Wednesday, November 30, 2016

Y diweddaraf o grwp gwleidyddol mwyaf boncyrs Cymru

Dwi'n rhyw ymfalchio bod yr hyn sy'n ymddangos ar Flogmenai yn ffeithiol gywir - yn arbennig felly yn yr oes ol wirionedd sydd ohoni.  Ond mae gen i ofn ei bod yn fwy na phosibl y byddaf yn cael pethau'n anghywir heno - mae'n uffernol a anodd cadw i fyny efo'r anhrefn rhyfeddol sydd wedi amgylchu grwp Llafur Caerdydd am gyfnod o flynyddoedd.

Reit, beth am geisio cofio pawb sydd wedi gadael y grwp Llafur yng Nghaerdydd?   Mae Sue White wedi mynd ddoe gan wneud honiadau o hiliaeth a bwlio yn erbyn y grwp, tra bod Manzoor Ahmed wedi mynd heddiw gan wneud honiadau o hiliaeth yn erbyn ei blaid.  Mae Ralph Cook wedi ymuno efo'r Blaid Werdd, tra bod Gretta Marshall wedi ymuno a Phlaid Cymru.  Wedyn mae Siobhan Corria, Cerys Furlong, Luke Holland a Phil Hawkins wedi ymddiswyddo hefyd.  Gwaharddwyd Keith Jones am gyfnod hefyd.

Ychwaneger at hyn oll bod o leiaf ddwy ymgais wedi eu gwneud gan aelodau'r grwp i gael gwared o'r arweinydd Phil Bale, bod cynghorwyr Llafur yn tantro ar ei gilydd yn siambr y cyngor ac ar wefannau cymdeithasol.

Os dwi wedi anghofio rhywbeth, dwi'n siwr y bydd rhywun yn fy rhoi ar ben ffordd.

Tuesday, November 29, 2016

Mwy am helynt adleoli pencadlys S4C

Yn ol at y stori S4C mae gen i ofn.  

Mae yna un neu ddau o drydarwyr - @SeimonBrooks ac @Dilys Davies ymhlith eraill wedi bod yn trafod y mater heddiw.  Hefyd mae Simon Thomas AS wedi gofyn cwestiwn i Ken Skates yn y Senedd heddiw. Mae'r stori'n un gweddol gymhleth, ac mae yna sawl elfen iddi hi - a dydi hi ddim yn amlwg bod neb wedi gwneud dim o'i le.  

Serch hynny mae yna broblem - ac mae'n troi o gwmpas y ffaith bod y cynllun i fod yn gost niwtral - ond ein bod yn gwybod i Goleg y Drindod wneud o leiaf ddau gais am grant - y naill gan Ewrop a'r llall gan y Cynulliad - i ariannu'r cynllun.  Mae hyn yn ei dro yn esgor ar ddwy broblem arall.  Yn gyntaf dydi gwneud cais am grant ddim yn golygu y bydd y cais yn cael ei dderbyn o anghenrhaid, felly mae amheuaeth ynglyn ag i ba raddau roedd cynllun Coleg y Drindod wedi ei adeiladu ar seiliau ariannol cadarn yn y lle cyntaf.  Yn ail 'dydi hi ddim yn glir os oedd dealltwriaeth y ddau gorff ymgeisiodd i gael croesawu pencadlys S4C yn dehongli'r term 'cost niwtral' yn yr un ffordd.

Beth bynnag dyma'r cwestiynau sydd angen eu hateb er mwyn darganfod faint o broblem sydd yna mewn gwirionedd.  Os oes rhywun efo cwestiwn arall (call) gadewch o yn y dudalen sylwadau - dwi'n fwy na pharod i'w gyhoeddi.


Cwestiynau i S4C:

1). Ymddengys mai darpariaeth 'cost niwtral' oedd un o brif feini prawf ar gyfer arfarnu'r ceisiadau.  Oedd 'cost niwtral' yn cyfeirio at gost i S4C 'ta'r gost i'r pwrs cyhoeddus?

2). A wnaed yn glir yn y canllawiau a anfonwyd i'r ymgeiswyr beth yn union oedd 'cost niwtral' yn ei olygu?  

3). Oedd S4C yn ymwybodol o'r cychwyn mai trwy wneud cais am grantiau yr oedd Coleg y Drindod yn bwriadu ariannu eu cynllun?

4). Os felly, oedden nhw'n hapus bod trefniadau amgen gan Coleg y Drindod os nad oedd eu ceisiadau am grantiau'n cael eu caniatau?

5). Roedd S4C mewn cyfarfod efo Cyngor Sir Caerfyrddin a Choleg y Drindod ble cyfeirwyd at gais am grant o Ewrop ym mis Ebrill 2015.  Faint cyn hynny oedden nhw'n gwybod bod angen gwneud cais felly.?

Cwestiynau i Ken Skates:

1). Mewn ymateb i gwestiwn yn gynharach heddiw gan Simon Thomas dywedodd Ken Skates hyn - Up to £6m of extra cash has been requested for the Carmarthen building, BBC Wales revealed last week.  At beth mae'r gair 'extra' yn cyfeirio?

Cwestiynau i Goleg y Drindod.

1). Gwnaed cais gan Coleg y Drindod am grant o gyfeiriad Ewrop i ariannu Canolfan Egin y llynedd.  Cais am faint oedd o, ac oedd y cais yn llwyddiannus?

2). A wnaed yn glir yn y cais gwreiddiol i S4C mai trwy wneud ceisiadau am grantiau am bres cyhoeddus y byddai'r cynllun yn cael ei ariannu - o leiaf yn rhannol?  

3). Oedd yna drefniadau amgen mewn lle i ariannu'r cywaith?

4). Os oedd trefniadau felly mewn lle, a wnaed yn glir i'r sawl y gwnaethwyd cais am grant iddynt bod Coleg y Drindod efo trefniadau eu hunain i ariannu'r cywaith os oedd angen gwneud hynny?

5). Sawl cais sydd wedi ei wneud am grantiau, a faint o bres sydd wedi ei godi?

6). Pa ganran o gost y cynllun y rhagwelir fydd yn cael ei ariannu trwy grant?  

Monday, November 28, 2016

Ynglyn ag ad leoli S4C

Dwi'n gwybod fy mod yn mentro swnio'n blwyfol, ond dwi'n meddwl y byddai'n well i mi ddweud pwt am saga ad leoli S4C i Gaerfyrddin.  Bydd darllenwyr Blogmenai yn cofio i'r sianel - yn dilyn edrych yn bryddglwyfus ar ei botwm bol ar ol colli cyllid a gwylwyr - benderfynu ystyried adleoli ei phencadlys yn nes at ei chynulleidfa.  Cafwyd cais gan Coleg y Drindod i gartrefu'r sioe yng Nghaerfyrddin, a gan Cyngor Gwynedd i'w chartrefu yng Nghaernarfon.  

Wedi  dipyn o bendroni penderfynwyd ar Gaerfyrddin.  Roedd hyn yn dipyn o syndod i rai ohonom - mae Gaernarfon yn ganolfan i gwmniau teledu beth bynnag tra nad ydi hynny'n wir am Gaerfyrddin, mae mwy o gynulleidfa S4C yn byw yn ardal Caernarfon nag ardal Caerfyrddin a gan bod Caerfyrddin mor agos at Gaerdydd doedd dim rhaid i weithwyr y sianel fynd ar gyfyl cynulleidfa S4C.  Gellid neidio i'r car ym Mhontcanna a neidio allan yng Ngholeg y Drindod yn y bore, a gwneud yr un peth o chwith ar ddiwedd y diwrnod.  Nid oedd rhaid i neb fynd trwy 'r sioc ddiwylliannol o ddod wyneb yn wyneb a'r gynulleidfa.

Yn ol colofn orfoleddus gan Gwilym Owen yn Golwg ar y pryd, roedd cais Coleg y Drindod yn llawer gwell nag un Gwynedd - a dyna pam y penderfynwyd symud yno.  Yn wahanol i Gwilym - debyg - ni welais y ceisiadau, felly roedd rhaid rhyw dderbyn mai ansawdd y ceisiadau oedd y rheswm tros y dewis rhyfedd.  Ond, ymddengys bellach nad oes gan Coleg y Drindod ddigon o bres i gartrefu S4C, ac maent am i Lywodraeth Cymru lenwi'r bwlch.  

Rwan, beth am atgoffa ein hunain o eiriau Prif Weithredwr y sianel ddwy flynedd yn ol:

Yn gyffredinol, roedd Awdurdod y Sianel wedi dweud y byddai angen i gynllun adleoli fod yn fuddiol i’r gwasanaeth ac yn gost-niwtral dros gyfnod.  Hefyd roedd yr Awdurdod yn glir am ei ofyniad i sicrhau bod modd creu manteision ieithyddol, diwylliannol ac economaidd.  Roedd nifer o feini prawf agored wedi’u cyhoeddi yn seiliedig ar y gofynion hyn, ac yng ngholeuni’r meini prawf hynny y cafodd y penderfyniad terfynol ei wneud.

Mae yna ddau fater yn codi o hyn.  Yn gyntaf mae'n amlwg bellach nad ydi cais Caerfyrddin yn gost niwtral, felly mae'n methu un o'r meini prawf.

Mae'r ail yn dod a ni 'n ol at ansawdd y ceisiadau.  Mae'n hawdd i unrhyw ffwl lunio cynllun sy'n edrych yn dda os nad yw'n gorfod talu amdano fo i gyd.  Mae'n fwy o gamp llunio cais o ansawdd sydd wedi ei gostio'n gywir.  

Mae'n weddol amlwg - os ond o ran tegwch naturiol - y dylid edrych ar y mater o'r newydd.


Friday, November 25, 2016

Ymlaen i'r gorffennol

Yn ol yn oes yr arth a'r blaidd pan oeddwn i'n y coleg roedd yn beth gweddol gyffredin i bobl ar y Chwith gyfeirio at eu gwrthwyneb wyr fel 'ffasgwyr'.  Yn bersonol dwi pob amser wedi ceisio gwneud defnydd o'r term - mae yna ystyr penodol i'r term ac mae ei ddefnyddio y tu hwnt i'r ystyr cywir yn ffordd ddiog braidd o daflu sarhad o gwmpas y lle.  Roeddwn yn meddwl am hynny wrth ddarllen ymgais boncyrs i Daily Mail i feio mewnfudwyr am lofruddiaeth Jo Cox.


Mae'r tirwedd gwleidyddol wedi newid yn ddiweddar - ac mae wedi newid yn sylweddol.  Meddyliwch mewn gwirionedd.  Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae cyfryngau prif lif - ac nid eithafwyr ar lein yn unig fel @AubelFelix a @DavidJo2951945 - wedi bod yn ymosod ar farnwyr yn yr Uchel Lys am ddehongli'r gyfraith - eu priod waith, wedi bod yn tynnu sylw at rywioldeb un ohonynt, wedi bod yn ymosod ar y OBR am wneud ei waith a chynghori'r llywodraeth ynglyn a'r rhagolygon cyllidol, wedi cwestiynu didwylledd asiantaethau ymchwil annibynnol, wedi cael eu hunain mewn cyflwr agos at hysteria oherwydd bod Senedd y DU yn cael trafod gweithredu Erthygl 50.

Ychwaneger at hynny yr ymysodiadau dyddiol bron ar fewnfudwyr ac ymgeiswyr lloches, y cam riportio  (neu'r dweud celwydd) dyddiol,o wleidyddiaeth yr Alban a'r ymysodiadau mynych digon anymunol ar arweinydd y wlad honno.

Mae anoddefgarwch tuag at ryddfrydiaeth, trefn ddemocrataidd a phrosesau cyfreithiol yn nodweddiadol ffasgaeth glasurol.  Felly hefyd yr arfer o feio grwpiau lleiafrifol am pob drygioni, y gred yn uwchraddoldeb y genedl, casineb tuag at grwpiau 'elitaidd ', y gred bod y person cyffredin yn cael ei gam drin gan rymoedd rhyngwladol a grwpiau lleiafrifol a'r ddrwgdybiaeth o ddeallusion.  Felly hefyd yr arfer o gynnig atebion syml a chwrs i broblemau cymhleth.  Mae'r oll o'r uchod yn gyfarwydd iawn i ddarllenwyr papurau fel y Mail a'r Express heddiw. 

Ymddengys bod rhai o'n papurau dyddiol yn dychwelyd at eu gwreiddiau.  Mae gan y Mail hen hanes hir o gefnogi'r Dde eithafol -  Hitler, Mussolini, Franco a'r weinyddiaeth apartheid yn Ne Affrica.  Roedd golygyddion y papur hefyd yn casau Iddewon oedd yn ffoi oddi wrth Natsiaeth yn y 30au yn union fel mae golygyddion y papur heddiw yn casau ffoaduriaid o'r Dwyrain Canol.



Un o'r pethau mwy anymunol am y sefyllfa sydd ohoni ydi ei bod yn llygru a gwyrdroi'r ffordd mae'r Dde, barchus, resymol yn meddwl.  Mae'r Blaid Doriaidd wedi symud yn amlwg i'r Dde ers Brexit a rydym yn cael ei gwleidyddion yn dechrau ymddwyn fel ffasgwyr - er enghraifft Glyn Davies yn mynegi nad oedd yn gallu ymddiried mewn academyddion i gynnig sylwebaeth ar Fesur Cymru oherwydd nad oes ganddynt ddigon o brofiad o 'fywyd go iawn', a'r cynghorydd hwnnw a drefnodd ddeiseb i alw am wneud gwrthwynebu gadael yr Undeb Ewropiaidd yn anghyfreithlon. 

Does yna ddim byd newydd o dan haul.




Wednesday, November 23, 2016

Jac yr Undeb yn ymddangos - ac yn diflanu

Mae'n debyg gen i y bydd darllenwyr Blogmenai yn ymwybodol o'r holl Jacs yr Undeb sy'n ymddangos ar becynnau bwyd.  Cwmniau masnachol sy'n ceisio cymryd mantais o 'r don o genedlaetholdeb Prydeinig  / senoffobia (mae'n anodd gwahaniaethu rhwng un a'r llall weithiau) sy'n sgubo tua'r lan ar hyn o bryd.  Mae cwmniau masnachol yn dda iawn am gymryd mantais o unrhyw beth i helpu gwerthu eu stwff.


Mae'n debyg na fydd o lawer o gysur deall bod y faner yn diflanu o rhywle arall - oddi ar becynau bwyd  yn Ewrop.  Baner Iwerddon yn unig sydd wrth y cyfarwyddiadau Saesneg yma ar becyn pizza o'r Iseldiroedd.  


Tuesday, November 22, 2016

Y refferendwm yng Ngwynedd

Gwneud rhyw joban fach arall oeddwn i yn gynharach heddiw pan gefais hyd i'r tablau isod.  Data ydi o sydd wedi ei hel yn ystod y cyfri ar gyfer y refferendwm Ewrop yn gynharach eleni.  Cafodd y wybodaeth ei hel gan Blaid Cymru Gwynedd a Phlaid Lafur Arfon.  Yn anffodus doedd y samplu ddim mor drylwyr ag arfer, felly dydi'r wybodaeth ar gyfer pob bocs ddim ar gael.

Bydd pleidiau gwleidyddol yn monitro'r pleidleisiau yn cael eu tywallt o'r bocsus ym mhob etholiad, ond fel rheol bydd y wybodaeth a gesglir yn cael ei gadw'n gyfrinachol - mae gwybodaeth fanwl yn cynnig manteision strategol.  Ond gan na fydd yna refferendwm arall, does yna ddim pwrpas mewn cadw pethau'n gyfrinachol.

Felly - gydag ymddiheuriadau i'r sawl sydd yn anghyfarwydd a daearyddiaeth Gwynedd - dyma chi.

Meirion / Dwyfor

Arfon


Sunday, November 20, 2016

Ymateb Lee Waters i'r bygythiadau mae Leanne Wood wedi eu derbyn

Mae'r stori ynglyn a'r bygythiadau ar lein i LeanneWood wedi ennyn ymateb rhyfeddol gan Aelod Cynulliad Llafur Llanelli, Lee Waters.





Mewn esiampl eithriadol o whataboutery mae Lee yn cyhuddo Aelodau Cynulliad Plaid Cymru o wneud yr un peth.  Bydd y sawl sydd wedi darllen y stori am Leanne yn ymwybodol iddi dderbyn bygythiadau o gael ei saethu a'i threisio.  Yn anffodus mae Lee yn gwrthod ymhelaethu nag egluro yn lle yn union y gellir dod o hyd i'r negeseuon sarhaus gan aelodau Cynulliad Plaid Cymru.  Tri eglurhad y gallaf feddwl amdanynt a bod yn onest.

1). Nad ydi'r negeseuon yn bodoli a bod Lee yn dweud celwydd.
2). Bod y negeseuon yn wir yn bodoli.  Y broblem efo'r eglurhad yma ydi petai'n wir byddai'n sgandal wleidyddol o'r radd flaenaf, ac mae'n anhebygol iawn mai Lee yn unig fyddai wedi sylwi ar y negeseuon.  Yn ychwanegol at hynny ni fyddai Lee'n cael unrhyw drafferth i gyfeirio'r sawl sy'n ei holi at y negeseuon sarhaus.
3). Bod Lee yn ceisio cyffelybu beirniadaeth wleidyddol ohono, neu gwestiynau ynglyn ag agweddau o'r hyn mae'n ddweud - ynglyn a lle mae'n byw er enghraifft - efo bygythiadau o drais a llofruddiaeth.  

Dewisiwch chi pa un.  Dwi 'n mynd am dewis 3 dwi'n meddwl.  

Friday, November 18, 2016

Trafod goblygiadau Brexit efo Nathan Gill - o bawb

Felly mae cynrychiolwyr ffermwyr Ynys Mon wedi cyfarfod Nathan Gill - aelod Annibynnol / UKIP i drafod goblygiadau Brexit i'r diwydiant amaethyddol.  Mae amaethyddiaeth yn bwysig iawn i Ynys Mon, a bydd darllenwyr Blogmenai yn cofio i Ynys Mon bleidleisio o drwch blewyn i adael yr Undeb Ewropiaidd a bod Nathan Gill ar flaen y gad i berswadio pobl i bleidleisio i adael yr Undeb.  


Rwan dwi 'n gwerthfawrogi bod amaethwyr Mon yn poeni am oblygiadau Brexit i'w diwydiant - mae'n fygythiad marwol i'r diwydiant yng Nghymru, ond dydw i ddim yn siwr faint mae lobio Nathan Gill - gwleidydd proffesiynol lleiaf dylanwadol Cymru - yn mynd i helpu.

Yn ol y darn yn Golwg mae'r ffermwyr am gadw cymorthdaliadau amaethyddol fel ag y maent ac am sicrhau bod  cynllunio gofalus ar gyfer hynny.  Fydd gan UKIP wrth gwrs ddim rhan mewn unrhyw gynllunio Cymreig (nid bod yna dystiolaeth o fawr ddim cynllunio gan y llywodraeth ar hyn o bryd), a phetai ganddynt ni fyddai gan Nathan Gill ddim byd i'w wneud efo hynny gan iddo adael y grwp am nad oedd yn cael bod yn arweinydd.   Mae'n parhau'n aelod o grwp Ewrop UKIP - ond fydd y grwp hwnnw ddim yn cael unrhyw ddylanwad chwaith - oddi mewn i Senedd Ewrop mae'r grwp mor boblogaidd a'r Pla Du.

Mae ymbalfalu efo UKIP yn beth hynod o amheus i'w wneud beth bynnag, ond yn yr achos hwn ni allai unrhyw ddylanwad sydd gan UKIP ond bod yn hollol wrth gynhyrchiol.  

Wednesday, November 16, 2016

O diar _ _

_ _ ymddengys fy mod wedi fy atal rhag dilyn cyfri Trydar un o eithafwyr Adain Dde mwyaf adnabyddus Cymru.  Mawr yw fy ngholled.


A dim ond i ddangos pa mor effeithiol proses blocio Trydar, dyma lun o drydariad diweddaraf Felix.


Ai'r polau piniwn oedd yn gyfrifol am fuddugoliaeth Trump?

Wna i byth brofi hon - ond mae yna rhywbeth yn dweud wrthyf mai'r polau piniwn a'r consensws bod Clinton am ennill a grewyd ganddynt - oedd yn gyfrifol am fuddugoliaeth Trump.

Tra bod buddugoliaeth Trump yn ddychrynllyd, mae elfennau o'r ymgyrch y dylid eu hedmygu - yn arbennig felly'r targedu o ran gul - ond allweddol - o'r etholwyr, a'r ddisgyblaeth wrth barhau i dargedu'r bobl hynny trwy pob dim.  Caniataodd hyn i Trump ennill yr etholiad er iddo gael cryn dipyn llai o bleidleisiau na Clinton.

Mae'r hyn ddigwyddodd yn sylfaenol syml.  Gwnaeth Trump yn dda a Clinton yn wael mewn rhannau o'r penodol o'r UDA - yn yr Upper Mid West ac mewn taleithiau cyfochrog yng Ngogledd Ddwyrain yr UDA.  Mae'r taleithiau hyn yn gymharol dlawd, gyda rhannau sylweddol ol ddiwydiannol a chyda mwyafrif sylweddol o etholwyr gwyn.  Roedd Clinton yn gwneud yn dda mewn ardaloedd diogel i'r Democratiaid - California neu Efrog Newydd, neu rai ardaloedd diogel i'r Gweriniaethwyr - Georgia neu Texas er enghraifft.  Yn anhygoel mae'r bwlch rhwng y Gweriniaethwyr a'r Democratiaid yn Ohio ac yn Texas yn debyg iawn erbyn hyn.  

I gael syniad o pam mor agos oedd pethau mewn gwirionedd ystyrier y canlynol:

Roedd mwyafrif Trump yn Michegan yn 11,832, o tua 4.6 miliwn o bleidleisiau.
Roedd mwyafrif Trump yn Wisconsin yn 27,257, o tua 2.9 miliwn o bleidleisiau.
Roedd mwyafrif Trump yn Pennsylvania yn 68,228 o tua 5.9 miliwn o bleidleisiau.

Mae'r cyfanswm yn tua 107,000 neu 0.09% o'r etholwyr tros y wlad. Byddai Trump wedi colli pe na byddai wedi ennill yn y dair talaith hanesyddol Ddemocrataidd yma.  

Rwan roedd y polau yn awgrymu y byddai Clinton yn ennill o tua 3.2% erbyn y diwedd.  Daeth y cyfryngau a'r marchnadoedd betio i'r casgliad bod Clinton yn siwr o ennill yn hawdd ar sail y polau hynny.  Gallai canfyddiad felly fod wedi arwain at deimlad ymysg llawer o Ddemocratiaid nad oedd pwrpas mynd i giwio y tu allan i orsaf bleidleisio - a gallai'r ffaith bod Clinton yn ymgeisydd oedd a delwedd negyddol i lawer, a bod ei gwrthwynebydd wedi bod yn ei phardduo ar y cyfryngau yn ddyddiol am fisoedd fod wedi cryfhau'r tueddiad i beidio a thrafferthu mynd allan i bleidleisio iddi. Ychydig iawn o bobl - yn ganrannol - fyddai wedi gorfod aros adref yn Michegan, Wisconsin a Pennsylvania i wneud y gwahaniaeth rhwng ennill a cholli i'r naill ymgeisydd neu'r llall.

Os ydi ras yn agos, y peth diwethaf mae ymgeisydd ei angen ydi polau sy 'n awgrymu y byddant yn ennill yn hawdd.



Monday, November 14, 2016

Ydi 60 Aelod Cynulliad yn ddigon i bwrpas rheoli Cymru?

O edrych ar Newyddion 9 heno, ymddengys - yn ol gwr bonheddig o'r Eglwys Newydd a holwyd fel rhan o ymarferiad vox pop - bod 60 Aelod Cynulliad yn hen ddigon i bwrpas rheoli gwlad fach fel Cymru.  I bwrpas cymharu ystyrier y canlynol.

Cymru 3.06m
(60 AS).

Y DU - poblogaeth 64m
Ty'r Arglwyddi (812)
Ty'r Cyffredin (650) 
Cyfanswm (1462)

Powys 133,000 poblogaeth.
(73 cynghorydd).  

Gwynedd 122,000 poblogaeth.
(75 cynghorydd)

Yr Alban 5.3m poblogaeth.
(129 Aelod Senedd yr Alban).

Gogledd Iwerddon 1.8m poblogaeth
(108 aelod Cynulliad Gogledd Iwerddon.

Iwerddon -  4.6m poblogaeth
(156 TD)

Gwlad yr Ia - 323,000 poblogaeth
(65 Aelod Althing)

Blaenau Gwent - poblogaeth, fawr o neb.
(42 cynghorydd).


Saturday, November 12, 2016

Ynglyn a'r polau piniwn

Gan bod Dan yr Wyneb wedi gofyn i mi ddweud pwt am bolio yn sgil y methiant polio yn yr etholiad arlywyddol yr wythnos yma, a gan fy mod wedi bod yn edrych ar y pwnc yn sgil hynny waeth i mi ddweud gair neu ddau yma am y pwnc hynod gymhleth hwn.


Dyma i chi dair egwyddor i ddechrau efo nhw:

1). Mae polau piniwn pob amser yn anghywir - dydi hi ddim yn bosibl iddynt fod yn gwbl gywir gan bod yr hyn maent yn ei bolio - sef yr etholwyr sydd am bleidleisio - mewn cyflwr o newid parhaus.

2). Dydan ni ond yn poeni bod y polau'n anghywir pan maent yn darogan yr enillydd cywir (yn hytrach na'r canrannau anghywir).  Pan maent yn darogan enillydd cywir ond canrannau anghywir, rydan ni'n anghofio am y peth yn syth fwy neu lai.  

3). Mae pob cwmni polio yn torri eu bol eisiau bod yn gywir, ond mae yna rhywbeth sy'n bwysicach iddynt na bod yn gywir.  Mwy am hynny ar y diwedd.

Reit. 'ta, pam mor anghywir oedd y polau yn yr achos yma?   I ddechrau roedd y polau cenedlaethol yn gywir i'r graddau iddynt ddarogan pwy fyddai'n cael y mwyaf o bleidleisiau.  Fel rydw i'n 'sgwennu hyn mae Clinton ar y blaen o ran pleidleisiau ar draws y wlad, ac mae'r bwlch yn debygol o gynyddu gan fod y pleidleisiau sydd eto i'w cyfri yn dod o ardaloedd sy'n gefnogol i Clinton.  Collodd oherwydd ei bod wedi pentyru ei phleidleisiau mewn taleithiau megis yr arfordir gorllewinol oedd yn ddiogel iddi beth bynnag, ond colli seddi mewn ardaloedd ymylol - yn arbennig felly 'r rust belt.

Beth bynnag ar hyn o bryd mae Clinton ar y blaen o tua 0.2% - canran sy 'n debygol o dyfu.  Roedd y polau cyfartalog yn awgrymu y byddai 3.2% ar y blaen.  Felly erbyn diwedd y cyfri byddant wedi tan gyfri'r bwlch o lai na 3%.  

Roedd y polau taleithiol yn yr ardaloedd a drodd at y Gweriniaethwyr hefyd yn anghywir - ond roedd yna fwy o amrywiaeth yno nag yn y polau cenedlaethol.

Beth ddigwyddodd yn 2012?  Wel, rhywbeth tebyg mewn ffordd.  Roedd y polau cyfartalog yn awgrymu buddugoliaeth gweddol fach i Obama - o tua 0.8%, ond aeth ati i ennill yn weddol hawdd - gyda 3.8% o oruwchafiaeth.  Mewn geiriau eraill roedd y gwall polio yr un faint - neu'n fwy - na'r gwall polio eleni, ond gan bod yr enillydd wedi ei ddarogan yn gywir wnaeth yna fawr o neb boeni am y peth.

Beth am Brexit felly?  Mae yna fytholeg wedi tyfu o gwmpas canlyniad Brexit  bod y polau i gyd yn anghywir.  Mae'n wir bod y polau yn gyfartalog anghywir - ond (yn wahanol i America 2016) roedd yna ddigonedd yn awgrymu mai Gadael fyddai'n mynd a hi. Er enghraifft roedd polau olaf Opinium a TNS a phol diwethaf ond un YouGov yn awgrymu mai Gadael fyddai'n ennill o drwch blewyn.  Y marchnadoedd betio gafodd pethau'n anghywir go iawn - ac mae'n debyg bod rheswm gweddol hawdd i'w arenwi am hynny.  Roedd y polau (at ei gilydd) wedi cael canlyniad refferendwm annibyniaeth yr Alban yn anghywir yn yr ystyr eu bod wedi darogan buddugoliaeth gweddol fach i'r ochr Aros, ond bod y bwlch mewn gwirionedd yn fwy - tua 10%. Roedd hyn yn cyd fynd yn weddol dda efo hen batrwm mewn refferenda Prydeinig bod gogwydd munud diwethaf tuag at y status quo.  Wnaeth hyn ddim digwydd y tro hwn - am resymau rydym eisoes wedi cyfeirio atynt yn y blog - ac o ganlyniad cafodd y marchnadoedd betio bethau'n anghywir, a chollodd lawer iawn o bobl lawer iawn o bres.  

Y camgymeriad polio mwyaf enwog yn ystod fy mywyd i oedd y polio yn yr wythnosau cyn etholiad cyffredinol 1992. Roedd disgwyliad clir y byddai Plaid Lafur Kinnock yn ennill buddugoliaeth glir ond cul, neu o leiaf yn cael digon o bleidleisiau i fod y blaid fwyaf yn San Steffan.  Cafodd Toriaid John Major fuddugoliaeth  gyfforddus a chafodd y diwydiant polio sesiwn hir o syllu'n bruddglwyfus ar ei fotwm bol.  Ac ar ol syllu am hir daeth i ganlyniad - bai y sawl oedd yn cael eu polio oedd pob dim - nid bai y polwyr.  Roedd yr etholwyr yn dweud celwydd wrth y cwmniau polio.  Felly crewyd y (yn fy marn i) myth o'r Tori swil - rhywun oedd yn pleidleisio i'r Toriaid, ond oedd a gormod o gywilydd o'r ffaith i gydnabod hynny i gwmni polio.  Newidwyd y fethodoleg i gymryd i ystyriaeth y Tori swil.

A wele cafwyd llwyddiant ysgubol yn etholiad cyffredinol 1997 - roedd y polau i gyd yn dweud bod Blair am ennill, ac roeddynt yn gywir.  Ond wedyn roedd y cwn ar y palmentydd yn gwybod bod Blair am ennill bryd hynny.  O graffu ar y ffigyrau roedd record y cwmniau polio yn llai na gwych.  O'r 82 pol piniwn a gymerwyd cyn yr etholiad yn ystod 1997 llwyddodd 80 ohonyn nhw i or gyfrifo'r bleidlais Lafur - rhai ohonyn nhw o filltiroedd.  Roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw yn rhoi 50%+ i Lafur, er mai 43.2% yn unig oedd eu pleidlais ar y diwrnod.  Felly er gwaetha'r addasu methodoleg i gymryd y Tori swil i ystyriaeth, roedd y cwmniau polio ymhellach o gael eu canrannau yn gywir nag oeddynt yn 2012 - ond gan bod yr enillydd wedi ei ddarogan yn gywir, wnaeth neb boeni rhyw lawer am y peth.

Ac wedyn dyna i ni etholiad cyffredinol 2015 - methiant polio arall.  Roedd y polio yn fwy cywir o lawer na 1997  o ran darogan canranau canlyniadau, ond roedd yn anghywir o ran darogan yr enillydd. Roedd y gwendid mawr yn y polio yn debyg i'r hyn ddigwyddodd yn 1997 a 1992 - gor gyfrifo'r bleidlais Lafur, ac fel 1992 roedd y gwall yn ddigon i sicrhau bod yr enillydd wedi ei ddarogan yn anghywir.  Y disgwyl oedd y byddai yna senedd grog, gyda Llafur yn ennill mwy o seddi, os nad mwy o bleidleisiau.  Unwaith eto bu wylofain ac ysgyrnygu dannedd yn y diwydiant oherwydd i'r canlyniad gael ei alw'n anghywir.

Rwan, efallai fy mod i'n cymryd y diwydiant polio ychydig yn ysgafn - mae yna fodelu soffistigedig iawn ar waith ganddynt - maent byth a hefyd yn newid eu methodoleg ac addasu eu pwysiadau i geisio adlewyrchu'r boblogaeth pleidleisio - ond yn y diwedd maen nhw'n ceisio gwneud rhywbeth amhosibl - creu llun llonydd o lun sydd mewn gwirionedd yn newid yn barhaus.  Os nad ydi etholiad yn agos maen nhw am alw etholiad yn gywir pob tro.  Os ydi hi'n agos, maen nhw am gael pethau'n anghywir weithiau - traean yr amser o bosibl.  Rhaid derbyn hynny.

Ac un peth bach cyn gorffen - mae yna batrwm sydd wedi hen sefydlu mewn polio - sef bod y polau yn dod yn nes at ei gilydd tuag at ddiwedd ymgyrch etholiadol.  Mae yna reswm am hyn - mae rhai o 'r cwmniau polio yn dechrau copio methodoleg ei gilydd.  

I lawer o gwmniau polio, PR ydi polio gwleidyddol mewn gwirionedd - maent yn gwneud eu bara menyn gyda pholio masnachol. Byddai canlyniad cywir iawn i ddigwyddiad proffil uchel megis etholiad yn dod a busnes masnachol i'r cwmni.  Felly byddai unrhyw gwmni wrth eu bodd petaen nhw fyddai'r unig gwmni i ddarogan etholiad yn gywir.   

Ond byddai cael canlyniad anghywir sy'n waeth na chanlyniad pawb arall yn beth gwael iawn - ac os ydi cwmni yn cael canlyniadau sy'n wahanol i bawb arall mae'n debygol - er nad yn sicr o bell ffordd - mai nhw sy 'n anghwir.  Felly mae yna banig cyn etholiad os ydi canlyniadau cwmni ymhell ohoni, ac mae yna boetsian efo'r fethodoleg.  Mae hyn yn arwain at gywasgu canlyniadau - ac mae hynny yn y pen draw yn debygol o arwain at lai o gywirdeb, nid mwy.

Thursday, November 10, 2016

Buddugoliaeth Trump - ambell i wers

Roedd buddugoliaeth Trump yn anisgwyl - yn sicr o safbwynt y polau a'r marchnadoedd betio.  Ond digwyddodd mewn cyfnod lle - o safbwynt gwleidyddiaeth beth bynnag - mae'r anisgwyl yn ddisgwyledig.  Mae yna wersi etholiadol i'w cymryd o hyn oll - rhai ohonyn nhw'n ddigon anghyfforddus.  Beth am gael cip ar ambell i fyth sydd wedi ei chwalu'n ddiweddar.  

1). Dydi ymgyrchu negyddol ddim yn gweithio.  Roedd ymgyrch y ddwy ochr yma'n hynod o negyddol, ond yr ymgyrch fwyaf negyddol oedd yn fuddugol.  Roedd hyn yn gweithio'n bennaf oherwydd  bod ymgyrchu negyddol gan un ochr yn llusgo pleidlais yr ochr arall i lawr.  Er i Clinton gael mwy o bleidleisiau na Trump cafodd lai o lawer nag Obama - ac mi gafodd Trump lai na Romney.  Mae patrwm wedi cael ei hen sefydlu bellach bod yr ochr mwyaf negyddol yn ennill ymgyrch etholiadol - meddylier Brexit, refferendwm annibyniaeth yr Alban, Etholiad Cyffredinol 2015 er enghraifft.  Dydi hyn oll ddim yn golygu bod ymgyrchu negyddol yn well nag ymgyrchu cadarnhaol pob tro - ond mae'n sicr yn wir nad ydi ymgyrchu cadarnhaol yn well nag ymgyrchu negyddol pob tro.

2). Mae'n rhaid bod yn wleidyddol gywir i lwyddo'n etholiadol.  Dydi dweud pethau hiliol, secteraidd, anweddus, ffiaidd neu idiotaidd ddim o anghenrhaid yn ei gwneud yn amhosibl i rhywun gael ei ethol hyd yn oed i'r swydd ddemocrataidd uchaf yn y Byd mawr crwn.

3). Mae'n rhaid meddiannu tir canol i lwyddo 'n etholiadol.  Dydi meddiannu tir canol ddim yn sicrhau llwyddiant etholiadol.  Mae Clinton yn y canol, mae Trump yn eithafol.  Mae UKIP yn gwneud yn dda yn y DU, dydi'r Dib Lems druan ddim.  Mae Hollande yn y canol, dydi La Pen ddim.  Dydi Podemos ddim ar gyfyl y canol, na'r ERC yng Nghatalonia, na SYRIZA yng Ngwlad Groeg.  Mae hegemoniaeth y pleidiau tir canol yn cilio i'r gorffennol i raddau helaeth.  Dydan ni ddim yn gwybod os y pery hynny - ond felly mae hi ar hyn o bryd.

4). Mae'n rhaid wrth beiriant etholiadol llawr gwlad i gael llwyddiant etholiadol.  Dydi cael peiriant felly yn amlwg ddim yn gwneud llawer o ddrwg - ond dydi hi ddim yn glir ei fod yn gwneud lles arwyddocaol chwaith.  Does gan UKIP ddim peiriant o unrhyw fath yng Nghymru, ond maen nhw'n cael llwyddiant etholiadol.  Roedd peiriant etholiadol Clinton yn llawer mwy nag un Trump - ond roedd Clinton hefyd yn llawer llai llwyddiannus yn cael ei phleidlais allan mewn taleithiau allweddol nag oedd Trump.

5). Mae'n rhaid wrth gefnogaeth gyfryngol i ennill.  Roedd elfennau o'r wasg ac o'r cyfryngau torfol eraill yn cefnogi Trump, ond roedd mwy o lawer yn cefnogi Clinton.  Tra ei bod yn bwysig cael cefnogaeth cyfryngol, mae bod ar yr un dudalen ag elfennau arwyddocaol o'r etholwyr yn bwysicach na'r hyn sydd wedi ei 'sgwennu ar dudalen yn y New York Times.

6). Mae'n rhaid wrth neges sy'n apelio at y rhan fwyaf o bobl.  Ychydig mwy na hanner o'r boblogaeth bleidleisiodd a lleiafrif o'r rheiny bleidleisiodd i Trump - ond pleidleisiodd digon yn y llefydd. 'cywir' iddo i sicrhau buddugoliaeth i leiafrif cymharol fach o'r boblogaeth.  Mae'n ddigon posibl ennill trwy apelio at leiafrif - cyn belled a bod y lleiafrif hwnnw yn byw yn y llefydd cywir.

6). Dydi 'r gwleidyddol dwlali ac eithafol byth yn hapus.  Yn amlwg dydi hyn ddim yn wir chwaith.


Wednesday, November 09, 2016

Buddugoliaeth Trump - ychydig o sylwadau cychwynol

Aw!  Yr unig gysur o alw rhywbeth fel hyn yn anghywir debyg ydi bod bron iawn i'r holl gwmniau polio, y marchnadoedd betio a'r holl wybodysion.  Ond anghywir ydi anghywir am wn i.

Cawn weld tros y blynyddoedd nesaf os bydd yr enwog wal yn cael ei chodi, os bydd 14 miliwn o fewnfudwyr answyddogol yn cael eu hel adref, os bydd pob cytundeb masnach yn cael ei ail negydu (a lle bydd Prydain ol Brexit yn y ciw arbennig hwnnw), os bydd Mwslemiaid yn cael eu hatal rhag teithio i America, os bydd cyfyngu ar fasnach a gweddill y Byd yn creu cyfoeth adref am unwaith, os bydd system iechyd Obama yn cael ei ddatgymalu, os bydd America'n gadael y WTO, os bydd cytundeb Paris ar newid hinsawdd yn cael ei ddiddymu, os bydd De Corea a Japan yn cael eu hannog i gael eu harfau niwclear eu hunain, os bydd treth corfforaethol yn cael ei ostwng 20%, os y bydd Trump yn carcharu ei wrthwynebydd ac ati, ac ati.  

Ta waeth erbyn meddwl mae yna ddarn o gysur i'w gymryd o'r holl beth - ymddengys bod ein cyfeillion yn y Blaid Geidwadol Gymreig wrth eu bodd - er iddynt gadw'n sobor o ddistaw cyn i'r canlyniad gael ei ddatgan.





Mi wnawn ni hepgor y demtasiwn i chwerthin ar ben y syniad o Doriaid yn meddwl bod y sefydliad gwleidyddol yn rhywbeth sy'n ddim oll i'w wneud a nhw, a wnawn ni ddim trafferthu son gormod am y pwynt amlwg bod y ffin rhwng y Toriaid Cymreig  ac UKIP yn gyflym erydu - ond hoffwn wneud un sylw bach digon Toriaidd. 

 Mae'r rhan fwyaf o'n cyfeillion Toriaidd yng Nghymru wedi cefnogi Brexit - rhywbeth sy'n debygol o leihau masnach ryngwladol yn sylweddol.  Mae'n ymddangos bod nifer hefyd yn cefnogi Trump - ac mae ei bolisiau 'America yn gyntaf' hefyd am gyfyngu ar fasnach rhyngwladol - yn arbennig efo blociau masnachu bach fel y DU.  Mae cyfyngu ar fasnach yn arwain at grebachu economaidd - mae hynny'n dilyn fel mae dydd yn dilyn nos.  Pa fath o Dori sydd eisiau crebachu economaidd?  




Tuesday, November 08, 2016

Ydych chi eisiau dilyn etholiad arlywyddol yr UDA?

Ymddengys y gallwch wneud hynny yma fel mae'r pleidleisiau yn cael eu bwrw.  Peidiwch a gofyn i mi pa mor gywir ydi'r data mae'r wefan yn ei dyfynnu.

Ydych chi eisiau dilyn etholiad arlywyddol yr UDA?

Ymddengys y gallwch wneud hynny yma fel mae'r pleidleisiau yn cael eu bwrw.  Peidiwch a gofyn i mi pa mor gywir ydi'r wefan.

Sunday, November 06, 2016

Beth fydd yn digwydd ddydd Mawrth?

Dwi'n gwybod fy mod yn mentro gwneud ffwl ohonaf fy hun yma - ond 'dwi'n darogan y bydd Clinton yn ennill yn weddol hawdd.  Dwi'n seilio'r canfyddiad hwnnw ar yr unig beth sy'n bwysig wrth ddarogan etholiadau mewn gwirionedd - y data sydd ar gael.  Mae'r data i gyd bron yn pwyntio i'r un cyfeiriad.  Ystyrier y canlynol.

1). Mae bron i pob pol piniwn cenedlaethol yn awgrymu bod Clinton ar y blaen.  Mae yna lawer o son wedi bod am y polau a Brexit yn ystod yr ymgyrch fel petae'r polau wedi bod yn darogan y byddwn yn aros yn yr UE.  Mae hynny'n gam ganfyddiad - roedd y polio yn hynod o gymysg yn yr wythnosau cyn y refferendwm.  Mae'n wir bod y polio cyn Etholiad Cyffredinol 2015 y DU yn anghywir, ond roeddynt yn anghywir mewn ffordd cyfarwydd.  Mae gan bolau piniwn yn y DU hanes o dan gyfrifo pleidleisiau'r Toriaid.  Yn 2012 roedd y polau Americanaidd yn tan gyfrifo pleidlais Obama o tua 3% oherwydd - yn ol pob tebyg - nad ydi'r polwyr yn ei chael yn hawdd i gysylltu a rhai o gydrannau'r glymblaid sy'n gefnogwyr Democratiaid naturiol.



2). Mae'r polio taleithiol yn gymharol ffafriol i Clinton - ac mae polio taleithiol yn bwysicach na pholio cenedlaethol mewn etholiad arlywyddol.  Mae'r polio hwnnw yn rhoi mwy o gynrychiolwyr o lawer iddi hi na Trump mewn taleithiau sy'n gwbl ddiogel i'r naill neu'r llall, ac mae hi hefyd ar y blaen yn y rhan fwyaf o daleithiau ymylol.  Ond hyd yn oed os ydi Trump yn llwyddo i ennill Arizona, Iowa, Ohio, Utah, North Carolina, Florida a New Hampshire er enghraifft, dydi hynny ddim digon iddo.  Byddai'n rhaid iddo ennill yn un o'r canlynol hefyd - Pennsylvania, Nevada, Michigan, Wisconsin, Colorado, Virginia,  New Mexico neu Minnesota.  O'r rheiny dim ond yn Nevada mae'n amlwg  ar y blaen yn y polau - ond mae'n bosibl ei fod eisoes wedi colli yno oherwydd bod y pleidleisio cynnar wedi mynd yn drwm i Clinton.

3). Pleidleisio cynnar.  Mae yna gryn son wedi bod am bleidleisio cynnar trwm iawn ymysg pobl o gefndir Hispanaidd a bod fwy o ferched wedi pleidleisio na sydd o ddynion. Ond yn bwysicach mae yna fodelu wedi ei wneud o'r pleidleisio sydd eisoes wedi digwydd - er enghraifft y modelu yma gan TargetsmartRwan mae angen gair neu ddau o rybydd cyn mynd ymlaen - mae cysylltiad rhwng perchenog Targetsmart ag Obama - ond does yna ddim lle i feddwl bod y fethedoleg yn amheus, a does yna ddim fantais etholiadol mewn smalio eich bod yn gwneud yn well nag ydych mewn gwirionedd.  Mae'r ymchwil yn awgrymu bod Clinton tua 9% ar y blaen ymysg y 40m - tua thraean yr etholwyr - sydd eisoes wedi pleidleisio.  Os ydi hynny'n gywir, mae'n anhebygol iawn y gall Trump ddal i fyny ar y diwrnod.

4). Peiriant etholiadol.  Mae'n debyg bod y Democratiaid wedi buddsoddi'n helaeth i adeiladu peiriant etholiadaol tra bod y Gweriniaethwyr wedi buddsoddi eu hadnoddau (llai o lawer) ar hysbysebu ac ar symud Trump o un rhan o'r wlad i 'r llall yn anerch raliau di ddiwedd.  Mae'n debyg bod ei hymgyrch wedi cysylltu efo 7m o bobl ddydd Gwener yn unig.  Lle mae pethau'n dyn mae bod a'r gallu i gael etholwyr i bleidleisio yn hynod bwysig.  Efallai mai dyma rhan o'r rheswm pam bod Clinton yn ymddangos i fod ar y blaen yn y pleidleisio cynnar.  Os ydi Trump am ennill nifer o'r taleithiau cystadleuol, o bwynt neu ddau y bydd yn gwneud hynny.  Mae raliau yn tynnu sylw ac yn codi brwdfrydedd ymysg y sawl sydd a diddordeb mewn gwleidyddiaeth, ond y gwaith distaw o berswadio pobl sydd ond efo ychydig o ddiddordeb sy'n ennill etholiadau agos.  

Wel dyna chi - efallai y byddwch yn chwerthin ar fy mhen ddydd Mercher - ond fel yna dwi'n ei gweld hi.


Saturday, November 05, 2016

Friday, November 04, 2016

Thursday, November 03, 2016

Campwaith barddonol i sylw darllenwyr Blogmenai

Mae'n debyg y dylid cydymdeimlo efo rhai o'n cyfeillion Asgell Dde oedd am adael Ewrop cyn gynted a phosibl yn eu ing a'u gwewyr.  Ymddengys bod barnwyr Uchel Lys Prydain wedi dod i farn ynglyn a chyfraith Prydain ac wedi rhoi'r grym i ddod i benderfyniad pwysig ar ddyfodol Prydain i Senedd Prydain.  Mae hyn wedi eu ypsetio'n ofnadwy.

Ar ddiwrnod du fel hyn mae llefarydd swyddogol y Toriaid Cymreig ar pob pwnc dan haul ar y cyfryngau cyfrwng Cymraeg, Felix Aubel wedi ei ysgwyd i'w seiliau - ac wedi trydar i fynegi hynny.


Mae'r linc yn arwain at y gampwaith farddonol yma:


Dydi Felix ddim yn dweud wrthym pwy ysgrifennodd y campwaith, ond ag ystyried nad yw'n ei phriodoli i neb mae'n debyg gen i mai Felix ei hun ydi 'r awdur - ond ei fod rhy wylaidd i gydnabod hynny.  Mae'r sefyllfa drychinebus wedi esgor ar yr awen.  Ar wahan i'r cyfeiriad anffodus at De Gaulle - dyn a ymladdodd yn galed i atal y DU rhag ymuno a'r Farchnad Gyffredin er mwyn sicrhau mai hi oedd tlotyn Ewrop - dwi 'n siwr bod holl ddarllenwyr Blogmenai yn cytuno  bod y gerdd yn gampwaith - o fath.

Byddai 'n syniad gwych i Felix anfon ei gampwaith i gystadleuaeth y goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol.  Mae yna bethau hyd yn oed yn waeth wedi dod i 'r brig yn y gorffennol.  Y gorffennol pell iawn, iawn, iawn.


Canlyniad Grangetown


Canlyniad Gibbonstown

Pam bod yr ymgyrch arlywyddol yn yr UDA wedi bod mor niweidiol i ddemocratiaeth?

Tra bod yr etholiad arlywyddol yma wedi bod ar un olwg yn anodd tynnu llygaid oddi arni hi, mae hefyd wedi bod yn un uffernol o safbwynt democratiaeth yn America.  Mae hynny'n rhannol oherwydd pwy sy'n sefyll - ar ol yr holl wario a'r broses hirfaith i ddewis ymgeisyddion llwyddodd y ddwy brif blaid i ddod o hyd i ymgeiswyr gwirioneddol amhoblogaidd gyda charfanau sylweddol o'r boblogaeth.  Mae hyn yn rhannol yn adlewyrchiad ar y broses ei hun, ond mae hefyd yn adlewyrchu ar natur gwleidyddiaeth yn America ar hyn o bryd - mae wedi ei begynnu mewn ffordd sy'n afiach mewn unrhyw ddemocratiaeth - mae yna rhyw deimlad o Dde America neu Ogledd Iwerddon am yr holl sefyllfa.



Er hynny - neu efallai oherwydd hynny - mae'r etholiad ei hun wedi bod yn hynod ddinistriol.   Mae'r rhan fwyaf - er nad y cwbl - o'r bai am hynny ar Trump a'i ymgyrch.

I ddechrau dyna'r celwydd.  Mae camarwain yn anffodus yn rhan o'r ddisgwrs wleidyddol ym mhob man.  Mae hyn yn rhywbeth 'dwi'n gael yn beth hynod o ddiflas.  Dylai'r ddisgwrs wleidyddol gael ei chynnal gan ffeithiau, nid gan hanner gwirionedd ac anwiredd.  Ond mae Trump wedi mynd a'r arfer o gyflwyno gwybodaeth ffug i eithafion sy'n newydd i mi - a 'dwi wedi bod yn dilyn gwleidyddiaeth etholiadol ers mwy o amser na fyddwn i eisiau cydnabod.  Gweler yma.  

Ac wedyn dyna oslef ei ymgyrch - mae pob dim wedi ei or ddweud, ac yna wedi ei or ddweud eto - Clinton ydi'r person mwyaf llwgr yn hanes yr UDA, NAFTA ydi'r cytundeb gwaethaf yn hanes dynoliaeth, Bill Clinton ydi'r person gwaethaf ei ymddygiad tuag at ferched erioed, Obamacare ydi'r cynllun iechyd gwaethaf erioed, arlywyddiaeth Trump fydd yr un gorau erioed, perthynas America a'r Dwyrain Canol ydi'r llanast mwyaf erioed, mae Elizabeth Warren yn fethiant llwyr, Obama ydi'r arlywydd salaf erioed a fo sefydlodd ISIS, mae Ted Cruz wedi cau'r llywodraeth i lawr, mae 42% o'r boblogaeth yn ddi waith ac ati ac ati, ac ati.  

Ac wedyn mae'r ymgyrch wedi agor hen linellau anghyfforddus mewn cymdeithas Americanaidd.  Gan amlaf mewn etholiad arlywyddol bydd ymgeiswyr yn defnyddio rhethreg eithafol pan maent yn ceisio ennill yr enwebiaeth, ond yn defnyddio rhethreg mwy cymhedrol wedyn.  Rhaid apelio at yr eithafion pan mae'r etholwyr yn perthyn i un blaid, ond rhaid apelio at y canol erbyn mis Tachwedd - neu felly roedd pethau'n arfer cael eu gwneud.  Dydi Trump heb gymedroli - ac mae'r creithiau agorwyd yn ystod yr ornest am yr enwebiaeth - rhai sy'n ymwneud a gwahaniaethau ethnig a chymdeithasol - ar agor o hyd.

Ond o bosibl y peth gwaethaf ydi tueddiad yr ymgyrch i danseilio'r gyfundrefn gyfreithiol a'r system ddemocrataidd. Mae Trump yn bygwth carcharu ei wrthwynebydd yn rheolaidd, mae ei gynulleidfaoedd yn galw ar lafar am hynny yn ei raliau - fel pe na fyddai cyfundrefn erlyn cyhoeddus y. Yr UDA. Mae hefyd yn honni bod cynllwyn anferth ar waith i ddwyn yr etholiad oddi arno, ac mae hefyd yn bygwth peidio a derbyn y canlyniad.  Mae hyn oll yn fwy nodweddiadol o etholiad Trydydd Byd lle mae democratiaeth yn gysyniad newydd na gwladwriaeth sydd a diwylliant democrataidd wedi hen wreiddio ynddi.  

Yn y pen draw, pa mor bynnag gryf a hir hoedlog mae system ddemocrataidd yn ymddangos, mae'n hollol ddibynol ar bobl, a chred pobl yn ei hygrededd.  Yn y diwedd dyna sy'n bwysig - mae'n bwysicach na'r fframwaith cyfreithiol a chyfansoddiadol sy'n cynnal y drefn honno.  Mae'r ffordd mae'r etholiad yma wedi ei chynnal wedi tanseilio hygrededd prosesau democrataidd yn yr UDA - ac mae'n debygol o wneud hynny am flynyddoedd i ddod.  


Tuesday, November 01, 2016

Brexit a'r ymgyrch arlywyddol yn UDA

Gwleidyddiaeth Cymru sy'n cael sylw Blogmenai gan amlaf, ond gan fod gwleidyddiaeth yr UDA yn cael cymaint o sylw cyfryngol ar hyn o bryd dwi'n bwriadu 'sgwennu ychydig o flogiau byr ar y pwnc hwnnw - nid fy mod yn honni i fod yn arbenigwr wrth gwrs. Mi wnawn ni ddechrau efo un dipyn bach yn sensitif - y tebygrwydd rhwng cefnogwyr Trump a chefnogwyr Brexit.



Yn y bon yn y refferendwm Ewrop roedd yr addysgiedig, pobl o gefndiroedd ethnig, yr ifanc, a'r cymharol gefnog yn tueddu i bleidleisio i aros yn yr Undeb Ewropiaidd, tra bod pobl wyn sydd wedi cael llai o addysg - ac yn arbennig felly dynion - wedi tueddu'n weddol gryf i bleidleisio i adael yr Undeb Ewropiaidd.  Mae'r hollt demograffig yma'n adlewyrchu'r hyn sy'n digwydd yn America yn weddol agos.  Mae'r grwpiau demograffig sy'n pleidleisio i Clinton yn debyg i'r grwpiau demograffig a bleidleisiodd tros Aros, tra bod grwpiau demograffig Trump yn debyg i grwpiau demograffig Gadael. 

Rwan, dwi wedi clywed nifer o bobl - a phobl ddylai wybod yn well - yn honni mai mater o ddeallusrwydd ydi'r patrwm yma - bod y deallus yn pleidleisio i Clinton yn yr UDA ac i aros yn Ewrop yn y DU, tra bod yr aneallus yn pleidleisio tros Trump ac i adael Ewrop.  'Dydi'r canfyddiad yma ddim yn un arbennig o ddeallus mae gen i ofn.  

Yr hyn sy'n digwydd yn y bon ydi bod pobl sydd wedi dioddef yn sgil ail strwythuro economiau'r DU a'r UDA tros y degawdau diwethaf yn pleidleisio yn erbyn y newidiadau hynny.  Mae globaleiddio wedi symud diwydiannau cynhyrchu a mwyngloddio i'r Dwyrain, ac wedi gwneud economiau gorllewinol yn rhai sydd wedi eu hadeiladau o gwmpas diwydiannau sy'n gofyn am sgiliau 'meddal' yn hytrach na sgiliau traddodiadol.  Mae sgiliau meddal yn cael eu dysgu mewn coleg yn hytrach nag ar lawr ffatri.  Yn ychwanegol at hynny mae globaleiddio wedi tynnu niferoedd sylweddol o bobl i'r DU a'r UDA sy'n cystadlu am waith.  Gan bod y diwydiannau 'newydd' yn tyfu dydi hyn ddim effeithio'n ormodol ar y sawl sy'n gweithio yn y rheiny, ond mae cystadleuaeth ym marchnad gwaith diwydiannau traddodiadol sydd eisoes yn crebachu, yn cael effaith sylweddol ar y bobl oedd yn gweithio yn y sectorau hynny.

Rwan yn amlwg dydi Brexit ddim am fod yn llesol i'r DU, a ni fyddai arlywyddiaeth Trump ddim yn llesol i'r UDA nag yn wir i weddill y Byd.  Ond mae yna resymeg i bobl sydd wedi dioddef oherwydd agor marchnadoedd tramor bleidleisio yn erbyn endid gwleidyddol (yr UE) sy'n hyrwyddo hynny, neu tros ymgeisydd arlywyddol sydd eisiau lleihau masnach rhyngwladol (Trump).  

Mae cefnogwyr Trump - fel cefnogwyr Brexit - yn pleidleisio yn erbyn rhywbeth sydd wedi cael effaith sylweddol ar eu bywydau.  Yr hyn nad yw'n amlwg iddynt ydi y byddai lleihau masnach dramor yn crebachu economiau'r DU a'r UDA - ac mae gen i ofn petai hynny'n digwydd mai'r union grwpiau hynny fyddai'n dioddef unwaith eto.