rhyfeddol Cyngor Caerdydd - yn dwyn posteri ynghanol nos, ac yn erlid tafarnau sydd yn arddangos posteri'r Blaid.
Mae arweinydd Prydeinig y Blaid Lafur yn cael ei gadw o Gymru rhag iddo achosi niwed etholiadol i Lafur.
Mae goslef a chynnwys llinell drydar Leighton Andrews yn cael ei adlewyrchu gan wefannau cymdeithasol swyddogol Llafur - @WelshLabour a @WelshLabourPress er enghraifft - llif o negyddiaeth chwerw wedi ei gyfeirio bron yn llwyr tuag at Blaid Cymru, ynghyd a gwahanol ymgeisiadau i gamarwain yr etholwyr ynglyn a'i bwriadau a'i pholisiau.
Hyd y gwelaf i mae'r unig synnau optimistaidd sy'n dod o gyfeiriad Llafur yn dod o Arfon, lle maent yn hyderus o ennill y sedd er bod ganddynt 30.5% o fwlch i'w gau, er ei bod ymysg y seddi gwanaf i Lafur yng Nghymru ar lefel Cynulliad, er bod y polau yn awgrymu gogwydd ffyrnig yn erbyn Llafur yn genedlaethol, er i Lafur Arfon gael cweir gwta flwyddyn yn ol, er bod yr etholaeth yn for o bosteri Plaid Cymru, er bod llawer mwy o 'r etholaeth wedi ei chanfasio gan y Blaid na Llafur, er bod y Blaid wedi dosbarthu mwy o lawer o ddeunydd etholiadol na phawb arall efo'i gilydd, er bod nifer o aelodau o 'r Blaid Lafur yn dweud yn gyhoeddus na fyddant yn trafferthu pleidleisio y tro hwn, er bod Llafur o dan bwysa ychwanegol yn y Gogledd, er bod y blaid Brydeinig o dan gwmwl gwrth semitiaeth ac er bod ymgeisydd y Blaid yn llawer cryfach nag un Llafur.
Ond a gadael Arfon o'r neilltu yr ymdeimlad sy'n dod o gyfeiriad Llafur ydi un o banig. Mae hynny'n awgrymu y gallai rhywbeth trawiadol ddigwydd nos Iau.
1 comment:
Gobeithiwn ... digwyddiad ardderchog fyddai hyn!
Post a Comment