Tuesday, February 25, 2014

Y Daily Mail a Harriet Harman

Nid yn aml iawn y bydd Blogmenai yn cynnig gair o blaid rhywun fel Harriet Harman ac nid yn aml y cewch chi drafodaeth ar ryw a rhywioldeb yma, ond rydych am gael rhywfaint o'r ddau heddiw.  Mae Iain Dale (rhywun arall nad ydw i'n cytuno efo fo'n aml) yn ymateb yn eithaf da i'r 'sgandal' mae'r Daily Mail wedi ei chreu o gwmpas y gwleidyddion Llafur Harriet Harman, Jack Dromie a Patricia Hewitt.  Mae hefyd yn rhoi'r cefndir - i'r sawl yn eich plith sydd ddim yn gyfarwydd efo'r stori.

Dwi am edrych ar y stori mewn ffordd ychydig yn wahanol - yng nghyd destun y newidiadau sydd wedi bod mewn agweddau diwylliannol ers i'r triawd Llafuraidd fod yn gweithio i'r NCCL yn 60au a 70au y ganrif ddiwethaf.  Oes rhywun yn cofio can y Trwynau Coch - Merched dan 15?    Mae'n rhaid i chi fod o oed arbennig i'w chofio oherwydd nad oes yna unrhyw orsaf radio yn  unman am ei chwarae heddiw.  Byddai unrhyw un fyddai'n ddigon anoeth i wneud hynny yn gwahodd ymweliad cyflym iawn gan PC Plod.  Petai rhywun eisiau gwneud hynny - y Daily Mail efallai - gellid yn hawdd  defnyddio'r gan i bardduo'r sawl oedd yn ei chanu, ac yn wir y sawl oedd yn gwrando arni efo cyhuddiad o bidoffilia.  Yn yr oes sydd ohoni mae'r cyhuddiad hwnnw yn un difrifol iawn.  Yn y gorffennol roedd yn dderbyniol i gasau pob math o grwpiau oddi mewn i gymdeithas - erbyn hyn ychydig o grwpiau felly sydd ar ol - a pidoffiliaid sydd ar frig y rhestr fer.

Nid felly y bu pethau erioed wrth gwrs.  Am y rhan fwyaf o hanes y DU mae rhyw hoyw wedi bod yn anghyfreithlon - gyda dedfryd o farwolaeth yn aros y sawl a gafwyd yn euog hyd at 1861. Dim ond yn 1967 y daeth rhyw hoyw yn gyfreithlon yn y DU - a hynny i bobl hyn na 21 yn unig. Yn y flwyddyn 2000 y daeth rhyw rhwng dynion hoyw yn gyfreithlon i bobl 16 oed a throsodd.  Mae'r rheswm pam bod agweddau wedi newid yn ddiddorol.

Mae'r wladwriaeth Seisnig, ac yna'r un Brydeinig a'i dilynodd wedi deddfu ar faterion sy'n ymwneud a rhyw ers y dechrau bron.  Am y rhan fwyaf o'r amser yma roedd rhyw rhwng oedolion a phlant tros 12 oed yn gwbl gyfreithlon.  Gosodwyd 12 fel oed cyfreithiol yn  1275 ac fe'i codwyd i 13 yn 1875.  Yn 1885 y daeth y cyfyngiad 16 oed sy'n bodoli ar hyn o bryd i fodolaeth.  O edrych ymhellach na Phrydain ceir cryn amrywiaeth mewn oed rhyw cyfreithiol hyd heddiw - 18 yn Nhwrci, 13 yn Spaen, 15 yn Sweden, 14 yn yr Eidal er enghraifft.

A dyna ydi rhan o'r broblem efo'r hyn mae'r Daily Mail yn ei wneud - roedd agweddau cymdeithasol tuag at bidoffilia, rhyw hoyw a phob math o bethau eraill yn dra gwahanol yn y 70au a'r 60au o gymharu a heddiw.  Mae can y Trwynau Coch yn swnio'n ofnadwy heddiw - ond adlewyrchiad o ddinewitrwydd ydyw yn fwy na dim arall.  Doedd trais rhywiol yn erbyn plant ddim yn cael unrhyw sylw cyfryngol bryd hynny, a phrin y byddai'n croesi meddwl llawer o bobl ei fod yn digwydd o gwbl.  Doedd  gen i ddim syniad o ystyr y gair pidoffilia yn y 70au - ac mi fyddwn yn betio nad oedd gan aelodau'r Trwynau Coch ddim syniad chwaith.

Erbyn heddiw mae agweddau gwaelodol wedi newid ac maent yn fwy rhesymegol a chall.  Mae'r mwyafrif llethol o bobl yn y DU bellach yn cydnabod bod yna fyd o wahaniaeth rhwng y cam ddefnydd o rym a'r niwed a achosir i blant sy'n digwydd pan mae oedolion yn gorfodi perthynas rywiol arnynt a pherthynas rhywiol rhwng dau oedolyn o'r un rhyw sy'n cydsynio i gael rhyw efo'i gilydd.

Doedd. y gwahaniaeth hwnnw - er mor amlwg mae'n ymddangos heddiw - ddim yn amlwg i lawer o bobl yn y chwe degau a'r saith degau.  Roedd pobl yn ystyried rhai mathau o ryw yn 'normal' a rhai mathau ddim yn 'normal' ac roedd hynny yn ei dro yn cam lywio'r ffordd roeddynt yn edrych ar ryw a rhywioldeb.  Roedd yr agweddau cymdeithasol yma yn cael eu cynnal gan y ffaith bod cymdeithas yn edrych ar ryw trwy lygaid crefyddol - mae'r Beibl yn llawer mwy llawdrwm ar bobl hoyw nag yw ar bidoffiliaid. Mae sefydliadau crefyddol wedi tueddu i adlewyrchu'r rhagfarnau hyn.  Atgyfnerthwyd y canfyddiad yma o 'ddrygioni' pobl hoyw gan agwedd y gyfraith - roedd yn llawdrwm ar bobl hoyw ond yn oddefgar tuag at bidoffilia - a felly'n atgyfnerthu'r agweddau diwylliannol anffodus a arweiniodd at ddilorni, esgymuno cannoedd o filoedd o bobl nad oeddynt yn gwneud unrhyw ddrwg i neb.  


Yr hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd ydi bod y Mail yn ei ffordd arferol hysteraidd yn pardduo'r triawd oherwydd bod mudiad roeddynt yn gweithio iddo ers talwm iawn efo cysylltiad gwan efo corff oedd efo cysylltiad gwan efo corff arall oedd yn hyrwyddo 'hawliau' pidoffiliaid - grwp nad oedd fawr neb yn gwybod dim amdano ar y pryd, ond sydd - gyda phob cyfiawnhad - yn destun casineb cyffredinol erbyn hyn. Mae yna pob math o resymau i beidio hoffi Harman, Hewitt a Dromie - ond wir Dduw dydi sterics y Mail ddim yn un ohonyn nhw.

Sunday, February 23, 2014

Pam y bydd rhaid i Mark Drakeford ddod i arfer efo beirniadaeth o gyfeiriad y cyfryngau Seisnig

Mae'n ddiddorol bod y Blaid Doriaidd yn Llundain - gydag ychydig help gan Darren Millar - wedi penderfynu mynd ati i ymosod ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru er mwyn sgorio pwyntiau gwleidyddol yn San Steffan.  Asgwrn y gynnen y tro hwn ydi un set o ffigyrau ar farwolaethau  anisgwyl, sy'n awgrymu bod posibilrwydd bod y gyfradd (RAMI) yn uwch nag y dylai fod, ac ebost digon gofalus ar y pwnc gan gyfarwyddwr meddygol y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr, Bruce Keogh.

Y peth cyntaf i'w ddweud am hyn ydi ei bod yn hawdd gwneud i unrhyw gorff sy'n gorfod cyhoeddi amrediad mawr o ffigyrau ynglyn a'i  effeithiolrwydd ei hun ymddangos yn wael.  Mae pob set o ffigyrau yn amrywio tros amser, ac mae rhai ffigyrau am gymharu'n wael efo rhai cyrff eraill tebyg.  Mae'r amrywiaeth naturiol a geir oddi mewn i unrhyw set o ddata yn sicrhau hynny.  Os oes rhywun yn mynd ati i chwilio am pob ffigwr 'gwael' y gall ddod o hyd iddo, tra'n anwybyddu pob ffigwr 'da' gall wneud i unrhyw gorff sy'n cyhoeddi data amdano ei hun ymddangos yn fethiant.

Mae'n amlwg pam bod hyn yn digwydd.  Dydi etholiadau nesaf San Steffan ddim ymhell i ffwrdd ac mae'r Toriaid yn Lloegr yn cael eu hunain efo gweinyddiaeth Lafur yng Nghaerdydd i ymosod arni.  Dydi o ddim mewath o ots os ydi'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru a'r sawl sy'n gweithio iddo yn cael eu pardduo a'u sarhau yn enw'r achos hollbwysig yma.  Gallwn ddisgwyl mwy a mwy o'r math yma o beth tros y misoedd sy'n arwain at etholiad cyffredinol 2015.  Mae yna rhywbeth gwirioneddol anymunol am y peth.

Meddyliwch am ennyd bod y llywodraeth SNP yng Nghaeredin rhywbryd tua 2010 wedi defnyddio sgandal Ysbyty Stafford  i awgrymu y byddai'r un peth yn digwydd ar hyd a lled yr Alban petai llywodraeth Lafur yn cael ei ethol i Holyrood.  Byddai'r ymateb gan y cyfryngau newyddion Seisnig yn ffyrnig - gwleidyddion di egwyddor, anfoesol yn defnyddio dioddefaint cleifion am resylau etholiadol ac ati.  A byddai'r cyfryngau Seisnig yn gwbl gywir i ymateb yn y ffordd yna.

Waeth i ni heb a disgwyl i'r cyfryngau Cymreig strancio llawer oherwydd bod y gwasanaeth iechyd Cymreig yn cael ei droi'n bel droed etholiadol gan wleidyddion Toriaidd yn Lloegr - maen nhw'n rhy llywaeth o lawer i wneud hynny.

Wedi dweud hynny mae yna rhywbeth anymunol o eironig yn y ffaith bod y llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd yn debygol o gael ei beirniadu yn hallt tros y 15 mis nesaf gan y cyfryngau Adain Dde Seisnig - a hynny yn eu ffordd hysteraidd unigryw eu hunain.  Bydd hyn yn gryn ysgytwad i lywodraeth sydd hyd yn hyn wedi cael mynd o gwmpas ei phethau yn absenoldeb hyd yn oed beirniadaeth gyfrifol ac adeiladol o gyfeiriad y cyfryngau Cymreig.  

Thursday, February 20, 2014

Is etholiad Treganna, Caerdydd

Susan ELSMORE Llafur 1,201 (41.7%)
 Elin TUDUR (Plaid Cymru 972 (33.7%)
Pam Richards Tori 381 (13.2%)
Jake GRIFFITHS Plaid Werdd 148 (5.1%)
Steffan BATEMAN Trade Unionist and Socialist Coalition101 (3.5%)
Matt HEMSLEY Welsh Liberal Democrats 80 (2.8%) 

Gogwydd o 10% oddi wrth Llafur i'r Blaid. Esiampl arall o bolau YouGov yn dweud un peth ac etholiadau go iawn yn dweud rhywbeth arall.

 Da iawn Elin - perfformiad cryf iawn.

Pa Oes Aur?

Mae'n debyg y dyliwn ymateb - eto fyth - i wybodaeth camarweiniol sy'n cael ei gyfleu ar flog Hen Rech Flin.  Ymateb oedd y blogiad yn ei dro i sylw wnes i yn nhudalen sylwadau y blogiad diwethaf bod y Blaid yn gwneud yn well mewn etholiadau lle mae'r gyfradd pleidleisio yn isel.  Mae'r awdur - Alwyn ap Huw - wedi cymryd o hynny bod polisi bwriadol gan y Blaid o geisio sicrhau cyfradd pleidleisio isel ac mae ymhellach yn dadlau bod y Blaid yn gwneud yn dda yn y 70au pan roeddynt - yn ol Alwyn yn ceisio sicrhau cyfradd pleidleisio uchel.

Rwan dwi wedi bod yn ymwneud mewn rhyw ffordd neu'i gilydd ag etholiadau ers degawdau a dydw i erioed wedi dod ar draws unrhyw bolisi gan y Blaid - na neb arall o ran hynny - i geisio gostwng y cyfraddau pleidleisio yn fwriadol.  Mi fydd pleidiau yn yr oes sydd ohoni yn ceisio adnabod eu pleidleiswyr a sicrhau eu bod yn dod allan i bleidleisio wrth gwrs.  Ond dydi hynny ddim gyfystyr a dweud bod ymgais yn cael ei gwneud i ostwng cyfraddau pleidleisio.

Yn ail, mae'r syniad bod rhyw oes aur i'r Blaid yn y 60au a'r 70au yn un ffug.  Canlyniadau etholiadau San Steffan yn y 60au a'r 70au oedd 1964 - 4.8%, 1966 - 4.3%, 1970 11.5%, 1974 - 10.8%, 1974 - 10.8%, 1979 - 8.1%.

Canlyniadau'r Blaid mewn etholiadau San Steffan o 2000 ymlaen oedd 2001 - 14.3%, 2005 - 12.6%, 2010 - 11.3%.  Doedd yna ddim etholiadau Cynulliad ac Ewrop yn y chwe degau a'r 70au wrth gwrs, ond roedd y canlyniadau o 2000 fel a ganlyn.  Cynulliad 2003 - 21.2%, 2007 - 22.4%, 2011 - 19.3%.  Ewrop 2004 - 17.4%, 2009 - 18.5%.

Tra fy mod yn derbyn nad ydi perfformiad etholiadol y Blaid yn ddigon da ar hyn o bryd, mae'n gwneud yn llawer gwell heddiw nag oedd yn y 60au a'r 70au.

Tuesday, February 18, 2014

Un neu ddau o sylwadau ar bol diweddaraf YouGov

Gair brysiog am y pol YouGov a gyhoeddwyd ddoe.

Byddwch  yn cofio i mi wneud sylw ar bol YouGov y tro diwethaf y cyhoeddwyd un ym Mis Rhagfyr 2013.  Roeddwn yn nodi bod problem efo'r pol oherwydd nad yw'n ffiltro na phwyso i ddelio efo'r ffaith bod pol Ewrop yn debygol o fod yn un gyda chyfradd pleidleisio isel.  Hoffwn wneud sylw pellach ar y pol a ryddhawyd tros y dyddiau diwethaf.  Dwi'n ymwybodol nad ydi hi'n syniad da i ddiystyru pol nad ydym yn hoffi ei ganlyniad (mae hwn yn awgrymu y bydd y Blaid yn colli ei sedd Ewrop), ond mae yna broblem bach efo'r pol yma.

Ystyriwch yn gyntaf batrwm rhanbarthol pol diweddaraf YouGov.

A rwan dyma berfformiad y Blaid yn ol yn Etholiad Ewrop 2009.  O gymharu a ffigyrau pol YouGov yr hyn sy'n amlwg ydi bod y 'cwymp' yng nghefnogaeth y Blaid i gyd bron wedi digwydd yn y Gorllewin o'r Gogledd.  Mae'r symudiadau yng ngweddill Cymru i gyd yn weddol fach.


Rwan mae'r 'cwymp' yn y Gogledd yn syfrdanol.  Petai'n wir byddai'n awgrymu cwymp o efallai 20,000 o bleidleisiau.  Mae'r cwymp yn y Gorllewin a'r Canolbarth hefyd yn fawr - tua 17,000 o bosibl.

Ydi cwymp o'r fath yn bosibl?  Ydi wrth gwrs - ond pan mae cwymp o'r math yna yn digwydd mae yna reswm amdano ac mae yna dystiolaeth etholiadol amlwg o'i fodolaeth.  Esiampl diweddar ydi'r cwymp ym mhleidlais y Lib Dems ers i'r blaid honno fynd i lywodraeth efo'r Toriaid.  Mae'r rheswm am y cwymp yn amlwg - maent wedi symud i'r Dde gan waedu pleidleisiau asgell Chwith i Lafur, ac mae'r bleidlais brotest roeddynt mor dda am ei gorlannu yn mynd i UKIP.  Rydym yn gweld y dystiolaeth o'r dirywiad yn eu pleidlais ym mhob etholiad bron.

Ond dydi hyn ddim yn wir yn achos Plaid Cymru yn y Gogledd a'r Gorllewin.  Mae'n anodd meddwl bod rheswm am gwymp pleidlais y Blaid yn y Gorllewin a'r Gogledd yn benodol, a does yna ddim tystiolaeth etholiadol chwaith.   Yn wir mae'r etholiadau a gafwyd yn yr ardaloedd yma yn eithaf da.  Cafwyd dwy etholiad llwyddiannus iawn ym Mon y llynedd, ac mae'r is etholiadau cyngor a gafwyd wedi bod yn fwy na pharchus.  Mae'r pol yn dangos cwymp sydd ddim yn cael ei adlewyrchu mewn etholiadau go iawn.  Mae yna nifer o resymau posibl am hyn - ond wnawn ni ddim dilyn y trywydd hwnnw ar hyn o bryd.

Rwan dydw i ddim yn awgrymu am ennyd bod sedd y Blaid yn ddiogel.  Mae'r tirwedd etholiadol ehangach yn awgrymu y bydd pleidlais Llafur ac UKIP yn codi tra bydd un y Toriaid yn cwympo.  Dim ond polau YouGov a chyfres o is etholiadau sydd gennym i weithio arnynt o ran y Blaid - felly dydi'r darlun ddim yn glir.  Byddwn serch hynny yn disgwyl i Lafur gael dwy sedd, ac i'r ddwy arall fod rhwng y Blaid, UKIP a'r Toriaid.  Gellir gweld y canlyniad yn 2009 yma..  Byddwn hefyd yn ychwanegu un pwynt bach arall - mae'r Toriaid wedi methu a chael eu pleidlais allan dro ar ol tro yn ystod y dday flynedd diwrthaf.  Efallai y byddant yn fwy llwyddiannus ym mis Mai - ond os na fyddant nhw fydd yn colli'r sedd.

* Dydi'r tabl etholiad Ewrop ddim yn hollol ddibynadwy oherwydd i rai ardaloedd newid rhanbarth wedi 2009 - er enghraifft aeth Dyffryn Conwy o'r Canolbarth i'r Gogledd ac aeth Dwyfor i'r cyfeiriad arall.  

Sunday, February 16, 2014

Galwedigaeth a'r Gymraeg

Diolch unwaith eto i Hywel am ddarparu linc at waith ynglyn a'r Gymraeg o'i eiddo.

Dwi wedi copio un neu ddwy o siartiau, ond gallwch chwilota yn ol eich dymuniad o ddilyn y linc.  Er bod y patrwm yn amrywio cryn dipyn o ardal i ardal un peth amlwg iawn ydi'r tan gynrychiolaeth cyffredinol  o Gymry Cymraeg yn y grwp uchaf - cyfarwyddwyr, rheolwyr ac uwch swyddogion.








Friday, February 14, 2014

Amser i Andrew RT Davies hel ei gelfi?

Felly mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cicio yn erbyn y tresi ac yn sefyll yn erbyn barn David Jones a'r blaid Brydeinig.  Bydd yn ddiddorol gweld am faint y bydd o'n parhau yn ei swydd.

Er mai dim ond y blaid yn y Cynulliad sydd a'r hawl i orfodi etholiad arweinyddol, gallwn fentro y bydd yr aelodaeth ar lawr gwlad yn flin fel y tinceriaid diarhebol.  Mae rhan fwyaf o'r aelodaeth o gefndiroedd Seisnig, yn byw yn ardaloedd mwy Seisnig Cymru neu'n edrych yn naturiol tuag at Loegr am arweiniad.  Byddai cymryd safbwynt 'Gymreig' yn hytrach nag un 'Seisnig' yn seicolegol anodd i'r bobl hyn.

Mi fydd yna bwysau ar aelodau etholedig y Toriaid o gyfeiriad aelodau eu plaid.  Faint o'r ACau sy'n debygol o sefyll y tu ol i Andrew RT Davies yn wyneb pwysau o gyfeiriad San Steffan ac o gyfeiriad aelodau llawr gwlad ar yr un pryd? Dim llawer' dwi'n meddwl ydi'r ateb i honna.

Bydd yn gryn syndod i mi os mai Andrew RT fydd yn arwain y Toriaid Cymreig pan fyddant yn ymladd etholiad Ewrop.




Thursday, February 13, 2014

Is etholiad Cadnant

Roedd yna is etholiad ar gyfer Cyngor Tref Caernarfon yn ward Cadnant heddiw.  Y canlyniad oedd:

Cemlyn Williams (Plaid Cymru) 216
Maria Sarnaki (Annibynnol) 126
Sally Haywood (Llafur) 77

Llongyfarchiadau i Cemlyn ar berfformiad cryf iawn a da iawn Plaid Cymru Caernarfon am wneud y joban effeithiol arferol o gael ei phleidlais allan.

Tuesday, February 11, 2014

Pwt arall am etholiad Ewrop

Mi fydda i yn cael fy hun yn cytuno efo dadansoddi etholiadol Vaughan Roderick yn amlach na pheidio, ond dydw i ddim mor siwr ei fod yn gywir yma yn darogan mai un sedd yr un mae Llafur, UKIP, Plaid Cymru a'r Toriaid yn debygol o'u hennill y tro hwn.

Er mwyn osgoi mynd i mewn i fathemateg yr etholiad yn ormodol y ffordd hawsaf o egluro pethau ydi fel hyn - os ydi'r blaid sy'n gyntaf yn cael mwy na dwywaith pleidlais yr un sy'n bedwerydd yna bydd y blaid honno yn cymryd sedd y blaid sy'n bedwerydd.  Yr hyn sydd gan Vaughan - ac mae ganddo bwynt - ydi nad ydi Llafur yn debygol o wneud mor wych a hynny oherwydd nad yw eu cefnogwyr yn tueddu i fynd allan i bleidleisio mewn niferoedd mawr mewn etholiadau Ewrop.  Serch hynny mae hanes yn awgrymu y bydd Llafur yn cael digon o bleidleisiau i gael dwy sedd.

Dyma oedd y canlyniad yn 2009:

Toriaid 21.2%
Llafur 20.3%
Plaid Cymru 18.5%
UKIP 12.8%
Lib Dems 10.7%

Dyma'r bleidlais salaf o ddigon i Lafur yng Nghymru ers 1918 - roedd Gordon Brown wrth y llyw yn Llundain, roedd Llafur newydd yrru'r economi i'r Diawl ac roedd y sgandal treuliau yn fyw iawn yn y cof.  Dyma ganlyniadau Llafur yn yr etholiadau Ewrop blaenorol:

1979 - 41.5%, 1984 - 44.5%,  1989 - 48.9%, 1994 - 42.7%, 1994 - 55.9%,  1999 - 31.9%, 2004 32.5%.

Rwan dydw i ddim yn meddwl y bydd Llafur yn cyrraedd yr amrediad 41.5% i 55.9% pan roeddynt yn wrthblaid yn San Steffan yn y gorffennol - petai hynny yn digwydd gallent yn hawdd ennill 3 sedd.  Dydyn nhw ddim yn gwneud cystal yn y polau Prydeinig nag oedden nhw bryd hynny, mae hi'n frwydr pum plaid yng Nghymru ar lefel Ewropiaidd - mae UKIP yn tynnu ar beth o'r bleidlais Lafur - ac mae eu peirianwaith wedi datgymalu mewn rhannau eang o'r wlad.  Serch hynny mae'n rhesymol cymryd y byddan nhw llawer cryfach nag oeddynt yn 2009 - yn y 30au o ran canran eu pleidlais.  Os felly maent yn debygol iawn o gael dwy sedd, ac mae rhywun arall am golli eu sedd.

Mae pol YouGov diweddar wedi awgrymu y byddai Llafur yn cael dwy sedd gyda Phlaid Cymru neu UKIP yn colli eu sedd.  Rwyf wedi egluro pam fy mod yn credu bod y canfyddiad hwnnw yn wallus yma.  Ar yr olwg gyntaf mae sefyllfa'r Toriaid yn ymddangos yn weddol saff - mae'r pol YouGov yn rhoi 20% o'r bleidlais iddynt ac mae eu pleidlais wedi bod o gwmpas y 20% ym mhob etholiad Ewrop ers 1994.  Serch hynny - fel rydym wedi trafod o'r blaen - mae'r Toriaid wedi cael cryn drafferth mewn is etholiadau lleol ac yn is etholiad Ynys Mon i gael eu pleidlais allan.  Parhaodd y patrwm hwnnw yn is etholiad Betws yn Rhos ddydd Iau.

Y tro diwethaf i'r Toriaid fod mewn grym a bod a ffigyrau polio (lefel San Steffan) yn y 30au cynnar oedd yn ystod etholiad Ewrop oedd yn 1994.  14.6% o'r bleidlais gawsant yng Nghymru bryd hynny - ac roedd honno'n etholiad lle nad oeddynt yn gorfod ymladd efo UKIP am bleidleisiau.

Mae'n anodd iawn gweld UKIP yn cael llai na'r 12.8% a gawsant o'r blaen ag ystyried eu ffigyrau polio cyffredinol, y sylw maent yn ei gael a diflaniad y BNP.  Yn wir mae'n debygol o gael cryn dipyn mwy na hynny - a bydd hynny ar draul y Toriaid i raddau helaeth.

Does yna ddim rheswm arbennig i ddarogan cwymp  ym mhleidlais y Blaid chwaith - mae wedi
 llwyddo i gael ei chefnogwyr allan mewn is etholiadau cyngor a chafodd fuddugoliaeth ysgubol yn
Ynys Mon y llynedd.  Ar ben hynny mae pleidleiswyr y Blaid yn hanesyddol yn well na phleidleiswyr y bedair plaid unoliaethol am ddod allan i bleidleisio - rhywbeth amrhisiadwy mewn etholiad sydd a chyfradd isel o bobl yn pleidleisio ynddi.

Cawn weld mewn can niwrnod beth fydd y canlyniad - ond a chymryd safbwynt y Blaid am funud mae gennym pob rheswm i fod yn obeithiol o gadw'r sedd - os daw'r bleidlais graidd  allan byddwn yn ei chadw.  Does yna ddim rheswm o gwbl i feddwl na fydd hynny'n digwydd.




Monday, February 10, 2014

Etholiadau Ewrop 2009 - etholaeth wrth etholaeth

Diolch i @election_data am ddarparu'r daenlen isod.  Mae'n dangos pleidlais a chanran pleidleisiau'r prif bleidiau gwleidyddol ym mhob etholaeth.  Ceir ambell i 'ganlyniad' digon anisgwyl.



Sunday, February 09, 2014

Cyflogau uwch swyddogion yng Nghymru

Cael y linc yma i adroddiad ar daliadau uwch swyddogion ar gyrff cyhoeddus gan swyddfa archwilio Cymru wnes i wrth fynd trwy flog penigamp Cneifiwr.  Mae'r pwnc yn un o gryn ddiddordeb yn stod cyfnod pan mae cyflogau y rhan fwyaf o bobl yn y sector gyhoeddus wedi ei rewi i bob pwrpas ers blynyddoedd.  Felly dwi wedi cymryd rhai o'r tablau o'r adroddiad er mwyn cyfleu  faint mae rhai o'r bobl yma yn ei ennill.

Dylid nodi bod y tablau wedi dyddio ychydig - 'dydi ffigyrau 2013 / 14 ddim ar gael.








Friday, February 07, 2014

Sut i lenwi tudalen papur newydd efo dim

Os ewch chi i dudalen 7 o'r rhifyn cyfredol o'r Cymro mi welwch chi bennawd cwbl gamarweiniol ynghyd a  nifer o sylwadau sy'n cefnogi canfyddiad hollol ddi dystiolaeth Karen Owen ynglyn a'r berthynas rhwng dosbarth cymdeithasol a shifft ieithyddol.  Mae'r dudalen yn un ryfedd a dweud y lleiaf.

Ceir dyfyniadau sydd wedi eu priodoli i dri unigolyn sydd wedi eu henwi - yr efeilliaid Owen gwerinol o Fon - Gwilym a Tudur ac Arthur Thomas sy'n 'sgwennu colofn wythnosol i'r Cymro a llwyth o bobl sy'n fodlon rhannu gwybodaeth am y trefi neu bentrefi maent yn byw ynddynt efo ni yn ogystal a'u gwaith.  Am rhyw reswm dydan ni ddim yn cael gwybod beth ydi eu henwau.

Rwan mae'r blog yma yn caniatau sylwadau anhysbys - ond mae'n amlwg bod problemau efo cyhoeddi sylwadau gan bobl sydd ddim yn fodlon rhoi eu henwau.  Y broblem fwyaf ydi nad ydym yn gwybod os ydi'r cyfryw bobl yn bodoli mewn gwirionedd.  Dydi'r darllenwr ddim yn gwybod os mai un person sydd wedi sgwennu'r holl sylwadau - yn wir dydi darllenwyr Y Cymro methu hyd yn oed bod yn hollol siwr nad Karen Owen sydd wedi 'sgwennu'r cwbl lot a phriodoli amrediad cytbwys o swyddi dosbarth canol a lleoliadau daearyddol iddyn nhw -  nid fy mod yn awgrymu am eiliad mai dyna sydd wedi digwydd wrth gwrs.  Mewn geiriau eraill mae sylwadau di enw o'r fath yn gwbl ddiwerth.

Mae'n ddadlennol hefyd nad ydi'r un o'r sylwadau yn mynd i'r afael a'r hyn a fynegwyd gennyf yma, yn Golwg ac ar Radio Cymru - sef bod y dystiolaeth ystadegol yn dangos yn glir bod yr iaith yn gwneud yn well mewn cymdogaethau dosbarth gweithiol lle mae nifer sylweddol o bobl o ddosbarth proffesiynol yn byw o fewn tafliad carreg, na mewn ardaloedd unffurf ddosbarth gweithiol. Rhan o deitl yr erthygl ydi 'mae'r drafodaeth yn parhau' - ond ymarferiad mewn gyrru'r ddadl rownd a rownd mewn cylchoedd a geir mae gen i ofn.

Meddyliwch am funud bod Karen, Gwilym a Tudur Owen ac Arthur Thomas yn credu bod y Byd yn gyfangwbl fflat.  Meddyliwch wedyn bod rhywun yn dweud nad ydi hyn yn wir am bod llongau a 'ballu yn mynd rownd y Byd yn rheolaidd, a bod llwyth o sylwadau di enw yn llenwi tudalen o'r Cymro yn cefnogi eu sylwadau tra'n anwybyddu'r gwirionedd anghyfleus bod pob tystiolaeth wrthrychol yn profi bod y Byd yn sffer.

Rhywbeth tebyg sy'n digwydd yma - 'dydi ailadrodd rhywbeth trosodd a throsodd a throsodd gan bobl sydd ddim am ddatgelu eu henwau ddim  yn ei wneud yn wir.


Wednesday, February 05, 2014

Cymry Cymraeg a chyflogaeth

Diolch i Hywel M Jones unwaith eto am y linc i siart rhyngweithiol mae wedi ei baratoi.

 Y Gymraeg yn ol ward a diwydiant ydi'r pwnc y tro hwn.  

'Dwi'n pastio ambell i siart, ond gellir gweld rhyw ward yng Nghymru trwy ddilyn y linc.   








Tuesday, February 04, 2014

Ar ymddeoliad Ann Clwyd

Dydi o ddim yn syndod mawr bod Ann Clwyd yn rhoi'r ffidil fel aelod seneddol Cwm Cynon.  Petai wedi sefyll mae'n debyg y byddai'n 85 oed erbyn diwedd y senedd nesaf.  Fel ym mhob achos lle ceir ymddeoliad wedi cyfnod hir o wasanaeth mae yna ganmol mawr ar y ddynas.  Beth bynnag ei rhinweddau mi fydd hi wedi ei chysylltu tra bydd byw - a wedyn -  efo ymgyrch bropaganda Blair a Campell i fynd a'r DU i ryfel anghyfreithlon yn Irac.

Yn ystod yr amser pan roedd pob math o gelwydd yn cael eu rhaffu - bod Irac yn paratoi arfau niwclear, bod yr wlad yn llawn o arfau cemegol a biolegol, bod taflegrau gan Irac a allai gael eu tanio at y DU mewn tri chwarter awr, bod a wnelo'r wlad ag ymysodiadau 9/11, bod llwyth o awerynnau di beilot gan Irac yn barod i ledaenu nwyon gwenwynig tros bawb ac ati -  roedd Ann yn gefnogwraig llafar iawn  - os nad hysteraidd - i'r ymyraeth anghyfreithlon.  Yn wir roedd ganddi ei stori liwgar os bisar ei hun i'w daflu ganol y grochan celwydd - roedd rhywun wedi dweud wrthi bod gan Saddam shredar pobl.  Dwi ddim yn tynnu coes.  Roedd o'r farn bod  Saddam yn taflu pobl yn fyw i mewn i shredar - traed yn gyntaf er mwyn iddynt weld beth oedd yn digwydd - i bwrpas eu troi'n fwyd pysgod.

Beth bynnag - arweiniodd y cymysgedd rhyfedd o gelwydd at ryfel, ac arweiniodd y rhyfel a'r anhrefn a ddilynodd y rhyfel at farwolaeth rhwng 110,000 a 650,000 o bobl.  43,000 o sifiliaid Prydeinig a laddwyd yn ystod y Blits yn 1940 / 1941.

Rhag ofn eich bod yn poeni y bydd Ann yn diflanu o fywyd cyhoeddus, mae'n ddigon posibl y bydd yn cael ei gwobreuo am ei gwasanaethau trwy gael lle yn Nhy'r Arglwyddi.  

Saturday, February 01, 2014

Charles Windsor a gwyddoniaeth

Mae yna rhywbeth hynod o ddigri deall bod Charles Windsor yn tantro bod y sawl sydd yn amheus ynglyn a chynhesu byd eang o anwybyddu gwyddoniaeth. Mae'n fwy digri nodi bod y cyfryngau yn adrodd y stori yma heb gyfeirio at yr eliffant wrth ddrws Mr Windsor.  Mae'r dyn wedi defnyddio pob platfform sydd ar gael iddo - ac mae yna lawer o rai cyhoeddus a chudd - i geisio gorfodi'r trethdalwr i ariannu cyfres o  ffads 'meddygol' nad oes yna unrhyw dystiolaeth gwyddonol o gwbl i'w cefnogi.

Gwnaeth ei farn tuag at wyddoniaeth yn glir pan gafodd (am rhyw reswm neu'i gilydd) y cyfle i draddodi Araith Reith yn y flwyddyn 2,000.

It is only recently that this [religious] guiding principle has become smothered by almost impenetrable layers of scientific rationalism.  I believe that if we are to achieve genuinely sustainable development, we will first have to rediscover, or re-acknowledge a sense of the sacred in our dealings with the natural world, and with each other.

Yn wir mae Charles Windsor wedi mynd cyn belled a dweud ei fod yn 'falch' o gael ei alw'n elyn i'r Oleudigaeth.  

Ymysg y cymysgedd rhyfedd o mymbo jymbo mae'r dyn wedi eu hargymell tros y blynyddoedd ceir osteopathy, homeopathy, Ayurvedic medicine, acupuncture a  Gerson Therapy, Yn wir sefydlwyd rhywbeth o'r enw y Foundation for Integrated Health ym 1993 i hyrwyddo'r gwahanol feddygyniaethau amheus sydd o ddiddordeb i Charles, cyn gorfod dod i ben yn 2010 yn dilyn sgandal oedd yn ymwneud a thwyll  ariannol.

Mae Mr Windsor hefyd  yn gwneud elw personol o werthu gwahanol feddyginiaethau nad oes yna dystiolaeth eu bod yn gweithio.  Efallai eich bod eisiau prynu Organic Baby Hamper am £195 er enghraifft, neu ddad wenwyno eich perfedd efo rhywbeth neu'i gilydd mae Charles wedi cael Waitrose a Boots i'w werthu ar ei ran - er nad oes yna unrhyw dystiolaeth bod y corff dynol angen cymorth i gael gwared o wenwyn.

Mae gwyddoniaeth yn iawn yn ei le - ar yr achlysuron prin hynny pan mae'n cefnogi daliadau Mr Windsor - ond mae'n rhywbeth i'w anwybyddu a'i feirniadu ar yr achlysuron llawer mwy niferus pan nad yw'n cefnogi ei syniadau bach rhyfedd.